Neidio i'r cynnwys

Enwogion Ceredigion/Evans, Christmas

Oddi ar Wicidestun
Enoch, John, (Milwriad) Enwogion Ceredigion
Bywgraffiadau
gan Benjamin Williams

Bywgraffiadau
Evans, Daniel (Daniel Ddu o Geredigion)





EVANS, CHRISTMAS, un o weinidogion enwocaf y Bedyddwyr yng Nghymru, a aned yn Ysger Wen, plwyf Llandyssul, ar ddydd Nadolig, 1766; ac felly cafodd ei alw yn "Christmas." Yr oedd yn hanu o hen deulu tywysogaidd Blaen Cerdin, yr hwn sydd yn disgyn yn gywir o Morydd, Brenin Aberteifl, o gylch y flwyddyn 830; ond er yn hanu o deulu uchel o ran ei fam, eto yr oedd ei rieni yn isel eu hamgylchiadau, ac felly nis gellir dywedyd iddo gael dim manteision dysg. Pan tua dwy ar bymtheg oed, cyflogodd yn was tyddyn gyda Mr. Davis, o Gastell Hywel; a thra yn gwasanaethu yr hen ysgolor yn y dydd, yr oedd yntau yn rhoddi gwersi iddo yn y nos; ac yno, yn y modd hyn, y dechreuodd sillebu a darllen. Cyn hir, efe a ymunodd â'r Henaduriaid yn Llwyn Rhyd Owain, a chafodd yn fuan ei annog i bregethu. Yr oedd yn pregethu yn achlysurol gyda'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr. Yn yr amser hwn, fel yr oedd yn dychwelyd o sir Henffordd, collodd ei lygad, trwy i haid o ddyhirod ymosod arno yn hollol ddiachos. Tua'r flwyddyn 1788, efe a ymunodd â'r Bedyddwyr yn Aberduar. Yn fuan ar ol hyn aeth ar daith bregethwrol i Ogledd Cymru, a cheisiwyd ganddo aros yng Nghaernarfon. Cafodd ei urddo yn y sir hòno, a bu fel cenadwr yn gofalu am eglwysi Lleyn. Priododd ag un Catherin Jones, yr hon a fu yn ymgeledd gymhwys iddo fel gweinidog yr Efengyl. Yr oedd yn ymgodi yr amser hwn i hynodrwydd mawr am ei lafur yn y weinidogaeth, ac yr oedd ei athrylith yn synu yr oes. Pregethai weithiau bedair a phum gwaith yn y dydd, gan gerdded llawer o ffordd rhwng y lleoedd. Yr oedd effaith rhyfeddol o lwyddiant yn dilyn — ugeiniau lawer yn cael eu bedyddio yn y gwahanol fanau ym maes ei lafur. Yn 1791, derbyniodd wahoddiad taer i symmud i Ynys Mon; ac ar ol ystyriaeth, ymunodd â'r cais. Treuliodd tua phymtheg ar hugain o flwyddi yn Llangefni, lle nid oedd yn derbyn ond 17p. o gyflog! Dywedir hefyd ei fod yn rhyfeddol elusengar i dlodion; cyfranai yn aml y tipyn olaf yn y ty. Ymledodd ysbryd anhyfryd ym Mon o herwydd daliadau Sandemanaidd, yr hyn, meddir, fu yn achos iddo adael yr ynys. Bu farw ei wraig yn yr amser hwn. Yr oedd hefyd yn isel ei amgylchiadau — dim ond ceffyl o dano, ac ychydig bach yn ei god, yn gadael maes llafur mor galed. Sefydlodd yng Nghaerffili, pryd y priododd yr ail waith, â Mary Evans, o Fon. Symmudodd wedi hyny i Gaerdydd. Aeth i gymmanfa Llynlleifiad yn y flwyddyn 1832, pan y cafodd alwad i fyned i Gaernarfon. Pan ar daith trwy y Deheudir, yn casglu at y capel yng Nghaemarfon, cymmerwyd ef yn glaf yn Abertawy, ac yno y bu farw, Gorph. 