Enwau (Mynyddog)
Gwedd
- Mi ganaf gân mewn cywair llon,
- Os gwrendy pawb yr un,
- Rhyw gân ar enwau ydyw hon,
- Ond heb gael enw ei hun;
- Mae rhai’n rhoi enwau mawrion, hir,
- Ar hogiau bychain, mân,
- Ond dyma’r enwau sy’n mhob sir
- Trwy Gymru yw Sion a Sian,—
- Sian Jones, &c.
- Trwy Gymru yw Sion a Sian,—
- Mae’r Sais yn chwerthin am ein pen
- Fod Taffy i’r back bones,
- Am alw plant hen Gymru wen
- Yn John a Jenny Jones;
- Mae Smith a Brown a John a Jane
- Yn Lloegr bron mor llawn,
- Ac O! mae enwau’r Saeson glân
- Ag ystyr ryfedd iawn.
- ’Roedd Mr. Woodside gynt yn byw
- Yn High Street Number Ten,
- Cyfieithwch hynny i’r Gymraeg
- Mae’n Meistar Ochor Pren;
- ’Roedd Squiar Woodall gynt yn byw
- Ym mhalas Glan y Rhyd,
- Os trowch chwi hynny i’r Gymraeg,
- Mae’n Sgwiar Pren i Gyd.
- ’Dwy’n hoffi dim o’r arfer hon
- A geir yng Nghymru iach,
- Rhoi’r taid yn Sion a’r tad yn John,
- A’r ŵyr yn Johnny bach;
- A galw mam y wraig yn Sian,
- A’r wraig yn Jeanny ni,
- A galw’r wyres fechan, lân,
- Yn Jeanny No. 3.
- Sian Jones, &c.
- Yn Jeanny No. 3.
Chwef 10, 1874.