Enwogion Ceredigion/Rhys Davies
← Moses Davies | Enwogion Ceredigion Bywgraffiadau gan Benjamin Williams Bywgraffiadau |
Ruben Davies, (Reuben Brydydd y Coed) → |
DAVIES, RHYS, neu RHYS DAFYDD DOMOS, pregethwr cynnorthwyol gyda'r Annibynwyr, a artrefai y rhan olaf o'i oes yn Saron, plwyf Llangeler, a anwyd ym Mhen Banc, plwyf Bettws Ifan, yn y flwyddyn 1772. Dechreuodd ei yrfa grefyddol yn lled fore, ac annogwyd ef i ddechreu pregethu. Aeth i'r ysgol i Glandwr, sir Benfro, yr hon a gynnelid gan yr enwog J. Griffiths, lle y daeth i wybodaeth lled dda o'r Seisoneg a'r Lladin. Ar ol gorphen ei yrfa addysgol, efe a symmudodd i'r Gogledd i gadw ysgol a phregethu. Efe oedd y cyntaf o'r Annibynwyr a fu yn pregethu yn Nhal y Bont, sef yn y flwyddyn 1803. Yr oedd y pryd hyny yn cadw ysgol ym Mhenal Meirion Yr oedd boneddiges o'r enw Mrs. Anwyl yn byw mewn lle o'r enw Llugwy, ger y lle hwnw, yr hon oedd yn aelod gyda'r Annibynwyr; a thrwy fod cyfeillion a pherthynasau ganddi yn Nhal y Bont, hi a agorodd y ffordd i Rhys Davies i fyned yno i bregethu. Arferai Rhys bregethu ar ben esgynfaen yn ymyl y "Llew Du." Gan fod Rhys yn rhyfedd o wresog a phoeth yn ei bregethau, daeth lluaws i wrando. Dilynwyd Rhys yno gan y Parchn. Dr. Philips, Neuaddlwyd, a T. Jones, Saron, ac ereill. Yr oedd Rhys yn un o ddynion hynotaf Cymru, yn llawn tân a lluched— y tân a'r pylor yn ochr eu gilydd bob amser; ac nid oedd ond y wreichionen leiaf yn ofynol cyn gyru yr hen drysorfa bylor yn wreichion gwyllt, yn un Etna fawr o dân a mwg, gwreichion, trystiau ac ufel ofnadwy, nes synu a brawychu dyeithriaid, a difyru y sawl oedd yn ei adnabod: yr oedd felly pan yn blentyn. Yr oedd yn arfer rhedeg a neidio, beth bynag, gymmaint ugain o weithiau a'i gyfoedion. Dywedir fod ei dad yn methu yn deg â chael pren digon caled a pharhäus i bâr o esgidiau coed i ddal bythefnos iddo, nes iddo yn y diwedd gael eithin Ffrengig digon praff yng Nghwm Pant yr Odyn. Ar ol cafnu a chymhwyso y pren eithin at draed Rhys, dywedir iddo fethu hollti na threulio y pâr hwnw dan ddeufìs, y rhai allasent ddal dwy flynedd i blant cyffredin. Nid oedd Rhys y pryd hyn ond rhyw bum neu chwe' mlwydd oed. Yr oedd yn llwm tân a lluched crefyddol; ni allasai geisio bendith ar ei fwyd heb boethi, ac yn fynch byddai yn gwaeddi "diolch" a " gogoniant" ddwy neu dair gwaith. Yr oedd yn weddïwr rhyfeddol o aml a thaer; ac ym mhob amgylchiad o eiddo ei hun a'i gydnabod, byddai yn gweddïo yn y fan, mewn modd rhyfeddol. Yr oedd un tro er ys tua phump a deugain o flynyddau yn ol, yn amser adfywiad poeth iawn yn y wlad, yn dechreu y cyfarfod o flaen y Parch. T. Griffiths, Hawen, pan yr erfyniai Mr. Griffiths arno am beidio myned yn boeth ac ym mhell i'r hwyliau, onid e nad allesid byth fyned ym mlaen â'r addoliad. "O'r goreu," ebai yntau. Aeth rhagddo yn fwy-fwy i'r gwynt bob mynyd, gan waeddi " diolch," " gogoniant" yn holl nerth ei beiriannau llafar. Yr oedd y gynnulleidfa yn myned i'r eithafion mewn gwaeddi, a Mr. Griffiths yn tynu godreu ei got bob chwarter mynyd yn arwydd iddo am orphen; ond nid oedd dim yn effeithiol. Ond gan ei fod yn gorphwys mewn rhan ar ei glun bren, cafodd dyniad nes yr oedd ar ei eistedd yn y bregethfa. Ond wedi eistedd, gwaeddai nerth ei geg "Diolch! Diolchl Gogoniant! Gogoniant!" nes yr oedd y cyfan yn un crychias o dònau a llif teimladau trwy yr addoldy.
