Neidio i'r cynnwys

Dyddanwch yr Aelwyd/Y Fenyw Dwylledig

Oddi ar Wicidestun
Myfyrdod wrth wrando ar y Fronfaith yn canu Dyddanwch yr Aelwyd

gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Cerdd Ffarwel Caerludd

Y FENYW DWYLLEDIG.

Y gwynt un noswaith chwythai'n llym,——
Yn drwm disgynai'r gwlaw;
Och'neidiai'r crinion goed yn drist,
Tra heibio'r aeth mewn braw
Rhyw fenyw gyda mynwes flin
Hi ruthrai drwy yr erchyll hin.

Ei gwyneb ieuanc teg a hardd,
Nid ydyw megis cynt;
Y prydferth wallt fu'n ofal mam,
Ymddrysodd yn y gwynt;
Ei dirgel feiau nos a dydd,
Sy'n creulon rwygo'i mynwes brudd.

Ni fedd ei llygaid ddeigryn mwy.
Ymwylltiant yn ei phen;
Ei heuog drem ddyrchafa fry
I'r dywell wgus nen;
A thaer erfynia ar y mellt
I rwygo'i phabell wan yn ddellt.

Yn ddigllawn syllai'r awyr wyllt
Ar adfyd hon islaw,
A'r mellt ddirmygai'igweddi daer
Ymsaethent ym' a thraw;
A taliai'r gwlaw—distawai'r gwynt,
A'r sêr ddoent allan ar eu hynt.


"Ai dyfod ddarfu chwi O! sêr
I syllu arnaf fi;
Encilio wnes mewn gwarth o'r dref—
Amddifad wyf o'm bri;
O'r gwawd a'r dirmyg imi sydd!
Pwy all ddarlunio'm gofid cudd.

Eis heibio i dy'r twyllodrus un
A wnaeth fy mron mor ddu;
Edrychais drwy y ffenestr wych,
A'r tân oleuai'r ty;
Ac yntau'n llon uwchben ei win.
A minau'n dyodde'r tywydd blin.

O'm hôl ar yr auafol nos,
Pelydrai goleu'r dref,
O'm blaen mae llewyrch oer y sêr
Fel llygaid engyl nef;
P'le ffo'f? mae'r nef a'r ddae'r ynghyd,
Yn tremio arnaf fi o hyd.

'Rwy'n adwaen llyn, gwn fod e'n ddwfn,
Dan gysgod helyg lwyn;
Lle gynt yn blentyn, ganwaith bum
Yn plethu'r chwyn a'r brwyn;
Ychydig dybiais y pryd hyn
Mae'm bedd ryw dro a fyddai'r llyn."

Ar ffrwst cyfeiriai tua'r fan,
Ond, ebrwydd safai'n syn;
Nis gallai ddirnad modd y daeth

Y sêr o'i blaen i'r llyn;
Ei chalon dôdd—dyrchafai , i chri—
"O! Arglwydd Iesu cadw fi."

—RHYDWEN.


Nodiadau

[golygu]