Englynion Goffa Hedd Wyn
Gwedd
Y bardd trwm dan bridd dramor, - y ddwylaw
Na ddidolir rhagor:
Y llygaid dwys dan ddwys ddôr,
Y llygaid na all agor!
Wedi ei fyw y mae dy fywyd, - dy rawd
Wedi ei rhedeg hefyd:
Daeth awr i fynd i'th weryd,
A daeth i ben deithio byd.
Tyner yw'r lleuad heno - tros fawnog
Trawsfynydd yn dringo:
Tithau'n drist a than dy rô
Ger y ffos ddu'n gorffwyso.
Trawsfynydd! Tros ei feini - trafeiliaist
Ar foelydd Eryri:
Troedio wnest ei rhedyn hi,
Hunaist ymhell ohoni.