Enwogion Ceredigion/Angharad ferch Meredydd
Gwedd
← Angharad ferch Meurig | Enwogion Ceredigion Bywgraffiadau gan Benjamin Williams Bywgraffiadau |
Arnothen, Brenin Aberteifi → |
ANGHARAD, ferch Meredydd. Yr oedd Meredydd, tad Angharad, yn fab i Owain ab Hywel Dda, Tywysog Ceredigion. Nid oes digon o sicrwydd pa un ai yn Aberteifi neu ynte yn Ninefwr y ganwyd yr etifeddes; ond gan fod y ddau enw yn cael eu coffa fel y gwelir yn ewyllys Hywel Dda, sef fod Owain ei thad yn Frenin Ceredigion, cymmerwn yn debyg mai yng Ngheredigion y dechreuodd ei hoes. Priododd Angharad â Llywelyn ab Seisyllt, pan nad oedd ond pedair ar ddeg oed; ac ar ol marwolaeth Llywelyn yn y flwyddyn 1021, hi a briododd Cynfyn ab Gwerystan, Arglwydd Cibwyr, yng Ngwent, ab Gweithfoed ab Gloddion ab Gwrydr Hir ab Caradawg. Mab Llywelyn ab Seisyllt ac Angharad ydoedd y tywysog call Gruffydd ab Llywelyn.