Dyddanwch yr Aelwyd/Yr Ynys Wen
← Cyfarchiad i Wenol gyntaf | Dyddanwch yr Aelwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam |
Y Friallen Fathredig → |
YR YNYS WEN
Hwyrol gysgod, aros ennyd,
Ein hunig lestr gâd heb lèn,
Pan ddaw bore ni chaf hyfryd
Wel'd fy anwyl Ynys wèn:—
Dych'mygaf wel'd rhyw heulog lanerch
Trig Cyfeillion, fawr a bach
Ond wele'r nôs, er maint fy nhraserch,
I'r Ynys wèn rhaid canu'n iach.
Wele'n awr wynebau dedwydd,
Chwarddant hwy o ddeutu'r tân,
Pwy a leinw le y Prydydd?
Ein Cerddi llawen pwy a'u cân?
Trwy y chwa eheda drosom
Clywaf swn yr hwyrol gloch,
Fel rhyw lais fai'n gwaeddi erom
"Gyfeillion hoff, yn iâch y b'och."
Pan bo'r tònau 'n tori o'm deutu,
Pan bwy'n rhodio'r bwrdd fy hun,
Ofer yw i'r llygad dremu,—
Deilen werdd ni welaf un:
Beth a roddwn am gael ymdaith
Gwlad Cyfeillion fawr a bach?
Dwymna fynwes pan fwy'n ymdaith;
I'r Ynys wèn rhaid canu'n iach.