Dyma Gariad Fel y Moroedd

Oddi ar Wicidestun

Emyn gan Gwilym Hiraethog (1802-1883) yw Dyma gariad fel y moroedd fei cenir fel arfer i'r dôn Ebeneser (Tôn y Botel). Mae'n emyn rhif 205 yn y llyfr emynau rhyng-enwadol Caneuon Ffydd

Dyma gariad fel y moroedd,
Tosturiaethau fel y lli;
T’wysog Bywyd pur yn marw,
Marw i brynu’n bywyd ni;
Pwy all beidio â chofio amdano?
Pwy all beidio â chanu’r glod?
Dyma gariad na â’n angof
Tra bo nefoedd wen yn bod.

Ar Galfaria yr ymrwygodd
Holl ffynhonnau’r dyfnder mawr;
Torrodd holl argaeau’r nefoedd
Oedd yn gyfan hyd yn awr;
Gras a chariad megis dilyw
Yn ymdywallt yma ’nghyd,
A chyfiawnder pur a heddwch
Yn cusanu euog fyd.