Enwogion Ceredigion/Dafydd ab Gwilym

Oddi ar Wicidestun
Dafydd Enwogion Ceredigion
Bywgraffiadau
gan Benjamin Williams

Bywgraffiadau
Dafydd ab Ieuan

DAFYDD AB GWILYM, un o'r beirdd ardderchocaf, os nid yr ardderchocaf oll, a anwyd yng Nghymru erioed. Ymddengys iddo gael ei eni ym Mro Gynyn, ym mhlwyf Llanbadarn Fawr, tua'r flwyddyn 1340. Yr oedd o du ei dad yn perthyn i brif deuluoedd Gogledd Cymru. Gallasai gyfrif ym mysg ei berthynasau yr enwogion Llywarch ab Bran, ac Owain Gwynedd, a'u holl gyssylltiadau. Yr oedd mam y bardd yn chwaer i Lywelyn ab Gwilym Fychan, Arglwydd Ceredigion, yr hwn oedd yn un o'r boneddigion pwysicaf drwy y Deheudir. Bu farw ei fam pan oedd yn dra ieuanc, ac yn ol yr hanesion cywiraf, ar ei enedigaeth. Treuliodd Dafydd a'i dad gryn amser yu lllys Ifor Hael, ym Maesaleg. Bu hefyd yn ei febyd yn treulio llawer iawn o'i amser gyda'i ewythr, yn Emlyn, a Dolgoch, ym mhlwyf Troed yr Aur. Yr oedd ei ewythr yn wr o feddwl bywiog a chraffus, ac yn fuan efe a ganfu ddefn- yddiau bardd yn ei nai. Yn yr amser hwnw, yr oedd yr Awen Oymreig wedi cael ergyd agos iawn i fod yn farwol yn narostyngiad y dywysogaeth gan Iorwerth I., ac yn ol pob tebygolrwydd' yr oedd y beirdd wedi bod yn wrthddrychau dialedd y penadur hwnw, gan eu bod yn offerynau i gadw gwladgarwch yn fyw yn y wlad, ac i annog eu cydgenedl i godi yn erbyn y goresgynwyr. Dywed y cofnodion Cymreig "nad oedd nemawr a wyddai gelfyddid a gwybodau cerdd dafod namyn ym Morganwg, a Mon, a Cheredigion, achos colli y tywysogion a gefnogasant y prydyddion. Ond yn y tri lle a nodwyd, yr oedd yr hen wyddor odidog wedi dal ar glawr, ac yr oedd Llywelyn ab Gwilym Fychan yn fardd ei hun; ac felly efe a gymmerodd at ddysgu y gelfyddyd i'w nai ieuanc. Yr oedd Dafydd yn dysgu pob peth a fynegai iddo gyda'r parodrwydd mwyaf. Yr oedd ei fywiogrwydd a'i arabedd swynol yn synu a swyno pawb : ac felly yr oedd ei ewythr yn cael tâl da am ei ddysgu. Dywedir i'w dad briodi ail wraig, pan oedd y bardd tua phymtheg oed, ac i Ddafydd gael ei alw i aros ym Mro Gynyn; ond ni fynai y bardd ieuanc fyw yno; nis gallasai edrych gyda llawer o sirioldeb ar ei lysfam; ac yr oedd ei ddull difyr a gwawdfyd yn hollol groes i anianawd gwraìg ei dad. Edrychai y llysfam yn sarig; ac yr oedd rhyw duedd anorchfygol i wawdio, a gwneyd pobpeth yn destyn chwerthin, ynddo yntau. Pan yn yr adfyd hwn, gadawodd Dafydd dy ei dad ac a wynebodd i lys Ifor Hael. Ifor wrth weled ei gâr ieuanc yn wr o ddysg a dawn, a'i penododd yn athraw i'w ferch. Aeth pethau ym mlaen yn y modd hwn am ryw ennyd yn weddol gysurus. Pa faint o gynnydd oedd y rhian bendefigaidd yn wneyd, nid ydyw yn eithaf hawdd penderfynu.


