Dyddanwch yr Aelwyd/Y Deryn Pur
Gwedd
← Kathleen F'anwylyd | Dyddanwch yr Aelwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam |
O Gollwng Fi → |
"Y DERYN PUR."
Y 'Deryn pur a'i aden lâs
Bydd imi was dibryder
O! brysur frysia at y ferch
Lle rhoes i'm serch yn gynnar
Dos ti atti, a dywed wrthi,
Fy mot i'n wylo'r dŵr du heli-
'Mod i'n irad am gael ei gweled,
Ac o'i chariad yn ffaelu a cherdded
O! Duw faddeuo'r hardd ei llun,
Am boeni dyn mor galed.
Pan o'wn i'n hoenus iawn fy hwyl,
Ar ddiwrnod gŵyl yn rhodio,
Canfyddais lodes lana' 'rioed
Ar ysgafn droed yn troedio
Pan y'i gwelais-syth mi sefais
Ac yn fy nghalon mi feddyliais
Dacw'r ddynes lana'r deyrnas
A'i gwedd yn harddu'r oll o'i chwmpas
Ni fyn'swn gredu un dyn byw,
Nad oedd hi ryw Angyles.
MISS WILLIAMS, ÅBERPERGWM.