Neidio i'r cynnwys

Enwogion Ceredigion (Testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Enwogion Ceredigion

gan Benjamin Williams

ENWOGION CEREDIGION


BENJAMIN WILLIAMS
(GWYNIONYDD)


"Y Sir oll a fesuraf,
Deifi i Ddyfi 'ddaf"
Deio ab Ieuan Ddu


Caerfyrddin:
ARGRAFFWYD GAN W. SPURRELL
1869

I

R. D. JENKINS, YSW.,


PANTIRION,


Y CYFLWYNIR Y GWAITH HWN,


YN ARWYDD O BARCH,


FEL DISGYNYDD O LEWESIAID ABERNANT BYCHAN,


NAI I'R HYGLOD IFOR CERI,


AC UN


"A GARA LWYDD GWYR EI WLAD,"


GAN EI UFUDDAF WASANAETHYDD,


YR AWDWR.

RHAGLITH.

Mae llawer o'r Gwaith canlynol yn hen ymchwiliad o'n heiddo. Yr ydym wedi ein geni, ein magu, a threulio y rhan fwyaf o'n hoes yng Ngheredigion; ac at hyny, wedi talu llawer o sylw i hynafiaeth y wlad, gan ysgrifenu nid ychydig ar y pwnc i wahanol gyfnodolion, ac felly dysgwyliwn na chaiff un hynafiaethydd ei siomi yn y gwaith. Ond am yr anneallus, ni fydd ei syniad am dano o un pwys.

Cydnabyddwn lyfryn trylen y Parch. W. Edmunds, ar Hen Deuluoedd yn ardal Llanbedr, am rai o'r defnyddiau sy genym.

Mae pob cangen o wybodaeth yn gofyn llawer o ymchwil cyn ei meistroli; ond y mae yr "Eisteddfod," neu yn hytrach un neu ddau o'i swyddwyr, yn golygu hynafiaeth Gymreig yn wahanol, gan y penodir dynion heb erioed dalu sylw i'r wyddor yn feirniaid; ac ymesyd dynsodion anhynafiaethol at ysgrifenu, a thyciant yn fynych i gael gwobrau, ac felly mae Uenyddiaeth Gymreig yn ddirmygus yng ngolwg y byd. Enwogion siroedd ereill yw y Parchedigion Eliezer Williams, Llanbedr; B. Evans, Drewen; Dr. Phillips, Neuadd Lwyd; Eben. Richard, Azariah Shadrach, ac amryw ereill; gan hyny anghyfiawnder fyddai eu gosod yma. Mewn ammheuaeth rhoddasom i mewn D. Williams, awdwr History of Monmouthshire, &c., ar awdurdod Bibliotheca Britannica gan Dr. R. Watt, 1824, cyf. i., tud. 968; Cyclopopdia Bibliographica, gan James Darling, 1854, cyf. ii., tud. 3212; Beeton's Dictionary of Universal Biography tud. 1095; Chambers's Book of Days cyf. i., tud. 826 — 7 (1864); Enwogion Cymru; Traethodydd 1855, tud. 325: ond nid ydym wedi llwyddo i gael dim o'i hanes yn ardal Aberteifi a Llechryd; a dywed Cadben Morris mai yn agos i Gaerdydd y cafodd ei eni; ac y mae lle i gredu mai camgymmeryd Cardigan yn lle Cardiff a wnaed, gan y dywedir ym Morganwg mai yn agos i Watford y cafodd ei eni.

Diolchwn yn wresog i Reithor parchus Llangeitho ac ereill am eu cefnogaeth i ddyfod â'r gwaith trwy'r wasg.

Buom dan orfod talfyru llawer o'n sylwadau ar Ddafydd ab Gwilym, ac amryw ereill, o herwydd y draul.

Llangeitho, Alban Hefin, 1868.

ENWOGION CEREDIGION.


———————

AFAN BUALLT ydoedd sant enwog yn byw yn gynnar yn nechreu y chweched canrif. Yr oedd yn fab i Cedig ab Ceredig ab Cunedda Wledig, o Degwedd, ferch Tegid Foel, o Benllyn. Yr oedd fel hyn yn fab i dy wysog Ceredigion, ac felly, yn ol pob tebygolrwydd, yn Geredigwr genedigol. Ëfe a sylfaenodd Eglwys Llanafan y Trawsgoed yng Ngheredigion; ac hefyd Llanafan Fawr a Llanafan Fechan yng Nghantref Buallt; ac o herwydd iddo sefydlu ym Muallt, cafodd ei alw yn Afan Buallt. Efe a gladdwyd yn Llanafan Fawr, lle mae ei fedd hyd heddyw yn cael ei ddangos, â'r cerfìad canlynol amo: —

"Hic jacet Sanctus Avenus."

Meddylir mai efe ydoedd trydydd esgob Llanbadarn Fawr; ac oddi wrth hyny meddylir fod esgobaeth Llanbadarn yn cynnwys y plwyfi hyny yng Nghantref Buallt Y mae ei wyl ar yr unfed ar bymtheg o Dachwedd. — Rees's Welsh, Saints, &c.

ANGHARAD, ferch Meurig, ydoedd ferch Meurig, neu Morydd, brenin Aberteifi, yn yr wythfed canrif; priododd â Rhodri Mawr, Tywysog Gwynedd; a chan i'w brawd, Gwgan, foddi yn yr afon Llychwr, yn y flwyddyn 870, wrth ymlid y Paganiaid Duon, sef y Daniaid, o'r wlad, daeth breniniaeth Aberteifi, sef etifeddiaeth ei brawd, yn eiddo i'w phriod Rhodri Mawr. Yr oedd Rhodri Mawr yn feddiannol ar Wynedd drwy etifeddiaeth, ar ran ei fam, Essyllt, merch Cynan Tindaethwy. Daeth Powys iddo drwy etifeddiaeth, ar ran ei famgu, mam ei dad, yr hon oedd chwaer ac etifeddes i Congen ab Gadell, Brenin Powys; a chan iddo yn y modd hyn ddyfod yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru, cafodd, y mae yn debyg, ei alw yn Rodri Mawr. Rhanodd ei deyrnas yn dair rhan; Gwynedd i Anarawd, a'i lys oedd yn Aberffraw, Mon; Powys i Merfyn, a'i lys oedd ym Mathrafel; a Cheredigion i Cadell, a'i lys oedd yn Dinefwr. O Gadell yr hanodd tywysogion y Deheudir. Mab Cadell ydoedd yr enwog Hywel Dda.

ANGHARAD, ferch Meredydd. Yr oedd Meredydd, tad Angharad, yn fab i Owain ab Hywel Dda, Tywysog Ceredigion. Nid oes digon o sicrwydd pa un ai yn Aberteifi neu ynte yn Ninefwr y ganwyd yr etifeddes; ond gan fod y ddau enw yn cael eu coffa fel y gwelir yn ewyllys Hywel Dda, sef fod Owain ei thad yn Frenin Ceredigion, cymmerwn yn debyg mai yng Ngheredigion y dechreuodd ei hoes. Priododd Angharad â Llywelyn ab Seisyllt, pan nad oedd ond pedair ar ddeg oed; ac ar ol marwolaeth Llywelyn yn y flwyddyn 1021, hi a briododd Cynfyn ab Gwerystan, Arglwydd Cibwyr, yng Ngwent, ab Gweithfoed ab Gloddion ab Gwrydr Hir ab Caradawg. Mab Llywelyn ab Seisyllt ac Angharad ydoedd y tywysog call Gruffydd ab Llywelyn.


ARNOTHEN, Brenin Aberteifi. Yr oedd y tywysog hwn o flaen Artholes yn y rhes freninol


ARTHEN AB SEISYLLT ydoedd Frenin Aberteifi; yn ol y Brut, bu farw yn y flwyddyn 804, sef yr un flwyddyn a Rhydderch, Brenin Dyfed, ac a Chadell, Brenin Teyrnllwg, sef Powys.


ARTHEN AB SULIEN ydoedd ail fab Sulien Ddoeth, Archesgob Ty Ddewi. Ymddengys fod Sulien Ddoeth, cyn iddo gael ei ddewis yn Archesgob Ty Ddewi, yn perthyn i Gôr Llanbadarn Fawr, yng Ngheredigion, lle y dygodd ei feibion i fyny yn uchel mewn dysg eglwysig.


ARTHOLES, Brenin Aberteifi, rywle o'r pummed i'r seithfed canrif.


ASSUR, Brenin Aberteifì, a geir yn y rhes o flaen y ddau flaenorol. BACH ydoedd seithfed mab Gweithfoed Fawr, Arglwydd Ceredigion. Etifeddiaeth Bach ydoedd arglwyddiaeth Ysgynfraith.

BEVAN, THOMAS, y cenadwr ym Madagascar, a anwyd ym Mhenrhiw, ym mlwyf Henfynyw. Cafodd ei dder- byn yn aelod yn y Neuaddlwyd pan yn weddol ieuanc, a dygwyd ef i fyny yn yr athrofa hòno ar gyfer y weinidogaeth. Tueddwyd ei feddwl i fyned allan yn genadwr i Madagascar; ac yn Awst, 1817, cafodd ef a gwr ieuanc arall o'r ardal hono, o'r enw Dafydd Jones, eu hurddo yn y Neuaddlwyd, i'r dyben hyny. Thomas Bevan a Dafydd Jones oedd y ddau genadwr Protestanaidd cyntaf a diriasant ym Madagascar. Gwnaeth y Pabyddion un ymdrech i sefydlu cenadaeth yn yr ynys, ond gan iddynt gymmeryd ffordd fygythiol ar y brenin gorfu arnynt adael y wlad. Gadawodd Bevan a Jones Brydain yn niwedd y flwyddyn rag-grybwylledig, ac a gyrhaeddasant Mauritius yn Ebrill, 1818; ac yn Awst, hwy a aethant drosodd i Madagascar, lle y cawsant dderbyniad croesawgar gan Fisitra, Brenin Tamatave, yr hwn a ddanfonodd ei fab, yng nghyd â deg neu ddeuddeg o blant atynt i'r ysgol. Yr oedd llawer wedi bod yn mynegu nad oedd un modd yn y byd i ddysgu y genedl hono; ond deallodd y cenadon yn fuan fod galluoedd lled dda i ddysgu gan y plant. Yr oedd y plant megys yn dyfod ym mlaen heb yn wybod. Ar ol iddynt gael y fath dderbyniad caredig yn yr ynys, dychwelasant i Mauritius i ymofyn eu gwragedd a'u plant: y Parch D. Jones a ddychwelodd gyntaf i Mauritius; ond cyn dychweliad y Parch. T. Bevan yn ol i Tamatave, gofynodd i un o'r masnachwyr, pa fodd yr oedd Mr. Jones a'i deulu; yntau a atebodd, "O, y mae ei wraig a'i blentyn wedi eu claddu, ac y mae yntau ei hun yn dra annhebyg i fyw." Pan glywodd hyny, efe a dorodd allan i wylo yn hidl, gan barhau felly oddi yno i artref ei barchus a'i ofidus frawd. Pan aeth i olwg Jones, ymaflodd yn ei law, a dywedodd dan wylo, "Y mae fy ngwaith i ar ben, ond chwi a fyddwch byw ac a lwyddwch; ymwrolwch, a chymmerwch galon." Yna dywedodd Mr. Jones, "Tewch, myfi sy glaf, yr ydych chwi yn iach." Mr Bevan a ddywedodd, "Chwi a gewch weled mai gwir a ddywedais, ac fe ddaw un arall i lanw fy lle." Bu farw Mr. Bevan ym mhen y tridiau; a'i wraig a'i blentyn a fuont feirw ar ei ol ef yn fuan. A chyn diwedd Ionawr, 1819, yr oedd pump o'r chwech cenadon, a'u teuluoedd wedi marw, a'r chweched yn glaf. Fel hyn gorphenodd y cenadwr ieuanc hwn ei yrfa.

BOWEN, DANIEL, A.C, ydoedd unig fab Thomas Bowen, Ysw., Waenifor, plwyf Llandyssul. Bu ar y cyntaf yn derbyn addysg dan yr hyglod Ddafis o Gastell Hywel, ac wedi hyny ym Mhrifysgol Rhydychain, lle y cafodd ei raddio yn A.C. Cafodd fywoliaeth fechan Eglwyswen, sir Benfro, ac wedi hyny fywoliaeth Llanllwni a Llanfihangel Rhos y Corn. Y mae Llanllwni yn agos i balas Waenifor, ac felly efe a breswyliodd drwy ei oes yn ei balas genedigol, gan wasanaethu Llanllwni, a thalu curadiaid yn y ddwy arall. Er ei fod yn dal y tair Eglwys, eto dylid ystyried eu bod o ran eu gwerth arianol yn fychan iawn. Y mae cymmeriad hen deulu parchus Waenifor yn uchel iawn yn y wlad, am elusengarwch a chrefyddoldeb; ac yr oedd y Parch. D. Bowen yn sefyll cyfuwch â neb o honynt. Yr oedd yn berchen tua mil o bunnau y flwyddyn oddi wrth ei ystâd; ac yr oedd yn cyfranu yn helaeth i bawb yn eu hangen. Arosai yn ei gerbyd yn aml, pan ym mhell o gartref, er mwyn holi amgylchiadau rhai fyddai yn weled yn dwyn arwyddion tlodi. Rhoddodd yn ei ewyllys, bob o bedwar cant i blwyfi Llanllwni, Llanwenog, Llandys- sul, ac Eglwyswen, tuag at gynnal ysgol i'r tlodion. Rhoddodd hefyd 12p. y flwyddyn o ysgoloriaeth i Goleg Dewi Sant: y flaenoriaeth i berthynasau y cymmunroddwr. Rhoddodd hefyd swm i'r Feibl Gymdeithas. Bu farw yn y flwyddyn 1848, yn 71 mlwydd oed. Rhoddodd y rhan fwyaf o ystâd Waenifor i'w nai, John Lloyd, Ysw.; ac y mae yn bresennol ym meddiant nai arall, y Parch. Charles Lloyd, yr hwn sy foneddwr teilwng o'i deidiau. (Bu farw y Parch. C. Lloyd ar y Sulgwyn, 1867, Safai yn uchel iawn fel offeiriad a boneddwr.)


BOWEN, SION, Glynllebyng, Troed yr Aur, oedd foneddwr yn ei flodau tua chanol y canrif diweddaf. Preswyliai yn ei blasdy ei hun, Glynllebyng, a elwir yn awr Troed yr Aur. Y mae llawer o hen gyfrolau o Halsingau, neu Alseiniau, i'w cael ya nhair swydd Dyfed. Cawsant eu cyfansoddi, gan mwyaf, yn y ddau ganrif diweddaf. Yr oedd Sion Bowen yn awdwr cyfrol led fawr o'r caneuon hyn. Llawysgrifau ydynt. Wele enghraifft o ddechreu un o'i ganeuon ar y Greadigaeth : —


"Yr hen Satan cas, ar lun neidr las,
Ddywedai yn fwyn, wrth Efa'n y llwyn,
Pe bwytech chwi Gwen o afal y pren,
Fel duwiau chwi faech, a marw ni wnaech."


Yr oedd Sion Bowen yn awdwr llawer o ganeuon heb law Alseiniau. Yr oedd y diweddar Barch. T. Bowen, Rheithor Troed yr Aur, yn ŵyr iddo.

BOWEN, THOMAS, Gwaenifor, oedd dad y Parch. D. Bowen uchod. Yr oedd yn foneddwr enwog am ei elusengarwch, haelioni, hynawsedd, a chrefyddoldeb. Hanai o hen deulu Castell Hywel. Sylfaenydd yr enw Bowen, oedd Owain mab Dafydd ab Rhydderch o Bantstreimon. Hen gartref y Boweniaid oedd Bwlchbychan. Bu John Thomas, awdwr Caniadau Sion, yn cadw ysgol yngr Ngwaenifor, Rhoddai Mr. Bowen ysgol i lawer iawn o dlodion yr ardal. Adeiladodd gapel ger llaw y palas yn 1750, lle, mae yn debyg, y cynnelid yr ysgol. Yr oedd yn uchel yn ei nodwedd grefyddol, ac felly hefyd y teulu oll. Bu farw yn y flwyddyn 1805, a phrofwyd ei ewyllys yn y llys yng Nghaerfyrddin yn y flwyddyn ganlynol. Mae y capel yn eiddo y Trefnyddion Calfinaidd.


BROTHEN, Tywysog Ceredigion, yr hwn a flodeuodd tua diwedd y chweched canrif. Tybia rhai mai yr un ydoedd a Brothen ab Helig ab Glanawg, yr hwn a sylfaenodd Eglwys Llanfrothen ym Meirionydd; ond y mae hyny yn dra ammhëus, gan fod tebygolrwydd mai un o deulu Ceredig ab Cunedda Wledig ydoedd y Brothen hwn.


CADIFOR AB DINAWOL ydoedd yn hanu o Idwal (neu Tudwal) Gloff ab Rhodri Mawr, ac yn orwyr i Asser o Dy Ddewi, neu Asser Menevensis, un o ddysgedigion penaf Cymru yn y cynoesoedd. Daeth Cadifor yn enwog fel rhyfelwr o dan Rhys ab Gruffydd, Tywysog y Deheudir, neu fel y galwai y Seison ef, "Lord Rees." Yr oedd Cadifor hefyd yn gefnder i'r tywysog. Yr un o'r amser- oedd mwyaf dychrynllyd, ond eto yn ogoneddus, pan gasglodd Harri II., Brenin Lloegr, holl bigion milwyr ei deymas, yn gystal ag o Normandi, Fflanders, Angyw, Gwasgwyn, Guien, a'r Alban, ar gyfer llwyr ddyfetha cenedl y Cymry, a'u dilëu o'r wlad, yr oedd y brenin yn gwersllu yn agos i Groes Oswallt. Ar yr adeg ofnadwy hon, ymunodd y Cymry yn well nag erioed. Owain Gwynedd, a'i frawd Cadwaladr, Rhys ab Gruffydd, Owain Cyfeiliawg, a lorwerth Goch, a meibion Madawg ab Idnerth, a aethant i'w erbyn i ardal Corwen. Y brenin wrth weled yr undeb gogoneddus hwn, a giliodd i fynydd Berwyn; ac yno cafodd ei warchae mor galed gan y Cymry, a chan ystormydd o wlaw a tharanau, a orfu encilio gyda gwarth a cholled i Loegr. Ar ol dychwelyd, cyflawnodd un o'r gweithredoedd mwyaf dieflig a geir nemawr mewn hanes, sef dilygeidio Cadwallawn a Chynfrig, dau fab Owain Gwynedd, a Meredydd, mab yr Arglwydd Rhys, ac ereill Yn yr amser ofnadwy hwn, daeth Cadifor ab Dinawol i enwogrwydd. Yr oedd yn bresennol yn y frwydr hono ger y Berwyn; ac wedi dychwelyd i'r Deheudir, ymosododd, o dan ei dywysog a'i gefnder, ar Gastell Aberteifi, yr hwn ydoedd wedi ei drawsfeddiannu gan y Normaniaid a'r Fflandrysiaid, ac a'i cymmerodd. Ar ol yr orchest hon, cafodd ei greu gan ei dywysog yn Arglwydd Castell Hywel, Pantstreimon, a'r Gilfach Wen; a chafodd Cathrin, merch y tywysog, yn wraig. Ar ol hyn, cartrefodd yng Nghastell Hywel, ym mhlwyf Llandyssul. Yn sefydliad Cadifor ab Dinawol yng Nghastell Hywel, yr ydym yn cael planiad un o'r coedydd achyddol mwyaf cangenog yng Ngheredigion, os nid yn Neheudir Cymru. Oddi yma yr hanodd teuluoedd y Llwydiaid braidd uwch law cyfrif; megys Gallt yr Odyn, Pantstreimon, Gilfach Wen, Ffoshelyg, Dyffryn Llynod, Ffosesgob, Gwernmacwy, Llanllŷr, Llanfechan, Mynydd Hywel, Maes y Felin, Ffynnon Bedr, Crynfryn, Bronwydd, Berllan Dywell, yng nghyd â'u holl gyssylltiadau dros yr holl wlad. Mewn hen ysgriflyfr yng Ngallt yr Odyn, ceir y traethiad a ganlyn am Gadifor :—

"Cadifor ab Dinawol, a man of great valour and couduct, had taken the castle of Cardigan from the Earl of Clare, and the Flemings, by scalado, was honoured by his prince, who was also his fìrst cousin (viz., the great Lord Rhys, Prince of South Wales), for that service with these arms (viz.), — sable, a spear's head embrued between three scaling-ladders argent, on a chief gules a castle triple-towered of the seeond. He was also rewarded with divers territories, and entitled Lord of Castell Hywel, Pantstreimon, and Gilfach Wen, in the parísh of Llandyssul, in the county of Cardigan; he married Catherin, daughter of the said Lord Rhys."

Fel y sylwa Syr S. R. Meyrick, y mae yn debyg fod y nodiad uchod wedi ei ysgrifenu yn ddiweddarach nag amser Cadifor; ond y mae yn amlwg mai ei gyfieithu o ryw ysgriflyfr Cymreig a wnawd. Yn yr amser y cymmerodd Cadifor Castell Aberteifì, yr oedd yn gadarn aruthrol, yn "Redan" y wlad, ac yn allwedd y Deheudir. Fel hyn, teg y gwnaeth y tywysog gydnabod y rhyfelwr gwrol mor anrhydeddus; ac nid rhyfedd fod y teuluoedd lluosog ar hyd y wlad yn ymffrostio yn eu pen-cenedl anrhydeddus. Cawn yn y gwaith hwn grybwyll yn aml am ddisgynyddion Cadifor; ond y mae yn gweddu i draethu yn y fan hon, i Ifor ab Cadifor ab Gweithfoed briodi Lleuci, merch Cadifor ab Dinawol, ac i Phylyb ab Ifor briodi Catherin, merch Llywelyn ab Gruffydd, yr olaf o dywysogion Cymru, Bu iddymt ferch, o'r enw Elen Goch, yr hon a briododd â Thomas ab Llywelyn, o Ddinefwr. Priododd Marged â Thudur ab Gronwy, o Ben Mynydd Mon; ac Elinor a briododd â Gruffydd Fychan, Glyndyfrdwy; ao o deulu Pen Mynydd Mon yr hanodd teulu breninol Lloegr; ac o Lyndyfrdwy yr hanodd y gwrol Owain Glyndwr. Yr oedd y boneddigion a grybwyllasom, y Mri. Bowen, o Waenifor, yn hanu mewn dwy ffordd o Gadifor ab Dinawol

CADIFOR, Abad Ystrad Fflur. Bu farw yn y fl. 1228.


CADIFOR AB GRONW ydoedd bendefig o Ceredigion, yr hwn, yng nghyd â Hywel ab Idnerth, a Thrahaiarn ab Ithel, a wahoddodd Gruffydd ab Rhys o Ystrad Tywi, i ddyfod drosodd yn dywysog ar Geredigion, ac i erlid ffwrdd y Normaniaid o'r wlad. Ar eu cais, daeth Gruffydd atynt, a chasglasant fyddinoedd, ac yn gyntaf, cymmerasant gastell Blaenporth, ac wedyn aethant yn y blaen yn eu rhwysg filwrol, gan gymmeryd castell y Peithyll; ac ni orphwysasant nes adennill y wlad. Cymmerodd y symmudiad le tua'r flwdydyn 1117.

CADIFOR AB GWEITHFOED, Arglwydd Ceredigion. Dilynodd ei dad yn arglwyddiaeth Ceredigion, a Gwynfai yn y flwyddyn 1057. Priododd â Siwan, Merch Elystan, Tywysog Fferle.


CADWGAN AB BLEDDYN ydoedd fab Bleddyn ab Cynfyn o Bowys. Nid ydyw yn eithaf sicr mai yng Ngheredigion y ganwyd y tywysog, er y gallasai hyny fod, ond gan iddo chwareu rhan mor bwysig fel Tywysog Ceredigìon, y mae yn rhesymol ei osod i mewn yma. Yn ol llyfrau yr achau, y mae yn ymddangos fod hawl etifeddol ganddo yng Ngheredigion. Yr ydym wedi traethu yn barod am Angharad, ferch Meredydd, Tywysog y Deheudir. Er mwyn dangos hyny, ni a godwn y dernyn canlynol : —

"Brodyr unfam y tywysawg a las, sef Gruffydd ab Llywelyn, a gawsant Wynedd a Phowys, nid amgen Bleddyn ab Cynfyn ab Gwerystan, Arglwydd Cibwyr, a Rhiwallon ei frawd, hwy a ddoded yn dywysogion Gwynedd a Phowys ym mraint etifeddion tywysogion Dinefwr, o Gadell ab Rhodri Mawr. Sef etifeddes y dywysogaeth hòno ydoedd Yngharad, ferch Meredydd ab Owain ab Hywel Dda, a fu wraig briod Llywelyn ab Seisyllt; a gwedi lladd Llywelyn, hi a briodes Cynfyn ab Gweryetan, Arglwydd Cibwyr yng Ngwent, ab Gweithfoed ab Gloddion ab Gwrydr Hir ab Caradawg ab Llew Llawddeawg ab Ednyfed ab Gwinau ab Gwaenoc Goch ab Cnydion," &c.

"A'r brodyr hyn, sef Bleddyn a Rhiwallawn, a ddygasant deyrnedd gwlad Bowys o wehelyth Brochwel Ysgythrawc, peth nîd oedd iawn ei fod." ( Hanes Cymru gan Carnhuanawc, tud. 443.)


Y mae y dyfyniad uchod yn taflu goleuni ar y cyssylltiad perthynasol a feddai Cadwgan ab Bleddyn â Cheredigion, sef ei fod yn ŵyr i'r Dywysoges Angharad. Dilynodd Cadwgan ei dad yn yr etifeddiaeth yn y flwyddyn 1079. Yn y flwyddyn 1094, efe a orchfygodd y Normaniaid yng Ngheredigion; ac mewn ail frwydr, fyddin o'r un bobl, y rhai oeddynt yn trawsfeddiannu rhan o Ogledd Cymru; ac efe a gymmerodd ac a ysbeiliodd Henfffordd, Amwythig, a Chaerwrangon. Wedi sicrhau meddiant o Geredigion yn Nadolig 1107, efe a wnaeth wledd, sef eisteddfod ardderchog yng Nghastell Aberteifi, i'r hon y gwahoddodd efe holl dywysogion a phenaethiaid pob rhan o Gymru, lle y cawsant eu difyru â chaniadau y beirdd a'r cerddorion. Ond yn y lle dyddan, cymmerodd amgylchiad o ganlyniadau gofidus le. Ym mhlith y gwahoddedigion anrhydeddus, yr oedd Nest, merch Rhys ab Tewdwr Mawr, gwraig Gerallt de Windsor, ceidwad castell Penfro. Cwympodd Owain ab Cadwgan mewn serch â'r ddynes ddeniadol hòno; a chyn hir, aeth efe â thua phedwar ar ddeg o'i gyfeillon i ymweled â chastell Penfro; a chan ei fod yn berthynas i Nest, y mae yn debyg iddo gael groesawiad caredig yn y castell. Ond yn nyfnder y nos, gosododd Owain dai allan y castell ar dân, ac a ruthrodd i mewn i'r castell, a chymmerodd ymaith Nest a'i phlant, gan adael y lle ar dân. Aeth y weithred ddrygionus hòno i glustiau Brenin Lloegr, a'r canlyniad fu, dial ar Gadwgan, ei dad. Ar ol profi ei ddiniweidrwydd, cafodd ddal gafael ar Geredigion. Amddiffynodd Cadwgan ei awdurdod yn erbyn ymdrechion ei neiaint hyd y flwyddyn 1110, pan yr ymosodwyd arno yn ddisymmwth gan Madog ei nai, pan yn ei gwsg, yn ei gastell newydd yn y Trallwng, lle y cafodd ei ladd, cyn cael amser i dynu ei gleddyf i amddi£fyn ei hun. Y mae Camden ac ereill yn rhoddi clod mawr i'r tywysog hwn am ddewrder a doethineb. Y mae yn debyg fod Castell Cadwgan, ger Aberaeron, yn dwyn ei enw

CADWGAN AB MEREDYDD oedd fab Meredydd ab Gruffydd ab Rhys ab Tewdwr. Yr oedd Cadwgan yn nai i'r Arglwydd Rhys, ac yn Arglwydd Ceredigion. Mewn brwydr bwysig a gymmerodd le rhwng Rhys ab GrufFydd â Harri II. ym Mhencadair, pan y cyfryngodd gwŷr da Brycheiniog rhwng y brenin a Rhys, rhoddodd Rhys ei ddau nai yn wystlon o'i heddwch, sef Ëiniawn ab Anarawd, a Chadwgan ab Meredydd. Yn fuan, drwy ddichell y Seison, cafodd Cadwgan ei ladd yn ei gwsg gan Walter ab Richard, ei was, a chafodd Einiawn yr un dynged gan Walter ab Llywarch.

CADWGAN AB OWAIN ydoedd fab Owain, Tywysog Aberteifi, ac ŵyr i Hywel Dda. Lladdwyd ef gan y Seison yn y flwyddyn 949. (Myf. Arch. i. 44.)


CARANOG, yn Lladin Carantocus ydoedd fab Corun ab Ceredig, a brawd i Tyssul. Efe a sylfaenodd Eglwys Llangranog. Y mae ei wyl ar 16fed o Fai. Y mae John Teignmouth yn ei osod yn fab, ac nid ŵyr i Geredig, ac y mae y dyfyniad canlynol o waith yr awdwr, yr hwn a gyfieithwyd gan Cressy, yn ddrych rhagorol o'r hyn yr ydoedd bywydau y seintiau yn cael eu hysgrifenu yn y canol oesoedd. Ar ol traethu fod Caranog "drwy ddisgyniad a gwlad yn Frython, mab Ceredig, Tywysog Ceredigion (Cereticae Regionsis): y mae y cyfieithydd yn myned rhagddo: "Rhyw dywysog o'r enw Ceredig, a feddai amryw blant; ym mhlith y rhai, yr oedd un o'r enw Carantoc, plentyn o anianawd dda, yr hwn a ddechreuodd yn foreu i wneyd y pethau hyny ag ydynt dderbyniol gan Dduw. Yn y dyddiau hyny, yr oedd yr Ysgotiaid yn blino Prydain, fel yr oedd ei dad yn analluog i ddal pwys gofidiau y llywodraeth, a fynai roddi i fyny y dalaeth i Garanog. Ond efe, yr hwn a garai y Brenin nefol yn llawer mwy na theymas ddaiarol, a ffoiodd ymaith; ac wedi prynu ysgrepan a ffon gan fenyw dlawd, drwy gyfarwyddyd Duw, a ddygwyd i fan dymunol, lle efe, a orphwysodd, ac a adeiladodd addolfa, ac yno efe a dreuliodd ei amser gan foliannu Duw. O'i ieuenctyd, efe a fynwesodd burdeb a diniweidrwydd. O'r diwedd, efe a symmudodd drosodd i'r Iwerddon, gan gael ei wahodd at St. Patrig. Gwedi ennyd o ymgyfeillach, drwy gynghor, hwy a ymwahanasant, gan benderfynu i un o honynt bregethu yr Efengyl ar y llaw dde a'r llall ar y llaw chwith. Yn eu cymdeithas yr oedd amryw o wŷr eglwysig yn cydfyned: a hwy a gytunasant i gyfarfod unwaith mewn blwyddyn mewn rhyw le penodedig. Pa le bynag y byddai y dyn sanctaidd hwn yn myned, angel yr Arglwydd, ar ddelw colomen, a gyd-deithiai ag ef, yr hwn a droiodd ei enw o Caranog i Cemach, yr hwn sydd enwad Gwyddelig. Bob amser ar ei fordaith, byddai yn gwneuthur gwyrthiau er cadarnhâd o'r ffydd a bregethid ganddo, a byddai yn iachäu miloedd. Y mae teithrolau y dyn sanctaidd hwn, Cemach neu Caranog, i'w darllen yng ngweithiau haneswyr Gwyddelig, a'r modd y rhoddwyd y gras gyntaf i'r Apostolion, a roddwyd yn helaeth iddo yntau. Yr oedd yn filwr ac arwr tra rhyfeddol i Grist, yn abad ysbrydol a defosiynol, yn athraw amyneddgar, ddim yn nacäu pregethu gwirionedd achubol i bawb. Yn ystod amryw flynyddau a dreuliwyd ganddo yn yr ynys hòno, dygodd nifer anghredadwy i olchi ymaith eu pechodau drwy benyd, a llafur dibaid, ddydd a nos, byddai yn offrymu gweddïau yn aneirif at Dduw. Ar ol iddo ddychwelyd llawer o bobl at yr Arglwydd, gan wneuthur llawer o wyrthiau drwyddo ef, efe yn y dìwedd a ddychwelodd i'w wlad enedigol ym Mhrydain, lle yr enciliodd i'w gell gyntefig, yng nghymdeithas amryw o'i ddysgyblion. Wedi adeiladu Eglwys yno, penderfynodd aros yn y lle; ond eilwaith, wedi ei gynghori gan lais o'r nef, efe a ddychwelodd i'r Iwerddon, yno mewn oedran a llawn gweithredoedd sanctaidd, efe a orphwysodd mewn heddwch ar y ddwyfed ar bymtheg o Fehefin; efe a gladdwyd yn ei ddinas ei hun, yr hon oddi wrtho a elwir Cernach" (Rees's Welsh Saints, p. 209.)

Nid ydym i gredu rhyw lawer o'r hanes hwn am y gwr sanctaidd, Caranog; ond y mae yn ddiammheu ei fod yn weinidog duwiol a gweithgar rhyfeddol. Nid ydyw yn debyg fod ysgrifenwyr eithafol y canol oesoedd yn cymmeryd cymmeriadau dinod i'w hedmygu. Y mae careg fawr ger llaw Eglwys Llangranog o'r enw "Eisteddfa Garanog," lle dy wedir fod y sant yn eistedd ac yn cyflawnu gwyrthiau lawer. Mewn lle o'r enw "Ffrydiau Cranog," y mae pyllau bychain o ddwfr yn y graig, wedi cael eu tori gan ffrydîau yr afonig, a dywedid gynt mai pyllau o ol traed y sant oeddynt, a bod rhinwedd feddygol ynddynt.

CARON, sant a sylfaenodd Eglwys Tregaron. Cedwid ei wyl ef ar y pummed o Fawrth.


CEDIG AB CEREDIG ydoedd fab Ceredig ab Cunedda. Ymddengys mai Cedig ydoedd etifedd Ceredig, ac felly dilynodd ei dad fel tywysog Ceredigion. Fel hyn, yr oedd yn frawd, neu yn ewythr, i'r sant enwog Caranog. Sefydlodd gadair farddol Dyfed, neu y Gorllewin, ym Mangor ar Deifi, rhwng Llandyssul a Threfhedyn Emlyn.


CEDRYCH (neu CYNDDRYCH) AB GWEITHFOED ydoedd, yn ol rhai ysgriflyfrau, yn nawfed mab i Weithfoed Fawr, arglwydd Ceredigion. Ymunodd Cedryeh ag Einion ab Collwyn yn erbyn Rhys ab Tewdwr Mawr, yr hwn hefyd a gafodd ei ladd ganddynt. Yn y frwydr bwysig hòno, ym Morganwg, yr oedd Einion ab Collwyn, Cedrych ab Gweithfoed, Iestyn ab Gwrgant, a Robert Fitzhamon a'i farchogion wedi cyduno yn erbyn Rhys ab Tewdwr. Yr oedd Iestyn ab Gwrgant wedi addaw ei ferch yn wraig i Einion am ymuno ag ef yn erbyn Rhys; ond ar ol lladd Rhys, nacaodd Iestyn gyflawnu ei addewid ag ef, ac o blegid hyny, galwodd Einion y Normaniaid yn ol; a hwythau yn egniol a ddaethant, a chytunasant i ymosod ar Iestyn eilwaith. Hyny a wnawd, a gorfu ar Iestyn ffol, a chymmerodd yr estroniaid Normanaidd feddiant o'i gyfoeth. Dywed Taliesin ab Iolo, yn ei nodiadau ar ei gywydd i gastell Caerdydd, fod 2000 o wŷr gan Cedrych yn cynnorthwyo Einion ac Iestyn; a dywed fod gwŷr Cedrych ag Einion yn hawlio y fraint o ymladd ym mlaenaf yn y frwydr, yr hyn a ganiatawyd gan Fitzhamon, drwy yr hyn y lladdwyd mwy na'r hanner. Pan oedd y Normaniaid yn rhanu. Morganwg rhyngddynt, rhoddasant Sanghenydd a Meisgyn(1) i Einion ab Collwyn; ond cadwodd Fitzhamon gastell Caerffili yn ei ddwylaw. Y mae teuluoedd lluosog y Mathews o Forganwg yn hanu o Cedrych ab Gweithfoed; megys y diweddar "Father Mathew," Apostol Dirwest yr Ynys Werdd, a llawer ereill. Yn ol rhai hanesion, dywedir mai Cadifor ab Oedrych oedd ar y maes; ond nid ydyw yn annichodadwy nas gallasi y tad a'r mab fod ar y maes.

(1) Ymddengys i Einìon gael y rhandir hwn. Meisgyn : tebyg mai dyma Meskin, lle mae palas y diweddar Alaw Goch

CEINWEN, ferch Arthen, ydoedd ferch Arthen, Brenin Aberteifi. Priododd ag Arthfael Hen ab Rhys, Arglwydd Morganwg, a Brenin ar Saith Gantref Gwent.


CLODDIEN AB GWYRYDR, Arglwydd holl Geredigion. Priododd Morfydd, cydetifeddes Odwyn ab Teithwalch, Arglwydd holl Geredigion. A'i bais S, y llew saliant, fal y dyg Cedrych.


CLYDAWG, un o dywysogion Aberteifi. Ymddengys ei fod yn dadcu i Arthen, yr hwn ydym wedi grybwyll yn barod.


CRISTIAN, ferch Gweithfoed Fawr. Yr oedd yn abades yn Nhal y Llychau.


CURIG LWYD, esgob, y mae yn debygol, yn Llanbadarn Fawr; efe a sylfaenodd Eglwys Llangurig, Sir Drefaldwyn, ac yr oedd ei fugeilffon yn cael ei chadw yn ardal St. Harmon, yn amser Giraldus Cambrensis. Y mae traddodiad y canol oesoedd yn traethu i Gurig Lwyd, neu Gurig Fendigaid, dirio yn Aberystwyth, na wyddid yn y byd o ba le, ac iddo symmud ym mlaen hyd y lle a elwir heddyw Eisteddfa Gurig, ac iddo o'r fan hòno, weled llanerch hyfryd a dymunol, yr hon a ddewisodd i weddïo, lle yr adeiladodd addolfa, a lle y mae yr Eglwys i'w gweled.


CYNAN AB GWEITHFOED, neu Cynan Feiniad, ydoedd fab Gweithfoed Fawr. Ei etifeddiaeth oedd Tegana.


CYNAN AB MEREDYDD ydoedd fab Meredydd ab Owain ab Gruffydd ab Rhys ab Gruffydd ab Rhys ab Tewdwr Mawr. Yr oedd yn Arglwydd Caron a rhan o Geneu'r Glyn. Yr oedd yn un o bendefigion cadarnaf y Deheudir yn amser Llewelyn ab Gruffydd, Cafodd ef a'i ddau frawd, Gruffydd a Rhys, eu gyru i gyfyngder, nes gorfod ymostwng i wneyd gwarogaeth i Frenin Lloegr. Yn yr amser hwnw, y mae yn debyg, y gwnaeth y Tywysog Llywelyn ab Gruffydd, delerau annheilwng er cael Elen de Montefort, ei ddarpar wraig, yn rhydd o garchar y brenin. Ar ol hyny, daeth Seison lawer i Geneu'r Glyu, a rhanau ereill o Geredigion, gan drawsfeddiannu tiroedd y pendefigion Cyrmreig, yn groes i'r cytundeb â Brenin Lloegr. Y mae Carnhuanawc, Warington, ac ereill, wedi cofnodi "Cwynion meibion Meredydd." Daeth Geoffrey Clement o Dal y Llyn, Brycheiniog, a thrawsfeddiannodd arglwyddiaeth Caron, cyfoeth Cynan. Y mae y rhodd wreiddiol i Geoffrey Clement, o arglwyddiaeth Caron, yr hon oedd wedi drawsfeddiannu, wedi ei dyddio Chwefror 10fed, 1292, i'w gweled yn y Twr yn Llundain. Rhoddodd Cynan gyfoeth dirfawr i Fynachlog Ystrad Fflur. Y mae y freinlen hòno yn cynnwys enwau lleoedd lawer iawn ag oedd y pendefig yn roddi fyny i'r fynachlog; megys Rhydfendigaid, Henfynachlog a'r tiroedd, Brynhob, Cefn Castell, Llwyn y Gog, Dolfawr, Tref Gwyddel, y wlad o gylch Ystrad Meurig, Swyddffynnon, Bod Coll, Cellïau, Esgair Perfedd, Ynys Forgan, Castell Fflemys, ac oddi yno i Flaen Aeron, y rhan fwyaf o'r wlad rhwng Llanrhystyd ac Aberaeron, a thiroedd o amgylch Trefilan, Rhiwonen, a lleoedd ereill rhwng yr Aeron a Llanbedr; tiroedd tua blaen yr afon Irfon, ym mlaen at yr Elan a Chwmdeuddwr. Y mae yn lled anhawdd dirnad pa faint o gyfoeth a roddodd y pendefig hwn at y sefydliad crefyddol yn Ystrad Fflur. Diau ei fod yn wr haelionus iawn, ac o syniadau crefyddol a duwiolfrydig, yn ol dull yr oes hòno. Ond ef allai ei fod wedi rhoddi llawer o'r tiroedd hyn i'r fynachlog, fel nas gallasai y gormeswyr creulawn, y Normaniaid Seisnig, gyffwrdd â hwynt. Priododd Sioned, ei ferch, â Geoffry Clement, mab ysbeiliwr cyfoeth ei thad. Priododd Syr Robert Clement, ei hwyr, â Tanglwst, ferch Syr Gruffydd Llwyd. Priododd Siencyn Phylip ab Rhydderch, o Glynaeron, â Mawd, merch Syr W. Clement, yr hon oedd yn orwyres i Robert a Tanglwst, ac y mae teulu hynafol Bronwydd yn disgyn o Glynaeron; felly gallwn edrych yno am gynnrychiolydd Cynan ab Meredydd. Y mae cân yn yr Archaiology of Wales i Wenlliant, ferch Cynan, sef gwraig Syr Gruffydd Llwyd. Dywed nodyn ar waelod y ddalen mai merch Cynan ab Meredydd ab Rhys ab Gruffydd ab yr Arglwydd Rhys oedd; ond y mae hyn yn dangos yn ammhëus, gan nad oedd mab gan Rhys Ieuanc i gael, hyd yr ydym yn gallu gweled. Aeth ei gyfoeth rhwng Owain ei frawd a Maelgwyn Fychan. Fel hyn, tebyg taw merch Cynan ab Meredydd ab Owain oedd. CYNDDYLIG, un o seintiau y cynoesoedd. Ymddengys fod addolfa wedi ei hadeiladu ganddo ym mhlwyf Llanrhystud, lle yr oedd enaid rhydd, o hanner dydd nos Calangauaf, hyd hanner dydd ddydd Calangauaf ac offrwm ceiliogod rhag y pas, yn amser Pabyddiaeth.

CYNHUDYN, sant a flodeuodd yn y chweched canrif. Yr oedd yn fab i Bleiddyd ab Meirion, a deon yng Nghôr Llanbadarn Fawr, a meddylir, wrth gerfiad ym mynwent Llanwnnws, iddo gael ei gladdu yno.


CYNLLO AB MOR ydoedd fab Cenau ab Coel Coedhebog. Efe a sylfaenodd Llangynllo a Llangoedmor, yng Ngheredigion, yn gystal a Llangynllo, Llanbister, a Nantmel, yn Swydd Faesyfed. Y mae cofion o hono yn cael eu cadw yn Llangoedmor, sef, "Cerwyni Cynllo;" "ol traed march Cynllo," &c. Y mae y nant hon ger llaw yr Eglwys, ac yr oedd melin yma gynt, o'r enw "Melin Gynllo." Tybiai y dysgedig Broffeswr Rees, fod cyfoeth ganddo yn ardal Llangynllo, Maesyfed; ac fe ellir, ar yr un tir, dybied yr un peth am y ddwy ardal yng Ngheredigion. Gelwid ef mewn rhai hen argraffiadau o'r Llyfr Gweddi, yn "Cynllo Frenin." Yr oedd yn ddiau yn sefyll yn uchel yn ei gyssylltiadau gwladol, ac yn llawn mor uchel yn ei gym- meriad crefyddol. Blodeuodd yn y pummed canrif.


CYNOG, a elwid hefyd Cinothus, oedd ail esgob Llanbadarn Fawr, a chanlynodd Dewi Sant yn archesgobaeth Ty Ddewi, tua'r flwyddyn 544. Bu farw yn fuan ar ol hyny.


DAFYDD, un o abadau enwog Ystrad Fflur. Yr oedd yn ei flodau yn amser y Tywysog Rhys ab Gruffydd, gwaddolwr y fynachlog. Bu farw yn y flwyddyn 1182.


DAFYDD AB GWILYM, un o'r beirdd ardderchocaf, os nid yr ardderchocaf oll, a anwyd yng Nghymru erioed. Ymddengys iddo gael ei eni ym Mro Gynyn, ym mhlwyf Llanbadarn Fawr, tua'r flwyddyn 1340. Yr oedd o du ei dad yn perthyn i brif deuluoedd Gogledd Cymru. Gallasai gyfrif ym mysg ei berthynasau yr enwogion Llywarch ab Bran, ac Owain Gwynedd, a'u holl gyssylltiadau. Yr oedd mam y bardd yn chwaer i Lywelyn ab Gwilym Fychan, Arglwydd Ceredigion, yr hwn oedd yn un o'r boneddigion pwysicaf drwy y Deheudir. Bu farw ei fam pan oedd yn dra ieuanc, ac yn ol yr hanesion cywiraf, ar ei enedigaeth. Treuliodd Dafydd a'i dad gryn amser yu lllys Ifor Hael, ym Maesaleg. Bu hefyd yn ei febyd yn treulio llawer iawn o'i amser gyda'i ewythr, yn Emlyn, a Dolgoch, ym mhlwyf Troed yr Aur. Yr oedd ei ewythr yn wr o feddwl bywiog a chraffus, ac yn fuan efe a ganfu ddefn- yddiau bardd yn ei nai. Yn yr amser hwnw, yr oedd yr Awen Oymreig wedi cael ergyd agos iawn i fod yn farwol yn narostyngiad y dywysogaeth gan Iorwerth I., ac yn ol pob tebygolrwydd' yr oedd y beirdd wedi bod yn wrthddrychau dialedd y penadur hwnw, gan eu bod yn offerynau i gadw gwladgarwch yn fyw yn y wlad, ac i annog eu cydgenedl i godi yn erbyn y goresgynwyr. Dywed y cofnodion Cymreig "nad oedd nemawr a wyddai gelfyddid a gwybodau cerdd dafod namyn ym Morganwg, a Mon, a Cheredigion, achos colli y tywysogion a gefnogasant y prydyddion. Ond yn y tri lle a nodwyd, yr oedd yr hen wyddor odidog wedi dal ar glawr, ac yr oedd Llywelyn ab Gwilym Fychan yn fardd ei hun; ac felly efe a gymmerodd at ddysgu y gelfyddyd i'w nai ieuanc. Yr oedd Dafydd yn dysgu pob peth a fynegai iddo gyda'r parodrwydd mwyaf. Yr oedd ei fywiogrwydd a'i arabedd swynol yn synu a swyno pawb : ac felly yr oedd ei ewythr yn cael tâl da am ei ddysgu. Dywedir i'w dad briodi ail wraig, pan oedd y bardd tua phymtheg oed, ac i Ddafydd gael ei alw i aros ym Mro Gynyn; ond ni fynai y bardd ieuanc fyw yno; nis gallasai edrych gyda llawer o sirioldeb ar ei lysfam; ac yr oedd ei ddull difyr a gwawdfyd yn hollol groes i anianawd gwraìg ei dad. Edrychai y llysfam yn sarig; ac yr oedd rhyw duedd anorchfygol i wawdio, a gwneyd pobpeth yn destyn chwerthin, ynddo yntau. Pan yn yr adfyd hwn, gadawodd Dafydd dy ei dad ac a wynebodd i lys Ifor Hael. Ifor wrth weled ei gâr ieuanc yn wr o ddysg a dawn, a'i penododd yn athraw i'w ferch. Aeth pethau ym mlaen yn y modd hwn am ryw ennyd yn weddol gysurus. Pa faint o gynnydd oedd y rhian bendefigaidd yn wneyd, nid ydyw yn eithaf hawdd penderfynu.


Yn yr amser hwn yr oedd y bardd yn derbyn y parch a'r caredigrwydd mwyaf yn y llys; ac yr oedd ei fynwes yntau yn llawn o deimladau hyfryd a diolchgarwch diffuant. Ond beth bynag am gynnydd y bendifiges mewn dysg, ac am ymdrechion y bardd i'w dysgu, nid ydyw y byd wedi cael ei anrhegu â gwybodaeth; ond cwympodd y bardd dros ei ben a'i glustiau mewn cariad at ei ddysgybles, a thebyg iddi hithau fyned i'r un graddau o serch ato yntau; ac nid oedd yn hawdd cael sefyllfa yn fwy manteìsiol tuag at feithrin yr elfen fywiol a chynnyddol nag yn yr ystafell, lle yr oedd y gwersi yn cael eu rhoddi gan yr athraw ieuanc. Tebyg i'r bardd a'i anwylyd ymdrechu cuddio y gyfrinach angerddol mor bell ag oedd modd; ond cyn hir, canfu llygad craffus Ifor fod arwyddion cariad i'w gweled yn y symmudiadau. Wedi darganfod peth o'r fath yn myned ym mlaen, buasai boneddigion yr oes bresennol ar fyr amser yn dangos y drws i'r athraw; ond ymddygodd Ifor yn wahanol. Nid oes hanes iddo ffromi yn anfaddeuol tuag at y bardd; ond penderfynodd ymddwyn dipyn yn greulawn at y ferch, drwy ei hanfon i leiandy ym Mon. Ar ol i'r ffyddlawn fardd weled hyn, efe a wynebodd tua Mon ar ei hol, ac a ymgyflogodd megys gwas i abad mynachlog gyfagos, gan feddwl felly y buasai yn debyg gael cyfle i weled ei anwylyd; ond bu yn aflwyddiannus. Y mae yn debyg mai ym Mon, yn yr amser hwnw, y cyfansoddodd ei gywyddau ardderchog i ferch Ifor Hael, dan yr enw Lleian, Ond er pob ymdrech, nid oedd modd cael gweled gwrthddrych ei serch: yr oedd rheolau y lleiandy yu rhy fanwl a chaethiwus; ac yn y diwedd, rhoddodd y bardd yr ymdrech i fyny, a dychwelodd i Ddeheubarth Cymru, a derbyniodd drachefn o garedigrwydd a haelder ei hen gymrawynaswr, Ifor Hael,lle y bu yn caftrefu am lawer o flynyddoedd, gan ymweled weithiau â Brogynyn, ei le genedigol. Tra yn aros yn llys Ifor, etholwyd ef fel prif-fardd i gadair Morganwg; ac felly gelwid ef weithiau yn Dafydd Morganwg, a Bardd Ifor. Yn yr amser hwnw yr oedd boneddigion Cymru yn dal at yr hen nodwedd Gymreig a gwladgarol: yr oedd y beirdd yn uchel yn eu golwg. Yn y cyrameriad hwn yr oedd Dafydd ab Gwilym yn fynych yn ymweled â phendefigion y wlad; ac mewn gwleddoedd o raddau uchel, nid oedd modd iddynt fod yn gyflawn heb gael y bardd glandeg ei wedd a swynol ei awen i'w difyru â'i 'ffraethineb. Ond yr oedd llys, neu yn hytrach lysoedd, ei ewythr a'i athraw, Llywelyn Fychan o Emlyn, yn gyrchfa aml ganddo. Un tro yn Ëmlyn, pan yr oedd y gwin a'r medd yn rhedeg yn rhwydd, yr oedd y bardd ieuanc Dafydd ab Gwilym a Rhys Meigan yn bresennol, ac yn ol arfer yr oes, yr oedd Dafydd wedi cael ei osod yn gyff cler. Mewn cyff cler, y mae caniatâd i oganu y cyff, ond peidio dywedyd yr hyn sydd wirionedd am dano. Ymddengys fod Rhys wedi tori y rheol hon, trwy ganu i Ddafydd bethau nad oeddynt weddus, sef edliw iddo mai mab llwyn a pherth oedd. Ond buasai yn well i Rys ymattal; cyffrodd teimlad ae awen y bardd, a chyfansoddodd linellau ffraethlym, a chyfododd y dyn ieuanc glandeg i fyny, gan wneuthur gwên wawdlyd i adrodd ei waith. Yr oedd dystawrwydd drwy y lle, yr oedd y corn hirlas a'r medd yn cael llonydd heb ei gyffwrdd; yr oedd y boneddigesau yn edrych gyda phryder rhyfeddol ar yr adroddydd. Yr oedd ei brydferthwch yn swynol, ac yr oedd ei ystum areithyddol yn ardderchog a meistrolgar; ac yr oedd y gwawd a arllwysai ar ben Rhys yn ofnadwy a chwerthinol. Torai y boneddigesau a'r boneddigion i chwerthin; ond yr oedd Rhys Meigan yn ddystaw, ac yn ymchwyddo fel llaeth ar dân gwyllt; ac erbyn diwedd yr adroddiad, dyma y twmpath mawr o ddyn yn syrthio i lawr yn farw, heb gyfodi mwy. Dywed rhai mai ym Morganwg y bu hyn; ond y mae y mwyafrif o ysgrifenwytr yn dywedyd mai yn Emlyn y bu. Yr oedd Dafydd wedi cael galluoedd meddyliol cryfion, ac hefyd brydferthwch corfforol braidd yn anghymharol; a rhwng prydferthwch a dawn, yr oedd yn sefyll yn uchel yng ngolwg y rhyw deg. Dywed y Parch. D. Jones o Lanfair, yr hwn a ysgrifenodd yn amser y Frenines Elisabeth, ei fod yn cofio hen wraig, yr hon a fuasai yn gydnabyddus ag un arall ag oedd adnabyddus â Dafydd ab Gwilym, yr hon a'i darluniai yn dal a hirfain, a gwallt melyn orych yn llaes dros ei ysgwyddau, ac yn llawn modrwyau heirdd; ac y mae yntau ei hun yn dywedyd fod y merched, yn lle gwrando ar y gwasanaeth yn Eglwys Llanbadarn Fawr, yn arfer husting fod gwallt ei chwaer ganddo ar ei ben. Cymmaint oedd ei brydferthwch a'i hawddgarwch, fel nas gallasai y boneddigesau yn un man wrthod ei gyfeillach. Y mae traddodiad fod ganddo un waith bedair ar hugain o gariadon yr yr un pryd; a chan fod difyrwch a gwawd lonaid ei natur, efe a aeth ar daith garwriaethol; ac wedi galw heibio iddynt, efe a'i gwahoddodd dranoeth i'w gyfarfod dan dderwen fawr lydanfrig. Nid oedd y bardd, wrth reswm, wedi mynegu iddynt am y gymmanfa gariadol; ac felly ymdrechodd pob un ddyfod yno mor ddystaw ag oedd modd. Aeth y bardd yno o'u blaen, a dringodd i ben coeden cyn yr amser penodedig, gan ymguddio yn y brigau tewion. Daeth pob un o'r merched yno, yn ol yr addewid — pob un yn ffyddlawn i'w gair. Yr oedd pob un yn llygadrythu ar y llall, a phob un yu gwneyd golwg am y suraf, gan ryfeddu yn aruthrol beth allasai fod eu neges. O'r diwedd, torodd yr un ryddaf ei meddwl i draethu ei neges: "Daethym yma i gyfarfod â Dafydd ab Gwilym," meddai hi. "Ha!" ebai y llall, "dyna yw fy neges innau." Ac erbyn hyny, yr oeddynt bob un yn llefaru yr un peth am y cyntaf Yn y fath siomedigaeth, wedi eu llenwi o ddigofaint, cydunodd y gynnadledd fenywaidd i ymddial ar y twyllwr, gan gytuno i'w ladd cyn gynted ag y deuai. "Ni a fyddwn yn angeu i'r dyhirwas," oedd yr un fanllef yn esgyn i frig y goeden. "O, aie yn wir," atebai y bardd, gan gipdremu trwy y cangau, "os gellwch fod mor greulawn; yna, —

"Y butain wen, fain fwynaf — o honoch,
I hòno maddeuaf;
Tan frig pren a heulwen haf,
Teg anterth, t'rawed gyntaf."


Cafodd y llinellau hyn yr efíaith a ddysgwyliasid gan y bardd yn yr adeg gyfyng. Hwy a ddechreuasant ammheu purdeb y naill y llall, yr hyn yn y man a arweiniodd i ryfel cyfíredinol rhwng y pedair ar hugain, yr hwn a derfynodd yn ninystr yr hollbenwisgoedd a'r cochlau. Ym mhoethder y frwydr, disgynodd y bardd mewn perfaith ddiogelwch ac a rodiodd ymaith, gan adael y rhianod i ddwyn y rhyfel ar eu traul eu hunain. Ond wrth gellwair yn y modd hwn, daeth y bardd cyn hir i ofid blin; daeth i adnabyddiaeth â Moifydd, merch Madawg Lawgam. Ymddengys iddo ymgyfarfod â'r rhian hon yn Rhos, ym Mon, lle y denodd ei sylw. Gawn yn un o'i gerddi iddo anfon anrheg iddi, ac iddi hithau ddiystyru y cynnyg gymmaint, fel y taflodd ef am ben y llanc a'i dygasai. Y mae rhai hanesion yn myuegu mai trwy ei gwaredu oddi wrth ryw ddynion a fwriadent ei bradychu, yr ennillodd efe ei serch. Beth bynag am y modd, efe a ddyfal barhaodd nes iddi gydsynio â'i ddymuniadau, ac ennillei ymddirìed. Unwyd hwy mewn dull nid anarferedig yn yr oesoedd hyny. Gyrchodd y bardd a'i anwylyd, yng nghyd a'i gyfaill Madawg Benfras, bardd ardderchog, yr hwn a gyflawnoidd y swydd gyssegredig o offeirad, ar yr achlysyr, yng ngŵydd corgeiniaid asgrllog y coed yn unig, un o ba rai, sef y fwyalchen, medd y priodfab, oedd y clochydd. Ar ol hyn, ystyrient eu hunain megys un; a'u bywyd yn ol hyny a gadarnhaodd yr ymrwymiad. Ond yr oedd tad a pherthynasau Morfydd yn barnu yn wahanol, ac yr oeddynt yn chwerw yn erbyn yr uniad; hwy a annogasant hen gleiriach cyfoethog, sef Cynfrig Cynin, i ddyfod yn gyd-erlynydd â'r bardd; a threfnwyd y oynlun mor bell ag i gymmeryd Morfydd ymaith oddi wrtho, a'i phriodi yn drefnus â Chynfrig Cynin, yn unol â rheolau yr Eglwys. Ar ol hyn daeth Cynfrig Cynin yn wrthddrych casineb a difriaeth y bardd, gan yr ystyriai ei fod, nid yn unig wedi myned â gwrthddrych ei serch, ond hefyd eiddo cyfreithlawn iddo. Bu y bardd trafferthus am hir amser yn methu cael golwg ar ei anwyl Forfydd. Ond ryw bryd, ar ol ymofyniad manwl, tyciodd o'r diwedd iddo eìichael, ac ei chymmeryd ymaith. Ond ni pharhaodd y gymdeithas hon yn hir wedi hyn drachefn; dygwyd Morfydd ymaith, ac erlyniwyd y bardd yn erwin gan y Bwa Bach," trwy ei ddirwyo yn drwm iawn, am yr hyn, gan ei fod yn analluog i dalu, efe a gafodd ei daflu i garchar. Tebyg y buaaai y bardd wedi cael marw yn y carchar, oni buasai i bobl dda Morganwg ei brynu ef o hono. Ganodd y bardd trallodus gant a saith a deugain o gywyddau i Forfydd, a dywedir iddo fod agos â'i dwyn ymaith unwaith yn rhagor. Gofynodd un cyfaill iddo, a anturíai efe wneyd hyny eilwaith: yntau a atebodd, "Gwnaf yn enw Duw a gwŷr Morganwg;" ac ar ol hyn daeth y dywediad hwn yn ddiareb am hir amser.

Mewn eisteddfod a gynnaliwyd yng Ngwern y Clepa, yn amser Iorwerth III., ennillwyd y gadair am ganu cywydd gan Ddafydd ab Gwilym; ac yn hòno y gwisgwyd Dafydd ag addurn Cadair Morganwg. Mewn eisteddfod arall a gynnaliwyd yn Nolgoch, yng Ngheredîgion, lle yr oedd Sion Cent, Rhys Goch Eryri, y "Tri Brodyr o Farch- wiail," ac enwogion ereill yn bresennol, ennillodd Dafydd ab Gwilym gadair Ceredigion am riangerdd. Un o gydoeswyr Dafydd ab Gwilym oedd Gruffydd Gryg, o Sir Fon. Yr oeddynt hefyd yn gyfeillion gwresog; ond trwy aml gystadlu a senu eu gilydd, aethant unwaith yn dra dwfn mewn gelyniaeth. Canfu rhyw gyfaill â llygad eryraidd ganddo y perygl, ac anfonodd at bob un o honynt i ddywedyd fod y llall wedi marw. Yna, yn llawn teimladau galarus dechreuodd pob un o honynt gyfansoddi marwnad y naill i'r llall; ac wedi iddynt weled y cyfansoddiadau twymgalon, chwarddasant am y gorea, a pharhausant yn gyfeillion am eu hoes. Goroesodd y bardd y rhan fwyaf o'î noddwyr a'i gyfeillion. Bu farw Ifor Hael a'i deulu, ac y mae yn galaru yn dra thwym-galon ar eu hol. Bu farw ei ewythr, Llywelyn Fychan, trwy i haid o wylliaid o Seison Penfro, dori y Ddolgoch, a lladd y pendefig. Y mae ganddo hefyd alarnadau pruddglwyfus ar ei ol yntau,.fel y dengys yr englyn a ganlyn : —

"Wylais lle gwelais lle gwely —— f' arglwydd,
Ond oedd fawrglwy' hyny?
Gâr ateb? Wyf gar itty,——
Gwr da doeth agor dy dŷ!"

Treuliodd y bardd brydnawn ei fywyd ym Mrogynyn; ao y mae ei gyfansoddiadau olaf yn llawn edifeirwoh am ei afradlonrwydd, ac yn cynnwys taer weddîau am faddeuant; ac nid oes modd eu darllen gan un dyn ystyriol, heb golli dagrau. Y mae yn dangos ffolineb mebyd ac ieuenctyd, ac mor ddiflanedig ydyw oes dyn. Dywedai,—

"Mae Ifor a'm cynghorawdd,
Mae Nest oedd imi yn nawdd,
Mae dan wŷdd Morfydd fy myd,
Gorwedd ynt oll mewn gweryd!
A minnau'n drwm i'm einioes,
Dan oer lwyth, yn dwyn hir loes."


Ar wely angeu yr oedd y bardd yn meddu ei awen yn ei thlysni, gan ganu yn swynol o galon ostyngedig i ewyllys ei Greawdwr. Bu farw tua'r flwyddyn 1400, a chafodd ei gladdu yn Ystrad Fflur, a dywedir fod y llinellau canlynol wedi bod ar ei feddfaen: —

"Dafydd, gwiw awenydd gwrdd,
Ai ymaith roed dan goed gwyrdd?
Dan lasbren, hoew ywen hardd,
Lle'i claddwyd y cuddiwyd cerdd!

"Glas dew ywen, glân eos* —— Deifi,
Mae Dafydd yn agos;
Yn y pridd maer gerdd ddiddos,
Diddawn i ni bob dydd a nos."

(* Mae yn amlwg nad yw y llinell hon yn gywir. Tebyg mai "Glasdew ywen, glwysdy eos" ydoedd yn wreiddiol.)

Ond y mae tebygolrwydd mai yn Nhal y Llychau y claddwyd ef. Y mae llawer iawn o gynfeirdd a gogynfeirdd, yn gystal a beirdd diweddar Cymru, yn sefyll yn uchel am eu doniau awenyddol; a phe buasai Cymru yn cael sylw teilwng gan genedloedd cymmydogaethol Ewrop, trwy ddysgu ei hiaith, i gael myned i mewn i'w thrysorau llenyddol, buasai bri mawr yn cael ei roddi i'w beirdd a'i llenorion; ond yn ol barn llawer o feirdd yr oes hon, y mae Dafydd ab Gwilym yn sefyll yn uwch na holl feirdd Cymru. Y mae yn dwyn mwy o debygolrwydd i feirdd clasurol cenedloedd ereill. Y mae ynddo ryw dlysni darluniadol ag sydd anghymharol ei eflaith ar y meddwl, pan yn darllen ei waith. Yr oedd ganddo lygad i weled anian, calon i deimlo anian, a glewder medrus i gydfyned ag anian. Ys dywedoedd Talhaiarn, paentiwr anhgymharol ydoedd Dafydd. Y mae ei ddarlun o'r llwynog yn dra ysblenydd: yr ydym yn gweled y creadur cyfrwys hwnw o fiaen ein llygaid pan yn darllen ei gywydd darluniadol o hono. Yn y cywydd hwn yr ydym yn gweled y llwynog yn ei rawd ddystaw yn gwibio am ysglyfaeth pan oedd y bardd dan y coed wrtho ei hun. Y fath brydferthwoh sydd yn y llinell "Llamwr erw, lliw marworyn." Dyna liw y creadur yn y cywirdeb mwyaf hapus o eiddo y paentiwr mwyaf chwaethus. Y mae ei ddarluniad eto o'r ddylluan yn odidog iawn.

Cofus genym i ni fod mewn arwerthfa er ys llawer o flynyddau yn ol; a thra yn y parlwr am oriau, lle yr oedd y paentwaith o gynnyrchion goreu celfyddyd yn cael ei werthu, yr oedd ar y mur ddarlun y bachgenyn a'r Wy Euraidd yn ei ddangos i'w fam; a chymmaint oedd agosrwydd y gwaith i natur, fel yr oeddym yn colli yn aml araith yr arweithwr. Yr oedd gallu bod am ddwy fynyd heb edrych dros ein hysgwydd ar y paentwaith hwnw, yn llawn cymmaint ag a aliasem wneyd. Yr oeddym yn cael cymmaint o foddlonrwydd wrth edrych arno y tro olaf ag a gawsom y tro cyntaf! Yr un fath yn gymhwys y mae darluniadau Dafydd ab Gwilym o natur: nid oes modd i unrhyw ddyn ag sydd yn meddu llygad i weled prydferthwch anian, a chalon i deimlo anian, lai na chael ei swyno gyda'i ddarluniadau o honi.

Canodd Gruffydd Gryg, Madog Benfras, ac Iolo Goch gywyddau marwnadol tra galarus ar ol y bardd. Y mae Tudur Aled, ym marwnad G. Glyn, yn 1490, yn son am dano fel hyn: —

"Ni bu fyw neb fwy Awen
Ond da fardd Glan Teif wen,
Mab Gwilym heb gywely
Heb iddo frawd ni bydd fry."

DAFYDD AB IEUAN, o Lwyn Dafydd, oedd foneddwr yn preswylio yn y lle hwnw, ym mhlwyf Llandyssilio Gogo. Croesawodd Iarll Rhismwnt ar ei daith o Aberdaugleddau i Faes Bosworth. Anrhegodd yr Iarll ef â "chorn hirlas'* arddderchog, yr hwn sydd i'w weled yn awr yng Ngelli Aur. Mae darlun hardd o hono hefyd yn Dwnn's Heraldic Visitations. Bu mab i'r Iarll, sef Harri VII., o ferch D. ab Ieuan; a'r mab hwnw oedd sylfaenydd yr enw Parry, sef yw hyny, Ab Harri, yng Nghwm Cynon, Gemos, &c. Y mae degau o deuluoedd yn y wlad yn perthyn i'r Ab Harri hwn.

DAFYDD AB LLYWELYN, un o berigloriaid corawl Llanddewi Brefi, yr hwn a gydsyniodd â'r oruchafiaeth yn 1534, ac eilwaith yn 1553.


DAFYDD, IFAN, neu Ifan Dafydd Siencyn, o Gysswch, yn ardal Llangybi, oedd brydydd yn yr oes ddiweddaf. Dywedir iddo ddechreu ei yrfa grefyddol yn y Cilgwyn; ond yn amser y ddadl yng nghylch Calfiniaeth ac Arminiaeth, efe a ymunodd â chynnulleidfa D. Rowland, yn Llangeitho. Bu yn newid caniadau ag Ifan Tomos Rhys o Lanarth, ar Galfíniaeth ac Arminiaeth. Mae dwy gân o'i eiddo yn Niliau yr Awen gan Ifan Tomos Rhys.


DAFYDD Y COED, bardd enwog a flodeuodd rhwng 1300 a 1340. Mae saith o'i ganiadau yn y Myfyrian Archaiology, Mae yn debyg taw gwr genedigol o ganolbarth Ceredigion oedd; ac y mae tebygolrwydd arall iddo fod yn preswylio am ryw amser yn Llanymddyfri.


DANIEL AB SULIEN ydoedd drydydd mab Sulien Ddoeth, Esgob Ty Ddewi, a chyn hyny o Gôr Llanbadarn Fawr. Yr oedd Daniel yn Archiagon Powys, ac yn wr enwog iawn am ei ddysg a'i ddoethineb. Ceir y cofiant canlynol iddo: — "Yn niwedd y flwyddyn hòno (o gylch 1124) y bu farw Daniel fab Iulyen,[1] Esgob Mynyw, y gwr a oed gymodrerwr y rwg Gwyned a Phowys yn y terfysg a oed rygtunt. Ac nid oed neb a allei gael bei nac aglot arnaw, kanys tangnefedus a charedic oed gan bawp, ac archdiacon Powys oed."


DAVIES, DANIEL, a anwyd ym Mlaenwaen, Penbryn. Gafodd ddysg uchel; a chafodd ei urddo i'r weinidogaeth yn yr Eglwys. Bu yn gurad Troed yr Aur a Brongwyn am tua deng mlynedd ar hugain. Cafodd fywoliaeth Llanfìhangel y Creuddyn amryw flynyddau cyn ei farwolaeth: Bu farw Gorphenaf 3, 1806, yn 54 mlwydd oed. Bu yn cadw ysgol ramadegol flodeuog iawn ym Mhersondy Troed yr Aur am tua deng mlynedd ar hugain. Bu llawer o blant boneddigion y wlad, offeiriaid, a phregethwyr yn derbyn addysg ganddo. Wyr iddo yw T. H. F. Davies, Ysw., Aberceri.


DAVIES, DAVID, gweinidog yr Annibynwyr yn Sardis, ger Llangadog, a anwyd ym Mhant Bach, plwyf Llangynllo, yn y flwyddyn 1775. Cafodd ei dderbyn yn aelod yn y Drefach (gwedi hyny Saron). Daeth yn fuan i bregethu, gan gael cymmeradwyaeth fawr. Cafodd ei urddo yn Sardis a Myddfai. Bu yn dra llwyddiannus. Bu farw Mawrth 2, 1838, yn 63 oed. Cyfrifid ef fel ei gefnder, D. Davies, Abertawy, yn "Gloch Aur y Cymry."


DAVIES, DAVID (Glan Cunllo), a anwyd ym mhlwyf Llangynllo. Bu yn yr ysgol ym Mwlch y Groes, ysgoldy yn ymyl capel yr Annibynwyr yn yr ardal. Rhwng deg a deuddeg oed efe a gafodd gystudd trwm, ac arosodd ol y dolur yn ei glun, fel yr oedd yn gloff trwy ei oes, ac yn analluog i gerdded heb ffyn baglau. Yr oedd yn meddu talentau cryfion ac egni anwrthwynebol. Ymroddodd yn hynod i ddyfod ym mlaen. Bu yn cadw ysgol ym Mhencader, Penuel, Caio, Llansawel, a Llangadog, a rhoddid iddo lawer o glod fel ysgolfeistr. Talodd sylw i lenyddiaeth, barddoniaeth, a rhyddiaith gyffredinol. Daeth yn fardd rhagorol, ac ennillodd lawer iawn o wobrau. Yr oedd ei egni yn y ffordd hon tu hwnt i neb a welsom erioed. Y wobr ddiweddaf a ennillodd oedd am "Draethawd Bywgraffyddol a Beirniadol ar Iolo Morganwg," yn Eisteddfod Caerfyrddin, yn 1867. Gwelsom ef yn yr eisteddfod, ac edrychai yn wael iawn: dywedai ei fod wedi ffarwelio â bywyd — ei fod yn anobeithiol o wella. Gorfu iddo ddychwelyd adref cyn cael derbyn y wobr. Dywedid ei fod wedi ysgrifenu ar rai o'r prif destynau heb law hyny, megys "Owain Glyndwr" &c., ac ei fod yn sefyll yn uchel iawn yn y gystadleuaeth. Ar ol dihoeni yn hir, dan bwys ergydion dyfal y darfodedigaeth, bu farw Tachwedd 17, 1867, yn 30 mlwydd oed, gan adael gwraig a phlant i alaru ar ei ol. Yr oedd yn ei wynebpryd yn rhyfeddol o siriol, a dau lygad glas, bwmpi ar dor y croen, yn edrych yn llawn sirioldeb ac yni meddwl. Pe buasai y gwr talentog hwn yn cael oes o drigain a deg, nid oes modd dirnad faint fuasai wedi gyfansoddi. Gobeithio y dygir allan gyfrol o'i ganiadau. Gorwedda ym mynwent Llangadog, yn Ystrad Tywi. Heddwch i'w lwch.

DAVIES, DAVID, genedigol o ardal Horeb, Llandyssul. Bu yn yr ysgol gyda'r Parch. S. Griffiths, ac wedi hyny yn Neuaddlwyd. Cafodd ei urddo yn Nhai Hirion, Mor- ganwg. Priododd ferch y Parch. S. Griffiths, Horeb. Symmudodd i Glyn Taf, lle yr arosodd hyd ei farwolaeth. Bu farw Gorphenaf 16, 1851, yn 43 mlwydd oed.


DAVIES, DAVID, a aned yn y Geuffos, Llandyssilio Gogo. Cafodd fanteision dysgeidiaeth pan yn ieuanc. Bu yn yr ysgol gyda D. Jones, Dolwlff. Ymunodd â'r Bedyddwyr. Daeth yn bregethwr. Bu yn cadw ysgol, gan ddwyn ym mlaen ychydig fasnach. Yr oedd yn wr tra llafurus. Urddwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth. Bu yn briod deirgwaith; a dy wedir iddo gael tair gwraig dda, yr hyn sydd yn beth lled hynod. Gadawodd, yn ei ewyllys, i eglwys ei ofal, Gorff o Dduwinyddiaeth Dr. Ridgeley, ac "Esboniad" Matthew Henry ar y Testament Newydd, yng nghyd â thyddyn bychan, gwerth tua phedair punt y flwyddyn, at gynnal Ysgol Sul yn Aberduar dros byth. Bu farw Hydref 11, 1826, yn 88 mlwydd oed.


DAVIES, DAVID PETER, a aned yn Storhows Wen, Traethgwyn, ger y Cai Newydd, lonawr 9, 1785. Aeth i Goleg Henadurol Caerfyrddin. Bu yn weinidog Undodaidd yn Ripley, Duffield, a Milford. Cyhoeddodd History of Derbyshire, yn 1811: dwy gyfrol, yn cynnwys 717 o du- dalenau. Yr oedd yn fab chwaer i'r Parch. David Peter, Caerfyrddin. Bu farw yn y dref hòno Ion. 13, 1844.


DAVIES, EVAN, gweinidog yr Annibynwyr yn Llanedi, ydoedd fab Mr. James Davies, Cilgwyn. Ganwyd ef yn Nyffryn Llynod, plwyf Llandyssul. Enw ei fam oedd Mary, yr hon a fu fyw flynyddau yng Nglyniar, plwyf Llanllwni, wedi claddu ei phriod. Dygwyd Mr. Davies i fyny yn athrofa Caerfyrddin, yr hon oedd y pryd hyny dan ofal y Parch. Jenkin Jenkins. Cafodd ei urddo yn weinidog yn Llanedi, o ddeutu y flwyddyn 1776. Yr oedd yn dwyn y cymmeriad o ddyn hawddgar a duwiol iawn, yn bregethwr gwresog a melus, ac yn weinidog ffyddlawn a llafurus. Bu yn foddion i sefydlu achos ac adeiladu addoldy yn Llanedi; efe ddechreuodd yr achos sy yn awr ym Mhenbre, Bethania, Cross Inn, a Chydweli, a hyny dan lawer o anfanteisîon a gwrthwynebiadau. Efe hefyd fu yn offeryn i ffurfio eglwys ac adeiladu addoldy Capel Als, Llanelli. Yr oedd Mr. Davies yn ddyn o ddeall cryf ac ysbryd didramgwydd; ac ni bu neb yn ei oes yn fwy gweithgar nag ef, fel y gwelir ol ei lafur yn y cylch hwnw o'r wlad yn awr. Bu farw o'r darfodedigaeth, Ebrill 12, 1806, yn bymtheg mlwydd a thrigain oed, wedi treulio deng mlynedd a deugain yn y weinidogaeth.— Hanes Ymneillduaeth

DAVIES, EVAN, gweinidog yn y Cilgwyn, oedd enedigol o'r ardal rhwng Llechryd ac Aberteifi. Derbyniwyd ef yn aelod yn Llechryd. Cafodd addysg athrofaol. Cafodd ei urddo yn y Çilgwyn, yn y flwyddyn 1726, a bu yno yn cydweinidogaethu â Philip Pugh hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymmerodd le yn y flwyddyn 1744; ond dywed rhai iddo farw yn 1737.


DAVIES, EVAN, sef yr ail o'r enw yn y Cilgwyn, ydoedd enedigol o ardal Llanbedr. Dygwyd ef i fyny yn athrofa Hoxton, dan olygiaeth Dr. Ridgeley a Mr. James Eames. Bu yn gweinidogaethu yn Hwlffordd ; a thra yno, bu yn athraw yr Athrofa Henadurol yn y dref, yr hon a symmud- wyd yno er ei fwyn ef. Ymadawodd â Hwlffordd yn y flwyddyn 1743, ac aeth i'r Cilgwyn i gynnorthwyo y Parch. P. Pugh. Dywedir iddo fod yn cadw ysgol enwog yn y Cilgwyn; hyny yw, dwyn ym mlaen yr hen ysgol oedd yno. Symmudodd i Lanybri i gymmeryd gofal yr eglwys ymneillduol yn y lle hwnw. Daeth yr Athrofa Henadurol yn ol i Gaerfyrddin, a bu Mr. Davies yn ei dwyn ym mlaen yno gyda'r Parch. S. Thomas. Yn ganlynol i helynt annymanol & gymmerodd le mewa etholiad aelod seneddol yn y dref, aeth Mr. Davies i yohydig drallod: daeth swyddog gwladol o'r enw Grace a gwarant ato up boreu Sul cyn iddo godi. Mynegodd gwraig y ty yr helynt iddo. “Wel," ebai ef, “bûm lawer gwaith yn gofyn am gynnorthwy yn y fan hon i fyned. drwy waith y dydd; ond bellach, dyma fi wedi gorphen fy ngwaith yma.” Aeth allan drwy ddrws y cefn, a ffwrdd ag ef i Loegr.[2] Bu yn weinidog diwyd yn Billericay, yn Essecs, hyd ei farwolaeth, Hydref 16, 1770. Ei oedran oedd 76.

DAVIES, EVAN. Gwernfedw, oedd fab Timothy Davies, gweinidog yn y Cilgwyn. Yr oedd yn nai i'r E. D. blaenorol. Bu yn gweìnidogaethu yn y Cilgwyn a'r cylchoedd o'r flwyddyn 1771, am tua 46 o flynyddau. Yn ei amser ef, meddir, yr adeiladwyd Capel y Cribyn.


