Enwogion Ceredigion/David Edwards

Oddi ar Wicidestun
Ednowain ab Gweithfoed Enwogion Ceredigion
Bywgraffiadau
gan Benjamin Williams

Bywgraffiadau
John Edwards, Llanfihangel ar Arth

EDWARDS, David, un o'r gweinidogion ymneillduol cyntaf yn y sir, oedd enedigol o Gellan. Yr oedd ei dad yn fab i Mr. Edwards, Deri Odwyn. Yr oedd D. E. yn gefnder i blant enwog Llwyn Rhys. Ymddengys iddo, fel ei gefnderwyr, gael dysgeidiaeth lled dda. Urddwyd ef yng Nghaeronen, Hydref, 1688. Cydlafuriodd â'i gefnder, Jenkin Jones, Llwyn Rhys, hyd y flwyddyn 1692. Dywedir taw efe fu y gweinidog blaenaf yn y cylch o hyny allan hyd ei farwolaeth. Bu yn y weinidogaeth 36 flynyddau.

Nodiadau[golygu]