Enwogion Ceredigion/Caranog

Oddi ar Wicidestun
Cadwgan ab Owain Enwogion Ceredigion
Bywgraffiadau
gan Benjamin Williams

Bywgraffiadau
Caron

CARANOG, yn Lladin Carantocus ydoedd fab Corun ab Ceredig, a brawd i Tyssul. Efe a sylfaenodd Eglwys Llangranog. Y mae ei wyl ar 16fed o Fai. Y mae John Teignmouth yn ei osod yn fab, ac nid ŵyr i Geredig, ac y mae y dyfyniad canlynol o waith yr awdwr, yr hwn a gyfieithwyd gan Cressy, yn ddrych rhagorol o'r hyn yr ydoedd bywydau y seintiau yn cael eu hysgrifenu yn y canol oesoedd. Ar ol traethu fod Caranog "drwy ddisgyniad a gwlad yn Frython, mab Ceredig, Tywysog Ceredigion (Cereticae Regionsis): y mae y cyfieithydd yn myned rhagddo: "Rhyw dywysog o'r enw Ceredig, a feddai amryw blant; ym mhlith y rhai, yr oedd un o'r enw Carantoc, plentyn o anianawd dda, yr hwn a ddechreuodd yn foreu i wneyd y pethau hyny ag ydynt dderbyniol gan Dduw. Yn y dyddiau hyny, yr oedd yr Ysgotiaid yn blino Prydain, fel yr oedd ei dad yn analluog i ddal pwys gofidiau y llywodraeth, a fynai roddi i fyny y dalaeth i Garanog. Ond efe, yr hwn a garai y Brenin nefol yn llawer mwy na theymas ddaiarol, a ffoiodd ymaith; ac wedi prynu ysgrepan a ffon gan fenyw dlawd, drwy gyfarwyddyd Duw, a ddygwyd i fan dymunol, lle efe, a orphwysodd, ac a adeiladodd addolfa, ac yno efe a dreuliodd ei amser gan foliannu Duw. O'i ieuenctyd, efe a fynwesodd burdeb a diniweidrwydd. O'r diwedd, efe a symmudodd drosodd i'r Iwerddon, gan gael ei wahodd at St. Patrig. Gwedi ennyd o ymgyfeillach, drwy gynghor, hwy a ymwahanasant, gan benderfynu i un o honynt bregethu yr Efengyl ar y llaw dde a'r llall ar y llaw chwith. Yn eu cymdeithas yr oedd amryw o wŷr eglwysig yn cydfyned: a hwy a gytunasant i gyfarfod unwaith mewn blwyddyn mewn rhyw le penodedig. Pa le bynag y byddai y dyn sanctaidd hwn yn myned, angel yr Arglwydd, ar ddelw colomen, a gyd-deithiai ag ef, yr hwn a droiodd ei enw o Caranog i Cemach, yr hwn sydd enwad Gwyddelig. Bob amser ar ei fordaith, byddai yn gwneuthur gwyrthiau er cadarnhâd o'r ffydd a bregethid ganddo, a byddai yn iachäu miloedd. Y mae teithrolau y dyn sanctaidd hwn, Cemach neu Caranog, i'w darllen yng ngweithiau haneswyr Gwyddelig, a'r modd y rhoddwyd y gras gyntaf i'r Apostolion, a roddwyd yn helaeth iddo yntau. Yr oedd yn filwr ac arwr tra rhyfeddol i Grist, yn abad ysbrydol a defosiynol, yn athraw amyneddgar, ddim yn nacäu pregethu gwirionedd achubol i bawb. Yn ystod amryw flynyddau a dreuliwyd ganddo yn yr ynys hòno, dygodd nifer anghredadwy i olchi ymaith eu pechodau drwy benyd, a llafur dibaid, ddydd a nos, byddai yn offrymu gweddïau yn aneirif at Dduw. Ar ol iddo ddychwelyd llawer o bobl at yr Arglwydd, gan wneuthur llawer o wyrthiau drwyddo ef, efe yn y dìwedd a ddychwelodd i'w wlad enedigol ym Mhrydain, lle yr enciliodd i'w gell gyntefig, yng nghymdeithas amryw o'i ddysgyblion. Wedi adeiladu Eglwys yno, penderfynodd aros yn y lle; ond eilwaith, wedi ei gynghori gan lais o'r nef, efe a ddychwelodd i'r Iwerddon, yno mewn oedran a llawn gweithredoedd sanctaidd, efe a orphwysodd mewn heddwch ar y ddwyfed ar bymtheg o Fehefin; efe a gladdwyd yn ei ddinas ei hun, yr hon oddi wrtho a elwir Cernach" (Rees's Welsh Saints, p. 209.)

Nid ydym i gredu rhyw lawer o'r hanes hwn am y gwr sanctaidd, Caranog; ond y mae yn ddiammheu ei fod yn weinidog duwiol a gweithgar rhyfeddol. Nid ydyw yn debyg fod ysgrifenwyr eithafol y canol oesoedd yn cymmeryd cymmeriadau dinod i'w hedmygu. Y mae careg fawr ger llaw Eglwys Llangranog o'r enw "Eisteddfa Garanog," lle dy wedir fod y sant yn eistedd ac yn cyflawnu gwyrthiau lawer. Mewn lle o'r enw "Ffrydiau Cranog," y mae pyllau bychain o ddwfr yn y graig, wedi cael eu tori gan ffrydîau yr afonig, a dywedid gynt mai pyllau o ol traed y sant oeddynt, a bod rhinwedd feddygol ynddynt.