Dyma babell y cyfarfod

Oddi ar Wicidestun
gan Ann Griffiths
Dyma babell y cyfarfod,
Dyma gymod yn y gwaed,
Dyma noddfa i lofruddion,
Dyma i gleifion feddyg rhad;
Dyma fan yn ymyl Duwdod
I bechadur wneud ei nyth,
A chyfiawnder pur Jehofa
Yn siriol wenu arno byth.


Pechadur aflan yw fy enw,
O ba rai y penna'n fyw;
Rhyfeddaf fyth, fe drefnwyd pabell
Im gael yn dawel gwrdd â Duw:
Yno y mae yn llond ei gyfraith
I'r troseddwr yn rhoi gwledd;
Duw a dyn yn gweiddi ‘Digon!'
Yn yr Iesu, 'r aberth hedd.


Myfi a anturiaf yno yn eon,
Teyrnwialen aur sydd yn ei law,
A hon a'i senter at bechadur,
Llwyr dderbyniad pawb a ddaw;
Af ymlaen dan weiddi "Maddau!"
Af a syrthiaf wrth ei draed,
Am faddeuant, am fy ngolchi,
Am fy nghannu yn ei waed.


O! am ddyfod o'r anialwch
I fyny fel colofnau mwg
Yn uniongyrchol at ei orsedd,
Mae yno'n eistedd heb ei wg:
Amen diddechrau a diddiwedd,
Tyst ffyddlon yw, a'i air yn un;
Amlygu y mae ogoniant Trindod
Yn achubiaeth damniol ddyn.

Tarddiadau[golygu]