Enwogion Ceredigion/John Davies, Pantglas
Gwedd
← Jenkin Davies | Enwogion Ceredigion Bywgraffiadau gan Benjamin Williams Bywgraffiadau |
John Davies (Canon Durham) → |
DAVIES, JOHN, o'r Pantglas, yn ardal y Cilgwyn, a ddygwyd i fyny i'r weinidogaeth, ac a gafodd addysg golegol. Bu am ryw amser yn pregethu yn y Cilgwyn a'r cylchoedd. Ymsefydlodd yn Llundain. Bu yn cynnorthwyo y Dr. Abraham Rees. Casglodd gyfoeth dirfawr, yr hwn a ddaeth, ar ol ei farwolaeth, i deulu Penlan, Llangybi, ac un Ann Evans, ar fynydd Llanfair.