Enwogion Ceredigion/Cynan ab Maredudd
← Cynan ab Gweithfoed | Enwogion Ceredigion Bywgraffiadau gan Benjamin Williams Bywgraffiadau |
Cynddylig → |
CYNAN AB MEREDYDD ydoedd fab Meredydd ab Owain ab Gruffydd ab Rhys ab Gruffydd ab Rhys ab Tewdwr Mawr. Yr oedd yn Arglwydd Caron a rhan o Geneu'r Glyn. Yr oedd yn un o bendefigion cadarnaf y Deheudir yn amser Llewelyn ab Gruffydd, Cafodd ef a'i ddau frawd, Gruffydd a Rhys, eu gyru i gyfyngder, nes gorfod ymostwng i wneyd gwarogaeth i Frenin Lloegr. Yn yr amser hwnw, y mae yn debyg, y gwnaeth y Tywysog Llywelyn ab Gruffydd, delerau annheilwng er cael Elen de Montefort, ei ddarpar wraig, yn rhydd o garchar y brenin. Ar ol hyny, daeth Seison lawer i Geneu'r Glyu, a rhanau ereill o Geredigion, gan drawsfeddiannu tiroedd y pendefigion Cyrmreig, yn groes i'r cytundeb â Brenin Lloegr. Y mae Carnhuanawc, Warington, ac ereill, wedi cofnodi "Cwynion meibion Meredydd." Daeth Geoffrey Clement o Dal y Llyn, Brycheiniog, a thrawsfeddiannodd arglwyddiaeth Caron, cyfoeth Cynan. Y mae y rhodd wreiddiol i Geoffrey Clement, o arglwyddiaeth Caron, yr hon oedd wedi drawsfeddiannu, wedi ei dyddio Chwefror 10fed, 1292, i'w gweled yn y Twr yn Llundain. Rhoddodd Cynan gyfoeth dirfawr i Fynachlog Ystrad Fflur. Y mae y freinlen hòno yn cynnwys enwau lleoedd lawer iawn ag oedd y pendefig yn roddi fyny i'r fynachlog; megys Rhydfendigaid, Henfynachlog a'r tiroedd, Brynhob, Cefn Castell, Llwyn y Gog, Dolfawr, Tref Gwyddel, y wlad o gylch Ystrad Meurig, Swyddffynnon, Bod Coll, Cellïau, Esgair Perfedd, Ynys Forgan, Castell Fflemys, ac oddi yno i Flaen Aeron, y rhan fwyaf o'r wlad rhwng Llanrhystyd ac Aberaeron, a thiroedd o amgylch Trefilan, Rhiwonen, a lleoedd ereill rhwng yr Aeron a Llanbedr; tiroedd tua blaen yr afon Irfon, ym mlaen at yr Elan a Chwmdeuddwr. Y mae yn lled anhawdd dirnad pa faint o gyfoeth a roddodd y pendefig hwn at y sefydliad crefyddol yn Ystrad Fflur. Diau ei fod yn wr haelionus iawn, ac o syniadau crefyddol a duwiolfrydig, yn ol dull yr oes hòno. Ond ef allai ei fod wedi rhoddi llawer o'r tiroedd hyn i'r fynachlog, fel nas gallasai y gormeswyr creulawn, y Normaniaid Seisnig, gyffwrdd â hwynt. Priododd Sioned, ei ferch, â Geoffry Clement, mab ysbeiliwr cyfoeth ei thad. Priododd Syr Robert Clement, ei hwyr, â Tanglwst, ferch Syr Gruffydd Llwyd. Priododd Siencyn Phylip ab Rhydderch, o Glynaeron, â Mawd, merch Syr W. Clement, yr hon oedd yn orwyres i Robert a Tanglwst, ac y mae teulu hynafol Bronwydd yn disgyn o Glynaeron; felly gallwn edrych yno am gynnrychiolydd Cynan ab Meredydd. Y mae cân yn yr Archaiology of Wales i Wenlliant, ferch Cynan, sef gwraig Syr Gruffydd Llwyd. Dywed nodyn ar waelod y ddalen mai merch Cynan ab Meredydd ab Rhys ab Gruffydd ab yr Arglwydd Rhys oedd; ond y mae hyn yn dangos yn ammhëus, gan nad oedd mab gan Rhys Ieuanc i gael, hyd yr ydym yn gallu gweled. Aeth ei gyfoeth rhwng Owain ei frawd a Maelgwyn Fychan. Fel hyn, tebyg taw merch Cynan ab Meredydd ab Owain oedd.