Dyddanwch yr Aelwyd/Yr Amddifad
Gwedd
← Fy Nagrau'n Lli | Dyddanwch yr Aelwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam |
Y Wlad sydd Well → |
YR AMDDIFAD
A'M deigryn ar fy ngrudd
Wyf ar fy ngliniau,
Yn ocheneidio'n brudd
Bob hwyr a borau,
Yn unig ar fy hynt
Heb riant tyner;
Yn cwyno gyd a'r gwynt
Er hyny'n ofer.
Ni welaf byth fy Mam,
Mae wedi marw;
Na Thad i arbed cam,
Mewn bedd mae hwnw:
Mae rhyngof fi a hwy
Y wleb ddaearen—
A wylo bydddaf mwy
Ar y dywarchen.
Cyd-chwardded beilchion byd,
Ceir fi yn wylo
Ty walltaf ddagrau drud
A'm gruddiau'n llifo:
Fy Nhad a'm hanwyl Fam,
Ni thosturiant—
Fy nghadw rhag un cam
Byth ni allant.
CADWALDAR, BRYMBO.