Efengyl tangnefedd, O rhed dros y byd

Oddi ar Wicidestun

Mae Efengyl tangnefedd, O rhed dros y byd yn emyn gan Eliseus Williams (Eifion Wyn). Mae'n emyn rhif 844 yn y llyfr emynau rhyng-enwadol Caneuon Ffydd.

Efengyl tangnefedd, O rhed dros y byd,
a deled y bobloedd i’th lewyrch i gyd;
na foed neb heb wybod am gariad y groes,
a brodyr i’w gilydd fo dynion pob oes.

Sancteiddier y ddaear gan Ysbryd y ne';
boed Iesu yn Frenin, a neb ond efe:
y tywysogaethau mewn hedd wrth ei draed
a phawb yn ddiogel dan arwydd ei waed.

Efengyl tangnefedd, dos rhagot yn awr,
a doed dy gyfiawnder o’r nefoedd i lawr,
fel na byddo mwyach na dial na phoen
na chariad at ryfel, ond rhyfel yr Oen.