DAVIES, EVAN, gynt o Richmond, a aned yn y flwyddyn 1805, yn Hengwm, plwyf Lledrod. Wedi marwolaeth ei fam, yr hyn a ddygwyddodd pan yr oedd efe tua thair blwydd oed, ei daid, yng nghyd â'r plant ereill, a ymsymmudasant i Gaerludd; eithr efe a adawyd dan ofal ei fodryb, yr hon oedd yn byw yn y plwyf nesaf Gwnaed ef yn egwyddorwas gyda thrafnidwr yn y gymmydogaeth; ac ar derfyniad ei dymmor, aeth yntau hefyd grefyddol dda ym moreu ei oes. Bu farw y gweinidog yn fuan ar ol ei dderbyniad i'r Eglwys. Ymddengys fod y gwr ieuanc yn mynwesu awydd gref, ond dirgelaidd, am fyned i'r weinidogaeth. Ym mhlith y gweinidogion a wasanaethent y pryd hyny yng Nghapel Guildford-street, yr oedd y Parch. Daniel Evans, Mynydd Bach, ger Abertawy, yr hwn a gymmerai y fath ddyddordeb mewn dynion ieuainc gobeithiol, fel yr anturiodd Evan Davies osod o'i flaen yn eglur ei holl ddymuniadau a'i amgylchiadau. Mewn canlyniad, dygodd Mr. Evans ei achos o flaen yr eglwys, gan argymhell y blaenoriaid i roddi pob cefnogaeth a chymhorth yn eu gallu i bob dyn ieuanc yn eu plith ag arwyddion gobeithiol arno, yn gymhwys i addysgu ereill hefyd, er ymgymmeryd â gwaith pwysig y weinidogaeth Gristionogol. Yn fuan ar ol hyn, efe a gymmeradwywyd i athrofa y Neuaddlwyd, dan arolygiaeth a gofal y Parch. Dr. Philips, lle y treuliodd ddeunaw mis dan ei ofal efrydiol. Pryd hyn, cynnygiodd am gael derbyniad i goleg Seisonig trwyadl; ac felly efe a lwyddodd yn y flwyddyn 1829 i gael derbyniad i'r Western Academy, y pryd hwnw yn Ecseter, dan lywyddiaeth y diweddar Barch. Ddr. George Payne. Bu ei yrfa golegol yn dra llwyddiannus. Yr oedd yn astudiwr caled a diwyd, ac efe a gynnyddodd yn gyflym yn yr holl gangenau addysgiaeth a berthynent i'r sefydliad. Efe a safiai yn uchel yng nghyfrif ei gydfyfyrwyr, ac yng nghyfrif y Dr. Payne, yr hwn a goleddai dybiaeth uchel am dano, o ran ei nodweddiad a'i deithi meddyliol. Sefydlodd yn Great Torrington, yn North Devon; cylch llafurwaith boreuol y seraphaidd John Howe. Ni bu ei arosiad yma ond byr, gan ei fod wedi penderfynu ymroddi i wasanaeth y genadaeth dramor. Wedi cael derbyniad fel y cyfryw gan Gymdeithas Genadol Caerludd, efe a urddwyd yn Ebrill, 1835, yng Nghapel Wickliffe, yn genadwr i'r Chineaid, ac efe a anfonwyd i Penang. Yma efe a ymgyflwynodd yn ddidor i astudio y Chinaeg, ac a sefydlodd ysgol Gristionogol gref er mwyn y plani brodorol, a bu ei hyfforddiadau a'i bregethau yn dra buddiol ac adeiladol i'r swyddogion a'r milwyr Seisonig yn Penang. Dygwyddodd yma rai enghreifftiau hynod o'i ddefnyddioldeb y rhai, pan orfodwyd ef i ymadael â'r lle ym mhen pedair blynedd o herwydd methiant iechyd, a gynnyrchent ryw adgofion hyfryd yn ei feddwl. Wedi iddo ddychwelyd i Loegr yn y flwyddyn 1840, efe a gymmerwyd i wasanaeth y gymdeithas genadol, er ymweled â gwahanol fanau o'r wlad, fel dirprwywr i amddiffyn a dadlu ei hawliau; ac yn 1842, efe a benodwyd yn olygyddy Boys' Mission School yn Walthamstow. Yn 1844 efe a ymadawodd oddi yno i Richmond, Surrey, er ymgymmeryd ag arolygiaeth yr Eglwys Gyunullidfaol yno; ac efe a barhaodd yn y fugeiliaeth yn Richmond am dair ar ddeg o flynyddau. Wrth roddi ei weinidogaeth i fyny yma, efe a anrhegwyd gan y gynnulleidfa â phwrs yn cynnwys 200p., fel arwydd o'u parch a'u hanwyldeb tuag ato. Yn Ionawr, 1857, efe a symmudodd i Heywood, yn Lancaster, lle nid arosodd ond dwy flynedd: oerder yr hinsawdd yn y man gogleddol hwn a'i rhybuddiai ef a'i deulu mai doethach fuasai iddynt ymsymmud i rywle mwy heuliog yn y deheudir. Felly, efe a'i deulu a benderfynasant ddychwelyd i Gaerludd, lle y trigiannai lluaws o'i gyfeillion; ac yn y diwedd efe a ymsefydlodd yn Dalston, lle y sefydlwyd ysgol rianod gan ei wraig a'i ferched, yng ngorchwylion yr hon hefyd yr oedd yntau yn cymmeryd rhan, gan bregethu un flwyddyn yn Hackney, ac yn achlysurol yn cyflenwi manau ereill yn y gymmydogaeth. Fu yn aros yn Dalston dros rai blynyddau ; eithr yn haf 1863, efe a symmudodd i Homsey, lle y cafodd brawf llymdost ym Mai, 1864, trwy farwolaeth ei unig fab oloesol, yr hwn ddygwyddiad a effeithiodd yn fawr ar ei gyfansoddiad; o blegid ar y 18fed o'r mis canlynol yntau ei hun a "hunodd yn yr Iesu." Claddwyd ef a'i ddau fab ym meddrod y teulu yng nghladdfa Abney Park. Gadawodd ar ei ol weddw a dwy ferch. O ddiwedd y flwyddyn 1863 hyd o fewn ychydig i'w farwolaeth, efe a ddyoddefodd lawer oddi wrth y gewynwst. Ar gynghor y meddygon, gwnaeth ef a Mrs. Davies brawf o awyr y môr yn Llanstephan. Bu ychydig yn well; ond er hyny arosodd cymmaint methiant yn ei gorff, fel nad oedd ganddo ddim blas at ymborth. Nid oedd Mr. Dayies yn anenwog fel awdwr, fel y profa y gweithiau canlynol o'i eiddo: — China and Her Spirütal Claims; Memoirs of the Rev. Samuel Dyer; An Appeal to the Reason and Good Conscience of Catholics; Rest: Lectures on the Sabbath. Efe hefyd oedd cyhoeddwr y gweithiau canlynol: — Letters of the Rev, Samuel Dyer to his Children; Lectures on Christian Theology, by the Rev. Dr. Fayne; and The Works of the late Rev. Dr. Edward Williams of Rotherham. Mae ei nodiadau ar "Bechod Gwreiddiol" a "Bedydd," y rhai a welir yng nghyswllt â gweithiau y Dr. Williams, yn gynllun teg o'r hyn a allai efe wneyd fel meddyliwr ar bynciau arddansoddol.

DAVIES, HUGH, ydoedd enedigiol o Geredigion. Ganed ef yn y flwyddyn 1665. Derbyniwyd ef yn aelod trwy fedydd yn Rhydwilym, sir Benfro, ac urddwyd ef wedi hyny yn weinidog ar yr eglwys hono. Trwy ryw achosion, symmudodd i Abertawy, ac ymfudodd i Bennsylfania, lle y glaniodd Ebrill 26, 1711; a threfnodd Rhagluniaeth iddo ymsefydu yn agos i'r Dyffryn Mawr. Parhaodd yn weinidog ffyddlawn a pharchus tra fu, sef hyd y flwyddyn 1753, pan ymadawodd mewn oedran teg, sef 88 mlwydd oed. Dywed Hanes y Bedyddwyr i'w fraich fod yn boenus yn hir, ac i'r brodyr ei heneinio ag olew gyda gweddi, ac iddi iachau.


DAVIES, JAMES (Iago ab Dewi) a aned ym mhlwyf Llandyssul. Bu am lawer o amser yn preswylio yn ardal Pencader; a threuliodd y rhan ddiweddaf o'i oes yn Llanllawddog, sir Gaerfyrddin, lle y bu farw Medi 24, 1722, yn 74 mlwydd oed. Derbyniwyd ef yn aelod yn eglwys annibynol Pencader, yn amser gweinidogaeth y Parch. Stephen Hughes, gynt o Feidrym. Yr oedd ei gymmeriad crefyddol yn ddysglaer ac uchel iawn ac felly, treuliodd oes ryfeddol o ddefnyddiol. Yr oedd yn fardd da ac yn gyfieithydd rhagorol. Y mae rhai darnau o'i waith wedi eu cyhoeddi ym Mlodau Dyfed, y rhai sydd yn dangos medr dda a chwaeth uchel Y mae yr ysgrifenydd wedi gweled dau hen ysgriflyfr o'i eiddo. Y mae un o honynt yn cynnwys barddoniaeth oll, ac wedi ei rwymo yn gryf a destlus. Yn y llyfr hwn y mae gwaith llawer o'r hen feirdd. Y mae ynddo rai damau o waith Lewis Glyn Cothi, nad ydynt wedi eu cyhoeddi yng ngwaith y bardd gan yr enwogion Gwallter Mechain ac Ioan Tegid. Y mae hefyd yn cynnwys amryw ddarnau o waith Iago ab Dewi ei hun. Yr ysgriflyfr arall sydd yn cynnwys barddoniaeth a rhyddiaith. Nid ydyw dechreu na diwedd y gyfrol hon ar glawr. Y mae peth o hono wedi ei ysgrifenu tua'r blynyddau 1715-17. Ymddengys taw cyfieithad ydyw un traethawd, wedi ei barotoi i gael ei argraffu yn yr Amwythig, gan Sion Rhydderch. Y mae ynddo hefyd draethawd dammegol am y chwil, yr eryr, y llew, y cadnaw, y frân, y ddafad, a'r llygoden; ac y mae cymhwysiad y dammegion yn hynod o ddyddorgar. Cafodd yr ysgrif hon ei dyddìo Mai 24, 1711, yn Llanllawddog. Y mae ynddo draethawd arall, yn llawysgrifen ardderchog Iago ab Dewi; ond y mae y wynebddalen ar goll; y mae y rhagymadrodd wedi ei ysgrifenu gan Sîon Rhydderch yn yr Amwythìg, ac wedi ei dyddio Medi 23, 1717. Mae un tudalen hefyd wedi ei ysgifenu gan Sion Rhydderch, a'r teitl sydd uwch ei ben ydyw, "Ymddyddan rhwng Cardotyn a Duwinydd." Ar dudalen sydd yng nghanol y llyfr, y mae eto gan Sion Rhydderch, yr argraffydd, lythyr Seisonig, fel pe byddai yn dychwelyd y copi hwnw yn ol, gan geisio un arall. Y mae Sion Rhydderch yn y llythyr yn son am ryw uncle James, a thebyg mai Iago ab Dewi oedd yr ewythr hwnw. Efe a gyfieithodd chwech neu saith o lyfrau o'r Seisonig i'r Gymraeg, ym mysg y rhai y mae Meddyliau Nellduol ar Grefydd, gan yr esgob Beveridge, 1717; Tyred a Groesaw, gan J. Bunyan, 1719. Y mae Meddyliau Neillduol ar Grefydd wedi ei gyflwyno i'r "urddasol a'r anrhydeddu; Harri Llwyd o Lanllawddog, ysgwier, a sersiant o'r gyfraith." Y mae y cyflwyniad wedi ei ysgrifenu gan y Parch. Moses Williams, yn Llundain, ar y "seithfed o idiau Rhagfyr, 1716." Mae englynion i'r llyfr gan "Samuel Williams, person Llangynllo, yng Ngwynionydd," Theophilus Evans, a Siencyn Thomas o'r Cwmdu. Yr ŷm yn ddiweddar wedi darllen yr hen lyfr rhagorol hwn, ac wedi codi rhes o eiriau ag sydd yn anarferedig yn yr oes hon. Yr ydym yn credu na welsom brydferthach ysgrifen erioed nag eiddo Iago ab Dewi; y mae yn bleser dirfawr i edrych ar ei lawysgrfen. Darlunir ei nodweddiad gan ei gyfaill a'i gymmydog, Christmas Samuel, gweinidog Pantteg, fel y canlyn:— "Iago ab Dewi, y cyfieithydd enwog, a fu farw ar ol deunaw wythnos o gystudd, a chladdwyd ef yn Llanllawddog, ar y 27fed o Fedi, 1722. Yr oedd yn ddyn nodedig iawn; yn ddyn o ychydig eiriau, ond o wybodaeth dra helaeth; yn ddyn o fuchedd dda, ac yn hen Gristion profedig. Nid oes raid i mi ddywedyd ychwaneg am dano—ei weithredoedd a'i canmolant yn y pyrth." Yr oedd y gwr tra rhagorol hwn, o werth mawr yn ei oes, a gwasanaethodd ei genedlaeth yn fyddlawn.

DAVIES, JAMES, Penmorfa. Ganwyd y gwr parchus hwn Rhagfyr 22, 1800, ym Mlaenhoewnant Isaf, ym mhlwyf Penbryn. Yr oedd ei dad yn ysgolfeistr yn yr ardal. Ym mis Mehefin, 1822, efe a ymunodd â'r Trefnyddion Calfinaidd yn y Cai Newydd; ac ym mhen tua saith mlynedd cafodd ei gymhell i bregethu. Gan fod ei dad yn ysgolfeistr, yr oedd wedi cael gwell manteision dysg na'i gyfoedion. Yr oedd yn sefyll yn lled uchel ei gymmeríad fel Cristion a phregethwr. Bu farw Ebrill 14, 1853.


DAVIES, JAMES, gweinidog yn Abermeirig a Chiliau Aeron, oedd ganlyniedydd yr hybarch Philip Pugh. Yn y flwyddyn 1743 urddwyd Mr. Davies i gyflawn waith y weinidogaeth yn Crofft y Cyff, i fod yn gydweinidog â Mr. Pugh yn y Cilgwyn ac Abermeirig, a lleoedd ereill y llafurient ynddynt. Yr oedd yn dad i Evan Davies o Lanelli, am ba un yr ydym wedi crybwyll yn barod, a Daniel Davies, gynt o Ynysgau, Merthyr. Bu wedi hyny yn cynnorthwyo y Parch. Jobn Lewis, Pencader. Dychwelodd wedi hyny i Abermeirig; ac y mae yn debyg mai un o'r wlad hono oedd yn enedigol. Ryw amser cyn ei farwolaeth efe a symmudodd i Balas Cilcenyn, lle y bu farw.


DAVIES, JENKIN, gweinidog y Trefnyddion Calfinaidd yn Nhwrgwyn, a anwyd ym mhlwyf Llandyssilio Gogo, yn y flwyddyn 1797. Yr oedd Mr. Davies yn amlygu llawer iawn o alluoedd meddyliol pan yn blentyn. Anfonwyd ef ar y cyntaf i'r ysgol yn Llwyn Dafydd, ac wedi hyny i Aberteifi; ac wedi treulio twysged o amser diwyd yn nhref y sir, efe a aeth i'r ysgol i Gai Newydd. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1825. Pregethodd yn y flwyddyn 1840, dri chant a phymtheg o weithiau, ac yn y flwyddyn 1841, bedwar cant o weithiau. Farw Awst 10, 1842. Yr oedd Mr. Davies yn cael ei ystyried yn ddyn o alluoedd meddyliol llawer mwy na'r cyffredin, ac yr oedd y rhai oedd yn ei adnabod oreu yn dywedyd nad oedd y wlad erioed wedi deall faint dyfnder ei dalentau a'i wybodaeth. Yr oedd fel Cristion yn syml a gostyngedig. Gellir dywedyd am dano, ei fod yn ddyn mawr a rhagorol ym mhob ystyr.

DAVIES, JOHN, o'r Pantglas, yn ardal y Cilgwyn, a ddygwyd i fyny i'r weinidogaeth, ac a gafodd addysg golegol. Bu am ryw amser yn pregethu yn y Cilgwyn a'r cylchoedd. Ymsefydlodd yn Llundain. Bu yn cynnorthwyo y Dr. Abraham Rees. Casglodd gyfoeth dirfawr, yr hwn a ddaeth, ar ol ei farwolaeth, i deulu Penlan, Llangybi, ac un Ann Evans, ar fynydd Llanfair.


DAVIES, JOHN, D.D., diweddar o Gateshead, Durham, a anwyd ym mhlwyf Llanddewi Brefi, Rhagfyr, 1790. Derbyniodd ei addysg ar y cyntaf mewn ysgolion yn y gymmydogaeth hono, ac wedi hyny efe a roddwyd dan ofal yr hyglod Barch. Eliezer Williams, periglor Llanbedr. Ar ol treulio amryw flynyddau yn yr ysgol, a than addysg bersonol, efe a symmudodd i Loegr yn lonawr, 1815, ac a ddaeth yn gynnorthwywr mewn ysgol gorgyfrnaol (prebendal ). Bu am rai termau yn Rhydychen ond wedi hyny efe a symmudodd i Gaergrawnt, ac a gymmerodd ei radd o B.D. yn y flwyddyn 1830, a'r radd o D.D., yn 1844. Ar ol gwasanaethu yr Eglwys yn St. Pancras, Chichester, cafodd ei anrhegu â bywoliaeth Gateshead gan Esgob Durham yn 1840, ac a wnawd yn Gynon Anrrhydeddus Durham yn 1853. Bu farw ar yr 21fed o Hydref 1861, yn Ilkley Wells, yn swydd Gaerefrog, ym mha le yr oedd yn aros er lles ei iechyd. Yr oedd Dr. Davies yn berchen galluoedd cryfion, ac egni penderfynol i feistroli pob peth ag y buasai ei law yn ymaflyd ynddo. Tra yn yr ysgol yn Llanbedr yr oedd wedi meistroli Horace gymmaint, fel y gallaeai adrodd y cyfan o hono heb gymhorth llyfr; ac, o herwydd hnny, efe a gyfenwid gan ei gyd ysgolheigion ac ereill yn "Horace Bach." Daeth y Dr. Davies yn ysgrifenydd ac awdwr enwog. Ei waith mawr cyntaf An Estimate of the Human Mind, &c., a gyhoeddwyd yn 1829, mewn dwy gyfrol wythplyg; a daeth ail argraffiad o'r unrhyw allan mewn un gyfrol fiiwr yn 1847. Gyhoeddodd hefyd The Ordinances of Religion, mewn un gyfirol; First Impressions, a Series of Letters from France Switzerland and Savoy written in 1834, addressed to the Rev Chancelor Raikes, Cyfansoddodd hefyd amryw weithiau llai, ac amryw lyfrynau o bregethau. Mab iddo ydyw yr enwog Barch. John Llewelyn Davies, o Lundain : neiaint iddo yw'r Parch. Samuel Jones, Llangunnor; a'i frawd, John Jones, Ysw., Maes y Grugiau, Gaerfyrddin.

DAVIES, JOHN, gweinidog yr Annibynwyr ym Mear, Gwlad yr Haf, a anwyd ym Mhen yr Allt, plwyf Llandyssu Bu dan ofal y Parch. D. Davis, Gastell Hywel, yn derbyn dysg am dro, ac wedi hyny yng Ngholeg Henadurol Gaerfyrddin am bedair blynedd. Ystyrid ef yn un o oreuon y coleg ar y pryd. Bu farw Awst 8, 1832, yn 30 mlwydd oed, ac a gladdwyd yn Glastonbury, lle y gweinidogaethai.


DAVIES, JOHN, gweinidog yr Annibynwyr yn Daventry, a anwyd mewn pentref ger Ilaw Aberystwyth. Pan yn faban symmudodd ei rieni gydag ef i Woolwich. Dechreuodd ei yrfa grefyddol dan weinidogaeth y Parch. Dr. Jones, Bangor. Daeth yn fuan yn gynnorthwywr yn ysgol y Parch. Mr. Bickerdike, yn Woolwich. Pan yn un ar bymtheg oed, aeth i ysgol Llanfyllin, dan ofal y Dr. Lewis. Ar ol gorphen ei efrydiaeth yno, bu yn athraw yn nheulu G. George Ysw., Lan, sir Gaerfyrddin. Gafodd ei urddo yn Newcrofis, Deptford; ac yn 1826 daeth yn weinidog i Daventry. Bu farw yn y flwyddyn 1857. Gyfrifìd ef yn wr o dalentau dysglaer, yn ysgolor da o fywyd Ilafurus a diargyhoedd, ac yn Gristion didwyll.


DAVIES, JOHN LLOYD, diweddar o Flaendyffryn, a anwyd yn Aberystwyth. Nid oedd ei rieni ond pobl gyffredin eu hamgylchiadau yn cadw gwestty yn y dref. Ymrwymodd yn freintwas i John Walters, Ysw., cyfreithiwr, Castell Newydd Emlyn, wedi hyny, J. W. Philipps, Ysw., Aberglasney, a chyn hir, ymrestrodd yn gyfreithiwr ei hun. Yn y cylch hwnw, daeth yn adnabyddus â Mrs. Stuart, gweddw y Milwriad Stuart, o Gaerfyrddin; a thrwy ei ymddangosiad hardd, a'i ymddygiad boneddigadd, ennillodd sylw a serch y foneddiges, a'r canlyniad fu iddynt briodi. Merch oedd Mrs. Stuart i John Lloyd, Ysw., o Allt yr Odyn, ac Elizabeth ei wraig, yr unig un o'u un ar hugain o blant a oroesodd eu mam. Cyn hir daeth ystâd helath a chryno Gallt yr Odyn, rhan helaethaf o hen gyfoeth Llwydiad Castell Hywel, yn feddiant i Mrs. Lloyd Davies. Bu iddynt un plentyn, yr hwn a briododd, gan gael dau o blant ; ond bu farw o flaen ei dad. Priododd Mr. Lloyd Davies yr ail waith â boneddiges o Loegr, yr hon fu farw tua thair wythnos o'i flaen. Bu am ryw gymmaint yn aelod seneddol dros fwrdeisdrefi Ceredigion, a thynodd sylw y ty a'r wlad ar unwaith at yr angen o gael porthladd diangol yn Aberteifi. Dangosodd yn yr amser byr hwnw, fod ynddo fwy o gymhwysder seneddol na holl gynnrychiolwyr dystaw Cymru. Fel ynad heddwch, nid oedd modd cael ei debyg. Gwyddai y gyfraith, a gwyddai sefyllfa y wlad. Gwnaeth fwy na neb at wella y ffyrdd yn Nyfed. Efe a wnaeth fwyaf at gael rheilffordd o Gaerfyrddin i Landyssul Bu farw Mawrth 21, 1860, yn 59 oed. Mae ar ei ol ddau o blant o'r ail wraig. Mae yr ystâd yn eiddo mab ei etifedd, o'r wraig gyntaf. Mae Eglwys newydd St. Ioan, Llandyssul, a adeiladodd ar ei draul ei hun, yn golofn o'i haelfrydedd a'i aidd eglwysig.

DAVIES, JOHN P., gweinidog y Bedyddwyr yn Nhredegar, Gwent, a anwyd ym Mhersondy Bangor ar Deifi, Mawrth 12fed, 1786. Yr oedd yn fab i'r Parch D. Davies, offeiriad Bangor a Henllan. Yr oedd ei dad yn ysgolor a phregethwr da. Cafodd John Davies addysg weddol dda, yn ol manteision y dyddiau hyny, yn y gymmydogaeth. Yr oedd y Parch. Daniel Davies, Talgoed, gweinidog gyda'r Bedyddwyr, yn ewythr iddo, brawd ei dad; ac ewythr arall iddo, brawd ei dad, oedd y Parch. M. Davies, gweinidog yr Annibynwyr yn Aberhonddu. Ymaelododd Mr. Davies Davies gyda'r Bedyddwyr yn y Drefach; ac yn fuan dechreaodd bregethu. Aeth Mr. Davies ar daith i'r Gogledd, gan fyned trwy sir Fflint, lle nad oedd hyd yn hyny un achos gan y Bedyddwyr. Pregethodd yno gyda llawer o dderbyniad; a'r canlyniad fu, casglu ychydig bobl yn Nhreffynnon, er furfìo achos yno, a'i urddo yntau yn weinidog arnynt. Yn fuan wedi hyn, priododd ferch o Sir Benfro, yr hon, er ei alar, a fu farw ym mhen tua blwyddyn, gan adael merch fechan ar ei hol. Ymadawodd â Threfynnon, ac aeth i Eglwys Gymreig yn Llynlleifiad, a phriododd yr ail waith. Symmudodd wedi hyny i Gaerludd at y Cymry. Daeth ar daith wedi hyny i Ddeheudir Cymru, a chafodd alwad i Glan y Feri a Chydweli. Wedi llafurio yma amryw flynyddau, gwahoddwyd ef i gymmeryd gofal eglwys y Bedyddwyr yn Nhredegar; ac yn y lle hwnw y gorphenodd ei ddyddiau. Adeiladwyd hefyd addoldai yn Rhymni, Pen y Cae, yn gystal a chapel Seisonig yn Nhredegar, a hyn oll trwy lafur Mr. Davies. Fel hyn,y mae meini coffadwriaeth am dano i'w cael yn Rhymni, Sirhowi, a Glyn Ebwy. Ymaflodd afiechyd ynddo yng nghanol ei wasanaethgarwch, yr hwn a lynodd wrtho tra fu byw, ac a fu yn achos o'i farwolaeth, yr hyn a gymmerodd le Awst 23, 1832, yn 46 mlwydd oed. Prif hynodion Mr. Davies oeddynt arafwch, pwyll, amynedd, llarieidd-dra, a dyfalwch gafaelgar. Arferai ddywedyd "fod dynion yn dadleu llawer â'u gilydd am na chymmerent amser a phwyll i ddeall un y llall." Yr oedd ei wedd yn dra siriol a hawddgar pan yn ei nerth a'i lawn iechyd. Yr oedd ei wyneb yn deg, gwridog, a boddhaol; ei drwyn yn eryrraidd; ei lygad yn fywiog. Yr oedd tua phum troedfedd a naw modfedd o daldra. Ystyrid ef yn bregethwr gwreiddiol ac eglur. Yr oedd yn dra hyddysg yng ngeiriadaeth y Beibl. Ymddengys iddo dderbyn gwybodaeth Roeg a Lladin pan yn ei ieuenctyd ; ond ni wnaeth ddefnydd o honynt yn ei oes; y Gymraeg a'r Seisoneg yn unig a ddarllenai, ac yr oedd yn feistr ar y ddwy. Yr oedd ei wybodaeth o'r Gymraeg yn dra helaeth, trwy efrydiaeth ddyfal a pharhäus o Eiradur ac Ieithadur y Dr. Pughe. Y mae ei adnabyddiaeth o'r Gymraeg i'w weled yn ei sylwadau arni yn Seren Gomer, yn y blwyddyn 1825, a'i amddiffynad iddi yn 1826; ac y mae ei Gynllun o Eiriadur Cymreig yn y Seren yn 1824, yn brawf digonol o'r peth. Treuliodd gryn amser wrth ddarpariadau ar gyfer geiriadur Cymreig, sef Cymraeg oll Ysgrifenodd tuag ugain llen o hono. Nid oes gwybodaeth pa peth ddaeth o'r llawysgrif. Yn ei ysgrifeniadau ar bynciau crefyddol, ac yn enwedig yn y papyrau a adawodd i'w cyhoeddi, y rhai ydynt o flaen y cyhoedd yn gyfrol bum swllt, cenfydd y darllenydd myfyrgar y myfyriwr duwinyddol yn chwilio i berthynasau gwahanol ranau y gwirionedd efengylaidd, yn gosod allan wir ganlyniadau gwahanol egwyddorion, gan osod y rhesymau a'r profion ysgrythyrol ger bron, a'u cymhellant i dderbyn a chredu ei olygiadau, y rhai a goleddai mor galonog, ac a amddifiynai mor gadarn bob amser. Yr ydym yn ddiweddar wedi darllen traethodau y Parch. J. P. D., yng nghyd â'i gofiant, dan olygaeth D. R. Stephen, ac yn cael ei fod fyny â'r clod a roddir iddo. Y mae llawer o draethodau rhagorol o'i eiddo yn Seren Gomer y Gwyliedydd, &c.

DAVIES, JOSHUA, diweddar beriglor Llanybydder, a aned ym Mhant y Gwenith, plwyf Bettws Ifan. Bu yn ysgol flodeuog Castell Hywel. Bu yn beriglor Llanybydder a 43 mlynedd, Llanwenog 41 mlynedd, a churadad parhäus Battle, Brycheiniog, 51 mlynedd. Yr oedd hefyd yn goberiglor Eglwys Golegol Aberhonddu, deon gwladol adran orllewinol Llangadog, ac yn un o arholwyr Cymreig' yng Ngholeg Dewi Sant. Bu farw Awst 22, 1845, yn 83 mlwydd oed. Daeth Mr. Davies i fyny yn hollol trwy ei alluoedd a'i gallineb ei hun. Nid oedd yn meddu un cyssylltiad perthynasol i'w gynnorthwyo. Merch Ffynnon Benbwllaid, tyddyndy ger llaw ei le genedigol, oedd Mrs. Davies. Yr oedd y diweddar Barch. D. J. Evans, periglor Llandygwydd, yn ŵyr iddo.


DAVIES, LEWIS, ydoedd drydydd mab i John Davies, Ysw., o'r Crugiau, plwyf Llanbadarn Fawr, lle ganed ef yn y flwyddyn 1777. Ymunodd â'r fyddin yn 1791, yn fanerwr y 31 gatrawd, lle yr oedd ei frawd John Maurice Davies yn gadben; ac yr oeddynt gyda'u gilydd yn y fyddin ar y Cyfandir yn y flwyddyn 1794, Yn 1796 yr oedd Mr. Lewis Davies gyda Syr Ralph Abercrombie yn yr India Orllewinol, a chafodd ei glwyfo wrth gymmeryd St Lucia, pan dderbyniodd raglawiaeth. Dyoddefodd lawer yn y lle hwn oddi wrth y clefyd melyn, effeithiau yr hwn a'i holloI analluogodd dros ddeuddeg mis. Yn 1799 cafodd gadbeniaeth, a gwasanaethodd o dan Ddug Caerefrog yn Holland, lle y bu yn cymmeryd rhan yn y frwydr gyntaf a'r ail yn Bergen, ac ym mrwydr y 6fed o Hydref, yn y flwyddyn hòno, Wedi hyny bu yn gwasanaethu ar dueddau Ffrainc, a chyda Syr J. Pulteney yn Ferrol, a thair gwaith i fyny ym Môr y Canoldir. Yn y flwyddyn 1804 daeth yn uwchgadben y 36 gatrawd, trwy bryniad. Yn 1806 efe a wasanaethodd gydag Arglwydd Cathcart yn Hanoyer; ac wedi hyny gyda'r Maeslywydd Cyffredinol Crowford ym Mhenryn Gobaith Da, o'r lle y gorfuwyd ef i ddychwelyd yn ei ol gan afiechyd. Yn nesaf, bu gyda Syr Arthur Wellesley ym Mhortugal, ym mrwydrau Brillis, Roliça, a Vimieira. Yr oedd hefyd gyda Syr John Moore yn yr Yspaen, yn y brwydrau ger Lugo a Corunna. Gwasanaethodd wedi hyny gyda larll Chatham yng ngwarchäedigaeth Flushing, ac yn cymmeryd ynys Waldieren. Yn lonawr 7, 1812, efe a hysbyswyd yn rhagfilwriad y 36 gatrawd; ac ym Mawrth canlynol, gorchymmynwyd iddo gymmeryd llywodraethiad y gatrawd hòno, dan Arglwydd Wellington, lle yr ymenwogodd yn fawr, canys cafodd yr anrhydedd o lywodraethu y rhychwyr yn yr ymosodiad, a chymmeriad caerfeydd Sant Gaetana, La Mercede, a mynachdy Sant Vinceut, yn ninas Salamanca. Llywodraethodd y dosbarth isaf yn y 36 gatrawd yn y frwydr fawr a ddilynodd, lle y derbyniodd fathodyn. Yr oedd yn y gwarchae ar Burges, wrth droi yn ol o'r hwn le tua Phortugal ymaflodd poen cryd y cymmalau mor llym ynddo ag a'i difuddiodd o nerth ei goesau, ac o ganlyniad analluogwyd ef i wasanaethu mwy. Ym Medi, 1806, gwnawd ef yn gydymaith o Anrhydeddus Urdd Milwrol Caerbaddon; ac yn fuan cyrhaeddodd y gradd o Uwch Faeslywydd. Wedi dychwelyd o'r orynys, efe a dreuliodd weddill ei oes yn ei balas, Tan y Bwlch, ger Aberystwyth, mewn parch mawr gan wreng a boneddig. Efe a briododd Jane, ail ferch Mathew Davies, Ysw., Cwmcynfelyn, o'r hon y cafodd dri mab a merch. Bu farw Mai 10, 1828, yn 51 mlwydd oed.

DAVIES, MOSES, ydoedd fab ieuengaf T. D. Evan, gweinidog y Bedyddwyr yn ardal Sulian. Yr oedd yn orwyr i T. D. Rhys, o Foeddyn. Aeth o gylch y flwyddyn 1749 i ysgol Pont y Pwl, ac oddi yno i Brynbyga, ac wedi hyny i Lundain, dan olygiad Dr. Jennings, Dr. Savage, &c. Bu yn pregethu yn y parthau hyny. Priododd ferch gyfoethog yn Essecs. Bu farw yn 1765.


DAVIES, RHYS, neu RHYS DAFYDD DOMOS, pregethwr cynnorthwyol gyda'r Annibynwyr, a artrefai y rhan olaf o'i oes yn Saron, plwyf Llangeler, a anwyd ym Mhen Banc, plwyf Bettws Ifan, yn y flwyddyn 1772. Dechreuodd ei yrfa grefyddol yn lled fore, ac annogwyd ef i ddechreu pregethu. Aeth i'r ysgol i Glandwr, sir Benfro, yr hon a gynnelid gan yr enwog J. Griffiths, lle y daeth i wybodaeth lled dda o'r Seisoneg a'r Lladin. Ar ol gorphen ei yrfa addysgol, efe a symmudodd i'r Gogledd i gadw ysgol a phregethu. Efe oedd y cyntaf o'r Annibynwyr a fu yn pregethu yn Nhal y Bont, sef yn y flwyddyn 1803. Yr oedd y pryd hyny yn cadw ysgol ym Mhenal Meirion Yr oedd boneddiges o'r enw Mrs. Anwyl yn byw mewn lle o'r enw Llugwy, ger y lle hwnw, yr hon oedd yn aelod gyda'r Annibynwyr; a thrwy fod cyfeillion a pherthynasau ganddi yn Nhal y Bont, hi a agorodd y ffordd i Rhys Davies i fyned yno i bregethu. Arferai Rhys bregethu ar ben esgynfaen yn ymyl y "Llew Du." Gan fod Rhys yn rhyfedd o wresog a phoeth yn ei bregethau, daeth lluaws i wrando. Dilynwyd Rhys yno gan y Parchn. Dr. Philips, Neuaddlwyd, a T. Jones, Saron, ac ereill. Yr oedd Rhys yn un o ddynion hynotaf Cymru, yn llawn tân a lluched— y tân a'r pylor yn ochr eu gilydd bob amser; ac nid oedd ond y wreichionen leiaf yn ofynol cyn gyru yr hen drysorfa bylor yn wreichion gwyllt, yn un Etna fawr o dân a mwg, gwreichion, trystiau ac ufel ofnadwy, nes synu a brawychu dyeithriaid, a difyru y sawl oedd yn ei adnabod: yr oedd felly pan yn blentyn. Yr oedd yn arfer rhedeg a neidio, beth bynag, gymmaint ugain o weithiau a'i gyfoedion. Dywedir fod ei dad yn methu yn deg â chael pren digon caled a pharhäus i bâr o esgidiau coed i ddal bythefnos iddo, nes iddo yn y diwedd gael eithin Ffrengig digon praff yng Nghwm Pant yr Odyn. Ar ol cafnu a chymhwyso y pren eithin at draed Rhys, dywedir iddo fethu hollti na threulio y pâr hwnw dan ddeufìs, y rhai allasent ddal dwy flynedd i blant cyffredin. Nid oedd Rhys y pryd hyn ond rhyw bum neu chwe' mlwydd oed. Yr oedd yn llwm tân a lluched crefyddol; ni allasai geisio bendith ar ei fwyd heb boethi, ac yn fynch byddai yn gwaeddi "diolch" a " gogoniant" ddwy neu dair gwaith. Yr oedd yn weddïwr rhyfeddol o aml a thaer; ac ym mhob amgylchiad o eiddo ei hun a'i gydnabod, byddai yn gweddïo yn y fan, mewn modd rhyfeddol. Yr oedd un tro er ys tua phump a deugain o flynyddau yn ol, yn amser adfywiad poeth iawn yn y wlad, yn dechreu y cyfarfod o flaen y Parch. T. Griffiths, Hawen, pan yr erfyniai Mr. Griffiths arno am beidio myned yn boeth ac ym mhell i'r hwyliau, onid e nad allesid byth fyned ym mlaen â'r addoliad. "O'r goreu," ebai yntau. Aeth rhagddo yn fwy-fwy i'r gwynt bob mynyd, gan waeddi " diolch," " gogoniant" yn holl nerth ei beiriannau llafar. Yr oedd y gynnulleidfa yn myned i'r eithafion mewn gwaeddi, a Mr. Griffiths yn tynu godreu ei got bob chwarter mynyd yn arwydd iddo am orphen; ond nid oedd dim yn effeithiol. Ond gan ei fod yn gorphwys mewn rhan ar ei glun bren, cafodd dyniad nes yr oedd ar ei eistedd yn y bregethfa. Ond wedi eistedd, gwaeddai nerth ei geg "Diolch! Diolchl Gogoniant! Gogoniant!" nes yr oedd y cyfan yn un crychias o dònau a llif teimladau trwy yr addoldy.

Pan yr oedd yn pregethu yng nghymmydogaeth Trawsfynydd, aeth William Williams, wedi hyny, y Parch. W. Williams, Wern, i'w wrando. Nid oedd ar y pryd ond tair ar ddeg oed; a dywedir mai y pryd hyny yr ymaflodd y gwirionedd yn ei galon. Fel hyn, iddo ef y priodolir troedigaeth y dyn mawr hwnw. Dywedir mai yr achos iddo golli ei glun oedd neidio mewn " diwygiad" trwy ei niweidio, a chadw botas newydd danllifaid am dani ar ol yr anffawd, yr hyn a ganlynodd mewn gorfodiaeth i'w thori ffwrdd. Ar ol hyny, adwaenid ef gan lawer wrth yr enw "Rhys y Glun Bren." Gofynai gwr dyeithr gweddol barchus iddo unwaith, pa beth oedd wedi gael ar ei glun? "O," ebai yntau, "nid yw hyny ddim pwnc o iachawdwriaeth i chwi."

Teithiodd lawer iawn ar hyd a lled y wlad i bregethu. Aeth i gymmanfa ym Mrycheiniog, ond gan iddo fethu cyrhaedd yn brydlawn, bu yn gyfyng arno am letty; ond addawodd un gwr cyfrifol y gwnelai rywbeth iddo. Felly trefnwyd gwely iddo mewn ystafell fechan dan y grisiau. Yr oedd yn methu yn lân â chysgu trwy gydol y nos gan fod y morwynion yn ol ac ym mlaen yn darparu bwyd erbyn ciniaw dranoeth. Ond rywbryd cyn y boreu, syrthiodd un o'r merched ar hyd y grisiau, a gwaeddai yntau allan, " Gogoniant, dyna'r d—l â'i faglau i fyny." Yr oedd wedi cael gwerthiant Llythyr y Gymmanfa yn etifeddiaeth, a byddai yn teithio gwlad a gorwlad i'w werthu; ac yr oedd yr olwg arno yn nrysau y capeli, neu byrth y mynwentydd, yn ddigrif dros ben. Ni roddai, meddai, lonaid gwniadur o soeg am grefydd neb, os na phrynent Lythyr y Gymmanfa.

Arferai bregethu yn ardal Aberteifi. Sylwai boneddwr ag oedd â'i balas ar fin y ffordd ar yr hen wr a'r glun bren yn myned heibio; ond y mae yn debyg nad oedd efe wedi sylwi dim ar y boneddwr. Un tro cyd-deithiai gydag ef am chwarter milltir, gan achwyn ar y gwres, a bod syched arnynt. , "O," ebai y boneddwr, "ni awn i mewn i'r palas yma, y mae yma bobl garedig." Felly yr aethant. Ni wyddai Rhys yn y byd pwy oedd y boneddwr. Eisteddodd pob un honynt mewn ystafell fechan ger y gegin. Cododd y boneddwr, ac agorodd gwpwrdd, gan gymmeryd costrel o gwrw, gan gynnyg gwydraid i Rhys. Gwaeddai Rhys allan "Y dyn ofnadwy, a ddaethym yma i gael fy nal fel lleidr" Ond er cymmaint a waeddai, ni chymmerai neb nemawr sylw. Aeth Rhys allan yn llawn helbul, gan waeddi a gweddio; ac elai y gwr dyeithr allan hefyd, gan gymmeryd costrel arall yn ei god. Ond yr oedd Rhys yn gwaeddi fwy fwy, nes yr oedd wedi llwyddo i gael pawb o bobl y ty i wrando bellach. Gorfu ar y gwr dyeithr hysbysu mai efe oedd Mr. — a breswyliai yn y palas, gan roddi iddo bunt, a gorchymmyn i alw bob tro y delai heibio. Tywalltodd Rhys bentwr o fendithion ar ei ben, gan ymadael

Yr oedd Rhys yn ddyn o alluoedd cryfion, ac efe a arferai gyfansoddi pregethau da, ond traddodai hwynt yn wyllt a chawdelog. Nid oedd byth yn absenu neb. Er ei dymmer boeth, nid oedd neb yn ammheu ei ddidwylledd a'i dduwioldeb. Bu farw Ionawr, 1847, yn 75 mlwydd oed. Ger llaw y ty y ganed ef y mae Pwllpair, lle mae yr afon Dulas yn cwympo dros graig; a dyna sydd yn rhyfedd, fod tebygolrwydd mawr yn nhymmer a thraddodiad Rhys Yr rhaiadr — yn chwalu, byrlymu, a rhuo.

DAVIES, RUBEN (Reuben Brydydd y Coed), a anwyd yn Nhan yr Allt, Cribyn. Yr oedd yn ddyn ieuanc o dalentau cryfion iawn, fel y mae yn adnabyddus i'r rhai ydynt yn gyfarwydd â'i waith. Nid oedd yn ymhoffi rhoddi ei fyfyrdodau ar bethau cyffredin ac isel; ond yr oedd yn berchen chwaeth ragorol o uchel. Y mae yn amlwg, pe buasai y gwr ieuanc hwn yn cael byw oes weddol hir, y buasai yn dyfod yn glod i wlad ei enedigaeth. Yr oedd hefyd yn ysgolor rhagorol Yr oedd ar fin myned i goleg Henadurol Gaerfyrddin. Aeth trwy yr arholiad cyntaf yn llwyddiannus Ond druan o hono, ymaflodd y dyfrglwyf yn ei gyfansoddiad gwanaidd, ac felly gorfu iddo adael Caerfyrddin. Bu farw Ionawr 8, 1833, yn 25 mlwydd oed. Yr oedd yn un o brif gyfeillion yr hyglod Daniel Ddu.


DAVIES, RICHARD, a aned, y mae yn debyg, yn ardal Llechryd ac Aberteifi, yn y flwyddyn 1658. Y mae tebygolrwydd taw mab James Davies, o Aberteifi, yr hwn a gafodd drwydded i bregethu yn y flwyddyn 1672, oedd R. D.; ac y mae yn debyg taw un o'r un teulu oedd Evan Davies, y cyntaf o'r Gilgwyn. Gafodd ysgol uchel ond, nis gwyddom ym mha le. Priododd â Rosamond, merch yr Anghydfiurfiwr enwog, Henry Williams, Ystafell, ger y Drefnewydd. Bu yn cadw ysgol enwog yn Llundain. Yr oedd yn gyfaill mynwesol i dywysog y duwinyddion, y Dr. Owen. Gafodd ei urddo yn Rothwell, swydd Northampton, o gylch y flwyddyn 1689; a ba farw yno yn 1714, yn 56 mlwydd oed. Yr oedd yn un o brif bregethwyr a duwinyddion ei oes. Ysgrifenodd amryw fân lyfrau. Y mae ei Faith the grand Evidence of our Interest in Christ, or the Nature of Faith and Salvation, opened from John vi, 40, a gyhoeddwyd yn 1704, yn cael ei ystyried yn waith tra rhagorol yng nghyfrif y duwinyddion enwocaf. Cyhoeddodd farwnad i'w dad yng nghyfraith, yn yr hon y mae llawer o hanes trafferthion ei fywyd. Bu ei dad yng nghyfraith farw tuag 1685, yn 60 oed. Yr oedd Mr. Davies yn fardd rhagorol, a chyfansoddodd lawer o emynau yn yr iaith Seisonig. Gyhoeddodd lyfr emynau o'r enw Hymns composed on seyeral Subjects and on divers Occasions: in Five Parts. Yr oedd y seithfed argraffîad o hono wedi ei werthu yn 1748, a daeth yr wythfed allan yn Llundain yn 1833, dan olygiaeth John Andrews Jones, Mitchell- street Chapel. Mewn un o'r argraffîadau, y mae rhaglith gan Dr. Gill. Dywed iddo fod yn derbyn addysg yn ieuauc o dau Mr. Davies. Mynega ei fod yn athraw rhagorol: a byddai yn fynych yn adrodd y ddwy linell a ganlyn: —

"Si Christum bene scis, satis est. si caetera nescis,
Si Christum nescis, nihil est, si caetera discis."

"Os wyt yn adnabod Crist yn dda, nid oes gwahaniaeth os wyt yn anwybodus mewn amryw bethau ereill : os wyt yn anwybodus o Grist, ni fydd gwybodaeth arall o fawr gwerth." Dywed ei fod yn bregethwr bywiog, gwresog, ac aiddgar o'r Efengyl — fod ei oleuni o honi yn anghymharol eglur a diamwys yn ei bregethau, nid yn unig yn y lle a'r sir lle yr oedd, ond mewn amryw siroedd cyfagos. Pregethai y Gair yn ddiflin mewn amser ac allan o amser, yn yr hyn y bu yn llwyddiannus yn nhröedigaeth llaweroedd, ac yr oedd ol ei lafur am flynyddau lawer ar ol ei farwolaeth. Yr oedd yn Foanerges (mab y daran) pan yn cyhoeddi y gyfraith yn ei lle priodol, ac yn Farnabas (mab dyddanwch) i bechaduriaid trallodus a seintiau llesg. Darfu i'w ddefnyddioldeb achosi iddo lawer o elynion: ni chablwyd, ni ddifenwyd, ac ni warthruddwyd neb yn fwy; ac ni fu neb erioed mor bell o haeddu hyny, gan ei fod yn enwog mewn gostyngeiddrwydd, duwioldeb, a bywyd ac ymadrodd difrychau. Ymnofiai yn y teimlad o gariad tragwyddol a digyfnewid Duw y Tad yn etholedigaeth dragwyddol, yng nghyfammod gras, ac yn anfoniad ei Fab : mewn gair, yr oedd yn Rhy w seraph ar y ddaiar. Wele ddau bennill o'i emynau: —

"The lambs are in their Jesu's arms,
They hear His bowels sound;
He keeps them close from any harms:
Their hands are in His wound,

"They are so near unto His heart,
He hears their cry and moan;
His bowels answers them, My grace
Sufficient is alone" -Tud 94.

DAVIES, RiCHARD, ydoedd weinidog eglwys Penbryn yn amser Cromwel, ac a drowyd allan mewn canlyniad i Ddeddf Unffurfìad; ond efe a gydymffurfiodd wedi hyny.


DAVIES, SAMUEL, gweinidog yr Annibynwyr yn Ynysgau, Merthyr, ydoedd fab James Davies, canlyniedydd P. Pugh yn y Gilgwyn. Derbyniodd ei ddysgeidiaeth yng Ngholeg Henadurol Caerfyrddin.


DAVIES, THOMAS FRANCIS, a aned ym Mhen Banc, Llangybi. Debyniwyd ef yn aelod yn y Cilgwyn. Cafodd Addysg athrofaol. Aeth yn weinidog i Bollington, yn Lloegr, lle yr arosodd hyd ei farwolaeth, a'r lle y claddwyd ef yn nechreu y canrif hwn. Daeth ei lyfrau a'i holl eiddo i'w frawd, Evan Davies, Pen Banc.


DAVIES, TIMOTHY, gweinidog yn y Cilgwyn, oedd enedigol o ardal Cellan. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1711. Urddwyd ef pan yn chwech ar hugain oed. Bu farw yn y flwyddyn 1771. Ei wraig oedd Sara, merch y Parch Jenkin Jones, Llwyn Rhys. Dywedir mai mab Eyan Davies, y cyntaf yn y Cilgwyn, oedd; ond nis gallwn brofi hyny. Pan oedd yn glaf, daeth D. Llwyd, Llwyn Rhyd Owain, i bregethu yn ei le mewn angladd yng Nghoed y Parc; ac ar y bregeth dywedodd, meddir, y gallasai Suddas Iscariot fod yn y nefoedd oni bai ei ddrygioni ei hun, ac o herwydd myned mor bell i "Arminiaeth," ymosodwyd arno yn chwithig ar ddiwedd y bregeth. Aeth Llwyd wedi hyny i bregethu i'r Gilgwyn, a hyny ar Sul y Gymmundeb, yr hyn a fu yn dramgwydd mawr i ran helaeth o'r gynnulleidfa. Yn ganlynol i hyny ymranodd y gynnulleidfa. Y mae yn amlwg fod y Gilgwyn yn gryf iawn yn amser Timothy Davies. Aeth amryw gapeli y cylch wedi hyny yn Ariaidd ac Undodaidd; ond dalodd y Gilgwyn heb fyned ym mhellach nag Arminiaidd. Nid oes dim braidd ol yr hen gapel gynt i'w weled: y lle y bu cannoedd yn ymgynnull, a lle y bu llawer o bobl ieuainc yn cadl eu dysgu, sydd yn bresennol yn anghyfannedd -- dim cymmaint a chareg ar gareg. Y mae y capel presennol o'r enw Cilgwyn, ym mhentref Llangybi tua milltir o'r lle yr oedd yr hen gapel. Ar farwolaeth y diweddar Mr. Evan Lewis ymunodd y gynnnlleidfa â'r Wesleyaid. Hyd hyny, arddelent yr enw Presbyteriaid.

DAVIES, William, diweddar weinidog yr Annibynwyr yn Rhyd y Ceisiaid, oedd enedigol o ardal Penrhiwgaled Ganwyd ef Rhag. 31, 1792. Gafodd freintiau rhieni crefyddol ac hefyd gweinidogaeth un o "weinidogion callaf yr oes ddiweddaf sef y Parch. B. Evans, Drewen. Ymunodd â chrefydd pan yn ugain oed. Aeth i Athrofa Neuaddlwyd, a dechreuodd bregethu. Ar ol cynnyddu mewn gwybodaeth o Ladin a Groeg, aeth i Athrofa Llanfyllin, yng Ngorphenaf 11, 1818. Gafodd ei urddo yn Llangollen yn 1822. Yng Ngorphenaf, 1826 symudodd I Ryd y Geiaiaid, lle y terfynodd ei fywyd. Ystyrid ef yn bregethwr gwych ac efengylaidd, ac yn gyfaill a Christion dysyml Bu yn cadw ysgol ramadegol am lawer o flynyddau, i barotoi dynion ieuainc i fyned i'r athrofëydd. Yatyrid ef yn Gymreigydd rhagorol. Bu farw yn sydyn ac annysgwyliadwy iawn Mehefìn 17, 1861.


DAVIES, WILLIAM gweinidog y Bedyddwyr yn Portsea ydoedd fab y Parch. D. Davies, Rheithor Bangor. Dechreuodd bregethu yn 1819. Aeth i Athrofa Bradford, lle y treuliodd bedair blynedd urddwyd ef yn Portsea yn 1826 y ond ni fu yn hir yno. Aeth yn genadwr i Affrica. Ni wyddys pa bryd y bu farw.


DAVIS, BENJAMIN, a anwyd yn y Goettref Isaf, plwyf Llangybi, yng nghymmydogaeth Llanbedr Pont Stephan. Yr oedd yn frawd i'r Parch. D. Davis, Castell Hywel Bu am beth amser yn gydathraw â'r Parch. R. Gentleman yn athrofa yr Ymneillduwyr yng Nghaerfyrddin. Yr oedd yn cael ei gyfrif yn ysgolhaig Hebraeg rhagorol; a bu y Parch. Evan Evans (Ieuan Brydyddd Hir) gydag ef am beth amser yn dysgu'r iaith hòna Wedi hyny aeth i Lynlleifiad, lle y bu yn gydweinidog â Mr. Yates: ond am lawer o flynyddoedd olaf o'i oes bu yn weinidog yn Evesham, lle y bu farw Ionawr, 1811.

DAVIS, DAVID, ysgolhaig a bardd rhagorol, a anwyd yn y Goettref Isaf, ym mhlwyf Llangybi, o gylch y flwyddyn 1743. Gafodd ei anfon i'r ysgol yn olynol i Lanybydder, Llangeler, Leominster, ac a orphenodd ei ddysg yng Ngholeg Henadurol Caerfyrddin. Daeth yn bregethwr Arminiaidd ac a sefydlodd ar y cyntaf yng Nghiliau Aeron; ond (ar ol cael ei urddo yn gydweinidog â'r Parch. Dafydd Llwyd, yn Llwyn Rhyd Owain, a manau eraill, efe a sefydlodd yng Nghastell Hywel, oddi wrth ba le y cafodd byth ei adwaen yn ol llaw wrth yr enw Mr. Davis Castell Hywel. Cadwodd yma ysgol enwog am flynyddoedd lawer, i ba le yr oedd ieuenctyd o'r holl ardaloedd cyfagos, yn gystal ag o fanau pell, yn dyfod i ymofyn dysg, llawer o'r rhai a ddaethant yn enwog fel ysgolheigion, ac i lanw cylchoedd uchel a pharchus mewn gwlad ac Eglwys. Yn y flwyddyn 1824: cyhoeddodd gyfrol o brydyddiaeth, dan yr enw Telyn Dewi, Y mae y Llyfr yn cynnwys llawer o gyfieithadau o'r Seisoneg; ac y mae ei gyfieithad o Gray's Elegy sef Myfyrdod mewn Mynwent yn y Wlad ar frig yr Hwyr yn cael ei ystyried gan lawer yn rhagorach na'r gwaith gwreiddiol. Priododd Tachwedd 15, 1755, â Mis Ann Evans, Foelallt, yr hon fu yn gydymaith bywyd tra dedwydd iddo. Yr oedd yn meddu dysgeidiaeth a gwybodaeth uchel, ac yn hynod am ei ysbryd hynaws a didramgwydd. Ym mhrydnawn ei fywyd symmudodd o Gastell Hywel i Lwyn Rhyd Owain, lle y bu farw tua'r flwyddyn 1826, yn 83 mlwydd oed. Gafodd ei gladdu yn Llanwenog. Y mae B. Evans, Ysw., cyfireithiwr, Gastell Newydd yn Emlyn, yn ŵyr iddo. Hefyd, y mae John Jones, Ysw., cyfreithiwr, Llandyssul, a'r Parch. Joshua Evans, periglor Llanofer, sir Fynwy, yn orwyrion iddo. Mae yr olaf yn bwriadu ail gyhoeddi ei waith barddonol, yng nghyd â hanes ei fywyd; a diammheu y celai y llyfyr dderbyniad gwresog a helaeth gan y wlad, gan nad oes modd braidd gael copi o'r argraffiad cyntaf am unrhyw arian.

Ymddengys fod Mr. Davis yn hollol ddedwydd mewn addysgu pobl ieuainc. Clywsom hynafgwr yn dyweyd er ys ychydig yn ol, eu bod fel dosbarth un prydnawn wedi myned dros eu gwers yn weddol rwydd; a chan fod yr hin yn dwym iawn, yr oedd yr hen wr wedi cael ei hanner orchfygu gan gwsg, ac felly yr oeddynt yn falch o'r cyfle; ac ym mhen ychydig dywedodd yr olaf, "That is all, sir". Erbyn hyny dyna yr hen athraw yn rhwbio ei lygaid, ac yn ymysgwyd fel cawr, gan ddywedyd, "Oh, that's all, is it i". Ar ol hyn efe a'u cadwodd am dair awr, gan fyned yn ol a blaen ar hyd un llinell o Ladin, gan olrhain gyda manylrwydd bob cyssylltiad ag a allesid gael yn perthyn iddi. Yr oedd yr hen foneddwr a adroddai yr hanes wrthym yn dywedyd fod holl wersi yr hen athraw yn rhy- feddol dda a meistrolgar, ond fod gwers y prydnawn hwnw yn aros yn ffres ar ei gof. Y mae hanes ei fod yn elusen- gar iawn i dlodion; ac yr oedd Mrs. Davis gymmaint felly ag yntau. Yr oedd yn wr o dymmer ostyngedig a charedig, ac hefyd yn ddrylliog. Yr oedd yn aml yn wylo yn hidl pan yn pregethu, yn neillduol wrth draddodi rhai pregethau, megys y Mab Afradlawn, &c.

Er mai cyfieithad ydyw ei Fyfyrdod mewn Mynwent eto i gyd y mae wedi piesennoli y golygfëydd mor Gymreig ac mor ardderchog, fel y byddai yn werth i bob cyfieithydd ymdrechu ei efelychu yn hyn. Y mae y cyfan o'r gân swynol hon yn goglais teimlad y darllenydd gymmaint, fel nas gall yn aml lai na cholli dagrau. Buom lawer adeg yn darllen gwaith o natur uchel a choethedig; ond ar ol ei ddarllen unwaith neu ddwy, yr oedd y swyn yn darfod, ac nid oedd awydd am ei ddarllen drachefn; ond nid felly y gân odidog hon; y mae hon yn dal fyth a hefyd yn ei blas cynenid. Ar ol dilyn y dyn ieuanc a chadarn yn gorwedd dan dew goeden yng ngwres yr haul ganol dydd, yn gwrando dwndwr per y dwfr, ac yn gweithio pennill neu englyn, ac yn y prydnawnau yn rhodio ar y gwyndwn glân, weithiau yn gwenu wrth fwmial canu, a phrydiau ereill yn llibyn pendrwm heb englyn na phennill, mewn trwm ofid neu fawr gariad wedi troi yn anobaith prudd, y mae yn colli yr olwg arno. Y mae y gân hon eto yn diweddu mor dda, fel y mae "ysgrifen fedd" y gwrthddrych yn cadw fyny â'r holl gyfansoddiad o'i dechreu i'w diwedd. Mewn gair, y mae'r gân hon yn ddigon i roddi coron lawrwyddog bardd i'r cyfieithydd, pe na buasai dim arall. Y mae hefyd ei Anerch i'r Duwdod, Golwg ar Fangre ac Amser Mebyd, Ffynnon Bedr, Cwymp Ffynnon Bedr, Y Gwynfan, Cri Carcharor dan Farn Marwolaeth a llawer ereill, yn ddamau ardderchog o farddoniaeth, o chwaeth uchel a choethedig iawn. Y mae bellach ddeugain namyn un o flynyddau er pan orphenodd yr awdwr dysgedig ei yrfa ddaiarol; ond er hyny y mae ei gofiant ym mhob modd yn uchel yn ei wlad, a diammheu y deil felly tra byddo yr iaith seinber, yr hen Gymraeg doreithog, i gael ei siarad ar lechweddi Ceredigion. Mewn rhyddiaith, cyfieithodd Bywyd Duw yn Enaid Dyn, gan Scougal. Y mae y beirdd Mr. Joseph Jenkins, Trecefel, a'i frawd Mr. John Jenkins, a'r Parch. J. Davis, B.D., Llanhywel, yn wyron i frawd Mr. Davis. Gorwyr i'w frawd yw Mr. J. Jenkins (Penarth) Melin y Coed.

DAVIS, David, Pantteg, a aned yn Chwefror, 1791, yng Nghilfforch, ger Aberaeron. Yr oedd ei dad yn amaethwr cyfrifol a pharchus yn y wlad. Ymunodd Mr. Davis â'r Eglwys Gynnulleidfaol yn Neuaddlwyd, pan yn dra ieuanc; ac ar gymmeradwyaeth ac annogaeth ei fugail, y diweddar Barch Ddr. Philips, efe a dderbyniwyd i Goleg Henadurol Caerfyrddin pan yn 17 oed. Bu cyn hyny mewn rhai ysgolion gwledig, ac yn eu plith ysgol enwog y dysgawdwr dwfn a'r bardd awenber, y Parch. D. Davis, Castell Hywel. Wedi treulio ei amser penodedig yn y coleg, efe a gafodd wahoddiad i fod yn gydfugail a'r Parch. John Griffiths, yng Nghaernarfon; a thua'r flwyddyn 1813 efe a urddwyd i gyflawn waith y weinidogaeth yn y dref uchod. Dim ond dwy flynedd y bu ei arosiad yng Nghaernarfon, gan iddo gael gwahoddiad oddi wrth eglwysi Pantteg a Phenuel, ger Caerfyrddin, yn y flwyddyn 1814. Parhaodd yma am 50 mlynedd, yn terfynu gyda'i farwolaeth, yr hyn a ddygwyddodd ar y Sabbath olaf yng Ngorphenaf, 1864. Ar ynmeillduad yr hybarch D. Peter oddi wrth y coleg yng Nghaerfyrddin, dewiswyd Mr. Davis yn olynydd iddo; ac efe a ddaliodd y swydd hon am 21 o flynyddau, er cyflawn foddlonrwydd i awdurdodau y sefydliad, ac i'r efrydwyr dan ei ofal. Y mae y coleg hwn, er ei fod yn henadurol mewn enw, o dan ardrefniad gwarcheidwaid Dr. Williams; ond llenwir y gadair dduwinyddol fynychaf gan Drindodwr. Yr oedd Mr. Davis yn Drindodwr o galon; ond yr oedd, serch hyny, yn ddigon rhyddfrydig i barchu gonestrwydd a chydwybodolrwydd pleidiau yn coleddu tybiau llwyr wahanol i'r eiddo ei hun. Yr oedd wedi bod am flynyddau yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd yng Nghymru; eithr yng nghanol ei nerth a'i boblogrwydd, gafaelwyd ynddo mewn modd ffyrnig yn 1840 gan dwymyn yr ymenydd; ac er ymadferu o hono yn raddol, o ran ei gorff, oddi wrth effeithiau yr afiechyd, eto nis adfeddiannodd byth yr unrhyw nerth ac egni a chynt. Yr oedd ganddo alluoedd naturiol rhagorach na chyffredin, y rhai a ddiwylliwyd ganddo gyda phob dyfalwch. Yr oedd yn efrydydd dyfnddysg o'r natur ddynol a'r Ysgrythyrau; a thaer gymhellai i sylw ei fyfyrwyr yr angenrheidrwydd o ddeall y ddau, cyn ceisio egluro y naill na'r llall; o blegid esbonio peth heb ei ddeall yn gyntaf sydd annichonadwy; a chan fod cymmaint a fyno gweinidogion Crist â dynion ac â'r Beibl, y mae yn anhebgorol iddynt astudio y ddau bwnc pwysig uchod yn drwyadl. Safai braidd wrtho ei hun o ran synwyr cyffredin cryf; a'i ymadroddion oeddynt ddihafal o ran bod yn wastad i'r pwynt ar bob peth. EI amgyffredion oeddynt gyflym, eto mor glaer a'r grisial, ac yn cael eu hamlygu gyda'r nifer lleiaf dichonadwy o eiriau. Ei arddull o bregethu oedd eglur ac ymarferol. Ni wyddys am neb mor debyg iddo yn hyn, a rhyw bethau ereill hefyd, a'r diweddar hybarch Ddr. Philips, Neuaddlwyd, yr hwn a roddodd ddeheulaw cymdeithas iddo pan yn ieuanc, ar ei dderbyniad dan ei ofal yn aelod o'r eglwys hòno. Yr oedd rhyw debygolrwydd o ran agwedd corfforol rhwng y Dr. a Mr. Davis yn fwy felly fel yr oedd yr olaf yn, heneiddio. Eithr o ran ansawdd y meddwl, a'r dull o amlygu, yr oedd y tebygolrwydd mwyaf. Rhai anghymharol oedd y ddau am fod yn fyr, eglur, ac i bwynt ar bob peth; oddi gerth ar rai amgylchiadau neillduol iawn, pan lyncid hwy gan ryw deimlad anghyffredin. Fel awdwyr a phregethwyr, hwy a ystyrientient ar eu pwnc ar unwaith, heb ryw ddyrys gylchymadrodd, gan drin yn fyr, eglur, ac i bwrpas. Yr oedd y ddau hefyd yn gwbl rydd oddi wrth hunanoldeb neu falchder Pan yn dal y swydd o athraw, gwelid Mr. Davis yn y boreu yn rhoddi gwersi mewn rhesymeg, Hebraeg, Ac, yn y coleg; ond yn y prydnawn gellid ei weled â'i gryman a'i bigfforch yn ei ddwylaw, yn cau tyllau yn y gwrychoedd, rhag trachwant anghyfreithlawn yr anifeiliaid; o blegid yr oedd efe yn amaethwr yn gystal a gweinidog yr Efengyl ac ysgolor. Nid oedd dim ariangarwch yn perthyn iddo; cyflawnai swyddau ei wahanol gylchoedd gydag hyfrydwch, fel dyngarwr; fel gwas Crist, fel gwasanaethwr ei gydgenedl yn eu diwylliant moesol a chrefyddol, gau ateb cydwybod dda i Dduw; yn hytrach nag fel un yn edrych ar daledigaeth y gwobrwy, yn y byd hwn na'r byd a ddaw. Pan gynnygiwyd codiad iddo gan yr eglwysi o ryw swm yn ei gyflog, ychydig cyn ei farwolaeth, dywedai fod cymmaint swm yn ormod, y gwnelai llai y tro, rhag troseddu ar gasgliadau ereill; ond ei fod ef yn ymdeimlo yr un mor ddiolchgar am y cynnyg er hyny. Byddai dywed am ryw anffawd, neu rywbeth aunymunol yn cyfarfod â rhyw un, yn effeithio yn ddwys ar ei feddwl. Ymdrechai yn fawr galonogi myfyrwyr a gweinidogion ieuainc dan gyfyngderau. Yr oedd o anian heddychol; nis gallasai gynnal gwg, nac anadlu mewn awyr anghydfod. Yr oedd yn wr boneddig trwyadl yn ol gwir ystyr y gair. Meddai enaid eang a rhydd. Yn holl ystod ei weinidogaeth, bu yn enwog a llwyddiannus. Edmygid ef yn fawr gan yr eglwysi dan ei ofal; ac er nad allent ymffrostio mewn aelodau cyfoethog iawn, eto hwy a'i hanrhegasant ar derfyn yr hanner canfed flwyddyn o'i fugeiliaeth drostynt, ag alwar yn cynnwys 167p. Daeth ei oes i ben, er ei fod wedi cyrhaedd "gwth o oedran" hytrach yn anamserol, neu o leiaf yn lled ddirybudd, trwy gwymp oddi ar ei geffyl, ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth, a fu yn achos dechreuol o'i afiechyd. Dim ond mis neu bum wythnos y bu fyw wedi cyfarfod ei Iwbili; ac efe a hunodd yn yr angeu Gorph 1864, yn 73 mlwydd oed, wedi bod yn y weinidogaeth am 52 mlynedd. Efe a fydd byw eto yn hir yng nghofion serchocaf ei efrydwyr, ei eglwysi, a lluaws o'i edmygwyr dysgedig yng Nghymru a Lloegr. Yn ystod ei oes efe a ysgrifenodd lawer i'r gwahanol gyfnodolion, yn draethodol, dadleuol, &c, trwy yr hyn y dygwyd llawer pwnc tywyll a dyrys i'r goleuni. Pan mewn dadl, yr oedd yn anhawdd cael neb a driniai ei wrthwynebydd mor llym; ymaflai ynddo mor gadarn, ac a'i lloriai mor ddidrugaredd. Bu yn olygydd y misolyn bychan a elwid Tywysydd a misolyn arall a elwid Cronicl Cenadol am hirfaith flynyddau. Cyfansoddodd lyfryn yn cynnwys Sylwadau ar Sefyllfa Prawf Dyn dan yr Efengyl, yr hwn a greodd gynhwrf ar y pryd trwy y Dywysogaeth; yr hwn bwnc y bu efe yn dadleu ag amryw yn ei gylch yn y gwahanol fisolion. Cyfansoddodd hefyd Draethawd ar Godi yn Fore, Cyhoeddodd bregeth ar Ffurf yr Athrawiaeth lachus, a draddodwyd ganddo ar agoriad addoldy Ebeneser, Llansadwrn, yn y flwyddyn 1831. Efe a ysgrifenodd y Sylwadau ar y Dadguddiad, ym Meibl y Parch. D. Davis, Abertawy. Cyhoeddodd holwyddoreg o'r enw Cyfarwyddwr Duwinyddol. Heb law hynyna, y mae yn awr yn barod i'r wasg, yn ei lawysgrifen, draethawd a fwriadai gyhoeddi, dan yr enw "Gwinllan y Gweithio" neu '"Gorf o Dduwinyddiaeth," Hyderir y gwneir sylw gan rywun yn fuan o'r llawysgrifau sydd ar ei ol, a'u dwyn allan trwy y wasg er lles y wlad ; o herwydd y mae yn golled ac yn drueni fod dim a gyfansoddwyd gan wr mor fawr yn gorfod ymlechu mewn cuddfan.

DAVIS, SYR DAVID, KC.H., M.D, oedd unig fab Robert Davis, Ysw., Llwyn, Llanddewi Brefi, o'i wraig, merch ieuengaf John Price, Ysw., Rhos y Bedw. Efe a anwyd yn 1793, ac a briododd yn 1819 â Mary, merch y Parch. John Williams, Ystradmeurig, a chwaer y diweddar Archddiacon Williams. Derbyniodd y Guelphic Order oddi wrth Gwilym IV. ychydig ddyddiau cyn marwolaeth y brenin hwnw, ac a gafodd ei wneyd yn Farchog gan y Frenines Victoria yn fuan ar ol ei hesgyniad i'r orsedd. Bu am ryw gymmaint o amser yn ymarfer ei alwedigaeth fel meddyg yn Hampton; ond gadawodd y dref hòno, trwy gael ei benodi yn feddyg i Gwilym IV. a'r diweddar Frenines Waddolog, yr hon a fu yn weini yn ei alwedigaeth am bum mlynedd cyn eu hesgyniad i'r orsedd. Bu farw yn nechreu Mai, 1865, yn 72 mlwydd oed, tra yn aros yn Lucca, Itali, er mwyn cryfhâd ei iechyd. Yr oedd yn cael ei ystyried yn un o feddygon uchelaf y deyrnas.

DAVIS, JOHN, ydoedd bedwerydd mab y Parch D. Davis, Castell Hywel, a anwyd Mehefin 5, 1787. Cafodd egwyddorion ei ddysgeidiaeth dan ofal ei dad a'i frawd. Bu wedi hyny yn dysgu rhifyddiaeth gydag un Mr. Parry, yng Nghaerfyrddin. Yn y flwyddyn 1804 ymrwymodd yn egwyddorwas meddygol gyda'r meddyg enwog Mr. Morgan, Dolgoch, ŵyr y Parch. D. Rowlands, Llangeithio, ac wedi hyny gyda meddyg enwog arall o'r enw Williams, yng Nghaerfyrddin. Yn y flwyddyn 1808 aeth trwy yr yspytty fel efrydydd bydwreigiaeth, a phenodwyd ef yn gymhar-yspytty ar fwrdd agerlong i uno â'r Fyddin yn Ynys Walcheren, lle y bu nes i'w iechyd ammharu, a daeth adref i Lwyn Rhyd Owain, lle y bu farw ym mhen wythnos, Hydref 27, yn 23 mlwydd oed.


DAVIS, JOHN, oedd enedigol o Bontfaen, yn Nyffryn Aeron, ac nid pell o borthladd Aberaeron. Astudiodd yn gyntaf o dan yr enwog David Davis, o Gastell Hywel; yna yn y Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin, y pryd hwnw o dan olygiaeth y Parch. Robert Gentleman, ac ar ol hyny am ddwy neu dair blynedd yn Daventry, o dan y Parch. Thomas Belsham. Tra yn Daventry, aeth i goleddu syniadau Undodaidd, er iddo gael ei ddwyn i fyny yn y ffydd Drindodaidd. Yr oedd Mr. Belsham y pryd hwnw yn iawn-fiyddiog, ac yn dra gofidus am fod Mr. Davis yn cael ei arwain allan o'r ffordd gywir, fel y tybiai ar y pryd. Ymsefydlodd Mr. Davis yn gyntaf yn eglwys fechan yn Cumberland, a chadwai ysgol. Nid arosodd yno yn hir; ond arferai un o'i hen ysgolheigion ddwy waith y flwyddyn ddanfon iddo anrheg o arian byth oddi ar hyny, barch iddo, a rhag ofn fod ei gyflog yn rhy fechan i un mor egwan o gorff ag oedd ef. Ei faes nesaf oedd Collumpton, yn swydd Devon, lle y treuliodd y gweddill o'i oes mewn parch mawr yn ei eglwys, a chan ei ysgolheigion, gyda'r rhai y buasai yn eistedd i lawr i'w dysgu, fel arfer, y nos olaf ond un cyn iddo farw. Yr oedd yn ddyn o arferion ysgolheigaidd, yn ddarllenwr mawr, hoff iawn o'r Dr. Nathaniel Lardner, a'r Dr. Joseph Priestley (yr olaf yn gydoeswr), ac yn benderfynol iawn yn y casgliadau a fuasai wedi ffurfio. Gadewid ef yn nodedig o ddi-dderbyn wyneb a chydwybodol, a thrwy orllewin-barth Lloegr adwaenid ef fel "Honest John Davis" Ni fuasai erioed yn briod. Nid oedd yn ddoniol fel pregethwr, ond yn cael ei hoffi a'i ganlyn fwaf gan y rhai a'i hadwaenent oreu. Bu farw Rhagfyr 16, 1824. Buasai yn gyfaill a chyfarwyddwr i David Jenkin Rees, Llwydjack, a pharhasant yn hoff o'r naill y llall, nes i angeu gymmeryd ymaith y blaenaf yn 1817.

DAVIS, TIMOTHY, o Evesham, ydoedd y trydydd plentyn ac ail fab i'r diweddar Barch. D. Davis, Castell Hywel. Ganwyd ef yn y Plasbach, Ciliau Aeron, Tachwedd 20fed, 1779. Pan o ddeutu pedair blwydd oed, symmudodd y teulu i Gastell Hywel Bu yn efrydydd y clasuron o dan ofal ei dad hyd nes yr oedd yn ddwy ar bymtheg oed; pan y rhoddodd hwynt i fyny am tua dwy flynedd, er mwyn gofalu am y tyddyn oedd gan ei dad. Yr oedd ei syched gymmaint am wybodaeth, fel yr oedd yn myfyrio yn ddiwyd ar ol i lafur a lludded y dydd fyned drosodd, gan gadw ym mlaen gyda'r rhai hyny ag oeddynt yn myfyrio yn ystod y dydd. Wedi ymroi yn y modd hyn i gynnyddu mewn gwybodaeth, cododd awydd arno am fyned i'r weinidogaeth. Priodolai efe yr awydd a gododd ynddo i bregeth Dafydd, ei frawd henaf, un Sul yn Llwyn Rhyd Owain. Yr oedd ei awydd gymmaint am y weinidogaeth, fel y dechreuodd bregethu ar y 12fed o Fai, 1799. Derbynwyd ef i'r athrofa ar y 3ydd o Ionawr, 1798. Ar ddiwedd ei yrfa golegol cafodd ei urddo i gydweinidogaethu â'i dad yn Llwyn Rhyd Owain a manau ereill. Ymadawodd â gwlad ei dadau, a sefydlodd yn y Great Meeting, Coventry, Medi 9, 1810. Cafodd yn y lle hwn gymdeithas amryw o enwogion Lloegr. Priododd Mai 19, 1811, â boneddiges ieuanc o Evesham. Cyn, ac wedi ymadael â Chymru, rhoddodd Mr. Davis ran fawr o'i amser i gyfieithu Esboniad' Dr. Coke i'r Gymraeg. Yn 1818 collodd un o'i bedwar plentyn a aned iddo yn Coventry. Symmudodd i Evesham ym Mehefin, 1818, lle y treuliodd bymtheg ar hugain o flynyddau yn y weinidogaeth. O blegid henaint a llesgedd, rhoddodd ei ofal gweinidogaethol i fyny Gorphenaf 17, 1853. Bu farw Tach. 28fed, 1860, yn 80 mlwydd oed. Arminiaeth oedd y wlad yn gyfrif ydoedd credo yr enwog Ddavis o Gastell Hywel; ond y mae yn debyg ei fod yn gogwyddo at Ariaeth : ond symmudodd ei blant yn nes ym mlaen i dir Ariaeth gyhoeddus, ac yn y diwedd y cofleidiasant yr hyn a elwir Undodiaeth hollol. Heb law cyfieithu Esboniad Dr. Coke, cyfansoddodd a chyhoeddodd Mr. Davis y gweithiau canlynol: — Cyfarwyddiadau i chwilio yr Ygrythyr Sanctaidd, mewn pregeth a draddododd yng Ngallt y Placca, mewn cyfarfod o weinidogion, Mai 6ed, 1832. Peryglon a Dyletswyddau Bywyd; pregeth yn angladd Ben. Jones, Coedlanau Fach, Mehefin 26fed, 1835, &c. Ac yn Seisoneg — Serious Admontion to the Young; on the great Duty of Remembering their Creator: in a discourse delivered at the Presbyterian Chapel, Oat-street, Evesham, on the 5th of January, 1834. A Sermon on the Season of Spring, delivered in the same, on Sunday, 18th of May, 1834. On Public Worship, and the Unity of God; two sermons preached at the chapel, in Manchester-place, Cheltenham, formerly belonging to the Society of Friends on occasion of the said chapel being opened for the worship of one God the Father, through Jesus Christ.

DEIO AB IEUAN DDU ydoedd enedigol o blwyf Llanfihangel y Creuddyn. Yr oedd yn ei flodau yn y rhan olaf o'r pymthegfed canrif. Y mae yn ein meddiant hen gywydd adysgrifiwyd o'r Gronfa Brydeinig er ys tua thair blynedd yn ol, yr hon sydd yn rhoddi hanes bywyd y bardd yn well na dim ag sydd mewn cof a chadw.

"CYWYDD Y CLERA YNG NGHEREDIGION"

" Y SIR oll a fesuraf
O Deifi i Ddyfi 'dd af ;
O Dywyn ac o'r glyn gloew
Y treiglaf i'm gwlad tragloew
Profi achoedd prif uchel
Ac ar dwf y gwŷr y dêl;
Dechreu o ddeheu ydd wyf
Y Sirwen gwlad ni sorwyf :
Hil Rhys melus y molaf,
Tewdwr o Ddinefwr naf :
Galw llwyth Einion Gwilym,
Y sy raid yn y sir ym'
Oddi yno mae f ' eiddunoed,
Dros y Cwm i dir Is Coed;
Ym mhlith llin Rhys chwith ni chaid
Ond aur gan benaduriaid;
Clawr rhif y gwŷr digrifion,
Coed y maes yw cyd a Mon;
Agos yw Caerwedros ym',
Dros y ddeheuros hoewrym.
Dyfod at waith Llwyn Dafydd
Da fan gan bob dyn a fydd ;
Doniog i ni fod myn Deinioel
Yn fardd i hil Llywelyn Foel!
Trown yno trwy Wynionydd,
Clera difeita da fydd;
Llwyth Dafydd Gwynionydd gân,
Hael faich o Hywel Fychan r
Pob rhyw [wr] pybyr eiriau,
O Ddinawal a dâl dau.
Oddi yno deffro'r dyffryn
Rhwyfo'r elod rhof ar y glyn,
Pob man o'r glyn a blanwyd,
Pob ffin a llin Ieuan Llwyd;
Dyfod at wyrion Dafydd
Tros y rhos, wttreswr rhydd;
Dilyn y man y delwyf,
Pobl Weithfoed erioed yr wyf;
Mawr a wnaf, myn Mair a Non!
O Benardd a Mabwynion,
I riniog oludog wledd,
Mi af yno, mae f ' annedd :
Hil y Caplan oedd lanaf,
Gwir iawn, ei garu a wnaf

Troi f' wyneb traw i fynydd,
Drwy y sir o dre' y sydd;
Amlwg yw hil Gadwgon,
O waelod hardd y wlad hon.
Goreu ceraint gwŷr carawg
A Uyn fydd rhyngddyn' y rhawg.
Digrifion myn Duw grofwy,
Doethion a haelion ŷn' hwy,
Câr iddynt wyf o'r Creuddyn,
Llyna haid o'i llin i hyn;
Llinach Llywelyn Ychan
Y maent hwy oll, myn y tân.
Enwau y cwmmwd einym'
Perfedd hyd Wynedd, da ym':
Llawdden oedd y gwarden gynt
Hil Llawdden hael oll oeddynt
Achau y cwmmwd uchod,
Geneu'r Glyn lle gana'r glod;
Moli hil Gynfyn Moelawr,
Ydd wyf fi, ac Adda Fawr.
Llyna hwy wrth y llinyn,
Achau'r holl gymmydau hyn :
Ufudd a dedwydd da iawn,
A mawr agos môr eigiawn;
Troi'n eu mysg trwy ddysg ydwyf,
Tros y wlad trasol ydwyf.
Ni chawn, myn Duw a Chynin!
Dy bach o'r Deheu heb win.
Llawen fyddai gwên pob gwr
Wrth Ddeio gymmhorthäwr;
Rhai dibwyll aur a dybia
Na chenid dim ond chwant da,
Cariad y ddeheu-wlad hon,
Rhai a'i haeddodd â rhoddion.
Lle mager yr aderyn,
Yno trig, natur yw hyn;
Minnau o'r Deau nid af;
Ar eu hyder y rhodiaf.
"DEIO AB IEUAN DDU."

