Dyddanwch yr Aelwyd/Y Dderwen
← O Gollwng Fi | Dyddanwch yr Aelwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam |
Y Messia → |
Y DDERWEN.
Cydganwn fwyn gerdd i'r dderwen gref werdd,
Brenhines gauadfrig y coed;
Boed iechyd a bri i'w choryn gwyrdd hi,
A boed fel y bu er erioed :
Bydd gwg ar ei hael* ar fachludiad yr haul, *Ael (brus'
Pan fo'i lewyrch yn gadael ei brig;
Hiddengys ei nerth pan fo stormydd certh
Yn chwiban drwy'i cheingciau yn ddig.
Cydganwn yn fwyn i frenhines y llwyn
Ei hail yn y glaslwyn nid oes;
Boed iechyd a bri i'w choryn gwyrdd hi
A channoedd o flwyddi i'w hoes.
Yn yr amser gynt, pan f'ai dail gan wynt
Yn suo rhyw dyner dôn,
Y byddai, medd beirdd, lodesi heirdd
Yn chwarae o gwmpas ei bôn:
Oddydd i ddydd â chalon rydd
Y dawnsient yn llaw a llaw;
Pa le mae y rhain? Mae pob geneth gain
Yn huno yn y fonwent draw.
Cydganwn yn fwyn, &c.
Hi welodd hoyw hynt yr hên bobl gynt
Yn hwylio pob helynt yn hael,
Pau f'ai telyn a chrwth yn mhob palas a bwth,
A chroesaw i'r gwych a'r gwael;
Ond arian yn awr yw'r fwyn ddelw fawr
Addolir gan bawb yn y byd;
Ond yfwn âg un llefi'r hên dderwen gref,
Ei grymusder, ei phrafider, a'i phryd.
Cydganwn yn fwyn, &c.
—TALHAIARN.