Dyddanwch yr Aelwyd/Odlig Serch
← Pennillion a gyfansoddwyd yn Buenos Ayres | Dyddanwch yr Aelwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam |
Y Farn a Fydd → |
ODLIG SERCH.
Cyflwynedig i Rian.
Cyfliw blodau perthi gwynion,
Ydyw gwêdd fy mun lygadlon,
Claer fel caenan manod unnos,
Clain fel manwlith ar y deilios,
Deune'r breïlw, gorne'r wendon
Yw'r Forwynig bïau nghalon:
Och! na chawn yn gyflawn goflaid,
Wasgu MWYNWEN gymmen gannaid:
Yn y glaslwyn mwyn yw meinir;—
MWYNWEN yno a ddymunir.
O! mor swynol yw cusanu,
Gwefus ruddgoch mun lygeittu:
Sugno serch y ferch yn firain,
Lladryw finon, eilw lliwdrain':
Lleddir fi gan fanon feinäel;
Mud i'm ydyw—rhaid ymadael.
MWYNWEN irwen lawen liwus
Clyw fi'n erfyn—r'wyf yn glwyfus :
Dyro gusan fungan fwyngu,
Gwisg diriondeb, tyr'd i'm gwasgu,
Dan y fedwen fonwen fanwallt,
Dal fy mhen yn llwyni'r wenallt;
Moes i'm gusan, ddynan ddenol,
Ing fy enaid sydd angeuol.
Cyn fy mêdd, O clyw fy ngweddi,
"Cyn i'm calon dirion dorri;—
Ust! rho yma'th glust i wrando,
Dir lliw'r hinon, y mae'n dryllio.
Gwrando, clyw y syw fun swynol,
Rho dy wên i'r dyn awenol:
Croenllefn ydyw, fel y crinllys
Ei glwys wenau,"-medd GLASYNYS.