Ni a welwn wrth y cywydd uchod, mai wrth glera o fan i fan ar hyd y palasau a thai cyfoethogion y wlad yr oedd y bardd yn byw. Dyna oedd dull llawer iawn o'r beirdd yn y cynoesoedd. Yr oedd Lewis Glyn Cothi, yr hwn oedd gydoesydd â'r bardd, yn clera yn barhäus o fan i fan, gan grwydro o'r Deheudir i'r Gogledd, gan gael croesaw mawr gan y boneddigion. Yr oedd y beirdd wrth glera yn cyfansoddi caniadau o glod i'r boneddigion lle yr oeddynt yn ymweled, gan gyfrif achau a gorchestion eu hynafiaid. Y mae y bardd hwn, yn y cywydd a ddyfynwyd, yn olrhain llawer iawn o achau y boneddigion. Y mae yn dechreu yn y Tywyn, ym mhlwyf y Ferwig, gan goffa Einion Gwilym, Arglwydd y Tywyn, sylfaenydd y palas hwnw; ac yr oedd yn nai, fab cyfnither, i'r bardd Dafydd ab Gwilym. Y mae Cadifor ab Dinawol, sylfaenydd Castell Hywel, yn cael ei goffa yma. Y mae hefyd Gweithfoed Fawr yn cael ei goffa, o'r hwn y mae teulu uchel y Gogerddan yn hanu. Y mae teuluoedd Coedmor a Gilfachwen Uchaf yn hanu o Gadwgan ab Bleddyn. Wrth y Llawdden yn y cywydd, y mae i ni ddeall, Llawdden, Arglwydd Uwch Aeron, yr hwn oedd yn ei flodau tuag amser Llywelyn ab Gruffydd. Ond yr anffawd waethaf wrth glera a gafodd y bardd hwn, oedd ei siomedigaeth ar ei ymweliad ag Ynys Enlli. Yr oedd wedi clywed mai gwr hael iawn ar ei fwyd a'i ddiod oedd Madawg, Abad Enlli, ac felly cyfansoddodd gân o glod iddo, gan ddysgwyl cael derbyniad caredig yn llys yr Abad yn Enlli; ond yn lle hyny, bara briglwyd, caws cnap, ac enwyn sur a gafodd y bardd! Yn chwerwder y siom, canodd gerdd oganllyd i'r abad, yn cyfodli â chaws drwyddi. Rhydd Meyrick, yn ei hanes o Geredigion, ddwy awdl o'i eiddo, sef un i Dafydd Tomos o Is Aeron, i ddiolch am ba un; ac un arall i Feredydd ab Llywelyn o Uch Aeron.

EDNOWAIN AB GWEITHFOED ydoedd wythfed mab Gweithfoed Fawr, Arglwydd Ceredigion. Yr oedd yn Abad lleyg yn Llanbadarn Fawr yn 1188. Y mae Giraldus Cambrensis yn beio yn llym ar yr arferiad ag oedd yng Nghymru a'r Iwerddon, sef rhoddi yr awdurdod eglwysig yn nwylaw y dynion mwyaf dylanwadol mewn cyfoeth yn y plwyfi, a'r rhai hyny yn defnyddio y fantais o roddi y swyddi cyssegredig i'w tylwyth, gan ergydio ar ben Ednowain.


EDWARDS, David, un o'r gweinidogion ymneillduol cyntaf yn y sir, oedd enedigol o Gellan. Yr oedd ei dad yn fab i Mr. Edwards, Deri Odwyn. Yr oedd D. E. yn gefnder i blant enwog Llwyn Rhys. Ymddengys iddo, fel ei gefnderwyr, gael dysgeidiaeth lled dda. Urddwyd ef yng Nghaeronen, Hydref, 1688. Cydlafuriodd â'i gefnder, Jenkin Jones, Llwyn Rhys, hyd y flwyddyn 1692. Dywedir taw efe fu y gweinidog blaenaf yn y cylch o hyny allan hyd ei farwolaeth. Bu yn y weinidogaeth 36 flynyddau.

EDWARDS, JOHN, diweddar beriglor Llanfihangel ar Arth, oedd enedigol o ardal Ystrad Meirig. Cafodd ei ddwyn i fyny yng Ngholeg Dewi Sant. Cafodd ei urddo ar Landyssilio Gogo. Symmudodd wedi hyny i Sulian. Bu yn Beriglor Llanfihangel ar Arth am tua deuddeg mlynedd. Bu farw Medi 9, 1860, yn 52 oed. Yr oedd yn bregethwr gwych, yn gymmydog hawddgar iawn, a Christion diffuant Y mae ei goffadwriaeth yn fendigedig yn y plwyf.


EDWARDS, LODWIG, a aned ym Mhant y Rhew, ger Gartheli. Dygwyd ef i fyny yn Ystrad Meirig. Bu yn cadw ysgol mewn amryw fanau. Bu am ryw amser yn pregethu gyda'r Ymneillduwyr. Ymunodd â'r Eglwys, a chafodd ei urddo ar guradiaeth ym Morganwg, lle y llafuriodd yn galed am flynyddau. Pan yn ymadael â Llangatwg, dangosodd y plwyfolion eu parch iddo trwy ei anrhegu â llestri arian drudfawr. Cafodd berigloriaeth Rhymni yn 1843, yr hon a ddaliodd hyd ei farwolaeth, yn y flwyddyn 1855. Llafuriodd yn rhyfeddol o galed yn Rhymni, a bu yn llwyddiannus iawn. Perchid ef gan bawb, Eglwyswyr ac Ymneillduwyr. Priodolid ei afiechyd i eithafion llafur. Gorphwys ei weddillion ym mynwent Llangeithio, ac ar ei gof-faen yr englyn a ganlyn: —

" Dygai ei weinidogaeth— oleuni
A dylanwad helaeth ;
Pob calon yn union wnaeth
Dyneru dan ei araeth."


EDWARDS, THOMAS, un o berigloriaid corawl Llanddewi Brefi, yr hwn a gydsyniodd â'r oruchafiaeth yn 1534, ac eilwaith yn 1553.


EINION, Abad Ystrad Fflur yn amser Cynan ab Meredydd. Cymmerodd ran helaeth yn helyntion y Dywysogaeth.
EINION AB DAFYDD LLWYD ydoedd foneddwr cyfoethog a breswyliai yn y Wern Newydd, Llanarth. Croesawodd Iarll Rismwnt ar ei daith. o Aberdaugleddau i Faes Bosworth. Bu hyny yn godiad i Einion ar ol coroniad yr Iarll yn frenin Lloegr. Daeth cangen o Lwydiaid Llanarth, sef disgynyddion Einion, i Lanborth, plwyf Penbryn; ac y mae eu disgynyddion yno heddyw. Merch Llwyn yr Heol, Llanarth, oedd mam y diweddar John Lloyd Williams, Ysw., Gweranant, yr hwn oedd hanedig o Einion.

ELFFIN AB GWYDDNO sy gymmeriad hynod yn ein llên Fabinogaidd. Dywedid fod gan ei dad ored bysgota ar y traeth rhwng Aberdyfi ac Aberystwyth, ac mai yno y cafwyd Taliesin! Geliir gweled yr hanes ym Mabinogi Taliesin, &c.


ENOCH, JOHN, a aned yn Nhroed yr Aur. Yr oedd yn fab i Enoch Hywel, yr hwn oedd fab Dafydd Hywel, y bardd o'r Wernlogws, yr hwn deulu oedd yn disgyn yn gywir o Gradifor Fawr, Arglwydd Blaencych. Rhedai yr achres fel y canlyn:— John ab Enoch ab Dafydd ab Hywel ab Hywel ab Einion ab Dafydd ab Hywel ab Ieuan ab Dafydd ab Gruffydd ab Rhys ab Llywelyn ab Ifor ab Llywelyn ab Ifor ab Llywelyn ab Ifor ab Bledri ab Cadifor Fawr. Y mae Gwernlogws yn ymyl hen lys Cadifor Fawr; ac yr oedd tua 70 mlynedd yn ol ym meddiant Howell Davies, ewythr John Enoch. Yr oedd yn weddill o hen gyfoeth Cadifor, ac wedi dal yn feddiant y teulu hyd amser Howell Davies, yr hwn a'i gwerthodd. Ymunodd John Enoch â meiwyr Ceredigion pan Yn lled ieuanc. Daeth yn y blaen i fod yn gadben a phentalwr y meiwyr. Yn ei gorffolaeth yr oedd yn dal, cadarn, prydferth, a siriol; ac yn ei ymddygiad yn foneddigaidd a hawddgar, ac yn llawn natur dda. Yr oedd yn fawr ei barch; ac nid oedd neb o foneddigion y wlad oddi amgylch yn gosod eu plant yn y fyddin heb ymgynghori â Mr. Enoch. Bu farw Chwefror 10, 1833, yn 74 oed. Preswyliai yn Aberarthen Fach, yr hwn ddarfu iddo brynu ac adeiladu arno. Wyr iddo yw Mr. John Thomas, Crymnant. Mab cyfnither iddo yw y Parch. D. Silvan Evans, B.D., Llan ym Mawddwy, Meirion.


ENOCH, JOHN, Milwriad, oedd fab y dywededig John Enoch o Aberarthen Fach, Troed yr Aur. Ymunodd y Milwriad Euoch â'r fyddin pan yn lled ieuanc, a dangoaodd lawer o gymhwysder milwrol yn ei ieuenctyd. Wele res o'i ddyrchafiadau gyda'r 23rd Royal Welsh Fusiliers: Is-raglaw, Mawrth 9fed, 1809; Rhaglaw, Awst 15fed, 1811; Cadben, Gorphenaf 22fed, 1830; Uch-gadben, Ebrill 14ydd, 1848; Is-filwriad, Chwefror 1af, 1851; Milwriad, Tachwedd 28fed, 1854. Gwasanaethodd gyda'r rhyfelgyrch i Walcheren, a gwarchae Flushing, 1809; yn yr Orynys, 1810 hyd 1813; gwarchae Badajos ac Olevensa, 1811; Brwydr Albuera, Mai, 1811; Câd-weithredoedd Fuente Gevuado ac Elbodin, Medi, 1811; gwarchae Ciudad Rodrigo, Ionawr, 1812; Brwydr Salamanca, Gorphenaf, 1812, pan y cafodd ei glwyfo yn drwm, a cheffyl ei ladd o dano; Brwydr Waterlw, ystormio Cambray, a chymmeryd Paris, 1815. Gwasanaethodd gyda'r Royal Welsh Fusiliers o dan y diweddar Syr Henry Ellis, Syr Thomas Pearson, a'r Is-gadfridog Dalmer. Bu farw yn Llundain yn y flwyddyn 1855, tua thrigain a deg oed, gan adael ar ei ol un ferch, yn briod â Dr. Lewis, Piccadilly, Llundain, brodor o Geredigion. Yr oedd y Milwriad Enoch, fel milwr, yn sefyll yn uchel; ac yr oedd hefyd yn gyfuwch fel boneddwr a chyfaill, ac felly perchid ac edmygid ef gan bawb a'i hadwaenai.

EVANS, CHRISTMAS, un o weinidogion enwocaf y Bedyddwyr yng Nghymru, a aned yn Ysger Wen, plwyf Llandyssul, ar ddydd Nadolig, 1766; ac felly cafodd ei alw yn "Christmas." Yr oedd yn hanu o hen deulu tywysogaidd Blaen Cerdin, yr hwn sydd yn disgyn yn gywir o Morydd, Brenin Aberteifl, o gylch y flwyddyn 830; ond er yn hanu o deulu uchel o ran ei fam, eto yr oedd ei rieni yn isel eu hamgylchiadau, ac felly nis gellir dywedyd iddo gael dim manteision dysg. Pan tua dwy ar bymtheg oed, cyflogodd yn was tyddyn gyda Mr. Davis, o Gastell Hywel; a thra yn gwasanaethu yr hen ysgolor yn y dydd, yr oedd yntau yn rhoddi gwersi iddo yn y nos; ac yno, yn y modd hyn, y dechreuodd sillebu a darllen. Cyn hir, efe a ymunodd â'r Henaduriaid yn Llwyn Rhyd Owain, a chafodd yn fuan ei annog i bregethu. Yr oedd yn pregethu yn achlysurol gyda'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr. Yn yr amser hwn, fel yr oedd yn dychwelyd o sir Henffordd, collodd ei lygad, trwy i haid o ddyhirod ymosod arno yn hollol ddiachos. Tua'r flwyddyn 1788, efe a ymunodd â'r Bedyddwyr yn Aberduar. Yn fuan ar ol hyn aeth ar daith bregethwrol i Ogledd Cymru, a cheisiwyd ganddo aros yng Nghaernarfon. Cafodd ei urddo yn y sir hòno, a bu fel cenadwr yn gofalu am eglwysi Lleyn. Priododd ag un Catherin Jones, yr hon a fu yn ymgeledd gymhwys iddo fel gweinidog yr Efengyl. Yr oedd yn ymgodi yr amser hwn i hynodrwydd mawr am ei lafur yn y weinidogaeth, ac yr oedd ei athrylith yn synu yr oes. Pregethai weithiau bedair a phum gwaith yn y dydd, gan gerdded llawer o ffordd rhwng y lleoedd. Yr oedd effaith rhyfeddol o lwyddiant yn dilyn — ugeiniau lawer yn cael eu bedyddio yn y gwahanol fanau ym maes ei lafur. Yn 1791, derbyniodd wahoddiad taer i symmud i Ynys Mon; ac ar ol ystyriaeth, ymunodd â'r cais. Treuliodd tua phymtheg ar hugain o flwyddi yn Llangefni, lle nid oedd yn derbyn ond 17p. o gyflog! Dywedir hefyd ei fod yn rhyfeddol elusengar i dlodion; cyfranai yn aml y tipyn olaf yn y ty. Ymledodd ysbryd anhyfryd ym Mon o herwydd daliadau Sandemanaidd, yr hyn, meddir, fu yn achos iddo adael yr ynys. Bu farw ei wraig yn yr amser hwn. Yr oedd hefyd yn isel ei amgylchiadau — dim ond ceffyl o dano, ac ychydig bach yn ei god, yn gadael maes llafur mor galed. Sefydlodd yng Nghaerffili, pryd y priododd yr ail waith, â Mary Evans, o Fon. Symmudodd wedi hyny i Gaerdydd. Aeth i gymmanfa Llynlleifiad yn y flwyddyn 1832, pan y cafodd alwad i fyned i Gaernarfon. Pan ar daith trwy y Deheudir, yn casglu at y capel yng Nghaemarfon, cymmerwyd ef yn glaf yn Abertawy, ac yno y bu farw, Gorph. 19, 1838. Ni fu ond amser byr yn glaf . Bu farw y dyn mawr hwn yn 72 mlwydd oed; wedi treulio 53 o honynt yn y weinidogaeth. Yr oedd Christmas yn un o gewri mwyaf yr areithfa yng Nghymru; meddiannai alluoedd hynod o fawreddog, a'r rhai hyny nodwedd hollol arbenig iddo ei hun. Yr oedd, fel yr Wyddfa, yn uchel, mawreddog, ac aruthrol. Yr oedd, yn ddiau, yn ddarllenydd mawr, ac felly yn cynnyddu ei feddwl; ond yr oedd delw gwreiddioldeb o'i eiddo ei hun ar bob peth a draddodai. Yr oedd ei gymhariaethau yn fawreddog ofnadwy, ac yr oedd eu cymhwysiad yn dangos darfelydd, chwaeth, a medr rhyfeddol; ac felly yr oeddynt yn ei bregethau yn gadael rhyw aruthredd annileadwy ar feddyliau y gwrandawyr. Dywedir am ei bregeth Y Mab Afradlawn ei bod yn brawf arbenig o hyn. Yr oedd yn debyg i ffrydiau aruthrol y Niagara, yn anghymharol o fawreddog — fel "uchelgadr raiadr dwr ewyn," a'r olwg a'r Hwn yn synu a phensyfrdanu pawb o'r gwyddfodolion. Deillia dyfroedd aruthrol y Niagara allan o lynoedd mawreddog yr Erie a'r Ontario — nid dyfroedd benthyg tymmestloedd mo honynt; ac felly ffrydiau athrylith Christmas Evans: tarddent allan o lynoedd mawreddog darfelydd a barn ei enaid mawr ei hun, nes synu pawb. Y mae rhai dynion yn fawr yn y pulpud; ond erbyn argraffu eu pregethau, nid oes dim neillduol ynddynt; y mae y darllenydd yn cael ei siomi; ond nid felly Christmas Evans. Y mae ei bregethau ef yn darllen yn ardderchog — yn llawn o athrylith yr awdwr pan yn eu traddodi: y maent wedi eu cyfieithu i'r Seisoneg, ac yn cael eu hedmygu yn fawr gan y Seison ym Mhrydain ac America. Llawer o'r Americiaid a ofynant i'r Cymry yn aml, "Haye you heard the great Christmas Evans?" Y mae argraff athrylith yn hynodi pob peth ag y cyffyrddodd ag ef. Yn gydfynedol â'r galluoedd mawrion hyn, yr oedd yn meddu ar onestrwydd diffuant; hyny yw, didwylledd syml; ac at hyny weithgarwch a duwioldeb, fel yr oedd ei fywyd yn llawn dedwyddwch iddo ei hun a bendith i'r byd. Dywedir ei fod, o ran ei dymmer, yn frysiog ac anwadal; ond yr oedd yn deall hyny yn dda, ac yn gofidio o'r herwydd, gan ymdrechu cadw oddi wrth yr hyn oedd barod i'w amgylchu. Yr oedd yn un o areithwyr dirwestol mwyaf enwog Cymru. Yr oedd hefyd yn sefyll yn uchel fel llenor. Yr oedd wedi dysgu ei hun i raddau lled bell, ac felly wedi dyfod i wybodaeth o'r Groeg a'r Hebraeg pan wedi myned ym mlaen yn lled bell mewn dyddiau. Cyfieithodd ran o Esboniad y Dr. Gill ar y Testament Newydd i'r Gymraeg. Ysgrifenodd hefyd Esboniad ar Lyfr y Dadguddiad. Cyhoeddodd Mr. Evans yn y flwyddyn 1810, Mene Tecel, sef adolygiad ar waith Wesley ar Etholedigaeth. Cyfansoddodd lawer heb law hyny, ac ysgrifenodd lawer i'r cyfnodolion. Yr oedd yn emynwr da. Y mae "Christmas" yn uchel iawn yn nheml anfarwoldeb enwoion Ceredigion, Cymru, a Phrydain Fawr.

EVANS, DANIEL, B.D. (Daniel Ddu) a gafodd ei eni ym Maes Mynach, plwyf Llanfihangel Ystrad, yn y flwyddyn 1792. Yr oedd yn ail o dri mab. Yr oedd ei dad yn amaethwr cyfoethog a chyfrifol; a chafodd y bardd ei anfon yn ieuanc i'r ysgol at y Parch Eliezer Williams, i Lanbedr. Ar ol bod yno am dro, efe a aeth i Rydychain, i Goleg Iesu, yn yr hwn ym mhen amser yr etholwyd ef yn Gymmrawd, a graddiwyd ef yn Wyryf Duwinyddiaeth; ac wedi hyny a urddwyd. Parhaodd i fwynhau y gymmrawdwriaeth am flynyddau lawer. Daeth Daniel Ddu yn fuan i enwogrwydd fel bardd ac ysgolor Cymreig a chyffredinol. Ennillodd Gadair Dyfed yng Nghaerfyrddin yn y flwyddyn 1823, sef Awdl ar Goleg Dewi Sant. Ennillodd hefyd amryw wobrau ereill. Daeth i sylw braidd ar unwaith, nes synu y wlad. Ar ol ei Iwyddiant yn Eisteddfod Caerfyrddin, cynnaliwyd cyfarfod yn Llanbedr i ddangos cydorfoledd, pryd y cafodd ei anrhegu â dysglau arian. Cyhoeddodd gyfrol o'i waith yn y flwyddyn 1831, o'r enw Gwinllan y Bardd yn cynnwys 410 o dudalenau; a dywedir iddo gyfansoddi digon i wneyd cyfrol arall o'r un maintioli. Yr oedd Daniel Ddu yn fardd naturiol, yn llawn tlysni melus; ac y mae rhyw swyn o deimlad dynol a Christionogol yn rhedeg trwy y cyfan o'i waith. Yr oedd yn llawn teimladau tyner a dyngarol Y mae ei awdl ar Greulondeb at Greaduriaid Mudion yn dangos teimladau hyfryd; yn ddysgrifiaid effeithiol o'r gamdriniaeth y mae creaduriaid mudion yn gael gan ddynion. Y mae ei bennillion i'r "Ddafad" yn llawn tlysni o'r fath mwyaf tyner. Tasga dagrau o lygaid y darllenydd wrth eu darllen. Y mae "Dychweliad y Mab Afradlon " yn orlawn o'r syniadau mwyaf trydanol a ellir ddarllen mewn unrhyw iaith; ac y mae ei "Gydymdeimlad â'r luddewon" megys yn coroni y cyfan. Y mae yr oll o Winllan y Bardd yn dangos syniadau dynol a Christionogol — lledneisrwydd dyngarol yn goglais y darllenydd nes ei ennill i'r teimladau mwyaf hyfryd a thyner wrth ei ddarllen; ac y mae pob llinell a gyhoeddodd yn tueddu i wneyd dyn yn well. Nid ffugio teimladau tyner yr oedd efe, ond yr oedd felly mewn gwirionedd. Ys dywedodd Ioan Cunllo, —

"Ei dyner fron ni adwaenai— ddichell,
Heddychol y byddai;
Tirion i r gwan tosturiai,
Wrth fab gofid bid lle bai."

Yr oedd hefyd yn hynod hunanymwadol. Yr oedd camwri eisteddfodol yn cael ei gyflawnu y pryd hyny, fel yn bresennol; a phan ddeallodd fod y beirniaid wedi rhoddi iddo wobr am awdl (1) o herwydd cael un gair anfoddhaol mewn awdl arall o deilyngdod mawr, efe a ddangosodd anfoddlonrwydd neillduoI, gan draethu ei fod yn credu taw ei adnabod ef oeddynt, ac y dylasent wneyd fel arall. Nid ydym wedi deall na wnaeth y beirniaid yn iawn; ond dengys hyn y fath deimladau boneddigaidd a feddai y bardd. Gwna rhai bob ystryw i gael gwobrau, gan ddefnyddio rhyw offerynau i ddylanwadu ar y bodach a elwir beirniaid; ond nid un o'r teulu isel a dirmygus hwn oedd ein Daniel Ddu. Yr oedd cywirdeb, lledneisrwydd, a boneddigeiddrwydd yn llanw ei fynwes ef. Yr oedd y bardd tynergalon yn y rhan olaf o'i oes, yn dyoddef yn drwm oddi wrth bruddglwyf annyddan a phoenus, yr hyn a fu yn achos o'i farwolaeth; ac ys dywedodd Gunllo, —

"Ammhosibl ydyw mesur
Caledi, cyni, a'r cur
A rwygai'r natur egwan,
Lethai ei ddynoliaeth wan
I isel suddawl loesion,
Gythruddai, a friwiai'i fron :


Yn llawn pwyll ni all byw
Eu d'wedyd — gormod ydyw ;
Ni wyddom faint ei ddyoddef,
Ni ŵyr un ond Ior y nef."

Bu farw Mawrth 28, 1846, yn 54 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Pencareg. Clywsom mai dyma yr englyn olaf a wnaeth, sef beddargraff ei rieni: —

Rhoi tad a mam fad i fedd,— rhoi wyneb
Rhai anwyl i'r ceufedd :
Trwy fon y galon gulwedd,
E dery glwyf mal dur gledd.

Treuliodd y rhan olaf o'i oes yn ymyl ei le genedigol. Ni fu yn briod. Y mae Mr. John Evans, Nant y Gelli, Dyffryn Aeron, yn nai i'r bardd; ac y mae Mrs. Jenkins, RHhyd y Benau, Mrs. Jenkins, Glanwern, a Mrs. Jenkins, Felindref, yn nithod iddo.

(1) "Buddugoliaeth y Groegiaid ar y Tyrciaid" ydym yn feddwl oedd y testun

EVANS, DANIEL, Capel Drindod, gweinidog parchus gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, a aned yn y flwyddyn 1774. Teithiodd lawer iawn o Dde a Gogledd. Gwr tawel, crefyddol, a thra chymmeradwy oedd. Treuliodd oes lafurus a defnyddiol. Bu farw ym Mehefin, 1845, yn 71 mlwydd oed. Wyr iddo yw y Parch. E Phillips, Castell Newydd Emlyn.

EVANS, DAVID, o'r Llechwedd Deri, ac wedi hyny sylfaenydd Ffynnon Bedr, oedd fab Iefan Goch o'r Dolau Gwyrddon, ac yn ddisgynydd cywir o Wilym Llwyd, o Gastell Hywel, a Chadifor ab Dinawol. Yr oedd yn uchel-sirydd Ceredigion yn y flwyddyn 1641. Ei wraig oedd Mary, merch John Llwyd Siencyn, Blaenhiraeth, o deulu y Gilfach Wen Uchaf.

EVANS, DAVID, ydoedd fab Thomas Evans, ac ŵyr i'r D. Evans blaenorol. Cymmerodd ran yn y rhyfel cartrefol yn Erbyn y brenin; ac yr oedd yn gadben ar fyddin dan Bwyllgor y Diogelwch. Ei wraig oedd Jane, merch W. Herbert, Ysw., Hafod Ychdryd.

EVANS, DAVID, gweinidog yr Annibynwyr ym Mhen y Graig, ger Caerfyrddin, a aned yn Llwyncelyn, Llanddewi Brefi, Rhag. 16, 1811. Enwau ei rieni oedd David a Mary Evans. Symmudodd ei rieni i'r Coedmawr, nid pell o Langeitho. Bu D. Evans yn yr ysgol gyda'r Parch. John Jones, yn Llangeitho, am bedair blynedd, yn dysgu Seisoneg, Lladin, a rhifyddiaeth. Ymunodd â'r Trefnyddion pan yn dair ar ddeg oed. Perthynai ei dad i Eglwys Llangeithio, a'i fam i'r Annibynwyr yn Ebeneser. Anfonwyd ef i'r ysgol at y Dr. Phillips, Neuadd Lwyd; a chyn hir, ymunodd â'r Annibynwyr. Bu am ryw gymmaint yn yr athrofa hòno. Symmudodd i Goleg Caerfyrddin yn y flwyddyn 1831, a bu yno am bedair blynedd. Cafodd ei urddo ym Mhen y Graig, ger y dref hòno, Ionawr 15, 1835. Gweinidogaethai hefyd yn Philadelphia. Priododd Miss Ellen Thomas, Wernwen, Medi 28, 1838. Bu yn dra llafurus yn yr ardal, yn Erbyn arferion ffol a phechadurus. Yr oedd yn bregethwr cymmeradwy, ac yn wr o gymmeriad difrycheulyd. Bu farw Mai 12, 1849. Ceir cofiant helaeth iddo yn y Drysorfa Cynnulleidfaol am Ebrill, 1850.

EVANS, DAVID, gweinidog yr Annibynwyr yn Llechryd a'r Drewen, a anwyd, meddir, ym Mlaenpistyll, yn y flwyddyn 1707. Urddwyd ef i gyflawn waith y weinidog aeth Ebrill 25, 1739. Yr oedd y gweinidogion G. Palmer, Philip Pugh, Evan Davies, o Hwlffordd, Thomas Morris Lan y Bri, D. Jenkins, Jenkin Jones, Timothy Davies, ac Abel Francis yn bresennol yn yr urddiad. Bu farw yn 1773, yn 66 mlwydd oed.

EVANS, DAVID, un o weinidogion y Wesleyaid, oedd enedigol o ran uchaf o Geredigion. Dechreuodd ei oes yn y flwyddyn 1789. Cafodd ei urddo yn y flwyddyn 1810. Dywedir ei fod yn ddyn o ddeall cryf, ac o dymmer lednais. Dywedir ei fod wedi casglu llawer o wybodaeth, ond er hyny yn ddyn gostyngedig a hunanymwadol. Bu farw yn y flwyddyn 1854.

EVANS, DAVID, gweinidog gyda'r Trefnyddion Calfin aidd, a aned ym Mhen y Graig Isaf, ger Aberaeron, yn y flwyddyn 1768. Cafodd fanteison dysg yn ieuanc, a bu wedi hyny yn Ystrad Meirig. Bu yn cadw ysgol am ryw flynyddau, ac ymunodd â'r Trefnyddion yn Ffos y Ffin, a dechreuodd bregethu yn lled fuan; a rhoddodd ar ei gychwyniad lawer o foddhâd am ei gymhwysder. Cafodd ei urddo yn Llangeitho tua'r flwyddyn 1815. Heb law ei fod yn wr o ddeall cryf a dysg lle dda, yr oedd yn ddarllenwr dibaid a manol. Darllenai waith duwinyddion enwocaf yr oesoedd; a thrwy ei dalentau naturiol a'i ddyfalwch, yr oedd yn un o brif ddynion ei sir a'i wlad. Cylch ei lafur yn benaf oedd Lledrod, Llangwyryfon, Rhiwbwys, Llannon, Pennant, a Ffos y Ffin. Bu farw Awst, 1825. Mab iddo yw Mr. B. Evans, Llythyrdy, Aberaeron.

EVANS, DAVID, genedigol o Aberporth, a ymunodd â'r Bedyddwyr yng Nghilfowyr. Bu yn preswylio yn Nôl Goch, plwyf Troed yr Aur, a Newgate, plwyf Llangynllo. Cododd yn bregethwr poblogaidd yn y Graig, Castell Newydd Emlyn. Aeth ar daith i Ogledd Cymru, ac enillodd lawer iawn o sylw fel pregethwr. Parhaodd i ymweled â'r Gogledd am flynyddau, lle y cyfarfu â llawer iawn o wrthwynebiadau. Ymsefydlodd yn weinidog ym Maes y Berllan, Brycheiniog, yn y flwyddyn 1787. Sefydlodd achosion yn Aberhonddu a Cheryg Cadarn. Meddiannai ddeall cryf, ysbryd gweithgar, a thymmer hynaws a hawddgar. Ar ol oes lafurus, bu farw Hydref 24, 1821, yn 87 oed.

EVANS, DAVID D., gweinidog gyda'r Bedyddwyr ym Mhont Rhyd yr Yn, Gwent, oedd fab i'r D. E. blaenorol Ganed ef yn Nôl Goch, Troed yr Aur, tua dechreu y flwyddyn 1787. Dechreuodd bregethu Ion. 21, 1807. Cafodd ei urddo ym Maes y Berllan. Sefydlodd yng Nghaerfyrddin, Mawrth 24, 1812, lle y bu yn llwyddiannus, fel pregethwr ac ysgolfeistr, am bymtheg mlynedd. Symmudodd i Bont Rhyd yr Yn, a bu yno hyd y flwyddyn 1857. Gwanychodd ei iechyd yn fawr, a daeth i lawr i Gaerfyrddin, lle y bu farw, Awst 29, 1858, yn 71 oed. Claddwyd ef ym Mhont Rhyd yr Yn. Yr oedd Mr. Evans yn wr mawr ei barch fel Cristion, pregethwr, a gweinidog. Bu yn olygydd Seren Gomer am lawer o flynyddau, ac ysgrifenodd iddi lawer iawn o draethodau godidog. Ysgrifenodd hefyd dwysged i'r Greal a'r Bedyddiwr, Efe oedd awdwr "Adnoddau Cymru" yn yr Adolygydd, Ysgrifenodd hefyd "Hanes Bywyd y Parch. J. Williams," Trosnant.

EVANS, EVAN (Ieuan Brydydd Hir), y bardd, yr hynafiaethydd, a'r ysgolor enwog, a anwyd yn y Cynhawdref, plwyf Lledrod, yn y flwyddyn 1730. Derbyniodd ei addysg foreuol yn ei ardal enedigol, yn Ystrad Meirig, o dan yr enwog Edward Richard. Ar ol hyny, efe a symmudodd i Rydychain, ac ymaelododd yng Ngholeg Morton, yn y flwyddyn 1751. Yr oedd yn berchen tyddyn yn ei ardal enedigol, yr hwn a drosglwyddodd drosodd i'w frawd ieuengaf, er mwyn cael arian i'w gynnal yn y brifysgol. Ar ol gadael y coleg, gwasanaethodd fel curad mewn amryw fauau o'r wlad; yn y Tywyn, Llanberis, Llanllechyd, Llanfair Talhaiarn, a manau ereill. Pan yn ieuanc efe a ddangosodd hoffder mawr at yr Awen ; ac yn fuan daeth i sylw yr enwog Lewis Morris, yr hwn a fynwesai dyb uchel am ei alluoedd oddi wrth ei gynnyrchion awenyddol Treuliai y Prydydd Hir ei holl oriau hamddenol yng ngwrteithiad llenyddiaeth ei wlad; ac yr oedd yn talu sylw dibaid ac egnïol i lawysgrifau Cymreig ; ac adysgrifenodd nifer fawr, gan adael ar ei ol gant o gyfrolau o wahanol faint Treuliodd ran fawr o'i oes yn y modd hwn, heb gael y sylw lleiaf gan awdurdodau yr Eglwys — dim y dyrchafiad lleiaf! Yn y modd hwn, darfu yr ysgolor, y duwinydd, a'r gwladgarwr gonest, ymollwng i ysbryd llwfr ac anfoddlawn, a dywedir ei fod ar brydiau yn tueddu i yfed i ormodedd. Ond ef allai fod pwys gormodol yn cael ei roddi ar hyn, er mwyn lleihau y diystyrwch a'r anghyfiawnder a gafodd trwy beidio rhoddi i'r fath ddyn galluog ddyrchafiad yn yr Eglwys. Bu yn tramwy Cymru a Lloegr i chwilio am guradiaeth, ond yn fynych yn methu ei chael. Y mae y Parch. Eliezer Williams, diweddar o Lanbedr, yn traethu hanesyn tra effeithiol am dano. Tra yr oedd Mr. Williams yn aros yn Lloegr, gwelai un diwrnod, ychydig cyn cinio, ddyn tal yn dyfod at y drws, a phwy oedd ond y Prydydd Hir; ac felly cafodd ei dywys i'r parlawr, Yr oedd gwr boneddig gyda Mr. Williams; ond nid oedd modd i un o honynt gael fawr o siarad gan y bardd; efe a edrychai yn bendrist iawn. Ond ar ol cinio gysurus, ac ychydig win, daeth yr hen ysgolor a'r hynafiaethydd i hwyl ragorol; ac yr oedd y boneddwr yn synu am ei ddysg a'i wybodaeth ; ac felly treuliwyd yno brydnawn rhyfeddol o ddyddan ; a gwahoddodd y boneddwr Mr. Evans i ddyfod ato i ginio y dydd canlynol. Ar ol aros ychydig ddyddiau gyda Mr. Williams, ymadawodd gan draethu na wyddai yn y byd pa le i gael pryd o fwyd nesaf! Dyna y tro olaf i Mr. Willîams weled yr hen lenor; a bu y sefyllfa gyfyng ar y fath ddyn galluog lawer tro yn gwasgu yn drwm ar ei feddwl.

Caniataodd Dr. Warren, tra yn esgob Ty Ddewi, ryw gymmaint o flwydd-dal iddo ; a bu Mr. Panton o'r Plas Gwyn, Mon, a Mr. Pennant, o'r Downing, yn ymdrechu casglu iddo flwydd-dal, yn yr hyn y buont yn llwyddiannus. Beth bynag, Mr. Panton, mewn ofn y gallasai ei lawysgrifau gwerthfawr fyned ar ddifancoll ar ei farwolaeth, a gytunodd ag ef i roddi ryw swm yn flynyddol tra y byddai byw, ar y teler iddo gael meddiant o honynt ar ol ei ddydd ; ac felly, aeth llawysgrifau y llenor mawr yn feddiant i deulu Panton, o'r Plas Gwyn. Cyhoeddodd, yn y flwyddyn 1764, gasgliad o farddoniaeth Gymreig, gyda chyfieithad llythyrenol, gan chwanegu atynt "Disaeriatio de Bardus" lle y mae yn dangos medr a gwybodaeth fawr o hen farddoniaeth Gymreig; ac nid yw ei arddull Lladin i'w dirmygu.

Yr oedd yn ysgolor Groeg rhagorol; ac yn ddiweddar yn ei fywyd, astudiodd yr Hebraeg, gyda llawer iawn o Iwyddiant. Cyhoeddodd hefyd farddoniaeth Seisonig, o'r enw The Love of Our Country ; a dwy gyfrol o 'Bregethau wedi eu cyfieithu yn benaf o waith Tillotson. Y mae yr hen ysgolor, yn ei ragymadrodd i'r pregethau, yn dangos profiad amlwg o wladgarwch diffuant. Yr oedd ei wlad, ei iaith, a'i gogoniant yn gyssegredig yn ei galon. Pan yn sylwi ar bethau ag oeddynt yn tueddu i sarhau ei wlad, yr oedd yn cael ei glwyfo yn y fan, ac yn tueddu i ymollwng i chwerwder. Y mae llawer o'i weithiau barddonol wedi cael eu cyhoeddi yn y Dyddanwch Teuluaidd a Blodau Dyfed. Bu farw yn nhy ei frawd, yn Awst, 1789, yn 58 mlwydd oed. Yr oedd, o ran ei gorffolaeth, yn dal a chadarn, â gwallt a barf ddu. Yr oedd yn meddu teimladau tyner a dyngarol iawn; nis gallai edrych na meddwl am unrhyw galedi heb deimlo yn ddwys, ac hyd yn oed wylo yn fynych; ac y mae y cyfan o'i farddoniaeth yn dangos syniadau a theimladau Cristion dwysfeddyliol a defosiynol Wrth edrych ar y dyn mawr hwn, yr ydym yn gweled ynddo yr ysgolor ardderchog, y bardd trylen ac awenyddol, yr hynafiaethydd dwfn a manol, a'r gwladgarwr gwresog a diffuant; ac ond taflu mantell cariad dros un gwendid ynddo, sef y duedd i yfed i ormodedd (yr hyn a ddechreuodd pan oedd yn ei dristwch wrth weled ei aflwyddiant), yr ŷm yn cael ynddo hefyd nodau hyfryd a boddhaol o weinidog a Christion. Nis gall Ceredigion, na Chymru oll, lai na bod yn falch iawn o'r cymmeriad llachar hwn yn ffurfafen ei llenyddiaeth. Dygodd drysorau gwerthfawr ei llenyddiaeth o guddleoedd hen lyfrgelloedd llychlyd, i oleu dydd ; nid yn unig i Gymru, ond hefyd i'r byd yn gyffredinol, trwy eu cyfieithu i'r Seisonig a'r Lladin. Gwasanaethodd ei wlad gydag egni dyfal, ac ni chafodd nemawr gydnabyddiaeth ganddi ; ond (wrth ddwyn ei llenyddiaeth i olwg y byd, cyhoeddi pregethau er adeiladaeth ysbrydol ei gydwladwyr, gwelai bersonau ereill heb feddiannu ei deilyngdod ef yn cael eu codi, ac yntau yn gorfod chwilio gwlad a gorwlad am guradiaeth! Mae 78 o flynyddau wedi myned heibio er pan yr hunodd y dyn mawr hwn, yr hwn a wasanaethodd ei wlad gyda'r fath ffyddlondeb; ac y mae Ceredigion, a Chymru oll, wedi gadael ei fedd heb gymmaint a chareg i ddynodi y fan, pan y mae degau o filoedd llai teilwng wedi cael cofgolofnau drudfawr! Y mae, fel y dywedasom, amryw ddamau o'i waith barddonol wedi eu cyhoeddi ; ond y mae hefyd lawer heb ei gyhoeddi o gwbl. Yr ydym yn deall fod y rhan fwyaf o'i lythyrau a'i farddoniaeth hefyd wedi bod mor ffodus a syrthio i ddwylaw un o'n llenorion mwyaf cymhwys a theilwng i'w derbyn o bawb yn y wlad, sef y Parch. D. Silvan Evans, B.D., Llan ym Mawddwy. Mae ei holl destynau cân naill ai crefyddol neu wladgarol. Mae ei " Gywydd i'r Messiah" yn llawn teimladau crefyddol ac awenyddol ; ac y mae ei " Awdl i'r Nef" yn ysblenydd iawn. Mae ei gywyddau ar farwolaeth yr Urddasol Bendefig R Davies, o Lanerch, a Mr. Lewis Morris yr hynafiaethydd, yn ddarnau gwerthfawr. Mae ei "Penitent Shepherd" yn dangos ystyriaethau difrifol o'r swydd weinidogaethol. Cafodd y gân hòno ei chyfieitha, ar fesur cywydd, gan y Parch. D. Ellis, yn 1787. Wrth son am L. Morris, dywed, —

" I Gamden y rhoes sen sur,
A'i Frydain, ofer awdur,
Ac ef ddangosodd hefyd,
O fawr bwyll, ei fai i'r byd."

Mae ei englynion i'r "Pechadur Edifeiriol," a geir yn y drydedd gyfrol o'r Gwyliedydd, yn cynnwys syniadau difrifol iawn ar wely cystudd. Wele un o'r deunaw: —

"Duw Dad, gariad, dwg wirion — i'th nef,
Ac i'th nawdd yn dirion;
O'r llaid a'r hir drallodion,
I fyny dwg f'enaid, Ion."

Nid oes modd darllen gwaith y gwr mawr hwn heb gael ein llanw â pharch tuag ato. Un o brif feibion Ceredigion a Chymru oedd. Y mae perthynasau lawer iddo ar hyd y wlad. Y mae y Parchn. T. Williams, Yspytty Ystwyth, W. Williams, Cefn y Meusydd, ger Porth Madog, Mr. Wm. Jones, Yspytty, a llawer ereill, yn rhai o'r tylwyth.

"Aweu briodai ein Ieuan Brydydd
Hir — draw argludir ei glod drwy'r gwledydd;
Athraw o lân waith a thrylen ieithydd,
Ac o'r hen oesau cywir hanesydd
Ei wlad — offeiriaid y ffydd — saif uwch ben
Drwy ei gu Awen — byw wna'n dragywydd."
Ioan Mynyw

EVANS, EVAN, Aberffrwd, gweinidog diwyd a chymmeradwy gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Ymunodd â chrefydd yn lled ieuanc, ac ni bu yn hir cyn dechreu pregethu. Cafodd ei urddo yn y flwyddyn 1822. Teithiodd lawer o'r wlad gyda llawer o ffyddlondeb. Ar ol ymdrechu ymdrech deg, gorphenodd ei yrfa, Chwefror 2, 1856, yn 73 mlwydd oed.

EVANS, EVAN Griffith, Penwenallt, plwyf Llandygwydd, oedd foneddwr cyhoeddus yn amser y Rhyfel Cartrefol, ac yn bleidiwr gwresog iawn i'r Brenin Siarl I. Yr oedd yn gadben ym myddin y brenin; ac o herwydd hyny, gelwid ef yn Captain Tory. Ar ol marwolaeth y brenin, cafodd ei osod yng ngharchar Aberteifi; ac yn fuan ar ol hyny, ganed iddo fab, yr hwn a alwodd yn Charles, o barch i'w frenin anffodus; a'r Charles hwn oedd tad yr enwog Theophilus Evans. Hanai hen deulu Penwenallt o Wynfardd Dyfed.

EVANS, GRIFFITH THOMAS, a aned ym Mhontbrendu, plwyf Llanarth, Awst 15, 1825. Cafodd ei ddwyn i fyny mewn teulu crefyddol, a chafodd ei dderbyn pan yn dra ieuanc yn aelod yn y Neuaddlwyd. Dechreuodd bregethu pan yn ugain oed. Bu yn yr ysgol yn Aberteifi; wedi hyny yn Ffrwd y Fâl; ac yn olaf yn Aberhonddu. Bu yno am bedair blynedd, gan ennill iddo ei hun lawer o barch. Yr oedd ei iechyd yn wan y pryd hwnw. Cafodd ei urddo ym Mhen y Graig, ger Caerfyrddin, yn y flwyddyn 1851. Llafuriodd yno tua phum mis; ond gorfu arno roddi ei weinidogaeth i fyny, a dychwelyd at ei rieni. Bu farw Mehefin 29, 1852. Ystyrid ef yn ddyn ieuanc talentog iawn, o feddwl athronyddol a dwfn. Yr oedd yn ochelgar iawn rhag cyfarfod â thwyllwr yng ngwisg cyfaill. Fel pregethwr, ystyrid ef yn gall, hyfforddiadol, ac adeiladol. Yr oedd yn amlwg iawn mewn duwioldeb; ac yn cael ei barchu gan bawb, yn neillduol gan y sawl a'i hadwaenai oreu.

EVANS, ISAAC, a aned yng Nghaerdroia, plwyf Cilcenin, yn y flwyddyn 1805. Derbyniwyd ef yn aelod yng Nghapel Cilcenin, gan y Dr. Phillips, Neuaddlwyd. Bu yn yr ysgol yn Neuaddlwyd, ac wedi hyny yn Athrofa Tref Newydd. urddwyd ef yn Weedon, swydd Northampton, yn y flwyddyn 1831. Bu yno yn ddiwyd iawn. Yr oedd yn arfer ysgrifenu llawer i'r wasg Gymreig. Y mae llawer o'i ohebiaethau i'w gweled yn y Tytwysydd, Diwygiwr, a chyhoeddiadau ereill. Bu farw Mehefin 27, 1865.

EVANS, JOHN, A.C., a aned ym Meini Gwynion, plwyf Llanbadarn Odwyn. Cafodd addysg brifathrofaol, a'i raddio yn A.C. yn Rhydychain. Bu yn gwasanaethu Llanarth fel curad, ac a symmudodd i Portsmouth. Cyhoeddodd Cyssondeb y Pedair Efengyl yn 1765, sef yr esboniad cyntaf a gyhoeddwyd ar unrhyw ran o'r Ysgrythyrau yn y Gymraeg. Golygodd y Beibl Cymreig yn 1770; a chyhoeddodd Deddfau Cristionogol sef cyfieithad o waith yr Esgob Gostrel, yn 1773. Meddylir taw efe a gyfieithodd Ymarferiadau Sacramentaidd gan Dr. Earl, yn 1735; eto y mae rhai yn ammheu hyny, o herwydd fod cymmaint amser rhwng hyny a'r llyfr 1773. Ceir ei enw yn danysgrifiwr am bregethau Ieuan Brydydd Hir, yn "Rev. John Evans, M.A.. Author of the Harmony of the Four Gospels. Tebyg mai yn Llanarth yr oedd pryd hyny. Yr oedd yn Portsmouth yn 1768, canys mae ei enw yn danysgrifiwr am y Credadyn Bucheddol, o gyfieithad Rhisiart ab Robert o Lanrhaiadr yng Nghinmerch. Tebyg taw curad oedd yno hefyd; ond ymddengys iddo briodi dynes gyfoethog, neu gael gafael ar dwysged o gyfoeth yn rhyw sut, canys efe a brynodd Parcau Gwynion, a Bryn Cethin, ym mhlwyf Llangeitho, tra yr oedd yn Portsmouth. Nis gwyddom a fu yn briod ai peidio; ond os bu, nid yw debyg iddo gael plant, gan i'w frawd, Daniel Dafydd Ifan, Meini Gwynion, gael y ddau le a enwyd, yng nghyd â'i lyfrau. Talodd 350p. 5s. am y Parçau; a'i frawd, Daniel, a dalodd 40p. Enw ei frawd sydd ym mlaenaf. Yr oedd ei frawd i gael y lle ond talu 387p. 10s. iddo ef; ond ni chymmerodd hyny le. Y cynfeddiannydd oedd D. Llwyd, Berllan Dywyll, fel etifedd ei fam, Grace Llwyd, o'r Crynfryn.(1) Gadawodd Mr. Evans hefyd le o'r enw Penuwch, Llanpenal, i'w frawd. Bu farw yn Portsmouth yn y fl. 1779. Daeth llyfrau gwerthfawr iawn ar ei ol, ac yr oeddynt, y rhan fwyaf, i'w gweled yn y Parcau, yn nechreu y canrif hwn. Y mae rhai o honynt i'w gweled ym Meini Gwynion hyd yn awr. Mae Mr. D. Evans, Meini Gwynion, a'i frawd Mr. Thomas Evans, masnachwr, Castell Newydd Emlyn, yn orwyrion i'w frawd. Mae hefyd y Parch. D. Evans, Llansantffraid, Morganwg, yn esgynydd i'w frawd; ac felly Mr. E. Evans, Griag Wen, Llangeitho. Mae yn deilwng o sylw yma, sef i'r Llyfr Ancr o Landdewi Brefi, gael ei ysgrifenu o fewn pedair milltir i'r Meini Gwynion, lle genedigol awdwr Cytsondd) y Pedair Efengyl. Mae hen gofnodiad Cymreig fel hyn : — "Gruffydd ab Llewelyn ab Trahaiam o'r Cantref Mawr, a beris ysgrifenu y Llyfr Goleidyfr, &c., o law cydymaith iddo, nid amgen na gwr oedd Ancr yr amser hwnw yn Llanddewi Brefi, sef y flwyddyn 1346." Cyunwysai, ym mysg pethau ereill, eglurhâd ar y bennod gyntaf o Efengyl loan, yn yr iaith Gymreig. Yn y modd hyn, dyma y ddau esboniad wedi eu hysgrifenu yn yr un gymmydogaeth.

(1) Trydydd gwr Grace oedd y Parch. John Williams, Catherington, yr hwn oedd gymmydog i Mr. Evans.

EVANS, JOHN, diweddar weinidog y Bedyddwyr yn Aberhonddu, oedd fab i'r Parch. D. Evans, Dôl Goch, ac wedi hyny ym Maes y Berllan, Brycheiniog. Ganed ef Yn Nôl Goch, plwyf Troed yr Aur. Bu yn yr ysgol yn Llanllieni, a daeth fel ei frawd, D. D. Evans, yn ysgolor da. Bu am ryw amser yn cydysgolia â'r enwog John Herring, wedi hyny o Aberteifi. Cafodd ei urddo ym Maes y Berllan, o gylch 1810, yn gynnorthwywr i'w dad. Ni chyfrifid ef mor hyawdl a bywiog pregethwr a'i frawd; ond yn llawn mor sylweddol, ac fel gweinidog sefydlog, nid oedd modd cael ei well. Gweinidogaethai ar y cyntaf yn Aberhonddu, Pontestyll, a Phen yr Heol, fel cangenau o Faes y Berllan; ond pan wanychodd iechyd ei dad, ni lafuriai ond yn Aberhonddu a Phontestyll. Parhaodd yn Aberhonddu tra fu byw. Bu yn ysgrifenydd y gymmanfa am lawer o flynyddau.

EVANS, JOHN, a anwyd ym Mlaenplwyf, rhwng Llanddeiniol a Llanychaiain, yn y flwyddyn 1796. Dangosodd pan yn ieuanc lawer o chwaeth at rifyddiaeth. Bu am beth amser yn gweithio gwaith gwëydd ; ond gan nad oedd yn hoffi y gwaith hwnw, ac yn awyddus i gael mwy o gyfleusderau i ddilyn ei hoff efrydiau, efe a aeth i Lundain, lle y bu mor ffodus a chael ei ddwyn i sylw y Cymro talentog a gwladgarol hwnw, Mr. Gruffydd Dafis, y rhifyddwr enwog. Trwy gynnorthwy y boneddwr hwnw, efe a ddilynodd ei efrydiaeth yn awyddus a manteisiol. Wedi gwneuthur cryn gynnydd mewn mesuregiaeth, alsoddeg, trionglaeth, <feo., efea ddychwelodd i Aberystwyth, ac agorodd ysgol yno pan yn bump ar hugain oed; a pharhaodd felly hyd ddiwedd ei oes gyda llwyddiant. Yr oedd yn hyddysg mewn llawer o gangenau gwyddoneg bur a chymysgedig; a chanddo chwaeth fawr at ddyfeisio peiriannau gwyddoniaeth. Yr oedd wedi dyfeisio offeryn i ddangos symmudiadau y ddaiar (offeryn syml i gyfeirio at unrhyw seren, ddydd neu nos), haul-ddeial cywrain, &c. Yr oedd yn naturiol yn ddyn gwylaidd a dirodres, ac yn athraw llafurus; a chydag ef y dysgodd y rhan fwyaf o forwyr y parthau hynny yn ei oes y wyddoniaeth forawl. Anrhegodd trigolion Aberystwyth ef â thysteb, fel arwydd o ystyriaeth o'i wasanaeth gwerthfawr yn y lle. Bu farw yn Ebrill, 1861, yn 65 oed.

EVANS, JOHN, un o'r "ddwy fil," ydoedd offeiriad Henadurol ym Mangor ar Deifi, a drowyd allan am na chydymffurfiai. Bu wedi hynny yn weinidog ymneillduol ym mhlwyf Cellan. Dywedir i Dafydd Llwyd Gwyn gynnyg bywoliaeth eglwysig iddo, ond iddo ei gwrthod. Rhoddid gair da iddo am ei weithgarwch a'i ffyddlondeb.

EVANS, JOHN, gweinidog yr Annibynwyr yn y Borth, Amlwch, oedd enedigol o ardal Penrhiw Galed. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1753. Dechreuodd ei yrfa grefyddol ym Mhenrhiw Galed, ac anogwyd ef yn fuan i bregethu. Bu yn yr ysgol gyda'r Parch. D. Davies, yn Nhroed yr Aur. Cafodd ei urddo yng Nghapel y Graig, Machynlleth, lle y bu am lawer o flynyddau. Efe sefydlodd yr achos annibynnol yn Aberrhosan a Phenal. Symmudodd i Amlwch, lle y bu am flynyddau lawer. Yr oedd yn ddyn tal a phrydferth yr olwg, yn bregethwr hyawdl, ac yn ddyn hawddgar a chymdeithasgar. Gorfu arno roddi gofal y weinidogaeth i fyny y rhan olaf o'i oes, o herwydd gwendid iechyd Bu farw yn nhŷ ei ferch, yn Nhre Madog, Rhag. 7, 1849, yn 95 oed.

EVANS, JOHN, oedd brydydd, genedigol o ardal Llanarth ac Aberaeron. Bu yn preswylio yn Llanfihangel Ystrad, ac wedi hynny yn Llanarth. Cyhoeddodd lyfryn o brydyddiaeth yn y flwyddyn 1799, gan alw ei hun yn "Prydydd a Darllenydd yn Llanarth." Y mae hefyd un gân o'i eiddo ym Mlodau Dyfed. Y mae perthynasau iddo heddyw yn Nyffryn Aeron.

EVANS, JOHN, oedd ysgolfeistr dysgedig ym mhlwyf Llanwenog. Yr oedd hefyd yn fardd medrus. Bu Dafydd Llwyd, Brynllefrith, a llawer o ddynion enwog ereill, yn ei ysgol. Dywed Llwyd ei fod yn ysgolor godidog pan yr yfai ddwfr; ond ei fod yn hoff o gwrw. Dywed Tomos Gwenog yn Seren Gomer, 1827, ei fod yn prydyddu yn swn yr afon Gwenog.

EVANS, MORGAN (Cynllo Maelienydd), oedd enedigol o blwyf Llanrhystud. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Ystrad Meirig, a'i urddo, meddir, ar guradiaeth yn agos i'w le genedigol. Cafodd fywoliaeth Llangynllo, Maesyfed, ac wedi hynny Llanddewi y Cwm, a Llanfair ym Muallt. Ysgrifenodd lawer iawn i Seren Gomer, Gwyliedydd, a Lleuad yr Oes. Prydyddiaeth yn bennaf a ysgrifennai, megys cyfieithadau newydd o salmau, emynau, &c. Cyhoeddodd ryw lyfrynnau prydyddol. Mae Mr. Davies, Rhydlas, Llanrhystud, yn nai fab chwaer iddo Bu farw tua'r flwyddyn 1845. Mae o'n blaen rai llyfrau a fu yn eiddo iddo, megys y Gwyliedydd &c. Dywedir am dano ei fod yn ŵr dyddan iawn yn ei gymdeithas.

EVANS, MORICCE, diweddar beriglor Llangeler, a aned ym Mhengelli, plwyf Llangwyryfon. Dygwyd ef i fyny yn Ysgol Ystrad Meirig. Cafodd ei urddo yn Abergwili, ond ni chawsom wybod pa bryd nac ar ba le, er holi llawer. Bu yn gweinidogaethu am rai blynyddau yn Lloegr. Bu yn beriglor Penbryn a Llangeler am flynyddau lawer. Bu farw Tach. 24, 1831, yn 66 oed. Yr oedd yn ŵr gweithgar iawn; ac efe a ddechreuodd adferu Llangeler i'w sefyllfa eglwysig bresennol

EVANS, OWEN, diweddar weinidog yr undodiaid yng Nghefn Coed y Cymmer, a aned yn y Perlyp, plwyf Llandyssul. Derbyniodd ei addysg foreuol yng Nghastell Hywel, dan ofal yr enwog Mr. Davis, ac wedi hynny yng Ngholeg Henadurol Caerfyrddin. Ystyrid Mr. Evans yn ysgolor clasurol rhagorol, a bu yn cadw ysgol trwy ei oes gyda llawer iawn o glod. Yr oedd ei barch yn uchel iawn am ei natur dda, ei foneddigeiddrwydd, a'i garedigrwydd ym mhob modd. Pan welai ddyn ieuanc talentog am ymgodi i fyny i'r weinidogaeth, neu unrhyw gylch defnyddiol arall, ac yn brin o foddion i allu cyrhaedd dysg, efe a'i cymerai i'r ysgol am ddim, heb ofalu dim am ei gredo grefyddol. Yr oedd fel hyn yn ymbleseru mewn gwneuthur daioni. Yr oedd yn aelod o Fwrdd y Gwarcheidwyr, ac enillodd lawer o enw da yn y cylch hwnnw. Fel pregethwr, ystyrid ef yn un tra meistrolgar ac adeiladol. Bu am ychydig amser yn cynorthwyo y Parch. Timothy Davis, Evesham, ac wedi hynny ym Mlaengwrach, Morganwg; ond treuliodd tuag 28 mlynedd yng Nghefn Coed y Cymmer. Ysgrifenodd lawer iawn i'r wasg Gymreig, yn bennaf i'r Ymofynydd, Bu ar faes y cylchgrawn hwnnw mewn dadl dyn iawn â'r Parch. R. Gwesyn Jones. Pregethodd y Sul olaf o'i fywyd, a bu farw drannoeth yn dra disymwth, sef y 9fed o lon., 1865, yn 57 oed.

EVANS, THEOPHILUS, oedd bummed mab Charles Evans, Ysw., Penwenallt, plwyf Llandygwydd. Ganed ef yn y flwyddyn 1694, ac a ddygwyd i fyny mewn ysgolion da yng Nghymru, ac wedi hynny, y mae yn debyg, yn Rhydychain, ac a urddwyd yn ddiacon yn y flwyddyn 1718, ac yn offeiriad yn 1719. Ei guradiaeth gyntaf oedd Tir yr Abad, Brycheiniog efe a symudodd wedi hynny i Lanlleonfel. Yn y flwyddyn 1728, rhoddodd Esgob Ty Ddewi iddo fywoliaeth fechan Llanynys, yr hon a ddaliodd am ddeng mlynedd, ac a'i rhoddodd i fyny pan gafodd Langammarch. Yn 1739, efe a gafodd fywoliaeth Llanddewi, yn Llanfaes, yr hon a ddaliodd hyd ei farwolaeth. Yn 1763, rhoddodd fywoliaeth Llangammarch i fyny i'w fab yng nghyfraith, Hugh Jones, yr hwn wedi hynny a newidiodd am Lywel. Y gwaith cyntaf a gyhoeddodd Theophilus Evans oedd Drych y Prif Oesoedd, yn 1715; a daeth allan ail argraffiad o honno yn 1740, gydag ychwanegiadau. Y mae Drych y Prif Oesoedd yn eithaf adnabyddus heddyw. Er nad yw ond byr, eto y mae yn cynnwys llawer o bethau hynotaf ein hanes cenedlaethol; ac y mae yn ddrych ardderchog o ffraethineb athrylithgar yr awdwr fel ysgrifennwr Cymreig. Y mae darllen y llyfr hwn yn fynych yn gystal a chael gwersi gan athraw medrus yn yr iaith. Y mae argraffiadau lawer wedi dyfod allan, ond y mae'r un prydferth a ddaeth allan gan Mr. Spurrell, Caerfyrddin, "gyda rhaglith gan yr Archiagon Williams, a gair am yr awdwr a'i waith, gan y Parch. W. Edmunds," yn rhagori arnynt oll. Yn 1739, cyhoeddodd Pwyll i Bader sef esboniad o Weddi'r Arglwydd, mewn amryw bregethau. Yn 1852, cyhoeddodd yn Seisoneg, History of Modem Enthusiasm, yr hwn a ail gyhoeddwyd yn 1756. Prydferthwch Sancteiddrwydd yn y Weddi Gyffredin, sef cyfieithad o eiddo y Dr. Bisse: Mwythig, 1722. Llythyr Addysg Esgob Llundain at Bobl ei Esgobaeth: Caerloew, 1740. Argraffwyd hwn gan Raikes, sylfaenydd yr Ysgol Sul.(1) Gwth i Iuddew, sef Pregeth : Mwythig, 1760. Priododd ag Alice, ferch Morgan Beyan, Gelligaled, Morganwg, a bu iddynt dri mab a dwy ferch. Priododd un o'i ferched â'r Parch. Hugh Jones, periglor Llywel, a'u mab hwy oedd Theophilus Jones, awdwr History of Breconshire. Bu farw Theophilus Evans yn y flwyddyn 1769.

Gwasanaethodd Theophilus Evans ei genhedlaeth gyda ffyddlondeb mawr. Dywedir ei fod yn bregethwr call, yn llawn arabedd gwreiddiol, heb fod yn ymylu dim ar ysgafnder. Ymwelai â'i blwyfolion, gan eu dysgu ym mhob rhinwedd gwladol, llenyddol, ac eglwysig. Rhoddodd gyfargraff o Ddrych y Prif Oesoedd i bob teulu yn ei blwyf oedd yn analluog i'w brynu ; a dywedir iddo wneyd yr un modd ag amryw lyfrau ereill o'i eiddo. Yr oedd yn wresog fel eglwyswr, ac yn llawn gwladgarwch Cymreig a Phrydeinig. Yr oedd hefyd yn fardd. Y mae englynion o'i eiddo i annerch Meddyliau Neillduol ar Grefydd, o gyfieithad Iago ab Dewi. Ymddangosodd cyd-ser llachar o lenorion yn ardal enedigol Mr Evans yn yr oes hòno. Magwyd Siencyn Tomos, Cwmdu, yn Felin Dre Wen, ar dir Penwenallt. Tua dwy filltir yn nes i fyny, y preswyliai y Parch Samuel Williams, Llandyfrïog, a Moses Williams ei fab. Tua phum milltir o Benwenallt, preswyliai y bardd Ieuan Gruffydd, o'r Tŵr Gwyn ; a thua'r un faint y preswyliai y bardd a'r llenor dysgedig, y Parch. Alban Thomas, periglor Blaenporth; ac nid ym mhell oddi yno y preswyliai yr hyglod Iago ab Dewi. Nid oedd ond tua saith milltir i Lwyn Derw a Rhyd y Benau, lle preswyliai y boneddigion llenyddol, W. Lewes a S. Pryce. Gwnaeth pob un o'r cymmydogion a'r cyfeillion hyn eu hol er gwell ar y byd.

Dywedir mai Mr. Evans a ddarganfu rinwedd meddygol ffynnon Llangammarch. Blinid ef yn fawr gan y llwg; ac wrth weled broga yn ymnofio yn y "ffynnon wenwynig," meddyliodd nad oedd modd fod gwenwyn ynddi, ac felly efe a brofodd y dwfr; ac yn raddol, yfodd ragor o honno, nes iddo lwyr wella.

Y mae hen deulu Penwenallt wedi gwasgaru o ardal Emlyn. Cafodd y lle ei werthu er ys rhyw chwech ar hugain o flynyddau yn ôl. Y mae un Mrs. Ann Davies, merch i'r diweddar Mrs. George, ac wyres i John Griffiths, Ysw., yn yr ardal eto. Bu rhieni y diweddar Mr. Griffiths yn America, a chollasant lawer o'u heiddo, o herwydd ymlynu wrth Loegr yn amser y rhyfel rhwng y Taleithiau a'r famwlad. Yno y ganed Mr. Griffiths, ac yr oedd yn dair ar ddeg oed pan ddaeth i Gymru. Pryd hynny aeth yr enw Evans allan. Yr oeddynt yn bobl hardd, tal, a glandeg yr olwg. Bu mab Hanesydd Brycheiniog, a gorwyr awdwr Drych y Prif Oesoedd, farw er ys ychydig yn ol yn Nyfnaint lle y preswyliai yn feddyg parchus.

(1) Clywsom fod Ysgol Sul yng Nghaerfyrddin cyn amser Raikes.

EVANS, Thomas, oedd fab D. Evans, Ysw., Llechwedd Deri, ag ydym wedi grybwyll yn barod. Cymmerodd T Evans a'i fab ran gyhoeddus yn y Rhyfel Cartrefol, a hyny ym mhlaid Cromwel. Crybwylla Walker, yn ei Sufferings of the Clergy, am un Thomas Evans, fel yn meddu awdurdod eglwysig yn siroedd Aberteifi a Maesyfed, yr hyn sydd yn debyg taw efe oedd. Fel y dywedasom, wrth son am ei fab, yr oedd yn gadben ar fyddin o wŷr meirch, o dan "Bwyllgor Diogelwch." Ceir y cofnodiad a ganlyn iddo: -

" Thomas Evans, passionately violent in any thing, first a covenanter, then an eager advocate for the negative oath; afterwards most impetuous against a single person especially the family of his now Majestie, and active captain of horse, and his son David of foote,

under the late Committee of Safety, passing an oath upon others, for their fidelity to the said committee, endeavouring to incite men about the beginning of April last, to take arms against General Monke; impatient without an office and tyrannical in it."(1)

Bu yn sirydd Ceredigion yn y flwyddyn 1653. Ei briod oedd Elisabeth, merch Ieuan Gwyn Fychan, Moelifor.

(1) Cambrian Register cyf. i., tud. 166

EVANS, Thomas (Telynog), ydoedd fab i Thomas ac Elisabeth Evans, o Long-adeilfa Aberteifi. Dechreuodd ei yrfa yn y flwyddyn 1839. Yr oedd ei dad yn saer llongau, ac yn ennill arian gweddol dda, ac felly cafodd Telynog fanteision ysgol yn ei faboed. Ar ol tyfu fyny yn Llanc heinif, ymgymmerodd â bod yn freintwas ar fwrdd llong o Aberteifi; ond blinodd yn fuan ar hyny, am fod y fath fywyd, fel y dywedai, yn anghydweddol â'i duedd awenyddol; ac yn Aberdaugleddyf, gadawodd y llong, a ffodd ar ei ymdaith tua gweithiau Morganwg, ac ymsefydlodd yng Nghwm Bach, ger Aberdar. Yn fuan ar ol hyn, symmudodd ei rieni ato yno i fyw. Yn y lle hwn, ffurfiodd Telynog gyfeillion newydd lawer, a'r rhai hyny yn meddu chwaeth lenyddol. Defnyddiodd ei holl oriau hamddenol i goethi ei feddwl, a chyrhaedd gwybodaeth gyffredinol, ond yn neillduol yn iaith ei fam. Darllenai awduron hen a diweddar. Dilynai yr ysgol Sul, ac ymunodd fel aelod crefyddol â'r Bedyddwyr. Parhaodd i ddarllen a myfyrio; ac yn fuan, dechreuodd ysgrifenu i gyfarfodydd llenyddol ac eisteddfodau, a bu yn fuddugol mewn amryw o'r prif destynau. Buom un diwrnod, yn Awst, 1864, yn ei gymdeithas ar lan y môr yn y Gwbert, ger Aberteifi, a threuliasom amser dyddan. O ran ei olwg, yr oedd yn hardd, gweddol dal, ei farf yn llwydgoch ac yn llaes. Yr oedd yn hynod ostyngedig a hawddgar. Tra allan yn y cwch, cyfansoddodd ddau englyn tra rhagorol. Yr oedd yn fardd awenyddol o chwaeth uchel, a diammheu, pe cawsai fywyd, y buasai yn sicr o ddyfod yn un o brif feirdd Cymru. Bu ei gystudd yn faith a nychlyd, a phryd hyny cyfansoddodd hymnau rhagorol. Bu farw Ebrill 29, 1866, yn 20 mlwydd oed. Cyhoeddwyd cyfrol dlos o'i weithiau, dan olygiaeth Dafydd Morganwg, a Hywel Williams, Pant y Gerddinen.

EVANS, TIMOTHY, diweddar beriglor Llanbadarn Tref Eglwys a Chilcenin, a aned yn y Cnwcyn Duoer, plwyf Llanbadarn Tref Eglwys. Bu yn beriglor y plwyfi uchod am 48 o flynyddau. Bu farw Tach. 30, 1837. Yr oedd yn un o bregethwyr mwyaf doniol ei ddydd. Cyrchai pawb o'r plwyfi cymmydogaethol i'r Eglwys lle y clywent fod Mr. Evans yn pregethu. Yr oedd mor ddengar ei ymadrodd, mor enuillgar yn ei darawiad, mor beraidd, mor dreiddgar, ac mor soniarus yn ei lais, nes oedd ar unwaith yn swyno serchiadau y dorf luosog; ac yna byddai y gynnulleidfa fawr yn ei law ar unwaith; ac ni fyddent byth yn blino wrth ei athrawiaeth wrth dreulio yn fynych awr a hanner ar ei bregeth. Yr oedd ganddo ryw ffordd rhyfeddol o effeithiol i fyned i galonau y gwrandawyr, fel yr oedd bob amser yn un o'r offeiriaid mwyaf poblogaidd y cyfarfodydd misol a gynnelid yn yr amser hwnw trwy'r sir. Ei brif bynciau oedd "Prynedigaeth y byd," "Dyoddefiadau Crist," "Anfeidrol ddigonolrwydd iawn y Cyfryngwr," a "Rhinwedd y Gwaed er cyfiawnhad pechadur." Yr oedd ei ysbryd gwlithog, ei iaith briodol a barddonol, a'i fywyd bucheddol fel gweinidog, yn ei osod ym mlaenaf ym mhlith offeiriaid efangylaidd ei oes. Gadawodd ar ei ol Eglwysi blodeuog. Perthynas iddo yw y Parch. E. Evans, person Llangeitho.

EVANS, TIMOTHY, diweddar gurad Llanddewi Brefi, oedd enedigol o blwyf Cilcenin. Yr oedd ei rieni mewn amgylchiadau cysurus, yn berchen tir eu hunain. Aeth Mr. Evans i athrofa Neuaddlwyd, ac wedi hyny i athrofa Caerfyrddin. Cafodd ei urddo yn weinidog Annibynol yn Aberhonddu, lle y bu am flynyddau lawer. Ymunodd â'r Eglwys Sefydledig tua'r flwyddyn 1838. Gwasanaethodd Llanddewi Brefi am flynyddau. Ystyrid ef yn bregethwr tra rhagorol, ac yn wr hawddgar mwy na'r cyffredin. Bu farw Chwefror 21, 1851.

EVANS, TITUS, gweinidog gyda'r Undodiaid yn yr Onen Fawr, ger Llandeilo, ac athraw ysgol ym Mharc y Felfed, Caerfyrddin, oedd enedigol o blwyf Llandyssul. Ganwyd ef yn 1809. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Athrofa Henadurol Caerfyrddin. Ar ol gorphen ei efrydiaeth yno, cafodd ei urddo yn weinidog yn Rhyd y Parc. Agorodd ysgol ramadegol yng Nghaerfyrddin, a daeth ym mlaen yn enwog fel ysgolfeistr. Arweiniodd fywyd gweithgar iawn, trwy ymroddi yn egnïol at ei ysgol, a phregethu mewn mannau pell o'i artref. Bu ganddo geffyl pren yn ei wasanaethu am flynyddau; ond o'r diwedd, cafodd anaf trwm wrth ei farchogaeth. Perchid ef yn fawr fel cyfaill, ysgolhaig, a gweinidog. Bu farw Chwefror 29, 1864. Cafodd ei gladdu yng Nghladdfa newydd Caerfyrddin.

FITZSTEPHEN, ROBERT, ydoedd fab Stephen, castellydd Aberteifi yn amser Harri II., a Nest, merch Rhys ab Tewdwr Mawr. Bu Nest, yr hon ydoedd ddiarebol am ei glendid a'i boneddigrwydd, yn briod ar y cyntaf â Gerald de Windsor, castellydd Penfro; ac ar ôl ei farwolaeth, priododd â Stephen, castellydd Aberteifi; ac ym- ddengys mai yng Nghastell Aberteifi y ganwyd Robert Fitzstephen. Ar ôl marwolaeth Gruffydd ab Rhys, syrthiodd Castell Aberteifi i afael gwŷr y brenin. Rhywle tua'r flwyddyn 1166, ymosododd Rhys ab Gruffydd ar Gastell Aberteifi, ac a'i cymerodd, gan gymmeryd ei gefnder, Robert Fitzstephen, mab ei fodryb Nest, yn garcharor. Wedi i Rys gadw ei gefnder yn y modd hyn am dro yn garcharor, efe, ar ôl ychydig bwyll, a'i gollyngodd yn rhydd fel y canlyn: — Daeth Dermod Mac Murchad, brenin alltudedig, o'r Iwerddon, yr hwn a geisiai gyfnerth tuag at ail ennill ei gyfoeth. Yr ydoedd wedi addaw i Iarll Clâr feddiant o Dalaeth Leinster, ac yn awr addawai i Robert Fitzstephen, a'i frawd Maurice Fitzgerald, dref Wexford a'r ardal amgylchawl, os byddai iddynt hwy uno yn yr un gorchwyl. Ar hyn, Rhys ab Gruffydd, ar ôl ychydig o oediad, a ryddhaodd Robert, a'r ddau frawd a hwyliasant i'r Iwerddon, ac yno dechreuwyd yr hyn a ddiweddodd yng nghyfan ddarostyngiad yr ynys hòno gan frenhinoedd Lloegr. Y fyddin, yr hon a hwyliodd o Gymru, oedd dan dywysiad Robert Fitzstephen; cynnwysai 30 o farchogion, oll o blith ei geraint ei hun, 60 o wŷr mewn arfau trymion, a 303 o'r saethyddion goreu yn y Deheubarth. Y fyddin fechan hon a diriodd yn lle a eiwir Bann (Llwch Garmon, medd y Brut), ger llaw Wexford; a thranoeth y tiriodd yn yr un lle Maurice de Prendergast (1) (pendefig o Ddyfed, yr hwn a ddaethai yn gyfnerth iddynt) â 10 marchog a 60 o saethyddion. Ac yn fuan unodd Dermod â hwy â 500 o wŷr. Ar ol ymladd caled, ennillasant dref Wexford. Cymmerodd hyn le yn y flwyddyn 1168. Fel hyn ni a welwn mai Robert Fitzstephen o Aberteifi a arweiniodd y fyddin gyntaf tuag at oresgyn yr Iwerddon, yr hwn ydoedd ŵyr i Rys ab Tewdwr.

(1) Prendergast sy ran o dref Hwlffordd. Yr hen ffurf wreiddiol a Chymreig yw Bryn y Gest.

FYCHAN, GWILYM, Arglwydd cyntaf Tywyn, ydoedd yn ei flodau yn y pymthegfed canrif. Y mae yr hanesydd enwog, Edward Llwyd, yn crybwyll am hen lawysgrif yn rhoddi allan achau y Tywyn, fod Gwilym ab Einion, neu Gwilym Fychan, wedi bod yn rhyfela yn Ffrainc, ac wedi ennill arf beisiau yn y wlad hòno, o dan frenin Lloegr, y rhai a ddododd efe am ei hun. Yr oedd yn gastellydd Aberteifi; ac o blegid ei ddewrder yn lladd myntai o Wyddelod a losgasant dy ei dadmaeth yn Pitsiert, a gafodd ei greu yn Arglwydd y Tywyn. Yr oedd yn hanu o Wynfardd Dyfed; ac o hono yntau yr oedd holl arglwyddi clodfawr y Tywyn yn disgyn. Ei wraig oedd Isabel, merch Llywelyn ab Owain ab Meredydd, Arglwydd Isgoed. Dywedir mai Lleici, merch Llywelyn Fychan, ydoedd ei fam; ond y mae yn ammhëus ai y Llywelyn Fychan o Emlyn ydoedd, gan fod i raddau ormod o amser rhyngddynt. Y mae Alban Davies, Ysw., o'r Ty Glyn, yn cynnrychioli Gwilym Fychan, ac yn berchen ar y Tywyn. Y mae llawer iawn o'i ddisgynyddion ar hyd y wlad; ac y mae yr enw Alban yn aml iawn yn y teuluoedd.

FYCHAN, LLYWYELYN, neu LLYWELYN AB GWILYM FYCHAN, a elwid hefyd Arglwydd Ceredigion, ydoedd yn oesi yn amser y Breninoedd Iorwerth II. a Iorwerth III. Yr oedd Llywelyn yn berchen dau balas, un a elwir y Cryngae, ym mhlwyf Penboyr, a'r Ddôl Goch, ym mhlwyf Troed yr Aur; ac yr oedd hefyd yn geidwad Castell Emlyn. Yr oedd yn hanu o Ednyfed Fychan o Benmynydd Mon, ac yn berchen cyfoeth lawer o amgylch Emlyn. Yr oedd yn ewythr i'r bardd Dafydd ab Gwilym, frawd ei fam. Yr oedd yn wladgarwr enwog, ac yn fardd medrus. Efe a fu yn athraw i'w nai Dafydd ab Gwilym a'r "Tri Brodyr Farchwiail;" a phan yr oedd yr Awen Gymreig megys ar drengu o herwydd colli nawdd y tywysogion, efe a fu yn offeryn i'w hadferu. Efe a gynnaliodd eisteddfod anrhydeddus iawn yn y Ddôl Goch, lle yr oedd yn bresennol feirdd, llenorion, a boneddigion o bob rhan o Cymru. Yr oedd yn bresennol yn eisteddfodau Gwern y Clepa yng Ngwent, a Marchwiail ym Mhowys. Yr oedd yn byw mewn dylanwad a pharch mawr yn ei wlad. Daeth haid wylliaid o Seison Penfro am draws y Ddôl Goch yn y nos, ac a laddasant y pendefig urddasol. Dyma fu diwedd y gwr parchus Llywelyn Fychan. Y mae gan Ddafydd ab Gwilym ddwy farwnad dra theimladol ar ei ol. Claddwyd ef ym Mynachlog Llandudoch.

FYCHAN, LLYWYELYN AB LLYWYELYN, oedd Abad Ystrad Fflur yn y pedwerydd canrif ar ddeg. Y mae gan Llywelyn Goch ab Meirig hen gywydd rhagorol iddo ar adferiad iechyd; ac wrth y gwaith hwnw yr ydym yn cael fod Llywelyn yr Abad yn wr enwog am ei rinweddau. Yr oedd y bardd hwnw yn ei flodau o 1330 i 1370.

GAMBOLD, WILLIAM, a anwyd yn nhref Aberteifi, o rieni parchus, Awst 10, 1672. Derbyniodd addysg ar y cyntaf yn ei dref enedigol, ac wedi hyny yng Ngoleg Caerwysg, Rhydychain. Ar ol ei urddo yn offeiriad, bu yn gwasanaethu am flynyddau fel curad; ac wedi hyny cafodd fywoliaeth Castell Mâl a Llanychaer, swydd Benfro, lle, trwy ei gymmeriad crefyddol, yr ennillodd barch mawr. Trwy iddo dderbyn niwed ar ei fron, efe a gafodd ei analluogi yn y rhan olaf o'i oes oddi wrth allu i gyflawnu ei ddyledswydd fel offeiriad, ac efe a gyflwynodd ei oriau hamddenol tuag at gasglu geiriadur Cymreig a Seisonig. Bu wrth y gwaith pwysfawr a llafurfawr hwn am bymtheg mlynedd, gan chwilio at hyny bob llyfr ag oedd wedi ei gyhoeddi yn y Gymraeg, yng nghyd â phob llawysgrif. Yn y braslun cyntaf o hono, efe a roddodd i mewn y Lladin rhwng y Seisoneg a'r Gymraeg; ond yn y copi olaf, yr hwn a barotôdd ar gyfer y wasg, efe a adawodd allan y Lladin, ac a wnaeth amryw ychwanegiadau. Yn anfibdus, ni ddaeth y gwaith allan, trwy iddo fethu cael digon o danysgrifwyr i'w argraffu. Efe a'i gadawodd ar ei ol mewn llawysgrif. Yr oedd wedi ei orphen yn 1722. Daeth yn ddamweiniol i feddiant y Parch. John Walters, yr hwn a ddywedai am dano, os cawsai ei gyhoeddi, na fuasai mewn un modd yn diddymu yr angen am ei un ef. Cyhoeddodd Mr. Gambold, yn y flwyddyn 1727, Ramadeg Cymreig tra defnyddiol yn yr iaith Seisonig, o'r hwn y daeth ail argraffiad allan o Gaerfyrddin yn 1817, a thrydydd o'r Bala, 1833, yr hwn oedd wedi ei helaethu. Yr oedd Mr Gambold yn ysgolor da, myfyriwr dyfal, ac yn dra hoff o lenyddiaeth ei wlad. Yr oedd hefyd fel offeiriad a Christion yn meddu cymmeriad uchel Bu farw Medi 13, 1738.