Yn yr amser hwn yr oedd y bardd yn derbyn y parch a'r caredigrwydd mwyaf yn y llys; ac yr oedd ei fynwes yntau yn llawn o deimladau hyfryd a diolchgarwch diffuant. Ond beth bynag am gynnydd y bendifiges mewn dysg, ac am ymdrechion y bardd i'w dysgu, nid ydyw y byd wedi cael ei anrhegu â gwybodaeth; ond cwympodd y bardd dros ei ben a'i glustiau mewn cariad at ei ddysgybles, a thebyg iddi hithau fyned i'r un graddau o serch ato yntau; ac nid oedd yn hawdd cael sefyllfa yn fwy manteìsiol tuag at feithrin yr elfen fywiol a chynnyddol nag yn yr ystafell, lle yr oedd y gwersi yn cael eu rhoddi gan yr athraw ieuanc. Tebyg i'r bardd a'i anwylyd ymdrechu cuddio y gyfrinach angerddol mor bell ag oedd modd; ond cyn hir, canfu llygad craffus Ifor fod arwyddion cariad i'w gweled yn y symmudiadau. Wedi darganfod peth o'r fath yn myned ym mlaen, buasai boneddigion yr oes bresennol ar fyr amser yn dangos y drws i'r athraw; ond ymddygodd Ifor yn wahanol. Nid oes hanes iddo ffromi yn anfaddeuol tuag at y bardd; ond penderfynodd ymddwyn dipyn yn greulawn at y ferch, drwy ei hanfon i leiandy ym Mon. Ar ol i'r ffyddlawn fardd weled hyn, efe a wynebodd tua Mon ar ei hol, ac a ymgyflogodd megys gwas i abad mynachlog gyfagos, gan feddwl felly y buasai yn debyg gael cyfle i weled ei anwylyd; ond bu yn aflwyddiannus. Y mae yn debyg mai ym Mon, yn yr amser hwnw, y cyfansoddodd ei gywyddau ardderchog i ferch Ifor Hael, dan yr enw Lleian, Ond er pob ymdrech, nid oedd modd cael gweled gwrthddrych ei serch: yr oedd rheolau y lleiandy yu rhy fanwl a chaethiwus; ac yn y diwedd, rhoddodd y bardd yr ymdrech i fyny, a dychwelodd i Ddeheubarth Cymru, a derbyniodd drachefn o garedigrwydd a haelder ei hen gymrawynaswr, Ifor Hael,lle y bu yn caftrefu am lawer o flynyddoedd, gan ymweled weithiau â Brogynyn, ei le genedigol. Tra yn aros yn llys Ifor, etholwyd ef fel prif-fardd i gadair Morganwg; ac felly gelwid ef weithiau yn Dafydd Morganwg, a Bardd Ifor. Yn yr amser hwnw yr oedd boneddigion Cymru yn dal at yr hen nodwedd Gymreig a gwladgarol: yr oedd y beirdd yn uchel yn eu golwg. Yn y cyrameriad hwn yr oedd Dafydd ab Gwilym yn fynych yn ymweled â phendefigion y wlad; ac mewn gwleddoedd o raddau uchel, nid oedd modd iddynt fod yn gyflawn heb gael y bardd glandeg ei wedd a swynol ei awen i'w difyru â'i 'ffraethineb. Ond yr oedd llys, neu yn hytrach lysoedd, ei ewythr a'i athraw, Llywelyn Fychan o Emlyn, yn gyrchfa aml ganddo. Un tro yn Ëmlyn, pan yr oedd y gwin a'r medd yn rhedeg yn rhwydd, yr oedd y bardd ieuanc Dafydd ab Gwilym a Rhys Meigan yn bresennol, ac yn ol arfer yr oes, yr oedd Dafydd wedi cael ei osod yn gyff cler. Mewn cyff cler, y mae caniatâd i oganu y cyff, ond peidio dywedyd yr hyn sydd wirionedd am dano. Ymddengys fod Rhys wedi tori y rheol hon, trwy ganu i Ddafydd bethau nad oeddynt weddus, sef edliw iddo mai mab llwyn a pherth oedd. Ond buasai yn well i