Ein Tad

Oddi ar Wicidestun
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Gweddi'r Arglwydd yn Gymraeg[golygu]

Cyfieithiad 1588[golygu]

Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd,
Sancteiddier dy enw.
Deled dy deyrnas.
Gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol.
A maddau i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr.
Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drwg.
Canys eiddot ti yw'r deyrnas, a'r nerth, a'r gogoniant, yn oes oesoedd. Amen.

Cyfieithiad 1988[golygu]

Ein Tad yn y nefoedd,
sancteiddier dy enw;
deled dy deyrnas;
gwneler dy ewyllys,
ar y ddaear fel yn y nef.
Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol;
a maddau inni ein troseddau,
fel yr ŷm ni wedi maddau i'r rhai a droseddodd yn ein herbyn;
a phaid â'n dwyn i brawf,
ond gwared ni rhag yr Un drwg.
[Oherwydd eiddot ti yw'r deyrnas a'r gallu a'r gogoniant am byth. Amen.]

Cyfieithiad beibl.net 2015[golygu]

Ein Tad sydd yn y nefoedd,
dŷn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu.
Dŷn ni eisiau i ti ddod i deyrnasu,
ac i'r cwbl sy'n dda yn dy olwg di
ddigwydd yma ar y ddaear fel mae'n digwydd yn y nefoedd.
Rho i ni ddigon o fwyd i'n cadw ni'n fyw am heddiw.
Maddau i ni am bob dyled i ti
yn union fel dŷn ni'n maddau
i'r rhai sydd mewn dyled i ni.
Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn ni'n cael ein profi,
ac achub ni o afael y drwg.’
[Achos ti sy'n teyrnasu, ti sydd â'r grym a'r gogoniant am byth, Amen.]