"O ddysg hen Gambold e ddaeth
Llythyreg gall, llithrig, goeth."
DEWI WYN O EIFION.

GRIFFITHS, ALBAN, oedd fab ieuengaf Mr. Thomas Griffiths, Dolau Gwartheg, Dyffryn Aeron; ac efe a hanai o hen deulu parchus yn swydd Benfro. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Golegol y Fenni, ac a urddwyd gan Esgob Llandaf ar guradiaeth Glyn Ebwy, Gwent Uwchgoed. Cafodd ei benodi yn genadwr cartrefol yn yr esgobaeth y cafodd ei urddo. Bu ei Iwyddiant fel cenadwr yn rhyfeddol fawr. Llwyddodd mewn byr amser i gasglu cynnulleidfaoedd, a ffurfio adranau, lle y mae yn awr Eglwysi ac ysgolion wedi eu sefydlu. Cafodd ei aidd a'i ymdrechion eu cario yn rhy bell i'w allu corfforol. Gwanhaodd ei gyfansoddiad cryf, fel y bernid yn angenrheidiol iddo roddi fyny y fath waith a ofynai gymmaint llafur a brwdfrydedd. Derbyniodd guradiaeth Porthmadog. Bu ei weinidogaeth yno, er yn fyr, yn fendithiol iawn. Cyn hir, penododd Esgob Llandaf ef i bersoniaethau unol Llanallgo a Llaneugrad, yn Ynys Mon. Dechreuodd yno dan lawer o anfanteision a gwangalondid; ond yn fuan, daeth pethau yn obeithiol. Llanwyd yr Eglwysi gweigion gan addolwyr difrifol. Blodeuai ysgolion dyddiol a Sabbothol; ond cyn pen y flwyddyn, yr oedd ei holl waith llafurfawr ar ben. Gorphenodd ei ddyddiau. Bu farw yn y Royal Hotel, Caernarfon, ar ei daith adref i Geredigion. Yr oedd, yn ddiau, yn un o ddynion hynotaf ei oes. Daeth yn fuan ar ol dechreu ei weinidogaeth i roddi y profion mwyaf boddhaol o allu y pulpud. Yr oedd urddiant, eglurdeb, a swyn anwrthwynebol yn ei bregethiad. Dangosodd yn ei gymhwysiadau y fath wybodaeth o weithrediadau y galon ddynol, fel ag i synu ei frodyr henach yn y weinidogaeth. Yr oedd o dymmer heddychol iawn. Er yn Eglwyswr cryf, eto efe a gerid yn fawr gan bawb. Ni fu cymmaint galar ar ol dyn ieuanc nemawr erioed. Y Sul ar ol ei farwolaeth, crybwyllwyd am ei ymadawiad sydyn mewn amryw o'r capeli ymneillduol yn yr ynys. Ymdaenodd cwmwl dudew galar dros y wlad. Bu farw yn y fl. 1862, yn 33 mlwydd oed. Yr oedd yn frawd i Beros, Castell Nedd.

"Y Parchedigr Alban Gruffydd fyddai
Yn fwynaidd ei sain; — o fynydd Sinai
Colledigion i Sïon roesawai
At y Groes, trwy ei fer-oes gyfeiriai;
Angelaidd efengylai; — fry uwch ben,
Ar heinif aden, i'r nef ehedai."
lOAN MYNYW.

GRIFFITHS, GRIFFITH, oedd enedigol o blwyf Llanfihangel Geneu'r Glyn. Addysgwyd ef yn Llanbedr gan yr Hybarch Archddiacon Williams. Urddwyd ef gan Esgob Llundain i fyned yn genadwr i'r India Orllewinol. Cyrhaeddodd Jamaica yn 1825. Cafodd urdd offeiriad gan esgob yr esgobaeth hòno. Bu yn gweinidogaethu ym Marchioneal Bay a Portland; ac ar farwolaeth y periglor, cafodd y fywoliaeth. Bu ei lafur yn llwyddiannus iawn yn y lle, fel yr aeth y gynnulleidfa yn llawer gormod i'r Eglwys, ac adeiladwyd Eglwys newydd. Cafodd fywoliaeth T relawney. Bu yno hefyd yn llwyddiannus ryfeddol: ond yng nghanol ei Iwyddiant, bu farw, Rhagfyr, 1845. Ennillodd barch mawr gan bob gradd. GRIFFITHS, JAMES R, diweddar beriglor Llangeler, a aned yn Llwynbedw, plwyf Brongwyn, yn y fl. 1802. Treuliodd ei febyd yn Eglwyserw. Addysgwyd ef yn yr ardal hòno, ac wedi hyny yng Ngholeg Dewi Sant. Cafodd ei urddo ar Morfil, sir Benfro; a bu wedi hyny yn Llandeilo Fawr. Cafodd fywoliaeth Cwmamman. Ar benodiad y Parch. J. Griffiths, periglor presennol Llandeilo, i'r fywoliaeth hòno, cafodd yntau ei benodi yn ficer Llangeler. Gweithiodd yno gyda llawer iawn o ffyddlondeb. Adeiladodd yno Eglwys newydd, ac hefyd ysgoldy. Yr oedd yn hollol ymgyflwynedig i'r weinidogaeth. Yr oedd hefyd yn wr pwyllog iawn. Clywsom ef yn dywedyd mai darllen hanes y Parch. John Newton a'i tueddodd ef gyntaf i feddwl am y weinidogaeth. Treuliasom lawer awr yn ei gymdeithas, a chawsom ef yn garedig iawn. Yr oedd yn hollol ddidramgwydd, ac yn llawn cydymdeimlad. Yr oedd Mrs. Griffiths, yr hon sydd gyfnither i'r diweddar Garn Ingli, yn gydwedd gymhwys iddo. Ymdrechodd adeiladu capel arall mewn rhan o'r plwyf ag oedd ei fawr eisieu; ond cyfarfu â rhwystrau. Bu farw y gwr rhagorol hwn Mawrth 28, 1863. Brawd iddo yw y Parch. G. Griffiths, Machynlleth. Yr oedd yn berthynas i Reithor enwog Castell Nedd.

GRUFFYDD, Abad Ystrad Fflur. Cymmerodd yr abad hwn ran led bwysig yn helyntion gwladol y Dywysogaeth. Gwnaeth heddwch â Brenin Lloegr yn y flwyddyn 1247, gyda golwg ar y ddyled oedd ar y fynachlog, pryd y maddeuwyd iddi 350 o farciau.

GRUFFYDD AB LLYWELYN, o Uwch Aeron, oedd bendefig enwog yn y cynoesoedd. Mae gan Ddafydd y Coed awdl iddo yn yr Archaiology of Wales, Rhydd y bardd hwnw iddo glod uchel iawn fel croesäwr beirdd, ac nad oedd yn Seisonig, ac mai efe oedd agwrdd Ceredigion.

GRUFFYDD AB MEREDYDD ydoedd ŵyr i'r Tywysog Rhys ab Gruffydd. Yr oedd yn Archddiacon Ceredigion, ac yn wr o ddysg helaeth a chymmeriad uchel. Bu farw tua'r flwyddyn 1241.

GRUFFYDD AB MEREDYDD ydoedd frawd Cynan ab Meredydd, am yr hwn yr ydym wedi traethu yn barod. Yr ŷm yn cael i Owain ei frawd ac yntau gynnorthwyo eu brawd Cynan tua'r flwyddyn 1272, ac adferu iddo gwmmwd Perfedd, sef y rhan ddwyreiniol o'r ran uchaf o Geredigion. herwydd rhyw amgylchiadau, cawn ei fod ef a'i frodyr, a Rhys Wyndawd, wedi troi o du brenin Lloegr yn fuan ar ol hyny, yn erbyn y Tywysog Llywelyn ab Gruffydd. Ar ol hyny, daeth Seison lawer i Eneu'r Glyn, pan orfu ar lawer o'r trigolion ffoi i Wynedd. Ar ol hyny, dygwyd y cyfreithiau Seisonig i'r wlad yn groes i ewyllys y trigolion. Yn fuan gwedi hyny, ymosododd Gruffydd ab Meredydd a Rhys ab Maelgwyn ar Aberystwyth, ac a losgasant y dref a'r castell. Ar ol hyny, goresgynodd Rhys ab Maelgwyn gantref Penwedig, a Gruffydd ab Meredydd a oresgynodd gwmmwd Mefenydd. Trodd Gruffydd ar ol hyny o blaid y Tywysog Llywelyn ab Gruffydd.

GRUFFYDD AB RHYS ydoedd fab yr Arglwydd Rhys. Bu farw ei dad yn y fl. 1196, ac efe a'i dilynodd ar yr orsedd. Yr oedd Maelgwyn aflonydd wedi ei ddietifeddu am wrthryfela yn erbyn ei hybarch dad. Ond Maelgwyn a ymgynghreiriodd â Gwenwynwyn, mab Owain Cyfeiliog, a daethant yn ddisymmwth ar ben Gruffydd yn Aberystwyth; ac wedi lladd llawer o'i wŷr, cymmerasant ef yn garcharor. Gwenwynwyn, yn y flwyddyn 1198, a ymdrechodd helaethu terfynau Cymru i'w maint cyntefig, gan ymosod ar gastell Payn yn Elfael, eiddo Gwilym de Breos ; ond daeth Geoffry Fitzpeter, prifynad Lloegr, yn ei erbyn, ac felly rhyddhawyd Gruffydd o garchar Gwenwynwyn.(1) Ar hyn, Gruffydd a adfeddiannodd ei gyfoeth, oddi eithr dau gastell, sef Aberteifi ac Ystrad Meirig. Addawodd Maelgwyn, trwy Iw, roddi Castell Aberteifi i'w frawd, ond iddo gael gwystlon er diogelwch iddo ei hun; ond cyn gynted ag y derbyniodd y gwystlon, cadarnhaodd y castell iddo ei hun, gan ddanfon y gwystlon at Wenwynwyn. Aeth Maelgwyn wedi hyny i ymosod ar Gastell Dinarth, gan ladd y cyfan o wŷr Gruffydd, y rhai oeddynt yno. Gwerthodd Maelgwyn wedi hyny Gastell Aberteifi (allwedd y Deheudir) i'r Seison, fel na chelai ei frawd mo houo—gweithred felltigedig! Meddat Carnhuanawc, "Dywedir am Ruffydd ab Rhys, mai pendefig o gynneddfau godidog oedd, ac yn debygol o ddwyn y Deheubarth i drefn dda, yn ol cynllun ei dad ; eithr ni chafodd amser i hyn, canys bu farw yn y fl. 1202, er mawr alar idd ei wlad. Claddwyd ef yn anrhydeddus yn Ystrad Fflur. Gadawodd ar ei ol ddau fab, Rhys ac Owain."

(1) Dywed Matth. Paris i Wenwynwyn golli 3070 o'i wyr yn y frwydr hòno.


GRUFFYDD, IFAN, a anwyd yn Nhwrgwyn, plwyf Troed yr Aur, ac yno y treuliodd ei oes, gan ei fod yn berchenog y lle hyfryd hwnw. Yr oedd yn ysgolor da ac yp fardd lled enwog yn ei ddydd. Rywfodd neu gilydd, y mae y rhan fwyaf o'i waith wedi myned i golli. Y mae un gân o'i waith ym Mlodau Dyfed, o'r enw "Carol yr Haf." Mae "Cywydd i'r Iesu o Gynhildeb Wyneb yn Wrthwyneb," o'i waith, yr hwn a argraffwyd yn niwedd Meddyliau Neillduol ar Grefydd, o gyfieithad Iago ab Dewi, yn y flwyddyn 1717, yn waith tra gorchestol. Gellir meddwl wrth y cywydd hwn ei fod yn ddyn tra duwiolfrydig. Cyfansoddodd Siencyn Tomos, Cwmdu, gywydd o farwnad iddo, yr hwn sydd i'w weled ym Mlodau Dyfed. Mae y cywydd hwnw yn dlws iawn, ac yn gosod Ifan Gruffydd allan yn fardd godidog. Cyfansoddodd y Parch. Alban Thomas, Blaenporth, farwnad iddo hefyd, lle y gwelir canmoliaeth uchel iddo. Dechreua mal hyn : —

Wele y gân a'r gil gŵydd,
Wele gŵyn — wyla gwaenydd."

Medd S. Tomos,—

"E brofwyd hwn y'n Brif-fardd,
Dir ei fod yn Gadair Fardd."

GRUFFYDD, RHYS, ydoedd fardd o ran isaf o ganolbarth y sir, ef allai Llandyssul. Yr oedd yn fyw yn 1704. Gwelsom cywyddau o'i waith mewn llawysgrifau.

GRUFFYDD, TOMAS, pendefig uchel a gyfenwid Arglwydd Llanbedr. Rhedai achres ei dadau fel hyn:— Tomas ab Gruffydd ab Ieuan ab Dafydd ab Llewelyn ab Gwilym Llwyd ab Gruffydd Goch ab Rhys ab Rhydderch ab Cadifor Dinawol ab Gwynn ab Aelaw ab Alser ab Tudwal ab Rhodri Mawr.

GWEITHFOED FAWR, Tywysog Ceredigion, ac Arglwydd Cibwyr, oedd fab Eunydd ab Cadifor ab Peredur Beisrudd. Dywed y Triodd am dano, — "Tri Hualogion Teyrnedd Ynys Prydain: Morgan Mwynfawr, o Forganwg; Elystan Glodrydd, rhwng Gwy a Hafren ; a Gweithfoed Fawr, Brenin Ceredigion, o achos y gwisgynt hualau yn ol y gwnelent brif deyrnedd Ynys Prydain, ac nid taleithiau, sef Coronau."Bu iddo tua deuddeg o blant. Dilynodd Cadifor ef ym mreniniaeth Ceredigion. Disgynai Philip ab Ifor, Arglwydd Isgoed, o hono, yr hwn a briododd Catherin, merch y Tywysog Llywelyn ab Gruffydd. Hana teulu Gogerddan o hono. Blodeuodd yn yr unfed canrif ar ddeg.

GWENLLIAN. ferch Rhys ab Gruffydd, ydoedd wraig yr enwog Ednyfed Fychan, Penmynydd Mon, o'r hon y deilliodd y Tuduriaid, sef teulu breninol Harri VII. Dywed y Brut fod Gwenllian y rian decaf trwy'r gwledydd.

GWENOG, santes yn y seithfed canrif i'r hon y mae Eglwys Llanwenog wedi ei chyflwyno. Cedwid ei gwyl Ionawr 3.

GWGAN AB MORYDD ydoedd fab Morydd, neu Meirig, Brenin Ceredigion. Boddodd yn yr afon Llychwyr, wrth ymlid y Paganiaid Duon, sef y Daeniaid, yn y flwyddyn 870. Aeth breniniaeth Aberteifi yn etifeddiaeth i'w chwaer Angharad, yr hon oedd yn briod â Rhodri Mawr, Tywysog Gwynedd.

GWRTHELI, neu GARTHELI AB CAW, yn y chwechfed canrif, y sant a sylfaenodd Gapel Gartheli, ym mhlwyf Llanddewi Brefi. Yr oedd y sant hwn yn sefyll yn uchel iawn yn y cynoesoedd.

" Gwyrthfawr fu'r gwr mawr i mi,
Gwyrthiau alarch Gwrtheli."
D. AB IEUAN DDU i D. ab Tomos
o Is Aeron.

GWYNEN, santes, i'r hon y cyflwynwyd Eglwys Llanwnen. HARRIES, JENKIN, gweinidog teithiol gyda'r Bedydd- wyr, oedd enedigol o ardal Glyn Arthen, plwyf Penbryn. Dyn hynod mewn amryw bethau oedd Siencyn Harries. Efe & blanodd achos y Bedyddwyr mewn amryw fanau, megys Cwmdwfr, Llanfihangel Nant Brån, &c. Bu farw yn Aberhonddu, Gorphenaf 9, 1844.

HARRIES, SOLOMON, ydoedd enedigol o ardal Cilgwyn, ym mhlwyf Llangybi. Cafodd ei addysg foreuol, yng nghyd â'i lyfrau, gan y Parch. Philip Pugh. Ymddengys iddo fod dan ofal Morgan Williams pan yn ieuanc, ac wedi hyny iddo dderbyn ei addysg athrofaol yng Nghaerfyrddin. Cafodd ei urddo yn y flwyddyn 1751. Bu yn gweinidogaethu yn Abertawy fel gweinidog Presbyteraidd. Cafodd ei benodi yn llywydd yr Athrofa Henadurol yng Nghaerfyrddin yn y flwyddyn 1784; ao efe a symmudodd yr athrofa i Abertawy, a bu farw yn y flwyddyn ganlynol. Dywed y Dr. Rees mai Ariad ydoedd, ac i'r eglwys lle y bu yn gweinidogaethu fyned cyn hir yn Undodiaid. Y mae yn ymddangos ei fod yn wr dysgedig a doniol. Y mae o'n blaen bregeth o'i eiddo, o'r enw “Ystyriaethau o anchwiliadwy Olud Crist, a Gwahoddiad i bawb i'w dderbyn a'i ddefnyddio, mown Pregeth a gyhoeddir ar annogaeth rhai a'i clywsant yn y Cyfarfod o Weinidogion yn Watford, ger llaw Caerffili, Awst 10, 1774. At ba un y chwanegwyd Dwy Hymn, wedi eu troi o'r Seisoneg. Caerfyrddin, argraffwyd gan J. Ross, MDCCLXXIV.” Y mae yn y rhagymadrodd yn mynegu nad oedd yn gyflëus iddo wasanaethu y Cymry yn eu hiaith eu hunain o hyny allan. Cynnwyss y bregeth lawer o sylwadau rhagorol. Y mae hefyd o'n blaen bregeth arall yn y Seisoneg, o'r enw “The Practical Influence of Christianity on Believing Minds, considered in a Discourse on 1 Thessalonians ii. 13. Shrewsbury: Printed by J. Eddowes, 1783 (price 6d).” Y mae y rhagymadrodd yn dwyn y dyddiad o "August 30, 1783," yr hwn oedd wedi cael ei ysgrifenu yn Abertawy. Dywed iddo ei phregethu ar y cyntaf o Fehefin, yng nghynnulliad blynyddol yr Athrofa yng Nghaerfyrddin. Yr ydym wedi darllen y pregethau hyn gyda llawer o ddyddordeb, ac yn barnu wrthynt fod yr awdwr yn ddysgedig a thra duwiolfrydig, ac yn methu & chael ynddynt ddim yn ymylu ar Ariaeth. Yr ydym yn gweled ei enw yn danysgrifiwr am y Fuchedd Gristionogol yn 1750,(1) ac yn gweled ei fod pryd byny yn Abertawy. Y mae hefyd yn danysgrifiwr am 24 cyfargraff o Hymnau y Parch. Jenkin Jones, Llwyn Rhyd Owain. Y mae o'n blaen gyfargraff o'r llyfr hwnw, ac arno yn ysgrifenedig, “Daniel David, his book, gift of Mr. Solomon Harris, Swansea, in the year 1783." Y derbyniwr oedd yr ysgrifenydd, pwy bynag oedd.

(1)Rhagfyr 17, 1750, yw dyddiad rhaglith y Fuchedd Gristionogol; ond y mae yn amlwg fod enwau y tanysgrifwyr yn cael eu derbyn wedi hyny.

HARRIES, THOMAS, a aned yn Aberteifi, Chwefror 5,- 1790. Ymaelododd gyda'r Bedyddwyr pan yn 16 mlwydd oed. Cafodd fanteision rhieni crefyddol, ac ysgol dda pan Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1814. Aeth i Athrofa y Fenni yn y flwyddyn 1816. Cafodd ei urddo yn Rhaglan, Gwent. Gweithiodd yn y lle annuwiol hwnw gyda'i holl egni. Cadwai ysgol bum diwrnod o'r wythnos, a phregethai fynychaf bob nos, a thair gwaith bob Sul. Llwyddodd yno yn fawr. Cyfnewidiodd a'i frawd John, yr hwn oodd ar y pryd yn Fawnhope, sir Henffordd. Bu yno yn ddiwyd a llwyddiannus am ddeng mlynedd. Bu farw Ebrill 26, 1843, yn 53 mlwydd oed, gan adael ar ei ol air da ym mhob modd.

HERBERT, DAVID, G.C., diweddar beriglor Llansantffraid, a anwyd yn y Rhiwbren, ym mhlwyf Llanarth. Enwau ei rieni oedd William a Judith Herbert. Y mae yr Herbertiaid yn hanu o brif deuluoedd ein gwlad, trwy hen deuluoedd hynafol Hafod Ychtryd, Rhaglan, a Phenfro. Cafodd Mr Herbert fanteision dysg yn ieuanc, ac aeth i Goleg Wadham, Rhydychain, lle y cafodd ei raddio yn G.C. Cafodd urddau eglwysig, Ionawr 25, 1791, gan John, Esgob Rochester, yn Eglwys Golegawl Sant Pedr. Yr oedd ei guradiaeth naill ai yn Essecs neu Sussecs. Yr oedd yno mewn parch mawr gan bawb a'i hadwaenai; ac wedi llafurio yno am flynyddau, dychwelodd i Gymru. Ar ei ddychweliad i Geredigion, cafodd guradiaeth Dyhewyd. Symmudodd wedi hyny i guradiaeth Llansantffraid; ac ar ol gwasanaethu yno am dro, cafodd ei benodi ar yr 8fed o Awst, 1812, yn ficer y plwyf, gan yr Esgob Burgess. Gyda Llansantffraid, gwasanaethodd Llanrhystud fel curad o dan y Parch R. Evans, ficer Llanbadarn Fawr, am amryw flynyddau. Bu am y ddwy fynedd olaf o'i oes yo ebrwyad Rhyd y Briw. plwyf Llywel, Brycheiniog. Ei briod ydoedd Mari, merch Joseph Price, Ysw., o'r Felindre, Llanfihangel Ystrad. Bu iddynt bump o blant: bu dau farw yn eu babandod. Dygodd ddau o honynt i fyny yn weinidogion ffyddlawn ac enwog yo yr Eglwys Sefydledig. Cafodd William, ei gynfab, ei benodi yn ficer Llansantffraid ar ei farwolaeth, yr hwn sydd yn fyw yn bresennol, ac yn barchus iawn yn ei blwyf a'i wlad, fel offeiriad llafurus a boneddwr llednais. Yr oedd John, ei ail fab, yn ysgolor gwych, ac yn wr ieuanc gobeithiol a duwiol. Cafodd ei urddo yn y wlad hon tua'r blynyddoedd 1827–8, ac aeth allan yn genadwr i Ogledd America. Cafodd ei benodi yo athraw cynnorthwyol yng Ngholeg Keynon, Ohio. Adeiladwyd Eglwys newydd wech iddo yno, ac ymddangosai tebygolrwydd o oes ddefnyddiol o'i flaen; ond er galar, pan yr oedd y pren afalau yng ngogoniant ei flodau, cafodd ei dori lawr gan fwyell finiog angeu. Bu farw yn 1830. Claddwyd ef yng nghladdfa y capel, a chludid ei gorff i'r bedd gan efrydwyr y coleg, yn cael eu blaenori gan Dr. Chuso, Esgob Ohio. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan yr esgob, a phregethodd bregeth angladdol y Sul canlynol, ar y testyn "Yng nghanol ein bywyd yr ydym yn angeu.” Priododd ei unig ferch â'r offeiriad enwog, y Parch D. Parry, ficer Dyfynog. Dywedir fod Mr. Herbert yn ddyn duwiol iawn, yn dduwinydd dwfn, yn bregethwr doniol a phoblogaidd, ym mlaen ar y rhan fwyaf o'i gydoeswyr. Yr oedd cael ei glywed yn wledd i bawb, ym mhell ac yn agos. Bu farw Rhagfyr 5, 1835, yn 73 mlwydd oed.

HOWEL, MORGAN, ydoedd enedigol o Bettws Bledrws. Yr oedd yn ddyn o gryn gyfoeth. Daeth i chwareu pel droed i gae lle yr oedd Walter Cradoc yn pregethu, a hyny er mwyu ei rwystro. Cyfarfu ag anffawd ar y pryd, sef yssigo ei glin, ac felly gorfu arno aros yn y cae; ac ar y pryd, dywedir i'r gwirionedd ymaflyd yn ei galon. Daeth wedi hyny yn bregethwr yn y Cilgwyn, Caeronen, a Chrug y Maen. Bu farw cyn diwedd y 17fed canrif. Yr oedd yn bregethwr yn amser Cromwel.(1)

(1) Dyma enwau y rhai a gawsant drwydded i bregethu yn y parthau hyn yn amser y “Declaration of Indulgency" yn 1672. “May 8 License for James Davies at his own house in Cardigan, and at the house of John Jones, Cenarth, Carmarthenshire.” Eto, "Jenkin Jones at his own house in Cilgeran. October 28, License to Morgan Howel to be a congregational teacher at the house or John Jones, Llanbadarn Odwyn.” Eto, " D. Jones at Pencareg; David Jones to be a teacher at his own house, Llanddewi Brefi; Evan Hughes at the house of David Hughes, Cellan. Licence of houses, 1672. October 28, house of widow Gwyn, town of Cardigan; house of Phillip David of Dechwede [Dyhewyd, tebyg]; house of David Rees, Llarfairhelygen, Cardigan; house of Evan David, Llanbadarn, Cardigan.” Clywsom mai un o deidiau y Parch. D. Hugbes, Nantgeredig, oedd D. Hughes, Cellan, ond nis gallwn brofi. Preswyliai Morgan Howel yn Nhregaron: Llwyn Rhys oedd y ty lle y pregethai.


HUGHES, DAVID, A.C., a aned yn Talsarn, Glan Aeron. Derbyniodd ei ddysg ar y cyntaf yn Ystrad Meirig, ac wedi hyny yng Nghaerfyrddin, ac yr oedd ei gynnydd yn fuwr. Aeth i Rydychain, a daeth ym mlaen mor odidog, fel y cafodd ei benodi yn un o arholwyr yr ymgeiswyr am raddau. Daeth i sylw mawr gyda Dr. Cleaver, ar y pryd yn benrhaith yn un o golegau y Brifysgol, ac wedi hyny Esgob Bangor. Cafodd ei benodi i arolygu argraffiad o'r Beibl Cymreig a argreffid yn Rhydychain. Cafodd fywoliaeth Hirnant, ac wedi hyny fywoliaeth Llanfyllin. Yr oedd yn ysgolor dwfn, yn dduwinydd rhagorol, a phregethwr a gweithiwr godidog yn y weinidogaeth. Ei olwg oedd fawreddog a pharchus, a'i gymdeithas oedd ddyddorol a boddhaol. Cyhoeddodd un "Bregeth Ymweliadol.” Yr oedd yn gefnogwr gwresog i'r Beibl Gymdeithas. Bu farw yn y flwyddyn 1865.

HUGHES, Evan, oedd offeiriad yn Llandyfriog. Yr oedd yn enedigol o rywle o'r sir hon. Cafodd ei urddo gan yr Henaduriaid. Dywedir ei fod yn bregethwr goleu a grymus. Dywedir iddo gyfarfod â llawer o rwystrau ar ei daith weinidogaethol. Sonir am dano yn y flwyddyn 1694, fel “Henwriad athrawiaethol" yn y Cilgwyn a Chaeronen. 96 HUGHES, JAMES, gweinidog y Trefnyddion Calfinaidd yn Llundain, a anwyd ym mhlwyf Ciliau Aeron, yn agos i fynydd y Trichrug, oddi wrth yr hwn y cymmerodd ei enw llenyddol, Iago Trichrug. Treuliodd ei ieuenctyd yn ei ardal enedigol; ond pan yn un ar hugain oed, efe a aeth i Lundain, lle y treuliodd ei oes. Gweithiodd yn Llong-orsaf Deptford hyd nes yr oedd yn bump a deugain oed. Perthynai i gyfundeb y Trefnyddion pan adawodd Gymru; ond aeth wedi hyny yn ddyn gwyllt ac anystyriol. Ond yn y flwyddyn 1806, yn ystod arosiad y Parch. John Elias yn gweinidogaethu yn y Brifddinas, dychwelodd yr afradlawn tua thy ei Dad. Yn 1810, efe a ddechreuodd bregethu; parhaodd i wneyd hyny hyd ddiwedd ei oes gyda chymmeradwyaeth fawr. Yn 1816, efe a gafodd ei neillduo i gyflawn waith y weinidogaeth yn y gymmanfa a gynnelid yn Llangeitho. Bu yn gweinidogaethu wedi hyny am wyth ar hugain o flynyddau, sef hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymmerodd le yn ei dy ei hun, yn Rotherhithe, Llundain, Tachwedd 2, 1844, yn 65 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn Bunhill Fields. Yr oedd Mr. Hughes yn dduwinydd dwfn, ac yn bregethwr rhagorol. Y mae ei enw yn uchel fel ysgrifenydd, ac yn neillduol fel esboniwr. Dechreuodd yr Esboniad ar y Testament Newydd yn y flwyddyn 1829, a gorpbenodd ef yn 1835, mewn dwy gyfrol ddeuddeg-plyg. Tyniad allan yw o weithiau Poole, Scott, Guyse, Doddridge, Henry, ac ereill. Cyhoeddwyd ef yn y Wyddgrug. Daeth allan ail argraffiad o hono o Dreffynnon yn 1845. Yr oedd wedi myned ym mlaen a'r Hen Destament can belled a'r xxxv. o Ieremïah ar yr un dull; ond gosododd angeu derfyn ar ei lafur. Gorphenwyd y gwaith gan y Parch. R. Edwards, Wyddgrug. Yr oedd Mr. Hughes yn ysgrifenydd medrus a manwl, ac yn llenor enwog. Yr oedd hefyd yn fardd rhagorol. Cyfansoddodd lawer o ddarnau rhagorol, a chyfieithodd hefyd rai darnau gwychion gyda llawer o fedr. Ystyrir ei gyfieithad o Gray’s “Bard,” a Blair's “Grave,” yn gyfuwch â'r rhai gwreiddiol. Ysgrifenodd lawer i'r Seren Gomer, yn farddoniaeth a rhyddiaith. Yr oedd yn dra adnabyddus â'r Dr. Pughe. Bu dadl rhyngddo a'r Dr., ar fesur cerdd, am "Arwydd y Prophwyd Ionah," yr hon a ymddangosodd yn Seren Gomer. Dywedir ei fod yn wr rhydd ei ysbryd yn rhydd oddi wrth gulni plaid a phethau tebyg, ac felly yn barchus iawn gan bawb a'i hadwaenai. Ei lythyrau yn y Gwyliedydd, Gwladgarwr, &c., a'i profant yn llenor trylen; a chywydd ar “Edwinedd Einioes" o'i eiddo yn y Gwyliedydd, a'i dengys yn fardd campus.

HUGHES, JOHN, Archiagon Ceredigion, a aned yn y fl. 1787, ac ydoedd fab ac etifedd John Hughes, Ysw., o'r Llwyn Glas, plwyf Llanfihangel Geneu'r Glyn. Cafodd ei ddysgeidiaeth yn Ysgol Ramadegol Ystrad Meirig, o dan yr athraw medrus y Parch. John Williams, lle yr enwogodd ei hun trwy ei lafur a'i lwyddiant. Symmudodd wedi hyny i gymmeryd gofal ysgol glasurol yn Putney. Bu yno yn dra diwyd, a gwrteithiodd lawer ar ei feddwl. Urddwyd ef yn ddiacon ac offeiriad yn y flwyddyn 1811, gan Esgob Llanelwy. Ei guradiaeth gyntaf oedd Llandrillo yn Rhos, yn agos i Aberconwy. Ymgyflwynodd yma yn hollol at y weinidogaeth, gan ymdrechu a'i holl egni i ennill eneidiau at Grist. Dywedir fod dylanwad ei bregethau a'i fywyd yn fawr trwy yr holl gymmydogaeth. Darlithiai mewn bythod pellenig o'r plwyf, gan achub pob cyfle i ennill y trigolion i arwain bywyd newydd. Tra yno, cyhoeddodd gyfrol o bregethau, a chawsant gylchrediad helaeth, a darlleniad ymofyngar a chymmeradwy gan y genedl. Yn 1817, cymmerodd guradiaeth Foleshill, yn agos i Coventry. Llanwyd yr Eglwys yn fuan, a llawer a ennillwyd at y Gwaredwr. Ffurfiodd yma gyfeillgarwch gwresog a phrif deuluoedd y lle. Yn y flwyddyn 1822, bu farw periglor y plwyf, ac anfonodd y plwyfolion ddeisyfiad at yr Arglwydd Ganghellydd Eldon, ar ran eu curad; ond ni lwyddasant, gan (fel y dywedir) fod yr Arglwydd Ganghellydd yn groes i weinidogaeth “efengylaidd” Mr. Hughes. Symmudodd y pryd hyny i Deddington, sir Rhydychain. Deuai llawer o efrydwyr y Brifysgol i'w wrando. Bu John Henry Newman yno unwaith, yr hwn a ddaeth wedi hyny y blaenaf o'r blaid Dractaraidd, ond sydd heddyw yn ben ar urdd Rufeinig St. Philip Neri, yn Birmingham. Yr oedd ei blwyf yn cynnwys tua 2000 o bobl, ac yr oedd yn ddiflino yn ei ymweliadau & hwynt. Tra yn y lle hwn, teithiodd lawer dros y Feibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor; a pharhaodd gyda llawer o egni i weithio drosti hyd derfyn ei oos. Yn y cyfarfod cyntaf o'r gymdeithas, a gynnaliwyd yn Aberystwyth, ar ol ei farwolaeth, talwyd tynged i'w goffadwriaeth gan y Dr. Phillips, yr hwn sydd wedi bod am flynyddau lawer yn oruchwyliwr ffyddlawn i'r sefydliad. Dywedai, "Drwg genyf fod eich cymdeithas leol wedi dyoddef colled ddirfawr er pan gyferchais chwi o'r lle hwn ddwy flynedd yn ol. Dechreuodd y diweddar a'r hybarch Archddiacon Hughes ei lafur bendigedig dros y gymdeithas pan yn offeiriad ieuanc yn Lloegr. Mewn amser pan nad oedd y sefydliad yn cael ei gymmeradwyo mor gyffredinol ag yw yn y dyddiau presennol, gwnaeth efe ei chynnorthwyo trwy bregethau o'r areithfaoedd, areithiau oddi ar yr esgynloriau, yn gystal a rhoddion o'i logell. Cofia rhai am y dull bywiog, difrifol, a threiddgar yr anerchodd ni yn y cyfarfod cyhoeddus a gynnaliwyd yn y lle hwn. Ei eiriau pwysig a hynaws ar yr achlysur hwnw oeddynt debyg i belydrau nawsaidd yr haul ymadawedig. Yr haul hwnw i ni yn wir sydd wedi machludo; ond dysgleiria eto yn fwy mewn awyrgylch arall, a mwy dysglaer.” Ond pan ydoedd fel hyn yn ymdrechu yn ddyfal a dedwydd yng nghyfiawniad ei ddyledswyddau sanctaidd yn Doddington, syrthiodd cwmwl dudew ar ei fywyd teuluaidd; collodd ei wraig ar ol cystudd byr, gan adael chwech o blant bychain ar ei hol, nad oedd yr henaf ond tuag wyth mlwydd ood. Yn fuan wedi'r amddifadrwydd torcalonus hwn, cafodd berigloriaeth Aberystwyth; ac ar yr un amser cafodd guradiaeth Llanbadarn Fawr gan y diweddar Barch. R. Evans. Wedi dychwelyd i Gymru, ac wedi cael y fath faes helaeth i'w ddefnyddioldeb, parhaodd i ddangos yr unrhyw ymdrech ddiflino, yr unrhyw frwdfrydedd gwresog, a'r unrhyw eiddigedd duwiol yng ngwasanaeth yr Hwn a'i galwodd i'r fath waith goruchel a sanctaidd o ennill eneidiau at Grist. Ei ofal blaenaf oedd adeiladu Eglwys newydd yn Aberystwyth, am fod yr hen un yn hollol annigonol at wasanaeth y dref, yr hon oedd yn cynnyddu yn gyflym mewn maintioli a phwysigrwydd. Wrth wneuthur hyny, gofalodd am ddigon o le i'r tlodion tu fewn i'w muriau. Yn y fl. 1833, daeth ficeriaeth y fam-eglwys (Llanbadarn Fawr) yn rhydd, i'r hon y penodwyd ef gan y diweddar Esgob Jenkinson. Yn fuan wedi hyny, penodwyd ef gan yr un esgob i gadair Eglwys Brebendaraidd Aberhonddu. Ar ol marwolaeth yr Archddiacon, cafwyd llythyr ym mysg ei bapyrau, oddi wrth yr esgob duwiol hwnw, ym mha un y cymhellai ei Arglwyddiaeth Mr. Hughes i beidio llafario tu hwnt i'w allu, i'r hyn y temtid ef yn aml trwy wneuthur llawn brawf o'i weinidogaeth. O'r flwyddyn 1833 hyd ddydd ei farwolaeth, yr hyn a gymmerodd le Tachwedd 1, 1860, pan yn 73 mlwydd oed, daliodd Mr. Hughes y fameglwys fel ficer, yng nghyd â'r berigloriaeth yn y dref. Tua dechreu y flwyddyn 1859, penododd esgob presennol Ty Ddewi ef yn Archddiacon Ceredigion. O fewn y flwyddyn hòno, ymwelodd a phedwar ugain o blwyfi o fewn ei archddiaconiaeth yng Ngheredigion a pharthau uchaf sir Benfro, gan bregethu mewn amryw o honynt, a hyny heb fod ragor nag un Sul oddi wrth ei gynnulleidfaoedd ei hun. Pregethu yr Efengyl ydoedd bwyd a diod y gweinidog rhagorol hwn. Ar farwolaeth y diweddar Barch. Wm. Howells, Long Acre, Llundain, gwnaed pob ymdrech i'w ddarbwyllo i fod yn ganlyniedydd iddo; ond gommeddodd, gan ei fod mor hoff o'i gydgenedl a phobl ei ofal. At hyn gellirf ychwanegu ei fod yn ganon mygedawl yn Nhy Ddewi, profydd ewyllysiau cymmyn, a deon gwladol y ddeoniaeth yr oedd yn byw ynddi. Bu yn briod ddwywaith y tro cyntaf & Jane, merch Mr. Foulks, Glan y Wern, Llandrillo yn Rhos; ac wedi hyny â Lowri Ann, merch W. Poole, Ysw., a gadawodd deulu o'r ddwy. Heb law ei fod yn bregethwr doniol, yr oedd hefyd yn fardd da iawn, ac yn awdwr amryw lyfrau mewn rhyddiaith. Cyhoeddodd y gweithiau canlynol yn Gymraeg :- 1. Pregeth, pan oedd yn gurad Llandrillo yn Rhos. 2. Casgliad o 14 o Bregethau yn 1829. 3. Cyfieithad o Fyfyrdod yr Esgob Hall ar y Testament Newydd. Cyhoeddodd hefyd yn Seisoneg 1. The Domestic Ruler's Monitor; being a Sermon on the much-neglected duty of Family Prayer; preached at the Parish Church of Foleshill, on the 11th of Jan., 1821. 2. Pastoral Valediction; being Two Farewell Sermons; preached at Foleshill, 1822. 3. A Visitation Sermon; preached at Cardigan, before Dr. Jenkinson, Bishop of St. David's, in 1832. 4. Esther and her People; being a Practical Exposition of the incidents in the book bearing that name, 1832. 5. A Sermon; preached at St. Michael's Church, Aberystwyth, being the day of the Coronation of Her Majesty, June 28th, 1838. 6. Ruth and her Kindred; being a delineation and practical improvement of the various incidents which befell them, 1839. 7. Three Volumes of Sermons; published at different times. 8. The Self-searcher; or brief remarks on self-examination, 1848. 9. A collection of Psalms and Hymns, for the use of St. Michael's Church, Aberystwyth. 10. The Heathen's Appeal.

HUGHES, MORGAN, a aned yn Llwynmalis, ger Ystrad Meirig. Cafodd ei ddwyn i fyny o dan y Parch J. Williams, yn Ystrad Meirig. Symmudodd i Loegr pan yn 16 mlwydd oed; ac ennillodd yr ail ddosbarth yn Ysgol anrhydeddus yr Amwythig, dan olygiaeth Dr. Butler. Aeth oddi yno i Cheswick, dan Dr. Horn. Cafodd ei urddo yn y flwyddyn 1807, yn gurad yn Lledrod & Chwnnws. Aeth yn ol i Loegr, lle y bu yn gwasanaethu amryw Eglwysi. Oherwydd anfoddlonrwydd ei fam, gwrthododd gynnyg taer i fyned yn gapelydd ar fwrdd llong rhyfel. Cafodd gynnyg ar fywoliaeth dda yn esgobaeth Armagh; ond o herwydd yr un rheswm, efe a'i gwrthododd. Cafodd ei benodi yn gapelydd St. George's Hospital, Hyde Park, lle y bu dros 21 o flynyddau. Ar ddyfodiad Dr. Carey i esgobaeth Llanelwy, efe a gafodd fywoliaeth Corwen, yr hon a ddaliodd hyd ei farwolaeth. Bu farw yn Hydref, 1866, yn 82 mlwydd oed tra yn Llundain, yr oedd yn dad cariadus a galluog i holl fechgyn Cymru a fyddent yn galw wrth ei ddrws. Ni fu dyn erioed yn cael ei barchu yn fwy.

HUGHES, WILLIAM, oedd fab ieuengaf Mr. W. Hughes, Pant y Ddafad, Llanilar, yr hwn oedd berchen ar lawer o diroedd yn y parthau hyny. Yr un Hughes oedd y teulu a Hughes, Hendre Felen. Cafodd ei addysgu yn Ystrad Meirig; a'i urddo yn gurad i'w ewythr, y Parch. D. Hughes, Lledrod. Gwasanaethodd Lledrod a Llanwdws fel curad am rai blynyddau; ac wedi hyny cafodd berigloriaeth Llanwnws. Bu yn gweinidogaethu yn Llanwnwg am 44 o Blynyddau. Ei briod oedd Frances, merch ieuengaf --- Morice, Ysw., Carog. Bu iddynt chwech o blant - tri mab a thair merch. Priododd ei ferch henaf a'r Parch. John Sinnet, person Bangor ar Deifi; a merch arall a'r Parch. John Williams, Dinas, Dyfed. Preswyliai yn ei le ei hun, Brynmyheryn. Bu yn llwyddiannus rhyfeddol yn ei weinidogaeth. Yr oedd Eglwys Llanwnws yn cynnwys o bedwar i bump cant o gymmunwyr. Fel cydwladwr, yr oedd yn barchus iawn gan bawb. Bu farw Awst 14, 1855, yn 68 mlwydd oed.

“ Oer Frynmyheryn! i'r fron mae hiraeth,
Ac erfawr alar geir o'i farwolaeth;
Dy wiw Hughes enwog, da ei wasanaeth,
Yn lles i'w deulu a llys y dalaeth;
Digoll ei weinidogaeth--i'r bobloedd,
A phur ryw ydoedd ei offeiriadaeth.'
IOAN MYNYW.


HUGHES, WILLIAM, A.C., diweddar beriglor Llanddewi Aberarth, a aned yn y Wern, Llanarth, Ebrill 6, 1810. Yr oedd ei dad yn beriglor Ciliau Aeron. Bu yn derbyn addysg yn Llanbedr, ac wedi hyny yng Nghaergrawnt. Aeth i'r Brifysgol ym Medi, 1829, a chafodd ei raddio yn A.C. yma Mai, 1833. Cafodd ei urddo yn ddiacon yn y flwyddyn hono; ac yn y flwyddyn nesaf yn offeiriad. Cafodd fywoliaeth Ciliau Aeron yn 1836; a chafodd ei drwyddedu i guradiaeth barhäus Llanddewi Aberarth yn 1847. Rhoddodd y gyntaf i fyny yn 1862, ond parhaodd i wasanaethu yr olaf hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymmerodd le Mawrth 31, 1867. Yr oedd yn ddirprwyad, ac hefyd yn ddeon gwladol Uwch Is Aeron. Wrth edrych ar Mr. Hughes ar bob golwg, yr oedd yn un o rai rhagorol y ddaiar. Fel cydwladwr, yr oedd yn gall, doeth, boneddigaidd, elusengar, ac haelionus - yn barchus iawn gan wreng a bonedd. Fel gweinidog, yr oedd yn bregethwr rhagorol, ac yn ymwelydd dyfal a'i blwyfolion. Cyfrifid ef yn un o ddynion callaf y wlad; ac yn gymmysg a'i gallineb, caed hynawsedd dynol a Christionogol. Perchid ac anwylid ef gan bawb. Claddwyd ef ym Mynwent Llanarth. Yr oedd ei angladd yn un o'r rhai mwyaf a welwyd yn y wlad. Brawd iddo yw y Parch. J. Hughes, periglor Penbryn.

HUGHES, WILLIAM GREY, Rheithor Mathri, swydd Benfro. Cafodd ei eni yn y Sychbant, plwyf Nantcwnlle, Awst 5, 1792. Yr oedd yn fab i'r Parch John Hughes, Llanddeiniol a Nantcwnlle. Yr oedd ei fam yn ferch i'r Parch. Thomas Grey, gweinidog Aber Meirig. Bu yn gweithio gartref ar y tyddyn nes oedd yn 17 oed; ac wedyn aeth i'r ysgol i Bettws Lleucu, dan ofal Mr. R Richards. Bu yno am ryw amser yn dysgu gramadeg a phethau ereill; a chyn bir, symmudodd i Ysgol Ramadegol Llanbedr, pryd hyny o dan ofal y Parch. Eliezer Williams, ficer y plwyf, a mab i'r enwog Peter Williams. Treuliodd yno tua phum mlynedd, lle yr ennillodd iddo ei hun air da gan bawb am ei fuchedd dda a'i ddiwydrwydd efrydol. Arferai ddarllen rhanau helaeth o'r Beibl bob dydd. Ar ol gorphen ei amser yn yr athrofa, dechreuai edrych allan am guradiaeth; pan y clywodd fod eisieu curad ar y Parch. Mr. Pugh, periglor Trefdraeth, swydd Benfro, aeth ar daith yno, gan alw heibio i'r hen offeiriad duwiol, y Parch. D. Jones, periglor Llandudoch. Aeth dranoeth i Drefdraeth. Yr hen beriglor, er mwyn deall ei gymhwysder, a'i rhoddodd i ddarllen a gweddio yn y teulu; ac yn hyny efe a'i hoffodd yn fawr, canys gwr mawr oedd mewn gweddi. Cafodd ei urddo gan yr Esgob Burgess, i guradiaeth Trefdraeth, yn y flwyddyn 1815. Gwasanaethodd Drefdraeth a Threwyddel fel curad am saith mlynedd. Yn Eglwys Cilcenin y traddododd ei bregeth gyntaf, lle yr oedd tyrfa fawr yn ei wrando; a dywedir i'r dorf dori allan mewn sain cân a moliant o dan ei bregeth effeithiol. Arferai rhai hen bobl ddarogan ar y pryd, na fyddai yn hirhoedlog, yr hyn a drodd allan yn wirionedd, gan mai naw mlynedd a welodd o oes ar ol hyny. Cafodd ficeriaeth Llandyssul gan y Dr. Burgess, yn y flwyddyn 1819. Nid aeth yno i breswylio; ond daliodd i wasanaethu Trefdraeth fel curad am dair neu bedair blynedd tra y daliai hòno. Tra yn ficer Llandysul, rhoddodd hawl curad i wr ieuanc, a ddaeth wedi hyny yn dra enwog fel pregethwr, ac o fuchedd dduwiol a llafurus, sef y Parch. Enoch James, yr hwn a gafodd y ficeriaeth pan y rhoddodd efe hi i fyny yn y flwyddyn 1822. Yng Ngorphenaf, yr un flwyddyn, rhoddodd yr esgob iddo bersoniaeth Mathri; ac ar yr un pryd gwnaeth ef yn ddeon gwladol. Dywedir iddo gael llythyr y pryd hyny oddi wrth yr esgob, yr hwn a gadwodd yn ei god tra fu byw. Ymadawodd & Threfdraeth pan gafodd ei benodi i fywoliaeth Mathri. Cymmerodd dy yn Wdig, ger Abergwaen, gan fwriadu priodi boneddiges o deulu uchel, yr hon oedd enwog am ei nodwedd grefyddol; ond nid felly oedd trefn y def. Yr oedd ei iechyd yn dadfeilio yn gyflym. Pan ddeallodd nas gallasai wneyd dim yn rhagor, symmudodd at ei hen gyfaill, y Parch. Mr. Jones, Llandudoch, gan ddywedyd, "Mr. Jones, yr wyf yn dyfod yma i farw, i'r un gwely ag y cysgais gyntaf erioed yn sir Benfro." Bu yn gwaelu am amryw fisoedd, a gorphenodd ei yrfa ar y 17fed o Fawrth, 1824, yn 32 mlwydd oed. Pan yn ei oriau olaf, yr oedd ei ffydd yn rhyfeddol o gadarn, ac yr oedd ei ddiwedd yn orfoleddus. Cludwyd ei gorff i'w gladdu ym mynwent Nantcwnlle. Parhëir i siarad yn barchus am dano yr ardaloedd Trefdraeth, Llandudoch, Aberteifi, a'r Mwnt hyd heddyw. Byddai yn arfer dyfod i bregethu yn aml i'r Mwnt. Dywedir ei fod yn pregethu yno ar un boreu Sul pan oedd y tywydd yn rhewllyd a llym, ac iddo chwysu yn ddirfawr; ac ychwanegir gan hen bobl ar ardal, taw pryd hyny y dechreuodd y darfodedigaeth ymaflyd ynddo; ond nid yw hyny yn sicr, gan ei fod yn arfer chwysu yn fynych, ac felly yn agored i oerfel. Dywedir ei fod yn meddu ar lawer o ddiniweidrydd y golomen, ac nad oedd chwaith yn amddifad o ryw fesur o gallineb y sarff. Yr oedd yn hollol ymroddedig i'r weinidogaeth. Fel pregethwr ac areithiwr, yr oedd ym mlaenaf o holl enwogion Cymru yn ei oes. Mab y daran oedd, yn llawn tân a lluched; a'r elfenau rhyfeddol hyn yn cael eu hynodi gan ddarfelydd, barn, a duwioldeb.

HYWEL AB DAFYDD AB GRONW oedd bendefig yn y pymthegfed canrif, yn preswylio yng Ngwernant, plwyf Troed yr Aur. Yr oedd yn wyr i Rys Chwith, ac yr oedd yn hanu o arglwyddi Llangathen. Y mae yr achlyfrau yn mynegu iddo ef, neu yn hytrach un o'i deidiau, ladd Salinder Fawr y Ffranc, ac iddo gymmeryd ei arfbeisiau. Mae gan Lewis Glyn Cothi gywydd o ganmoliaeth iddo fel rhyfelwr a gwr haelionus. Y mae ganddo hefyd gywydd ar ei farwolaeth. Ei wraig oedd Agnes Perrot. Yr oedd un o'r teulu hwn, o'r enw David Price, M.A., yn y Bettws Ifan, yn y flwyddyn 1601.

HYWEL AB RHYS, neu HYWEL SAIS, ydoedd fab Rhys ab Gruffydd, Tywysog y Deheudir. Gelwid ef yn Hywel Sais am iddo fod am amser yn Lloegr yn wystl yr heddwch dros ei dad. Yr oedd yn rhyfelwr dewr, a chymmerodd ran bwysig yn helyntion ei wlad. Priododd Tanglwst, ei ferch, ag Ifor ab Bledri ab Cadifor Fawr. Llywelyn, eu gorwyr, oedd tad yr enwog Ifor Hael, a Morgan, sylfaenydd teulu Tredegar. Yr oedd y prif-fardd Dafydd ab Gwilym yn ysgynydd i Hywel ab Rhys.

HYWEL CERI, un o feirdd yr unfed canrif ar bymtheg. Y mae tebygolrwydd ei fod yn preswylio ar lan Ceri, nid pell o Emlyn.

HYWEL MOETHAU AB RHYS AB DAFYDD AB RHYS AB DAFYDD MOETHAU AB GRUFFYDD FOEL a breswyliai yng Nghastell Odwyn, ger Llangeitho. Nid yw yn hollol eglur pa un ai ffordd Gymreig o Mathew yw Moethau, neu ynte fod yr enw wedi ei roddi iddynt o herwydd eu bod yn byw yn foethus, fel Llywelyn Foethus, Arglwydd Llangathen. Yr oedd Hywel yn arwyddfardd enwog, ac yn meddu un o lyfrgelloedd enwocaf y wlad. Bu â llaw yn olrheiniad achau Gwilym Herbert, Iarll Penfro, ar gais Iorwerth IV. Priododd merch iddo & John Cradoc o Newton, Arglwydd Prif Ynad Lloegr. Un o'r teulu ydoedd Thomas Jones (neu Moethau), o Dregaron.

IDNERTH ydoedd yr esgob olaf yn Llanbadarn Fawr. Dywedir taw ei lofruddio a gafodd. Meddyliai E Llwyd fod ei gof-faen ym mynwent Llanddewi Brefi, ac

arni y corfyn a ganlyn:

"Hic jacet Idnert Filius I-
Qui occisus quid propter p."-SANTI.

Tybiai y saif y gair olaf yn y llinell gyntaf am Iacobi, yr ail predam, ac yn drydydd Davidi. Ond dywed llên y werin mai cof am un a gafodd ei ladd yn wyrthiol am ryfyg gan Dewi Sant ydyw.

IEUAN AB GRUFFYDD FOEL, o Lyn Aeron, oedd bendefig enwog yn y pedwerydd canrif ar ddeg. Y mao gan Llywelyn Brydydd Hodnant awdl iddo, yr hon a welir yn yr Archaiology of Wales. Efe oedd tad Ieuan Llwyd, Gogerddan a Glyn Aeron.

IEUAN AB RHYDDERCH ydoedd fab Rhydderch Llwyd, ac yr Ieuan Llwyd. Yr oedd yn Athraw y Celfyddydau, a phreswyliai yng Nglyn Aeron a Gogerddan. Blodeuodd tua chanol y pymthegfed canrif. Mae cryn lawer o'i waith mewn llawysgrifau. Mae dau o'i gyfansoddiadau ym MSS. Iolo Morganwg. Mae Iago ab Dewi, yn ei,“Gywydd Molawd Iesu," yn son am dano fel hyn:-

"Ieuan Rhydderch loewserch lon,
Lawn araith o Lyn Aeron,
Ab Ieuan Llwyd, baun y llu,
A asiai i fam Iesu
Gerdd brydferth yn ddiserthwch,
Ir mal cwyr a mêl o'r cwch."

Dywed am Dewi Sant,-

"Nid gwell sant ffyniant i ffawd
Na Dewi iawn y dywawd."

Ac eto,

“Cystal am ordal i mi
Dwywaith fyned at Dewi,
A phe elwn i Rufain."

Sef, cystal myned ddwywaith i Dy Ddewi ag unwaith i Rufain. Llyma eto englyn gwych:-

"O gnawd eneidwawd y gwnaf — adail wŷdd
Odl weddi a buraf
O'm diau perth i'm Duw Naf,
A dawn iach, gair Duw'n uchaf.”

Mae hefyd gynnilwaith mesurol o'i waith yn llawysgrifau Iolo. Ymdrecha rhai o feirdd Morganwg ei hawlio; ond nid teg hyny - y mae mor oleu a'r haul taw Ceredigwr oedd. Yr oedd hefyd yn achofydd. Rhoddodd Iorwerth IV. wŷs i arwyddfeirdd henaf Cymru i olrhain achau Iarll Penfro, ac enw Rhydderch ab Ieuan Llwyd sydd ym mlaenaf o'r pedwar. Dywedir fod llyfr Seisonig o'i waith, ond ni welsom mo hono.

IEUAN GWYNIONYDD oedd fardd enwog o ran isaf canolbarth y sir. Blodeuodd rhwng 1570 a 1600. Y mae y rhan fwyaf o'i waith mewn llawysgrifau. IEUAN ILAR oedd fardd enwog o blwyf Llapilar. Blodeuodd rhwng y blynyddoedd 1560 a 1590.

IEUAN LLWYD AB IEUAN AB GRUFFYDD FOEL AB CADIFOR AB GWEITH FOED FAWR oedd bendefig dylanwadol a breswyliai yng Ngogerddan a Glyn Aeron. Y mae tair awdl iddo yn yr Archaiology of Wales. Dywed Casnodyn fod ei lys "ger llaw Llan rymusaf goethaf Geithaw." Safai yr hen lys ar fin yr Aeron, yn ymyl Llangeitho. Yr oedd gan Ieuan fab o'r enw Rhydderch Llwyd. Y mae gan Dafydd ab Gwilym farwnad i Rydderch; ac y mae gan Dafis, Castell Hywel, gyfieithad o honi yn ei Delyn Dewi. Mam Ieuan Llwyd oedd Elliw, ferch Meredydd ab Cadwgan Fantach ab Llywelyn ab Gruffydd o Gartheli. Yr oedd mam Meredydd, sef nain Ieuan, yn ferch i Meredydd ab Owain ab Gruffydd ab yr Arglwydd Rhys, ac felly yn chwaer Cynan ab Meredydd ag ydym wedi grybwyll yn barod. Gwraig Ieuan ydoedd Angharad Hael, ferch Rhisiart ab Einion. Priododd Rhydd- erch, ei fab, ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Angharad o'r Cantref; ei ail wraig oedd Mawd, ferch W. Clement. Preswyliai Rhydderch ym Mharc Rhydderch a Gogerddan. Deilliai y Llwydiaid hyn o Ruffydd Foel; ac felly hefyd Gruffydd Hir o Lanfair. Y mae Llwydiaid y Glyn & Hiriaid Gogoian" ar lafar gwlad hyd heddyw. Buont yn dra lluosog ac enwog. Mae hen deulu Gogerddan o honynt. Yr oedd Deio ab Ieuan Ddu yn son fod Dyffryn Aeron yn llawn o lin Ieuan Llwyd, a'i fod yn cael groesaw mawr ganddynt pan yn clera. Bu cangen o honynt yng Nghefn Brechfa; ac aeth y teulu hwnw yn “Llwyd Gwyn." Maent wedi darfod yn Nyffryn Aeron fel tirfeddiannwyr. Ymddengys mai y tirfeddiannydd olaf oedd Miss Sarah Lloyd, Cilrhyg, yr hon a lofruddiwyd yn nechreu yr oes hon.

IFOR, Arglwydd Isgoed, oedd bendefig enwog yn rhan isaf y sir, yn amser Llywelyn ab Gruffydd. Cymmerodd ran helaeth yn helyntion y wlad ar y pryd; a phriododd Phylyb ei fab â merch y Tywysog Llywelyn.

IOAN, Archiagon Llanbadarn Fawr, yr hwn am ei fawredd mewn crefydd a myfyr rhinweddol a farnwyd yn deilwng o gael ei santresu yn y flwyddyn 1136.

IOAN AB SULIEN, a elwid gan yr ysgrifenwyr Lladinaidd yn.Iohannes Sulgenus, oedd fab yr enwog Sulien Ddoeth, Esgob. Ty Ddewi, yr hwn fu farw yn y flwyddyn 1070. Cafodd ei ddwyn i fyny gan ei dad yng Nghôr Llanbadarn Fawr. “Nid oes ond ychydig ar glawr perthynol i'r bardd hwn; ond oddi wrth yr hyn sydd,” ys dywed Carnhuanawc, "canfyddwn fod dysgeidiaeth yn hanfodi yng Nghymru i raddau anrhydeddus. Y gweddillion o'i eiddo ydynt tua chant a hanner o linellau o brydyddiaeth Lladin, y rhai a gyfansoddodd o glod i'w dad, ac a'u hysgrifenodd yn diwedd gwaith Augustinus, yr hwn oedd efe wedi ailysgrifenu i'w dad. Y llinellau, os nad ydynt yn hollol ddiwall fel cyfansoddiad prydyddol, ydynt ar y lleiaf mor ddifai a bod yn dystiolaeth foddhaol fod gwybodaeth o'r Lladin yn hanfodi i raddau nid bychan pryd hyny yng Nghymru.(1) Dechreuant gyda'r geiriau caplynol yn anerchiad duwiol i'r Goruchaf :-

Arbiter altithrone, nutu qui cuncta gubernas.'

Yr hyn sydd yn ol y cynllun a ganlynir yn fynych gan y beirdd Cymreig yn nechreu eu hawdlau. Ond nid wyf yn haeru fod un berthynas rhwng yr amgylchiadau, ychwaneg nag un ddamweiniol yn unig."

Dywed mai ei enw yw Ioan, ac mai ei wlad yw Ceredigion:

Quod nihi Ceretica tellus sit patria certe,"

a'i fod yn hanu o genedl glodfawr y Brython, yr hon gynt a wrthladdodd yn wrol fyddinoedd y Rhufeiniaid, pan ddarfu i Iulius Caisar droi ei gefn yn fföedig.

Atqui famosa natus sum gente Britorum
Romanae quondam classi cum viribus obstat
Iulus cum Caesar refugus post terga recessit.

Mynega fod ei dad Sulgenus yn deillio oddi wrth rieni pendefigol a doethion :-

“Ortus hinc Sulgenus adest, jam germine claro
Nobilium semper sapientum jure parentum," &c.;

ac hefyd fod gan ei dad bedwar o feibion, y rhai a ddygodd efe i fyny mewn dysg offeiriadol: eu henwau oedd Rhyddmarch Ddoeth, Arthyen, Daniel, ac Ioan, y prydydd ei hun.

“Quatuor ac proprio nutrivit sanguine natos,
Quos simul edocuit dulci libaminis amne,
Ingenio claros (jam sunt haec nomina quaeque;
Rycymarch sapiens, Arthyen, Daniel, que Iohannes)."

Er fod gweddillion llenyddol. y gwr enwog hwn yn ychydig, eto mae yr ychydig hyny yn dra gwerthfawr. Dengys sefyllfa dysgeidiaeth yn y wlad, yn gystal a pheth oedd teimladau cenedlaethol y Cymry ar y pryd. Yr ym yn gweled llawer o'r Cymry presennol yn ymdrechu cael gafael yn rhywle ar ychydig o waed Sacsonaidd, neu Normanaidd, yn eu gwythienau; ond yr oedd yr ysgolor hwn yn hollol wahanol. Ymffrostiai ei fod yn hanu o gynfrodorion yr ynys yn eu hen ogoniant, pan orfu i Iwl Caisar gefnu ar y wlad. Mae y gwr hwn, gyda'i byglod dad a'i dri brawd, yn ffurfio cydser amlwg a llachar yn ffurfafen Ceredigion a Chymru yn yr unfed canrif ar ddeg.

(1) Cyhoeddwyd y cyfansoddiad hwn mewn llyfryn bychan, gan y diweddar Esgob Burgess, i'r hwn y mae y wlad yn ddyledus am adnabyddiaeth o'r gwaith, yn gystal ag am hanes o'r awdwr.

JAMES, DAVID, a aned yn Lletty Poeth, Llanddewi Brefi, yn y flwyddyn 1777. Dygwyd ef i fyny mewn teulu crefyddol. Ymawyddai am fyned i'r weinidogaeth yn yr Eglwys. Ar ol derbyn ychydig ysgol gartref, aeth i Ysgol Ystrad Meirig, dan addysg y Parch. J. Williams. Dangosai y pryd hyny lawer iawn o wybodaeth o'r Beibl. Yn 1800, aeth yn athraw i athrofa Mr. Roy, Old Burlington, Llundain, lle y bu dros ddwy flynedd. Symmudodd i Deptford a Bromley. Ar ei ymadawiad â'r lle hwnw, cafodd ei anrhegu a llyfrau gan yr ysgolheigion. Cafodd ei urddo yn ddiacon Medi 21, 1806, ac yn offeiriad yn y flwyddyu ganlynol, gan Dr. Burgess, Esgob Ty Ddewi. Ei guradiaeth oedd Yspytty Cynfyn. Symmudodd i Lanfihangel y Creuddyn a'r Eglwys Newydd, lle y bu am tua phum mlynedd. Yr oedd yn barchus iawn gan y plwyfolion. Symmudodd wedi hyny i Lanwnog a Charno yn 1812. Gwnaeth ei ol yn fawr yn y lle hwnw trwy ddysgu moesoldeb a chrefydd i'r trigolion. Priododd â Miss Mary Hamer, merch D. Hamer, Ysw., o'r Wig. Cafodd wraig ragorol; cawsant saith o blant - dau fab a phum merch. Priododd un o'r merched ag Owen Davies Tudor, Bar-gyfreithiwr o Middle Temple; ac un arall & W. H. Adams, bar-gyfreithiwr, ao a osodwyd yn brif farnwr yn Hong Kong. Cafodd berigloriaeth Llangurig yn 1822. Efe a ymddiswyddodd o'r lle hwnw yn 1841, ar ei benodiad i berigloriaeth Llanwnog, lle y bu am 28 o flynyddau fel curad. Bu yn gwasanaethu fel capelydd yn Nhlotty Llanidloes a'r Drenewydd. Cynnaliai wasanaeth yno ddwy waith yr wythnos. Tanysgrifiodd y plwyfolion tuag at gael organ wech yn yr Eglwys, gan ei chyflwyno iddo ef, yn Hydref, 1855. Cafodd Mr. James ei benodi gan Esgob Ty Ddewi yn ddeon gwladol Arwystli. Efe a deithiodd i gyfarfodydd offeiriadol, cyfarfodydd y Feibl Gymdeithas, a'r Gymdeithas Genadol. Yr oedd yn dra elusengar ac haelionus. Bu y rhan olaf o'i fywyd yn drallodus gan wendid iechyd a chladdedigaeth ei anwyl blant. Bu farw Ionawr 9, 1864.

JAMES, ENOCH, diweddar beriglor Llandyssul, a churad Llanfihangel ar Arth, a aned yn y Llain, plwyf Llanfair Orllwyn. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Ysgol Ramadegol Caerfyrddin, dan y Parch. T. Price, rheithor Llanfair Orllwyn. Cafodd ei urddo gan yr Esgob Burgess ar Llandyssul. Ystyrid ef yn un o bregethwyr blaenaf yr holl ardaloedd cyfnesawl; ac mewn lledneisrwydd a duwioldeb, anhawdd cyfarfod â'i ragorach. Mae y Parchedigion E. W. James, periglor Abergwili, D. O. James, rheithor Mathri, ac E. James, rheithor Llangollen, yn feibion iddo. Bu yn beriglor Llandyusul 29 o flynyddau. Bu farw yn y flwyddyn 1849.

JAMES, JOHN, gweinidog y Bedyddwyr yn Aberystwyth, ac wedi hyny ym Mhont Rhyd yr Yn, oedd enedigol o'r ardal gyntaf. Ganwyd ef yn 1777. Ymunodd â'r Bedyddwyr yn Aberystwyth yn 1796, a dechreuodd bregethu yn 1797. Ar y 12fed o Orphenaf, cafodd efe ac S. Breese eu hurddo yn fugeiliaid ar yr Eglwys Fedyddiedig yn nhref Aberystwyth. Bu y ddau yn lled lwyddiannus am flynyddau. Ymadawodd Mr. Breese yn 1812, a bu Mr. James yn gwasanaethu yno ei hunan am ryw flynyddau. Yn yr amser hwnw adeiladwyd addoldy Tal y Bont. Ymadawodd Mr. James ag Aberystwyth yn 1817, ac ymsefydlodd ym Mhont Rhyd yr Yn. Bu yno yn dra llwyddiannus. Symmudodd i Ben y Bont, Morganwg. Bu yno yn dra llafurus mewn casglu cynnulleidfa fawr ac adeiladu addoldy. Bu farw Ionawr 30, 1848, yn 71 oed.

JAMES, LEWIS (Gad o'r Ferwig), oedd enedigol o'r Ferwig. Yr oedd yn llawn iawn o ddawn prydyddol. Ceir rhai caniadau o'i eiddo yng Ngreal Aberteifi. Bu farw yn 1829, yn 44 oed.

JENKINS, DAVID, oedd enedigol o ardal Llanddewi Brefi. Cafodd ei ddwyn i fyny yn offeiriad, ac aeth yn gurad i sir Gaernarfon yn y flwyddyn 1741. Yr oedd yn wr o dalent a dysg, ac o fywyd crefyddol iawn. Gyfarfu â llawer o rwystrau, trwy gau Eglwysi yn ei erbyn, am ei fod, mae yn debyg, yn "offeiriad Methodistaidd.” Bu farw yn 25 mlwydd oed. Pan glybu Rowlands Llangeitho ei farw, dywedodd, “Dyna fy mraich dde wedi ei thori ymaith." (1)

(1) Perthynai Mr. Jenkins i hen deuluoedd y Crynwyr, yn ardal Llanddewi. Yr oedd ganddo frawd o'r enw Daniel Jenkins yn briod ag Ann, merch Rowlands Llangeitho. Yr oedd Daniel Jenkins yn un o'r tri pregethwyr ddarfu nacäu cymmeryd eu hurddo gyda'r Trefnyddion yn y sir yn 1811. D. Edwards, Lledrod, a Nathaniel Williams, Llannon, oedd y ddau arall. Pregethent ar ol hyny mewn ysgoldai, a mangu ereill, heb un gyfathrach a'r Corff. JENKINS, JENKIN S., oedd fab Samuel Jenkins, mab

Siencyn Tomos, o'r Cwm Du. Ganed ef yn Nantty, plwyf Troed yr Aur, Mehefin 10, 1755. Yr oedd yn grydd, pregethwr, a bardd, ac yn fynych yn ysgolfeistr. Tiriodd yn Philadelphia yn 1801. Cyfansoddodd gywydd i'r môr ar ei fordaith. Meddai,-

“ Weithiau'n deg, weithiau'n diogan,
Weithiau rai yn waeth ei rân,
Weithiau'n bant, weithiau'n bentwr,
Nawdd i ddyn, mynyddau o ddwr."

Bu yn gweithio wrth ei grefft a phregethu am tua 47 o flynyddau. Bu farw yn Pendleton, Carolina Ddeheuol, Rhagfyr, 1841. Ganwyd Samuel ei fab yn y Cwm Du, Chwefror 12, 1789: yr oedd yn ddysgwr da. Darllenai Gymraeg yn chwech oed. Bu yn aelod yn Eglwys ei dad. Daeth Cymdeithas Efengylaidd yr Henaduriaid i gynnal cyfarfodydd yn y ty. Daeth S. J. felly i gyssylltiad a'r Henaduriaid, a gwnaeth lawer o ddaioni. Daeth y gynnulleidfa hòno i rifo 1100, gan wasgaru a lledu. Ffurfiodd Samuel lawer o gynnulleidfaoedd i'r enwad hwnw. Gadawodd y “Taenellwyr," o gydwybod, medd efe, ac ym- unodd â'r Bedyddwyr. Ymroddodd at wleidiadaeth tua'r flwyddyn 1823, gan flaenori symmudiad gwleidiadol. Tuag ugain mlynedd yn ol, pan oedd terfysgoedd gwaedlyd yn cymmeryd lle rhwng y brodorion a'r Pabyddion estronol, ysgrifenodd Jenkins res o lythyrau i'r Eagle ar y pwnc, y rhai a gawsant sylw mawr. Ysgrifenodd res i'r Christian Chronicle ar hanes Cymru, y rhai a gyhoeddodd dan yr enw "Letters on Welsh History,” yn 1853. Gwnaeth ddaioni dirfawr i gannoedd o Gymry ar ol tirio yn America. Mae Mrs. Boyd, merch Margaret, merch "Siencyn Samuel,” yn werth 150,000 o ddoleri. Mae William Jenkins yn Master in Chancery yn Princetown, Ilinois. Cafodd Samuel, mab “Siencyn Samwel," ei eni yn y Cwm Du, Ebrill 5, 1795. Dysgodd grefft ei dad. Aeth yn fanbaentydd (miniature painter). Arweiniai fywyd crefyddol er pan yn blentyn, a hynododd ei hun fel cerddor. Bu yn preswylio yn Havanna, prif ddinas Cuba am saith mlynedd. Aeth ei fab henaf ac yntau i Fecsico. Bu y tad yn uchelfaer Americaidd, a'r mab yn ben ar waith helaeth. Mae'r mab yn awr yn Peru yn ben crefftwr o'r fath fwyaf celfydd. Mae'r meibion ereill yn Maryland. Pan unwyd Califfornia â'r Taleithiau, aeth Jonathan, mab arall i'r hen fardd, yno gyda chwmni Americaidd trwy Mecsico. Dewiswyd ef yn farnwr, a Joseph, mab Samuel ei frawd, yn ysgrifenydd y llys. Cafodd y barnwr Jenkins ei anfon allan i'r Môr Tawelog i chwalu morladron. Gwnaed ef yn American Consul i'r Navigator's Islands. Meddai long ei hun yng ngwasanaeth y Llywodraeth. Daliodd y lladron, a chymmerodd eu trysorau, gan eu talu yn ol i'w perchenogion. Gadawodd yr uchelfaeroniaeth yng ngofal yr ysgrifenydd, ac aeth allan a'i long. Tarawodd y llong yn erbyn craig, a soddodd. Ni chollodd y dwylaw. Aeth i Awstralia. Bu am dro yn Awstralia gyda Chymro cyfoethog. Dychwelodd dros gyfandir America i Washington. Mae yn awr yn Cuba yn athraw i fab planwr cyfoethog. Mae yn feistr ar y Gymraeg, Seisoneg, a'r Yspaeneg, ac yn deall llawer o'r Ellmynaeg, Portugaeg, &c. Deallai iaith pawb a ddygid o'i flaen, ond y Chineaid. Dygwyd Cymro o'i flaen un diwrnod, yr hwn oedd anfedrus a'r Seisoneg. Ceisiodd ganddo lefaru yn Gymraeg, gan gyfieithu ei eiriau i'r Seisoneg. Ar ol gorphen, gofynodd y cyfreithwyr iddo, sut yn y byd y gwyddai yr iaith hono? Atebodd yntau, “It is my native language.” Llawer yn rhagor yw enwog- rwydd teulu "Siencyu Samwel.”

JENKINS, JOHN, A.C., periglor Ceri, swydd Drefaldwyn, a aned yng Nghil Bronau, plwyf Llangoedmor. Bu yn yr ysgol yng Nghaerfyrddin; a phan yn 18 oed, ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychain; ond symmudodd wedi hyny i Goleg Morton. Ar ol ei raddio yn y celfyddydau, a derbyn urddau eglwysig, aeth yn gapelydd ar fwrdd y llong Theseus yn y llynges. Pryd hyny yr oedd chwyldroad a rhyfel Ffrainc mewn rhwysg. Cafodd ei anfon i hinsawdd ddinystriol India y Gorllewin, lle yr oedd y dwymyn felen yn difrodi y trigolion yn ofnadwy ym mysg y llynges. Er mwyn cynnal i fyny ei ysbryd ar y fath amser, byddai yn arfer chwareu ben alawon gwlad ei enedigaeth ar y gorgrwth (violoncello). Diangodd rhag syrthio yn ysglyfaeth i'r haint hwnw; ond eto, fe effeithiodd yr hinsawdd ym mhell ar ei gyfansoddiad. Ar ol dychwelyd i Brydain, bu yn gwasanaethu curadiaeth yn Ynys Wyth, ac yn genadwr neu gapelydd i'r Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristionogol yn St. John's, Newfoundland. Gan i'w ymddygiad hawddgar a gweithgar ennill iddo barch mawr gan ei Lyngesydd, Arglwydd Radstock, cafodd ei gymmeradwyo ganddo i Dr. Burgess, Esgob Ty Ddewi, a derbyniodd gan y gwr rhagorol hwnw un o'r bywoliaethau goreu' yn yr esgobaeth, sef Ceri, swydd Drefaldwyn, yr hon oedd yn wag trwy farwolaeth y Parch. J. Carless. Yr oedd y gwr hwnw wedi esgeuluso y persondy a phob peth perthynol i'r plwyf drwy fyw yn absennol, fel yr oeddynt yn adfeilion. Cymmerodd Mr. Jenkins feddiant o berigloriaeth Ceri yn y flwyddyn 1808, a chyn hir, gwnaeth yno un o'r persondai tlysaf yn yr holl wlad. Priododd foneddiges ragorol, o'r un chwaeth ag ef ei hun, sef merch y Parch. E. Jones, Aber-rhiw. Yr oedd hefyd yn un o gor-berigloriaid Caerefrog ac Aberhonddu, ac yn gaplan i Ddug Clarence, a gwlad-ddeon Maelienydd. Ymddysgleiriai ym mhob rhinwedd. Yr oedd ei galon yn llawn haelioni ac elusengarwch; yr ydoedd hefyd yn llawn gwladgarwch; a gwnaeth fwy na nemawr neb dros lenyddiaeth Gymreig yn ei oes. Dan ei gronglwyd lettygar ef yn y flwyddyn 1817, y ffurfiwyd y penderfyniad cyntaf i adfywio yr eisteddfodau yng Nghymru; a bu ynddynt yn y pedair talaeth, hyd oni chanfu eu bod yn raddol yn dirywio oddi wrth eu hamcan cyssefin, ac yn myned yn debyg i goegchwareuaeth Seisonig neu Italig. Byddai yng ngwyliau Nadolig yn agor ei breswylfod i roesaw cyfeillion llenyddol a barddol am amryw ddyddiau, yn ol dull y dyddiau gynt. Yn y flwyddyn 1821, bu ganddo westfa o'r 8fed hyd y 12fed o Ionawr, pryd yr oedd yn bresennol y Parchedigion Gwallter Mechain; W. J. Roes, Cascob; D. Richards, Llansilin; T. Richards, Aber-rhiw; Meistri R. Davies, Nantglyn; John Howell, Glandyfroedd; Aneurin Owen; Taliesin Williams, ac ereill. Mae llawer o gynnyrchion yr eisteddfod i'w gweled yn y Cylchgrawn a gyhoeddwyd yng Nghaerfyrddin. Bu yn y modd dedwydd hwn am 21 o flynyddau yng Ngheri, yn ymddedwyddu gwneyd daioni i bawb, yn neillduol i'w genedl ei hun. Bu a'r llaw flaenaf o godi yr enwog John Blackwell o fod yn grydd dinod, i fyned trwy Brifysgol Rhydychain yn weinidog enwog yn yr Eglwys. Tua diwedd Tachwedd, 1829, goddiweddwyd ef gan anhwyldeb blin; a bu farw ar y 20fed o'r mis hwnw, yn 59 mlwydd oed, er annhraethol alaeth i'w deulu, i'w gyfeillion, i'w blwyfolion, ac i'r wlad yn gyffredinol. Ym mhen tridiau, cyfarfu y plwyfolion, dan arwyddion neillduol o alar, gan wneyd penderfyniad i gyfarfod yno ddydd yr angladd i gerdded yn orymdaith dan reolaeth wardeniaid yr Eglwys. Ar ddiwedd yr angladd, cytunasant i ddyfod i'r Eglwys y Sul canlynol mewn galarwisgoedd cyflawn; ac felly y bu. Nid oedd yno lai na 183 o het-rwymau i'w gweled yn y dorf. Pan gyrhaeddodd y newydd galarus o'i farwolaeth dros y wlad, dechreuodd y beirdd, o bob parth, gyfansoddi galarnadau am eu hanwyl Ifor, yr hwn fu yn gymmaint cefnogwr iddynt, ac mor wresog dros iaith ei wlad. Yn Eisteddfod Biwmares, yn y flwyddyn 1832, rhoddwyd “ Marwolaeth y Parch. John Jenkins (Ifor Ceri) yn un o'r testynau. Daeth wyth i mewn ar y testyn, pedwar o honynt yn rhagorol. Y goreu oedd T. Jones (Gwenffrwd), a'r ail orou oedd Ioan Tegid, yr hwn hefyd a gafodd wobr. Yn anffodus, caniadau diodl ydynt; ac felly, gorphwysant byth heb eu codi i sylw y genedl. Canodd llawer heb olwg am wobr.

"Ifor oedd a dihafarch,
Gwr o bawb garai ei barch;
Mwynaidd, gwaraidd, a gwrawl,
Ugain o feirdd gân ei fawl.
Ym mha fro mae Cymro call
I'w euro'n Ifor arall ?
Iforiaid oll yn feirwon,
Gwr i'w swydd; ni wiw gair son!”
G. MECHAIN.

Yr oedd yn benaf o bump o blant, ac yn etifodd Cilbronau; ac y mae "Gwaed Cilbronau” yn ddiareb trwy'r wlad. Yr oedd ei fam yn chwaer i Syr Watkin Lewes, Tredefaid. Hana y Lewesiaid o Lewes Dafydd Meredydd, o Abernant Bychan, yr hwn a ddisgynai yn gywir o Owain ab Bradwen, sylfaenydd Pymthegfed Llwyth Breninol Gwynedd. Mae y Jenkinsiaid yn hanu o Wynfardd Dyfed, a cheir yr enwau Gruffydd a Siencyn braidd bob yn ail yn yr achres am oesoedd. Mab Griffith Jenkins, Ysw., ei frawd ieuengaf, yw R. D. Jenkins, Ysw., Pant Hirion; ac y mae yn tebygu yn fawr i'w ewythr hyglod. Gadawodd Ifor Ceri ar ei ol un plentyn, mab, yr hwn sydd gwedi newid ei enw Jenkins am Hayward. Daeth rhes o lythyrau allan yn y Cylchgrawn, dau yr enw “Cymru yn y Dyddiau gynt," wedi eu cymmeryd o weddillion llenyddol Ifor Ceri.