Rys ymattal; cyffrodd teimlad ae awen y bardd, a chyfansoddodd linellau ffraethlym, a chyfododd y dyn ieuanc glandeg i fyny, gan wneuthur gwên wawdlyd i adrodd ei waith. Yr oedd dystawrwydd drwy y lle, yr oedd y corn hirlas a'r medd yn cael llonydd heb ei gyffwrdd; yr oedd y boneddigesau yn edrych gyda phryder rhyfeddol ar yr adroddydd. Yr oedd ei brydferthwch yn swynol, ac yr oedd ei ystum areithyddol yn ardderchog a meistrolgar; ac yr oedd y gwawd a arllwysai ar ben Rhys yn ofnadwy a chwerthinol. Torai y boneddigesau a'r boneddigion i chwerthin; ond yr oedd Rhys Meigan yn ddystaw, ac yn ymchwyddo fel llaeth ar dân gwyllt; ac erbyn diwedd yr adroddiad, dyma y twmpath mawr o ddyn yn syrthio i lawr yn farw, heb gyfodi mwy. Dywed rhai mai ym Morganwg y bu hyn; ond y mae y mwyafrif o ysgrifenwytr yn dywedyd mai yn Emlyn y bu. Yr oedd Dafydd wedi cael galluoedd meddyliol cryfion, ac hefyd brydferthwch corfforol braidd yn anghymharol; a rhwng prydferthwch a dawn, yr oedd yn sefyll yn uchel yng ngolwg y rhyw deg. Dywed y Parch. D. Jones o Lanfair, yr hwn a ysgrifenodd yn amser y Frenines Elisabeth, ei fod yn cofio hen wraig, yr hon a fuasai yn gydnabyddus ag un arall ag oedd adnabyddus â Dafydd ab Gwilym, yr hon a'i darluniai yn dal a hirfain, a gwallt melyn orych yn llaes dros ei ysgwyddau, ac yn llawn modrwyau heirdd; ac y mae yntau ei hun yn dywedyd fod y merched, yn lle gwrando ar y gwasanaeth yn Eglwys Llanbadarn Fawr, yn arfer husting fod gwallt ei chwaer ganddo ar ei ben. Cymmaint oedd ei brydferthwch a'i hawddgarwch, fel nas gallasai y boneddigesau yn un man wrthod ei gyfeillach. Y mae traddodiad fod ganddo un waith bedair ar hugain o gariadon yr yr un pryd; a chan fod difyrwch a gwawd lonaid ei natur, efe a aeth ar daith garwriaethol; ac wedi galw heibio iddynt, efe a'i gwahoddodd dranoeth i'w gyfarfod dan dderwen fawr lydanfrig. Nid oedd y bardd, wrth reswm, wedi mynegu iddynt am y gymmanfa gariadol; ac felly ymdrechodd pob un ddyfod yno mor ddystaw ag oedd modd. Aeth y bardd yno o'u blaen, a dringodd i ben coeden cyn yr amser penodedig, gan ymguddio yn y brigau tewion. Daeth pob un o'r merched yno, yn ol yr addewid — pob un yn ffyddlawn i'w gair. Yr oedd pob un yn llygadrythu ar y llall, a phob un yu gwneyd golwg am y suraf, gan ryfeddu yn aruthrol beth allasai fod eu neges. O'r diwedd, torodd yr un ryddaf ei meddwl i draethu ei neges: "Daethym yma i gyfarfod â Dafydd ab Gwilym," meddai hi. "Ha!" ebai y llall, "dyna yw fy neges innau." Ac erbyn hyny, yr oeddynt bob un yn llefaru yr un peth am y cyntaf Yn y fath siomedigaeth, wedi eu llenwi o ddigofaint, cydunodd y gynnadledd fenywaidd i ymddial ar y twyllwr, gan gytuno i'w ladd cyn gynted ag y deuai. "Ni a fyddwn yn angeu i'r dyhirwas," oedd yr un fanllef yn esgyn i frig y goeden. "O, aie yn wir," atebai y bardd, gan gipdremu trwy y cangau, "os gellwch fod mor greulawn; yna, —

