Enwogion Ceredigion/Curig Lwyd

Oddi ar Wicidestun
Cristian ferch Gweithfoed Fawr Enwogion Ceredigion
Bywgraffiadau
gan Benjamin Williams

Bywgraffiadau
Cynan ab Gweithfoed

CURIG LWYD, esgob, y mae yn debygol, yn Llanbadarn Fawr; efe a sylfaenodd Eglwys Llangurig, Sir Drefaldwyn, ac yr oedd ei fugeilffon yn cael ei chadw yn ardal St. Harmon, yn amser Giraldus Cambrensis. Y mae traddodiad y canol oesoedd yn traethu i Gurig Lwyd, neu Gurig Fendigaid, dirio yn Aberystwyth, na wyddid yn y byd o ba le, ac iddo symmud ym mlaen hyd y lle a elwir heddyw Eisteddfa Gurig, ac iddo o'r fan hòno, weled llanerch hyfryd a dymunol, yr hon a ddewisodd i weddïo, lle yr adeiladodd addolfa, a lle y mae yr Eglwys i'w gweled.