Enwogion Ceredigion/Cadwgan ab Bleddyn

Oddi ar Wicidestun
Cadifor ab Gweithfoed Enwogion Ceredigion
Bywgraffiadau
gan Benjamin Williams

Bywgraffiadau
Cadwgan ab Meredydd

CADWGAN AB BLEDDYN ydoedd fab Bleddyn ab Cynfyn o Bowys. Nid ydyw yn eithaf sicr mai yng Ngheredigion y ganwyd y tywysog, er y gallasai hyny fod, ond gan iddo chwareu rhan mor bwysig fel Tywysog Ceredigìon, y mae yn rhesymol ei osod i mewn yma. Yn ol llyfrau yr achau, y mae yn ymddangos fod hawl etifeddol ganddo yng Ngheredigion. Yr ydym wedi traethu yn barod am Angharad, ferch Meredydd, Tywysog y Deheudir. Er mwyn dangos hyny, ni a godwn y dernyn canlynol : —

"Brodyr unfam y tywysawg a las, sef Gruffydd ab Llywelyn, a gawsant Wynedd a Phowys, nid amgen Bleddyn ab Cynfyn ab Gwerystan, Arglwydd Cibwyr, a Rhiwallon ei frawd, hwy a ddoded yn dywysogion Gwynedd a Phowys ym mraint etifeddion tywysogion Dinefwr, o Gadell ab Rhodri Mawr. Sef etifeddes y dywysogaeth hòno ydoedd Yngharad, ferch Meredydd ab Owain ab Hywel Dda, a fu wraig briod Llywelyn ab Seisyllt; a gwedi lladd Llywelyn, hi a briodes Cynfyn ab Gweryetan, Arglwydd Cibwyr yng Ngwent, ab Gweithfoed ab Gloddion ab Gwrydr Hir ab Caradawg ab Llew Llawddeawg ab Ednyfed ab Gwinau ab Gwaenoc Goch ab Cnydion," &c.

"A'r brodyr hyn, sef Bleddyn a Rhiwallawn, a ddygasant deyrnedd gwlad Bowys o wehelyth Brochwel Ysgythrawc, peth nîd oedd iawn ei fod." ( Hanes Cymru gan Carnhuanawc, tud. 443.)


Y mae y dyfyniad uchod yn taflu goleuni ar y cyssylltiad perthynasol a feddai Cadwgan ab Bleddyn â Cheredigion, sef ei fod yn ŵyr i'r Dywysoges Angharad. Dilynodd Cadwgan ei dad yn yr etifeddiaeth yn y flwyddyn 1079. Yn y flwyddyn 1094, efe a orchfygodd y Normaniaid yng Ngheredigion; ac mewn ail frwydr, fyddin o'r un bobl, y rhai oeddynt yn trawsfeddiannu rhan o Ogledd Cymru; ac efe a gymmerodd ac a ysbeiliodd Henfffordd, Amwythig, a Chaerwrangon. Wedi sicrhau meddiant o Geredigion yn Nadolig 1107, efe a wnaeth wledd, sef eisteddfod ardderchog yng Nghastell Aberteifi, i'r hon y gwahoddodd efe holl dywysogion a phenaethiaid pob rhan o Gymru, lle y cawsant eu difyru â chaniadau y beirdd a'r cerddorion. Ond yn y lle dyddan, cymmerodd amgylchiad o ganlyniadau gofidus le. Ym mhlith y gwahoddedigion anrhydeddus, yr oedd Nest, merch Rhys ab Tewdwr Mawr, gwraig Gerallt de Windsor, ceidwad castell Penfro. Cwympodd Owain ab Cadwgan mewn serch â'r ddynes ddeniadol hòno; a chyn hir, aeth efe â thua phedwar ar ddeg o'i gyfeillon i ymweled â chastell Penfro; a chan ei fod yn berthynas i Nest, y mae yn debyg iddo gael groesawiad caredig yn y castell. Ond yn nyfnder y nos, gosododd Owain dai allan y castell ar dân, ac a ruthrodd i mewn i'r castell, a chymmerodd ymaith Nest a'i phlant, gan adael y lle ar dân. Aeth y weithred ddrygionus hòno i glustiau Brenin Lloegr, a'r canlyniad fu, dial ar Gadwgan, ei dad. Ar ol profi ei ddiniweidrwydd, cafodd ddal gafael ar Geredigion. Amddiffynodd Cadwgan ei awdurdod yn erbyn ymdrechion ei neiaint hyd y flwyddyn 1110, pan yr ymosodwyd arno yn ddisymmwth gan Madog ei nai, pan yn ei gwsg, yn ei gastell newydd yn y Trallwng, lle y cafodd ei ladd, cyn cael amser i dynu ei gleddyf i amddi£fyn ei hun. Y mae Camden ac ereill yn rhoddi clod mawr i'r tywysog hwn am ddewrder a doethineb. Y mae yn debyg fod Castell Cadwgan, ger Aberaeron, yn dwyn ei enw