JENKINS, JOHN (Ioan Siencyn o Aberteifi), ydoedd fab yr hen fardd Siencyn Tomos, Cwmdu. Ganed ef ar ddydd Gwener, Mawrth 26, 1716. Cafodd addysg weddol yn ei ddyddiau boreuol. Dysgodd fod yn grydd gan ei dad, ac yr oedd yn bencampwr am esgid. Ond gadawodd y gryddiaeth, a bu yn cadw ysgol am flynyddau lawer. Bu am chwech mlynedd yn cadw ysgol yng Nghwmglöyn, dan yr Yswain Llwyd; ac am flynyddau dan nawdd teulu y Pentre. Yr oedd Ioan yn meddu llawer iawn o ddawn barddonol. Y mae yn debyg y gellir dywedyd mai efe fu yr olaf o feirdd y Deheudir yn ymarfer clera, sef myned am draws y boneddigion â chaniadau i'w hanerch, gan gael croesaw. caredig wrth adrodd ei ganiadau. Treuliai wythnosau felly, ar wyliau Nadolig. Mae cân ar gael a gyfansoddodd y Nadolig olaf o'i oes i'r perwyl hwnw:-

“Bendithied Duw atteg Cwmgloyn a Chilwendeg,
A'r Pentre rydd anrheg yn fwyndeg i fi;
A'r Pantgwyn yw'r pedwar, lle 'r af yn 'wyllysgar
Y gwyliau yn gynnar i ganu.”

Mae "Cwynfan y Prydydd," a gyfansoddodd mewn cystudd yn 1782, yn tebygu i ganiadau Edward Richard. Mae llawer iawn o'i ganiadau wedi eu cyhoeddi ym Mlodau Dyfed, ac y mae amryw ddarnau wedi dyfod i'r golwg ar ol cyhoeddi y llyfr hwnw. Yr oedd Ioan ym mhell o fod yn brydydd cyffredin: y mae ei waith, gan fwyaf, yn werth ei ail argraffu. Bu farw o ddeutu dau o'r gloch boreu dydd Gwener, Hydref 28, 1796, a chladdwyd ef yn Llangoedmor. Dyoddefodd gystudd blin, sef y cancr yn ei drwyn. Mae ei enw yn deuluaidd gan lawer iawn o hen bobl hyd heddyw. Mae o'n blaen gyfargraff o Ramadeg Dr. Sion Dafydd Rhys, ac arno “John Jenkins his book, paid for it to T. Davies, Parcgwningod, 1784;" ac ym mhellach, ei fod wedi ei roddi i'w wyr. Bu y llyfr gyda Thegid, yr hwn a'i prynodd gan orwyr y bardd.

JENKINS, NATHANIEL, oedd fab arall i Siencyn Tomos o Gwmdu. Ganwyd ef tua'r flwyddyn 1722. Yr oedd yn ddyn o alluoedd cryfion; ond nid cyfuwch a'i frawd fel bardd. Mae llawer o'i ganeuon ar gael, megys “Cŵn Llwyd o'r Cryngae," “Gwirfoddiaid Glanau Teifi,” “Mr. Morgan, meddyg, Dolgoch,” “Palas Troed yr Aur," “Tiriad y Ffrancod yn Abergwaen," &c. Bu farw yn nhy ei gâr, B. Williams, Tafarn Ysgawen, yn 1799. Pregethodd Dafis Castell Hywel yn ei angladd.

JENKINS, REYNOLD, o Garog, oedd fab Jenkin Morgan, Ysw., o'r lle hynafol hwnw, ym mhlwyf Llanddeiniol. Cymmerodd y boneddwr hwn ran helaeth yn helyntion ei wlad yn amser y ddau Siarl. Penodwyd ef i gael urdd Marchog y Dderwen Freninol. Yr oedd ei ystâd yn y flwyddyn 1660 yn werth 700p., yr hwn swm oedd fawr iawn y pryd hyny. Cynnrychiolydd y teulu yn bresennol yw W. H. Sinnett, Ysw., mab benaf y Parch. John Sinnett, person Bangor ar Deifi.

JENKIN, NATHANIEL, oedd enedigol o ran isaf y sir. Bu yn weinidog y Bedyddwyr ym Mhantteg, ac wedi hyny yn Cobansy, America. Safai yn uchel iawn fel pregethwr. Bu farw yn 1754, yn 76 oed.

JOHNES, THOMAS, o Hafod Ychtryd, a hanai o Johnesiaid Llanfair Clydogau, Llanbadarn Fawr, ac Ystrad Tywi. Yr oedd yn disgyn o Urien Rheged, ac yn ol ei achres yn gywir o Brydain ab Aedd Mawr. Cafodd ei eni yn y flwyddyn 1748. Derbyniodd ei addysg yn Eton a Choleg Iesu, Rhydychain, lle y cymmerodd ei raddio yn A.C. Daeth i fyw i'r Hafod yn 1783, pryd nad oedd y lle ond diffaethwch diffrwyth; ac efe & ymroddodd at ei ddiwyllio yn y modd mwyaf penderfynol, gan roddi ei gyfoeth a'i amser at hyny, agos yn llwyr, am flynyddau. Cyn 1783, pan y dechreuodd adeiladu y palas, yr oedd y ffyrdd yn annheithiadwy, ac amaethyddiaeth yn y cyflwr gwaethaf. Efe yn fuan a newidiodd fythod truenus y gweithwyr am anneddau cysurus, gan osod y trigolion ar waith i blanu milfiloedd o goed ar hyd y tiroedd segur, y gelltydd, a'r mynyddau, yn gystal a gwelliantau gwerthfawr ereill. Er mwyn gwella cyflwr amaethyddiaeth, dygodd rai ffermwyr o'r Alban i'r wlad, gan ffurfio cymdeithas amaethyddol, a rhoddi gwobrwyau i'r bwthynwyr, a phrynu eu cynnyrchion. Argraffodd draethodyn 'tra rhagorol, er mwyn lledu ei amcan, o'r enw, A CardiganshireLandlord's Advice to his Tenants. Yr oedd hefyd yn gefnogwr gwresog i lenyddiaeth; ac ym mhlith yr amrywiol gynnyrchion o'i eiddo, y mae argraffiad o Froissarts Chronicles, mewn pedair gyfrol unplyg; Travels of La Broigntoin, mewn un gyfrol bedwar-plyg; Chronicles of Monstrelet, mewn pedair cyfrol; a Joinville, mewn dwy gyfrol pedwar-plyg, yr oll o'r rhai a gyfieithodd efe ei hun o'r Ffrancaeg, ac argraffwyd y tri olaf yn ei wasg ei hun yn. yr Hafod. Yr oedd y palas wedi ei adeiladu yn y modd mwyaf ardderchog o ffurf Gothaidd, a thu fewn wedi ei addurno gan waith celfyddydwyr uchelaf yr oesoedd. Yn y ddwy neuadd yr oedd darluniau gan Hodges, wedi ei cymmeryd o fordeithiau Cadben Cook; Ci Newfoundland Dewisol, gan Opie; Ceffyl Dewisol, gan Gilpin; ac Yspaen-gi Dewisol, gan yr un paentydd; Darre o Ffrwythau, gan Michael Angelo, Caeravaggio; Bywyd Llonydd, gan Roostraten; heb law hyny, Darlun Syr C. Hanbury Williams, copi oddi wrth Mengs; Darlun Boneddiges; Corffyll (bust) o Caracalla, copi o'r un ym mhentref Borghese; a dau Fwrdd o Losgwy o Vesuvius. Dros fwrdd y ffumer yn yr ystafell foreuol, yr oedd y Teulu Sanctaidd, gan Baroccio; Arglwydd Ganghellydd Thurlow, a Richard Payne Knight, Ysw. Ar y llaw chwith, yr oedd Herodias gyda phen Ioan Fedyddiwr, gan Michael Angelo; Arfferyll Dadfeiliedig, gan Salvator Rosa. Ar y llaw ddeheu, Arlun Mr. Johnes, gan Syr Godfrey Kneller; ac o dano yr oedd Golygfa o bont St. Merreme, gan Dean. Rhwng y drysau yr oedd Dyrchafiad y Forwyn Fair, gan Benedetto Luti; Disgyniad oddi ar y Groes, gan Van Dyck; dwy Dirolwg, gan Berchen a Both; Salvator Hominum; dwy Olygfa Matavai Bay, yn Otaheiti a Funchal, un o'r Azores, gan Hodges. Yn yr ystafell giniaw yr oedd teulu gan Romney; y personau oeddynt, Mr., Mrs., a Miss Johnes; yr Uch- gadlywydd J. Lewis, a Dr. Stevenson, o Landyssul; Penau Socrates, Plato, Alcibiades, Sappho, a thri corffyll ereill. Yn yr ystafell giniaw auafol uwch y tân, yr oedd Cleopatra, gan Guercino; ac ar yr ochrau, y Vale and Castella of Tivoli, gan Delany; Tirolwg yn Flanders, gan Wouvermans; a darlun cywrain o Flias yn cael ei borthi gan Gigfrain. Daeth y darlun cywrain hwn o Fynachlog Tal y Llychau, yn amser y Diwygiad, a thybid ei fod yn waith un o benpaentwyr henaf ar ol adfywiad y gelfyddyd o baentio. Nid oes hanes pa faint o amser y bu ym meddiant y mynachod. Golygfa o Gastell Newydd Emlyn, gan Ibbestone; Darlun o Syr R. P. Knight, gan Webber; Golygfa o Aberystwyth, gan Ibbestone; a Darlun o Mr. Robert Liston, gan Wichstead; pedwar darluniad ar dyddyn yr Hafod, gan Jones Corffyll o'r diweddar Ddug Bedford, gan Nollikens. Yr oedd y llyfrgell ardderchog o ffurf capel, lle yr oedd llawer iawn o wydr paentiedig. brif ffenestr yr oedd darlun ardderchog o gyniadur (cardinal) yn penlinio o flaen ei nawdd seintiau. Yno yr oedd Corfyll o Arglwydd Thurlow. Yr oedd y llyfrgell gyffredinol yn un o brif ryfeddodau Cymru. Yr oedd yn cael ei hamgylchu gan oriel, yn cael ei dal gan bileri; y oedd y pileri yn dra ysblenydd, o ddull Doria. Yr oedd celfyddyd ar eu goreu ym mhob man yma. Ac yn yr ystafell fawr ardderchog hon, yr oedd y casgliad mwyaf ardderchog o bob llyfrau gwerthfawr, lle yr oedd casgliad drudfawr o lawysgrifau Cymreig, perthynol i Syr John Sodbright. Mewn gair, yr oedd y palas hwn yn un o ryfeddodau Cymru, a'r llyfrgell a phob peth arall a berthynai iddo yn syndod i bawb ag oedd yn ymweled â'r lle. Ond och! i'r gyflafan a'r dinystr ofnadwy! aeth y palas godidog hwn ar dân ar y trydydd ar ddeg o Fawrth, 1807; a chyfrifid y golled yn 70,000p! Beth bynag, ni ddigalonodd Mr. Johnes ar hyn, ond efe a gymmerodd at ailadeiladu y palas drachefn. Y mae darlun o Mr. Johnes yn Neuadd tref Aberteifi, fel Arglwydd Raglaw a chynnrychiolydd y fwrdeisdref yn y Senedd. Bu wedi hyny yn cynnrychioli bwrdeisdref Maesyfed yn y Senedd. Bu farw Ebrill 23, 1816, yn 68 mlwydd oed. Yr oedd y dyn mawr a gwladgar hwn yn anrhydedd i Geredigion, Cymru, a Phrydain. Yr oedd yn ymdrechu defnyddio ei olud a'i ddylanwad i wneyd daioni i'w gyd-ddynion ym mhob peth. Yr oedd ganddo ysgol rad wedi ei hagor i ferched, o dan arolygiaeth Mrs. Johnes. Yr oedd y merched yn dysgu darllen a nyddu. Yr oeddynt wedi dysgu nyddu y llieiniau byrddau goreu, y rhai a arferid yn yr Hafod, ac yr oeddynt yn nyddu defnyddiau crysau Mr. Johnes. Yr oedd llawfeddyg ac apothecari yn derbyn tâl blynyddol ganddo am edrych dros y bwthynwyr ar ei ystâd, a bu meddygfa i'r holl gymmydogaeth unwaith mewn pythefnos yn y ty. Gwyn fyd na byddai holl foneddigion Cymru yn efelychu y boneddwr mawr ac uchelglodus hwn. Bu iddo un ferch, yr hon a fu farw yn ieuanc. Y mae darlun o honi yn marw'ar bwys ei thad, yn yr Eglwys Newydd, yn waith cywrain celfyddyd. Arfbais Mr. Johnes oedd eiddo Urien Rheged, fel Arglwydd Dinefwr.

JOHNS, David, un o'r cenadon cyntaf i Madagascar, ydoedd frodor o ardal Llanarth. Ymaelododd yn lled ieuanc yn y Neuaddlwyd; a chyn hir, dechreuodd bregethu, gan fyned i'r ysgol at y Dr. Philips, Neuaddlwyd. Ar ol i Mr. D. Jones, y cenadwr, golli ei deulu, dychwelodd i Mauritius i adsefydlu ei iechyd, ac attaliwyd y genadaeth am ychydig. Yn y flwyddyn 1820, ad-ddechreuodd y Parch. D. Johns y genadaeth dan amgylchiadau tra gobeithlawn: Aeth i fyw i Tananarifo, y brif ddinas - y parth mwyaf iachus o'r ynys. Ym Medi, 1826, cydunodd Mr. D. Johns, Mr. Cameron, saer, Mr. Cummins, a'u gwragedd, a Meistri Jones a Griffiths yn y genadaeth. Ar ol hyn, y mae llawer o amser D. Jones a D. Johns yn cynnwys agos yr un hanes. Cyfieithodd Mr. D. Johns, a J. Rainisoa, penarolygwr yr ysgolion, Daith y Pererin, gan Bunyan, yn y flwyddyn 1836, i iaith y wlad, yr hwn a argraffwyd yn Llundain. Cyfansoddodd Mr. Johns a'i gyfeillion amryw lyfrau ysgol hefyd. Yn y blynyddoedd 1836–37–38, yr oedd yr erlidigaeth yn greulawn arswydus yn yr ynys lluoedd yn cael eu merthyru. Ym Mehefin, 1838, aeth Mr. Johns a Dr. Powell drosodd i Tamatave, ac aeth yr olaf ym mlaen i'r brif ddinas; ac ar ol gwella ychydig o'r dwymyn, aeth Mr. Johns yn ol i Mauritius, a chyn hir, llwyddwyd i gael llawer o'r Cristionogion drosodd ato. Ar ol hyn, daeth Mr. Johns â chwech o'r ffoedigion i Benryn Gobaith Da; cyrhaeddasant angorfa Algoa ar y 23ydd o Ragfyr, lle yr arosasant am bythefnos gan dderbyn caredigrwydd ar law eu cyfeillion Cristionogol, yn neillduol yng nghyfeillach yr hen athraw ysbrydol, y Parch. Mr. Kitching, yr hwn oedd wedi bod ym Madagascar. Ar eu dyfodiad i dref y Penryn, croesawyd hwy yn gariadus gan gyfeillion y genadaeth yno. Ar ol cael cynghor Dr. Phylip ac ereill, ymadawsant am Loegr. Cyrhaeddasant Loegr yn niwedd Mai, 1839, lle y cawsant eu croesawu gan filoedd o fanllefau. Cynnaliwyd cyfarfodydd mawr yn fuan yn Neuadd Caerwysg, lle y dangoswyd y cydymdeimlad mwyaf a'r ffoedigion, a'r llawenydd mawr wrth weled y dysgyblion ieuainc mor wrol yn y ffydd. Bu y ffoedigion yn derbyn dysg yn Llundain, er eu cymhwyso i ddychwelyd i wlad eu genedigaeth. Wedi aros yma am dro, dychwelodd Mr. Johns a'i gyfeillion i Madagascar, a thiriasant ym Mauritius yn Ionawr, 1841, lle y cyfarfuasant & Mr. Griffiths y cenadwr, a Mr. Jones yn glaf iawn yn ei wely, lle y bu farw yn fuan. Parhaodd Mr. Johns i lafurio am ennyd. Bu farw yn Nosebel, yn 1842, yn 49 oed. Yr oedd yn gallu pregethu mewn tair iaith, ac yn hyddysg mewn pump. Cyhoeddodd lyfr Cymraeg, sef Hanes am Erlidigaeth y Cristionogion ym Madagascar, yng nghyd a Diangfa y Ffoedigion i Brydain Fawr, yn 1840. Bu â llaw yng nghyfansoddi Gramadeg yn y Malagaeg, a chyfieithu y Beibi i'r iaith hono, yn gyatal ag amryw lyfrau ereill.

JONES, DANIEL H., D.C., a aned ym mhentref Llanfihangel Ystrad o gylch y flwyddyn 1780. Bu yn yr ysgol gyda'r Parch. D. Davis, Castell Hywel. Bu wedi hyny yn cadw ysgol yn Llanybydder a manau ereill. Dywedir fod amryw yn ymryson am ysgol Llanybydder ar y pryd, ac i Dr. Thomas, Aberduar, roddi y ddwy linell hyn i'w cyfieithu i'r Seisoneg ar y pryd :-

“Tempora mutantur,
Et nos mutamur in illis."

Dywedir mai y Dr. Jones oedd y goreu, ac felly iddo gael yr ysgol. Aeth wedi hyny i Goleg Rotherham; a chyn hir cafodd ei raddio gan un o brif athrofëydd yr Alban yn D.C., ond pa flwyddyn nis gwyddom. Bu yn athraw yn nheulu yr anrhydeddus Arglwydd Holland. Treuliodd brydnawn ei fywyd yn gysurus gyda'i wraig a'i ddwy nith ym Milton Next Gravesend. Ni bu iddo blant. Bu yn ddall am flynyddau cyn ei farwolaeth. Ei olygiadau crefyddol oedd Undodaidd. Yr oedd ei fywyd yn ddiargyboedd a dichlyvaidd. Bu farw Medi, 1866, yn 86 mlwydd oed. Hyfryd mynegu ei fod yn gofus o'i berthynasau yng Nghymru, trwy anfon arian iddynt yn awr ac eilwaith.

JONES, CADBEN DAVID, a aned yn Llwyn Rhys, plwyf Llanbadarn Odwyn. Ei dad oedd John Jones, yr hwn oedd un o'r pregethwyr Anghydffurfiol cyntaf yn y sir. Cafodd D. Jones ysgol led dda yn ei febyd. Yr oedd yn hyddysg yn y Gymraeg, Seisoneg, Groeg, a Lladin, ac hefyd yn feistr ar y Ffrancaeg. Daeth yn y modd hyn i droi mewn cylchoedd uchel yn y brif ddinas. Aeth i wasanaeth lago II.; ac yr oedd yn cael cyfeillachu a'r brenin. Daeth adref i roddi tro am ei rieni. Gwelodd yr ben bobl ef yn croesi y waen at y ty; a chan fod gwisg milwr am dano, rhedodd yr hen wr i ymguddio i'r llofft, gan feddwl. ei fod yn dyfod i'w ddal ef am bregethu! Pan ofynodd am wr y ty, syrthiodd yr hen wraig mewn llewyg gan ofn. Daeth yr hen wr i'r golwg, ac erbyn hyny, mynegodd yntau taw eu mab oedd. Cafodd freinlen neillduol i'w dad i bregethu yn ei dy ei hun; ac adeiladodd yr hen wr groes wrth y ty i gael mwy o le. Mae y ty ar lan hyd heddyw. Daeth y Cadben Jones wedi hyny yn swyddwr yn Niffynlu William III., a bu gydag ef am gryn amser ar y Cyfandir, ac yr oedd yn gydymaith iddo yn ei holl symmudiadau milwrol. Pryd hyny y perffeithiodd ei hun yn y Ffrancaeg. Ysgrifenodd y llyfrau canlynol:- 1. Secret History of Whitehall; London, 1697, two vols. in one, 8vo.: Continuation from 1688 to 1696, 8vo.: New and best Edition of this Scandalous History, 1717, two vols., 12mo. 2. History of the Turks, 1655-1701, two vols., 8vo. 3. Life of King James II., 1702, 8vo. 4. History of the House of Brunswick, Lunenburgh, 1715, 8vo. 5. Translation of Pezron's Antiquities of Nations from the French. 6. History of William III., 1702. 7. The Wars and Causes of them, between England and France, with a Treatise of the Salyque Law. 8. The Tragical History of the Stuart Family 1697. 9. A Complete History of Europe, from 1600 to 1716, in 16 vols. Cynnwys y 12fed gyfrol hanes 1711. (Mae'r llyfr wedi ei gyflwyno i Syr Samuel V. Sambroke, Bar. Ar ddiwedd y cyflwyniad, ceir y llythyrevau D. J.) 10. The Lives of Sir Stephen Fox, of Dr. South, of Earl of Halifax, and of Dr. Redclif. Mr. Crossley, Manceinion, a gafodd allan yn ddiweddar mai Cadben Jones oedd awdwr y bywgraffiadau hyn trwy ysgrifen tu fewn i un o'r llyfrau. Maent yn bedwar gwaith ar wahân. Mae peth ammheuaeth ai efe oedd awdwr Life of William III., 1702. Dywedir taw Boyer oedd yr awdwr; ond y mae bywyd William wedi ei ysgrifenu yn 1703; ac ef allai taw hwnw ysgrifenodd efe. 11. The Detection of Court and State of England during the four last Reigns, by Roger Coke, Esq. grandson of Sir Edward Coke, Lord Chief Justice). Cafodd y gwaith hwn ei ddiwygio a'i helaethu gan D. Jones, fel y dywed yn ei ragymadrodd i'w Tragical History of the Stuart Family. Yr oedd mam y Cadben yn ferch Mr. Edwards, Deri Odwyn; ac y mae yn debyg taw ei brawd oedd perchen Llwyn Rhys. Ei berchenog yn awr yw J. E. Rogers, Ysw., Aber Meirig; ac Edwards oedd enw hen dad cu Mr. Rogers. Nid oes hanes am ddisgynyddion D. Jones. Tebyg iddo orphen ei oes yn Lloegr.

JONES, DAVID, A.C., oedd enedigol, fel y tybir, o blwyf Penbryn. Dygwyd ef i fyny yn Rhydychain, lle y cafodd ei raddio yn y celfyddydau, a chafodd ei urddo yn Llanbadarn Fawr, lle y bu yn gweinidogaethu yn amser Cromwel; ond o blegid nacäu cydymffurfio à Deddf yr Unffurfiad, cafodd ei droi allan, a bu yn gweinidogaethu yn Cilgwyn a'r cylchoedd yn gyfranog a D. Edwards ac ereill. Preswyliai pryd hyny ym mhlwyf Penbryn, gan gadw ysgol. Mae lle o'r enw College yn y plwyf hwnw, yr hwn ef allai a gafodd yr enw oddi wrth ei ysgol ef. Bu farw yn y flwyddyn 1700.

JONES, DAVID, o Lanwenog, oedd ysgolfeistr enwog yn preswylio yn Nolwlff. Ym mysg yr enwogion fu yn ei ysgol yr oedd Dafis Castell Hywel, fel y cydnebydd yn ei Delyn Dewi. Bu hefyd yn cadw ysgol yn Llansawel. Cafodd llyfr ei gyfieithu ganddo o'r enw "Eucharista, neu Draethawd am Swpper yr Arglwydd, a 'sgrifenwyd mewn Prydyddiaeth yn Lladin gan y Dysgedig Hugo Grotius," a'i argraffu yng Nghaerfyrddin yn y fl. 1765. Mae "Agor- iad Byr i'r Salm 37, yng nghyd â Gweddi y Tywysog Eugene," yn Chwanegiad at y llyfr. Yr oedd arno awydd fawr am weled Palestina a manau ereill o'r byd; ac i'r dyben hwnw, ysgrifenodd lythyr Lladin gwych at Mr. Llwyd, Gallt yr Odyn; ac ar y pryd, yr oedd gwr dysgedig iawn ar ymweliad & Mr. Llwyd, yr hwn a fawr ganmolodd y llythyr. Cyfranodd y boneddwr yn haelionus tuag at yr amcan. Aeth D. J. rhagddo hyd Rydychain, a chafodd 15p. yn y Brifysgol tuag at orphen ei amcan. Aeth i Balestina a manau ereill o'r byd, gan wneyd nodiadau ar ei holl daith, a dychwelodd. Nis gwyddom beth ddaeth o'r llawysgrif. Mae y Parch. E. Jones, B.D., periglor Llanfihangel ar Arth, yn berthynas iddo.

JONES, DAVID, y cenadwr ym Madagascar, oedd enedigol o ardal y Neuaddlwyd, ger Aberaeron. Derbyniodd y rhan fwyaf o'i ddysg gan y Dr. Philips, yn Neuaddlwyd. D. Jones & Thomas Bevan a urddwyd yn y Neuaddlwyd, yn Awst, 1817. Tiriodd y ddau ym Mauritius yn Ebrill, 1818; ac ym Awst, aethant trosodd i Madagascar, lle y cawsant dderbyniad gwresog gan Fisatra, brenin Tamatave, ac efe a ddanfonodd ei fab ei hun a deg neu ddeuddeg o blant i'r ysgol. Dychwelodd Mr. Jones cyn hir i Mauritius, i ymofyn ei wraig a'i blant, lle y cafodd ei daro yn glaf gan dwymyn. Bu farw Mrs. Jones a'r plentyn. Ar ol hir selni, efe a aeth drosodd i Mauritius, lle y cymmerodd at addysgu plant y teulu breninol. Priododd eilwaith yn 1821. Yn niwedd y flwyddyn 1822, ffurfiodd Mr. Jones, yng nghyd â'r Meistri. Johns a Griffiths, orgraff y Fadagascaeg, yn y llythyrenau Rhufeinig, trwy roddi un sain benodol i bob llythyron, ac ysgrifenu pob gair fel ag yr oedd yn cael ei seinio gan yr areithwyr goreu. Yn ol y cynllun hwn, ysgrifenai y brodorion eu hiaith yn rhwydd ac yn gywir. Dangoswyd gwrthwynebiad mawr gan y Seison ag oedd yn yr ynys, am na ddilynid y sain Seisonig; a dywedir iddynt anfon at rai o brif ddynion Lloegr i gael eu barn: ond er fod y Seison, fel y gallesid dysgwyl, yn erbyn y dull syml a rhesymol ag oedd y Cymry yn wneyd, daliodd y tri cenadwr yn gadarn dros y dull Cymreig, a chawsant y brenin ac ereill iw cymmeradwyo. Y mae y dull i fod yn ddigyfnewid mwyach, o herwydd ei fod wedi ei selio a deddf gan Radama, a'i ddilyn gan bob ysgrifenydd yn yr ynys. Cymmerodd Mr. Jones a Mr. Griffiths at y gwaith o gyfieithu y Beibl, trwy gymmeryd at bob o ran o hono. Erbyn y flwyddyn 1824, yr oedd ysgolheigion & dysgyblion crefyddol yr ynys yn cynnyddu yn gyflym. Ar ol arholiad cyhoeddus o'r plant yn 1827, a gweled fod y brenin yn dyrchafu y rhai mwyaf teilwng, ymosododd y rhieni yn fwy cyffredinol am gael ysgol i'w plant. Yn fuan wedi hyny, daeth allan o'r wasg 1500 o holwyddoregau, 800 o lyfrau hymnau, a 2200 o lyfrau bychain i ddysgu sillebu a darllen; ac yn y flwyddyn 1828, dechreuwyd y gwaith o argraffu Efengyl Luc. Ym mis Mehefin, aeth Mr. Jones i lan y mor i gyrchu y Meistri Bennett & Tyreman, ymwelwyr â'r sefyllfaoedd cenadol yng ngwahanol barthau o'r byd. Tua'r amser yma bu farw y brenin rhinweddol Radama. Bu farw Mr. Tyreman yn fuan wedi tirio yn yr ynys; a thra yr oedd y Cristionogion yn dychwelyd o'i angladd, cawsant lythyrau oddi wrth y frenines, gan addaw yn dda; ond yn fuan dechreuodd erlid a merthyru y Cristionogion. Yn fuan wedi hyn, llofruddiwyd yn ddirgelaidd dros bump ar hugain o deulu yr hen frenin Radama. Am yr amser maith o alar am y brenin Radama (amser gwaharddedig i weithio yn gyhoeddus), bu Mr. Jones a'i gyfeillion yn dra diwyd yn cyfieithu yr Ysgrythyrau, a Mr. Baker yn eu hargraffu. Ar ol anfon enghraifft o'r Ysgrythyrau i'r llys, gwrthodwyd eu cymmeradwyo, am mai llyfr drwg oedd y Beibl, o herwydd tybient wrth y cryf arfog a'r un cryfach na hi, mai brenines Madagascar oedd y cyntaf, ac mai brenin Lloegr oedd yr olaf, ac felly i ddyfod i'w diorseddu. Yn fuan wedi hyn, anfonodd y frenines at Mr. Jones a Mr. Griffiths am roddi fyny addysgu y Beibl yn yr ysgolion: ond trwy bwyll a mwyneidd-dra y cenadon, cawsant genad i fyned ym mlaen. Ym Mehefin, 1830, ymadawodd Mr. Jones a'i deulu a'r ynys, gan fyned drosodd i Mauritius, ac oddi yno i Brydain. Y Sul olaf cyn ei ymadawiad, pregethodd oddi ar 1 Thes. v. 21., nes gwneuthur effaith fawr ar y gynnnlleidfa. Ar ol aros am dro ym Mhrydain, gan bregethu a darlunio hanes Madagascar, a helynt y genadaeth yn y wlad, dychwelodd i Mauritius, a chyn hir i Madagascar. Ym Mehefin, 1840, cyrhaeddodd Mr. Jones a'r Cadben Campbell, Ambatomanga. Dyben Mr. Jones oedd ymweled a'i hen gyfeillion, ac i geisio rhyddid gan y frehines dros Gymdeithas Amaethyddol Mauritius. Yr oedd yn amser caled iawn ar y Cristionogion y pryd hwn. Cafodd Mr. Jones a'i gyfaill genad i fyned i'r brif ddinas. Ar ei daith, cafodd ddolur enbyd ar ei glun, a gorfodwyd ei gludo yn y filanjana (cadair). Rhoddodd y frenines bob o dy iddynt i breswylio, a hwythau a anfonasant iddi yr hosina (arwydd o barch), yn ol arfer y wlad. Ond deallasant yn fuan eu bod yn garcharorion. Tranoeth, adnewyddwyd holiad y Cristionogion, a chollfarnwyd amryw i farwolaeth; ond llwyddodd rhai i ddianc. Gorphenaf 8, gwahoddwyd Mr. Jones ac ereill o'r Ewropiaid i giniaw at Raininiaharo, prif elyn y Cristionogion. Bu yn gyfyng ar Mr. Griffiths pryd hyn, am iddo lwyddo i gynorthwyo y Cristionogion i ffoi; a'r dydd canlynol, rhoddwyd torf i farwolaeth am broffesu Cristionogaeth. Cafodd Mr. Jones ar yr amser hwn ei daro yn glaf iawn gan yr ewynwst. Parhaodd yn amser blin iawn yn yr ynys; ac ar ol ychydig o adferiad, gadawodd y cenadon y wlad. Cyrhaeddodd Mr. Jones Mauritius, lle y bu yn glaf am dro, a bu farw Mai, 1841, a dychwelodd ei weddw at ei phlant i Lundain.

Fel y dywedasom o'r blaen, Meistri Jones a Bevan oedd y cenadon Protestanaidd cyntaf a ymwelasant a'r ynys fawr hòno; ac y mae Mr. Bevan wedi ei gladdu yn Tamatave, a Jones ym Mauritius. Yr oedd clod Mr. Jones yn sefyll yn uchel fel Cristion, ac fel gweithiwr dyfal a phenderfynol dros Dduw yn y wlad dywell hòno; ac y mae llawer o ol ei lafur i'w weled yn yr ynys y dydd heddyw; ac nid oes neb, ond yr Hollwybodol, a wyr faint yw yr effaith i fod yn yr amser dyfodol.

JONES, DAVID, offeiriad a drowyd allan o Landyssilio, ydoedd, fel y tybir, enedigol o Gellan. Yr oedd yn ddyn dysgedig, doniol, a llafurus. Ar ol ei droi allan o herwydd nacäu cydymffurfio, bu yn preswylio ym mhlwyf Cellan, ac yn llafurio yn y cylch hwnw fel Ymneilldüwr. Cyfieithodd Holwyddoreg y Gymmanfa i'r Gymraeg, ac hefyd rai o Ganiadau Lladin Rhys Prydderch: ond y gwaith mwyaf a wnaeth, oedd dwyn trwy y wasg 10,000 o gopiau o'r Ysgrythyrau yn llyfrau wythplyg, yn y Gymraeg, yr hyn oedd anrheg ammhrisiadwy i'w genedl. Yr oedd yn gyfaill i'r Parch. Stephen Hughes, ac yn cydweithio ag ef yn niwygiad yr orgraff. Cyfieithodd hefyd waith Allein ar Ddychweliad Pechadur. Cynnorthwyid ef yn ei holl ymdrechion gan Abraham Warton, a boneddigion ereill. Yr oedd yn byw mewn amser gofidus, pan oedd dwy blaid yn y deyrnas yn ymdrechu ymddial ar eu gilydd. JONĖS, DAVID W., diweddar weinidog yr Annibynwyr, yn Nhreffynnon, a aned yn y Wern Newydd, Llanfair Orllwyn, Hydref 14, 1809. Bu yn yr ysgol gyda'r Parch. J. Jones, mab y Parch. Jonathan Jones, Rhyd y Bont, wedi hyny yn y Neuaddlwyd, ac yn olaf yn Rotherham. Urddwyd ef yn Nhreffynnon, 1835. Bu yn cadw ysgol flodeuog yn yr ardal hòno. Yr oedd yn ysgolor gwych, ac yn meddu ar wybodaeth helaeth, eto yn dra hunanymwadol. Bu yn ysgrifenydd y gangen gynnorthwyol o Gymdeithas Genadol Llundain dros Ogledd Cymru; y Feibl Gymdeithas, a'r Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Grefyddol ym mysg yr Iuddewon, am flynyddau lawer, ac ennillodd lawer o glod am ei ffyddlondeb. Safai yn uchel fel pregethwr a gweinidog. Bu farw Tach. 7, 1861, yn 52 mlwydd oed.

JONES, EDWARD, gweinidog y Trefnyddion Calfinaidd yn Aberystwyth, a aned yn y Rhiwlas, Llanfihangel Geneu'r Glyn, Medi 11, 1790. Tra yn aros yn Llundain, aeth i wrando John Elias; a than ddylanwad pregeth y gwr enwog hwnw, ymunodd â'r Trefnyddion. Bu wedi hyny yng Nghaerodor. Dychwelodd i'w fro enedigol, a dechreuodd bregethu, Mai 24, 1818; a chafodd ei urddo Awst 7, 1829. Yr oedd yn bregethwr cymmeradwy, ac yn hynod am ei benderfynolrwydd, ac ysbryd didderbyn wyneb; yn eithafol mewn manyldra dysgyblaeth. Treuliodd oes lafurus iawn mewn pregethu, a dwyn ym mlaen helyntion yr enwad ym mhob modd. Bu farw Awst 29, 1860, yn 70 mlwydd oed. Efe oedd y cyntaf a gladdwyd yng Nghladdfa newydd Aberystwyth.

JONES, EVAN, gweinidog yr Annibynwyr am flynyddau yn Ruscombe, a aned yn Esgeirgraig, plwyf Troed yr Aur. Mab oedd i'r Parch. Morgan Jones, Trelech, yr hwn oedd wedi priodi Miss Parry, etifeddes Esgeirgraig; ac yno y preswyliodd am flynyddau. Cafodd Evan Jones ei ddwyn i fyny yn Athrofa Henadurol Caerfyrddin. Urddwyd ef i gydlafurio â'i dad yn Nhrelech, lle yr arosodd am dair blynedd. Ar ol marwolaeth ei dad, symmudodd i Ruscombe, sir Gaerloew, lle y llafuriodd yn ddiwyd am ddeunaw mlynedd. Bu farw yn y Gareg Wen, ei dy ei hun, Mehefin 19, 1855. Hynodid Mr. Jones yn ei fwyneiddra, hynawsedd, a duwioldeb. Yr oedd hefyd yn bregethwr da, yn llawn addysg i'w wrandawyr, ac yn llawn o'r nodwedd wresog Gymreig. Dywedid ei fod yn fynych yn ymollwng i'r hwyl Gymreig ym mysg y Seison. Yr oedd yn barchus iawn gan ei gynnulleidfa, a chan bawb a'i hadwaenai.

JONES, Evan, gweinidog y Bedyddwyr yn Aberteifi, oedd enedigol o Landyssul. Bu yn Athrofa Caerodor am bedair blynedd. Yr oedd ei gynnydd yn fawr iawn yn yr athrofa-bob amser ym mlaenaf yn ei ddosbarth. Urddwyd ef yn Aberteifi, Tachwedd 5, 1800. Edrychid ar ei sefydliad yn un tra gobeithiol, gan ei fod yn ddysgedig a thalentog, a'r Eglwys yn lluosog a pharchus. Daeth ym mlaen yn gyflym yn y weinidogaeth; ystyrid ef ym mlaenaf fel pregethwr. Ychwanegai nifer y gynnulleidfa a'r aelodau yn barhäus, a cherid ef yn fawr gan bawb yn y dref: ond darfu i rai o'r bobl ddechreu ei anrhegu yn aml â diod feddwol. Yn y modd hyny, aeth yn raddol i yfed gormodedd, nes anafu ei hun, a chollodd ei le yn yr Eglwys, nes gorfod ei ddiarddel yn y flwyddyn 1810. Adferwyd ef drachefn fel aelod, ond nid i'r weinidogaeth. Yn yr amser hwn, cyfieithodd draethawd rhagorol Abraham Booth ar "Faddeuant Pechod," a chyfansoddodd draethawd ei hun o'r enw "Bendithiou Rhad, ac nid Prynedig." Symmudodd i fyw i Eglwys Erw, sir Benfro, lle y bu farw.

JONES, ISAAC, a aned ym mhlwyf Llanychaiarn, Mai 2, 1804. Derbyniodd ei addysg foreuol gan ei dad, yr hwn, er nad oedd ond gwëydd wrth ei alwedigaeth, oedd yn alluog i'w ddysgu mewn Lladin a changenau uchel ereill o ddysgeidiaeth. Medrai ddarllen Lladin yn saith oed. Bu mewn ysgol blwyfol, lle yr oedd yr athraw yn gallu dysgu yr ieithoedd dysgedig. Aeth wedi hyny i Ysgol Ramadegol Aberystwyth, lle y daeth ym mhen amser yn gynnorthwywr; ac yn 1828, a benodwyd yn ben-athraw, yr hon sefyllfa a ddaliodd hyd 1834, pan ymddiswyddodd, gan fyned i Goleg Dewi Sant, Llanbedr. Yn y flwyddyn ganlynol, etholwyd ef yn Ysgolor Hebraeg Eldon, ac a urddwyd yn ddiacon ym Medi, 1836, ac yn offeiriad, Medi, 1837, pryd y cyrhaeddodd wobr offeiriad, sef gwobr Esgob Ty Ddewi i'r sawl fuasai yn ateb oreu mewn arholiaeth dduwinyddol. Ei guradiaeth gyntaf oedd Llanfihangel Geneu'r Glyn, yr hon, wedi hyny, a newidiodd am Bangor, ger Aberystwyth. Yn Chwefror, 1840, cafodd guradiaeth Llanedwen a Llanddeiniolfab ym Mon, lle y parhaodd i weithio gydag aidd ac ymroddgarwch hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymmerodd le Rhagfyr 2, 1850. Cafodd ei gladdu ym mynwent Llanidan. Ymddibyna ei enwogrwydd llenyddol yn benaf fel cyfieithydd, ac ystyrid ef y cyfieithydd goreu yng Nghymru. Ei gynnyrch llenyddol cyntaf yw Gramadeg Cymraeg, yr hwn a argraffwyd yn Aberystwyth yn 1832, ac a ailargraffwyd yn 1841. Cyfieithodd Eiriadur Ysgrythyrol Gurney, gydag amryw ychwanegiadau, yr hwn a orphenwyd yn 1835, mewn dwy gyfrol 12plyg. Cyfieithodd hefyd Esboniad Dr. Adam Clarke ar y Testament Newydd, yr hwn a gyhoeddwyd yn 1847, yn ddwy gyfrol 8plyg; ac yr oedd wedi myned ym mlaen mor bell a Lefiticus iv. 12, ar yr Hen Destament. Ysgrifenodd hefyd yr ail gyfrol o'r Geirlyfr Cymraeg, a ddechreuwyd gan Owen Williams, Waenfawr; a chynnorthwyodd gyfieithu Esboniad Mathew Henry, cyhoeddedig gan y Parch. E. Griffiths, Abertawy. Ni chyhoeddwyd ond hanner ei gyfieithad. o Williams' Missionary Enterprises, o herwydd fod cyfieithad arall yn cael ei gyhoeddi ar y pryd yn y Deheudir. Efe hefyd a olygodd ail- argraffiad o Destament Cymraeg Salesbury, a gyhoeddwyd yng Nghaernarfon yn 1850. Yr oedd yn arwain bywyd diwyd a chrefyddol, a bu, fel gweinidog, yn dra llwyddiannus. Camgyhuddir llawer o lenorion Cymru, os byddant yn weinidogion, nad ydynt yn ymroddgar yn y cylch hwnw; ond y mae bywyd llafurus Isaac Jones, yn un o'r gwrthbrofion cadarnaf a ellir daflu i wyneb y blaid wrth-Gymreig hòno.

JONES, JACOB, a aned yn Nhal y Bont, Mai 29, 1823. Cafodd fanteision dysg pan yn ieuanc. Cafodd ei dderbyn i Athrofa y Parch. G. Brown, LL.D., Llynlleifiad. Aeth i Brifysgol Glasgow. Dychwelodd i Dal y Bont yn y flwyddyn 1843, ac agorodd ysgol yno. Yn 1845, aeth i Goleg Spring Hill; ac yn 1881, cafodd ei urddo yn weinidog Cynnulleidfaol ym Melksham. Yr oedd yn ysgolor da, ac yn wr o amgyffred ddofn. Penderfynodd fyned i Awstralia. Collodd ei fywyd yng ngolwg tir Awstralia o herwydd llongddrylliad y "Catherine Adamson," Hyd. 24, 1857. Pe cawsai y gwr llafurus hwn oes weddol hir, diammheu y buasai yn werth mawr i'r byd.

JONES, JENKIN, oedd fab John Jones, Llwyn Rhys, a brawd i'r Cadben Jones. Bu yn cydlafurio a'i gefnder, D. Edwards, D. Jones, a Philip Pugh, yn y Cilgwyn a'r cylchoedd Yr ydym wedi gweled mewn llawysgrif, fod Jenkin Jones a'i gyd-weinidogion, wedi bod yn cynnal ysgol flodeuog yn y Cilgwyn, a bod llyfrau yn dyfod iddynt oddi wrth ei frodyr, David a Samuel Jones o Lundain. Yr oedd gan Jenkin Jones bedair merch. Margaret, ei ferch henaf, oedd y cyntaf fedyddiodd P. Pugh, sef yn y flwyddyn 1709. Priododd Magdalen ei ferch & Peter Davies, Glyn Aeron. Cafodd Magdalen ei bedyddio Mehefin 14, 1718, a bu farw yn 1755. Mae Mr. John Davies, Glyn, yn orwyr i Peter Davies a Magdalen ei wraig. Aeth Eliza, neu Margaret, yn wraig i Dderi Ormond, a Sarah, ei ferch ieuengaf, a briododd a'r Parch. Timothy Davies, Cilgwyn, a phreswylient yn y Felindre. Mae llawer o'i disgynyddion yn y wlad. Gorwyr iddynt yw y Parch. Evan Jones, periglor Tyglyn, ac felly Evan Davies, Ysw., LL.D., Abertawe. Ymddengys taw yn Llwyn Rhys yr oedd Jenkin Jones yn preswylio. Cafodd Llwyn Piöd ei adeiladu fel capel yn lle Llwyn Rhys tua'r flwyddyn 1712. Pris y cyfan heb y rhoddion, oedd 13p. 138. 00.

JONES, JENKIN, gweinidog henadurol yn Llwyn Rhyd Owain, a aned ym mhlwyf Llanwenog. Aeth i Athrofa Caerfyrddin yn 1721, a chafodd ei urddo yn y Ciliau a'r capeli cylchynol yn 1726. Yr oedd yn ddyn ieuanc dysgedig, hawddgar, ac yn bregethwr doniol. Priododd foneddiges gyfoethog, ac felly daeth i sefyll yn dra uchel yn y wlad. Tua 1729, efe a ddechreuodd bregethu golygiadau Arminiaidd, ac efe oedd y cyntaf a ddechreuodd ddadleu hyny yn y wlad. Cafodd ei attegu gan Abel Francis, Rhys Davies, ysgolfeistr, a Charles Winter. Achosodd hyn aflonyddwch ym Mhant y Creuddyn, y capel agosaf i'r lle y preswyliai; ac o herwydd hyny, efe adeiladodd Llwyn Rhyd Owain ar ei dir ei hun. Cafodd y boddhad o weled chwech o gapeli yn ei ddilyn yn ei athrawiaeth, y rai wedi hyny, a lithrasant i Ariaeth, ac yn y diwedd i Undodiaeth. Yr oedd James Lewis, Pencadair, yn preswylio yn agos i Bont y Creuddyn, ac yn cydweinidogaethu & Jenkin Jones. Daeth Mr. Lewis allan yn gadarn i amddiffyn Calfiniaeth, gan gael ei gynnorthwyo gan Christmas Samuel. Amddiffynodd Jenkin Jones ei olygiadau mewn llyfr o'r enw Cyfrif Cywir o'r Pechod Gwreiddiol. Yn 1830, daeth allan gan James Lewis & Christmas Samuel atebiad iddo, o'r enw Y Cyfrif Cywiraf o'r Pechod Gwreiddiol; ac yn 1733, daeth allan gan Enoch Francis, Gair yn ei Bryd, i amddiffyn Calfiniaeth. Daeth allan gan Simon Thomas o Henffordd, yn 1735, Hanes Pelagius, gan wrth-ladd Arminiaeth. Cyhoeddodd Jenkin Jones Gatechism yn 1732, ar bynciau crefyddol, ac y mae ynddo Weddi'r Arglwydd a Chredo'r Apostolion; ac yn wir, nid bawdd canfod yn y gwaith hwnw fod yr awdwr wedi myned ym mhell o dir "uniongred." Cyfieithodd tra yn yr athrofa, Fywyd Agrippa. Bu farw yn 1742. Cyhoeddwyd ei Hymnau gan ei fab yng nghyfraith, D. Llwyd, yn 1768, yn cynnwys 84 o dudalenau. Wele enghraifft o un o honynt:-

"I adrodd gwyrthiau Iesu hael
A'i gariad pur, nis gellir cael
Na geiriau llwyr, na myfyr maith,
Rhy fyr yw'n cof, rhy gul yw'n iaith.”

Mae ganddo gyfansoddiadau ar y 5med o Dachwedd, dydd Brad y Powdwr Gwn, Dyfodiad y Brenin William III, &c. Ceir iddo farwnad gan Ifan Thomas o Lanarth, ar fesur Gwel yr Adeilad.

JONES, JOHN, Nant Eos, oedd foneddwr enwog fel rhyfelwr yn amser Siarl I. ac Olifer Cromwel. Bu ar y cyntaf yn gadben, ac wedi hyny yn filwriad. Ceir y cymmeriad a ganlyn iddo:-

"John Jones, one that appeared in the first publique differences for monarchy, and much suffered by reason thereof; yet in 1647, he assisted the reducing of Aberystwyth, & garrison then holden for the King, it was thought upon a personall injury offered him; his principles being without question stedfastly fitted for monarchy, and the true heir thereof; for he was constantly imprisoned; on all securing, payd a deep fine in Goldsmith's Hall, decimated and grievously sequestered, declyned, though sometimes tendred publique offices whatsoever; the constant object of the phanatique hatred;

but one of mean parts, only wise in that he is partly sensible of the meaness of them." (Cambrian Register, cyf. i., tud. 166.)

Bu farw yn 1666.

JONES, JOHN, Llwyn Rhys, oedd yn ddiammheu un o'r pregethwyr cyntaf, os nid y cyntaf oll, yn y sir. Efe oedd tad Cadben Jones, a'r Parch. Jenkin Jones a nodasom yn barod. Yr oedd ganddo ddeuddeg o blant, pedwar mab ac wyth merch. Cymmerodd Dafydd, Samuel, a Jenkin ran gyhoeddus yn eu bywyd; am John, nid oes dim hanes. Y mae yn amlwg i John Jones ddechreu pregethu yn ddirgelaidd yn Llwyn Rhys yn fuan ar ol cyhoeddiad Deddf y Cydffurfiad. Fel y dywedasom wrth son am ei fab, Cadben Jones, cafodd hawlfraint arbenig i bregethu yn ei dy ei hun, trwy ddylanwad ei fab gyda'r brenin. Mae crybwylliad am dano mewn ysgrif yn Broad Mead, Caerodor, ar ol cyhoeddiad Deddf y Goddefiad, 1672, a "John Jones Elder Elect” y gelwir ef yno. Mae beddfaen ei wraig yn Llanbadarn Odwyn, ac arno y cerfiad a ganlyn:

“Here lieth the body of Margad, wife of John Jones, of Llwyn- rhys, who departed this life the 23rd day of May, in the year 1700, and the 40th year of her marriage, aged 69."

Mae yn amlwg fod J. Jones yn fyw wedi hyny. Mae dwy linell o Ladin ar y maen; ond y maent wedi eu sathru gymmaint fel nad oes modd eu deall.

JONES, JOHN, person Llangynog, Maldwyn, oedd enedigol o Geredigion. Yn 1782, cafodd guradiaeth Mallwyd, a thrachefn y bersoniaeth hòno gan yr Esgob Shipley. Ar ol hyny, cafodd berigloriaeth Pennant, a phersoniaeth Llangynog, y ddwy yn sir Drefaldwyn. Gadawodd ar ei ol lawer o bregethau mewn ysgrifen, a chyhoeddwyd 30 o honynt mewn dwy gyfrol deneu, o dan olygiaeth y Parch. H. Parry, Llanasa.

JONES, JOHN, gweinidog y Bedyddwyr yng Nghapel Sion, Merthyr, a aned ym mhlwyf Llanfihangel Geneu'r Glyn yn 1806. Cafodd ei hyfforddi yn egwyddorion crefydd er yn blentyn. Ymunodd â'r Bedyddwyr yn Nhal y Bont. Dechreuodd bregethu yn 1828. Ymwelodd A sir Gaernarfon, ac agorodd ysgol ym Mhont Llyfni. Dywedir i Arglwydd Newborough glywed am ei athrylith, ac iddo gynnyg ei ddwyn i fyny yn ddadleuydd yn y gyfraith. Aeth i Athrofa y Fenni yn 1831. Yr oedd yn cydfyfyrio â'r enwog D. R. Stephen. Ymsefydlodd yn weinidog ym Mlaen Afon. Yr oedd ymraniad wedi cymmeryd lle ym Mlaen Afon, ac yr oedd ei gyfaill, D. Jones, yn llafurio yn y capel arall; a thrwy eu cyfeillgarwch, daeth pethau i well ysbryd yn y lle. Nid yn unig yr oedd Mr. Jones yn boblogaidd a pharchus gartref, ond yr oedd yn cael ei ystyried yn un o brif bregethwyr y Dywysogaeth. Yng nghanol ei barch ym Mlaen Afon, cafodd alwad i Sion, Merthyr, yr hwn le oedd mewn angen gweinidog, o herwydd i'r Parch. D. Saunders gael ei daro gan y parlys. Ymsefydlodd yno yn 1839. Bu yno yn llwyddiannus iawn, a gorfu iddynt ailadeiladu y capel mawr presennol. Yn y cyfamser, aeth of a chyfaill i ffynnonau Llanfair ym Muallt er mwyn iechyd ; ac yn agos i Bont Newydd ar Wy, gwylltiodd y ceffyl, a neidiodd Mr. J. i lawr, a chafodd yr anffawd o dori ei ddwy glun. Dyoddefodd lawer o boenau, a methodd bregethu am bymtheg mis. Dywedir i'r gynnulleidfa, yn adeg ei gystudd, leihau yn fawr; ond ar ol ei adferiad, daeth y crwydriaid yn ol. Ni ddaeth yn alluog i fedyddio, ac felly urddwyd dau bregethwr i'w gynnorthwyo. Dywedir ei fod yn areithiwr godidog---yn rhagori ar agos bawb yng Nghymru mewn cyflawnder geiriau; ac nid geiriau gweigion mo honynt, ond yr oedd cyflawnder o feddyliau yn dyfod i'r golwg bob mynyd, fel trysorau gyda chenllif. Yr oedd yn ddyn hardd, a boneddigaidd ei ymddangosiad, fel y cerid ef yn gyffredinol; a phan yn pregethu yn ei lawn hwyliau, yr oedd ei olwg yn swynol iawn. Bu farw ar ol byr gystudd, Mai 5, 1859, yn 52 oed. Claddwyd ef yn yr un bedd a'i gydfugeiliaid, D. Saunders a Rees Jones. Yn ei amser ef yr adeiladwyd Silo, Abercanaid; a Charmel, Coed y Cymmer.

JONES, JOHN, gweinidog yr Undodiaid yn Heol y Felin, Aberdar, a aned ym Mhant Lluost, plwyf Llanarth. Bu am ryw amser yn ysgol enwog Castell Hywel, o ba le y symmudodd i Goleg Henadurol Caerfyrddin. Ar ol bod yno am dair blynedd, a chyrhaedd gradd lled uchel mewn dyageidiaeth, ymadawodd yn 1827. Ohyny hyd 1833, bu yn cadw ysgol mewn gwahanol fanau ; ac yn y flwyddyn grybwylledig, derbyniodd alwad i Hen Dy Cwrdd, Aberdar. Yn fuan ar ol hyn, priododd Miss Ann Roes, Gelligell, ger Llanbedr, ac agorodd ysgol ramadegol mewn cyssylltiad â'i gapel. Er yn ddiwyd gyda'r ysgol a'r weinidogaeth, efe a ysgrifenodd lawer iawn i'r wasg Gymreig._Ysgrifenodd erthyglau tra galluog i'r hen gyfres o'r Ymofynydd, ar Dystiolaeth Llyfr Natur am Dduw; Duw a'i Ddybenion yn ol ei Air; Sylwadau ar Gythreuliaid, &c." Cyhoeddodd Bregeth ar Edifeirwch Gwely Angeu yn 1836; Llyfr Cyntaf i Blant yr Ysgol Sul, 1839; cyfieithad o Lythyr Cogan ar y Drindod; Galwad ar yr Ieuenctyd i droi at Dduw, sef pregeth angladdol y Parch. Thomas Roes, Blaengwrach, 1840; Pregeth ar y Pechod yn erbyn yr Ysbryd Glan, 1846; Crwth Dyffryn Clettwr, sef gwaith barddonol ei frawd, Rhys Jones, gydag hanes yr awdwr, 1848; Traethawd ar y Sabbath; Casgliad o Salmau a Hymnau, 1857. Dywedir fod Mr. Jones i raddau yn erwin yn ei ymddangosiad cyntaf; ond erbyn ei adnabod, celid ar ddeall fod ganddo galon dyner a chariadus, a bod ynddo y cyfaill a'r dyngarwr diffuant yn trigo. Mab iddo yw y Parch. Rees J. Jones, sydd wedi ei ddilyn yn Aberdar. Yr oedd Mr. Jones yn wr o alluoedd cryfion, yn ysgolor da, ac o fywyd tra llafurus. Efe oedd y cyntaf i feddwl am gychwyn yr Ymofynydd, a hyny mor gynnar a'r flwyddyn 1835. Gadawodd ar ei ol lawer o bregethau dysgedig.

JONES, JOHN, o'r Ystrad, ger Caerfyrddin, a aned, medd rhai, yn y Crynfryn, plwyf Nantcwnlle; ond dywed ereill, yn Heol y Brenin, Caerfyrddin Yr oedd yn fab i Thomas Jones, yr hwn fu farw yn 1793. Hanai ei dad o Johnsiaid Abermarlais; a bu y gangen yr hanai ef o honi yn preswylio yn Llansadwrn a Job's Well. Yr oedd ei fam, Anna Maria, yn gydetifeddes John Jones, Ysw., o'r Crynfryn. mab John Jones, o'r Tyglyn. Nid yw yn debyg i Mr. Jones dreulio nemawr o amser yng Ngheredigion, er mai yma, fel y dywedir, y ganed ef. Cafodd ei ddwyn i fyny yn far-gyfreithiwr, a chyrhaeddodd radd uchel iawn yn yr alwedigaeth anrhydeddus hòno. Trwy ei wybodaeth ddofn o'r gyfraith, synwyr cryf, a buchedd foneddigaidd, yr oedd yn uchel iawn ei gymmeriad yn ei wlad. Bu yn adelod seneddol dros dref a sir Gaerfyrddin am flynyddau, ac ennillodd glod mawr fel cynnrychiolydd y bobl. Bu farw Tachwedd, 1842, yn 65 oed.

JONES, LEWIS, gweinidog yr Annibynwyr ym Mhen y Bont, ac wedi hyny yn Rhosan, oedd enedigol o ganol. barth y sir. Ganed ef yn y flwyddyn 1701. Dechreuodd grefydda yn ieuanc, a dechreuodd bregethu pan yn ddeunaw oed, ac felly yr oedd ar y maes un flynedd ar bymtheg o flaen Hywel Harris. Ar ol dechreu pregethu, aeth i Athrofa Caerfyrddin, lle y treuliodd ei amser arferol, a chynnyddai yn gyflym dros ben mewn dysgeidiaeth; ac yn unol â'i hawddgarwch a'i dduwioldeb, ennillodd iddo ei hun barch a chymmeradwyaeth ei gydfyfyrwyr a'i athraw. Cafodd ei urddo yn Llanedi. Lledodd ei glod trwy y wlad yn gyffredinol. Cafodd alwad i fyned i Ben y Bont a'r Bettws, maes llafur y dysgedig, y boneddigaidd, a'r llafurus Samuel Jones, Bryn Llywarch. Cydsyniodd a'r alwad. Coronwyd ei ymdrechion yno & llwyddiant mawr yn fuan. Yr oedd ei ymddangosiad, ei lais, ei ddull, a dwysder ei weinidogaeth yn ffafriol iawn iddo i ddylanwadu ar ei wrandawyr. Yr oedd yn gallu boddloni y boneddigion coethedig, ac hefyd y werin. Yr oedd yn y weinidogaeth enaid a chorff. Aberthai esmwythder, cysur, amser, ac iechyd er mwyn ennill eneidiau at Grist. Pregethai dair gwaith bob Sul, ac yr oedd yn pregethu bob prydnawn dydd Sadwrn yn hen gapel Pen y Bont. Byddai yn myned trwy y farchnad a'i wn du am dano, a byddai y bobl yn y farchnad a'r masnachwyr yn ei ddilyn yn fuan. Elai allan ar hyd y wlad i ddysgu a phreswadio dynion anystyriol. Un boreu Sul teg, fel yr oedd â llu o'i ffyddloniaid yn cerdded o Lanharan ar ei ol i Ben y Bont, gwelai dorf o ddynion yn chwareu pel. Ennynodd ei eiddigedd wrth weled Dydd yr Arglwydd yn cael ei halogi. Neidiodd i ben mur, a dechreuodd weddïo dros blant y campau. Dechreuodd y chwareuwyr arafu, gan nesu at y gweddiwr, a daeth y rhan fwyaf i'w wrando. Ar ol gweddio, dechreuodd bregethu (gan adael cyfarfod Pen y Bont) oddi ar Esai xxxviii. 10, 11, a dilynodd effeithiau rhyfeddol. Yr oedd mor addfwyn a'r oen, ac mor ddiniwed a'r golomen. Yr oedd sirioldeb, lledneisrwydd, a chydymdeimlad yn cartrefu yn ei wynebpryd. Yr oedd hon geisbwl annynul yn y dref yn ymdrechu ei flno. Pan oedd Lewis Jones yn cadw dyledswydd deuluaidd, aeth yno i'w derfysgu: lluchiai geryg i mewn trwy y ffenestr. Meddiannai yntau ei hun yn dawel. Edrychodd yn llaiaidd ar y ceisbwl, a chollodd hwnw ei nerth yn fuan, gan droi ymaith. Annogwyd Mr. Jones i'w gospi; ond efe a nacaodd. Cyn hir, aeth yr hen geisbwl yn glaf, a chafodd yntau gyfle i bentyru marwor tanllyd ar ei ben. Nid oedd neb yn ymgeleddu y gwr gresynus. Aeth Mr. Jones ato, gan gyfranu bwyd, diod, a meddyginiaeth. Trwy ymdrechion y gwr da, a bendith Duw, cafodd y truan wella, a daeth o hyny allan yn edmygwr diolchgar o Mr. Jones. Holwyddorai y bobl yn yr Ysgrythyrau, nes y daeth pobl ei ofal yn gedyrn mewn duwinyddiaeth. Cynnaliai hefyd ysgol ieithyddol; a dywedir ei fod mor gyfarwydd â'r Hebraeg, fel y gallai ymddyddan a'r Iuddewon yn yr iaith hono. Cododd rai ysgolheigion rhagorol. Ymwelai yn flynyddol â choleg Caerfyrddin. Yr oedd yn ddyn manol iawn. Cadwai ddyledswydd deuluaidd i'r un mynydau bob dydd. Yr oedd yn rhy dyner-galon i ddiarddel neb, fel y byddai yn arfer ymofyn yr hen Edmund Jones, Pont y Pwl, at hyny. Merch iddo oedd gwraig Mr. Jardin, athraw Coleg Abergafeni. Symmudodd ym mhryddawn ei fywyd i Rosan, swydd Henffordd. Bu farw yn y fl.1772, yn 72 ml. oed. Bu dros hanner can mlynedd yn y weinidogaeth, ac meddir, yn un o'r gweinidogion goreu a fu yng Nghymru erioed.

JONES, LEWIS, periglor Almondbury, ger Huddersfield, swydd Gaerefrog, oedd ail o dri mab William a Mary Jones, Penbontbren Uchaf, plwyf Llanfihangel Geneu'r Glyn. Ganed ef yn y flwyddyn 1793 Yr oedd ei dad yn ieuengaf o dri mab William John, Hafodau, plwyf Llanbadarn Fawr. Mae yr Hafodau wedi bod ym meddiant y teulu er ys tri chant o flynyddau; ac y mae y teulu wedi, ac yn parhau i fod, yn bobl barchus a dylanwadol yn y wlad. Y mae Penpontbren Uchaf ar lan yr afon Llyri; (1) a phan yn dra ieuanc, syrthiodd Mr. Jones i'r afon hono, a bu agos a boddi; a buasai yr amgylchiad galarus wedi cymmeryd lle, oni buasai i'w fam yn rhagluniaethol ei ganfod yn cwympo, ac felly rhedeg i'w gipio o'r llif. Bu brawd iddo foddi yn y fan. hòno ychydig cyn hyny. Anfonwyd ef i Ysgol Ramadegol Ystrad Meurig, lle yr addysgwyd ef yn elfenau gwybodaeth glasurol a chyffredinol, dan ofal yr enwog Barch. John Williams. Symmudodd oddi yno i Ysgol Ramadegol Clitheroe, sir Gaerhirfryn, lle yr arosodd am flynyddau fel un o'r athrawon, Yn ystod ei arosiad yno, efe a ennillodd sylw ąc edmygedd llywyddion y sefydliad, yn enwedig y Parch. Gorweinydd Parker, periglor Bentham. Trwy ddylanwad teulu y boneddwr hwnw, cyflwynwyd Mr. Jones i fywoliaeth Almondbury, heb ymofyn am dani, ac ymsefydlodd yn 1822. Pan ddaeth i'r lle, cafodd werth y fywoliaeth mor fychan, fel y gorfu, er mwyn cadw ei hun rhag angen ymborth, gymmeryd nifer o fyfyrwyr fel byrddwyr i dderbyn addysg glasurol. Gosododd ei feddwl ar waith i chwanegu gwerth y fywoliaeth, a thrwy ei graffder a'i ddyfal barhâd, efe a'i cododd yn ystod ugain mlynedd yn werth 670p. y flwyddyn. Ychydig amser wedi hyny, cafodd fywoliaeth Llandefaud, Gwent Isgoed, lle yr oedd yr Eglwys mewn cyflwr tra dadfeiliedig. Efe a ymwrthododd â chynnyrch arianol ei swydd fel offeiriad y plwyf, gan gyflëu y cwbl a dderbyniai tuag at adgyweirio yr hen adeilad, tra bu yn ei dal. Trwy ei haelioni a'i ofal ychwanegwyd llawer ar werth y fywoliaeth. Ni dderbyniodd efe ddim oddi wrthi. Ar ol iddo adeiladu yr Eglwys yn 1843, ysgoldy hardd, & thy cyflëus i'r athraw, a gwaddoli yr ysgol ag ugain punt y fwyddyn, rhoddodd y fywoliaeth i fyny. Y mae plwyf Almondbury, yn yr hwn y bu Mr. Jones yn llafurio am gymmaint amser, yn cynnwys 30,140 erwau o dir, a phan ddaeth dan ei ofal, nid oedd braidd ddim cyfleusderau Eglwysig ac addysgiadol, er fod y boblogaeth pryd hyny yn 13,539. Byddai yn fynych yn y nos, yn cael ei alw oddi wrth ei deulu i deithio ym mhell dros y bryniau i fwthynod y plwyfolion, er esmwythäu y cleifion a'i gymmwynasau tyner, ac i gryfhau llawer enaid prudd ar ei ddynesiad i dragwyddoldeb, â gweddiau rhagorol yr Eglwys Fel offeiriad llafurus a Christion ystyriol, ymgynghorodd â chyfoethogion y gymmydogaeth gyda golwg ar adeiladu eglwysi newyddion yn y trefilanau; a llwyddodd yn yr anturiaeth. Bu yn offerynol i godi nid llai na phymtheg Eglwys newydd yn y plwyf, ugain o yagoldai, a thri ar ddeg o bersondai! Yr oedd ar ddechreu adeiladu eglwys newydd a phersondy yn Longley, treflan tua milltir a banner o eglwys y plwyf. Mae y trigolion erbyn hyn wedi cynnyddu dros ddwy fil a deugain. Amcan mawr arall ganddo oedd cyflwyno gwybodaeth fuddiol i blant y dosbarth gweithiol, fel y gwelir yn ysgolion cenedlaethol Almondbury, y rhai a godwyd ac a gynnaliwyd ganddo hyd ei farwolaeth. Priododd yn y flwyddyn 1830, a Miss Watkyn, Moelcernydd, Ceredigion, yr hon sydd yn awr yn fyw, yng nghyd ag un mab a thair merch. Ymddangosodd anerchiad priodasol iddynt gan Carn Ingli yn y Gwladgarwr. Er ei fod wedi treulio ei oes yn Lloegr, yr oedd yn Gymro o galon lwyr Gymreig, yn llawn gwladgarwch. Yr oedd ei iaith, ei wlad, a'i genedl, yn gyssegredig yn ei galon; ac yr oedd gyda'r hyfrydwch mwyaf yn croesaw brodorion Cymru a fyddent yn ymweled â'r parth hwnw o Loegr. Bu dros ddeng mlynedd ar hugain yn llywydd ar "Gymdeithas Offeiriadol Gymreig swydd Gaerefrog." Dyben y gymdeithas hòno oedd gwella yr Eglwys Gymreig, drwy ymdrechu cael Cymry i lanw yr esgobaethau yng Nghymru. Traethodd y gwladgarwyr hyn eu meddyliau yn ddidderbyn wyneb. Y mae llyfrynau wedi eu cyhoeddi yn cynnwys yr areithiau a draddodwyd ganddynt yn eu cyfarfodydd blynyddol ar ddydd gwyl Dewi. Bu Mr. Jones yn offerynol i blanu llawer o offeiriaid Cymreig yn ei ardal; ac un o honynt oedd y diweddar Garn Ingli, pan yn 22 oed. Cynnyddai yn gyflym mewn gwybodaeth a chymmeriad crefyddol, a chafodd yn fuan ei andog bregethu. Ar ol ychydig betrusder, efe a ymunodd a'r cais. Elai yn fisol i Grug y Bar, Ffald y Brenin, a Mynydd Bach. Pan tua 25 oed, priododd & Jane, merch Dafydd Ifans, Felin Gernos. Urddwyd ef yn Llangynwyd a Chymmer, Glyn Corwg, ym Morganwg, yn 1800. Bu yn ddiwyd iawn a llwyddiannus. Efe a sefydlodd achos ym Mrynmenyn. Aeth i bregethu i gynulleidfa fechan a gyfarfuasent mewn hen efail, ond yn awr Bethesda, ym Merthyr. Bu yn 'offeryn i adeiladu ac ailadeiladu Beth- esda; a phlanodd achosion yn Rhymni, Dowlais, Troed y rhiw, a Chefn Coed y Cymmer. Yn ystod ei arosiad o 39 mlynedd ym Methesda, bernir iddo dderbyn yno dair mil o aelodau. Bu farw Ion. 15, 1839, yn 71 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Bethesda. Yr oedd yn ddyn tal rhyfeddol, ac felly hefyd ei blant. Mab iddo oedd y diweddar Barch. D. Jones, yr hwn fu yn genadwr yng Ngogledd America, ac wedi dychwelyd, yn Rheithor Llan- goodmor, a Phroffeswr y Gymraeg yng Ngholeg Dewi Sant.

JONES, MICHAEL, diweddar weinidog yr Annibynwyr yn Llanuwchlyn, oedd enedigol o blwyf Henfynyw, yn agos i Neuaddlwyd. Symmudodd ei rieni o'r lle y cafodd efe ei eni i dyddyn o'r enw Ffos y Bontbren. Ymaelododd yn y Neuadalwyd, dan weinidogaeth y Dr. Philips Annogwyd ef yn fuan gan y Dr. i ymroddi at weinidogaeth yr Efengyl. Aeth i ysgol enwog Mr. Davis, Castell Hywel; ond gorfodid ef ar amserau i gadw ysgol ei hun. Yn 1810, cafodd ei dderbyn i athrofa y Gogledd, pryd hyny a gynnelid yng Ngwrecsam, dan arlywyddiaeth y Dr. Jenkin Lewis. Yn ystod y ddwy ilynedd ddiweddaf yno, yr oedd Dr. George Lowis yn athraw duwinyddol. Yn y flwyddyn 1814, cafodd ei urddo yn Llanuwchlyn, lle yr arosodd am 28 o fynyddau. Yn fuan ar ol iddo sefydlu yno, aflonydd- wyd heddwch crefyddol y lle, gan rai a goleddent olygiadau o Uchel-Galfiniaeth. Cynnyddodd yr ymrysou dadleuol hyn i raddau pell dros y wlad ar y pryd. Pryd hyny, yr oedd rhai o'r Annibyuwyr yn dyfod allan i bregethu y rhai pan yn 22 oed. Cynnyddai yn gyflym mewn gwybodaeth a chymmeriad crefyddol, a chafodd yn fuan ei annog bregethu. Ar ol ychydig betrusder, efe a ymunodd a'r cais. Elai yn fisol i Grug y Bar, Ffald y Brenin, a Mynydd Bach. Pan tua 25 oed, priododd & Jane, merch Dafydd Ifans, Felin Gernos. Urddwyd ef yn Llangynwyd a Chymmer, Glyn Corwg, ym Morganwg, yn 1800. Bu yn ddiwyd iawn a llwyddiannus. Efe a sefydlodd achos ym Mrynmenyn. Aeth i bregethu i gynulleidfa fechan a gyfarfuasent mewn hen efail, ond yn awr Bethesda, ym Merthyr. Bu yn offeryn i adeiladu ao ailadeiladu Bethesda; a phlanodd achosion yn Rhymni, Dowlais, Troed y rhiw, a Chefn Coed y Cymmer. Yn ystod ei arosiad o 39 mlynedd ym Methesda, bernir iddo dderbyn yno dair mil o aelodau. Bu farw Ion. 15, 1839, yn 71 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Bethesda. Yr oedd yn ddyn tal rhyfeddol, ac felly hefyd ei blant. Mab iddo oedd y diweddar Barch. D. Jones, yr hwn fu yn genadwr yng Ngogledd America, ac wedi dychwelyd, yn Rheithor Llan- goodmor, a Phroffeswr y Gymraeg yng Ngholeg Dewi Sant.

JONES, MICHAEL, diweddar weinidog yr Annibynwyr yn Llanuwchlyn, oedd enedigol o blwyf Henfynyw, yn agos i Neuaddlwyd. Symmudodd ei rieni o'r lle y cafodd efe ei eni i dyddyn o'r enw Ffos y Bontbren. Ymaelododd yn y Neuadalwyd, dan weinidogaeth y Dr. Philips Annogwyd ef yn fuan gan y Dr. i ymroddi at weinidogaeth yr Efengyl. Aeth i ysgol enwog Mr. Davis, Castell Hywel; ond gorfodid ef ar amserau i gadw ysgol ei hun. Yn 1810, cafodd ei dderbyn i athrofa y Gogledd, pryd hyny a gynnelid yng Ngwrecsam, dan arlywyddiaeth y Dr. Jenkin Lewis. Yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf yno, yr oedd Dr. George Lowis yn athraw duwinyddol. Yn y flwyddyn 1814, cafodd ei urddo yn Llanuwchlyn, lle yr arosodd am 28 o flynyddau. Yn fuan ar ol iddo sefydlu yno, aflonyddwyd heddwch crefyddol y lle, gan rai a goleddent olygiadau o Uchel-Galfiniaeth. Cynnyddodd yr ymryson dadleuol hyn i raddau pell dros y wlad ar y pryd. Pryd hyny, yr oedd rhai o'r Annibynwyr yn dyfod allan i bregethu y rhai â elwir yn dybiau cymmedrol Dr. Williams, o Rotherham, ac Andrew Fuller. Aeth y ffrwgwd hon ym mhell iawn yng nghynnulleidfa Mr. Jones; ac efe a safodd dros olygiadau Dr. Williams ac Andrew Fuller, gyda llawer iawn o wroldeb. Oherwydd hyn, taflwyd y capel i'r Canghell-lys, fel y gorfu arno ef a'i ganlynwyr fyned i addoli i dy arall. Ar ol hir dymmestl, daeth yr awyr yn deneuach, a chafodd Mr. Jones a'i fobl ddychwelyd i'r hen gapel; a chyn hir, dychwelodd y rhan fwyaf o'r "terfysgwyr "Uwch-Galfinaidd i ymofyn lle gyda'r brodyr. Symmudodd Mr. Jones i'r Bala yn 1841. Pan symmudwyd athrofa yr Annibynwyr o'r Gogledd i Aberhonddu, penderfynodd gweinidogion y Gogledd i gael sefydliad ym mhlith eu hunain, a dewiswyd Mr. Jones yn benaeth. Dewiswyd y Bala yn safle yr athrofa; ac yno y treuliodd y deuddeg mlynedd diweddaf o'i oes. Yn ystod y tymmor hwn, ni fu llai na 89 o wŷr ieuainc yn derbyn addysg ganddo; ac y mae llawer o honynt heddyw yn weinidogion parchus. Dywedir ei fod yn ddyn o nerth anianyddol anghyffredin. Codai yn rheolaidd rhwng 5 a 6 o'r gloch yn y boreu, a dwywaith yr wythnos rhwng 1 a 2. Yn ystod ei holl yrfa weinidogaethol, efe a gadwai un o'r ysgolion rhad hyny, a sefydlwyd yn y Gogledd, gan warcheidwaid y Dr. Williams. Yr oedd ganddo bedair neu bump o Eglwysi bychain dan ei ofal. Arferai myfyrwyr ei gyfarfod yn yr ysgol am chwech y bore; am naw, efe a elai i'r ysgol rad, lle yr arosai dros awr, ac yna elai at y myfyrwyr hyd un ar ddeg, tra y cymmerai un o honynt hwythau ofal yr ysgol rad. Gollyngai hwynt oll am un ar ddeg, a chyfarfyddent eilwaith am un o'r gloch; ac felly cynnelid yn mlaen y ddwy ysgol. Yr oedd yn hynod o benderfynol. Dywedir nad oedd yn hoff o farddoniaeth; ac arferai ddywedyd, nad oedd nemawr o feirdd yn feddylwyr dyfnion. Fel duwinydd, yr oedd wedi darllen llawer, ond yn barnu pob rhan o'r Beibl yn ol fel yr oedd ei ddeall ei hun yn ei weled. Yr oedd o feddwl annibynol iawn. Nid oedd ganddo fawr olwg ar yr hyn a elwir "Adfywiadau Crefyddol." Hoffai weled pobl yn dyfod i dy Dduw yn eu hiawn bwyll; ac heb hyny, nad oedd fawr obaith y gwelid hwy yn parhau gyda'r gwaith. Hawdd deall wrth ei olwg ei fod yn ddyn hynod. Yr oedd ei gyfeillach yn ddifyr ac adeiladol. Yr oedd yn gyfaill cywir - ei gyfeillgarwch mor ddiysgog a'r graig. Yr oedd yn ddirwestwr llwyr; ac ni arferai fyglys, ond yr oedd yn elyn pendant iddo. Bu farw Hyd. 27, 1853, yn 68 oed. Yr oedd 30 o weinidogion perthynol i wahanol enwadau yn ei angladd. Claddwyd ef ym mynwent capel Ebeneser, Llanuwchlyn. Mab iddo yw y Parch. M. D. Jones, yr hwn sydd wedi ei ddilyn yn athrofa y Bala, yr hwn yw blaenor symmudiad y Wladychfa Gymreig, ym Mhatagonia.

JONES, RHYS, gweinidog gyda'r Bedyddwyr, ydoedd enedigol o Dregaron. Yr oedd wedi derbyn mwy o addysg na nemawr o'i gyfoedion yn ei oes. Dechreuodd bregethu tua'r flwyddyn 1718. Urddwyd ef yn Ty tan yr Allt Fawr, plwyf Llandyssul, yn y flwyddyn 1740. Gweinidogaethodd yn y parthau hyny am dair blynedd, a symmudodd i Ben y Fai, Morganwg. Dychwelodd i lenydd y Teifi, a bu farw yn 1767.

JONES, RHYS, diweddar o Bwllffein, a aned yn Nhalgareg, plwyf Llanarth, Hyd. 1797. Ei dad oedd Dafydd Jones, o Glettwr, ac yr oedd ei hynafiaid yn hen feddiannwyr tir yn y wlad. Bu farw ei dad pan yn lled ieuanc. Bu yn yr ysgol gyda'r enwog Ddafis, o Gastell Hywel; ond o herwydd marwolaeth ei dad, ac i'w fam briodi â'r gwas, ymddengys iddo orfod ei gadael yn fuan. Yr oedd yn ysgolor gweddol dda mewn Cymraeg, Seisoneg, Lladin, a Groeg. Priododd, pan yn ugain oed, â Mari, unig ferch John a Jane Davies, Nant yr Ymenyn, Llandyssul. Dechreuodd ddangos hoffder at yr awen pan yn lled ieuanc, gan gyfansoddi llawer iawn yn y mesurau rhyddion yn gystal a'r mesurau caethion. Yr oedd yn hyn yn ddigon o "grwth a helyn" mewn difyru y gymmydogaeth yr oedd llawer o ofn ei awen arab a gwawdlym ar ddynion annynol y wlad. Yr oedd hefyd yn gyfeillgar a chariadas i'r gymmydogaeth; a chan ei fod mewn amgylchiadau cysurus, cyfranai yn fynych at angen ei gymmydogion

mewn modd diymffrost, ac ys dywedodd Dewi Wyn :

“Bued na wypo byd neppell,
lë, naill law a wnel y llall."

Nid oedd yn ymofyn cael ei weled. Yr oedd yn aelod aiddgar iawn gyda'r Undodiaid ym Mhant y Defaid ; ac ef allai nad oedd modd cael nemawr un yn fwy felly yn y wlad. Yr oedd hefyd yn gerddor gwych, ac yn gallu chwareu amryw offer cerdd. Ysgrifenodd lawer i'r Seren Gomer ar bynciau dadleuol ei oes— pynciau yn benaf yn perthyn i Undodiaid. Ei brif ffugenw oedd Amnon. Bu farw ei wraig gyntaf pan yn lled ieuanc, ac efe a briododd yr ailwaith, â Miss Martha Gough, Ffynnon Oer. Bu farw Chwefror 15, 1844, yn 47 oed, a chafodd ei gladdu ym mynwent Pant y Defaid. Ysgrifenwyd cofiant gweddol helaeth iddo yn Seren Gomer, yng nghyd ag englynion, gan Thomas Emlyn Thomas. Casglwyd a chyboeddwyd ei waith barddonol gan ei frawd, y Parch. John Jones, Aberdar, dan yr enw Crwth Dyffryn Clettwr, yn 1848. Gadawodd ar ei ol ddwy ferch o'r wraig gyntaf, y rhai sydd mewn amgylchiadau cyfoethog a pharchus.

