Dywed i mi pa ddyn a drig
Gwedd
Mae Dywed i mi pa ddyn a drig yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)
Dywed i mi pa ddyn a drig
I'th lys parchedig, Arglwydd;
A phwy a erys ac a fydd
Yn mynydd dy sancteiddrwydd?
Yr hwn a rodia 'n berffaith dda,
Yr hwn a wna gyfiawnder,
A'r hwn a draetha o'i galon wir,
A drig ar dir uchelder.
Yr hwn sydd isel yn ei fryd,
Yn caru ei gyd-Grist'nogion;
Yr hwn sy'n ofni'r Arglwydd Dduw,
Ac sydd yn byw yn ffyddlon;
Na gwobr, na rhodd, yr hwn ni fyn,
Er dal yn erbyn gwirion;
A wnelo hyn ni lithra fyth,
Fe gaiff y ddi-lyth goron.