Neidio i'r cynnwys

Dyddanwch yr Aelwyd/Y Diogyn

Oddi ar Wicidestun
Y Llong a gollwyd Dyddanwch yr Aelwyd

gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Fy Nagrau'n Lli

Y DIOGYN.

UN bore lled wlybyrog,
Ynghanol gwanwyn gwyntog,
Dygwyddod imi'n ddigon hy'
Fyn'd heibio i dŷ'r gwr diog.

 'Roedd nifer o dda corniog
Yn pori 'r egin brigog;
Yn nen y tŷ'r oedd tyllau gant
A'r wraig a'r plant yn garpiog.

Yr oedd gerllaw segurddyn
Mewn gwely'n troi ar golyn;
Ni wnai efe orchwyl yn y byd
Ond diogi hyd y flwyddyn.

Ni thrwsiai ef mo'r bwthyn,
Pan ydoedd gwlaw yn disgyn;
Ac nid oedd eisiau gryfder gwres
Ysmala, ar hauldes melyn.
 
"Ychydig gwsg a hepian
Cyn myned unwaith allan:"
Hyn oedd ei iaith o bryd i bryd
Yn ynfyd yn ei unfan.

Tra bu y gŵr yn cysgu
Segurud oedd yn garu;
Daeth angen ato ar ei daith
A chanfu ei waith ar fethu.


O herwydd caru'r gwely
Daeth angen glas i'w letty
Y meistr tir yn gwaeddi'n gry—
Dim bwyd mewn tŷ na beudy!

'Roedd dôr y carchar caled
I'r gŵr yn gil agored;
Ni chai mo'r cariad mwy nâ'r ci
Rhwng muriau diymwared.

Mae'r carchar cadarn cryno
Yn ddigon hawdd myn'd iddo;
Ond anhawdd iawn heb aur mewn côd
I ddyn yw d'od oddiyno.
 
A galar ydyw gweled
Y gŵr mewn cyflwr caled;
Trueni gwel'd y llymddyn llywd
Cyn marw yn fwyd i bryfed.

Ni fedraf ddim prophwydo
Pa beth a ddaw o hono:
Ond cyn y delo i rodio'n rhydd
Byd caled fydd rwy'n coelio!

—D. DDU ERYRI.


Nodiadau

[golygu]