"Y butain wen, fain fwynaf — o honoch,
I hòno maddeuaf;
Tan frig pren a heulwen haf,
Teg anterth, t'rawed gyntaf."


Cafodd y llinellau hyn yr efíaith a ddysgwyliasid gan y bardd yn yr adeg gyfyng. Hwy a ddechreuasant ammheu purdeb y naill y llall, yr hyn yn y man a arweiniodd i ryfel cyfíredinol rhwng y pedair ar hugain, yr hwn a derfynodd yn ninystr yr hollbenwisgoedd a'r cochlau. Ym mhoethder y frwydr, disgynodd y bardd mewn perfaith ddiogelwch ac a rodiodd ymaith, gan adael y rhianod i ddwyn y rhyfel ar eu traul eu hunain. Ond wrth gellwair yn y modd hwn, daeth y bardd cyn hir i ofid blin; daeth i adnabyddiaeth â Moifydd, merch Madawg Lawgam. Ymddengys iddo ymgyfarfod â'r rhian hon yn Rhos, ym Mon, lle y denodd ei sylw. Gawn yn un o'i gerddi iddo anfon anrheg iddi, ac iddi hithau ddiystyru y cynnyg gymmaint, fel y taflodd ef am ben y llanc a'i dygasai. Y mae rhai hanesion yn myuegu mai trwy ei gwaredu oddi wrth ryw ddynion a fwriadent ei bradychu, yr ennillodd efe ei serch. Beth bynag am y modd, efe a ddyfal barhaodd nes iddi gydsynio â'i ddymuniadau, ac ennillei ymddirìed. Unwyd hwy mewn dull nid anarferedig yn yr oesoedd hyny. Gyrchodd y bardd a'i anwylyd, yng nghyd a'i gyfaill Madawg Benfras, bardd ardderchog, yr hwn a gyflawnoidd y swydd gyssegredig o offeirad, ar yr achlysyr, yng ngŵydd corgeiniaid asgrllog y coed yn unig, un o ba rai, sef y fwyalchen, medd y priodfab, oedd y clochydd. Ar ol hyn, ystyrient eu hunain megys un; a'u bywyd yn ol hyny a gadarnhaodd yr ymrwymiad. Ond yr oedd tad a pherthynasau Morfydd yn barnu yn wahanol, ac yr oeddynt yn chwerw yn erbyn yr uniad; hwy a annogasant hen gleiriach cyfoethog, sef Cynfrig Cynin, i ddyfod yn gyd-erlynydd â'r bardd; a threfnwyd y oynlun mor bell ag i gymmeryd Morfydd ymaith oddi wrtho, a'i phriodi yn drefnus â Chynfrig Cynin, yn unol â rheolau yr Eglwys. Ar ol hyn daeth Cynfrig Cynin yn wrthddrych casineb a difriaeth y bardd, gan yr ystyriai ei fod, nid yn unig wedi myned â gwrthddrych ei serch, ond hefyd eiddo cyfreithlawn iddo. Bu y bardd trafferthus am hir amser yn methu cael golwg ar ei anwyl Forfydd. Ond ryw bryd, ar ol ymofyniad manwl, tyciodd o'r diwedd iddo eìichael, ac ei chymmeryd ymaith. Ond ni pharhaodd y gymdeithas hon yn hir wedi hyn drachefn; dygwyd Morfydd ymaith, ac erlyniwyd y bardd yn erwin gan y Bwa Bach," trwy ei ddirwyo yn drwm iawn, am yr hyn, gan ei fod yn analluog i dalu, efe a gafodd ei daflu i garchar. Tebyg y buaaai y bardd wedi cael marw yn y carchar, oni buasai i bobl dda Morganwg ei brynu ef o hono. Ganodd y bardd trallodus gant a saith a deugain o gywyddau i Forfydd, a dywedir iddo fod agos â'i dwyn ymaith unwaith yn rhagor. Gofynodd un cyfaill iddo, a anturíai efe wneyd hyny eilwaith: yntau a atebodd, "Gwnaf yn enw Duw a gwŷr Morganwg;" ac ar ol hyn daeth y dywediad hwn yn ddiareb am hir amser.

