Dyddanwch yr Aelwyd/Myfyrdod ar Lanau Conwy
← Y Cusan Ymadawol | Dyddanwch yr Aelwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam |
Diolch Plentyn i'w Dad am i Noddi → |
MYFYRDOD AR LANAU CONWY,
Ar lanau Conwy ar fy nhro,
Pan fyddwy'n rhodio ar hynt,
Ni fedraf lai na dwyn ar go',
Wrth gofio'r dyddiau gynt;
P'le mae fy hen gyfeillion llon,
A'm cyd-chwaryddion res?
Er chwilio yma amser hir,
Ni byddai'n wir ddim nes;—
Ond gwaith ffol;—
Dyddiau'n ol ni wiw eu'morol mwy,
Bu'm yno ganwaith ar fy nhro,
Yn rhodio ar ei hyd,
Pan oedd difrifwch heb fy nal,
Hebofalynybyd;
A'm cyd-gyfeillion, wiwlon wedd,
Un tuedd oeddynt hwy;—
Ffarwel yn awr i'r dyddiau gynt;
Ni welir monynt mwy:—
Ond pa les, nid wyf nes?
Nid oes dim o'u hanes mwy.
Fe ddarfu'm hen gyfeillion hael,
Fy ngadael braidd i gyd;
Mae rhai yn gorwedd dan y gwys,
Ynllwyrobwysybyd;
A'r rhai sy'n fyw, gwasgarent oll,
Ar goll i'r pedwar gwynt;
Mae hyny bron a dwyn fy ngho "
Wrth gofio'r dyddiau gynt,
Aent ar hynt fel y gwynt,
Ac ni welir mo'nynt mwy.
—PYLL, Glan Conwy.