Enwogion Ceredigion/Sion Bowen
← Daniel Bowen | Enwogion Ceredigion Bywgraffiadau gan Benjamin Williams Bywgraffiadau |
Thomas Bowen → |
BOWEN, SION, Glynllebyng, Troed yr Aur, oedd foneddwr yn ei flodau tua chanol y canrif diweddaf. Preswyliai yn ei blasdy ei hun, Glynllebyng, a elwir yn awr Troed yr Aur. Y mae llawer o hen gyfrolau o Halsingau, neu Alseiniau, i'w cael ya nhair swydd Dyfed. Cawsant eu cyfansoddi, gan mwyaf, yn y ddau ganrif diweddaf. Yr oedd Sion Bowen yn awdwr cyfrol led fawr o'r caneuon hyn. Llawysgrifau ydynt. Wele enghraifft o ddechreu un o'i ganeuon ar y Greadigaeth : —
"Yr hen Satan cas, ar lun neidr las,
Ddywedai yn fwyn, wrth Efa'n y llwyn,
Pe bwytech chwi Gwen o afal y pren,
Fel duwiau chwi faech, a marw ni wnaech."
Yr oedd Sion Bowen yn awdwr llawer o ganeuon heb law
Alseiniau. Yr oedd y diweddar Barch. T. Bowen, Rheithor
Troed yr Aur, yn ŵyr iddo.