Enwogion Ceredigion/Cedrych (neu Cynddrych) ab Gweithfoed
← Cedig ab Ceredig | Enwogion Ceredigion Bywgraffiadau gan Benjamin Williams Bywgraffiadau |
Ceinwen ferch Arthen → |
CEDRYCH (neu CYNDDRYCH) AB GWEITHFOED ydoedd, yn ol rhai ysgriflyfrau, yn nawfed mab i Weithfoed Fawr, arglwydd Ceredigion. Ymunodd Cedryeh ag Einion ab Collwyn yn erbyn Rhys ab Tewdwr Mawr, yr hwn hefyd a gafodd ei ladd ganddynt. Yn y frwydr bwysig hòno, ym Morganwg, yr oedd Einion ab Collwyn, Cedrych ab Gweithfoed, Iestyn ab Gwrgant, a Robert Fitzhamon a'i farchogion wedi cyduno yn erbyn Rhys ab Tewdwr. Yr oedd Iestyn ab Gwrgant wedi addaw ei ferch yn wraig i Einion am ymuno ag ef yn erbyn Rhys; ond ar ol lladd Rhys, nacaodd Iestyn gyflawnu ei addewid ag ef, ac o blegid hyny, galwodd Einion y Normaniaid yn ol; a hwythau yn egniol a ddaethant, a chytunasant i ymosod ar Iestyn eilwaith. Hyny a wnawd, a gorfu ar Iestyn ffol, a chymmerodd yr estroniaid Normanaidd feddiant o'i gyfoeth. Dywed Taliesin ab Iolo, yn ei nodiadau ar ei gywydd i gastell Caerdydd, fod 2000 o wŷr gan Cedrych yn cynnorthwyo Einion ac Iestyn; a dywed fod gwŷr Cedrych ag Einion yn hawlio y fraint o ymladd ym mlaenaf yn y frwydr, yr hyn a ganiatawyd gan Fitzhamon, drwy yr hyn y lladdwyd mwy na'r hanner. Pan oedd y Normaniaid yn rhanu. Morganwg rhyngddynt, rhoddasant Sanghenydd a Meisgyn(1) i Einion ab Collwyn; ond cadwodd Fitzhamon gastell Caerffili yn ei ddwylaw. Y mae teuluoedd lluosog y Mathews o Forganwg yn hanu o Cedrych ab Gweithfoed; megys y diweddar "Father Mathew," Apostol Dirwest yr Ynys Werdd, a llawer ereill. Yn ol rhai hanesion, dywedir mai Cadifor ab Oedrych oedd ar y maes; ond nid ydyw yn annichodadwy nas gallasi y tad a'r mab fod ar y maes.
- (1) Ymddengys i Einìon gael y rhandir hwn. Meisgyn : tebyg mai dyma Meskin, lle mae palas y diweddar Alaw Goch