Neidio i'r cynnwys

Dyddanwch yr Aelwyd/Cantre'r Gwaelod

Oddi ar Wicidestun
Y Lili Dyddanwch yr Aelwyd

gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

I Gymru

CANTRE'R GWAELOD

Y wawr oedd dêg, a gwên yr haul
Yn araul ar y bryndir,
A'r defaid, gyda'r wyn di-rol,
Yn lloni dol a llwyn-dir.

Golygai'r amaeth egin chweg
Ei dyddyn teg a ffrwythlon;
A'r plant yn chwareu'u campau cu,
Neu'n casglu rhôs a meillion,

A llawer lodes deg ei gwawr
A rodiai'r glwyswawr lwybrau;
Gan wrando cainc yr adar cu,
Fal engyl fry ar gangau.

Nis gwyddent fawr fod barn yn d'od
Ar feddwdod y trigolion,
A thawai tôn pob melus dant,
Ar fyr drwy'r Gantref hylon.

Ac wele'r noson twrdd a ddaeth,
I dori'r afiaeth hwyrfryd;
Mal camrau milwyr fyrdd i'r gâd,
Neu ruad taran dromfryd.

"Ust clywch!" medd un o'r ddawns mewn braw
"Pa grochru draw sy'n canlyn"
Ond megis cyn y dylif gynt,
Dylynant lais y delyn.

Y rhai mewn cwsg, deffroant hwy,
Gan godi drwy eu harswyd:
Atebai'r gwynt a'r môr eu llef,—
Eich argae gref a ddrylliwyd!

Oer ddychryn gwrm a ddelwai,u gwedd,
Mal cyrff o fedd edrychent!
Y gwyr a'r gwragedd ffoent y'nghyd,
A'r plant o'r cryd hwy godent.


A rhuthrai'r môr o'u deutu'n rhoch
Gwnai'r glenydd croch ddofn adsain
Pob tòn, fal llew a gorwyllt guwch,
Yn glynu uwch y gelain.

Fe wylltiai'r llu yn llwm eu hynt,
Y gawrwynt a'u gwatwarai;
A gwaeddai'r gwych a llefai'r gwan,
"Fe'n boddir dan y tonau."

Ac yno'r oedd y famaeth wan
A'i baban ar ei dwyfron;
Ond ni fedd nerth na man i ffoi,
Och! rhaid ymroi i'r eigion!

Na! nis gall neb waredu'n awr
Y dorf o'u dirfawr helynt;
Na dim ond gair yr Iôr droi'n ol
Y môr a'i nerthol wrthwynt.

Y farn ofnadwy arnynt ddaeth
Mae'u hafiaeth wedi dirwyn;
Trugaredd rad na gobaith gaid
I'r diriaid ar oer derfyn.

Y boreu ddaeth fel cynt yn deg,
Glwys adeg lawer oesau;
Ond Cantre'r Gwaelod, gynt mor dlusy
Y môr sydd dros ei muriau!

Ei gerddi per i'r pysg sydd bau,
A'r llongau hael yn hwylio;
Ond morwr sar heb wybod sydd
Fod llys a threfydd dano.

O boed in , gofio mai'r un Duw
Sy'n awr yn llywio'r gwledydd,
Addolwn ef,—casawn y drwg,
Nis gyr un gwg i'n gorfydd.

GWENFFRWD


Nodiadau

[golygu]