Mewn eisteddfod a gynnaliwyd yng Ngwern y Clepa, yn amser Iorwerth III., ennillwyd y gadair am ganu cywydd gan Ddafydd ab Gwilym; ac yn hòno y gwisgwyd Dafydd ag addurn Cadair Morganwg. Mewn eisteddfod arall a gynnaliwyd yn Nolgoch, yng Ngheredîgion, lle yr oedd Sion Cent, Rhys Goch Eryri, y "Tri Brodyr o Farch- wiail," ac enwogion ereill yn bresennol, ennillodd Dafydd ab Gwilym gadair Ceredigion am riangerdd. Un o gydoeswyr Dafydd ab Gwilym oedd Gruffydd Gryg, o Sir Fon. Yr oeddynt hefyd yn gyfeillion gwresog; ond trwy aml gystadlu a senu eu gilydd, aethant unwaith yn dra dwfn mewn gelyniaeth. Canfu rhyw gyfaill â llygad eryraidd ganddo y perygl, ac anfonodd at bob un o honynt i ddywedyd fod y llall wedi marw. Yna, yn llawn teimladau galarus dechreuodd pob un o honynt gyfansoddi marwnad y naill i'r llall; ac wedi iddynt weled y cyfansoddiadau twymgalon, chwarddasant am y gorea, a pharhausant yn gyfeillion am eu hoes. Goroesodd y bardd y rhan fwyaf o'î noddwyr a'i gyfeillion. Bu farw Ifor Hael a'i deulu, ac y mae yn galaru yn dra thwym-galon ar eu hol. Bu farw ei ewythr, Llywelyn Fychan, trwy i haid o wylliaid o Seison Penfro, dori y Ddolgoch, a lladd y pendefig. Y mae ganddo hefyd alarnadau pruddglwyfus ar ei ol yntau,.fel y dengys yr englyn a ganlyn : —

"Wylais lle gwelais lle gwely —— f' arglwydd,
Ond oedd fawrglwy' hyny?
Gâr ateb? Wyf gar itty,——
Gwr da doeth agor dy dŷ!"

Treuliodd y bardd brydnawn ei fywyd ym Mrogynyn; ao y mae ei gyfansoddiadau olaf yn llawn edifeirwoh am ei afradlonrwydd, ac yn cynnwys taer weddîau am faddeuant; ac nid oes modd eu darllen gan un dyn ystyriol, heb golli dagrau. Y mae yn dangos ffolineb mebyd ac ieuenctyd, ac mor ddiflanedig ydyw oes dyn. Dywedai,—

"Mae Ifor a'm cynghorawdd,
Mae Nest oedd imi yn nawdd,
Mae dan wŷdd Morfydd fy myd,
Gorwedd ynt oll mewn gweryd!
A minnau'n drwm i'm einioes,
Dan oer lwyth, yn dwyn hir loes."


Ar wely angeu yr oedd y bardd yn meddu ei awen yn ei thlysni, gan ganu yn swynol o galon ostyngedig i ewyllys ei Greawdwr. Bu farw tua'r flwyddyn 1400, a chafodd ei gladdu yn Ystrad Fflur, a dywedir fod y llinellau canlynol wedi bod ar ei feddfaen: —

"Dafydd, gwiw awenydd gwrdd,
Ai ymaith roed dan goed gwyrdd?
Dan lasbren, hoew ywen hardd,
Lle'i claddwyd y cuddiwyd cerdd!