19, 1838. Ni fu ond amser byr yn glaf . Bu farw y dyn mawr hwn yn 72 mlwydd oed; wedi treulio 53 o honynt yn y weinidogaeth. Yr oedd Christmas yn un o gewri mwyaf yr areithfa yng Nghymru; meddiannai alluoedd hynod o fawreddog, a'r rhai hyny nodwedd hollol arbenig iddo ei hun. Yr oedd, fel yr Wyddfa, yn uchel, mawreddog, ac aruthrol. Yr oedd, yn ddiau, yn ddarllenydd mawr, ac felly yn cynnyddu ei feddwl; ond yr oedd delw gwreiddioldeb o'i eiddo ei hun ar bob peth a draddodai. Yr oedd ei gymhariaethau yn fawreddog ofnadwy, ac yr oedd eu cymhwysiad yn dangos darfelydd, chwaeth, a medr rhyfeddol; ac felly yr oeddynt yn ei bregethau yn gadael rhyw aruthredd annileadwy ar feddyliau y gwrandawyr. Dywedir am ei bregeth Y Mab Afradlawn ei bod yn brawf arbenig o hyn. Yr oedd yn debyg i ffrydiau aruthrol y Niagara, yn anghymharol o fawreddog — fel "uchelgadr raiadr dwr ewyn," a'r olwg a'r Hwn yn synu a phensyfrdanu pawb o'r gwyddfodolion. Deillia dyfroedd aruthrol y Niagara allan o lynoedd mawreddog yr Erie a'r Ontario — nid dyfroedd benthyg tymmestloedd mo honynt; ac felly ffrydiau athrylith Christmas Evans: tarddent allan o lynoedd mawreddog darfelydd a barn ei enaid mawr ei hun, nes synu pawb. Y mae rhai dynion yn fawr yn y pulpud; ond erbyn argraffu eu pregethau, nid oes dim neillduol ynddynt; y mae y darllenydd yn cael ei siomi; ond nid felly Christmas Evans. Y mae ei bregethau ef yn darllen yn ardderchog — yn llawn o athrylith yr awdwr pan yn eu traddodi: y maent wedi eu cyfieithu i'r Seisoneg, ac yn cael eu hedmygu yn fawr gan y Seison ym Mhrydain ac America. Llawer o'r Americiaid a ofynant i'r Cymry yn aml, "Haye you heard the great Christmas Evans?" Y mae argraff athrylith yn hynodi pob peth ag y cyffyrddodd ag ef. Yn gydfynedol â'r galluoedd mawrion hyn, yr oedd yn meddu ar onestrwydd diffuant; hyny yw, didwylledd syml; ac at hyny weithgarwch a duwioldeb, fel yr oedd ei fywyd yn llawn dedwyddwch iddo ei hun a bendith i'r byd. Dywedir ei fod, o ran ei dymmer, yn frysiog ac anwadal; ond yr oedd yn deall hyny yn dda, ac yn gofidio o'r herwydd, gan ymdrechu cadw oddi wrth yr hyn oedd barod i'w amgylchu. Yr oedd yn un o areithwyr dirwestol mwyaf enwog Cymru. Yr oedd hefyd yn sefyll yn uchel fel llenor. Yr oedd wedi dysgu ei hun i raddau lled bell, ac felly wedi dyfod i wybodaeth o'r Groeg a'r Hebraeg pan wedi myned ym mlaen yn lled bell mewn dyddiau. Cyfieithodd ran o Esboniad y Dr. Gill ar y Testament Newydd i'r Gymraeg. Ysgrifenodd hefyd Esboniad ar Lyfr y Dadguddiad. Cyhoeddodd Mr. Evans yn y flwyddyn 1810, Mene Tecel, sef adolygiad ar waith Wesley ar Etholedigaeth. Cyfansoddodd lawer heb law hyny, ac ysgrifenodd lawer i'r cyfnodolion. Yr oedd yn emynwr da. Y mae "Christmas" yn uchel iawn yn nheml anfarwoldeb enwoion Ceredigion, Cymru, a Phrydain Fawr.

Nodiadau

[golygu]