JONES, SAMUEL, oedd fab henaf John Jones, Llwyn Rhys. Cafodd ysgol uchel, a daeth yn ysgolfeistr dysgedig. Bu am flynyddau lawer yn cadw ysgol enwog yn Richmond, ger Llundain. Bu ei frawd, y Cadben Jones, yn yr ysgol ganddo Cymmerodd ran yng nghyfansoddi y llyfrau a ysgrifenodd ei frawd; ond pa faint nid oes hanes. Mae yn debyg iddo, fel y Cadben, orphen ei oes yn Lloegr.

JONES, SYLVANUS, yr achwr a'r hynafiaethydd enwog o Nant yr Ymenyn, Llandyssul, oedd o'r un teulu a Jonesiaid Llanio a Llancych. Yn ol achres Llanio, priododd Walter Jones, Llanio, & merch Walter Jones, Nant yr Ymenyn, a chwaer Sylvanus Jones, a thyna yr unig gyssylliiad. Arddelai Llanio arfbais Gweithfoed Fawr, a Nant yr Ymenyn arfbais Tewdwr Mawr. Treuliodd gryn amser yn India. Meddiannai lawer iawn o ysgriflyfrau hynafiaethol. Mae o'n blaen hen achlyfr gwerthfawr a ysgrifenodd ei hun, wedi ei ddyddio Mai, 1763. Y mae yr achlyfr hwn yn dangos fod yr awdwr yn hynafiaethydd cyfarwydd. Cynnwys achau hen deuluoedd swyddi Ceredigion a Chaerfyrddin. Bwriadai ysgrifenu ar sir Benfro; ond yn rhywfodd fodd, nid yw y sir hòno i mewn, er ei bod yn cael ei henwi ar y wyneb ddalen. Y mae wedi ei wneyd i fyny yn benaf o ysgriflyfrau W. Lewes, Ysw., Llwynderw, ac achlyfr y Fairdref. Y mae sylwadau Mr. Jones, ac wrthynt S. J., yn dangos ei fod yn gyfarwydd â hanos ei wlad. O'r llyfr hwn y cafodd Dr. Meyrick achau y sir at ei History of Cardiganshire. Yr oedd yn berchen tir ei hun, ac yn wr cyfoethog. Wyr iddo yw Mr. J. S. Jones, masnachwr, Llandyssul.

JONES, THEOPHILUS, pregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Nhregaron, oedd fab Evan Jones, Rhyd yr Efail, Lledrod. Ganed ef yn 1762. Yr oedd ei dad yn un o'r cynghorwyr cyntaf ym mhlith y Trefnyddion yn y Deheudir. Yr oedd Theophilus Jones yn gefnder i'r Parch. John Williams, olynydd Edward Richard yn ysgol Ystrad Meirig; ac efe a gafodd ei anfon ato i'r ysgol enwog hòno. Parhaodd yno am flynyddau. Dywedir i'w gefnder haeddbarch roddi iddo annogaeth i fyned yn offeiriad, ac ef allai i hyny fod ar ei feddwl yntau; ond ar yr amser hwnw daeth diwygiad i blith y Trefnyddion yn Lledrod, ac felly efe a ymunodd â hwy. Pan o gylch ugain oed, efe a aeth i Athrofa Arglwyddes Huntington, yr hon a gynnelid yr amser hwnw yn Nhrefecca. Dechreuodd ei weinidogaeth gyhoeddus yn Lledrod, pan tua thair ar hugain oed, a pharhaodd bregethu o ddeutu pedair a deugain o flynyddau. Yn 1806, priododd Ann, merch Edward ac Ann Davies, Rhydlwyd, Lledrod, a bu iddynt naw o blant. Symmudodd i Dregaron. Yr oedd Theophilus Jones yn ysgolor rhagorol - yn dra hyddysg mewn Groeg a Lladin. Yr oedd hefyd yn bregethwr gwreiddiol a rhagorol. Yr oedd braidd yn gymmeriad arbenig ym mhob ystyr. Yr oedd yn llawn arabedd tarawiadol yn y pulpud, fel yn ei ymddyddan cyffredin. Nid oedd ei sefyllfa fydol yn deilwng o'i ysbryd boneddigaidd; ac nid oedd ei iechyd chwaith ond gwanllyd drwy ei oes, ac yr oedd yn agored i lawer o wendid ysbryd. Byddai yn teimlo yn ddwys oddi wrth oerfel y gauaf, ac felly byddai yn arfer gweddïo am dywydd sych i gael y mawn yn ddiogel o'r Gors Goch. Dywedai y sawl oedd yn ei adnabod yn dda, ei fod yn fwy na dengwaith cymmaint fel ysgolor a phregethwr na llawer up hunanol ag oedd yn byw ar ei lais, ac yn tybied ei hun yn fawr. Aeth yn y flwyddyn 1820, at Esgob Ty Ddewi i Abergwili, i geisio ganddo ei urddo yn offeiriad; ond gwedi gofyn ei oed, atebodd, “You are too old.” Teimlodd yn rhyfeddol am hyny; a phan yn pregethu ym mhen blynyddau yng Nghaerfyrddin, cymbellai bechaduriaid i droi at Grist, gan gyfeirio at yr oedranuis, gan ddywedyd, "Mae Iesu Grist yn derbyn pwy bynag a ddel, ië, yr hen bechadur tlawd. Nid yw efe ddim fel eich hesgob chwi yma yn dywedyd, "You are too old." Bu yn gyfyng iawn arno yn llys ei enwad o herwydd cynnyg ei hun i'r esgob; ond o blegid eiriolaeth a ffyddlondeb ei gyfaill, y Parch. Eben. Richard, cafodd faddeuant. Wedi ei hir guro gan lesgedd, efe a fu farw Mai 29, 1829, yn 67 oed. Ceir erthygl faith arno yn yr ail gyfrol o'r Traethodydd.

JONES, THOMAS, neu Twm Sion Cati, ydoedd enedigol o Borth y Ffynoon, ger Tregaron. Y mae traddodiad am dano ei fod yn ysbeiliwr penffordd, ac yn enwog am ei holl gampau drygionus pan yn ieuanc, ac y mae llawer o draddodiadau rhyfeddol am dano yn y wlad hyd heddyw; mewn gair y mae enw "Twm Sion Cati" yn deuluaidd ym mhob ty yng Ngheredigion. Cyhoeddodd y diweddar Llywelyn Prichard gyfrol o'r enw Adventures of Twm SionCati. Nid oes modd traethu yn iawn pa faint o wirionedd sydd yn y traddodiadau; ond y mae un cysur gwerthfawr, iddo newid ei fywyd, a daeth yn ddyn rhyfeddol ei barch yn ei wlad. Yr oedd Thomas Jones yn hanesydd Cymreig ardderchog, yn gystal a bardd. Mae yr enwog Dr. Sion Dafydd Rhys, yn rhoddi clod uchel iddo yn ei Ramadeg Lladin a Chymraeg, argraffedig yn 1592 :-

"RHYWIEU CERDDORION

"Pribhardh
"Posbhardh

"Arwydhbhardh. Pwy bynac a dhwetto 'i phod yn Arwydhbardh. gwybydhed achoed, Brenhinoedh a' Thywysogion a'r chybharwydbwyd oddiwrth y Tri Phribbardh Ynys Prydain nid amgen, Myrdhin ab Morbhrynn a' Merdhin

Emrys, a Thaliesin Benn Beirdh, ac yn Nghelbhydhyd Arwydhbhardhoniaeth, o ran gwybod yn berphaith 'wir Achoedh, ac arwydhion, a' Theilynghdawt, ac odidogion weithredoedh Pendevhigion, a' Bonedhigion Cymru; odidochabh, a pherpheithiabh (a hyny yn ddiammheu) y bernir Thomas Sion.., alias Moetheu o Borth y Phyonon, yn ymyl Trebh Garon (Thomas Jones of Fountain Gate). A' phan dharpho am dano, ebh a bhydh dhigon petrus y dhamwain alhu o hono yr hawc, âdu yn ei öl Cymar iddo; na chwaith neb rhyw achwr, a dhichon (o rann bod mor gyfhredin ac ebh ynn yr 'wybodaeth honn) wneuthur cymeint a phwyso parth ac atto."

Yr oedd Thomas Jones, neu Moethau, yn hanu o Ddafydd Moethau a Gruffydd Foel, o Gastell Odwyn, hen deulu Arglwyddi Ceredigion; ac yr oedd rhai o honynt yn ysgolheigion ac arwyddfeirdd enwog. Fel hyn y mae hen achres o'n blaen “Dafydd Moethau o Lanbadarn Odwyn, Rhys, Hywel, Madog, Dafydd. Plant Dafydd ab Madoga-1 John, 2 Rhys, 3 John, 4 Lewis, Master off Arts, 5 Roegiar, 6 Richard. Mam rhain Siwan v. ag aeres Lewys ab Llywelyn, ab Gruffydd Fychan, ab Dafydd Fongam (Fychan?) ab Dafydd ab Meirig Goch, &c. Plant John ab Dafydd, Tomos b Johns o Borthffynnon. Mam Tomos - Kathrin b v. Meredydd ab Ieuan ab Robert. Arfau Thomas Johns hwn yw pais Gweithfoed.” Mae yr achres o waith Tomos Jones ei hun; ac ni a welwn ei fod yn ddigon geirwir i osod b ar ei ol ei hun, ac ar ol ei fam, i ddangos mai basdarddiaid oeddynt. Priododd Tomos Jones & Jane, ferch Syr John Pryse o Aberhonddu. Bu Jane Pryse yn briod cyn hyny â Syr George Devereux, ac wedi hyny â Thomas ab Rhys ab William ab Thomas, o Ystrad Ffin, Ysw. Na rodder coel i'r sothach celwyddog a draethir am y gwr enwog hwn gan Llywelyn Prichard ac ereill.

JONES, THOMAS, ydoedd fab Edward Jones, Nanteos, lle y ganwyd ef yn 1618. Derbyniodd ei ddysg yng Ngholeg Merton, Rhydychain, lle yr etholwyd ef yn ddysgybl ysbas; pan yn ugain oed, 1637, yn athraw y celfyddydau. Ymwelodd â Ffrainc ac Itali, gyda George, mab ac etifedd Syr Nathan Brent; ond dychwelodd yn anffodus i'w amcan; ac ymostyngodd i ymwelwyr penodedig y Senedd, Awst 6, 1649. Efe, ar ol hyny, a ymroddodd i astudio y gyfraith ddinesig; ac yn 1659 efe a gymmerodd y radd o Ddoethor yn yr alwedigaeth hồno. Yn y flwyddyn ganlynol, efe a gyhoeddodd "Oratio habita in Auditorio juridico, cum Recitationes solennes in Titulum de Judiciis auspicatus est," 8plyg., Rhydychain, 1660. Gyda'r gwaith hwn y mae dau draethawd arall, "De Judiciis, ubi de Persona et Officio Judicis apud Ebraeos et Romanos late disputatur;" a "De Origine Dominis et Servituatis Thesis Juridicae." Y mae y llyfrau hyn yn dangos ei fod yn ysgolor Groeg a Hebraeg o radd uchel. Wedi symmud i Lundain, lle y bu yn ymarfer yn y Rheithgoleg (Doctors' Commons), bu farw o haint y nodau yn y flwyddyn 1665.

JONES, THOMAS, sylfaenydd y Feibl Gymdeithas, a aned yng Nghefn yr Esgyr, yn agos i balas Hafod Ychdryd, yn y flwyddyn 1752. Yr oedd ei dad yn amaethydd bychan, ac yn berchen y tir ei hun. Yr oedd rhywbeth yn hynod mewn daioni yn Mr. Jones pan yn ieuanc. Pan yn dair ar ddeg oed, efe a anfonwyd i Ysgol Ramadegol Ystrad Meirig, o dan ofal yr hyglod Edward Richard, lle yr arosodd am tua naw mlynedd, pryd y cafodd ei urddo. Ei guradiaeth gyntaf oedd Eglwys Fach a Llangynfelyn, ger Aberystwyth. Cafodd ei urddo Medi, 1774, pan yn ddwy ar hugain oed; ac arosodd yn gurad yn yr Eglwysi hyn hyd Awst, 1779. Cymmerodd pryd hyny guradiaeth Leintwardine, yn swydd Henffordd, lle yr arosodd am tua blwyddyn a hanner; ac wedi hyny, efe a symmudodd i guradiaeth Lognor, swydd Amwythig. Tra yno, yr oedd arno ofal pedair Eglwys, a gwasanaethai dair o honynt bob Sul, gan adael un ar ei thro heb ei gwasanaethu. Gan fod ei iechyd yn wan, gorfu arno edrych am gylch â llai o waith; ac yng Ngorphenaf, 1781, efe a symmudodd i Groesoswallt. Ennillodd yno lawer o barch am ei aidd a'i ddiwydrwydd i helaethu ym mhlith ei blwyfolion deimlad o grefydd ysbrydol; ond oherwydd ei weinidogaeth "efengylaidd", gorfu arno ymadael yn Ionawr, 1782. Aeth wedi hyny i Loppington, ger Wem, yr hon guradiaeth a ddaliodd am dair blynedd. Ym Medi, 1785, efe a dderbyniodd guradiaeth Creaton, yn swydd Northampton, a daliodd ei gyssylltiad â'r plwyf am saith a deugain o flynyddau, yn y cylch o gurad, gyda'r eithriad o'r pum mlynedd olaf, pryd yr oedd yn beriglor. Yn y flwyddyn 1810, cafodd hefyd guradiaeth Spratton, yr hon a ddaliodd am ddeunaw mlynedd. Yn ystod yr amser hirfaith hyn, ennillodd iddo ei hun air da fel pregethwr efengylaidd, ac y mae ei weithiau rhagorol wedi taenu ym mhell ei glod; ac y maent yn cael eu darllen yn barhäus gyda chanmoliaeth fawr. Yr oedd ei boblogrwydd fel pregethwr yn uchel iawn, fel y deuai pobl o bymtheg ac ugain milltir i'w wrando; ac yr oedd prif dduwinyddion ac enwogion ei oes yn arfer talu ymweliad ag ef yno, ac yn pregethu. Sefydlodd Ysgol Sul yn Creaton yn 1789, yr hun oedd y cyntaf a sefydlwyd yn y sir hono, yr hon a fu yn fawr fendith i'r ardal. Ymwelodd â Chymru yn y flwyddyn 1789, er mwyn cryfhau ei iechyd; a phryd hyny, cymmerodd yn ei feddwl y mawr angen am ragor o Feiblau yn y wlad; ac felly efe a feddyliodd yn benderfynol i sefydlu rhyw gynllun i ddiwallu yr angen. Gobebodd â Mr. Charles o'r Bala, gan ddywedyd, "Mae y bobl yn marw o eisieu gwybodaeth." Dyma ddechreuad y symmudiad gogoneddus o sefydlu y Feibl Gymdeithas, yr hon, erbyn hyn, sydd wedi gwneyd mwy o ddaioni i Gymru, a rhanau ereill o'r byd, nas dichon un rhifyddwr ddangos, nac un areithiwr ddadgan: y fath beth gwerthfawr i'r byd yw cael gweinidog yr Efengyl, â gogoniant ei Dduw a les ei gyd-ddynion yn bobpeth yn ei galon. Yr oedd yn caru ei gydgenedl y Cymry o galon bur yn helaeth; a phan yn ysgrifenu at ei gyfeillion, byddai yn dangos ei hoffder o'r Cymry; ac yr oedd ei holl weithredoedd yn profi hyny; ond nid oes neb o ddynion da y byd heb fod felly. Bu farw y gwr enwog a thra rhagorol hwn, Ionawr 7, 1845, a chafodd ei gladdu ym mynwent Spratton, mewn man o’i ddewisiad ei hun.

Yr oedd Mr. Jones yn awdwr enwog, ac efe a gyhoeddodd y llyfrau canlynol yn Gymraeg. Cyfieithadau yw y rhan fwyaf a gyhoeddodd yn Gymraeg:-1 Rhodd i Gymmydog, gan Syr Richard Hall, 1783. 2. Gorphwysfa y Saint, gan Baxter. 3. Deuddeg o Bregethau ar Lyfr y Caniadau, gan Romaine. 4. Y Byd Cristionogol wedi ei Ddadorchuddio, gan Berridge. 5. Pregeth ar Farwolaeth Thornton, gan Scott. 6. Trathawd ar Fedydd Babanod. Hwn yw yr unig waith gwreiddiol yn Gymraeg. 7. Cyfaill Pechadur, yr hwn a gyfieithodd pan yn 83 oed. Cyhoeddodd y rhai canlynol yn Seisoneg:-1. Immanuel, or Scriptural Viewsof Jesus Christ, (1) 1799. 2. National Gratitude Expressed, â sermon, 1809. 3. Scriptural Directory. 1811. Mae y gwaith ardderchog hwn wedi cyrhaedd ei ddegfed argraffiad er ys ugain mlynedd. 4. The Welsh Looking-glass, 1812. 5. Jonah's Portrait, 1819. Cafodd wyth argraffiad o hwn ei ddwyn allan cyn pen hir amser. 6. The Fair Balance, 1824. 7. The Prodigals Pilgrimage, 1825. 8. Family Prayers, 1830. 9. Twenty-six Sermons, by the Rev. Morgan Lloyd, curate of Yspytty Ifan, translated from the Welsh, 1832. 10. The True Christian, 1833. 11. Sober Views of the Millennium, 1835. 12. The Interpreter, 1836. 13. An Essay on Infant Baptism, 1837. 14. The Christian Warrior, 1838. 15. An Essay on Idolatry of all Nations, 1838. 16. The Fountain of Life, 1838, a ysgrifenodd pan yn 87 mlwydd oed. 17. A Faithful Warning to Christian Congregations against the Oxford Heresy, 1841. Rhoddodd yn ei ewyllys 12p. y flwyddyn i Goleg Dewi Sant, Llanbedr, tuag at roddi gwobr flynyddol am y traethawd Cymreig goreu gan yr efrydwyr, yn ol penodiad llywodraethwyr y Coleg. Nid oes angen mynegu fod Mr. Jones yn un o'r dynion goreu a welodd ein byd erioed, a bod Lloegr fel hyn mewn dyled i Gymru am ei wasanaeth; a gwyn fyd na roddai yn ol i Wlad y Bryniau wasanaeth rhyw ddyn o'i debyg. Deil son am Thomas Jones, Sylfaenydd y Feibl Gymdeithas, tra'r byd yn bod : ys dywedodd Dewi Wyn yn ei "Elusengarwch,"

“Deall y byd oll o'i ben,
Gwel dlysau gwlad Elusen;
Yr oes hon, er ys ennyd,
Ceir hi'n ben coronau byd;

Er ei gwawrddydd o rydd ras
Dwthwn y Feibl Gymdeithas,
Elusen Elusenau!
Beth am hon byth i'w mwyhau?"

Yr oedd awen y bardd yn crochwenu wrth weled effeithiau daionus y Gymdeithas hon: ar ol i wybodaeth o Dduw daenu dros y byd, a phob gau grefydd ddarfod, gwaeddai allan,-

“Oian, ho, hoian, ha, ha, --crecbwenir
Yn nef, ban gwelir gan feibion GWALIA!"

(1) Cafodd ei Immanuel ei gyfieithu gan y Parch. M. R. Morgan,Llansamlet.

JONES, THOMAS, yr ysgolfeistr Cymreig olaf yn Ysgol Mrs. Bevan, ac ef allai hefyd yr olaf oll yng Nghymru, a aned yn Ffynnonau, plwyf Llandyssul. Ni fu erioed ysgolfeistr tebyg i Thomas Jones; yr oedd ganddo ddull hynod ei hun i ddysgu plant, a hwnw yn un tra llwyddiannus. Nid oes neb yng Nghymru yn awr a allant ddarllen Cymraeg mor odidog a'r rhai hyny fu yn ei ysgol ef. Son am Eisteddfodau a phethau ereill, eu bod yn gwneyd lles i'r Gymraeg! ni wnaeth neb na dim gymmaint lles yn y ffordd hon a Thomas Jones. Gorfu iddo yn y rhan olaf o'i oes blygu i ddysgu Seisoneg i'r plant; a gallodd wneyd hyny gyda llawer iawn o lwyddiant; ond Cymro Cymreig iawn oedd o ran ei deimladau. Bu farw yn y Cilgwyn, plwyf Nefern, yn 1853, ar ol gwasanaethu ei genedl gyda'r defnyddioldeb mwyaf. Bu yn cadw ysgol am 35 mlynedd.

JONES, THOMAS HUGH, Neuadd Fawr, ger Llanbedr, a anod yn y palas hwnw Awst 9fed, 1778. Enwau ei rieni ydoedd Thomas ac Ann Jones. Derbyniodd ei addysg foreuol yn ei ardal enedigol; ac er mwyn gwell manteision, anfonwyd ef drachefn i ysgol gyfrifol yng Nghaerwrangon. Ar ol gorphen ei addysg, daeth yn ol i'w le genedigol, sef y Neuadd Fawr. Yr oedd ei dad yn feddyg tra llwyddiannus yn ei amser, ac yn hollol hunanddysgol. Rhoddai ei wasanaeth yn rhydd ac yn rhad, a'r unig daliad a dderbyniasai oedd y pleser o weled ei waith yn gwneuthur lles i'w gyd-ddynion. Dechreuodd yntau (Mr. Thomas Hugh Jones) gymmeryd yn yr un gorchwyl daionus, a chynnyddodd yn fuan ym mhell tu hwnt i'w dad. Dechreuodd ei dalentau rhagorol ddysgleirio ym mhell tu hwnt i neb ag oeddynt wedi cael eu haddysgu fel meddygon, yn enwedig mewn cyweirio aelodau. Mae yn ffaith wirioneddol ag y gall cannoedd yn y wlad yn awr ddwyn tystiolaeth, i ugeiniau, a channoedd lawer hefyd, ddyfod i'r Neuadd Fawr mewn cerbydau a cheirt yn hollol analluog i symmud mewn un modd, o herwydd tori esgyrn neu ddadgymmalu aelodau; a chyn dychwelyd, yn alluog i gerdded. Hwyrach y gall rhywrai na chlywsant son am ei fedr rhyfeddol wawdio a diystyru hyn; ond y maent yn wirioneddau bob gair o honynt. Nid yn unig efe a wellaodd lawer tlawd anafus oddi wrth ei ddolur corfforol, ond hefyd gwellaodd lawer yn eu hamgylchiadau â'i haelfrydedd.

Yr oedd yn elynol iawn i bob math o goegni a hunanoldeb. Os deuai ambell un hunanol at ei ddrws i ymofyn ei gynnorthwy meddygol, tebyg y cawsai bob amser ei erlid ffwrdd gyda dirmyg. Buasai yn rhaid traethu y neges wrtho mewn byr eiriau yn eglur a gostyngedig, heb o'r tu arall ddangos rhyw waseidd-dra gormodol; a buasai yn fynych yn cyflawnu ei waith ar gymmalau allan o'u lle gyda'r fath ddeheurwydd a chyflymdra disymmwth, fel na buasai y dyoddefydd yn meddwl ei fod yn myned at y gorchwyl, nes y buasai yn teimlo y loes, a'r cymmal wedi dyfod i'w le mewn amrantiad! Byddai ar ol hyn yn cael pleser mawr i adrodd i'r dyoddefydd, a holi rhyw banesion o'i gymmydogaeth. Os gofynai rhywun iddo beth oedd am y gwaith, buasai yn hen bryd iddo adael y palas pan yn dyferu y gair olaf dros ei fin. Pan fuasai y boneddwr yn gorphen ei holiadau, buasai yn amser i dderbyniwr y gymmwynas ymadael, gan ddymuno bendith iddo am ei waith. Yr oedd yn foneddwr cyfoethog, yn werth ef allai tua dwy fil y flwyddyn; ac yn y sefyllfa hon, yr oedd yn hael iawn at lawer o achosion. Yr oedd yn rhyfeddol am ei ysbryd tangnefeddus; a llawer gwaith, yn ei ffordd neillduol ei hun, y llwyddodd i adferu beddwch rhwng cymmydogion. Yr oedd yn rhyfeddol o dirion charedig i'w ddeiliaid, a gwir ewyllys ei galon ydoedd eu gweled yn llwyddo yn y byd. Bu farw lonawr 29, 1847. Asth oi ystâd yn feddiant i'w nai, Thomas Hughes, Ysw. Castell Du. Yr oedd er ys blynyddau wedi darparu claddfa fechan, a bedd hefyd, mewn cae nid ym mhell oddi wrth ei dy. Ac yno y mae y gwr talentog, dysgedig, medrus, a thynergalon, Mr. Jones o'r Neuadd, yn huno. Rhoddodd Eisteddfod Llanbedr wobr o ddeg punt am y farwnad oreu iddo.

JONES, WILLIAM, gynt gweinidog yr Annibynwyr, yn Nhrawsfynydd, a aned ym mhlwyf Lledrod, Medi 15, 1760. Yr oedd yn frawd i Theophilus Jones ag ydym wedi gofnodi yn barod. Bu yn Ysgol Ystrad Meirig, a daeth yn yagolor lled dda. Ymunodd â'r Trefnyddion, a daeth yn bregethwr lled dderbyniol. Yr oedd ei dad yn gyfaill neillduol i Richard Tabbot, o Lan Bryn Mair, ac efo a gafodd lythyr oddi wrth y brodyr yng Ngheredigion i fyned i Lan Bryn Mair. Aeth yn y flwyddyn 1789 i weinidogaethu i Biwmares, Mon; ac ar ol bod yno ddwy flynedd, symmudodd i Benystryd, plwyf Trawsfynydd; a bu yno gyda llawer o lwyddiant am naw ar hugain o flynyddau. Bu yn offerynol i sefydlu achos yr Annibynwyr ym Maentwrog. Ar ol bod ar daith trwy y Deheudir, efe a gafodd ei daro yn glaf pan yn pregethu yn y Tywyn. Bu farw Hydref 31, 1830.

LEWES, ERASMUS, ydoedd fab John Lewes, Ysw Gernos. Ganed ef yn 1662. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Iesa, Rhydychain, lle y cafodd ei raddio yn B.C. Cafodd ei benodi yn ficer Llanbedr a Bettws Bledrws yn y flwyddyn 1695, a pharhaodd i lafurio yno hyd ei farwolaeth yn 1745. Yr oedd Mr. Lewes yn Gymreigydd gwych, a bu yn cynnorthwyo Sion Rhydderch yn cyfansoddi ei Eiriadur Seisoneg a Chymraeg. Yr oedd hefyd yn fardd. Mae un gyfrol o'i bregethau mewn llawysgrif yn Llanbedr, ac un arall yn llyfrgell Ioan Cunllo. Yr oedd y diweddar Abel Lewes Gower, Castell Maelgwyn, yn disgyn yn gywir o hono.

LEWES, JAMES, a aned yn Abernant Bychan, plwyf Penbryn. Yr oedd yn fab i Syr John Lewes o'r un lle Cymmerodd ran bwysig yn y Rhyfel Cartrefol o blaid y Brenin Siarl II. Yr oedd yn un o'r rhai a benodwyd i gael ei ddyrchafu yn Farchog y Dderwen Freiniol, pe cymmerasai hyny le. Yr oedd yn werth 700p. y flwyddyn. Ei gynrychiolydd yn awr yw Syr Pryse Pryse, Gogerddan. Mae Lewesiaid y Gernos, Llys Newydd, Gelli Dywyll, Tre Defaid, ac ereill, yn hanu o hono.

LEWES, JAMES. Yn ol hen lawysgrif cyhoeddedig yn y Cambrian Register, yr oedd y Milwriad James Lewes o Goedmor yn dilyn bywyd cyhoeddus yn amser y Rhyfel Cartrefol rhwng Siarl II. a'r Senedd.

"James Lewes is a person of an inoffensive facile constitution, forced from a royalist to act as a Colonel for the King and Parliament; seldom out of publique offices, though averse to undertake any, loved more for doing no wrong, than for any good. --Sola socardia innocens."


LEWES, JOHN, o'r Glasgrug, ger Aberystwyth, oedd o'r un cyff achyddol a'r Lewesiaid a goffasom yn barod. Cyhoeddodd lyfr yn 1646 o'r enw Contemplation on these Times, or the Parliament explained to Wales, yn yr hwn y dynoetha yn llym ddiofalwch y llywodraethwyr eglwysig. Bu mewn gobebiaeth & Richard Baxter am gael Prifysgol i Gymru. Gan nad oedd gan ei wyr, James Lewes, un etifedd, aeth ei ystad i'w chwaer Mari, gwraig John Phillips, Dal Haidd.

LEWES, WILLIAM, a aned yng Nglanlais, ger Llanerch Aeron. Yr oedd yn foneddwr cyfoethog, dysgedig, a gwladgarol. Bu yn preswylio am ran o'i oes yn Llwyn Derw, plwyf Llangeler, ac efe oedd ei berchenog. Yr oedd ganddo lyfrgell odidog o lyfrau a llawysgrifau. Dywedai Theophilus Evans, awdwr Drych y Prif Oesoedd, mai yn Llwyn Derw y gwelodd rai o'r llawysgrifau gwerthfawrocaf â welodd yn ei oes. Cyfieithodd Mr. Lewes a Mr. Pryce, Rhyd y Benau, draethawd ar Ddammeg y Mab Afradlawn, gan J. Goodman. Cafodd ei argraffu yng Nghaerfyrddin gan Isaac Carter, y Printiwr, 1725–26. Rhoddodd yn ei ewyllys ryw swm flynyddol at gynnal ysgol ym mhlwyf Llanddewi Aberarth; ond nid ydym yn gwybod beth ddaeth o'r ewyllys hòno; ond ni a welsom gopi o honi. Yr oedd y diweddar John Beynon, Ysw., Castell Newydd Emlyn, yn fab i'w nith, ac y mae crybwylliad am dani yn yr ewyllys. Wyr i'r nith hòno yw D. Pugh, Ysw., Manorafon, diweddar A.S. dros sir Gaerfyrddin. Mae llawysgrifau Mr. Lewes yn y Gronfa Brydeinig. Mae son aml am achlyfr y Faerdref, ac y mae yn debyg ei fod yn awr ym mhlith llyfrau W. L. yn y Gronfa Brydeinig.

LEWIS, David, M.D., a aned yn Nantmedd, Llanfair Clydogau, yn 1783. Dygwyd ef i fyny gyda'i dad cu, yn y Caegwyn, Llanbadarn Odwyn. Bu yn yr ysgol yn Llangeitho, ac wedi hyny yn Ystrad Meirig. Tua deuddeg oed, efe a aeth i Lundain at ei dad, yr hwn oedd feddyg enwog yn Lower Brook-street. Bu yn yr ysgol yno, lle y gelwid ef, gan gywion Seison yn "Welsh Nanny Goat." Am y sarhâd hwn, efe a darawodd un o honynt un boreu, a bu llys ysgol arno am hyny, a chafodd ei ganmol gan yr athrawon am ei wroldeb; ac o hyny allan, cafodd lonyddwch. Dechreuodd ei efrydiaeth feddygol gyda'i dad. Breintweisiwyd ef yn Neuadd yr Apothecari, ac aeth i Yspytty Westminster, lle y daeth yn llawfeddyg y ty. Ymunodd â'r llynges dan y Llyngesydd Cochrane, ac aeth i'r Llychlyn. Cafodd ym mhen ychydig ei wneyd yn llawfeddyg y llynges, dan Syr James Jamieson, lle y rhewodd y llynges am gryn amser. Ar ol dyohwelyd i Brydain, aeth ffwrdd gyda'r llynges i Ddeheudir America am tua thair blynedd. Bu hefyd yn Sierra Leone, yn Affrica. Bu gyda'r llyngfes am 13 o flynyddau. Dychwelodd i Gymru, ac arosodd am ennyd yn y Glyn Isaf, Llangeitho; ac wedi hyny yn Aber Meirig. Yr oedd ganddo yma was, yr hwn oedd fab i dywysog Affricanaidd, yr hwn a fedyddiwyd yn "John Cardigan." Symmudodd i Dref Hedyn, Emlyn, tuag 1820. Priododd yn 1822 â Miss Howell, merch henaf John Howell, Ysw., Morfa, hanedig o deulu hynafol Cadifor Fawr, Arglwydd Blaencych. Bu yn Emlyn hyd 1849, ac wedi hyny yn Nant Popty hyd 1849. Symmudodd wedi hyny i'w blasdy ei hun, Bron Aeron, yn Nyffryn Aeron. Bu farw Hydref 1, 1861, yn 78 oed. Yr oedd Mr. Lewis yn sefyll yn uchel iawn fel meddyg, a chyflawnodd lawer gorchest feddygol ag oedd yn syndod i'r dosbarth mwyaf deallus. Talai sylw mawr i'w alwedigaeth; ac nid oedd un meddyg yn y wlad yn cael cymmaint gwaith. Gyda'i wybodaeth a'i fedr, yr oedd yn meddu calon dyner a llawn cydymdeimlad, fel yr oedd ei fywyd yn werth mawr i'r wlad.

LEWIS, DAVID, D.D., a aned ym mhlwyf Llanddeiniol. Bu am ryw amser yn derbyn dysg yn Ysgol Ystrad Meirig, ac wedi hyny yn Rhydychain, lle y cafodd ei raddio, ac ar ol hyny ei urddo yn Eglwys Sant Iago, Piccadilly, Llundain, o dan Ddeon Caergrawnt. Bu wedi hyny yn brif athraw yn Ysgol Ramadegol Twickenham am ddeunaw mlynedd. Bu farw Ionawr, 1859.

LEWIS, JAMES, gweinidog yr Annibynwyr ym Mhencadair, a aned yn Ninas Cerdin, Llandyssul, yn 1674. Yr oedd ei dad yn wr boneddig, ac yn hanu o Morydd, brenin Ceredigion, yn y nawfed canrif. Mae holl briodasau teulu Dinas Cerdin yn ein meddiant; ac y mae yr achres yn dangos eu bod wedi cyssylltu â'r teuluoedd gorau yn ein gwlad, a hyny i lawr hyd y ddwy oes ddiweddaf. Cafodd Mr. J. L. ddysgeidiaeth uchel; a chafodd ei urddo yn y fl. 1706. Ystyrid ef yn bregethwr enwog. Cymmerodd ran yn y ddadl ar Galfiniaeth ac Arminiaeth â Jenkin Jones, Llwyn Rhyd Owain. Ysgrifenodd lyfr i amddiffyn Calfiniaeth. Yr oedd o gymmeriad uchel iawn yn y wlad. Bu farw Mai 23, 1747, yn 73 oed, a chafodd ei gladdu yn Llanllawddog, lle y mae cof-lech iddo. Cafodd ei ddilyn ym Mhencadair gan ei fab, John Lewis. Mae yn debyg fod y Parch. D. Lewis, curad Llanllawddog a Llanfihangel Rhos y Corn, ac wedi hyny periglor Llangatwg, ger Castell Nedd, naill ai yn frawd, cefnder, neu ryw berthynas agos arall i James Lewis. (1) Mae teuluoedd Dinas Cerdin, Troed y Rhiw Fer, Cwm Bychan, a llawer ereill trwy y wlad, yn perthyn i Mr. Lewis ; ac y mae rhai teuluoedd yn disgyn ohono.

(1)Cyhoeddodd D. Lewis y Flores Poetarum Britannicorum, sef Blodeoog Waith y Prydyddion Brytanaidd, o gasgliad J. D.,SS. Th., fal yr ydys yn tebygu. Mae y llythyr at y darllenydd wedi ei ddyddio yn Llanllawddog, Gor. 10, 1710. Mae ynddo gywydd ar Ddyoddefaint Crist, gan D. L. Cyhoeddodd hefyd Golwg ar y Byd, gydag amryw lyfrau ereill. Yr oedd yr hen wr yn tueddu at fod yn ofergoelus, fel y dengys ei Hanes Bwci yn Mhlwyf Llangeler, ac un arall yn Rhos y Corn. Mae D. Lewis,Ysw., Ystradau, yn disgyn o hono. Nid ydym yn sicr mai yng Ngheredigion y ganed ef.

LEWIS, JOHN, oedd fab Jenkin Lewis o Dalsarn, plwyf Trefilan. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Ysgol enwog Castell Hywel, dan y Parch. D. Davis. Cyrhaeddodd wybodaeth gyfrifol o'r ieithoedd hen a diweddar, yn neillduol o'r Roeg. Ymunodd pan yn ieuanc a'r Wesleyaid, a dechreuodd bregethu o ddeutu 1812. Bu yn gweinidogaethu yng nghylchdaith Dolgellau yng ngwanwyn 1813. Yn 1814, derbyniwyd ef i'r weinidogaeth reolaidd, a phenodwyd ef i fyned yn genadwr i'r India Orllewinol, o dan arolygiaeth y Parch. Thomas Coke, LL.D., o Aberhonddu. Cychwyn- odd o Falmouth, Rhagfyr 25, 1814, a thiriodd yn Ynys Barbadoos Chwefror 1815, ac ym mhen pum niwrnod yn Antiqua. Yr oedd y Parch. Thos. Morgan, Cymro genedigol o Aberafon, Morganwg, yn llafurio yno yn flaenorol Gan fod llawer o'r Isellmyn, Portugaliaid, a Ffrancod yn yr ynys, penderfynodd wneyd ei hun yn adnabyddus au hieithoedd. Yn 1816, penodwyd ef i Spanish Town, Jamaica, lle bu farw Gorphenaf 17, 1816.

LEWIS, JOHN, o Lanfechan a'r Ffwrneithin, & osodir allan yn fardd gan yr achlyfrau; ond ni welsom, hyd a wyddom, linell o'i waith. Blodeuai tua chant a banner o flynyddau yn ol.

LEWIS, JOHN, diweddaf beriglor Llanrhystud, a aned ym mhlwyf Llangwyryfon. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Ystrad Meirig, a'i urddo yn ddiacon gan Esgob Ty Ddewi, yn 1823, ac yn offeiriad yn y flwyddyn ganlynol. Bu yn gweinidogaethu fel curad yn Henfynyw, a'r eglwysi ereill yn y gymmydogaeth. Cafodd Llanrhystyd yn y flwyddyn 1843. Bu yn dra gweithgar yn ei blwyf. Ni bu offeiriad erioed yn cael ei garu yn fwy gan ei blwyfolion: yr oedd yn gyfangwbl yn y weinidogaeth: yr oedd yn bregethwr hwylus, a byddai yn fynych yn myned i'r hen hwyl Gymreig, yn neillduol pan wrth fwrdd y Cymmun. Adeiladodd Eglwys newydd ysblenydd; ac y mae hono yn cael ei llanw gan gynnulleidfa barchus. Byddai yn arfer cynnal cyfarfod Blynyddol yn yr Eglwys, yr hwn oedd gynnulliad mawr, lle y delai yng nghyd offeiriaid enwocaf y Dywysogaeth. Yr oedd Mr. Lewis yn un o offeiriaid ffyddlonaf ac enwocaf y wlad. Cafodd ergyd marwol gan y parlys, a bu farw yn ddisymmwth Rhagfyr 21, 1862.

LEWIS, THOMAS, a breswyliai yng Nghastell Hywel, a chyn hyny yn yr Ynys Wen, plwyf Llanegwad, a dybir oedd o Lewisiaid Dinas Cerdin, ond nid oes digon o sirwydd. Cyhoeddodd lyfr o'r enw Caniadau Duwiol, yr hwn a argraffwyd yng Nghaerfyrddin, gan Ioan Daniel, yn y flwyddyn 1795.

LLAWDDEN, Arglwydd Uwch Aeron, oedd un o bendefigion enwocaf y Deheudir yn y degfed canrif. Ei wraig oedd Lleuci, ferch Gruffydd, tywysog Cymru.

LLIO LLWYD oedd ferch Rhydderch ab Ieuan Llwyd o Ogerddan, yr hon oedd yn ddiarebol am ei glendid a'i buchedd dda. Mae gan Dafydd Nanmor gywydd ardderchog iddi, yn yr hwn y mae y llinellau anfarwol-

“Ai plisg y gneuen wisgi,
Ai dellt aur yw dy wallt di?”

Yr oedd yn chwaer i Ieuan ab Rhydderch Llwyd.

LLOYD, CHARLES, LL.D., oedd fab y Parch. D. Llwyd, Brynllefrith, gweinidog yn Llwyn Rhyd Owain. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Athrofa Caerfyrddin, ac wedi hyny yn Llundain. Bu yn gweinidogaethu gyda'r Bedyddwyr Rhyddfrydig yn swydd Norffolc, ac wedi hyny yn Llundain gyda'r Undodiaid. Bu yn cadw ysgol enwog yn Llundain. Cyhoeddodd Autobiography of a Dissenting Minister, yr hwn a ystyrid yn waith o gryn deilyngdod, a c y mae amryw argraffiadau o hono wedi dyfod allan; ac ysgrifenodd hefyd erthyglau galluog i'r Monthly Repository, hen gyhoeddiad Undodaidd, megys cofiannau D. Siencyn Rhys, a'r Parch. T. Thomas, mab Llanfair, a phethau ereill. Clywsom iddo ysgrifenu rhywbeth ar yr iaith Gymreig, yr hwn a anghymmeradwyai y Parch. D. Davis, Castell Hywel; ond nis meddwn fanylion. Efe fu a'r llaw flaenaf yn adeiladu capel Pant y Defaid, un o'r capeli Undodaidd cyntaf yn y sir. Bu farw Mai 23, 1829, yn 63 oed. Mae cof-faen hardd iddo yn Eglwys blwyfol Llanwenog.

LLOYD, CHARLES, Barwnig, Maes y Felin, Llanbedr, oedd ail fab Syr Francis Lloyd. Cafodd Syr Charles ei wneyd yn Farchog gan William III., ac yn Farwnig gan y Frenines Ann, Ebrill 10, 1708. Bu yn briod ddwywaith; y tro cyntaf â Jane, merch Morgan Llwyd o'r Green Grove; yr ail waith â Frances, merch Syr Francis Cornwalis. Bu yn aelod seneddol dros Aberteifi, ac yn sirydd dros Ceredigion yn 1689, a thros sir Gaerfyrddin yn 1716. Bu farw Rhagfyr 28, 1723.

LLOYD, DAVID, Brynllefrith, gweinidog Henadurol yn Llwyn Rhyd Owain, a pherchenog Coedlanau Fawr, plwyf Llanwenog, oedd yn hanu yn gywir o Lwydiaid Castell Hywel. Bu yn yr ysgol gyda Job Evans, athraw dysgedig a breswyliai ym mhlwyf Llanwenog, ac wedi hyny yng Nghaerfyrddin. Urddwyd ef yn Llwyn Rhyd Owain yn y flwyddyn 1742, yn olynwr i'w ewythr, Jenkin Jones Mam D. Llwyd oedd Esther, merch John Jenkins, yr hon oedd yn chwaer i Jenkin Jones. Y mae o'n blaen weithred priodas Richard Llwyd ac Esther Jenkins, dyddiedig 1725. Cymmerodd Jenkin Jones enw bedydd ei dad yn gyfenw, yr hyn beth oedd gyffredin y pryd hyny. Mae o'n blaen enwau pump.o blant D. Llwyd-Richard, John, Dafydd, Charles, a Margaret: ond dichon fod ganddo ragor. Bu Richard farw yn ddiepil. Daeth Coedlanau, trwy werthiad, neu ewyllys brawd arall, feddyliwn, yn feddiant i Charles Lloyd. Gwerthodd Miss Lloyd, Clapham, y lle wedi hyny i'r Parch. Charles Lloyd, Waun Ifor, yr hwn foneddwr oedd o'r un tylwyth. Yr oedd D. Llwyd yn Arminiad pell, os nid ym mhellach. Yr oedd yn wr doniol, dysgedig, a hawddgar, ac felly yn dra pharchus yn ei wlad. Yr oedd hefyd yn fardd gwych. Dygodd allan Hymnau ei dad yng nghyfraith yn y flwyddyn 1768. Cyhoeddwyd ei brydyddiaeth dan yr enw Gwaith Prydyddol y Diweddar Barchedig Dafydd Llwyd, Gweinidog Eglwys Llwyn Rhyd Owain, Sir Aberteifi. Argraffwyd ef gan John Daniel, Caerfyrddin, 1785. Dywedir i'w lyfrau a'i bapyrau gael eu cymmeryd gan un o'r teulu i America. Mae ganddo gywydd yn rhoddi hanes ei fywyd, yn yr hwn y dengys ei fod yn dilyn Siencyn Sion, ei ewythr, mewn barn. Meddai,—

“Hen Galfin ac Arminiws
Gyrais draw goris y drws."

Dengys ei fod yn groes iawn i "hil Galfin drablin dryblwr.” Bu farw Chwefror 4, 1779, yn 54 mlwydd oed.

LLOYD, DAVID, LL.D., ydoedd fab John Lloyd, Llandyssul, ac ŵyr D. Lloyd, Brynllefrith. Ganed ef yn Llandyssul, a chafodd ei anfon o dan ofal y Parch. John Thomas, gweinidog Undodaidd a gadwai ysgol flodeuog yn y lle; a phan tuag ugain oed, cafodd ei dderbyn yn fyfyriwr i Goleg Henadurol Caerfyrddin. Ar ol terfynu ei amser yno, aeth i Brifysgol Glasgow, lle y cafodd, ar ei ymadawiad, ei anrhydeddu a'r radd o A.C. Cafodd ei ethol yn Athraw Clasurol Coleg Caerfyrddin yn 1834. Ym mhen rhai blynyddau, cafodd ei anrhegu gan Brifysgol Glasgow a theitl ychwanegol, sef LL.D. Yr oedd Dr. Lloyd, fel athraw, yn sefyll yn uchel iawn ei glod; ac ni fu dyn erioed yn fwy parchus nag ef yn nhref Caerfyrddin. Byddai bob amser y blaenaf yn y dref gyda phob achos dyngarol; ac yr oedd yn nodedig am ei galon haelionus, parod bob amser i gyfranu at bob achos elusengar, yn gyhoeddus a phersonol. Dysgodd lawer iawn o bobl ieuainc am ddim; a byddai megys tad i'r isel ei amgylchiadau yn y coleg. Yr oedd yn ysgolor clasurol dwfn, ac yr oedd yn meddu gwybodaeth helaeth mewn natur a chelfyddyd. Bu yn traddodi darlithiau ar Seryddiaeth a phynciau dyddorol ereill ar hyd y wlad, a hyny am ddim, er mwyn cefnogi dysgeidiaeth. Ysgrifenodd lawer i'r Ymofynydd ar gelf a gwyddor, yn gystal ag ar bynciau duwinyddol y blaid y perthynai iddi. Yr oedd yn dyn iawn dros ddaliadau yr hen ysgol Undodaidd. Mae yn ddiammheu fod Dr. Lloyd yn gydwybodol ac egnïol am wneyd daioni i'w gyd-ddynion ym mhob modd.

LLOYD, DAVID, Gallt yr Odyn, ydoedd fab Ifan Llwyd o'r un lle, a Mawd ei wraig, ferch Richard Llwyd o Gaio. Priododd D. Lloyd â Mari, ferch Henri Pryse, Abergorlech. Yr oedd yn ymlynydd diffuant dros achos y Brenin Siarl y Cyntaf, a gorfu arno gyfran-dalu i'r Senedd am ei ymddygiad. Dygwyd y weithred hono i gyflawnder Rhagfyr 20, 1648. Gorfododwyd ei fab, Evan Lloyd, i dalu y swm o 17p. trwy orfodogi yr ystad. Enwau y dirprwywyr ydynt, Johu Matthews, Thos. Fowle, Henry Eower, James Bery, James Philips, Hector Philips, D. Edwards, John Hughes, &c. Mae yn dra thebyg i Mr. Lloyd fod yng ngharchar Aberteifi, yr un modd ag E. G. Evans, Penwenallt, gan fod y ddirwy i gael ei thalu gan ei fab.

LLOYD, DAVID, fel y tybir, oedd enedigol o Lanwenog. Ymfudodd i America, ac ymsefydlodd yn nhalaeth Pennsylfania. Daeth ym mlaen yn fawr mewn cyfoeth, dysg, a dylanwad, fel y cafodd yn y diwedd ei benodi yn brif ynad y dalaeth. Iddo ef y cyflwynwyd Mynegair yr enwog Abel Morgan.

LLOYD, DAVID AB LLYWELYN, o Gastell Hywel, oedd y pummed ach o Wilym Llwyd o'r un lle. Efe a fu yr aelod seneddol cyntaf dros Geredigion, sef yn amser Harri VIII.

LLOYD, FRANCIS Marchog, oedd fab Syr Marmaduke Lloyd, o Faes y Felin, Llanbedr. Cafodd, fel ei dad, ei wneyd yn Farchog. Cymmerodd ran helaeth yn helyntion ei wlad. O blegid ei ymlyniad wrth y brenin, ymgiliodd o'r Senedd yn 1643, a thalodd ddirwy drom yn y Goldsmith's Hall. Mewn hen lyfr o'r enw Memoirs of Charles I., cawn fod y ddirwy yn 1033p. Mae y cofnod a ganlyn am Syr Francis wedi ei ysgrifenu tua'r flwyddyn 1661:

"Sir Francis Lloyd, a lover of monarchy, which drew from the Long Parliament about 1643, paid a fine at Goldsmith's Hall, seems to love his private ease above the publique affares of his country."

Bu Syr Francis yn briod ddwywaith; y waith gyntaf â Mary, merch John Vaughan, Iarll Carbery, o'r Gelli Aur; yr ail waith a Bridget, merch R. Leigh o Gaerfyrddin. Cafodd Syr Francis, ar ol yr adferiad, ei wneyd yn un o foneddigion Ystafell Gyfrin Siarl II.

LLOYD, GRIFFITH, oedd ail fab Huw Llwyd o Lanllyr, o deulu Llwydiaid Castell Hywel. Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Iesu, Rhydychain, a'i raddio yn LL.D. Cafodd hefyd Broffeswriaeth Freiniol o D.C.L., yr hyn a ddygai iddo y swm blynyddol o 40p. Cafodd y dyrchafiad hwn Mai 16, 1577; a bu am beth amser yn Ganghellydd yr Esgob. Dyrchafwyd ef yn Benrhaith Coleg Iesu yn 1522, yr hon swydd a ddaliodd hyd 1584. Bu yn haelionus iawn i'w goleg, trwy roddi iddo amryw ffermydd ym mhlwyfi Nantcwnlle a Llanddewi Brefi. Ei wraig oedd Ann, ferch John Redstall, yr hwn oedd Brif-farnwr swyddi Maesyfed, Brycheiniog, a Morganwg. Nid oedd mewn urddau eglwysig. Bu farw Tachwedd 26, 1586. Cafodd ei gladdu yn Sant Bennet, ger Sant Paul's, Wharf. Ceir y cofnodiad a ganlyn am y Dr. Lloyd, yn Biographical Sketches yr Esgob Kenneth:-

"MDLXXXVI.

"Notes upon Dr. Griffin Lloyd, Regius Professor of the Civil Law in Oson, who died 26 Novemb. 1586.


Fasti Oxon
1 Sub anno

"1576, July 3, Griffin or Griffith Lloyd Principal of Jesus College. He was afterwards the King's Proffesor of the Civil Law, and Chancellour to the Bishop of Oxford. He died in Doctors Commons 26 Nov. 1586, and was buried two daies after in the Church of Saint Bennet near to Pauls wharf London.

Hist. Antiq:
Oxon Lib II
p. 318.

"Griffinus vel Griffithus Lloyd juris civilis Baccalaureus, familia Lloydorum de Llanleer in agro Cardiganensis fratrum natu minorum alter oriundus. Socius Onnium Animorum anno MDLXVI.

Sodalitii Jesu Coll. Principalis evasit anno MDLXXII. cui post mortem ipsius successit Franciscus Bevans, LL.D. anno 1586, ib. Benefactoribus omnibus exemplo praevit Doctor Griffithus Lloyd Colegii Principalis : Siquidem Is praedia quaedum in agro Cardiganensi posita, ea lege transcripsi (id anno 1586 factum) ut scholaris, sive socius unicus cognatione se potissimum attingens inde aleretur, hac tamen servata cautione ne possessiones illae ad Sodalitium devenirent priusquam Anna conjux et Jana filia fato fungerentur.}} Pat. 19 Eliz.
pars 2m 27

"1577. 16 May. The Queen upon surrendry of Letters Patents made 10 Jan. reg. 8, to Robert Lougher Dr. of Law for the office or room of reading the Civil Law Lecture in Oxford with ye yeerlie fee of 40lb. granteth the same to her lovinge subject Griffith Lloide Doctor of Law and Student in the university of Oxford T. R apud. West. Sexto die Maii."

Bu am ryw amser yn aelod Seneddol dros Aberteifi.

LLOYD, GWILYM, o Gastell Hywel, oedd y chwechfed disgynydd o Gadifor ab Dinawol. Efe oedd y cyntaf o'r teulu a gymmerodd y cyfenw Llwyd.

LLOYD, GWION, oedd ail fab Llewelyn Llwyd o Gastell Hywel. Ei wraig oedd Gwenllian, merch Hywel ab Siencyn ab Rhys ab Dafydd, o Flaentren. Efe oedd sylfaenydd ben deulu Llanfecban. Hanai y diweddar Uchgadben Evans, Dolau Bach, o hono ef.

LLOYD, HERBERT, Barwnig, o Ffynnon Bedr, oedd yr olaf o'r Llwydiaid a breswyliodd yn y lle hwnw. Yr oedd yn fab i Walter Lloyd, Ffynnon Bedr. Bu Syr Herbert yn cynorychioli bwrdeisdrefi Ceredigion o 1760 hyd 1768. Cafodd ei wneyd yn farwnig gan Sior III., Ionawr 26, 1763. Dywedir i'r anrhydedd hon gael ei rhoddi iddo o herwydd cynnrychioli anerchiad bwrdeisdrefi Ceredigion i'w Fawrhydi ar ei esgyniad i'r orsodd. Yr oedd Syr Herbert yn byw ym mhob modd mewn dull tywysogaidd. Yr oedd Ceredigion, i raddau pell iawn, dan ei lywodraeth. Rhywfodd, yr oedd yn llwyddo i gael yr etholiadau wrth ei ewyllys, ac yr oedd ei ddylanwad ym mhell iawn yn y brawdlysoedd. Byddai yn myned i Aberteifi yn ei gerbyd a thorf fawr o "wŷr Llanbedr" yn ei amgylchu, gan ddwyn arfau o ffyn derw mawrion. Clywsom lawer gwaith fod ffyn gwŷr Llanbedr megys gallt dderw yn ymsaethu i fyny i nen neuadd y dref. Yr oedd yn lled unbenol yn ei rwysg; eto i gyd yn dra derbyniol gan y werin. Bu yn briod ddwywaith; y tro cyntaf â bonedd. iges Seisonig o'r enw Miss Bragge, a'r ail waith ag Ann, merch W. Powell, Nant Eos, a gweddw R. Stedman, Ystrad Fflur. Bu farw yn Llundain, Awst 19, 1769, . chladdwyd ef yn y nos, Medi 3, yn Llanbedr, gyda rhwysg mawr.

LLOYD, HUGH, oedd ail fab Dafydd Llwyd o Gastell Hywel. Efo oedd y cyntaf o'r teulu a breswyliodd yn Llanllyr. Bu yn sirydd Ceredigion yn y flwyddyn 1567.

LLOYD, HUGH, D.D., a aned ym Mhorth Rhys, rhwng Llanrhystud ac Aberystwyth, yn y flwyddyn 1589. Aeth i Goleg Oriel, Rhydychain, yn 1607, lle y cafodd ei raddio yn y celfyddydau; ac ar ol hyny, efe a symmudodd i Goleg Iesu, o'r hwn y daeth yn gymmrawd. Cymmerodd ei radd o D.D. yn 1638, pan yn Rheithor Llangadog ac Archiagon. Ty Ddewi. Yn amser y gwrthryfel mawr, efe a ddyoddefodd lawer yn achos y brenin, trwy gael ei ddifeddiannu o'i fywoliaeth, gan orfod symmud o le i lo am ddiogelwch. Cafodd ei gyssegru yn Esgob Llandaf, Rhagfyr 2, 1660, gan Archesgob Caerefrog, Esgobion Llundain, Caergraig, Caersallog, a Chaerwrangon, pan y cyssegrwyd chwech ereill o esgobion. Bu farw yn 1667.

LLOYD, HUGH, diweddar Rheithor Llangeitho, a aned ym Mhen y Wern, plwyf Cilcenin, yn y flwyddyn 1768. Enwau ei rieni oedd Richard ac Ann Llwyd. Yr oeddynt yn bobl grefyddol a pharchus, yn berchen amryw leoedd eu hunain. Addysgwyd Mr. Llwyd yn Ysgol Ystrad Meirig, dan y Parch. John Williams. Aeth wedi hyny i gadw Ysgol Ramadegol Aberteifi ; a chyn hir, cafodd hawlfraint curad yno, a'i urddo tua 1791, yn Abergwili, gan yr Esgob Horsley, i'r hwn y talai barch mawr trwy ei oes. Parhaodd i gadw ysgol yn Aberteifi am ryw amser. Priododd Tachwedd 19, 1796, ag Esther, merch benaf John Morgan, Ysw., Cilpill, ac aeth yno i gyfanneddu hyd ei farwolaeth, Ionawr 2, 1837. Bu yn gwasanaethu Llanpenal fel curad parhaus. Cafodd wedi hyny guradiaath Llanddewi Brefi; a chyn hir bersoniaeth Llangeitho. Bu trwy ei ddawn a'i ddiwydrwydd yn offerynol i gasglu cynnulleidfaoedd lluosog i'r manau a nodwyd. Yr oedd ei bregethau yn gyffredin yn dair rhan, a'r rhai hyny agos yn gyhŷd, ei destyu yn cael ei egluro yn fanol a beirniadol; codai amryw gangenau oddi wrth y testyn yn dra naturiol; addysgiadau cymhwysiadol ac effeithiol. Yr oedd o ran ei gorff yn dal, yn llawn chwe troedfedd, ac yn siriol iawn ei wynebpryd. Aeth cyn diwedd ei oes yn rhyfeddol o dew. Yr oedd yn groes iawn i enllib. Dywedai yn union wrth yr enllibiwr, fod y sawl a enllibai yn llawer gwell dyn nag ef. Ond os deallai fod rhyw fai ar y sawl a gyhuddid, efe a fynegai ei fai yn ei wyneb, gan hysbysu pwy oedd wedi dywedyd wrtho. Dywedodd ei dad yng nghyfraith wrtho y prydnawn y priododd, fod Mrs. Lloyd wedi bod yn cael holl lywodraeth y ty er pan bu farw ei mam, gan ofyn a gelai hi barhau felly. Atebodd yntau yn siriol y celai. Yr oedd Mr. Lloyd werth amryw gannoedd y flwyddyn oddi wrth ei ystâd, ac yr oedd yn eu defnyddio i wneyd lles i'w gyd-ddynion. Yr oedd Cilpill pryd hyny fel yspytty fawr i'r holl wlad - gwreng a bonedd - groesaw i bawb-bwyd a diod yn ddiderfyn - groesaw a bendith i bawb, a Chilpill yn fendigedig ym mynwes y wlad.

LLOYD, JENKIN, oedd fab Dafydd Llwyd o'r Faerdref Fawr, plwyf Llandyssul, a Jane ei wraig, merch Rhydderch ab Rhydderch, o Bantsbreimon. Dygwyd ef i fyny i'r weinidogaeth yn Rhydychain, lle y cafodd ei raddio yn y celfyddydau, a daeth yn offeiriad ei blwyf genedigol yn amser Siarl I. Priododd ag Elin, merch D. Llwyd o'r Gernos. Yr oedd yn cymmeradwyo mesurau Cromwel; ac yr oedd yn un o'r prawfwyr dan y "Weithred er Lledaeniad. yr Efengyl." Cyhoeddodd lyfr bychan o'r enw Christ's Valediction; or Sacred Observations on the Word of our Saviour delivered on the Cross, 1658. Cynnwysa 220 o dudalenau, ac wyth o ragddalenau, plygiad bychan. Bu farw tua'r flwyddyn 1660. Bu ganddo fab o'r enw John Lloyd, yr hwn a briododd ferch Morgan Herbert o'r Hafod Ychdryd. Bu farw heb etifedd, ac aeth ystâd y Faerdref i feddiant chwaer ei dad, yr hon oedd wraig yn Llanerch Aeron, lle yr erys hyd heddyw, gyda'r eithriad o rai lleoedd a werthwyd.

LLOYD, JOHN, or Cilgwyn, plwyf Llandyfrïog, oedd foneddwr uchel ei glod yn ei wlad, ac yn noddwr gwresog i'r beirdd. Yr oedd yn bleidiwr gwresog i Siarl y Cyntaf.

"John Lloyd, a royalist of an even temper, quitted all offices in 1643, compounded for delinquency, liveth a retired hospitable life, neither ambitious, nor a contemner of those publique employments that his fortune and capacity to deserve."

165

Mae yn debyg fod y boneddwr hwn mewn gwth o oedran y pryd hyn (1643), o blegid y mae o'n blaen gywydd o glod iddo a ysgrifenwyd gan y bardd Owain Gwynedd, yr hwn a flodeuai rhwng 1550 a 1590.

LLOYD, JOHN, A.C., oedd fab D. Llwyd, Ysw., Gallt yr Odyn. Dygwyd ef i fyny yn Rhydychain, a chafodd bersoniaeth Llanarth. Yr oedd yn fardd Seisonig o gryn rwyddineb. Mae Meyrick, yn ei hanes o Geredigion, wedi rhoddi i mewn bennillion a wnaeth ar ddyrchafiad Syr Herbert Lloyd yn farwnig. Maent yn bur wawdlyd; a dywedir na ddeallodd mo'r barwnig yr amcan, ac iddo gyflwyno y bardd i Dr. Squire, esgob Ty Ddewi, ac iddo felly dderbyn bywoliaeth Llanarth. Daeth allan ddau fardd arall, ac un o honynt a ymosododd yn ffyrnig ar yr esgob; a dywedir i ddarlleniad y cyfryw fod yn achos o'i farwolaeth. Beth bynag, Iarll Lisburn, ac nid Syr Herbert, a gymmeradwyodd y bardd Llwyd i'r esgob.

LLOYD, JOHN, a aned yn Abertegan, Llanwenog, yn 1744. Hanai o Lwydiaid y Bwlch Mawr, a Chastell Hywel. Yr oedd Sion Llwyd yn glochydd Llanwenog, ac yn un o gerddorion enwocaf y wlad yn ei oes. Meddiaonai wybodaeth helaeth, ac fel crefyddwr, yr oedd yn ddiwyd a bucheddol; a bu yn offerynol i ddyrchafu sefyllfa grefyddol Llanwenog fel cerddor a Christion. Perthynai tua deugain o'r Llwydiaid i'w gôr yn yr Eglwys. Yr oedd hefyd yn hynafiaethwr gwych. Efe a gafodd allan weddillion hynafol Capel Santesau, ar lan Teifi, a gwyddfaen nodedig, ac arno lythyrenau "ogham" Cofnododd wmbredd dirfawr o wahanol gofion hynafiaethol; ac efe oedd ysgrifenydd yr hen fardd "Ffranc Ddall y Crwthwr." Bu farw yn 1825. Wŷr iddo yw y Parch..D. Lloyd Isaac, Llangathen.

LLOYD, JOHN, oedd etifedd Walter Lloyd o Ffynnon Bedr, ac efe a'i dilynodd yn ei gyfoeth, ac yn y swydd o gyfreithiwr cyffredinol swyddi Caerfyrddin, Penfro, a Cheredigion. Bu yn aelod seneddol dros Geredigion, o 1747, hyd ei farwolaeth, yn 1755. Ei wraig oedd Elisabeth, merch Syr Issac le Hoop, a derbyniodd ganddi yn waddol y swm o 80,000p. Daeth hefyd i feddiant o ystâd hyfryd Maes y Felin, trwy ewyllys ei frawd yng nghyfraith, Syr Lucius Christianus Lloyd. Bu farw yn ddietifedd. Dywedir fod y Brenin Sior II. yn bwriadu ei ddyrchafu i'r farwniaeth, wrth yr enw o Arglwydd Bryn Hywel, enw hen lys arglwyddi Llanbedr, pe buasai byw ychydig yn hwy. Dywedir hefyd fod Mrs. Lloyd yn forwyn o anrhydedd yn llys ei Fawrhydi. Dilynwyd ef yn yr etifeddiaeth helaeth gan ei frawd, Syr Herbert Lloyd.

LLOYD, JOHN, o'r Crynfryn, oedd foneddwr cyfoethog a dylanwadol yn amser Siarl I. Cymmerodd blaid y brenin, a chafodd ei ddirwyo o'r swm o 140p.

LLOYD, MARMADUKE, oedd fab Thomas Lloyd, trysorydd esgobaeth Ty Ddewi, a Frances, merch Marmaduke Middleton, Ysw., a chwaer neu ferch yr Esgob Middleton,(1) o Dy Ddewi. Mae yn debyg mae efe oedd y cyntaf o'r Llwydiaid a drigfanodd ym Maes y Felin. Ei wraig oedd Mary, merch John Gwyn Stedman, Ysw., Ystrad Fflur, yr hon oedd chwaer i fam Syr John Vaughan, o'r Trawsgoed, prif ynad enwog y Dreflys Cafodd Marmaduke Lloyd ei ddwyn i fyny yn gyfreithiwr. Mae yn rhoddi ei hun ar feddfaen ei dad yn Medii Templi Socius. Daeth yn brif ynad siroedd Brycheiniog, Maesyfed, a Morganwg, ac yn un o'r barnwyr o flaen llywydd cynghor ei Fawrhydi yng nghyffindiroedd Cymru. Yr oedd hefyd yn gofiadur Aberhonddu. Ymddengys iddo gael ei wneyd yn farchog pan y cafodd ei benodi yn brif ynad. Yr oedd Syr Marmaduke yn gydoesydd â'r Ficer Prichard o Llanymddyfri; ac yn ol llythyr a gyhoeddwyd mewn argraffiad newydd o Ganwyll y Cymry, yr oeddynt yn gyfeillion. Mae'r llythyr hwnw wedi ei ddyddio yn "Ludlow Castle, the 21 of March 1626." Cydnebydd y marchog yr hen ficer am ei gynghorion. Nid yw yn hysbys pa bryd y bu Syr Marmaduke farw; ond y mae profion ei fod yn fyw yn 1640. Cafodd ei ddilyn yn yr etifeddiaeth gan ei fab Syr Francis Lloyd, yr hwn ydym wedi grybwyll yn barod. Gadawodd wyth o blant heb law Syr Francis, y rhai a gyssylltasant â'r teuluoedd parchusaf yn y wlad. Priododd Jane â Thomas Llwyd, Yow., Llanfair Clydogau; disgynyddion iddynt oedd y diweddar Thomas Johns, o'r Hafod Ychdryd, a'r presennol Jobn Jobnes, Ysw., Dolau Cothi, cadeirydd brawdlysoedd chwarterol sir Gaerfyrddin. Yr wythfed ach o Syr Marmaduke yw Mr. Jobnes. Priod- odd Jane â John Vaughan, Ysw., Llanelli; Anne, â Nicholas Williams, Ysw., Rhyd Odyn; Leticia, â Philip Vaughan, Ysw., Trumsaran; Elisabeth. â Richard Vaughan, Merthyr, Brycheiniog; Penelope, â Richard Herbert, Ysw., Cwrt Henri.

(1)Yr Esgob Marmaduke Middleton oedd enedigol o Geredigion, ond nid oedd un dafn o waed Cymreig, yn ei wythienau; ac nid oedd mewn un modd yn glod i'w sir enedigol. Efe oedd fab Marmaduke (Thomas, medd ereill) Middleton a Lucia ei wraig, merch Rob. Nevill. Dechreuodd y tylwyth ym Middleton, Westmoreland. Cafodd Marmaduke ei ddwyn i fyny yn Rhydychain; ond nid yw yn debyg iddo gymmeryd graddau. Aeth i'r Iwerddon, lle y daeth yn rheithor Kildare, ac wedi hyny a ddyrchafwyd i esgobaeth Waterford a Lismore yn 1579. Symmudwyd ef i esgobaeth Tŷ Ddewi yn 1582. Ym mhen tua dwy flynedd wedi hyny, cafodd ei raddio yn D.D. gan Brifysgol Rhydychain. Cafodd yn 1692 ei ddifuddio o'i esgobaeth, a'i ddiraddio o bob urdd sanctaidd am ddwyn allan ewyllys ffugiol, a bu farw. Tach. 30. Yn yr un flwydd. Penododd ei fab Richard yn archiagon Ceredigion. Dywedir i'r esgob hwn, fel yr esgobion Barlow a Ferrar, gynnyg at sicrhau rhai tiroedd perthynol i'r esgobaeth, yn eiddo personol i'w fab.— Richard Willis's Survey of the Cathedral Church of St. David's ; Wood's Athena Oxoniensis; ac History.and Antiquities of St. David's, gan Jones a Freeman.


LLOYD, MORGAN oedd fab Hugh Llwyd o Lanllyr, ac Wŷr Dafydd ab Llywelyn Llwyd o Gastell Hywel. Bu Morgan Llwyd yn sirydd am bedair gwaith yn ei sir enedigol, sef, 1576, 1584, 1594, a 1599. Ei wraig oedd Elisabeth, ferch Lewis ab Henri ab Gwilym. O hono ef y deilliodd Llwydiaid Gwern Fylig, Ffos Helyg, a Llan ym Mawddwy.

LLOYD, MORGAN diweddar beriglor Bettws Garmon, a anwyd ym Mhen y Gareg, plwyf Llanrhystud. Yr oedd yn un o ddau efell. Cafodd ei ddwyn i fyny yn ysgol Ystrad Meirig. Bu yn cadw ysgol am flynyddau yn Llanrhystud. Cafodd ei urddo pan tua deg ar hugain oed. Dywedir i'r esgob anfon llythyr ato, nad oedd yn derbyn un mwyach o Ystrad Meirig, ond iddo fyned i'r palas cyn cael y llythyr, ac felly i'r esgob ei gymmeryd a'i urddo. Bu am flynyddau lawer yn gurad diwyd yn Yspytty Ifan. Cafodd fywoliaeth Bettws Garmon rhyw gymmaint cyn ei farwolaeth. Bu farw yno, a chafodd ei gladdu yn Llanbeblig, lle mae coflech ac arni y darlleniad canlynol :-

"Rev. Morgan Lloyd, Incumbent of Bettws Garmon, died Sep. 10th, 1846, aged 62 years.' "Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll. Nid oes gan hyny yn awr

ddim damnedigaeth i'r rhai sydd yng Nghrist Iesu, y rhai sydd yn rhodio nid yn ol y cnawd, eithr yn ol yr ysbryd."

Safai yn uchel iawn ei glod. Ysgrifenodd lawer iawn i'r Gwyliedydd, a chyhoeddodd gyfrol o bregethau yn 1830, dan yr enw Chwech ar hugain o Bregethau, a chawsant eu cyfieithu i'r Seisoneg gan y Parch. T. Jones, Creaton. Mae y Parch. J. Lloyd, Garnfach, Llanrhystud, yn nai iddo.

LLOYD, RICHARD, oedd fab y Parch. D. Lloyd, Llwyn Rhyd Owain. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Athrofa Caerfyrddin, ac wedi hyny mae yn debyg yn Llundain. Sefydlodd yn weinidog Henadurol yn Heol Awst, Caerfyrddin, yn lle y Parch. R. Gentleman, ac a symmudodd oddi yno, yn 1791, i Lwyn Rhyd Owain, i gydweinidogaethu a'r Parch. D. Davis. Bu farw Medi 27, 1797, yn 37 oed. Efe a gyhoeddodd waith prydyddol ei dad yn 1785. Cawn i Mr. Lloyd fod am ryw gymmaint yn athraw Coleg Caerfyrddin.

LLOYD, THOMAS, trydydd mab Hugh Llwyd, o Llanllyr, a ddygwyd i fyny ym Mhrifysgol Rhydychain, ac a raddiwyd yn y celfyddydau. Priododd â Frances, merch Mar- maduke Middleton. Efe a benodwyd yn drysorydd Prifeglwys Ty Ddewi, yn 1574, a chafodd oes hir i gyflawnu ei ddyledswyddau. Bu farw yn 1612, ac a gladdwyd yn y brif Eglwys. Mae ei goflech ar ochr ogleddol yr allor. Mae Mr. Basil Jones a Mr. Freeman yn rhoddi dysgrifiad

o honi fel y canlyn yn eu gwaith ar Dy Ddewi:

"In the eastern arch, on the north side, There is an altar-tomb and canopy of cinquecento work, bearing a bulf recumbent figure in cassock, gown, and hood, with a book in the left-hand. Beneath are two weepers, a male and female, kneeling, the former in a civilian's gown: another figure in the canopy and a shield on one of the spandrils have been torn away; two shields remain, and bear the following arms:-
"I.-Sa: a spear's head between 3 scaling ladders of 4 steps ar: on a chief gu: a tower of the second.—Cadifor ab Dinawol borne by Lloyd of Llanllyr.
"II.-In 5 pieces, 3 over 2; Ist, Cadifor ab Dinawol as before; 2d, Or, a lion rampant reguardant sa: armed and langued gu:--Gweithfoed Fawr, Lord of Ceredigion; 3d, Sa: a lion rampant or, armed and langued gu:--Teithwalch, Lord of Ceredigion; 4th Per pale az: and sa: 3 fleurs-do-lis or,-Seysillt ab Dyfnwal; 5th, Or, a Griffin segreant vert,--Elffin ab Gwyddno.
"It is thus inscribed:-

"Marmadvcvs Lloyde armiger ivrisconsvltvs et
Medii templi socivs hoc fecit in perpetvam
Patris svi charissimi Thomae Lloyd hvivs
Ecclesiae cathedralis thesavrarii
Memoriam qvi octavo die mensis martii
Anno regni serenissimi regis Jacobi decimo
Obiit et hic jacet."

LLOYD, THOMAS, a aned yng Nghoedlanau Fawr, Llanwenog, ac a ddygwyd i fyny yn Athrofa Caerfyrddin, dan ofal Mr. Gentleman, ac wedi hynny yn Llundain. Bu yn athraw y Coleg Henadurol yn Abertawy; ond ni chafodd y swydd yn hir, o blegid bu farw yn 1789. Ymddengys mai tair blynedd y bu yn athraw. Yr oedd yn fab brawd y Parch. D. Llwyd, Brynllefrith. Yr oedd hefyd yn weinidog Henadurol.

LLOYD, THOMAS, Ysw., Bronwydd, oedd fab Thomas Lloyd, Ysw., o'r un lle. Yr oedd yn hanu yn gywir o Lwydiaid Castell Hywel, ac felly o Gadifor ab Dinawol a Rbys ab Tewdwr Mawr, ac felly o ben freninoedd Prydain, cyn gosod o'r Rhufeiniaid droed ar yr ynys erioed. Hanai hefyd o Arglwyddi Cemmaes. Bu yn filwriad yn y fyddin, a chlywsom iddo fod yn America yn yr amser yr oedd y Taleithiau Unol yn rhyfela am eu hannibyniaeth. Yr oedd ef a Mrs. Lloyd yn nodedig am eu duwioldeb a'u gweithredoedd da. Yr oedd holl dlodion y cylchoedd yn cyrchu yno i gael bwyd a gwisgoedd, ac yr oedd yno y groesaw goreu iddynt - neb yn dychwelyd yn waglaw. Byddai offeiriaid a gweinidogion yr oes yn ymweled a'r palas, a chrefydd a daioni yn destyn yr ymddyddan. Adeiladodd Gapel y Drindod ar ei draul ei hun, a gadawodd iddo yn ei ewyllys 600p., dyddiedig Gorphenaf 2, 1795. Bu farw y bonhddwr rhinweddol hwn yn 1808. Ychwanegodd Mrs. Lloyd, yn ei hewyllys, 600p. i'r capel. Rhoddodd Mr. Lloyd y capel at wasanaeth y Trefnyddion Calfinaidd, am y barnai eu bod yn nes at yr Eglwys Sefydlodig nag un enwad arall. Bu farw Mr. Lloyd dair blynedd cyn i'r Trefnyddion ysgaru oddi wrth yr Eglwys. Rhoddodd hawl i'r Annibynwyr bregethu yng Nghapel Drindod bob mis, sef ar Sul y Cymmundeb yn Llangeitho. Dilynwyd ef yn yr etifeddiaeth gan ei fab henaf, Thomas Lloyd, yr hwn oedd yn tebygu yn fawr i'w dad mewn daioni. Efe oedd llywydd y Feibl Gymdeithas yn Nyffryn Troed yr Aur. Ei fab yntau yw Syr Thomas Davies Lloyd, Barwnig, A.S., Bronwydd.

LLOYD, WALTER, Marchog, o Lanfair Clydogau, oedd fab John Lloyd o'r un lle, a Jane ei wraig, merch Syr Walter Rice o Ddinefwr. Daeth Syr Walter yn gyhoeddus yn amser y Rhyfel Cartrefol. Yr oedd yn ysgolor gwych iawn, yn ysgrifenydd medrus, yn areithiwr hyawdl; boneddigaidd a chywir yn ei ymarweddiad, yn naturiol gymhwys i drefnu helyntion ei wlad, yr hyn a wnaeth cyn hyn gyda llawer o anrhydedd ac uniondeb. Gwasanaethodd yn Farchog dros ei wlad yn y Senedd; ond â adawodd y swydd hono ar farwolaeth Iarll Strafford. Yr oedd yn ddirprwywr gwisg; talodd gyfran-daliad yn Neuadd y Gofaint Aur, gan ymdawelu o fewn muriau ei dy. Cambrian Register, cyf. i., tud. 168.

LLOYD, WALTER, oedd orwyr y Walter Lloyd blaenorol. Ei wraig oedd Elisabeth, merch Daniel Evans o Ffynnon Bedr. Yn y modd hyn, unodd prif ddisgynyddion Cadifor ab Dinawol â Gweithfoed Fawr. Daeth Ffynnon Bedr a Llechwedd Deri iddo yn etifeddiaeth ei wraig. Cafodd ei ddwyn i fyny yn gyfreithiwr, a daeth yn Gyfreithiwr Cyffredinol siroedd Aberteifi, Penfro, a Chaerfyrddin. Bu yn aelod seneddol dros Geredigion o 1734 hyd 1741. Bu farw 1744, a chladdwyd ef yn Llanbedr.