"Glas dew ywen, glân eos* —— Deifi,
Mae Dafydd yn agos;
Yn y pridd maer gerdd ddiddos,
Diddawn i ni bob dydd a nos."

(* Mae yn amlwg nad yw y llinell hon yn gywir. Tebyg mai "Glasdew ywen, glwysdy eos" ydoedd yn wreiddiol.)

Ond y mae tebygolrwydd mai yn Nhal y Llychau y claddwyd ef. Y mae llawer iawn o gynfeirdd a gogynfeirdd, yn gystal a beirdd diweddar Cymru, yn sefyll yn uchel am eu doniau awenyddol; a phe buasai Cymru yn cael sylw teilwng gan genedloedd cymmydogaethol Ewrop, trwy ddysgu ei hiaith, i gael myned i mewn i'w thrysorau llenyddol, buasai bri mawr yn cael ei roddi i'w beirdd a'i llenorion; ond yn ol barn llawer o feirdd yr oes hon, y mae Dafydd ab Gwilym yn sefyll yn uwch na holl feirdd Cymru. Y mae yn dwyn mwy o debygolrwydd i feirdd clasurol cenedloedd ereill. Y mae ynddo ryw dlysni darluniadol ag sydd anghymharol ei eflaith ar y meddwl, pan yn darllen ei waith. Yr oedd ganddo lygad i weled anian, calon i deimlo anian, a glewder medrus i gydfyned ag anian. Ys dywedoedd Talhaiarn, paentiwr anhgymharol ydoedd Dafydd. Y mae ei ddarlun o'r llwynog yn dra ysblenydd: yr ydym yn gweled y creadur cyfrwys hwnw o fiaen ein llygaid pan yn darllen ei gywydd darluniadol o hono. Yn y cywydd hwn yr ydym yn gweled y llwynog yn ei rawd ddystaw yn gwibio am ysglyfaeth pan oedd y bardd dan y coed wrtho ei hun. Y fath brydferthwoh sydd yn y llinell "Llamwr erw, lliw marworyn." Dyna liw y creadur yn y cywirdeb mwyaf hapus o eiddo y paentiwr mwyaf chwaethus. Y mae ei ddarluniad eto o'r ddylluan yn odidog iawn.

Cofus genym i ni fod mewn arwerthfa er ys llawer o flynyddau yn ol; a thra yn y parlwr am oriau, lle yr oedd y paentwaith o gynnyrchion goreu celfyddyd yn cael ei werthu, yr oedd ar y mur ddarlun y bachgenyn a'r Wy Euraidd yn ei ddangos i'w fam; a chymmaint oedd agosrwydd y gwaith i natur, fel yr oeddym yn colli yn aml araith yr arweithwr. Yr oedd gallu bod am ddwy fynyd heb edrych dros ein hysgwydd ar y paentwaith hwnw, yn llawn cymmaint ag a aliasem wneyd. Yr oeddym yn cael cymmaint o foddlonrwydd wrth edrych amo y tro olaf ag a gawsom y tro cyntaf ! Yr un fath yn gymhwys y mae darluniadau Dafydd ab Gwilym o natur: nid oes modd i unrhyw ddyn ag sydd yn meddu llygad i weled prydferthwch anian, a chalon i deimlo anian, lai na chael ei swyno gyda'i ddarluniadau o honi.

Canodd Gruffydd Gryg, Madog Benfras, ao lolo Goch gywyddau marwnadol tra galarus ar ol y bardd. Y mae Tudur Aled, ym marwnad G. Glyn, yn 1490, yn son am dano fel hyn: —

"Ni bu fyw neb fwy Awen
Ond da fardd Glan Teif wen,
Mab Gwilym heb gywely
Heb iddo frawd ni bydd fry."