Pan yr oedd yn pregethu yng nghymmydogaeth Trawsfynydd, aeth William Williams, wedi hyny, y Parch. W. Williams, Wern, i'w wrando. Nid oedd ar y pryd ond tair ar ddeg oed; a dywedir mai y pryd hyny yr ymaflodd y gwirionedd yn ei galon. Fel hyn, iddo ef y priodolir troedigaeth y dyn mawr hwnw. Dywedir mai yr achos iddo golli ei glun oedd neidio mewn " diwygiad" trwy ei niweidio, a chadw botas newydd danllifaid am dani ar ol yr anffawd, yr hyn a ganlynodd mewn gorfodiaeth i'w thori ffwrdd. Ar ol hyny, adwaenid ef gan lawer wrth yr enw "Rhys y Glun Bren." Gofynai gwr dyeithr gweddol barchus iddo unwaith, pa beth oedd wedi gael ar ei glun? "O," ebai yntau, "nid yw hyny ddim pwnc o iachawdwriaeth i chwi."
Teithiodd lawer iawn ar hyd a lled y wlad i bregethu. Aeth i gymmanfa ym Mrycheiniog, ond gan iddo fethu cyrhaedd yn brydlawn, bu yn gyfyng arno am letty; ond addawodd un gwr cyfrifol y gwnelai rywbeth iddo. Felly trefnwyd gwely iddo mewn ystafell fechan dan y grisiau. Yr oedd yn methu yn lân â chysgu trwy gydol y nos gan fod y morwynion yn ol ac ym mlaen yn darparu bwyd erbyn ciniaw dranoeth. Ond rywbryd cyn y boreu, syrthiodd un o'r merched ar hyd y grisiau, a gwaeddai yntau allan, " Gogoniant, dyna'r d—l â'i faglau i fyny." Yr oedd wedi cael gwerthiant Llythyr y Gymmanfa yn etifeddiaeth, a byddai yn teithio gwlad a gorwlad i'w werthu; ac yr oedd yr olwg arno yn nrysau y capeli, neu byrth y mynwentydd, yn ddigrif dros ben. Ni roddai, meddai, lonaid gwniadur o soeg am grefydd neb, os na phrynent Lythyr y Gymmanfa.
Arferai bregethu yn ardal Aberteifi. Sylwai boneddwr ag oedd â'i balas ar fin y ffordd ar yr hen wr a'r glun bren yn myned heibio; ond y mae yn debyg nad oedd efe wedi sylwi dim ar y boneddwr. Un tro cyd-deithiai gydag ef am chwarter milltir, gan achwyn ar y gwres, a bod syched arnynt. , "O," ebai y boneddwr, "ni awn i mewn i'r palas yma, y mae yma bobl garedig." Felly yr aethant. Ni wyddai Rhys yn y byd pwy oedd y boneddwr. Eisteddodd pob un honynt mewn ystafell fechan ger y gegin. Cododd y boneddwr, ac agorodd gwpwrdd, gan gymmeryd costrel o gwrw, gan gynnyg gwydraid i Rhys. Gwaeddai Rhys allan "Y dyn ofnadwy, a ddaethym yma i gael fy nal fel lleidr" Ond er cymmaint a waeddai, ni chymmerai neb nemawr sylw. Aeth Rhys allan yn llawn helbul, gan waeddi a gweddio; ac elai y gwr dyeithr allan hefyd, gan gymmeryd costrel arall yn ei god. Ond yr oedd Rhys yn gwaeddi fwy fwy, nes yr oedd wedi llwyddo i gael pawb o bobl y ty i wrando bellach. Gorfu ar y gwr dyeithr hysbysu mai efe oedd Mr. — a breswyliai yn y palas, gan roddi iddo bunt, a gorchymmyn i alw bob tro y delai heibio. Tywalltodd Rhys bentwr o fendithion ar ei ben, gan ymadael
Yr oedd Rhys yn ddyn o alluoedd cryfion, ac efe a arferai gyfansoddi pregethau da, ond traddodai hwynt yn wyllt a chawdelog. Nid oedd byth yn absenu neb. Er ei dymmer boeth, nid oedd neb yn ammheu ei ddidwylledd a'i dduwioldeb. Bu farw Ionawr, 1847, yn 75 mlwydd oed. Ger llaw y ty y ganed ef y mae Pwllpair, lle mae yr afon Dulas yn cwympo dros graig; a dyna sydd yn rhyfedd, fod tebygolrwydd mawr yn nhymmer a thraddodiad Rhys Yr rhaiadr — yn chwalu, byrlymu, a rhuo.