Enwogion Ceredigion/James Davies, Abermeirig
Gwedd
← James Davies, Penmorfa | Enwogion Ceredigion Bywgraffiadau gan Benjamin Williams Bywgraffiadau |
Jenkin Davies → |
DAVIES, JAMES, gweinidog yn Abermeirig a Chiliau Aeron, oedd ganlyniedydd yr hybarch Philip Pugh. Yn y flwyddyn 1743 urddwyd Mr. Davies i gyflawn waith y weinidogaeth yn Crofft y Cyff, i fod yn gydweinidog â Mr. Pugh yn y Cilgwyn ac Abermeirig, a lleoedd ereill y llafurient ynddynt. Yr oedd yn dad i Evan Davies o Lanelli, am ba un yr ydym wedi crybwyll yn barod, a Daniel Davies, gynt o Ynysgau, Merthyr. Bu wedi hyny yn cynnorthwyo y Parch. Jobn Lewis, Pencader. Dychwelodd wedi hyny i Abermeirig; ac y mae yn debyg mai un o'r wlad hono oedd yn enedigol. Ryw amser cyn ei farwolaeth efe a symmudodd i Balas Cilcenyn, lle y bu farw.