Dyddanwch yr Aelwyd/Y Llafurwr Tlawd
Gwedd
← Y Messia | Dyddanwch yr Aelwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam |
Y Tri Rhybudd → |
Y LLAFURWR TLAWD.
Mae y gwr yn ymguraw,
A'i dylwyth yn wyth neu naw;
Dan oer rhin yn dwyn y rhaw,—mewn trymwaith
Bu ganwaith heb giniaw.
Aml y mae yn teimlo min
Yr awel ar ei ewin;
A llwm yn ei gotwm, gwel,
Durfing i'w waed yw oerfel:
Noswylio yn iselaidd,
A'i fynwes yn bres oer, braidd.
Ba helynt cael ei blant cu,
Oll agos a llewygu?
Dwyn ei geiniog dan gwynaw,
Rhoi angen un rhwng y naw!
Edrych yn y drych hwn dro,
Gyr galon graig i wylo;
Pob cell a llogell egyr,
A chloiau dorau a dyr.
—DEWI WYN.