LLWYD, EDWARD, a aned, mae yn debyg, yng Nglanffraid, Llanfihangel Geneu'r Glyn. Enw ei dad oedd Edward Llwyd, o Lanfwrda, ger Croesoswallt, ac enw ei fam oedd Bridget, ail ferch Pryse, Ysw., Glanffraid. Yn anffodus, ni fu ei rieni yn briod. Ei dad oedd foneddwr o gyfoeth, ond yn ddyn lled afreolus ei fywyd. Cafodd E. Llwyd ysgol dda yn ei ardal enedigol ; ac ar ol hyny, aeth i Goleg Iesu, Rhydychain, Hyd. 31, 1683, ac a urdd-aelodwyd Tach. 17, yn yr un flwyddyn. Yr oedd wedi dangos tuedd gref at hanes anianol cyn iddo ddyfod yn aelod o'r Brifysgol; o blegid yn y flwyddyn hon gophenwyd llyfrgell i haeledd Mr. Ashmole, ac anfonwyd ei gasgliad i Rydychain, ac a ymddiriedwyd i ofal R. Plott, LL.D. Yn y flwyddyn ganlynol, hwy a gadarnhawyd i'r Brifysgol gan lythyr y sylfaenydd; ac yn 1681, rhoddwyd Mr. Llwyd ar waith i drefnu y mathau a chymharu y cofrestri. Yn y sefyllfa hon o is-geidwad, efe a barhaodd hyd 1694, gan gasglu a rhestru mewn hanes naturiol, yn ol fel y mae yn ein hysbysu yn y rhagymadrodd o'r Lythophylacium Britannicorum, pryd yr esgynodd yn ben- ceidwad, yr hon swydd a ddaeth yn wag trwy ymddiswyddiad ei gyfaill a'i noddwr, Dr. Plott Bu yn llwyddiannus yn yr efrydiaeth hon tra yn dal y swydd o ben-ceidwad. Mae yn amlwg iddo ymweled â phob rhan o Brydain, neu fod ganddo ohebwyr arbenig. Yn 1693, cafodd ei osod i gasglu defnyddiai perthynol i Gymru, ar gyfer argraffiad newydd o Camden's Britannia, ar ddymuniad ac ar draul Mr. Gibson. Ymddengys iddo tua'r amser hwn fwriadu ymweled a Llydaw, ond ym mha gylch, nid yw yn eithaf hysbys; ond yn benaf, mae yn debyg, mewn ymchwiliad am hynodion natur. Daeth yn hysbys i'r holl fyd yn y . wyddor hòno, ac mewn hynafiaeth. Efe a ddechreuodd yn y flwyddyn 1696, ac aeth allan i Gymru, gan beidio pasio dim cywrain neu ddefnyddiol ar ei ffordd. Dychwelodd i Rydychain yn 1697, gan ddwyn ganddo ran o'r casgliad mawr hwn o gloddion (fossils) Cymreig, y rhai sydd yn awr yng nghadw yn ystafell isaf y Gronfa; ond ni fu byw i'w trefnu. Yn 1698, yr ydym yn cael ei fod mewn gwahanol ranau o Gymru a siroedd cyffiniol Lloegr. Yn y flwyddyn hon y gorphenodd ei Lythophylacium Britannicorum, yr hwn a ddysgwyliai y buasai y Brifysgol yn argraffu ar ei thraul ei hun; ond cafodd ei siomi; ac ef allai na fuasai byth wedi cael ei gyhoeddi, pe na fuasai rhai noddwyr boneddig a dysgedig wedi cymmeryd at y gorchwyl ar eu traul eu hunain. Dim ond chwe ugain â gafwyd allan ar draul yr Arglwydd Ganghellydd Somers, Iarll Dorset, Arglwydd Halifax, Syr Isaac Newton, Syr Hans Sloane, Dr. Ashton, Dr. Geofray, o Paris, Dr. Martin Lister, Tancred Robinson, o dan olygiaeth yr olaf Gan nad oedd gan y boneddwr y profiadau wrth law o'r hyn bethau ag oedd yn traethu, na'r awdwr i ymresymu ag ef, daeth allan mor llawn o wallau fel yr oedd yn ofynnol cael ailargraffiad o hono. Cawn ei fod ym Mon yn y flwyddyn 1696, yn ymweled a'i gyfaill mynwosol, Mr. H. Rowlands, awdwr y Mono Antiqua. Yn fuan ar ol hyn, cawn ei fod yn yr Alban; ac yn dechreu y flwyddyn ganlynol yn yr Iwerddon. Dychwelodd o'r Iwerddon yn 1700, gan fyned i Gernyw i astudio y Gernywaeg, a chasglu planigion a chloddion hynod. Mewn llawn awydd, efe a groesodd y Môr Udd, er mwyn chwilio hynafiaethau Llydawaidd ar Arfordir Ffrainc. Cafodd ei gymmeryd i fyny fel ysbïwr. Cymmorwyd ymaith ei bapyrau, a gosodwyd yntau yn y carchar yng nghastell Brest. Yn y modd hyn, gosodwyd attalfa ar ei ymchwiliadau, a bu dan orfod i ymadael a'r deyrnas wedi ei niweidio a'i fawr anfoddloni, trwy weled rhy fach o golofnau hynafol y wlad, a gormod o foesau barbaraidd diweddar. Dychwelodd i Rydychain yng ngwanwyn 1701, wedi casglu digon o ddefnyddiau at y gwaith oedd wedi addaw gymmeryd mewn llaw. Ceisiodd ei gyfaill, Mr. H. Foulks, ganddo gyhoeddi hanes byr o'i deithiau mewn llyfryn chwecheiniog, a thrueni mawr na wnaeth hyny, gan i bethau droi allan fel y gwnaethent. Cafodd, yn yr haf canlynol, ei raddio yn A.C. gan y gymmanfa eglwysig Aeth i Gaergrawnt i ymofyn tudlen o Brydain a'r Iwerddon, gan gael ei siomi. Adysgrifenodd lythyrau Giraldus. Ymroddodd yn Rhydychain at barotoi i'r wasg enghreifftiau o'i lafur a'i ddiwydrwydd, yn yr Archeologia Britannica. Trwy ddiofalwch yr argraffwyr, ni ddaeth allan cyn 1707; ac ni chyhoeddwyd ond y gyfrol gyntaf: dywedir i'r ysgrifau ereill gael eu llosgi yn ddamweiniol. Gwaith rhyfeddol o lafurus a dysgedig ydyw hwn. Cafodd gydflaenoriaeth yng Ngholeg Gresham, yn 1708, er cael ei wrthwynebu yn fawr gan Dr. Woodward. Ar ddyrchafiad Mr. Caswell i broffeswriaeth mewn seryddiaeth, cafodd y swydd o brifysyllwr mewn duwinyddiaeth. Ond ni chafodd fwynhau yr ail anrhydedd hon yn hir, o blegid bu farw yng Ngorphenaf, 1709, ar ol ychydig ddyddinu o selni. Claddwyd ef yn Eglwys St. Michael, Rhydychain, yng nghladdle aelodau Coleg Iesu, ac yno y mae gweddillion un o enwogion penaf Cymru heb yr un goflech! Ond y mae y rhelyw canlynol a adawodd ar ei ol yn gofadael i'w enw yn y Philosophical Transactions:

"No. 166, Art. 8, An Account of a sort of Linum Abestinum, found in the Isle of Anglesea.. No. 200, Art. 3, A Letter to Christopher Hemmer, concerning some regularly figured stones found near Oxford. No. 208, Art. 2, Part of a Letter to Dr. Martin Lister, giving an account of locusts lately observed in Wales. Art. 3, Extract of another Letter to the same purpose, dated Feb. 20, 1693. Art. 4, An Account of the burning of several hayricks by a fiery exhalation or damp, and the infectious quality of the grass of several grounds, dated Dolgelly, Jan. 20, 1694 No. 213, Art. 15, Part of a Letter to Dr. Lister, giving some further account of the fiery exhalation in Merionethshire, dated Oxford, Aug. 23, 1694. No. 229, Part of a Letter to Dr. Tancred Robinson, concerning hail in Monmouthshire, dated Usk, 15 June, 1697, No. 250, Art. 6; No. 269, Art. 1; No. 292, Art. 1; No. 295, Art. 5; No. 314, No. 316, art. 6; No. 335, Art. 3 and 4; No. 366, Art 3 and 4."

Y saith olaf, er wedi eu hysgrifenu yn hir o'r blaen, a ddodwyd i mewn yn ei Philosophical Transaction ar ol ei farwolaeth. Cyhoeddodd hefyd Catalogus Librorum Manuscriptorum in Museo Ashmoleano, yn upplyg, yn ddeg llen, yn rhwym, gyda llechres o lawysgrifau Lloegr. A set of Parochial Queries, mewn trofn i orphen Hanes Gymru. The Life of Elias Ashmole, Carmen Britannicum Dialects Cornub, ad Normana Poetarum Seculi Sexti, in the Oxford Verses in Obit. Guliel. Tertii, &c. A catalogue of local words, paralleled with British or Welsh, published in Ray's Collection of English Words, not generally used. De Fluviorum, &c., in Britannia Nominibus Adversari. Cyhoeddwyd darn o hwn ar ol ei farwolaeth yn niwedd Baxter's Glossary. Praelectio de Stellis Marinis Britannici Oceani, habit in Mus. Ashmol., mewn canlyniad o'i addewid i'r brif ysgol, pan gafodd ei greu yn A.C. Mae ei lafur i'w weled ym mhellach yn Ray's Historia Conchyliorum, Baxter's Glossary, a Nicholson's Historical Library, &c.

Yr oedd ei gasgliadau at ail gyfrol, yn yr hon yr oedd hanes hynafiaethau, cofgolofnau, &c., yn nhywysogaeth Cymru, yn lluosog a gwerthfawr; ond o herwydd anghytundeb rhyngddo a Dr. Wynn, pryd hyny cymmrawd o'r coleg, efe a nacaodd eu prynu; a hwy a brynwyd gan Syr Thomas Seabright o Blackwood, swydd Henffordd, yn yr hon lyfrgell yr arosodd y rhan fwyaf o honynt. Nid oeddynt' yn barod i'w cyhoeddi. Cafodd Dr. Woodward yn wrthwynebydd a gelyn cyndyn. Ymdrechodd a'i holl egni glas i wrthwynebu Mr. Llwyd i gael ei dderbyn yn aelod o'r Gymdeithas Freninol; ond yr oedd gan y Cymro dysgedig ormod o gyfeillion yn bresennol i'w wrthwynebydd lwyddo yn ei amcan bawlyd. Gwnaeth Woodward fwy o ddrwg iddo ei hun nag i Mr. Llwyd; a chafodd ei adael allan o'r cynghor y flwyddyn ddilynol. Yr oedd y cynnorthwy a gafodd ar y Cyntaf yn dra chalonog — yn y flwyddyn 1696, 110p.; 1697, 81p.; 1699, 69p.; ond erbyn 1700, lleihaodd gymmaint ag i'w analluogi i barhau. Ei brif gyfaill oedd Dr. Lister. Ym mhlith gohebwyr Mr. Llwyd mae yr enwau uchel a ganlyn:--Antis, Baxter, Flaherty, Gibson, Hicks, Humphreys, Le Neve, Nicholson, Rowlands. Smith, Tanner, Sibbald, Archer, Cole, Dale, Lister, Morton, Molineaux, Ray, Richardson. Sloane, &o.: tramorwyr-Rivinus, Langius, Alminus, a Scheuter. Yr ydym wedi gorfod talfyru llawer ar hanes y dyn mawr hwn - un o enwogion penaf ein cenedl yn y tri canrif diweddaf. Cadwodd Mr. Llwyd ei enw yn Gymreig, ac ymffrostiai mai ben Brydeiniwr oedd. Meddai,—"I don't profess to be an Englishman, but an old Briton." Ar ol hyny, rhoddai res o'i deidiau hyd Elidyr Lydanwyn ab Meirchion ab Ceneu ab Coel Godebog.

LLWYD, LLYWARCH, Brenin Ceredigion, a flodeuodd yn nechreu y nawfed canrif. Bu farw tua'r flwyddyn 820.

LLYWELYN GRUG ERYR oedd arwyddfardd ac hanesydd enwog yn y pymthegfed canrif. Y mae tebygolrwydd mawr mai gwr genedigol o Llandysilio Gogo oedd.

MADOG AB SELYF oedd arglwydd Ceredigion yn y trydydd canrif ar ddeg. Gwnaeth warogaeth i Lywelyn ab Gruffydd yn y flwyddyn 1270, yn gydunol & brinlen o eiddo brenin Lloegr i'r dyben hwnw, yr hon oedd yn rhoddi i Lywelyn yr hawl o dywysog Cymru. Arfbais Madog oedd az. a wolf sali: argt. Parhaodd yn ei arglwyddiaeth hyd y flwyddyn 1300. Yr oedd hefyd yn fardd enwog.

MAELGWYN AB RHYS oedd drydydd mab Rhys ab Gruffydd, ac yn ddyn o ddewrder yn ei ddydd Drylliodd lawer o gestyll y Seison, ac yr oedd yn dra phoblogaidd yn ei wlad; ond y mae un ysmotyn du ar ei gymmeriad, sef gwrthryfela yn erbyn ei dad, nes y gorfu iddo ei roddi yn y carchar. Ar ol dyfod yn rhydd, cymmerodd gastell Ystrad Meirig. Gwrthryfelodd wedi hyny yn erbyn ei frawd Gruffydd. Gwerthodd gastell Aberteifi i'r Seison. Bu farw yn Llanerch Aeron tra yn adeiladu castell Trefilan, yn 1231. Rhoddodd gyfoeth lawer i fynachlog Ystrad Fflur. Dyddiad y freinlen yw 1198. Claddwyd ef yn Ystrad Ffur. MAELGWYN FYCHAN oedd fab Maelgwyn ab Rhys. Gorphenodd gastell Trefilan; a chymmerodd amryw gestyll, gan hynodi ei hun fel rhyfelwr. Ei gyfoeth yn ol cynnadledd Aberteifi dan Lywelyn ab Iorwerth oedd, cantrefi Cemmaes, Emlyn, Cilgeran, a Gwarthaf; cymmydau Hirfryn, Mallaen, Maenor Fyddfai, Gwynionydd, a Mabwynion. Ar ol cwymp y Dywysogaeth, wrth weled y wlad yn cael ei gorthrymu, cododd gwŷr Ceredigion a'r cyffiniau mewn gwrthryfel yn erbyn y brenin Iorwerth I. yn 1294. Cafodd Maelgwyn ei orchfygu, a'i gymmeryd i'r carchar i Henffordd; gan gael ei lusgo i'r dienyddle wrth gynffon ceffyl anystywallt, a'i ddarnio yn bedwar darn! Cafodd dau wladgarwr arall yr un dynged. Tebyg taw Cynan ab Meredydd oedd un o honynt.

MEREDYDD AB OWAIN oedd bendefig tywysogol o Geredigion, ac yn rhyfelwr dewr. Yr oedd ym mrwydr Emlyn, lle y lladdwyd Patrig de Canton, blaenor diymddiried y Seison. Mae gan y Prydydd Bychan chwe cyfansoddiad iddo, ac un o honynt yn farwnad. Mab iddo oedd Cynan ab Meredydd. Rhoddodd lawer o gyfoeth i Fynachlog Ystrad Fflur.

MEREDYDD AB RHYS oedd fab Rhys ab Gruffydd. Yr oedd yn archiagon Ceredigion. Preswyliai yn Llanbedr, lle y bu farw yn 1226. Claddwyd ef yn Nhy Ddewi wrth ochr ei dad.

MORGAN, ABEL, gweinidog gyda'r Bedyddwyr yng Nghymru, ac wedi hyny yn America, a aned yn yr Allt Goch, Llanwenog, yn 1673 Yr oedd ei dad, Morgan Rhydderch, yn frawd i'r bardd Sion Rhydderch, argraffydd yn yr Amwythig. Cafodd ysgol dda, a dechreuodd bregethu pan yn ieuanc. Ymsefydlodd ym Mlaenau Gwent yn 1697. Llafuriodd yno yn barchus a defnyddiol iawn hyd 1711, pryd y penderfynodd ymfudo i Bensylfania. Yr oedd amryw o'i gyfeillion a'i berthynasau yno yn barod. Ar yr 28fed o Fedi yn y flwyddyn hòno, aeth efe a'i deulu i'r môr mewn llong o Gaerodor; ac o herwydd gerwindeb yr hin, gorfu arnynt droi i Aberdaugleddyf, lle y buont am dair wythnos. Wedi hwylio oddi yno, gyrwyd hwy gan dymmestl i Cork, lle y buont bum wythnos yn flin eu cyflwr ar amryw ystyriaethau. Mordwyasant oddi yno drachefn ar y 19ydd o Dachwedd; ac aethant yn glaf iawn ar y môr. Bu farw ei fab bychan ar y 14ydd o Ragfyr; ac ym mhen tri diwrnod ar ol hyny bu farw ei wraig. Bu am un ar ddeg o wythnosau rhwng yr Iwerddon a thir America, a hyny yn nyfnder y gauaf. Bu y llong oddechreu'r daith i'w diwedd ddwy ar hugain o wythnosau. Cafodd ofal Eglwys Penybec, yr Eglwys henaf o Fedyddwyr yn Nhalaeth Pennsylfania. Bu yn dra diwyd i osod Eglwysi y Bedyddwyr mewn trefn yn y Cyfandir Newydd. Gorphenodd ei daith yn 1722, yn 49 oed. Gelwir ef gan ysgrifenwyr Americaidd "Yr anghymharol Abel Morgan." Cyfieithodd Gyffes Ffydd y Bedyddwyr, a chyfansoddodd amryw holwyddoregau; ond ei brif orchest llenyddol oedd y Cydgordiad, neu Fynegair Cymreig, o'r Ysgrythyr Lân, y cyntaf a gyfansoddwyd erioed yn yr iaith; ond ni fu byw i'w ddwyn allan o'r wasg, onid e, dichon y buasai yn gyflawnach a pherffeithiach. Trwy lafur a gofal ei ddau frawd ac ereill, argraffwyd ef yn Philadelphia, gan Samuel Keimer a David Harry, yn 1730. Cyflwynwyd ef i David Lloyd, Ysw., prif ynad Pennsylfania, a chynnwysa Anerchiad at y Cyhoedd, gan John Cadwaladr, Cymro cyfoethog o Philadelphia. Yr oedd Dr. Franklin yn cyssodi y llyfr. Gwelsom gyfargraff o hono ym meddiant Dr. Jones, Glancych.

MORGAN AB RHYS ydoedd fab y Tywysog Rhys ab Gruffydd. Cymmerodd ran helaeth yn helyntion ei wlad. Bn farw yn y flwyddyn 1250, a chladdwyd ef yn Ystrad FAur. Cyfansoddodd y "Prydydd Bychan" farwnad iddo.

MORGAN, DAVID, diweddar weinidog yr Annibynwyr yn Llanfyllin, a aned yn ardal Tal y Bont, Llanfihangel Geneu'r Glyn, Rhagfyr 27, 1779. Ymunodd ag Eglwys yr Annibynwyr yn Nhal y Bont pan yn lled ieuanc: y Parch. Asarïah Shadrach oedd y gweinidog ar y pryd. Dechreuodd bregethu, a chyn hir cafodd alwad gan Eglwys yr Annibynwyr ym Machynlleth. Bu yno yn ddiwyd a llwyddiannus rhyfeddol. Symmudodd i Lanfyllin yn 1835. Bu farw yng Ngbroesoswallt, Mehefin 14. 1858, yn 79 oed, a chladdwyd ef yn Llanfyllin. Yr oedd Mr. Morgan yn wr o alluoedd cryfion iawn, ac o fywyd tra diwyd. Nid oedd un amser yn segur. Byddai yn codi yn y boreu oriau lawer o flaen neb yn y dref, a byddai yno yn yr hwyr oriau lawer ar ol i bawb fyned i orphwys. Planodd amryw Eglwysi Annibynol o amgylch Machynlleth. Yr oedd yn sefyll yn uchel iawn fel pregethwr; yn feistr ar ei bwnc, gan daflu, fynychaf, arno oleuni newydd. Ystyrid ef y blaenaf a'r cadarnaf mewn gwybodaeth ac aidd ymneillduol o bawb trwy Gymru. Ysgrifenodd lawer iawn i wahanol gyhoeddiadau yr oes, megys y Dysgedydd, Diwygiwr, Cronicl, &c. Ei brif waith lenyddol yw Hanes yr Eglwys Gristionogol, yr hwn a ystyrid yn ymchwiliad, casgliad, a chrynodeb rhagorol o hanes yr Eglwys. Cyhoeddodd hefyd draethawd ar Ymneillduaeth, Hanes Ymneillduaeth, Esboniad ar Lyfr y Dadguddiad, yng nghyd â llawer o fan draethodau a phregethau. Mae y cyfan o waith Mr. Morgan yn dangos llawer o ymchwil a meddwl galluog. Dywedir fod anerchiad golygydd oedranus y Dysgedydd yn ei angladd yn dra effeithiol.

MORGAN, DAVID JENKIN, y cerddor enwog, a aned ym mhlwyf Llangaranog. Yr oedd ei dad yn fab i D. Morgans, Ysw., Llanborth; ond gan mai tu allan i'r fodrwy briodasol yr oedd wedi ei eni, nid oedd Siencyn Morgan ond gwr cyffredin. Yr oedd Llanborth yn hanu yn gywir o hen arglwyddi clodfawr y Tywyn, y rhai a hanent o Lywelyn Fychan o Emlyn. Yr oedd tad y cerddor yn glochydd Llangaranog, ac yn meddu llais rhagoraf o bawb yn ei oes. Efe oedd y clochydd yno yn yr amser yr.oedd y Parch. Peter Williams yn gurad y plwyf; a rhwng cerddoriaeth y clochydd a phregethau y curad, yr oedd torfeydd o wahanol barthau o'r wlad yn cyrchu i Langaranog. Dywedir nad oedd llais Dafydd yn agos cystal a llais ei dad; ond daeth y mab i ddeall y wyddor yn llawer gwell na'r tad. Ni chafodd lawer o fanteision dysg; ond ymroddodd i ddysgu ei hun mewn gwybodoeth gyffredinol, ond yn benaf mewn cerddoriaeth. Daeth yn gerddor enwog iawn, a gwnaeth fwy dros gerddoriaeth yn ei oes na neb arall yn nhair sir Dyfed, os nad yn holl Gymru. Yr ym yn cofio ei weled lawer gwaith yn y blynyddoedd olaf o'i oes. Preswyliai pryd hyny mewn bwth bychan ym Mhen Llwyn Du, a rhwng pedwar ugain a deg oed, ac yn dwyn nodau angen ymgeledd. Yr oedd ei wraig wedi marw er ys amryw flynyddau o'i flaen. Yr oedd yn hynafgwr crefyddol, nid yn unig mewn enw, ond hefyd mewn cymmeriad. Annibynwr oedd. Rhoddwn yma sylwadau o eiddo cyfaill o gerddor ag oedd yn dra adnabyddus ag ef, sef Mr. T. Jones (Eos Gwenffrwd), Cwmcau:- "Ym mhlith cerddorion Debeudir Cymru, nid y lleiaf oedd Dafydd Siencyn Morgan, fel y profa y darnau cerddorol sydd ar gael yn bresennol o'i waith; megys y "Mercurial Anthem," "Penmaesglas," "Wellington," "New Troy," "Mwyneidd-dra," "New Town," "Cader Idris." Gweler hefyd dôn o'r enw "Horeb," ar y mesur 8. 7. 3., sef mesur 8fed yn llyfr hymnau S. R. Mae y dôn uchod wedi ei gosod i mewn gan amryw gerddorion yn eu casgliadau o donau cynnulleidfaol, heb gymmaint a chrybwylliad gan un o honynt pwy yw yr awdwr. Siaredir yn fynych am dani, a gofynir pwy yw yr awdwr -f od mwy o ganu wedi bod arni yn yr hanner canrif diweddaf yn y Dehoudir nag unrhyw dôn arall ar y mesur hwnw. Mae'r cyweirnod yn G fwyaf. Gweler Swn Addoli gan y Parch. D. Richards, Llanelli, Brycheiniog, ac hefyd mewn casgliadau ereill. Dywedodd wrthym mai efe oedd ei hawdwr, gan ychwanegu yr achlysur a achosodd iddo ddechreu y gwaith. Gan hyny, gwneler yn gyfiawn ei phriodoli iddo. Nid ydym yn crybwyll am yr holl donau melusion a pherseiniol a gyfansoddwyd gan yr hen gerddor manylgraff—dim ond ychydig.o lawer. Gellid enwi llawer yn ychwaneg na fuont argraffedig, megys "Waterloo," "Champion," "Bradford New," "Gwasanaeth," am yr hon, meddyliwn, y cafodd wobr yn Eisteddfod fawr y Trallwng. (1) Yr oedd yr hen wr yn lled falch ar y bathodyn arian, ac efe a'i cadwodd yn ei feddiant hyd ei flynyddau diweddaf; ond wifft i'r anffawd, efe a'i collodd ! Galarai am dano tra fu byw. Yr oedd D. S. M. yn hynod fanol a deallus mewn rheolau cerddoriaeth. Gramadeg Tansur oedd ei gydymaith gorau, ac yn ol hwn fynychaf yr oedd yn cyfansoddi tonau, yr hwn oedd yn crogi ar benau ei fysedd. Ni thalai bob amser sylw manol i reolau cerdd. Cymmerai weithiau ei arwain gan ei chwaeth yn fwy na chan reol, megys yn y dôn "Wellington," yn yr hon y mae y pummau yn amlwg yn canlyn eu gilydd. Gweler Caniadau Sion gan R Mills. Nid bob amser y buasai yn gochelyd pummau ac wythau cerdd; ond bryd bynag y defnyddiai hwynt, yr oedd prydferthwch a lledneisrwydd i'w canfod a'u teimlo, nes yr oedd braidd yn rhoddi trwydded i'w dwyn i mewn, pan y gallesid yn rhwydd eu hebgor. Collfarnai yn y tonau gwylltion afreolaidd oedd mewn arferiad mewn rhai manau yn ei oes Dywedai am y Delyn Aur, fod "Telyn Bren" yn enw eithaf da iddi. Bu yn cynnal cyfarfodydd canu braidd ym mhob man o dair sir Dyfed, a bu hefyd ym Morganwg, Gwynedd, a Phowys. Bu yn yr Eglwys Sefydledig mewn amryw fannau. Dysgu canu yn briodol, a chael tâl am hyny, oedd ei amcan ef. Pan yn ei gyflawn nerth, byddai bob nos yn rhyw barth o'r wlad. Cofus genym ei glywed unwaith yn dywedyd fod ganddo gôr canu mewn rhyw fan fuasai yn peri i'r organ gywilyddio, pe hyny yn ddichonadwy. Yr oedd yn fedrus a gofalus iawn i gadw yr amser. Dywedai pe canfuasai ddyn ar gopa y Frenni Fawr, yn sir Benfro, yn chwareu yr amser a'i law, y gallasai yntau ganu y đôn hdno ar ben Bryn y Bwa, yng Ngheredigion, heb golli un mymryn o'r amser. Yr oedd enw "Dafydd Siencyn Morgan" yn deuluaidd gan ieuenctyd a hen bobl, ym mhell ac agos; adnabyddid â pherchid ef ym mhob man. Gellir dywedyd na fynegwyd mo'r hanner am yr hen gerddor gwych. Yr oedd rhagorach canu yn y capel y perthynai iddo yn Llechryd nag un arall trwy'r wlad, ac y mae ol yr hen gerddor yno hyd heddyw.

"Nid canwr mursenaidd a diog ei agwedd
Oedd Dafydd ab Siencyn ab Morgan mewn dullwedd;
Yn gymhwys a chymhen yn dadgan yr acen,
Dedwyddwch oedd gwrando ei gân yn ei elfen,

"Gwnai drefnu llonnodau i'w lleoedd priodol,
A lleddfu wrth angen, a nodi'r naturiol;
Cynghanedd berseiniol a eiliai y pencerdd,
Nes swyno rhyw filoedd â sain ei felus-gerdd."

Bu farw Tachwedd 18, 1844, yn 92 oed.

(1) Dewi Cynllo oedd ei ffugenw wrth y dôn hòno, am y preswyliai yn Llangoedmor, a bod yr Eglwys hòno yn gyflwynedig i Gynllo Sant.

MORGAN, ENOCH, oedd fab Morgan Rhydderch o'r Allt Goch, plwyf Llanwenog, a brawd i Abel Morgan. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1676. Ymfudodd i America yn 1701. Bu yn weinidog y Bedyddwyr yn Welsh Tract, yn Nhalaeth Pennsylfania; a gorphenodd ei daith yn y flwyddyn 1740. Yr oedd yn wr o dalentau godidog, a mawr ei barch. Yr oedd ganddo fab o'r enw Abel Morgan, yr hwn fu yn weinidog i Eglwys luosog a chyfoethog o Fedyddwyr ym Middleton, Jersey Newydd. Rhydd haneswyr glod uchel iddo fel gweinidog llafurus a thalentog. Dywedir fod y Cadfridog Daniel Morgan yn un o'r teulu hwn. Yr oedd E. M. yn fardd medrus.

MORGAN, JENKIN, gweinidog yr Annibynwyr ym Mhentref Ty Gwyn, a aned ym mhlwyf Llanddewi Aberarth, Chwefror 24, 1762. Derbyniodd ei addysg yng Nghiliau Aeron, a manau ereill. Bu yn weinidog yn Esger Dawe, ac wedi hyny ym Mhentref Ty Gwyn. Bu farw Tachwedd, 1834.

MORGAN, JOHN, M.D., awdwr y Pethagoras, oedd enedigol o blwyf Trefilan. Ni chafodd ond ychydig o fanteision dysg; ond efe a barhaodd gyda dyfalwch mawr i ddysgu ei hun. Dechreuodd ei yrfa feddygol gyda'r enwog Ddr. Morgan, Dolgoch, yn Nhrood yr Aur. Nis gwyddom pa un ai o'r Alban neu ynte o'r America y cafodd ei M.D. Prif bwnc ei oes oedd cymbaru gwahanol ieithoedd, er mwyn dangos hynafiaeth y Gymraeg. Mae ei Advertisory Sketch of Pethagoras yn cynnwys 30 o dudalenau, yr hwn sydd yn dangos llawer iawn o ol ymchwiliad. Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes, yn Llundain lle y bu farw tua 1850.

MORRIS, DAVID, pregethwr enwog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, a anwyd yn y Lledrod. Bu iddo bedwar o blant, o ba rai Ebeneser oedd yr henaf. Dechreuodd bregethu pan yn ddyn ieuanc, tua'r flwyddyn 1765, pan nad oedd ond 21 mlwydd oed; a chyrhaeddodd yn fuan enwogrwydd mawr yn y weinidogaeth, gan y meddiannai ddoniau godidog. Nid oes hanes iddo gael manteision uchel i gyrhaedd dysgeidiaeth yn ei ieuenctyd; eto, efe a gyrhaeddodd fesur helaeth iawn o wybodaeth dduwinyddol, a dysgodd ddeall awdwyr Seisonig; ac yr oedd yn ysgrifenwr da. Yn ei wynebpryd, yr oedd yn edrych yn rhyfeddol o barchus; a phan yn ieuanc, yn hynod o lyfndeg ei wedd, ei wallt yn wineufelyn, ei lygaid yn fawrion ac yn fywiog, ei lais yn gryf, eglur, a soniarus. Daliodd tewder mawr ef pan yn ieuanc, a pharhaodd felly hyd ei farwolaeth. Dywedir taw grymusder oedd prif nodwedd ei weinidogaeth. Meddiannai ar alluoedd rhyfeddol i ddeffroi dynion cysglyd a diofal i ddianc am eu bywyd at y Gwaredwr. Dywedir ei fod yn arfer cyfansoddi llawer iawn o bregethau drwy holl ystod ei oes. Dywedai Mr. John James, Castell Newydd, am dano, ddarfod iddo ei wrando saith ugain o weithiau mewn un flwyddyn, a bod pob un o honynt yn newydd. Dengys hyn ei fod yn ddyn o feddwl bywiog a chadarn. Dywedai yr enwog Christmas Evans am dano—"Yr oedd Dafydd Morris yn bwysig a thra deffröus yn ei anerchiad at gydwybodau a serchiadau ei wrandawyr. Nid hawdd adrodd yr effeithiau oedd yn canlyn ei ddawn yn y dyddiau deffrous hyny, trwy siroedd Arfon, Mon, Dinbych, &c. Yr oedd dwysder yn nodwedd berthynol i'w ddawn, yr hwn oedd yn dra chyffrous; gellir gweled ei ddelw yn ei fab Mr. E. Morris. Dywedir fod "pregeth y Golled Fawr" yn ofnadwy o ddifrifol a chyffröus: gwaeddai allan gyda rhyw perth braidd yn annaiarol, "O! bobl y golled fawr, " nes oedd y dyrfa yn plygu mewn braw, fel coedlan o gorsenau gweinion gan dymmestl. Traddododd hefyd bregeth ryfeddol gyda nerth ag oedd yn synu pawb yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog, sef, "Dyro gyfrif o'th Oruchwyliaeth. Dan y bregeth hòno, torai pawb agos yn y lle, naill i waeddi neu i wylo—i folianuu neu i weddïo. Nid oedd anystyriaeth rhai, na gwrthwynebiad ereill, yn gallu dal; toddai y calonau caletaf fel cwyr o flaen y tân; teimlai y dorf fel pe byddent o flaen y Barnwr. Teithiodd Dafydd Morris lawer trwy Dde a Gogledd Cymru; a dywedir fod son yn parhau am dano yn y Gogledd hyd heddyw - plant, wyron, a gorwyron y rhai a'i clywsant, yn son am dano - dyna anfarwoldeb enw. Dywedasom ei fod yn dew iawn, hyd yn oed pan yn ieuanc, ond parhaodd er hyny i deithio a llafurio a'i holl egni. Ni fu ei oes yn faith, ond bu yn effeithiol iawn. Yr oedd ei bregethau, pan ddeuai yn ddamweiniol drwy ardal, fel pylor yn dryllio y creigydd o galonau caletaf, a byddai gwedd newydd ar y cynnulleidfaoedd ar ol ei glywed; ie, a gwelid newidiad yn agwedd ardaloedd ar ol ei ymweliad. Yr oedd Mr. Morris yn emynwr rhagorol, a chyhoeddodd lyfr hymnau o'r enw, Can y Pererinion Cystuddiedig ar eu Taith tua Sion. Dechreua yr emyn cyntaf fel hyn:- "Mae brodyr imi aeth ym mlaen," &c. Dywedir hefyd mai efe ydyw awdwr y pennill tra chyfarwydd hwnw,- "Ar fryniau Caersalem ceir gweled," &c. Bu y dyn talentog, doniol, a gwerthfawr hwn farw yng nghanol ei ddefnyddioldeb, Medi 17, 1791, yn 47 mlwydd oed, wedi bod yn pregethu tua 26 o flynyddoedd. Claddwyd ef ym mynwent Troed yr Aur. Preswyliai y rhan olaf o'i oes yn Nhwr Gwyn.

MORRIS, EBENESER, gweinidog enwog gyda'r Trefnyddion, ydoedd fab i'r enwog Dafydd Morris blaenorol. Ganwyd ef ym mhlwyf Lledrod, yn y flwyddyn 1769. Gosodwyd ef pan yn ieuanc mewn ysgol ramadegol gyda'r Parchedig Daniel Davies, curad Troed yr Aur. Cadwai Mr. Davies yr ysgol ym Mhen Bont Wnda, persondy Troed yr Aur, ar lan y Ceri. Dywedir fod Eben. Morris yn ben campwr mewn nofio ar y pryd. Yr oedd hon yn ysgol wech, ac ymddengys ei fod yntau wedi derbyn dysg yn weddol dda; eto, nid yn uchel iawn. Pan o ddeutu dwy ar bymtheg oed, aeth i ardal Trecastell, Brycheiniog, a bu yno am ryw dymmor yn cadw ysgol. Dechreuodd bregethu pan yn bedair ar bymtheg oed. Yr oedd hyn tua'r flwyddyn 1788. Aeth yn fuan ar daith gyda'r Parch. Dafydd Parry, Brycheiniog, trwy Ogledd Cymru. Ar farwolaeth ei dad, yn 1791, efe a symmudodd i'w hen gartref ym mhlwyf Troed yr Aur, pan nad oedd eto ond 22 mlwydd oed. O ran corffolaeth, nid oedd yn dal iawn, ond o gyfansoddiad corfforol & phrydferth. Yr oedd o ymddangosiad bardd, o wynebpryd agored a theg, yn meddu ar bob cymhwysder golwg a gwedd i ennill sylw a pharch. Newidiai lawer ar ei wedd a'i lais wrth bregethu. Byddai ei lais a'i agwedd yn cael eu cymhwyso i'r dim i natur y materion fyddai yn drin. Yr oedd ei ymddangosiad yn yr areithfa yn hardd dros ben; yno y cartrefai aryddion gonestrwydd a challineb, pereidd-dra, a grym llais, a gweddusrwydd ardderchog ymadroddion. Yr oedd yn hollol amddifad o rodres a choegni. Ni wenieithai i neb; ac er mor wrol oedd ei feddwl, heb arno ofn neb, nid oedd neb yn fwy tyner nag ef at y gweiniaid. Yr oedd yn hyf heb anweddeidd-dra, ac yn fwyn heb weniaith. Meddiannai driad godidog — gwroldeb, gonestrwydd, a challineb. Prif nodwedd ei bregethau oedd grymusder ac helaethrwydd. Dywedir nad oedd ei bregethau yn feithion. Dywedai hen bobl o'r ardal hòno, na chlywsant mo hono erioed yn diweddu cyfarfod "heb gael gafael yn y bobl." Dywedir ei fod yn pregethu bob dydd o'r wythnos ond dydd Llun a dydd Sadwrn, ac felly yr oedd ei lafur yn fawr iawn. Pregethai mewn tai annedd, angladdau, ac ar fyrddau llongau. Yr oedd yn ddyn o ddylanwad mawr, yr hyn oedd wedi ennill ei hun. Yr oedd yn meddu ar lawer iawn o graffder treiddiol, ac felly yn galla myned trwy bob amgylchiad dyrys gyda llawer iawn o rwyddineb. Medrai wneyd heddwch rhwng pobl a fyddent mewn ymrysonau cyndyn, gyda llwyddiant rhyfeddol. Yr oedd yn barchus iawn gan foneddigion y wlad. Byddai W. Lewes, Ysw., Llysnewydd, un o foneddigion mwyaf dylanwadol y wlad, yn diolch iddo am fod mor offerynol i gadw heddwch yn y wlad, gan ddywedyd, "Yr ydych yn fwy o werth yn y wlad na dwsin o honom ni, yr ustusiaid, yma." Wrth holi am y dyn rhagorol hwn, yr ydym yn ei gael yn fawr ym mhob modd-mewn galluoedd meddwl, doniau, craffder, diwydrwydd, crefyddoldeb, ac aidd dduwiol fel gweinidog. Yn y cymmeriad hyn, gwnaeth, ef allai, fwy na neb dros i'r Trefnyddion urddo gweinidogion eu hunain, ac felly i dori'r hen gymmundeb oedd rhyngddynt a'r Eglwys yn hyn, mae llawer yn ei ganmol yn fawr, ac ereill yn ei feio. Clywsom lawer o hen bobl yn dywedyd, pe buasid wedi urddo Mr. Morris yn offeiriad, a dau neu dri gyda ef, na fuasai y Trefnyddion wedi tori allan o'r Eglwys; ond nid ydym yn ei gadarnhau, na chwaith yn Cymmeradwyn na chollfarnu y symmudiad hwnw, ond yn unig traethu yr hyn a glywsom. Cawsom ein geni a'n magu yn yr ardal hòno, ac er da welsom mo Mr. Morris erioed, clywsom ganmoliaeth uchel iawn iddo gan bawb. Bu farw yng nghanol ei ddyddiau, Awst 15, 1825, yn 56 mlwydd oed. Y mae cofadail hardd am ei dad ac yntau ym mynwent Troed yr Aur, ac arni englyn o waith Eben Fardd, fel hyn:

Angelaidd efengylu — y buont
Trwy 'u bywyd yng Nghymru,
Tywysogion llon y llu,
A Morrisiaid mawr Iesu."

Mae Thomas Morris, Ysw., Blaen y Wern, un o ynadon Ceredigion, yn fab iddo, ac felly hefyd Samuel Morris, Ysw., Garreg Wen. Y mae hefyd Mrs. Powell, Blaen Ffos, yn ferch iddo. Y mae gan Mrs. Powell fab o'r enw Ebeneser Powell yn weinidog yn Holt.

MORYDD (neu MEIRIG) AB LLYWARCH LLWYD oedd frenin Ceredigion. Yr oedd yn dad i Angharad, gwraig Rhodri Mawr. Bu farw yn y flwyddyn 840.

ODWYN AB TEITHWALCH, Arglwydd holl Geredigion. Blodeuodd tua diwedd y degfed canrif.

OLIVER, THOMAS, a aned ym mhlwyf Lledrod, o rieni cyfrifol, ac a ddygwyd i fyny yn offeiriad. Gwasanaethodd fel offeiriad mewn amryw fanau, ond yn benaf yn Dudley. Rhoddodd dir ac arian yn ei ewyllys, yr hon sydd yn dwyn y dyddiad Mai. 1745, at gynnal ysgol ramadegol barhäus yn ei ardal enedigol, i ryw nifer benodol o fechgyn tlodion, genedigol o'r adran hòno. Gadawodd dyddyn o'r enw Ynys y Garn, a phedwar cant o bunnau tuag at brynu tir arall ar gyfer yr ysgol. Rhoddodd yr awdurdod i John Lloyd, Ysw., Ffos y Bleiddiaid, a'i etifeddion dros byth. Ond bu Mr. Oliver farw cyn diwedd y flwyddyn hono, ac felly yr oedd yr ewyllys yn ddirym yng ngolwg y gyfraith. Ond ei weddw haelionus, a'i unig gymmun-weinyddes, Dorothea, a adnewyddodd y rhodd yn ei ystyr bellaf, trwy goflyfru gweithred trwy'r Canghell-lys, a thrwy ymddangos yno yn bersonol yn y llys; a rhoddodd iddi holl rym y gyfraith. Yn y weithred ganmoladwy hon, hi gafodd ei chynnorthwyo yn fawr gan fab henaf Mr. Lloyd, yr hwn oedd wedi ei ddwyn i fyny yn gyfreithiwr. Cyn coflyfru yr ewyllys yn y Canghell-lys, trefnodd Mr. Lloyd a'i fab trwy gydsyniad y weddw, osod yr arian allan, drwy brynu dwy neu dair o ffermydd, y rhai a sicrhawyd gyda fferm Mr. Oliver ar gyfer yr ysgol. Perthyn Briwffosydd, Ffos y Pilwrn, ym mhlwyf Llanrhystud; Pant y Scythan a Blaen lago, ym mhlwyf Llandyssul; Dôl, ty a gardd yn nhref Tregaron; a chae bychan yn Swydd Ffynnon, yng nghyd ag Ynys y Garn, ym mhlwyf Lledrod, i waddoliad Mr. Oliver. Yr athraw cyntaf ar ysgol Mr. Oliver oedd Mr Edward Richard.

OWAIN AB CADWGAN, oedd fab Cadwgan ab Bleddyn, Tywysog Ceredigion. Yr oedd yn enwog am ei wroldeb, ac hefyd yn llawn mor hynod am ei aflonyddwch a'i ryfyg. Trwy ruthro ar William de Brabant, pan ar daith trwy Geredigion, a'i ladd, efe a dynodd arno wg Brenin Lloegr, a gorfu arno ffoi i'r Iwerddon. Daeth wedi hyny i'w ffafr, a chafodd ei greu yn Farchog. Cafodd ei ladd pan yn ymladd o blaid Brenin Lloegr yn erbyn Gruffydd ab Rhys. Hanai Llwydiaid Gilfach Wen Uchaf a'r Cilgwyn o hono.

OWAIN AB GRUFFYDD oedd ail fab Gruffydd ab Rhys. Yr oedd yn bendefig o ddoniau a dewrder clodfawr. Tua'r flwyddyn 1208, gwnaeth Llywelyn ab Iorwerth gadgyrch i Ddyfed, gan gymmeryd a chryfhau Castell Aberystwyth, a meddiannodd gantref Penwedig; a rhoddodd ddryll arall o Geredigion Uwch Aeron i feibion Gruffydd ab Rhys, sef Rhys Ieuanc, ac Owain, a'i frodyr. Cydweithiodd y ddau frawd gyda'u hewythr Llywelyn, yr hyn a gynhyrfodd Iarll Caer yn y Gogledd, a Rhys Grug yn y Deheudir. Daeth Maelgwn ab Rhys allan yn erbyn ei neiaint, a gwersyllodd am noswaith yng Nghil Cenin, gan fwriadu cymmeryd cyfoeth y ddau frawd dranoeth; ond Rhys ac Owain, gyda tua thri chant o wŷr yn y nos, a ruthrasant ar Faelgwn, gan ladd a chymmeryd ei wyr yn. garcharorion, cyn iddynt ddeall beth oedd yn myned ym mlaen; a braidd y gallodd Maelgwn ei hun ddianc. Gorfu i Lywelyn Fawr, drwy ystryw ei wraig anffyddlawn, ymostwng i dalu gwarogaeth i Frenin Lloegr, a dilynwyd ef gan y tywysogion a'r pendefigion Cymreig ereill; ond daliodd Rhys ac Owain eu hannibyniaeth. Daeth byddin- oedd y brenin, a Maelgwn, a Rhys Fychan, a nerth mawr i Benwedig, a gorfu i'r ddau frawd roddi fyny y wlad rhwng Dyfi ac Aeron. Trechodd Rhys ac Owain Rys Grug yn Nhrallwng Elgan. Unasant â Llywelyn Fawr, gan ei gynnorthwyo i gymmeryd Cestyll Tal y Bont, Brycheiniog, Ystum Llwynarth, Caerfyrddin, Llanstephan, Talacharn, St. Cler, Emlyn, Tredraeth, Cilgeran, ac Aberteifi. Cafodd y ddau frawd Gestyll Aberteifi a Nant yr Ariant, a thri cantref yng Ngheredigion. Oherwydd tori o Reinallt de Breos ei ammodau, goresgynasant ei gyfoeth yng ngwlad Buallt. Cynnorthwyasant Llywelyn Fawr i oresgyn Rhos yn Nyfed. Bu y pendefig gwrol hwn farw tua'r flwyddyn 1235. Yr oedd yn un o wroniaid ei oes. Canodd y Prydydd Bychan iddo fesur Proest Cyfnewidiog. Dechreua fel hyn:-

" Ywain ruddein rodd edmyg,
Ged ysgein gad ddiysgog,
Teyrnedd leith dudfeith deg
Teyrnas dipas dinag."

Mae iddo hefyd farwnad gan yr un bardd. Claddwyd ef wrth ochr Rhys ei frawd, yn Ystrad Fflur. Yn achau Owain ab Tudur, o Ben Mynydd, Mon, cawn y goleu hyn ar ddisgynyddion y pendefig hwn:-"Owain ab Meredydd ab Margaret, ferch Thomas ab Llywelyn ab Owain ab Meredydd, Arglwydd Isgoed, ab Owain ab Gruffydd ab Rhys, Tywysog D. Cymru."

OWAIN AB HYWEL DDA a gafodd freniniaeth Ceredigion yn y flwyddyn 948. Arweiniodd fywyd tra rhyfelgar. Trechodd feibion Idwal pan anrheithiasant Ddyfed, gan ladd Dinwallon,' brenin y wlad hòno. Torodd Gôr Llan Illtud, am fod yno wyr llên o Seison yn arfer brad yn erbyn y Cymry. Daeth Edgar, brenin Lloegr, i Gaerlleon i'w erbyn, gan "yru arno lywodraeth." Cafodd ei ddilyn gan ei fab Meredydd.

OWAIN AB MEREDYDD oedd wyr i Owain ab Gruffydd. Yr oedd yn rhyfelwr dewr; a bu yn cyd-ryfela a'i frawd Cynan, Arglwydd Caron.

OWEN, JOHN, periglor Thrussington, & aned yng Nghilaerwysg, Llanfihangel Ystrad. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ystrad Meirig. Cafodd ei urddo yn Llanelwy yn 1811, ar guradiaeth Hirnant. Cafodd cyn hir guradiaeth St. Martin, Leicester, a gwasanaethodd amryw Eglwysi yn y gymmydogaeth hòno. Cafodd ym mhen amser berigloriaeth Thrussington. Yr oedd hefyd yn ddeon gwladol. Yr oedd yn wr gweithgar, ffyddlawn, a dyfosiynol iawn. Yr oedd yn un o'r dosbarth "Efengylaidd" o offeiriaid, ac yn un o'r rhai amlycaf o honynt. Safai yn uchel iawn fel gweinidog yr Efengyl. Yr oedd hefyd yn awdwr enwog, fel y dengys y rhes ganlynol: Letters on the Writings of the Fathers of the Two First Centuries,

1838; Cofiant y Parch. Daniel Rowlands, 1839;

Lectures on Popery, 1843; A New Translation of Luther on the Galatians, 1845; Memoir of the Rev. Thomas Jones, Creaton, 1851; Emynau wedi eu cyfieithu o'r Seisoneg, a rhai Newyddion, 1860. Ond ystyrir ef yn uwch fel awdwr yn ei gyfieithad o Esboniad Calfin. Daeth y Prophwydi Lleiaf allan yn bum cyfrol yn 1849; y Rhufeiniaid yn 1849; pum cyfrol yn 1855; yr Hebreaid yn 1853, a'r Epistolau Cyffredinol yn fuan ar ol hyny. Bu farw Gorphenaf 25, 1867, yn 80 mlwydd oed, yn nhy ei fab yng nghyfraith, y Parch. Henry Smith, St. Alban. Yr oedd yn hoff iawn o wlad ei enedigaeth, ac yn parhau i allu ysgrifenu a phregethu yn Gymraeg.

OWEN, JOHN. bardd, oedd enedigol o Geredigion. Symmudodd i Lundain, a chyfansoddodd gywydd i'w gariad yn 1758. Dengys fod ei anwylyd wedi ffromi wrtho am ei fod wedi gadael ei wlad a hithau. Dechreus y cywydd fel hyn:- {{center block|

"Y gywrain ferch a gerais,
Claf oll wyf, O, clyw fy llais."

Mae y gân yn y Dyddanwch Teuluaidd, a chyfieithad o

honi yn y Cambro Briton gan "G. G.," wedi ei dyddio "Hay, Feb. 26, 1820." PARRY, JOHN, oedd. Ailf ab John Parry, Ysw, Llan Uwch Aeron. Efe a ddygwyd i fyny ym Rhydychain, a daeth yn rheithor Troed yr Aur, ac hefyd yn Archiagon Ceredigion. Priododd weddw D. Morgan, Ysw., Coed Llwyd, a merch Nicholas Lowes, Ysw., Pant yr Odyn. Bu farw yn 1727.

PARRY, STEPHEN, oedd fab D. Parry, Ysw., Neuadd Trefawr. Bu yn aelod seneddol dros Aberteifi. Yr oedd yn enwog am ei haelioni ac achleswr llenyddiaeth ei wlad. Efe a Waltar Lloyd, o Goodmor, fu â'r llaw flaenaf mewn dyfod ag argraffwasg i Emlyn. Mae Dwysfawr Rym Buchedd Grefyddol wedi ei gyflwyno iddo ef a Mr. Lloyd. Bu farw yn 1724, yn 49 oed.

PEREDYR AB EFROG oedd un o Farchogion Bord Gron y Brenin Arthur, a phreswyliai yng Nghastell Cefel, ym mhlwyf Llangoedmor. Mae mabinogi wedi ei ysgrifenu ar Beredyr. Gelwir ef yn y Trioedd fel un o dri marchog llys y Brenin Arthur yn ymchwilio am y Greal colledig. Gelwir ef yn y Gododin yn "Peredyr Arfau Dur," ac iddo gwympo ym mrwydr ofnadwy Cattraeth.

PETER, DAVID, gweinidog enwog gyda'r Annibynwyr, a aned yn Aberystwyth yn 1755. Cafodd ei addysgu yng Nghastell Hywel â Choleg Henadurol Caerfyrddin, a daeth wedi hyny yn athraw duwinyddol y sefydliad. Yr oedd hefyd yn weinidog Capel Heol Awst, Caerfyrddin, yr hun a fu unwaith yn un o gapeli lluosocaf a mwyaf anrhydeddus yr enwad yn y Dywysogaeth. Llanwodd y ddwy swydd o athraw a gweinidog yn y dref gyda'r parch mwyaf dros ddeugain mlynedd. Cynnyddodd aelodau Heol Awst o dan ei weinidogaeth, o ddeugain i chwech cant o gymmunwyr. Ystyrid ef yn ysgolor da, yn wr o ddeall a phwyll mawr, ac o'r cymmeriad mwyaf boneddigaidd yn y lle. Yr oedd hefyd yn ysgrifenydd Cymreig gwych, yn gystal ag yn hanesydd enwog. Cyhoeddodd yn y flwyddyn 1803, gyfieithad o Protestant Dissenter's Catechisem, gan S. Palmer, yn llyfryn 12plyg; ac yn 1816, ei brif waith lenyddol, sef Hanes Crefydd yng Nghymru, yn 8plyg. Daeth ailargraffiad o hono allan o Golwyn, yn 1851; ond nid yw'r argraffiad hwnw hanner cystal ei argraffwaith a'r un cyntaf. Y mae y llyfr hwn yn drysor gwerthfawr yn llyfrgell y Cymro. Cyhoeddodd hefyd bregeth oddi ar Esai xxi. 11. Bu farw Mai 4, 1837, gan adael ar ei ol barch mawr gan bob dosbarth o ddynion.

PETER, DAVID, a aned yn Rhyd y Pandy, plwyf Llanbadarn Odwyn. Bu yn yr ysgol yng Nghaerfyrddin, a daeth yn rhifyddwr a thir-fesurydd enwog. Bu yn cadw ysgol am ugain mlynedd dan yr enwog Johnes o'r Hafod; ac wedi hyny yn Llanddewi Brefi. Cyhoeddodd lyfr hymnau, yr hwn a ddengys ei fod yn brydydd go dda Mae y Parch. A. Oliver, Llanddewi Brefi, a'i frawd, y Parch. D. Oliver, Twr Gwyn, yn wyron iddo.

PHILLIPS, JAMES, o'r Priordy, Aberteifi, oedd fab Hector Phillips, Ysw., o'r un lle. Hanent o Phillipsiaid Cilsant, ac yn gywir o Gadifor Fawr. Chwareuodd James Phillips ran gyhoeddus yn y Rhyfel Cartrefol yn amser y Siarliaid a Chromwel. Dywedir ei fod fynychaf mewn swydd yn amser Siarl a Chromwel. Yr oedd yn briod a'r brydyddes Seisonig enwog a wisgai yr enw "Orinda." Ymddangosodd cyfrol o'i barddoniaeth yn 1667. Ysgrifnnodd hefyd Letters from Orinda to Poliarchus, sef ei chyfaill Syr Charles Cottorel, a chyhoeddwyd ef yn 1705. Trwy gynnorthwy larll Dorset a Waller, cyfieithodd Tragedy of Pompey, o Ffrancaeg Corneil. Ysgrifenodd Iarll Roscommon ragymadrodd iddo. Ysgrifenwyd cerdd ar ei marwolaeth gan Cowley. Yr oedd amgylchiadau James Phillips yn ddyryslyd, a gorfu ar Mrs. Phillips dreulio llawer o'i hamser yn yr Iwerddon. Yr oedd Mrs. Phillips yn enedigol o Lundain.

PHILLIPS, JOHN, gweinidog yr Annibynwyr yn y Drewen, oedd fab y Dr. Phillips, o Neuadd Lwyd. Ganed ef yn yr ardal hòno. Cafodd ei ddwyn i fyny yn grefyddol, ac hefyd yn yr ysgol gyda'i dad. Ymaelododd yn ieuanc yn y Neuadd Lwyd. Ar ol derbyn addysg i raddau lled bell gan ei dad, aeth i athrofa y Dref Newydd. Daeth ym mlaen yn dda mewn dysg, ac hefyd mewn Parch gan bawb a'i hadwaenai. Cafodd alwad i fod yn weinidog yn y Drewen, plwyf y Brongwyn, ac a urddwyd yn 1828. Daeth yn ardderchog fel pregethwr; ystyrid ef yn un o bregethwyr blaenaf ei oes. Un o'r pethau cyntaf ym yn gofio yw, fod lluoedd o bell ac agos yn myned ar foreuau Suliau i wrando y "doniol John Phillips." Byddai lluoedd o dair sir yn myned i'r Drewen. Yr oedd cwch y pryd hyny yn croesi y Teifi yn ymyl y capel, ac ugeiniau lawer o bobl yn croesi drosodd. Ystyrid ef yn bregethwr Seisonig rhagorol; ac yr oedd felly mewn sylw mawr gan y boneddigion. Yn ei amser ef yr adeiladwyd Bryn Sion. Gweithiodd yn rhagorol i ddyrchafu yr Ysgol Sul yn yr ardaloedd, a meddai ar ddawn arbenig i holi a dysgu yr ysgolion. Bu am tua phum mlynedd yn y Drewen, ac fel seren fawr a dysglaer yn pelydru i olwg yr holl wlad; ond yng nghanol ei ogoniant, gwanychodd ei iechyd, fel y gorfu arno roddi y weinidogaeth i fyny. Aeth drosodd i Wlad yr Haf i gadw ysgol mewn lle o'r enw Wiviliscomb. Priododd â Miss Davie, o Lyme Regis, yr hon oedd foneddiges rinweddol: ond ni fu y briodas ond o fyr barhâd. Bu farw Tachwedd 23, 1834, a hyny yn orfoleddus.

PHILLIPS, JOHN, A.C., diweddar o Fangor, a aned ym Mhont Rhydfendigaid yn y flwyddyn 1810. Cafodd ei ddwyn i fyny yn grefyddol. Bu am ryw amser yn Ysgol Ystrad Meirig, ac wedi hyny yn Llangeitho gyda'r Dr. Edwards, o'r Bala. Daeth ym mlaen yn bregethwr. Penodwyd ef tua'r flwyddyn 1830 i fyned yn genadwr i Raiadr Gwy. Aeth ar daith i'r Gogledd, ac enillodd sylw mawr fel pregethwr. Cyfrifai rhai o brif ddynion y Gogledd ef yn feistrolgar iawn fel pregethwr ieuanc, gan fynwesu y gobeithion goreu am ei gynnydd. Aeth efe a'i gyn-athraw, Mr. Edwards, i Brifysgol Caereiddin. Ym mis Mai, 1836, symmudodd i Dreffynnon. Daeth yn y blaen yn dra llwyddiannus. Ar ol priodi, symmudodd i Ynys Mon, ac oddi yno i Fangor, yn 1847. Sefydlodd yno yn oruchwyliwr dan Gymdeithas yr Ysgolion Brytanaidd a Thramor. Llafuriodd yn ddirfawr gyda'r symmudiad hwnw. Adeiladwyd ysgoldy gwych i hyfforddi gwŷr ieuainc ym Mangor trwy ei ymdrechion: efe a ddangosodd lawer o ddoethineb a phenderfyniad gyda'r symmudiad. Bu casglu y swm o 11,000p. yn llafur mawr. Nid oes modd traethu y llafur a gymmerodd gyda'r fath waith. Bydd yr adeilad a'r Ysgolion Prydeinig yn gofgolofn iddo. Yr oedd hefyd yn ddarlithiwr enwog. Bu farw Hyd. 9, 1867, yn 56 oed, a chladdwyd ef ym mynwent Llaneugrad. Dangoswyd Parch mawr iddo ar ddydd ei gladdedigaeth. Ni welwyd, meddir, oddi ar angladd John Elias, y fath nifer o bobl ar y cyfryw amgylchiad.

PHYLIB AB IFOR, Arglwydd Isgoed, oedd wyr Gweithfoed Fawr. Priododd a Chatherin, ferch y Tywysog Llywelyn ab Gruffydd. Bu iddynt ferch o'r enw Elen Goch, yr hon a briododd â Thomas ab. Lywelyn o Ddinefwr. Priododd Margaret ferch Thomas ab Llywelyn a Thudur ab Grouw, o Benmynydd. Mon; ac Elen a Gruffydd Fychan, Glyn Dyfrdwy.

PHYLIB BRYDYDD oedd fardd enwog o Geredigion yn ei flodau y trydydd canrif ar ddeg. Y mae chwech o'i gyfansoddiadau yn y Myfyrian Archaiology.. Canodd i Rys Ieuan ac ereill. Mae ganddo farwnad i Rys, yr hwn fu farw yn 1222.

PHYLIB GOCH, Abad Ystrad Fflur. Bu farw yn y flwyddyn 1280 Cymmerodd ran helaeth yn helyntion y wlad yn yr amser peryglus hwnw.

POWELL, RHYS, a fwriwyd allan o Lanbedr gan Ddeddf Unffurfiaeth; ond efe a gydsyniodd wedi hyny. Dyma yr enw blaenaf yn rhes gweinidogion ymneillduol y sir.

POWELL THOMAS, marchog, o'r Llechwedd Dyrys, ger Nanteos, oedd fab Jobn Powell o'r un lle, a Jane ei wraig, yr hon oedd ferch Thomas Pryse, Glan Ffraid. Priododd Elisabeth ferch ac etifeddes D. Lloyd, o Aberbrwynen. Cafodd ar yr 28fed o Ebrill, 1687, ei ddyrchafu yn un o farwniaid y trysorlys. Mae ei enw ym mhlith y tanysgrifwyr at gynnorthwyo Edward Llwyd pan yn teithio i ymchwilio defnyddiau at ei Archeologia Britanica. Ei gynnrychiolydd yw y Milwriad Powell o Nanteos.

POWELL, WILLIAM, LL.D., o Nanteos, a aned yn y Flwyddyn 1705. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Rhydychain. Yr oedd yn enwog am ei ddysgeidiaeth a'i ddylanwad yn y sir. Bu farw Rhagfyr 21, 1780.

PROPERT, JOHN, meddyg o Lundain, oedd enedigol o Flaenpistyll, Llangoedmor. Bu yn ysgol Ramadegol Aberteifi. Pan yn ieuanc bu yn fanerwr yn y cartreflu. Ymrwymodd wedi hyny yn freintwas gyda Dr. Noot, Aberteifi. Ym mhen rhyw gymmaint o amser, aeth i Lundain, a dywedir nad oedd ganddo ond swllt yn weddill gwedi talu am ei gludiad yng Nghaerfyrddin. Bu dan hyfforddiadau y Dr. Abernethy; ac yn fuan ennillodd freinteb. Ar ol ymsefydlu yn ei alwedigaeth daeth yn y blaen yn dra llwyddiannus. Rhoddodd ei holl egni ar waith tuag at sefydlu y Coleg Dyngarol Meddygol, a bu yn llwyddiannus; a chafodd fyw i'w weled wedi cyrhaedd safon genedlaethol. Deil hyn yn golofn i'w enw am oesoedd nas gellir cyfrif yn bresennol. Er pan ddarganfu y meddwl o sefydlu y coleg, ni chafodd fyth fyned o'i feddwl hyd ddiwedd ei oes. Gwnaeth lawer iawn gyda'r Gymdeithas Amddiffynol Feddygol. Yr oedd yn dra chyfoethog. Yr oedd hefyd yn elusengar a haelionus at bob achos a feddyliai yn deilwng. Dywedir nad oedd un Cymro yn cael ei droi ymaith yn waglaw o'i dy, yn neillduol brodorion o Geredigion. Cyfranai yn haelionus at adeiladu Eglwysi ac ysgoldai yng Nghymru. Bu a'r llaw flaenaf tuag at gael rheilffordd Caerfyrddin ac Aberteifi, yr hon sydd wedi ei gorphen er ys blynyddau i Landyssul. Credai ei fod yn gwneyd gwasanaeth mawr i'w wlad yn hyn. Ond er ei fod yn dra haelionus i Gymru ac achosion teilwng yn y Dywysogaeth, yr oedd yn elyn anghymmodlawn i'r iaith Gymraeg. Edrychai arni fel tad pob drwg ac aflwydd yn y wlad: ni fynai chwaith taw ap Robert oedd dechreuad Propert. Ond os collfarnwn hyn ynddo, nid oes modd nad hyny oedd ei farn gydwybodol ef. Beth bynag, bydd son am sefydlydd y Medical College yn Epsom am oesoedd lawer. Bu farw Medi 8, 1867, yn 75 oed.

PRYDYDD BYCHAN, bardd enwog yn y trydydd canrif ar ddeg. Y mae y tebygolrwydd mwyaf taw. Ceredigwr oedd. Mae un ar hugain o'i gyfansoddiadau yn yr Archaiology of Wales, a'r rhai hyny, gan mwyaf, wedi eu cyfansoddi i bendefigion o Geredigion, Mae ganddo chwe i Feredydd ab Owain.

PRYSE, SYR CARBERRY, o Gogerddan, a hynododd ei hun yn y symmudiad mwngloddiol yng Ngheredigion. Dygid ym mlaen yma weithfëydd, er cyn amser Syr Hugh Middleton, lle y gwnaethpwyd cyfoeth dirfawr. Tua'r flwyddyn 1690, darganfuwyd wwn ar dir Syr Carberry Pryse, a chafodd yr enw Welsh Potosi. Ar ol cael deddf seneddol ar y gwaith, cymmerodd Syr Carberry amryw gymhariaid, gan ranu y tir i bedair mil o gyfranau. Un Mr. Waller oedd yr arolygydd. Gwelodd y Gymdeithas Freiniol o fwnwyr fod toraeth y cyfoeth yn fawr, a thrwy ryw aneglurdeb yn y gyfraith, hawliasant y mwneu yn eiddo iddynt hwy. Arweiniodd hyny i helynt gyfreithiol rhwng y pleidiau yn y flwyddyn 1692. Dygwyd deddf i mewn i alluogi pob perchen tir i weithio a chael yr elw eu hunain, ar y tir fod i'r brenin a'r rhai a hawlient o dano ef gael y mwn trwy dalu i'r perchenogion am dano, ym mhen deng niwrnod ar hugain ar ol ei godi, a chyn symmud y plwm. Y plwm yn ol naw punt y dynell, a chopr.yn ol deg punt. Prynodd Mr. H. Mackworth ran Mr. Edward Pryse, olynydd Syr Pryse, am 15000p. Bu farw yn 1695.

PRYSE, SYR RICHARD, Gogerddan, a enwogodd ei hun yn amser Siarl I. a Chromwel. Pan yn brin o fod mewn oedran gwr, efe a arweiniodd fyddin i amddiffyn plaid y brenin. Cafodd ei greu yn farchog Awst 9, 1641.

"Sir Richard Pryse a young gentleman not of full age in the tyme the discovery of principles was most dangerous, and it is conceived he hath not as yet any that he is too much obliged unto. He ranne through several publique offices under all the goverments that hath been, from 1652 to this tyme; but probably more by the direction of his fatherinlaw, Mr. Bulstrode Whitlooke, than by his own desires." (1)

Mae hen deulu Gogerddan yn cynnrychioli Gweithfood Fawr, brenin Ceredigion. Preswylient yn y cynoesoedd yng Nglyn Aeron a Pharc Rhydderch, fel y treithasom dan Ieuan Llwyd." (2)

(1)Cambrian Reg., cyf. i., tud. 165.
(2) Yr oedd gan Ieuan Llwyd fab o'r enw Dafydd Llwyd, neu Dafydd Parc, am ei fod yn trigo ym Mharc Rhydderch. Yr oedd gan Dafydd wyr o'r enw Traharo Llwyd, Llanddewi Brefi; ac o hono ef y deillia Jonesiaid Llanio. Er nad yw ystad Llanio yn fawr, eto y mae yn ben feddiant y teulu er ys wyth neu naw cant o flynyddau. Y mae wedi ei gwerthu ragor nag unwaith; ond wedi ei phrynu gan gangenau ereill o'r teulu. Cangen o'r teulu hynafol hwn yw Jonesiaid y Fron Wen, Llanarth. Mab Walter Jones, Llanio, oedd y diweddar Parch. Daniel Jones, periglor Rucking, Kent; ac un o'r teulu oedd y diweddar Barch. John Collier Jones, D.D., rheithor Coleg Ecseter, Rhydychain. Rhai o'r un teulu yw J. E. Rogers, Ysw., Aber Meirig, a Dr. Jones, Glancych.
PRYTHERCH, JOHN, pregethwr o gryn enwogrwydd,

a aned yng Nghwm Tywi, plwyf Dewi. Cafodd ysgol am flynyddau yn Ystrad Meirig. Ymunodd â'r Trefnyddion Calfinaidd, a dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1763. Symmudodd i Flaensawdde, Llanddeusant. Bu cadw ysgol am flynyddau yn Eglwys y plwyf hwnw. Trwy briodi Catherin Winstone o Bentre Felin, Brycheiniog, aeth i breswylio i ardal Trecastell. Bu farw yn 1802, yn 60 oed.

PUGH, JOHN, Pont y Gido, Llanarth, offeiriad Llanllwchaiarn; a aned yn y lle hwnw. Yr oedd naill ai wyr neu orwyr i: Hugh David, offeiriad yn Llanarth o gylch 1595. Y mae yn debyg taw Hugh ab Hugh. oedd ei dad. Mae amal grybwyll am y tylwyth yn yr ach-lyfrau. "Edward: Morgan of Glasgrug, matried daughter and heirress of Dd. ap.Hugh of Llanarth;" ac eto, Margaret, daughter of Rhydderch' sp · Rhyddereb. of Pantstreimon, married Hugh. Dd. Pugh of: Llanarth." · Mae hanes yr yagolor dwfn hwn yn brin iawn. Yr oedd yn hyddysg yn ieithoedd. Groeg a Lladin;' ac hefyd yn yr ieithoedd dwyreiniol, yr Hebraeg a'r Galdaeg. Mas ar gael heddyw weddillion o'i lyfrgell, yn cynnwys Geiriadur Hebraeg a Chaldaeg Buxtorf, Gramadeg Expenius o'r Arabaeg; Corff Duwinyddiaeth Leigh; Cyfeithad o Eshoniad Italaidd Diodati ar y Beibl; Gwyddoniadur mawr Lladin; Geiriadur Cymraeg a Lladin Dr. Davies o Fallwyd, yng nghyd ag amryw lyfrau a llaw-ysgrifau; ac y mae y cyfan o ol ei law yn dangos ei fod yn ysgolor uchel iawn. Bu yn cadw ysgol wech ym Mhont y. Gido, a bu yr enwog Edward Richard yn derbyn-dysg ganddo. Ond er yn ysgolor dwfn, hen Gymro diaddurn oedd. Dywedir iddo unwaith mewn ciniaw gyhoeddus geisio bendith yn Gymraeg, yr hyn a berodd i ysgogynod wenu. Ceisiwyd ganddo ddiolch, ac er mwyn rhagflaenu gwawd pellach, efe a wnaeth hyny yn yr Hebraeg. Y mae y ddwy linell & ganlyu yn parhau i gael eu hadrodd gan blant ysgol yr ardaloedd:

"Jupiter in recto facit Jonis in genitivo,
So says Pugh of Pont y Gido.""(1)

Bu farw mewn henaint teg yn niwedd Mai, 1763, ac a gladdwyd Mehefin 3ydd, o dan gôr y teulu yn Llanarth. Yr oedd y diweddar Mrs. Lucretia Jones, Cnwc yr Uochedydd yn ferch i'w fab.

(1) Pont y Gidau, sef Pont y Geifr.

PUGH, PHILIP, gweinidog ymneillduol enwog yn y Cilgwyn, Llwynpiod, Aber Meirig, &c., a anwyd yn Hendref Llanpenal, yn y flwyddyn 1679. Y mae yn debyg iddo dderbyn addysg dan Mr. Jones, Brynllywarch; ac wedi hyny yn athrofa y Fenni. Yr oedd Mr. Pugh yn wr boneddig o gyfoeth ac ymddygiad. Meddiannai amryw leoedd ei hun, sef Hendref, lle y preswyliai, Ffos yr Odyn, Glandwr, &c.; ac efe a briododd wraig gyfoethog, sef merch y Coedmawr Fawr, ger Llanbedr, gyda'r hon y cafodd amryw leoedd gwychion yn yr ardal hono. Y mae hanes fod un Philip Pugh wedi cael ei dderbyn yn aelod gyda'r Puritaniaid yn Llanbadarn Odwyn, yn y flwyddyn 1655, yr hwn, fel y bernir, oedd tad P. Pugh y gweinidog. Cafodd P. Pugh ei dderbyn yn aelod yn y Cilgwyn, yn y fwyddyn 1704, lle gweinidogaethai D. Jones a D. Edwards. Cafodd ei urddo yn 1709. Bu yn cydlafurio â Mr. Edwards, hyd 1728. O hyny allan, bu yn brif weinidog yn y Cilgwyn a'r cylchoedd. Y mae pob tystiolaeth argraffedig, lawysgrifol, a thraddodiadol, yn cytuno mai pregethwr mawr a diwyd, gwr boneddig haelionus iawn, a Christion diffuant ydoedd Mr. Pugh. Yr oedd yn hollol ymroddedig i'r weinidogaeth. Ymdrechai rodio canol y ffordd, rhag myned ar un tu i'diroedd pell Arminiaeth ac Ariaeth; ac o'r tu arall, rhag penrhyddid Antinomiaeth. Y mae yn ymddangos fod y meddwl dynol yn pendroni yn fawr yn ei amser ef. Rhai yn myned i eithafon An- tinomiaeth; ac ereill o'r tu arall, yn ymylu ar Ariaeth. Ysgrifenodd Mr. Pugh ar lyfr y Cilgwyn, yr hyn a elwai y Deg Cyfeiliornad Antinomaidd. Y mae ganddo ar ol hyny Cyfarwyddyd i rodio gyda Duw, mewn deg o benau; ac y mae yn ddrwg genym bas gallwn eu rhoddi i mewn o herwydd diffyg lle, o blegid y maent yn dra rhagorol, yn dangos meddwl duwiolfrydig iawn; a chyfarwyddiadau i bawb at fyw yn dduwiol. Fel Ymneillduwr, yr oedd Mr. Pugh yn gymmedrol iawn. Ysgrifenodd ar lyfr Cilgwyn fel y canlyn : Pe buasai pawb o'r Presbyteriaid, yn gwbl o'r un meddwl a Stephen Marshall; pob un o'r Annibynwyr yn gwbl o'r un meddwl a Jeremiah Burroughs; a phob un o'r Episcopaliaid o'r un feddwl a'r Archosgob Usher, buan y celid gweled archollion yr Eglwys yn cael eu hiachäu." Yr oedd yn haelionus rhyfeddol. Byddai yn cynnorthwyo ugeiniau o'r cymmydogion mewn gwahanol amgylchiadau; yn cyfranu yn helaeth i'r tlodion; ac wrth bob tebyg, yn derbyn ond ychydig am ei lafur yn y weinidogaeth. Gwnelai ymdrech mawr i addysgu pawb yn hanes ac egwyddorion y Beibl. Ymwelai gweinidog yn yr oes hon â ben wr yn Llundain, genedigol o Geredigion, â chafodd ei fod yn hyddysg iawn yn y Beibl a phethau crefydd. Gofynodd iddo sut yr oedd mor wybodus yn ei Feibl ac yntau wedi gadael Cymru er ys ugeiniau o flynyddau. "O, ebai yntau, " Mr. Pugh anwyl, a fu yn fy nysgu gyda diwydrwydd mawr." Tebyg mai yr hen wr hwnw oedd yr olaf o ddysgyblion Mr. Pugh. Talodd wyth punt y flwyddyn am flynyddau lawer i ysgolfeistr medrus o'r enw Morgan Williams (1) am gadw ysgol yn Llangwyryfon, Llanrhystud, a Llancwnlle. Yr oedd wyth punt pryd hyny yn fwy nag ugain yn awr. Yr oedd maes llafur Philip Pugh, Jenkin Jones, ac ereill yn eang; ac yr oedd eu cymmunwyr yn y flwyddyn 1715, yn 1000. Ar ol marwolaeth Jenkin Jones, ac i Mr. Pugh heneiddio, a dyfod o Dan. Rowland, y taranwr mawr, i dynu y wlad ar ei ol, cawn fod Mr. Pugh wedi gorfod rhoddi llythyrau i bymtheg a deugain i ymadael am Langeitho, a thair o wragedd am y Coed Gleision. Beth bynag, y mae hanes fod 35 o rydd-dyddynwyr yn perthyn i'r Cilgwyn, yn ol pob tebygolrwydd ar ol yr ymadawiad hwnw; ac felly, y mae lle cryf i gredu fod yr achos wedi bod yn gryf iawn yno. Y mae yn debyg fod yr elfen bell-Arminiaidd yn gweithio ei ffordd i faes llafur P. Pugh, tra yr oedd efe byw. ac y mae yn debyg ei fod yntau yn teimlo yn flin am hyny: Bu y gweinidog ffyddlawn hwn farw Gorphenaf 12, 1760, yn 81 mlwydd oed. Bedyddiodd 680 o blant, o Dachwedd 1709, hyd Mawrth 1760. Y cyntaf a fedyddiodd oedd Margaret, merch y Parch. Jenkin Jones; a'r olaf oedd Mari, merch John Davies, yr hon wedi hyny fu yn wraig i'r Parch. Mr. Williams, Llanfair Clydogau, a mam gu y presennol Barch, John Davis, B.D., Llanhywel Dyfed. Y mae llawer o'i waith i'w weled yn Church Book y Cilgwyn. Cafodd y. llyfr hwnw ei ddechreu gan rywun arall. Cynnwysa y llyfr 213 o dudalenar, o blygiad cyffredin Testament. Dechreua fel hyn:-"A list of such as were members of a Church of Christ gathered in Cardiganshire from the year_1653, to the year 1659. Lampeter, March 4th, 1654. Rees Powell, Pastor." Yna y canlyn y lleoedd : Bettws, Llanarth, Llanbadarn Fawr, Llanbadarn Odwyn, Llangoedmor, &c. Y mae bwlch yn Yr hanes ar ol hyny am flynyddau. Cynnwys Seisoneg a Lladin yn benaf, ac ambell dipyn o Gymraeg. Cynnwys hanes urddiad a marwolaeth yr holl weinidogion ymneillduol yng Nghymru, a rhai yn Lloegr. Yr oedd gan Mr. Pugh lyfr arall, yr hwn a gadwai gartref, y mae yn debyg. Cafodd Mr. D. Jones, Dolau Bach, Llangeithio, y llyfr hwn rhywle, a rhoddodd ei fenthyg i Dr. Phillips, Neuadd Lwyd; a rhoddodd y Dr. ei fenthyg i'r Parch. D. Morgan, Llanfyllin; ac ni ddaeth byth yn ol i Geredigion. Claddwyd Mr. Pugh, medd rhai, yn Llanddewi Brefi; ond dywed ereill mai yng Nghilcenin y claddwyd ef. Y mae D. Pugh, Ysw., Manorafon, yn orwyr iddo.

(1) Morgan Williams, Rhydlydan, y gelwid yr ysgolfeistr enwog hwn. Nis gwyddom pa un ai Rhydlydan ar gyffin Llanarth : Llandyssilio Gogo, neu ynte Rhydlydan Caio oedd y lle hwnw. REES JOSEPH, gweinidog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd

yn Rhydfendigaid, oedd enedigol o blwyf Llanfair Orllwyn. Ganed ef yn y flwyddyn 1796. Ymunodd a'r Trefnyddion yng Nghapel y Drindod, tua'r flwyddyn 1823. Saer oedd wrth ei alwedigaeth. Dechreuodd bregethu ym mhen rhai blynyddau. Symmudodd i Bont Rhydfendigaid. Urddwyd ef yng nghymmanfa Llangeitho yn y flwyddyn 1841. Yr oedd yn ddyn o feddwl cryf iawn, ac yn dwyn llawer o ol darllen. Bu farw ym Medi 1847.

REES, RHYS ARTHUR (Rhys Dyfed), un o feirdd ieuainc mwyaf talentog a choethedig yr oes bresennol, a aned yn Felin Brithdir, plwyf Penbryn, yn y flwyddyn 1837. Yr oedd ei rieni yn bobl barchus; a chlywsom rai hen bobl gall yn dyweyd na fu iddynt erioed ffyddlonach cyfaill na Rhys Rees, Felin Brithdir, sef tad y bardd. Bu farw y tad y bardd pan oedd ond plentyn. Deuai Rhys Dyfed ym mlaen yn rhagorol yn yr ysgol. Yr oedd yn medda galluoedd cryfion iawn at rhifyddiaeth a mesuroniaeth. Ymrwymodd yn egwyddorwas ym masnachdy Mr. J. M. Jones, Rhydlewis. Aeth ym mhen rhyw flynyddau i Lynlleifiad, ac oddi yno i Lundain. Ym mhob un o'r lleoedd hyn, efe a ymroddodd at ddiwyllio ei feddwl, &c i fwynhau cyfleusderau llyfrgelloedd y lleoedd mawrion hyny. Darllenai weithiau y prif awdwyr Seisonig, yn athronwyr a beirdd. Yr oedd yn meddu cof godidog. Daeth yn feistr perffaith ar y Seisonig, ac ni allasai nemawr neb llai na chredu nad Sais genedigol oedd, pan glywent ef yn siarad yr iaith hono. Cyfansoddai farddoniaeth a rhyddiaeth yn iaith y Seison gyda llawer iawn o dlysni. Gwaelodd ei iechyd yn y flwyddyn 1860, ac ysgrifenai atom ei fod yn credu ei fod ar fyned i wlad lle nad oedd neb o'r preswylwyr yn dychwelyd mwy. Beth bynag, efe a gafodd wella i ryw raddau, am tua chwe blynedd. Yn y blynyddau hyn arosai gartref, ac yn maelfa Rhydlewis. Darllenai yn ddibaid, a chyfansoddai lawer iawn o farddoniaeth ragorol. Ennillodd y wobr am Farwnad Carn Ingli yn Eisteddfod Llandudno, am yr hon y derbyniodd ddeg punt a thlws. Anfonodd gan odidog ar "Llywelyn ein Llyw Olaf" i Eisteddfod Ty Gwyn ar Daf, yr hon oedd yn gydradd ag eiddo Glan Cunllo; ond ni chafodd y wobr. Yr oedd wedi anfon cyfansoddiad rhagorol, sef "Marwnad y Parch. J. Vincent, Llandudoch," i Eisteddfod Aberteifi; ond efe a fu farw cyn gwybod ei dynged! Dywedid fod y gân hòno yn un o'r cyfansoddiadau goreu yn yr iaith; ond o herwydd rhyw benchwibandod beirniadol, ni chafodd y wobr. Cyfansoddodd hefyd lawer iawn o ffugchwedlau, y rhai a ddangosent chwaeth a medr ardderchog. Yr oedd yn bwriadu ychydig cyn ei farwolaeth, i gyhoeddi cyfrol o farddoniaeth; ond cyn myned ym mhellach, efe a fu farw ar yr 8fed o Orphenaf, 1866, yn 29 mlwydd oed. Claddwyd ef ym Mynwent Llangynllo, ac ni welwyd cymmaint angladd gan neb yn yr ardal er ys blynyddau lawer. Yr oedd yn barchus gan bawb. Yr oedd yn meddu synwyr cryf, a digonedd o bwyll a hynawsedd gyda hyny. Yn ei gorff, yr oedd yn weddol dal; ei wallt a'i farf oedd yn goch; a'i lygad oedd las, yn fawr ei faint, ac ar dor y croen. Yr oedd yn siriol a hawddgar yn ei wynebpryd; ac yn hawdd deall wrth ei olwg ei fod yn ddyn boneddigaidd, talentog, a llednais. Nid oedd wedi arfer un ffugenw arbenig hyd yn Eisteddfod Aberystwyth. Tra ym mhlith y lluaws ag oedd yn derbyn urdd yno, ni wyddai ar y cyntaf pa enw i'w gymmeryd, a dywedasom yn ei glust taw Rhys Dyfed fyddai yr enw goreu; ac felly bu. Treuliasom lawer awr ddyddan yn ei gymdeithas; ac ni chawsom well cyfaill erioed.

