Dyddanwch yr Aelwyd/Y ddau Blentyn Amddifad
← Y Mor Coch | Dyddanwch yr Aelwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam |
Can Gwraig y Pysgodwr → |
Y DDAU BLENTYN AMDDIFAD.
Fy ngherbyd safai, ar fy nhaith,
Unwaith wrth westty bychan,
Pan oedd gwên oleu'r heulwen glaer
Yn euro caer y dreflan.
Wrth weled pawb o'm cylch â'u bryd
Ar dawel gyd-noswylio,
Aethum i gladdfa oedd gerllaw
I ddistaw ddwys fyfyrio.
Dan briddell las, y tlawd yn llon
Ro'i hun i'w fron glwyfedig;
Ond meini cerf o farmor trwch
A guddient lwch pendefig.
Wrth fedd, dan gysgod ywen grin,
Dau blentyn oedd yn wylo,
Mewn ing a hiraeth ar y pridd,
Lle'r oedd eu mam yn huno.
Er fod y ddau mewn newyn mawr,
Ar lawr 'roedd darn o fara;
Edrychent arno weithiau'n syn,
Er hyn ni wnaent ei fwyta.
"Fy anwyl blant! gwnewch ddweyd i mi
Pam 'rych chwi mewn cyfyngder,
Ac yn gwastraffu'r bwyd eich dau,
A chwithau mewn fath brinder?"
Atebai'r bach, mewn gwylaidd dôn,
A'i heilltion ddagrau'n llifo,—
"Yn wir yr ym mewn eisiau llym,
Heb ddim i'w ofer-dreulio.
"Troi'n eneth ddrwg mae Mair fy chwaer,
'Rwy'n daer am iddi fwyta;
Ni chafodd damaid heddyw'n wir,
A dir, hi bia'r bara."
Nis bwytâf mwy," atebai hi,
"Nes bwyto Henri dipyn;
Mi gefais i beth bara ddoe,
Ond echdoe cad ef fymryn."
Ar hyn fe deimlwn dan fy mron
Y galon lesg yn gwaedu;
Eisteddais rhyngddynt ar y bedd
I geisio'u hymgeleddu.
Yn dirion gwesgais ddwylaw'r ddau,
Oedd fel y clai gan oerder;
A'r bachgen llwydaidd ataf drodd,
I adrodd eu cyfyngder.
Ein tŷ oedd wrth y dderwen draw,
Gerllaw y dolydd gwyrddion,
Lle'r oeddym gynt yn chwareu o hyd
Yn hyfryd a chariadlon.
Un tro, pan oeddym oll yn llon,
Daeth dynion creulon heibio,
I fynd â'n tad i'r môr i ffwrdd;
Ni chawn mwy gwrdd mohono.
Ni wnaeth ein mam, byth ar ôl hyn,
Ond wylo'n syn a chwynfan,
Gan ddistaw ddweyd, yn brudd ei gwedd,
Yr â'r i'r bedd yn fuan.
Un hwyr, pan ar ei gwely'n wan,
A'i hegwan lais crynedig
Galwodd ni'n dau, mewn tyner fodd,
A d'wedodd yn garedig,—
'Fy anwyl blant! Na wylwch chwi,
Gwnewch dyner garu'ch gilydd:
Dichon daw'ch tad yn ol yn glau,
I'ch gwneyd eich dau yn ddedwydd.
'Ond os na ddychwel byth eich tad,
Cewch Dduw yn Geidwad tyner;
Mae Ef i bob amddifad tlawd
Yn Dad a Brawd bob amser.'
Yna, ar ol ymdrechu'n gu
I sychu'n dagrau chwerw,
Cusanodd ni, wrth droi'i phen draw,
Gan godi'i llaw a marw.
Ein hanwyl fam ni chawn byth mwy
I'n harwain trwy ofidiau;
Ac ofni'r ym, mewn dirfawr fraw,
Na ddaw ein tad byth adre',
Er wylo yma lawer dydd
Mewn hiraeth prudd am dano,
Ac edrych draw a welem neb
Yn dod—yn debyg iddo;
Er clywed fod y môr yn mhell,
Tybiem mai gwell oedd myned,—
Os gallem gyrraedd yno'n dau,
Y caem yn glau ei weled.
Dan wylo aethom, law yn llaw,
Trwy wynt a gwlaw a lludded,
Gan droi yn wylaidd i bob ty
I holi'r ffordd wrth fyned.
Gwnai rhai, dan wenu, ymaith droi,
Heb roi i ni ddim cymorth;
Och'neidiai'r lleill wrth wrando'n cwyn,
Gan roddi'n fwyn in ymborth.
Ond erbyn gweld y môr mawr draw,
Gwnaeth dirfawr fraw ein llenwi;
Ac ofni'r ydym fod ein tad
Anwylfad wedi boddi.
Ar fedd ein mam 'rym 'nawr o hyd,
Mewn ing a gofid chwerw,
A hiraeth dwys am fod ein dau,
Fel hithau, wedi marw.
A wyddoch chwi ddim p'le mae'n byw
Y Duw sy'n Dad amddifaid?
Pe gallem ni ryw fodd Ei gael,
Mae Ef yn hael wrth weiniaid.
Dywedodd mam mai yn y nef
Yr ydoedd Ef yn trigo:—
A d'wedodd llawer wrthym ni,
Heb os, ei bod hi yno.
Ac os yw mam 'nawr yno'n byw,
Hi dd'wed wrth Dduw am danom;
A disgwyl 'r ym y llwydda hi
Cyn hir i'w yrru atom.
Gwnaeth hyn im' hoff gofleidio'r ddau,
A sychu'u gruddiau llwydion,
A dweyd,—Fel mam, gofalaf fi
I'ch ymgeleddu'n dirion.
Na wylwch mwy! Dewch gyda mi,
Rhof ichwi fwyd a dillad,
A dysg, a thŷ, a modd i fyw,
A chewch Dduw'n Dad a Cheidwad.
Efe yn fwyn a'm gyrrodd i
I ddweyd i chwi Ei 'wyllys:
A diwedd pawb a'i carant Ef,
Yw mynd i'r nef i orffwys.
—PARCH. S. ROBERTS.