Enwogion Ceredigion/Cadifor ab Dinawol

Oddi ar Wicidestun
Brython, Tywysog Ceredigion Enwogion Ceredigion
Bywgraffiadau
gan Benjamin Williams

Bywgraffiadau
Cadifor, Abad Ystrad Fflur

CADIFOR AB DINAWOL ydoedd yn hanu o Idwal (neu Tudwal) Gloff ab Rhodri Mawr, ac yn orwyr i Asser o Dy Ddewi, neu Asser Menevensis, un o ddysgedigion penaf Cymru yn y cynoesoedd. Daeth Cadifor yn enwog fel rhyfelwr o dan Rhys ab Gruffydd, Tywysog y Deheudir, neu fel y galwai y Seison ef, "Lord Rees." Yr oedd Cadifor hefyd yn gefnder i'r tywysog. Yr un o'r amser- oedd mwyaf dychrynllyd, ond eto yn ogoneddus, pan gasglodd Harri II., Brenin Lloegr, holl bigion milwyr ei deymas, yn gystal ag o Normandi, Fflanders, Angyw, Gwasgwyn, Guien, a'r Alban, ar gyfer llwyr ddyfetha cenedl y Cymry, a'u dilëu o'r wlad, yr oedd y brenin yn gwersllu yn agos i Groes Oswallt. Ar yr adeg ofnadwy hon, ymunodd y Cymry yn well nag erioed. Owain Gwynedd, a'i frawd Cadwaladr, Rhys ab Gruffydd, Owain Cyfeiliawg, a lorwerth Goch, a meibion Madawg ab Idnerth, a aethant i'w erbyn i ardal Corwen. Y brenin wrth weled yr undeb gogoneddus hwn, a giliodd i fynydd Berwyn; ac yno cafodd ei warchae mor galed gan y Cymry, a chan ystormydd o wlaw a tharanau, a orfu encilio gyda gwarth a cholled i Loegr. Ar ol dychwelyd, cyflawnodd un o'r gweithredoedd mwyaf dieflig a geir nemawr mewn hanes, sef dilygeidio Cadwallawn a Chynfrig, dau fab Owain Gwynedd, a Meredydd, mab yr Arglwydd Rhys, ac ereill Yn yr amser ofnadwy hwn, daeth Cadifor ab Dinawol i enwogrwydd. Yr oedd yn bresennol yn y frwydr hono ger y Berwyn; ac wedi dychwelyd i'r Deheudir, ymosododd, o dan ei dywysog a'i gefnder, ar Gastell Aberteifi, yr hwn ydoedd wedi ei drawsfeddiannu gan y Normaniaid a'r Fflandrysiaid, ac a'i cymmerodd. Ar ol yr orchest hon, cafodd ei greu gan ei dywysog yn Arglwydd Castell Hywel, Pantstreimon, a'r Gilfach Wen; a chafodd Cathrin, merch y tywysog, yn wraig. Ar ol hyn, cartrefodd yng Nghastell Hywel, ym mhlwyf Llandyssul. Yn sefydliad Cadifor ab Dinawol yng Nghastell Hywel, yr ydym yn cael planiad un o'r coedydd achyddol mwyaf cangenog yng Ngheredigion, os nid yn Neheudir Cymru. Oddi yma yr hanodd teuluoedd y Llwydiaid braidd uwch law cyfrif; megys Gallt yr Odyn, Pantstreimon, Gilfach Wen, Ffoshelyg, Dyffryn Llynod, Ffosesgob, Gwernmacwy, Llanllŷr, Llanfechan, Mynydd Hywel, Maes y Felin, Ffynnon Bedr, Crynfryn, Bronwydd, Berllan Dywell, yng nghyd â'u holl gyssylltiadau dros yr holl wlad. Mewn hen ysgriflyfr yng Ngallt yr Odyn, ceir y traethiad a ganlyn am Gadifor :—

"Cadifor ab Dinawol, a man of great valour and couduct, had taken the castle of Cardigan from the Earl of Clare, and the Flemings, by scalado, was honoured by his prince, who was also his fìrst cousin (viz., the great Lord Rhys, Prince of South Wales), for that service with these arms (viz.), — sable, a spear's head embrued between three scaling-ladders argent, on a chief gules a castle triple-towered of the seeond. He was also rewarded with divers territories, and entitled Lord of Castell Hywel, Pantstreimon, and Gilfach Wen, in the parísh of Llandyssul, in the county of Cardigan; he married Catherin, daughter of the said Lord Rhys."

Fel y sylwa Syr S. R. Meyrick, y mae yn debyg fod y nodiad uchod wedi ei ysgrifenu yn ddiweddarach nag amser Cadifor; ond y mae yn amlwg mai ei gyfieithu o ryw ysgriflyfr Cymreig a wnawd. Yn yr amser y cymmerodd Cadifor Castell Aberteifì, yr oedd yn gadarn aruthrol, yn "Redan" y wlad, ac yn allwedd y Deheudir. Fel hyn, teg y gwnaeth y tywysog gydnabod y rhyfelwr gwrol mor anrhydeddus; ac nid rhyfedd fod y teuluoedd lluosog ar hyd y wlad yn ymffrostio yn eu pen-cenedl anrhydeddus. Cawn yn y gwaith hwn grybwyll yn aml am ddisgynyddion Cadifor; ond y mae yn gweddu i draethu yn y fan hon, i Ifor ab Cadifor ab Gweithfoed briodi Lleuci, merch Cadifor ab Dinawol, ac i Phylyb ab Ifor briodi Catherin, merch Llywelyn ab Gruffydd, yr olaf o dywysogion Cymru, Bu iddymt ferch, o'r enw Elen Goch, yr hon a briododd â Thomas ab Llywelyn, o Ddinefwr. Priododd Marged â Thudur ab Gronwy, o Ben Mynydd Mon; ac Elinor a briododd â Gruffydd Fychan, Glyndyfrdwy; ao o deulu Pen Mynydd Mon yr hanodd teulu breninol Lloegr; ac o Lyndyfrdwy yr hanodd y gwrol Owain Glyndwr. Yr oedd y boneddigion a grybwyllasom, y Mri. Bowen, o Waenifor, yn hanu mewn dwy ffordd o Gadifor ab Dinawol