Neidio i'r cynnwys

Dyddanwch yr Aelwyd/Yr Anthem Wladol

Oddi ar Wicidestun
Yn foreu tyr'd i'r Ysgol Sul Dyddanwch yr Aelwyd

gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

YR ANTHEM WLADOL.

O Dduw! ein Harglwydd da,
Cadw VICTORIA;
Duw cadw hi:
Bydd iddi'n dyner Dad,
Er lles a llwydd ein gwlad,
Rhag y derfysgawl gâd,
Duw cadw hi.
 
A’th ddwyfol waew ffon
Chwâl ei gelynion,
Na chlyw eu cri:
Alltudia'n chwyrn o'n gwlad
Bob terfysg, llid , a brad;
Ein trugaroccaf Dad,
Duw cadw hi.
 
Teyrnased hon yn hir
I gynnal deddfau'n tir,
Duw cadw hi:
Dod iddi ras a dawn,
A gwir ddoethineb llawn,
I lywodraethu'n iawn—;
Duw cadw hi.
TALHAIARN.


Nodiadau

[golygu]