Neidio i'r cynnwys

Dyma Feibil annwyl Iesu

Oddi ar Wicidestun
Mae dy air yn abl i'm harwain Dyma Feibil annwyl Iesu

gan Anhysbys

Mae'r iechydwriaeth rad
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
William Morgan yn cyflwyno ei gyfieithiad Cymraeg o'r Beibl

284[1] Y Beibl.
87. 87. D.

DYMA Feibil annwyl Iesu,
Dyma rodd deheulaw Duw;
Dengys hwn y ffordd i farw,
Dengys hwn y ffordd i fyw;

Dengys hwn y golled erchyll
Gafwyd draw yn Eden drist;
Dengys hwn y ffordd i'r bywyd,
Trwy adnabod Iesu Grist.

Casgliad. T.Owen, Llanfyllin


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 284, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930