Fy nghyfaill, nis gallaf anghofio-byth,
Tra bwyf ei adgofio
A wnaf; beunyddiol nofio
Wna'r dyn cun ar don y co'.

Boed heddwch i lwch y bardd coethedig, a'r cyfaill cywir ac anwyl.

RHYDDERCH, JOHN, bardd ac argraffydd o'r Amwythig, a aned ym mhlwyf Llanwenog. Byddai weithiau yn rhoddi ei enw yn John Roderick. Argraffodd lawer o lyfrau Cymreig yn yr Amwythig, a chyhoeddodd Ramadeg Cymraeg o'i waith ei hun. Nid yw y gramadeg yn uchel am ei ddysg ar yr iaith; ond y mae yn dra rhagorol ar farddoniaeth. Nid oes modd cael ei well i draethu ar y cynghaneddion, a phedwar mesur ar hugain cerdd dafod. Daeth ail argraffiad o hono allan o Gaerfyrddin yn 1822. Casglodd hefyd Eiriadur Seisonig a Chymreig, yr hwn a gyhoeddodd yn 1725. Ymddengys iddo farw cyn y flwyddyn 1731, pryd y daeth Geiriadur Cymreig a Seisonig allan gan Thos. Durston, yn yr hwn y mynega yn y rhagddalen iddo gael ei ddechreu gan Sion Rhydderch, ac a chwanegwyd ac & orphenwyd gan y Parch. J. Williams, person, Willey, sir Amwythig.

RHYDDERCH, JOHN, oedd wr genedigol o ardal Llanbedr, a pherthynas, y mae'n debyg, i'r bardd o'r Amwythig. Ymunodd a'r Crynwyr, a bu yn arwain bywyd tra chyhoeddus wrth bleidio egwyddorion y blaid hòno. Bu o flaen yr awdurdodau yn Nhregaron o'r herwydd. Yr oedd ganddo gyfaill a elwid y "Cwacer Gwyn o Dregaron," yr hwn oedd wresog iawn dros y ffydd hono.

RHYDDMARCH DDOETH oedd fab Sulien, Esgob Ty Ddewi. Canlynodd ei dad yn Esgob Ty Ddewi yn y flwyddyn 1088. Cafodd efe a'i dri brawd eu haddysgu gan eu tad yng Nghôr Llanbadarn Fawr. Y mae Caradog o Lancarfan yn rhoddi clod mawr iddo am ei ddysg a'i ddoethineb. Y mae ei farwolaeth yn cael ei goffa fel y canlyn, o gylch 1098:-

"Bu farw Rythmarch doeth mab Sylyen escob, y doethaf o doethion y Brytanyeit y drydydd vlwydyn a deigain o'i oes, y gwr ni chyfodod yn yr oes oed cael y cyffelyb hyn noc ef, ac nid hawd credu na thebygu cael y cyfryw gwedi ef, ac ni chawsai dysg gan arall eryoed ethyr gan ei dad ei hun. Gwedy addasaf enryded y genedl ei hun, a gwedy klotvorusaf ac atnewydusaf ganmawl y gyfnessavyon genedloed, nyt amgen Seison a Ffreincod a chenedloedd ereill tu draw i'r mor."

Y mae crybwylliad am dano, yr hwn sydd yn traethu nad oedd ail nac eilydd iddo namyn ei dad, ac i addysg ddarfod ym Mynyw ar ol marwolaeth Rhyddmarch. Bu farw yn 1098. Y mae llawysgrif werthfawr wedi ei hysgrifanu ganddo ef, yn cael ei chadw yng nghasgliad Cotton yn y Gronfa Bydeinig, yn cynnwys yn benaf fuchedd y saint.

RHYS AB MAELGWYN oedd fab Maelgwyn ab Rhys, a thad Rhys Fychan. Ymddengys fod y rhan fwyaf o'i gyfoeth yng Ngeneu'r Glyn, a'r ardaloedd cyfnesol. Pan fu farw Rhys Ieuanc, yr ydym yn cael i Lywelyn ab Iorweth roddi i Faelgwyn ran o Geredigion, a dyma y cyfoeth, y mae yn debyg, a gollodd Rhys yng Ngeneu'r Glyn. Yr ydym yn cael i Edmwnt, brawd brenin Lloegr, ddyfod & byddin i Lanbadarn Fawr, ac i Rys ab Maelgwyn ffoi i Wynedd, ac i wŷr Geneu'r Glyn ffoi yno ato, gan adael eu tiroedd yn ddiffaeth. Ond ym mhen rhyw amser, dychwelodd Rhys a byddin ganddo ac yng nghyfnerth amryw bendefigion ereill, adennillodd gwmmwd Penwedig, lle gorweddai y wlad a gollasai. Yn y flwyddyn ddiweddaf o fywyd Llywelyn ab Gruffydd, yr ydym yn cael fod Rhys ab Maelgwyn a Gruffydd ab Meredydd, yn dal yn ffyddlawn yn y Deheudir i'r tywysog, gan godi arfau o'i blaid, gan orosgyn tiroedd y brenin yn yr ardaloedd cyfnesol, ac i'r brenin anfon byddin fawr yn eu herbyn, a bod cad ar faes wedi bod ger llaw Llandeilo, lle y cafodd y Cymry eu trechu, gyda galanastra erchyll. Yno, medd Carnhuanawo, y llwyr ddilewyd y gweddillion olaf o annibyniaeth y Deheudir. Ymddengys taw yno y syrthiodd y ddau bendefig, Rhys ab Maelgwyn a Rhys ab Meredydd.

RHYS AB MEREDYDD oedd frawd Cynan ab Meredydd. Yr oedd ei gyfoeth yn rhan uchaf Ceredigion. Efe a drodd am amser gyda brenin Lloegr yn erbyn ei frodyr; ond wedi hyny, mae'n debyg iddo gydweithredu a Llywelyn ab Gruffydd. Gan fod amryw bendefigion o'r enw Rhys wedi blodeuo yn y trydydd ganrif ar ddeg, ni a roddwn yma daflen eglurhaol , o eiddo Carnhyanawc :- Rhys ab Grufydd ab Rhys ab Teadwr. Gelwid of Yr Arglwydd Rhys. Rhys Gryg, mab yr Arglwydd Rhys. Gelwid of weith- iau Rhys Fychan. Rhys Ieuanc, mab Gruffydd ab yr Arglwydd Rhys. Gelwid ef weithiau Rhys Fychan. Rhys Mechyll, mab Rhys Gryg. Ac er mwyn cyflawn ddealltwriaeth o'r perthynasan, dichon y bydd y daflen ganlynol o les:
RHYS AB RHYS, sef mab yr Arglwydd Rhys, oedd ryfelwr dewr. Rhoddodd gyfoeth i Fynachlog Ystrad Fflur. Dyddiad ei freinlen yw 1198. Yr oedd gan yr Arglwydd Rhys ddau fab o'r enw Rhys.

RHYS CHWITH oedd bendefig o Geredigion yn amser Llywelyn ab Gruffydd. Bu yn Rhyfel y Groes ym Mhalestina, & chafodd ei wneyd yn Farchog y Bedd Sanctaidd gan frenin Lloegr. Enw ei dad oedd Llywelyn Fychan, ab Llewelyn Fawr. Ei arfbais oedd Sa, a lion rampt. Argt. Mae teulu Llanuch Aeron, ac amryw ereill, yn hanu o hono.

RHYS GRUG oedd fab Rhys ab Gruffydd. Yn y flwyddyn 1219, efe a briododd ferch yr Iarll Clâr. Yr oedd yn rhyfelwri dewr iawn. Mae amryw odlau ar gael i'r tywysog hwn. Bu farw yn Llandilo Fawr yn 1223.

RHYS GWYNIONYDD, bardd enwog a flodeuodd rhwng 1540 a 1570. Ymddengys yn ol yr achlyfrau ei fod yn foneddwr cyfoethog. Mae ei enw yn achres arglwyddi Llanbedr.

RHYS IEUANC oedd wyr yr Arglwydd Rhys Ei dad a gafodd arglwyddiaeth Ceredigion gan ei dad, yr Arglwydd Rhys, ac felly yr oedd Rhys Ieuanc yn iawn etifedd Ceredigion. Rhoddwyd Cestyll Aberteifi a Nant yr Ariant, a thri chantref o Geredigion, i Rys Ieuanc a'i frawd Owain yn senedd Aberteifi, yn ol trefniad Llywelyn Fawr o Wynedd. Pan ddaeth Llywelyn a'i fwriad i lwyr ddingstrio tref Aberhonddu, o blegid twyll Rheinallt de Brëos, cyfryngodd Rhys Ieuanc rhyngddynt ar y teler o fod pump o foneddigion y dref i gael eu rhoddi yn wystlon yr heddwch, a thalu pump can marc. Yr oedd Rhys Ieuanc ym mlaenaf gyda Llywelyn yn ymosod ar Hwlffordd, o herwydd twyll estroniaid y parth hwnw. Ffromodd Rhys wrth Lywelyn am roddi Castell Caerfyrddin i Faelgwyn ab Rhys; ond cymmodasant wedi hyny. Cafodd Rhys Gastell Aberteifi yn ol hawl. Bu farw y pendefig gwrol hwn, iawn etifedd gorsedd y Deheudir, tua'r flwyddyn 1222, a chafodd Owain ei frawd y rhan fwyaf o'i gyfoeth. Yr oedd Rhys Ieuanc yn dywysog gwrol a chall ond yr oedd yn oesi mewn oes ofnadwy o beryglus ac anfanteisiol, ac felly nid oedd yn meddu digon o nerth i adfeddiannu ei gyfoeth, gan fod y llifeiriant Seisonig, fel llanw y môr, yn rhuthro ar ei draws. Y mae amryw o feirdd ei oes wedi canu llawer o glod iddo; megys Phylyb Brydydd a'r Prydydd Bychan. Canwyd iddo farwnad gan Prydydd Bychan. Wele ychydig o honi :-

"Colled gwr arwr arfawc chwyra-yng nghad,
Yng nghadarnwisg heyrn;
Mur torf aer (1) dorf eur deyrn,
Mygyr benaeth maeth meddgyrn.


"Mab Gruffydd llafurudd lluoedd-Rhos gyrcheid
Rhys gyrchiad tra moroedd,
Gwrdd am derfyn aml dorfoedd,
Gwr byddin, gawr byddinoedd."

Yr oedd yn noddwr gwresog iawn i'r beirdd. Mae awdl gan Phylyb Brydydd a gânt yn llys yr Arglwydd Rhys Ieuanc, yn Llanbadarn Fawr, pan fu ymryson rhyngddo a "Beirdd Ysbyddaid," pwy gyntaf o honynt a ddelai & cherdd Dydd Nadolig. Mae yr awdl hòno yn un dra ragorol. Cafodd Rhys ei gladdu yn Ystrad Fiur. Rhoddodd lawer o gyfoeth i'r fynachlog hòno.

(1) Aer=brwydr.

RHYS, IFAN THOMAS, y bardd o Lanarth, oedd enedigol o blwyf Llandussylio-gogo. Crydd oedd wrth ei alwedig. aeth; ac yr oedd yn meddu ar lawer iawn o arabedd awenyddol. Dywedir i'w dad fwriadu ei ddwyn i fyny yn offeiriad, ac felly efe a gafodd lawer o ysgol. Dyn bychan oedd o faint; ond yn hynod fywiog, ac yn gerddwr cyflym iawn. Ystyrid of yn ddyn parchus yn ei ardal. Yr oedd yn aelod gyda Jenkin Jones, yn Llwyn Rhyd Owain, ac yn wresog dros olygiadau Arminaidd cymmedrol ei weinidog. Pethau cyffredin oedd testynau ei awen. Cyhoeddwyd ei ganiadau gan Mr. W. H. Griffiths, yn 1842, dan yr enw Diliau'r Awen.

A'i ber ddoniau bardd anian,— yn ei radd
Yn wreiddiol oedd Ifan;
Yn ei wlad yn o lydan,
Meddiannai glod am ddawn glân.

Er byd cul ac helbulon, — a dirif
Gyfyngderau mawrion,
Awen y bardd, hardd oedd hon,
Elai drwy fil o droion.

Yn rhwydd er pob aflwyddiant — ymredai
Ym mharadwys nwyfiant;.
Myned trwy ddyffryn mwyniant
Trylawn oedd, naturiol nant.

Yn y bwthyn dan bwython — ei awen
Rywiog oedd yn llifo:
Dan waith yn cyflym deithio
Ar hynt rwydd ar yr un tro.

Ei hudol ddifyr ganiadau, — lonent
Ryw lu o'n hen dadau;
A'u rhywiog hwyl pryder gan,
Ymlidient o'u teimladau.

Ei eni'n fardd ag awen fyw — a gadd
Y gwr- urdd ddigyfryw:
Yn hawdd y gwelwn heddyw,
Ym mri ei waith - nid marw yw.

RHYS, THOMAS DAFYDD, oedd wr lled gyfoethog o Foeddyn, plwyf Llanarth. Bu yn pregethu gyda'r Annibynwyr yn amser y Parch. Stephen Hughs, ac felly yn ei flodau tua dau can mlynedd yn ol. Gadawodd Mr. Rhys yr Annibynwyr, o blogid anfoddloni i S. Hughs fyned i Eglwys Llandyssul un boreu Sul i wrando y gwasanaeth, ac ymunodd â'r Bedyddwyr. Mae yn debyg fod Mr. Rhys yn un o'r Bedyddwyr cyntaf yn y sir. Adeiladodd gapel ar ei dir ei hun o'r enw Glandwr, ac y mae yn debyg mai o'r sefydliad eglwysig hwnw, y deilliodd Morgan Rhydd- erch a'i feibion Abel ac Enoch Morgan, yng nghyd a'u disgynyddion yng Nghymru ac America.

RHYS WYNDAWD oedd un o bendefigion cadarnaf Ceredigion a'r Deheudir yn amser Llywelyn ab Gruffydd. Ymddengys taw y wlad o gylch Llanfihangel y Creuddyn oedd ei gyfoeth.

RICHARD, EDWARD, y bardd a'r ysgolor enwog, & aned ym mhlwyf Ystrad Meirig yn y flwyddyn 1714. Enw ei dad oedd Thomas Richard, yr hwn oedd ddilledydd mewn amgylchiadau isel, ac yr oedd yn cadw gwestty. Cafodd Abraham, brawd Edward, ei addysgu yn Athrofa Henffordd, ac wedi hyny yn Ysgol Ramadegol Caerfyrddin, ac aeth oddi yno i Rydychain. Byddai yn amser ei wyliau yn cadw ysgol yn Eglwys Ystrad Meirig; ac yno y dechreaodd ei frawd Edward sylfaenu ei wybodaeth o Roeg & Lladin. Aeth Edward wedi hyny i. Ysgol Ramadegol Caerfyrddin, yr hon ar y pryd oedd yn dra blodeuog o dan reolaeth y Parch. Mr. Maddox; ac wedi hyny, aeth dan gyfarwyddyd addysgiadol y Parch. Mr. Pugh, offeiriad oedranus a breswyliai ym Mhont y Gido, Llanarth, yr hwn a ystyrid yn uchel fel ysgolor, yn neillduol yn ei wybodaeth helaeth o Roeg. Ar ol hyny, agorodd ysgol ei hun yn Ystrad Meirig, yr hon yn fuan a gafodd glod mawr, ym mhell ac agos, a daeth llawer iddi o bell ffordd. Ar ol cadw ysgol am dro, efe a ddangosodd brawf arbennig o hunanymwadiad, gwroldeb, a gonestrwydd. Efe, yn ddisymmwth, a ryddhaodd ei ysgolheigion, gan fynegu nad oedd ei wybodaeth yn foddhaol i'w dysgu, a chyn y byddai gynnyg i'w dysgu mwyach, y mynai ragor o ddysg ei hun. Ar ol hyny, parhaodd am ddwy flynedd i berffeithio ei hun mewn Groeg a Lladin. Deuai i Eglwys fechan Ystrad Meirig haf a gauaf am bedwar o'r gloch y boreu, ac beb gwnini neb ond y Parch. Evan Evans (Prydydd Hir). Byddai bob amser ar ei fynediad i'r Eglwys yn neillduo rhyw gymmaint o amser at weddi. Efe a ailagorodd ei ysgol yn 1746, a daeth iddi nifer fawr o efrydwyr, y rhai a dyrent yno o bob parth o'r Dywysogaeth. Yn fuan ar ol hyny, cafodd ei benodi yn athraw ysgol waddoledig y Parch. Thomas Oliver, yn y plwyf cyffiniol, Lledrod, a chyflawnodd y sefyllfa hòno gyda llawer o anrhydedd iddo ei hun a boddlonrwydd i'r ymddiriedwyr. Ychwanegodd ychydig yn awr at ei dderbyniadau arianol; a thrwy gynnildeb ei fam, yr hon oedd yn cadw ei dy, efe a ystoriai ychydig arian. Trwy ddal heb briodi, efe a wnaeth benderfyniad i sefydlu Ysgol Ramadegol yn Ystrad Meirig, i ddysgu Lladin & Groeg, ac yn egwyddorion yr Eglwys Sefydledig; ac yn y flwyddyn 1757, efe a sefydlodd dyddyn at hyny, yr hwn oedd wedi brynu. Sefydlodd lyfrgell at wasanaeth yr ysgol yn 1759. Pan gyfarfu ei frawd Abraham a'i farwolaeth ddisyfyd, cafodd effaith fawr ar ei deimladau; a phan fu farw ei anwyl fam, efe a deimlodd yn fawr iawn. Cymmerodd hyny le tua'r flwyddyn 1764. Cyfansoddodd gan dlos a thyner ar yr amgylchiad. Ystyrir hon, o ran tynerwch meddyliau, syniadau moesol a chrefyddol, a'i harddull, uwch law cyfartalwch. Mae ar ddull yr hen gerddi bugeiliol, yn cynnwys ymddyddan rhwng dau fugail - un yn galaru am ei fam, a'r llall yn gweini cysur. Argraffwyd y gân yn 1766. Ym mhen ychydig flynyddau ar ol hyny, efe a gynnyrchodd farddoniaeth arall mwy o faint, yn yr un dull bugeiliol. Yr oedd yn hynod ddiystyr o'i gynnyrchion barddonol. Mae tystiolaethau lawer, yn neillduol yng nghywydd marwnad y bardd, gan y Parch. Dafydd Elis, ei fod wedi cynnyrchu llawer rhagor o farddoniaeth, yn englynion a chywyddau; ond cawsant eu taflu, yn ddiystyr, ganddo ei hun, neu gan y sawl a gafodd ofal ei bapyrau. Mae ei farddoniaeth yn dangos Awen goeth iawn, dydgeidiaeth ddofn, a syniadau calon dyner â Christionogol. Yr oedd hefyd yn dra hyddysg yn hanes a hynafiaethau ei wlad, ac arferai obebu & Lewis Morris, Dr. Philips, Llangoedwor, a dysgedigion ereill. Mae amryw o'r llythyrau hyn wedi eu cyhoeddi yn y Cambrian Register. Yn 1771, efe a sefydlodd ffermydd ereill at wasanaeth Ysgol Ramadegol Ystrad Meirig; ac yn 1774, gwnaeth weithred newydd, gan ychwanegu rheolau newyddion at ei dygiad ym mlaen. Bu ei amcan dyngarol ganddo am ugain mlynedd mewn bwriad; ac ar ei wely angeu, yr oedd yn ymddangos yn y modd mwyaf brwdfrydig am i hyny gael ei ddwyn allan. Rhoddodd Felin Swydd Ffynnon, ym mhlwyf Lledrod, i James Lloyd, Ysw., Mabwys, a'i etifeddion am byth, ar y teler o dalu punt y flwyddyn i'w olynwyr yn Ystrad Meirig, ac i drigolion Ystrad Meirig am byth gael malu am hanner doll. Rhoddodd y gweddill o'i ystâd, sef Brynperfedd, ym mhlwyf Ystrad Meirig; Ty Mawr, Ty'n y Gwndwn, a Bryngarw, ym mhlwyf Lledrod; a thyddyn Prygnant, ym mhlwyf Llanfihangel y Creuddyn, oll yng Ngheredigion, at wasanaeth yr ysgol yn Ystrad Meirig. Dyma y geiriau olaf yn yr ewyllys :—"To my successors in the school. This school is not to be a sinecure; you must attend, and get your bread by labour and industry. This is my will, and I hope it will be observed; discharge therefore your trust. faithfully, as knowing that you are accountable for your behaviour, not only to the trustees, but also to the Almighty. Let the school and library be kept in good repair, and improved to the utmost of your power. Edward Richard, Ystrad Meirig, February 28, 1777." Penododd Esgob Ty Ddewi, Iarll Lisbwrn, Dr. Wm. Powell, Nant Eos; James Lloyd, Yswain, Mabwys; a Thomas Hughes, Yswain, Hendre Felen, a'u hetifeddion, i fod yn ymddiriedwyr. Bu y cymmwynaswr elusengar hwn i'w wlad farw ar y pedwerydd o Fawrth, 1777. Claddwyd ef yn Eglwys Ystrad Meirig, ar ochr orllewinol y pulpud, yn agos i'r mur gogleddol. Gosodwyd cofgareg am dano ar fur y llyfrgell, ac arni y cerfiad a ganlyn :-"Hanc Bibliothecam fundavit, librisque completavit EDVARDUS RICHARD; Vir eximii ingenii, eruditionis ac diligentiae; Qui arduo ludimagistri munere per 45 annos summa cum laude perfunctus est. Hanc insuper scholam annuis donavit reditibus in pauperum puerorum institutionem: Quae, inter illustrissimos illos viros, qui humani generis fuerunt EYEPΓETAI, Nomen ejus merito collocabunt. Quarto nonas Martii, anno aetatis 63, Christi 1777, obiit." Er fod 88 o flynyddau er pan orphenodd y gwr enwog ei yrfa, y mae ei weithredoedd gogoneddus a'i enw da yn parhau yn fyw. Nid oes modd traethu pa faint o ddaioni a wnaeth yr ysgol yn barod, a llawer anhawddach dirnad pa faint a wna yn y dyfodiant. Wele res o wyr enwog a dderbyniasant addysg yn Ystrad Meirig :-y Parchedigion E. Evans (Prydydd Hir); Thomas Jones, Creaton; Mr. D. Richards (Dafydd Ionawr); Parchn. John Williams, Ystrad Meirig; John Williams, A.C., Caereiddin; John Lloyd, Ysw., Mabwys; Milwriad J. P. Lloyd eto; Cadfridog Davies, Tan y Bwlch; W. Morris, Ysw., Blaennant; Parchn. Hugh Lloyd, Cilpill; Morgan Hughes, Corwen; Jobn Hughes, Cemmaes; John Owen, Thrussington; W. Williams, Pen y Graig; John Hughes, Llanbadarn Fawr; William Jones, Bedwellty; J. Jones, Llanfihangel Geneu'r Glyn; R. Richards, Darowain'; Lewis Evans, gynt ficer Llanfihangel Geneu'r Glyn; R. Evans, gynt ficer Llanbadarn Fawr; M. Evans, Llangeler; Lewis Morris, Ysw., Caerfyrddin; Dr. John Birt Davies, Birmingham; Syr D. Davies, meddyg i'r Frenines Waddolog; Parchedigion D. Richards (Dewi Silin); J. Jennings, cynon trigiannol Westminster; Morgan Morgans, Conwy; D. Evans, Llanafan Fawr; Joseph Hughes (Car Ingli); D. James (Dewi o Ddyfed); Evan Morgan, Morganwg; John Morgan, Llangwyryfon; John Hughes, Caron; Thomas Thomas, Caernarfon; J. M. Davies, Ysw., Pant y Fedwen; John Lloyd Phillips, Ysw., Dale Castle ; Parchn. D. Edwards, gynt o'r Yspytty; J. Edwards, Dref Newydd; Jenkin Hughes, diweddar gurad St. John's; Morgan Davies, Trefriw Fach; J. Lloyd Williams, Llandulas; Peter Felix, Llanilar; John Lewis, Llanrhystud; John Hughes, Ty'nllwyn; James Hughes eto; John Daniel, Cwrt Mawr; D. Daniel eto; John Jones (Caron gynt); Dr. Rogers, Aber Meirig (meddyg enwog); Parchn. D. E. Jones, Llanafan; Evan Pugh, Llanidloes; Morgan Lloyd, Yspytty Ifan, awdwr gwych; M. Evans, Llanfair ym Muallt (Cynllo Maelienydd); Richard Jones, Aberystwyth; D. L. Jones, Coleg Iesu, Rhydychain; W. Williams, Deri Garon; a John Williams, Ysw., Brighton.(1) Dywed traddodiad fod E. Prichards yn ddyn o gorffolaeth mawr iawn, yn gryf rhyfeddol, yn nesaf mewn bwrw bar at gawr yr oes hòno, y cryfaf o bawb, yr hwn a daflai gareg o waelod Pwll Caradog (ugain llath o ddyfnder) drigain lath ar hyd y fron. Ymborthai yn syml iawn; cawl cig eidion llawn conin oedd ei hoff fwyd. Cymmerai amryw o'r ysgolheigion ato i gydfwyta. Yr oedd yn elyn chwerw i "de." "Crochan y felltith" y gelwai y "tebot".

(1) Haul, Mai, 1846.

RICHARDS, DAVID (Dewi Silin), oedd fab y Parch. T. Richards, periglor Darowain. Ganwyd ef yn Llangynfelyn, Ebrill 12, 1783. Cafodd ei addysg foreuol gyda'i dad, ac wedi hyny yn Ysgol Ramadegol Ystrad Meirig. Urddwyd ef gan yr Esgob Burgess ar guradiaeth Penbre, swydd Gaerfyrddin. Ennillodd wobrwy am ddarllen Cymraeg pan yn cael ei urddo. Symmudodd i'r Dref Newydd, Maldwyn, ac oddi yno i Nantglyn. Aeth o Nantglyn i Lansilin, yr hon fywoliaeth a gafodd gan yr Esgob Luxmoore, yn 1819. Bu farw yn Llansilin, Rhagfyr 4, 1826, a chafodd ei gladdu ym mynwent y plwyf hwnw. Yr oedd yn aelod o Gymdeithas y Gwyneddigion, y Cymmrodorion, ac amryw gymdeithasau ereill. Yr oedd yn ofydd, bardd, ac offeiriad. Yr oedd yn dra medrus mewn chwareu y delyn, ac offerynau ereill, ac yn ganwr gwych iawn a'i lais. Yr oedd yn dra hyddysg yn y Pedwar Mesur ar Hugain Cerdd Dafod, ac yn amddiffynwr gwresog iddynt. Yr oedd yn fardd rhagorol, ac yn wresog dros yr eisteddfodan; a bu yn gyfnerth i Ifor Ceri ac ereill i ddadebru yr eisteddfodau. Yr oedd yn bregethwr o'r dosbarth blaenaf yn yr oes. Byddai tua saith cant o bobl yn arfer ymgynnull i'w wrando, ac yr oedd ei bregethau yn cyfateb i ddeall yr uchelaf fel y gwaelaf o fewn yr Eglwys. Ond yn ei flodau, daeth awel ddifaol angeu heibio i'r gweinidog talentog a rhagorol hwn. Clywsom fod y Misses Richards, ei chwiorydd, yn bwriadu cyhoeddi ei farddoniaeth.

RICHARDS, EVAN (neu Richardson), ysgolfeistr dysgedig, a phregethwr enwog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, a aned yn y Bryngwyn Bach, Llanfihangel Geneu'r Glyn, tua'r flwyddyn 1759. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Ystrad Meirig, a bwriadai ei dad ei godi yn offeiriad. Bu yn cadw ysgol yn Llanddewi Brefi. Aeth i wrando Dafydd Morris, Twr Gwyn; a chyn hir, daeth yn ymlynwr wrth y Trefnyddion, gan daflu ei goelbren i'w mysg. Dechreuodd bregethu yn lled fuan. Aeth i daith gyda'r offeiriad Trefnyddol, Mr. Williams, Llanfair Clydogau, trwy Wynedd. Aeth i Frynengan, Arfon, i gadw ysgol. Yr oedd yn awr yn 23 oed. Symmudodd i Bwllheli, ac wedi hyny i Langybi. Yr oedd ganddo ysgol flodeuog yn y lle olaf. Byddai yn ddiwyd iawn yn dysgu y werin mewn gwybodaeth gyffredinol, ac mewn crefydd. Yr oedd yn ddwfn yn serch y plant a'r rhieni. Aeth drachefn i Frynengan, yno i Gaernarfon. Efe a J. Roberts, Llanfyllin (gyda'r eithriad o Jones, Llangan, unwaith), fu yn pregethu gyntaf yn y dref hòno gyda'r Trefnyddion. Arweinid ef yno gan John Gibson, garddwr yng Ngwestty Porthaethwy, â Gruffydd, o Benrhos (tyddyn ym Mon). Derbyniodd garedigrwydd ar ei fynediad yno gan y Parch. G. Lewis, wedi hyny Dr. Lewis, trwy ei gyfarwyddo i ba le yr oedd oreu iddo ef a'i gyfaill bregethu. Aeth yno i breswylio. Cadwai ysgol yn agos i ganol y dref, a rhoddid iddo barch Cafodd dir i adeiladu capel. Bu yr enwog John Elias gydag ef yn yr ysgol. Arferai, ar rai amgylchiadau, bregethu dair gwaith yr un noswaith, a hyny gyda bywiogrwydd mawr. Ymwelai yn y gwyliau a'r Behendir. Yr oedd yn ddyn o wybodaeth ddofn; ond yr oedd ei ddull o bregethu yn syml a deniadol. Bu farw Mawrth 29, 1824, yn 65 mlwydd oed, wedi bod yn pregethu tua 45 o flynyddau.

RICHARDS, RICHARD, oedd fab y Parch. T. Richards, Darowain, a brawd i Dewi Silin. Ganed ef ym mhlwyf Llancynfelyn. Cafodd ei addysgu ar y cyntaf gan ei dad; wedi hyny yn ysgol Dollgellau; ac yn olaf yn Ystrad Meirig, o dan y Parch. J. Williams. Cafodd ei urddo gan yr Esgob Burgess ar guradiaeth Llanddeiniol a Nantcwnlle. Ennillodd wobr am ddarllen yn arholiad yr Esgob. Cartrefai gyda'r Parch. H. Lloyd, Cilpill, a cherddai naw milltir bob Sul i wasanaethu yr Eglwysi. Symmudodd i Lanbrynmair, ac oddi yno i Gaerwys, yr hon fywoliaeth a gafodd gan yr Esgob Luxmoore. Treuliodd ddeng mlynedd ar hugain yn y lle hwnw, a symmudodd wedi hyny i Meifod, yr hon a gafodd gan yr Esgob Short. Bu farw Ebrill 3, 1860, a chladdwyd ef yn Llangernyw. Yr oedd Mr. Richards yn wr mawr a rhagorol yn holl ystyr y geiriau. Yn ei farwolaeth, cafodd yr Eglwys Gymreig golled cyffredinol. Yr oedd yn bregethwr rhagorol, ac yn dwyn ffrwythau toreithiog o dduwioldeb diffuant. Teithiodd lawer o Ogledd Cymru i bleidio y Feibl Gymdeithas, y Gymdeithas Genadol Eglwysig, yng nghyd â chymdeithasau gwerthfawr ereill, a hyny ar ei draul ei hun yn hollol. Ysgrifenodd lawer iawn i'r wasg — i'r Gwyliedydd, yr Eglwysydd, &c. Bu yn arolygydd Ysgolion Mrs. Bevan; & chynnorthwyai bob achos da yn ei wlad. Yr oedd yn anwyl a pharchus iawn gan bawb a'i hadweinai; ac yr oedd agos yr holl wlad yn ei adnabod, yn Eglwyswyr ac Ymneillduwyr. Yr oedd yn areithiwr godidog, yn llenor gwych, ac yn fawr ym mhob daioni.

RICHARDS, THOMAS, diweddar beriglor Darowain, a aned yn Yspytty Cynfyn, yn y flwyddyn 1764. Dygwyd ef i fyny yn Ystrad Meirig, o dan ofal yr athraw enwog E. Richard. Priododd â Jane, merch Mr. Dafydd Llwyd, o'r Cymmerau, Llanbadarn Fawr; a bu iddynt wyth o blant, sef pump o feibion, a thair o ferched. Cafodd ei urddo yn y flwyddyn 1779, yn Abergwili, gan yr Esgob Warren. Ei guradiaeth gyntaf oedd Eglwys Fach a Llangynfelyn. Symmudodd o'r Eglwys Fach i Lan ym Mawddwy, lle bu am lawer o flynyddau yn barchus iawn gan bawb, ac yn weithiwr dyfal yn yr Eglwys. Cafodd wedi hyny ei ddyrchafu i berigloriaeth Darowain, gan yr Esgob Bagot o Lanelwy. Gwasanaethai ei Eglwys, a dau Wasanaeth a dwy bregeth bob Sul. Cadwai Ysgol Sul, a holwyddorai yr Ysgol hyd o fewn tair wythnos i'w farwolaeth. Nid oedd ond un Gwasanaeth yn cael ei gynnal yno gan ei ragflaenydd. Yn y modd hyny, bu yn offerynol i roddi terfyn ar lawer o chwareuaethau a ddygid ym mlaen yn y plwyf ar y Sul. Yr oedd yn hynod o ddiwyd gyda phob peth a berthynai iddo fel gweinidog a phen teulu. Dygodd bump o'i feibion i fyny yn offeiriaid; a bu yn foddion i ddwyn saith o wŷr ieuainc ereill o'i blwyf i'r .weinidogaeth yn yr Eglwys. Bu farw Rhagfyr 2, 1837, a chladdwyd ef yn Darowain. Yr oedd yn gyfaill mynwesol i Mr. Jones, Creaton, fel y dengys y nodyn hwn.(1)

(1) 1 "The Rev. T. Richards and the Rev. T. Jones were friends in early life, and that friendship has continued unabated till both are far advanced in years, and travelling together from eighty towards ninety years of age. What gratitude do we both owe to that God who has loaded us with His benefits all the days of our lives! May we live and die to his glory.-T. Jones, Creaton." Y mae y nodyn wedi ei ysgrifenu gan Mr. Jones ar ddalen llyfr ym meddiant Miss Richards, merch Mr. Richards. Ysgrifenwyd hyn tua'r blynyddau 1834–35.

ROBERTS, DAVID, un o berigloriaid corawl Llanddewi Brefi, yr hwn a gydsyniodd a'r Oruchafiaeth, Awst 4, 1534, ac eilwaith yn 1553.

ROBERTS, ISSAC, oedd enedigol o ardal Penllwyn, ger Aberystwyth. Yr oedd yn frawd i'r Parchedigion John Roberts (Ieuan Gwyllt) ac R. Roberts. Yr oedd yn wr ieuanc o dalentau dysglaer; ac yr oedd ei lafur a'i gynnydd yn fawr. Ymaelododd yn ieuanc gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, a bu yn pregethu am rai blynyddau. Bu yn yr ysgol gyda'i frawd yn Aberteifi, ac yr oedd wedi dechreu ei yrfa golegol yn y Bala. Gwedi maith gystudd, bu farw Medi 1864. Yr oedd yn ddyn ieuanc tra gobeithiol. Yr oedd yn fardd da iawn, a phe buasai oes o'i flaen, diammheu y buasai yn un o brif ddynion ei sir enedigol.

ROGERS, JOHN, M.D., a aned yn Llanllyr, Llanfihangel Ystrad, yn 1786. Yr oedd yn hanu o deuluoedd hynafol Llanio a Brynele, y rhai sydd yn disgyn yn gywir o Weithfoed Fawr, brenin Ceredigion. Bu yn ysgol enwog Ystrad Meirig, o dan y Parch. John Williams, yr hwn oedd yn briod a modryb iddo. Bu yn efrydu meddyginiaeth yn Guy's Hospital, a Chaereiddin, lle y derbyniodd ei raddeb. Daeth yn feddyg deallus a medrus iawn; ac yr oedd ei garedigrwydd a'i elusengarwch yn fawr dros ben. Bu yn ymarfer trwy ei oes, fel pe buasai ei fywoliaeth yn dibynu ar hyny; ac ymddengys iddo wneyd mwy yn rhad fel meddyg na neb yng Nghymru. Yr oedd yn foneddwr cyfoethog; ond efe a godai yn foreu iawn, ac ymaith ag ef at dlodion ag y gwyddai oedd yn gofyn ymgeledd meddygol, megys yn y dyfrglwyf a doluriau poenus ereill. Cadwai ei amser i'r fynyd. Yr oedd o wasanaeth andhraethol i'r wlad. Bu farw yn ddamweiniol, Gorphenaf 5, 1846, pan yn dychwelyd oddi wrth ddyn claf. Ar y pryd hwnw y bu y llif mwyaf yn Nyffryn Aeron er ys oesoedd, a boddodd Dr. Rogers a'i was ym mhentref Talsarn.

ROWLAND, DANIEL, Llangeitho, a aned ym Mhant y Beudy, plwyf Nantcwnlle, yn 1713. Yr oedd yn fab i'r Parch. Daniel Rowland, periglor Nantcwnlle a Llangeitho. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Athrofa Henffordd; a dywedir ei fod yn meddu ar alluoedd rhyfeddol i ddysgu, fel y dywedir iddo gael ei urddo cyn dyfod i'r oedran arferol i hyny. Yr oedd pryd hyny yn llawn bywiogrwydd, ac yn hynod wisgi - yn ben ar holl gampau a chwareuon yr oes - yn rhagori ar bawb o'i gyfoedion. Yr oedd yn y blynyddau cyntaf o'i weinidogaeth yn dra ysgafn a difater o'r swydd bwysig oedd wedi gymmeryd arno. Beth bynag, yn y flwyddyn 1738, efe a aeth i Llanddewi Brefi i wrando yr enwog Griffith Jones, Llanddowror. Yr oedd yr Eglwys fawr hòno yn llawn, ac felly methai Rowland a chael lle i eistedd, ac efe a safai yn hynod falch ei olwg o flaen y pregethwr, fel y gellid barnu ei fod am ei wawdio, yr hyn a ennillodd sylw yr hen offeiriad, a thorodd allan ar ei bregeth i weddïo dros y gwr ieuanc, ac am i Dduw ei wneyd yn offeryn i droi llawer o dywyllwch i oleuni. Effeithiodd y weddi yn ddwys ar ei feddwl. Dychwelai yn drist a gofidus: symmudai yn araf, a'i ben tua'r llawr: daeth yn ddyn newydd. Pregethai gydag effeithiau rhyfeddol. Clywodd Mr. Pugh, Llanpenal, am ei gyfnewidiad, ac ymfalchïai yn fawr yn hyny, gan annog ei bobl i fyned i'w wrandaw. Pregethai ar ryw bynciau yn dra gwahanol i Mr. Pugh; ond efe a'i cynghorai i adael iddo - y delai yn well mewn addfedrwydd oedran - ei fod yn credu ei fod yn offeryn neillduol yn llaw Duw. Cyfarfu Mr. Pugh ag ef wrth ddychwelyd o Abermeirig, ar ben rhiw Cilpill, pan yr oedd yn myned i Nantcwnlle, a gofynodd am gael rhoddi gair o gynghor iddo. Addawodd Rowland wrando. "Clywais," ebai ef, "eich bod yn dywedyd fod y saint yn cyrhaedd perffeithrwydd ar y ddaiar;" gan ychwanegu amryw bethau ereill, a rhesymu yn eu herbyn. "Peidiwch gwneyd fel yna eto." "O'r gorau Mr. Pugh, ni wnaf byth." Ac felly y bu. Pregethai ar y cyntaf y gyfraith yn ei holl adwyth; ond er hyny, casglai miloedd o bobl i'w wrando, ac yr oedd effeithiau rhyfeddol yn canlyn - dynion wrth yr ugeiniau a'r cannoedd yn cael eu llanw gyda'r braw mwyaf effeithiol: syrthient i lawr fel meirwon. Dyhidlai dagrau dros wynebau cannoedd; a griddfanai y rhai mwyaf anystyriol, fel pe safent uwch dibyn anobaith. Parhaodd y dull ofnadwy hwn am tua phum mlynedd. Newidiodd ei ddull ar ol hyny, trwy ymsoddi yn fwy i nefoldeb yr Efengyl. Gwasanaethai pryd hyny Eglwysi Nantcwnlle, Llangeitho, a Llanddewi Brefi. Pregethai dair gwaith bob Sul, a dywedai ei fab nad oedd yn cael ond deg punt o gyflog.(1) Pregethai hefyd yn aml mewn Eglwysi ereill. Dywed Williams yn ei farwnad i "bump o siroedd penaf Cymru glywed y taranau mawr." Daeth gwraig o Ystrad Ffin i ymweled â'i pherthynasau yn Llangeitho, ac aeth i wrando Rowland, a gafaelodd yr athrawiaeth yn ei chalon. Daeth wedi hyny bob Sul i Langeitho, pellder o ugain milltir o dir mynyddig. Trwy ganiatâd offeiriad Ystrad Ffin, aeth Rowland i bregethu yno. Aeth boneddwr anystyriol a'i gŵn hela a'i gyfeillion i'r Eglwys. Aeth Rowland rhagddo heb wneyd un sylw o hono, er ei fod deall yr amcanai at ei ddigaloni. Ond yn lle dyrysu y pregethwr, dechreuodd y dyn rhyfygus deimlo a chrynu, a threiglai dagrau dros ei ruddiau. Methai sefyll i fyny. Eisteddai yn benisel, gan wylo yn hidl: rhuai y gydwybod: bygythiai euogrwydd, a chauai anobaith yn ddunos drom am dano. Ar y diwedd, gofynodd faddeuant Mr. Rowland yn y modd mwyaf gostyngedig. Gwahoddodd ef i'w dy. Cydunodd Mr. Rowland, a chiniawodd a chysgodd yno y noswaith hòno. Buont yn gyfeillion am eu hoes. Arferai y boneddwr o hyny allan ddyfod i Langeitho i wrando Mr. Rowland. Yr oedd arferiad gan bobl ieuainc yr ardal i bentyru ar ben bryn ger Llangeitho i ddwyn ym mlaen gampau annuwiol ar y Sul, er mwyn peidio clywed ei bregethau taranllyd. Ymdrechai eu perswadio ym mhob modd i beidio; - ond ni thyciai dim. Aeth allan, a phregethai iddynt yn y modd mwyaf taranllyd. Dyna ddechreuad ei bregethu mewn lle anghyssegredig. Yr oedd yr Eglwysi yn orlawn bob Sul; a llawer a'i canlynent o Nantcwnlle i Langeitho a Llanddewi. Cynnwysai yr olaf dair mil, a dywedir ei bod fynychaf yn llawn. Yr oedd ganddo yn yr amser hwn amryw bregethwyr, neu gynghorwyr, fel y gelwid hwynt, yn pregethu draw ac yma ar hyd y wlad. Ymwelai yn fisol â Thwr Gwyn, Gwaen Ifor, Ystrad Ffin, Abergorlech, a manau ereill. Bu yn pregethu yng Ngogledd Cymru, a rhoddai hynafgwr o'r Bala ddysgrifiad o'i nerth a'i hyawdledd - ei fod tu hwnt i neb a glywodd erioed. Cyflwynai ei holl alluoedd at y weinidogaeth-gogoniant Duw a lles dynion. Ond fel holl ddynion mawr y byd, yr oedd ganddo ei elynion. Yr oedd gweinidogion segur yn cenfigenu wrtho. Achwynid arno wrth yr Esgob, ei fod yn pregethu mewn lleoedd anghyssegredig. Rhybuddiodd yr esgob ef i beidio. Ymesgusodai yntau trwy ddywedyd fod sefyllfa y wlad yn galw am hyny. Dywedir taw dyn tra diffygiol o farn oedd y Dr. Squire, canys efe a wrandawodd ar elynion y dyn gweithgar hwn. Attaliwyd ef. Gwnaed hyn yn gyhoeddus ar y Sul yn Eglwys Llanddewi Brefi.(2) Daeth dau offeiriad i mewn rhwng y Gwasanaeth a'r bregeth, a rhoddodd un o honynt, sef y Parch. Mr. Davies, brawd Cad. Davies, Llanfochan, lythyr i Mr. Rowland, pan yn esgyn yr areithfa. Ar ol ei ddarllen iddo ei hun, hysbysodd ei gynnwysiad i'r gynnulleidfa, gan fynegu nad oedd i bregethu iddynt. Yna disgynodd ac aeth allan, a'r gynnulleidfa, y rhan fwyaf yn ei ddilyn gan wylo! Mewn canlyniad i hyn, adeiladwyd capel ym mhentref Gwenfil, gogyfer & Llangeitho; ac yno y gweinidogaethodd yn benaf hyd ei farwolaeth, sef dros 27 mlynedd, gyda llwyddiant mawr. Yn y modd sarhäus a gwarthus hwn y cafodd y dyn mawr a rhagorol hwn ei drin gan yr esgob Seisonig anghymhwys ac annheilwng hwn. Nid oedd y gwr uchel hwnw yn gwybod un gair o iaith y wlad, na chwaith yn deall angen y genedl. Taflodd o'r Eglwys un o ddynion goreu yr oes - dyn a ddylasai gael ei gydnabod â dyrchafiad am ei weithgarwch a'i dduwiolfrydedd, gan annog ereill i'w efelychu. Ys dywedodd y Parch. Mr. Ryle, efe a roddodd y fath ergyd ac archoll i'r Eglwys yng Nghymru, nad oes modd traethu y filfed ran o'r canlyniadau. Ond gan y ceir rhywrai i amddiffyn unrhyw beth yn y byd, tebyg y ceir rhai a amddiffynant yr Esgob Squire yn hyn. Aeth Mr. Rowland rhagddo yn rhyfeddol o lwyddiannus. Pregethai yn danllyd ac efengylaidd. Daeth Llangeitho yn gyrchfa o bob parth o'r Dywysogaeth. Yr oedd pobl o'r Bala yn myned yno - pellder o drigain milltir; ac ar droion, pobl o Ynys Mon. Dywedir fod tua 1500 o bobl yn arfer cynımeryd y Cymmun yno, a phum mil yn fynych yn y cyfarfodydd. Ni fu lle o'r fath yng Nghymru. Yr oedd ceffylau dyeithriaid yn llanw holl ochrau y ffyrdd, megys pe buasai yno ffair fawr; ond yr oedd yno bob trefn a gweddeidd-dra. Yr oedd yn hynod hunanymwadol. Nid oedd yn foddlawn i neb gymmeryd nodau o'i bregethau, pa chwaith dynu ei ddarlun. Byddai weithiau yn llwfr iawn, yn rhy ofnus i ddyfod allan o'i ystafell. Cymdeithasai lawer a'r nef. Yr oedd un tro i bregethu yn Llanbadarn Odwyn, ar fryn tua milltir uwch law Llangeitho. Gwelai y dorf ef yn dyfod allan o'r Persondy, ac yn croesi yr Aeron; ond er hir ddysgwyl, nid oedd argoel am dano i ddyfod o'r cwm. Aethpwyd i chwilio am dano, a chafwyd ef mewn congl gudd yn taer weddio. Ar ol galw ei hun i gyfrif, teimlai yn flin iawn fod y bobl wedi gorfod dysgwyl. Yr oedd ei hwyl y prydnawn hwnw yn rhyfeddol. Bu farw Hydref 16, 1790, yn 77 oed. Dywedodd wrth Nathaniel ei fab, y tro olaf y gwelodd ef, am lynu wrth yr Eglwys er pob erledigaeth — fod amser gwell ger llaw; ac er nad oedd yn brophwyd na mab i brophwyd, ond fod Duw wedi amlygu hyny iddo pan mewn gweddi. Meddyliai Nathaniel Rowland fod hyny wedi ei gyflawnu yn nyfodiad y duwiol a'r rhagorol Esgob Burgess i esgobaeth Ty Ddewi. Y Dr. Burgess ydoedd y Sais goreu a groesodd yr Hafren erioed. Efe a ymroddodd yn hollol am fod yn ddefnyddiol yng Nghymru, yn eglwysig a llenyddol Ond gwelwn mai Ymneilldüwr o wneuthuriad trawsawdurdodol yr Esgob Squire oedd Mr. Rowland, ac nid yn wirfoddol. Cyhoeddwyd "Deuddeg Pregeth" o'i eiddo pan yr oedd yn fyw, yng nghyd â chyfieithad o wyth o honynt yn 1774. Y cyhoeddwr oedd T. Davies, Hwlffordd. Ail gyhoeddwyd y pregethau er ys ychydig yn ol yn Llanbedr. Dylid deall na fu Mr. Rowland erioed yn rheithor Llangeitho; nid oedd pan drowyd ef allan ond curad i'w fab! Yr oedd y mab hwnw yn berson yr Amwythig. Mae amryw ddisgynyddion iddo ar hyd y wlad. Mae Mrs. Williams, Ty Melyn, Llangeitho, yn orwyres iddo. Yr ydym wedi gweled llawer o'i lyfrau, a'i enw yn ysgrifenedig arnynt, "Dan. Rowland."

(1) Nis gwyddom a oedd Llanddewi i mewn am y swm fechan hon.
(2) Dywed Mr. D. Jones, Dolau Bach, hynafgwr tua 87 oed, yr hwn sydd yn cofio Rowland, mai yn Nantcwnlle y bu hyny - iddo glywed hen wraig ag oedd yn yr Eglwys yn traethu hyny.

ROWLAND, DAVID (Dewi Brefi), a aned yn Ffos y Ffin, plwyf Llanddewi Brefi, yn Awst, 1783. Yr oedd yn fab i fenygwr, ac yn ieuengaf o bedwar o blant. Anfonwyd ef i'r ysgol pan yn bum mlwydd oed; ac yr oedd ei gynnydd mor fawr, fel y dechreuodd ar y gramadeg Lladin ym mhen tri mis. Parhaodd yn y modd hyny i ymchwilio am ddysg a gwybodaeth gyffredinol, nes yr oedd yn bedair ar ddeg oed; ac o herwydd amgylchiadau isel ei rieni, gorfu arno fyned i gadw ysgol i Dregaron, ac wedi hyny i Langeitho; ac ymsymmudodd o'r lle olaf i Lanllawddog, ac yn olaf i Bencadair, lle y dygodd ym mlaen ei alwedigaeth syml gyda llawer iawn o ffyddlondeb. Tra yno, ymunodd â'r Annibynwyr; ac o herwydd ei dalentau a'i gymmeriad da, cafodd ei annog i bregethu, a chymmeradwywyd ef i Athrofa Caerfyrddin. Bu yno yn ddiwyd iawn: ondo herwydd clywed un o'r myfyrwyr yn dadgan golygiadau tra gwahanol iddo ef ar Gristionogaeth, derbyniodd y fath effaith ar ei deimladau, fel y gadawodd yr athrofa. Penderfynodd fyned i Ysgol Ramadegol Ystrad Meirig, a thra yno, daeth i'r penderfyniad o ymuno ag Eglwys Lloegr. Bu yno bum mlynedd, ac yn 1806, cafodd ei urddo ar guradiaeth Llanfihangel y Creuddyn. Cynnyddai yn fawr fel Cymreigydd. Tra yn gurad yn y plwyf hwnw, yr oedd ei hen athraw, y Parch. J. Williams, yn ysgrifenu ei Dissertation on the Pelagian Heresy, ac efe a'i cynnorthwyai trwy gyfieithu amryw ddarnau o farddoniaeth Gymreig i'r Seisoneg. Symmudodd o Lanfihangel i Garno, a Llanwnog, Maldwyn; a thra yno dangosodd ffyddlondeb mawr fel gweinidog yr Efengyl. Ar farwolaeth y Parch. Mr. Harries, conadwr yn St. John's, Newfoundland, cafodd ei gymmeradwyn gan Ifor Ceri i Dr. Burgess, Esgob Ty Ddewi, i lanw ei le : a chafodd yr esgob ei foddloni gymmaint ynddo, fel y brysiwyd ei symmudiad. Derbyniodd arwyddion neillduol o foddlonrwydd a pharch gan Archesgob Caergaint ac Esgob Caerwysg. Ymadawodd Mehefin 24, 1810, yn yr "Antolope." Ar ol sefydlu yn St. John's, derbyniodd yn fuan arwyddion uchel o barch y trigolion. Adeiladwyd yno Eglwys newydd yn fuan; ond er ei bod yn fawr, gwelwyd yn fuan nad oedd yn ddigon: cymmaint oedd yr awydd am le yno, fel y rhoddid 23p. am gôr. Pregethai yn fynych chwe gwaith yn yr wythnos, a darllenai'r Gwasanaeth ddwywaith yn yr yspytty, ac edrychai dros yr ysgolion. Yr oedd yn llywydd Cymdeithas er Lledu Gwybodaeth Gristionogaidd. Cadwai drefn ar astudio yn galed Hebraeg, hanesiaeth eglwysig, a gwahanol wyddorau, megys fferylliaeth, &c. o herwydd gerwindeb yr hinsawdd, a gormodedd llafur, dechreuodd ei iechyd ammharu tua 1812, fel y gorfu arno ymddiswyddo yn Ionawr, 1816. Gyda pharch mawr, anrhegodd y Gymdeithas ef â 50p. Er mwyn cael y cyfle o deithio dros y Cyfandir er mwyn cryf hâd iechyd, cymmerodd y fantais o fordeithio mewn llong i Oporto; a phan yn agos tirio, cafodd gwymp caled, nes dadgymmalu ei ysgwydd, ac ni pheidiodd deimlo oddi wrth hyny tra fu byw. Ar ol teithio trwy Portugal, Yspaen, a Ffrainc, tiriodd ym Mhrydain yn 1817. Galwodd ar yr Esgob Burgess, a chafodd dderbyniad croesawgar iawn. Treuliodd beth amser gydag Ifor Ceri a Gwallter Mechain. Pryd hyny y cynlluniwyd i adferu yr eisteddfodau. Awgrymodd Mr. Rowland hyny i'r esgob; ac yng Ngheri, yn Awst dyfodol, pryd yr oedd yr esgob yn bresennol, penderfynwyd i gael cyfarfod yng Nghaerfyrddin yn mis Hydref i'r dyben hwnw. Cynnaliwyd y cyfarfod, a phenodwyd Mr. Rowland yn ysgrifenydd. Yr oedd yr esgob wedi ei osod pryd hyn yn gurad Caerfyrddin. Sefydlodd ddarlithiau hwyrol ar y Sul yn y dref. Ymwelodd â phlwyf Llanwnog ym Mehefin, 1818, pan y cafodd lewyg trwm o herwydd toriad un o'r llestri gwaed. Gwanhaodd yn fawr; ond trwy gymhorth meddygol a bendith, daeth yn well. Priododd â Miss Matthews, Parc, Llanwnog. Cymmerodd ran helaeth yn yr eisteddfod yng Nghaerfyrddin yn 1819. Yr oedd yr esgob rhagorol a'i olwg arno yn barhäus, a rhoddodd iddo fywoliaeth Tregaron, gan obeithio y buasai ei iechyd yn cryfbau rhwng bryniau Ceredigion. Dywedodd cyfaill ar yr achlysur,-

"Rhagluniaeth helaeth yw hon — i Rowland,
Areilio plwyfolion
Tir ei geraint-Tregaron,
Llanddewi Brefi ger bron."

Ond gwanychodd iechyd Mr. Rowland, a bu farw Chwefror 29, 1820, yn 37 oed, gan adael gweddw hawddgar i alaru ar ei ol, a baban un mis ar ddeg oed. Claddwyd ef yng nghangell St. Pedr, Caerfyrddin. Mae amryw ddarnau o'i farddoniaeth wedi eu cyhoeddi ym "Mlodau Dyfed".

ROWLAND, NATHANIEL, A.C., oedd fab y Parch. Daniel Rowland, Llangeitho. Cafodd ei ddysgeidiaeth yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychain, lle y cafodd ei raddio. Priododd â merch y Parch. Howel Davies, un o'r offeiriad poblogaidd oedd yn cymmeryd rhan yn symmudiad Methodistaidd yr oes. Yr oedd yn gapelydd i'r Dug Gordon a'r Arglwyddes Huntington. Yr oedd unwaith yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd yng Nghymru, mewn cysylltiad â'r Methodistiaid Cymreig ag y bu ei dad yn weithiwr diflin a llwyddiannus i sefydlu: ond pan ymneillduodd y cyfundeb hwnw yn hollol oddi wrth yr Eglwys, trwy gymmeryd gweinidogion heb urddau esgobawl i weinyddu y sacramentau, efe a ymlynodd yn gydwybudol wrth yr Eglwys. Ond nid oedd chwaith yn gweinyddu yn yr Eglwys er y flwyddyn 1807. Bu am flynyddau yn gwasanaethu mewn capel a godasid iddo yn Hwlffordd, mewn cyssylltiad â'r Methodistiaid hyny y rhai a ymlynent wrth yr Eglwys, ac a gymmerent y sacramentau gan eu gweinidogion yn unig. Bu farw yn y Parc, sir Benfro, yn 1831, yn 82 oed, a chafodd ei gladdu yn Henllan Amgoed. Adwaenem wyr iddo o'r enw Nathaniel Scourfield.

SANDDE AB CEREDIG oedd fab Ceredig, tywysog Ceredigion. Blodeuai tua diwedd y pummed canrif. Rhoddodd diroedd at Eglwys Llanddewi Brefi, yr hwn, meddir, sydd ym meddiant yr Eglwys hyd heddyw. Priododd Non, merch Gynyr, o Gaergawch, a'i fab oedd Dewi Sant.

SAUNDERS, DAVID, gweinidog y Bedyddwyr ym Merthyr, a aned yn Undergrove, plwyf Llaubedr, yn Ionawr, 1769. Yr oedd ei rieni mewn amgylchiadau cysurus. Bu yn yr ysgol gyda D. Jones, Dôl Wlff. Derbyniwyd ef yn aelod trwy Fedydd yn Aberduar, gan y Parch. T. Thomas, pan yn bymtheg oed. Dechreuodd bregethu yn 1795, a daeth yn fuan yn lled enwog. Cafodd ei urddo yn Aberduar yn 1800, yn gydweinidog â'r Parch. Secharias Thomas, Timothy Thomas, a D. Davies. Priododd Mehefin 23, 1815, & Margaret Jenkins, Dôl Wlff. Symmudodd i Gapel Sion, Merthyr. Bu yno yn llwyddiannus iawn. Bu farw ei wraig, ac ym mhen rhyw amser priododd eilwaith : ond dywedir na fu yn ddedwydd yn un o'i briodasau. Bu farw Thomas, ei unig blentyn, yn Hydref, 1837, trwy gwympo dros y llongborth yng Nghaerodor, yr hon fu yn brofedigaeth galed iawn i'r hen wr. Cafodd ei daro yn Hydref, 1837, gan ergyd o'r parlys. Bu farw Chwefror 3, 1840, yn 70 oed. Claddwyd ef ym mynwent Capel Sion, Merthyr. Yr oedd Mr. Saunders yn ddyn o gorffolaeth mawr, lygaid yn fywiog, ei dalcen yn fawr, a'i wyneb yn gul. Yr oedd yn fardd da, ac sgrifenodd lawer o awdlau a chaniadau rhyddion. Ysgrifenai pan yn lled ieuanc i'r Geirgrawn; ac ar ol hyny i gyhoeddiadau ereill. Bu dadl rhyngddo, mewn englynion, â Mr. Davis, Castell Hywel, ar Drindodiaeth, ac y mae cryn fedr ac arabedd i'w weled yn ei waith. Cyfieithodd draethawd ar "Deyrnas Crist," gan Abraham Booth, ac argraffodd ef yn 1810. Ym mhen blynyddau, cyhoeddodd "Atebiad i'r Parch. T. Powell, Aberhonddu, ar Fedydd." Cyfieithodd hefyd waith Dr. Fawcet ar " Ddigofaint" yn 1826; ac yn fuan ar ol hyny, gwaith Mr. Westlake ar Fodydd." Ysgrifenwyd cofiant cryno iddo gan y Parch. John Williams, Aberduar. Bu iddo nai o'r enw Thomas Saunders (Cyndaf) yn wr o dalent, ac yn fardd.

SELBY, Evan, oedd fab Rowland Selby, o ardal Tregaron. Symumudodd ei rieni i America pan oedd yn dair blwydd oed. Daeth Evan ym mlaen yn ddyn gwrol fel rhyfelwr, a daeth yn gadben. Bu yn llwyddiannus i ostegu terfysg yr Indiaid yn ardaloedd y Mynyddau Duon. Mab iddo ydoedd y Cadben Isaac Selby, yr hwn a hynododd ei hun yn y rhyfel a ennillodd annibyniaeth y Taleithiau Cyfunol oddi ar Loegr; a mab Isaac oedd y Cadfridog Selby. Dywedir fod disgynyddion iddynt yn y Taleithiau yn bresennol. Perodd cyfrifoldeb y tylwyth i Mr. Beecher Stowe gymmeryd yr enw yn un o gymmeriadau "Bwthyn fy Ewythr Tom." Peth hynod yw, ymfudodd Mari Roberts, hen hen fam gu Mrs. Beecher Stowe, o Landdewi Brefi tua'r un pryd, os nid yr un pryd, a theulu Evan Selby. Aeth cangen o'r teulu hwn i Nefern, ac oddi yno i Weverdon, Buckingham. Dyma linach yr "Arian Mawr," ag y bu cymmaint ymdrech am danynt er ys blynyddau yn ol. Mae llawer o'r Selbyaid wedi eu bedyddio yn Nhregaron a'r Cilgwyn. Ymfudasant i America tua'r flwyddyn 1726.

SULIEN DDOETH, yr esgob enwog yn Nhy Ddewi, oedd ar y cyntaf yn perthyn i Gôr Llanbadarn Fawr, lle y dygodd i fyny ei bedwar mab mewn dysg offeiriadol, sef Arthen, Daniel, Ioan, a Rhyddmarch, am y rhai yr ydym wedi traethu yn barod. Dewiswyd ef yn esgob yn 1070. Rhoddodd ei swydd i fyny yn 1075; eithr ar ol llofrudd- iaeth yr Esgob Abraham gan y Daeniaid yn 1079, ar daer ddymuniad y bobl, efe a'i hadgymmerodd drachefn. Mae yn debyg iddo ymddiswyddo dair gwaith, ac ar gais y wlad adgymmeryd â'i swydd. Mae Caradog o Lancarfan yn rhoddi clod uchel iawn iddo: --"1088, bu farw Sulien Ddoeth, y doethaf a'r clodforusaf o'r holl esgyb yng Nghymru; goreu ei gynghor, a'i ddysg, a'i grefydd, ac amddiffyn pob heddwch ac iawnder." Dilynwyd ef yn yr esgobaeth gan ei fab Rhyddmarch.

SULIEN AB RHYDDMARCH oedd fab i'r Esgob Rhyddmarch, ac wyr i'r Esgob Sulien Ddoeth, Yr oedd yn wr eglwysig o ddysgeidiaeth, a chymmeriad uchel yng Nghôr Llanbadarn Fawr. Yr oedd, medd Caradog, y doethaf mewn cynghor, a'r duwinydd dysgedicaf yn esgobaeth Dewi, a'r mwyaf yn ei weithgarwch yn ei oes mewn gwrthwynebu drygioni ac anfuchedd. Bu farw yn 1145.

SYDSYLLT AB CLYDAWG oedd frenin Ceredigion yn dechreu y nawfed canrif.

SYDSYLLT, un o abadau Ystrad Fflur, oedd yn ei filodau yn amser Giraldus Cambrensis, o gylch y flwyddyn 1188. Nid oes gwybodaeth pa bryd y bu farw.

SYMMONDS, CHARLES, D.D., a aned yn Aberteifi, yn y flwyddyn 1749. Bu ei dad yn cynnrychioli bwrdeisdrefi Ceredigion mewn tair eisteddiad o'r Senedd. Efe â addysgwyd i fyny yn ysgol Westminster, a Phrifysgol Glasgow, ac wedi hyny yn Clare Hall, Caergrawnt; ac yn 1776, cymmerodd ei radd o Febydd Duwinyddiaeth yn y Brifysgol. Trwy roddi tramgwydd mewn pregeth, yn yr hon y dangosodd olygiadau Whigaidd, yr hyn a ddinystrodd ei obeithion o ddyrchafiad, a chan ofni rhwystrau a gwrthwynebiadau pan yn sefyll am ei radd fel Doethor Duwinyddiaeth, efe a symmudodd i Goleg Iesu, Rhydychain, lle y cafodd ei raddio yn 1794. Efe a gafodd fywoliaeth Arberth, a Lanbedr Feltfre, a phrebendariaeth Clydai, oll yn swydd Benfro. Cafodd ei radd o D.D. tua'r flwyddyn 1784, yn Rhydychain. Ei waith cyntaf ydoedd cyfrol o bregethau (yn Seisonig). Yn 1789, efe a gyhoeddodd Sermon for the Benefit of Decayed Clergymen in the Diocese of St. David's; ac yn 1790, The Consequence of the Character of Individual and the Influence of Education in forming it. A Sermon in the Parish Church of St. Peter, Carmarthen, on Sunday, October 10th, 1790, for the benefit of a Sunday School, and published at the request of the Managers of the Charity. Yn 1797, daeth allan ei Inez, sef barddoniaeth chwareuol; ac yn 1800, un arall o'r enw Constanta. Yn 1806, daeth allan ei Life of Milton yn rhagarweiniol i argraffiad o waith rhyddiaethol Milton, dan olygiaeth un arall. Yn 1813, daeth allan gyfrol o farddoniaeth mewn rhan o waith ei ferch Caroline Symmonds, oedd wedi marw. Ar ol hyny, difyrodd ei oriau hamddenol wrth ysgrifenu Rhymed Translation of the Aeneas, yr hwn a gyhoeddodd yn 1817; ac ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth, efe a gyfansoddodd Bywgraffiad byr o fywyd Shakespeare, â'r hwn yr anrhegodd ef Mr. Whittingham o Chiswick, a'r hwn a ragddodwyd gan yr argraffydd hwnw i'w argraffiad 12plyg o waith Bardd Stratford-upon-Avon. Bu farw Dr. Symmonds yng Nghaerbaddon, 1826, yn 80 mlwydd oed. Yr oedd ganddo ferch enwog am yr hon yr ydym wedi crybwyll; ond y mae yn debyg mai yn Arberth y ganwyd hi. Bu farw yn 1812, yn 24 oed.

TALEY, RICHARD, abad olaf Ystrad Fflur, yn y flwyddyn 1553. Cafodd flwydd-dal o ddeugain punt.

TALIESIN BEN BEIRDD. Y mae caddug tywyll yn cuddio hanes boreuol y bardd mawr hwn. Tybia rhai iddo gael ei eni ar gyffiniau swyddi Caerfyrddin a Morganwg. Ereill a dybiant iddo gael ei eni tua Llyn Tegid; ereill a dybiant iddo gael ei eni ar lan Llyn Geirionydd; ac ereill a feddyliant taw Ceredigion bia'r hawl a'r urddas o fod yn rhandir enedigol prif-fardd mawr y Gorllewin; ac mai hyny a roddodd sail i Fabinogi Taliesin. Ef allai taw yma y cafodd ei eni, ond nis gallwn brofi hyny; ond y mae tebygolrwydd mawr taw yma y cafodd ei gladdu, sef ger llaw Pentref Taliesin, lle hyd yn ddiweddar yr oedd hen fedd hynafol o'r enw Gwely Taliesin; ond o herwydd anwariaeth y creadur ar lun dyn a ddaliai y tir, torwyd y bedd, a thailwyd lludw yr hen brif-fardd a fu yn ennyn gwladgarwch yn ei gydwladwyr i wrthladd gormes estroniaid. Mae llawer o waith Taliesin yn argraffedig yn y Myfyrian Archaiology. Gwel y Cambrian Plutarch, Mabinogi Taliesin, &c.

TEITHWALCH, un o freninoedd Ceredigion, yn yr wythfed canrif.

THOMAS, ALBAN, periglor Blaenporth, oedd enedigol o'r ardal hono. Perthynai i deuluoedd parchus, ac yr oedd yn hanu yn gywir o Arglwyddi clodfawr y Tywyn, ger Aberteifi. Yr oedd yn ysgolor da, yn dduwinydd dwfn a manwl, ac o fywyd crefyddol a gweithgar. Yr oedd hefyd yn fardd a llenor gwych, ac yn wladgarwr diffuant. Y mae yn amlwg taw yn Emlyn y bu y wasg sefydlog gyntaf yng Nghymru; ac y mae yn addas mynegu taw Alban Thomas fu yr achos dechreuol o'i sefydlu. Efe a ddylanwadodd ar y boneddigion gwladgar S. Parry, Ysw., Neuadd Trefawr, a Walter Lloyd, Ysw., o Goedmor. Argraffwyd llyfr yn Nhrefhedyn Emlyn yn 1719, sef Eglurhad o Gatecism Byraf y Gymmanfa; ac yn 1722, Dwysfawr Rym Buchedd Grefyddol. Cyfieithydd y llyfr olaf oedd y Parch. Alban Thomas. Cyflwynwyd y llyfr i Mr. Parry a Mr. Lloyd. Yr argraffydd oedd Isaac Carter. Cafodd y llyfr dderbyniad helaeth yn Lloegr ar ei ymddangosiad cyntaf. Gwerthwyd dros ddwy fil a deugain o hono; ond ni wyddid pwy oedd ei awdwr. Priodolid ef i Iarll Cyntaf Egmont gan y cyffredin, yn neillduol gan Walpole yn ei gofrestr. O'r diwedd, cafwyd allan taw yr awdwr oedd W. Melworth, Ysw., o gyfreithdy Lincoln tad cyfieithydd Pliny a llythyrau Cicero. Yr oedd Mr. Thomas, o'r flwyddyn 1722 hyd 1740, yn beriglor Blaenborth a Thremain, ac ef allai yn bwy. Yr oedd yn preswylio yn y Rhos, tyddyndy ger llaw, ar dir Mr. Parry, Neuadd. Yr oedd yn berthynas i Mr. Parry. oddi yno y mae Coedmor. Yr oedd Mr. Lloyd yn arglwydd faenor y Rhos. Gadawodd Mr. Thomas amryw weddillion llenyddol ar ei ol. Efe oedd awdwr Cywydd Marwnad Mr. Hector Morgan, o'r Plas, yn Aberporth, gorhendaid Thomas Morgan, Ysw., cyfreithiwr yn Aberteifi yn bresennol; a Marwnad Ifan Gruffydd o'r Twr Gwyn. Cyfansoddodd hefyd Sen i'r Tobacco. Mae ol dysg a chwaeth yn ei holl waith; ond dywedid ei fod yn edrych ar gymmeriad llythyrenol yn ormodol yn ei farddoniaeth i fod yn boblogaidd. Mae llawer iawn o'r tylwyth yng ngwaelod Ceredigion; ac y mae yr enw Alban yn aml iawn ganddynt. Mae Alban Davies, Ysw.,. Tyglyn, yn orysgynydd i Mr. Thomas.

THOMAS, DAVID EVAN, gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a aned yn ardal Sulian. Bedyddiwyd ef tua'r flwyddyn 1717; dechreuodd bregethu yn fuan. Bu yn pregethu yn ardaloedd Llancrwys, Caio, a rhanau o Frycheiniog a Maesyfed. Urddwyd ef yn 1740, yn Ty Danyrallt Fawr, Llandyssul. Bu yn ddiwyd yn y weinidogaeth, ac yn offerynol i blanu a helaethu achos y Bedyddwyr yn y parthau hyny. Bu farw yn 1766.

THOMAS, DAVID, oedd enedigol o Geredigion. Nid oes nemawr o'i hanes ar glawr, ond mewn cyssylltiad a hen lyfr a gyhoeddwyd yng Nghaerodor gan F. Farley, o'r enw Llyfr Ecclesiastes, neu y Pregethwr, wedi ei gyfansoddi ar fesur cywydd gan Edward Evan, o Aberdar, a Lewis Hopcyn, o Lynogwr. Rhed y rhagymadrodd fel hyn: "Mal deallo'r darllenydd, yr hyn fu yn achos a chymmelliad i'r gorchwyl yma o gyfansoddi Llyfr y Pregethwr ar Fesur Cywydd, cymmered sylw o'r ymadrodd canlynol. Dygwyddodd i wr ieuanc o Sir Aberteifi a'i enw Dafydd Thomas, ddyfod i waered i Forganwg o ddeutu y flwyddyn 1727. Un oedd o berchen cynneddfau naturiol cryfion; ac wedi cael cyfran weddol o fanteision gwybodaeth, efe a dderbyniwyd yn aelod o gynnulleidfa'r Parch. Rhys Prys o'r Ty'n Tonn. Yr oedd ganddo dalent o Awen & rhwyddineb ymadrodd. Efe a ymosododd i ddysgu Rheolau Gramadeg, a iawn ysgrifeniaeth, o ddeutu'r flwyddyn 1730; a daeth yn lled gyfarwydd â dychymmygfawr mewn barddoniaeth Gymraeg. Bûm ar brydiau yn ei gyfeillach, pan oeddwn tuag at ddwy ar bymtheg oed: ac am hyny yn rhy ysgafn a phenhoeden i sylwi na dal gafael ar un peth o werth a theilyngdod. Efe a briododd, ond ni chafodd nemawr hyfrydwch oddi wrth y cyflwr hwnw. Ei ddyddiau olaf a dreuliodd gyda Dafydd Martin, yn Ystrad Dyfodwg. Efe a orphenodd ei yrfa yn y flwyddyn 1735; ac wrth chwilio ac edrych ei ysgrifeniadau ef, mi a gefais y bennod gyntaf o Lyfr y Pregethwr wedi ei chyfansoddi ar fesur cywydd: yr hyn a'm cynhyrfodd i ofyn cynnorthwy gan fy nghyfaill a'm cydnabod, Lewis Hopcyn, i orphen a chyflawnu yr hyn oedd wedi ei attal gan farwolaeth. Felly, dyma i ti, nid yn unig ymadroddion o eiddo Solomon mewn prydyddiaeth, ond hefyd ti a gei gymhorth i ddeall meddwl yr ysgrifenydd, ond i ti gymmeryd pwyll i ti ystyried; canys efe a amcanwyd y cyfansoddiad hwn mor gyfân ag a allwyd ag esboniadau y Parchedig ddifynyddion Simon Patrick ac ereill. Derbyn hyn o brydyddiaeth Gymreig ar ei hoes ddiweddaf, a chyn ei chladdu mewn cwbl anghof o blith y Cymry. Edward Evan." Ni welwn fod E. E. yn wr gonest am gyfaddef mai D. T. a ddechreuodd y gwaith. Mae rhyw Dafydd Thomas wedi fansoddi ar "Siroedd Cymru;" ond nis gallwn brofi mai y gwr hwn oedd. Yr oedd Edward Evan yn weinidog Henadurol yn Aberdar, ac yn fardd o Gadair Morganwg. Mae o'n blaen bregeth o'i eiddo, sef "Golwg ar Gynneddfau Gwasanaeth ac Anrhydedd Gwasanaethwyr Crist; mewn pregeth a lefarwyd o flaen Cymmanfa o Weinidogion yn y Dref Wen, yn gyfagos i'r Castell Newydd Emlyn, 1775, gyda dwy hymn: Caerfyrddin, argraffwyd gan J. Ross, MDCCLXXV."

THOMAS, FRANCIS (Ffranc Ddall, neu y Crythwr Dall o Geredigion), oedd enedigol o Lanwenog. Yr oedd yn deall cerddoriaeth yn dda, ac yn arfer chwareu y crwth. Yr oedd hefyd yn fardd. Dafydd Llwyd Brynllefrin fu ei athraw barddol, a Sion Llwyd, tadcu y Parch. D. Llwyd Isaac, oedd ei ysgrifenydd. Mae rhai caneuon o'i waith ym Mlodau Dyfed a llyfrau ereill. Yr oedd ganddo ast o'r enw Flora, yr hon oedd yn dywys o ddeutu, ac y mae ganddo farwnad iddi yn llawn o arabedd a llên gwerin, Blodeuai o gylch 1760 a 1799. Yr oedd yn aelod gyda'r Arminiaid yn Llwyn Rhyd Owain.

THOMAS, JENKIN, y bardd o'r Cwmdu, a aned ym Melin Drewen, plwyf y Brongwyn, o gylch y flwyddyn 1688. Enw ei dad oedd Thomas, neu Thomas Morgan Rhydderch. Yr oedd ei daid yn frawd i'r bardd Sion Rhydderch, argraffydd o'r Mwythig - Wrth ohebu a'i ewythr o'r Mwythig, dywedai, –

"Siencin ger llaw min y môr,
Ab Tomas ar bob tymmor,
Ab Morgan, dan gyfan go',
Ab Rhydderch draserch drwsio,
Ab Dafydd ab Gruffydd graff
Nod digri, ac nid digraff,

Sy'n rhoddi i Sion Rhydderch
Arwyddion trwy swynion serch."

Ganed ei dad yn yr Allt Goch, Llanwenog. Cafodd Siencyn ei ddwyn i fyny yn grydd, ac yr oedd yn preswylio yn y Cwmdu. Yr oedd hefyd yn bregethwr yn y Drewen. Mae y Cwmdu, lle preswyliai y bardd, yn un o'r manau mwyaf rhamantus yng Ngheredigion: saif ar lan y Ceri, o fewn milltir i'w haberiad i'r Teifi. Un boreu, pan oedd y llif wedi cymmeryd ymaith farlys y bardd, dywedodd, —

"Aeth Ceri heini hynod — yn burlan
A'm barlys o'i ystod;
Cyfymodd, rhwymodd yn rhod,
Dyrnodd e'r un diwrnod."

Yr oedd y bardd yn ddyn o synwyr cryf, ac o gymmeriad moesol da. Yr oedd yn fardd rhagorol, yn uwch na neb o'i ddisgynyddion, ond Dewi Emlyn. Yr oedd ei dad yn ddeiliad i dad y Parch. Theophilus Evans, Llangammarch. Bu y bardd a'r hynafiaethydd yn cydchwareu ym moreu eu dyddiau — yn ymryson neidio, codymu, a chydymolchi, a nofio yn y Teifi; a buont yn gyfeillion trwy eu hoes. Mae ganddo anerchiad i Ddrych y Prif Oesoedd. Mae twysged o waith y bardd wedi ei gyhoeddi ym Mlodau Dyfed a llyfrau henach. Mae ganddo gywydd rhagorol o dlws ar farwolaeth Ifan Gruffydd, Tŵr Gwyn. Mae ei gywydd hefyd ar farwolaeth Sion Rhydderch, a argraffwyd gan Nicholas Thomas yng Nghaerfyrddin, yn 1736 yn gyffelyb. Mae ei gywydd-anerchiad i "Meddyliau Neillduol ar Grefydd," o gyfieithad layo Ab Dewi, yn rhagorol iawn. Dywed am y llyfr —

"Perl enwog eurog araith,
Piler dysglair, diwair daith;
Llwyn addas yn llawn addysg,
Llwyn a ddaeth yn llawn o ddysg."

Ac ym mhellach dywed, —

"Deued gwŷr llên yn dawel
A’u difyr gynghyr heb gel,

A rhoddent, llunient yn llawn,
Fry yn enwog farn uniaws;
A'r anghall na ddeallo,
Dystawed, na feied fo."

Bu farw tua'r flwyddyn 1765.

THOMAS, JOHN, gweinidog ymneillduol yn Llechryd, ac a breswyliai yn Llwyn Grawys, oedd wedi ei ddwyn i fyny yn Rhydychain, lle y cafodd ei raddio. Bu yn weinidog yn Llechryd am amser maith. Yn ei amser ef y cododd dadl fawr ar Fedydd yn yr ardal. Bu Mr. Thomas yn pregethu ym Mhenlan, ger y Frenni Fawr, ar y pwnc, sef Bedydd Babanod, a Mr. John Jenkins, Rhyd Wilym, ar ei ol dros Fedydd Crediniol. Arweiniodd hyny i James Owen, o blwyf Abernant, ysgrifenu llyfr o'r enw Bedydd Plant o'r Nef, ac un arall yn wrthwynebol iddo gan Benjamin Keach, o Loegr. Mae yn debyg taw gwr genedigol o'r ardal hòno oedd Mr. Thomas.

THOMAS, JOHN, gweinidog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Aberteifi, a aned yn 1760, ac a fedyddiwyd yn Eglwys y Ferwig: felly mae yn debyg mai yn y plwyf hwnw y ganed ef. Cafodd ei ddwyn i fyny yn ddilledydd. Ymunodd yn weddol ieuanc â'r Trefnyddion, a dangosodd yn fuan dalentau dysglaer mewn pethau crefyddol. Daeth yn un o bregethwyr callaf yr oes. Yr oedd yn un o'r tri ar ddeg cyntaf a urddwyd yn Llandeilo, a chafodd fyw i weled claddu y lleill bob un. Bu farw Chwefror 3, 1849, yn 89 oed, ar ol bod am bymtheg a deugain o flynyddau yn pregethu, ac o fuchedd ragorol. Y mae cyfrol o'i bregethau, yng nghyd â hanes ei fywyd, wedi ei chyhoeddi dan olygiaeth y Dr. Phillips o Henffordd yn 1851. Ys dywedodd Eben Fardd, —

"Nid oedd gormod yn ei araith,
Nid oedd brychau chwaith na chwyn;
Ei bregeth, fel rhyw goflaid syber,
Rwymai'n dyper ac yn dyn:
Ei ddull araf a bendigaid,
Weithiau droia'n danbaid iawn;
Ond yn y nef, lle'r aeth oddi wrthym,
Pwy a ddywed rym ei ddawn?"

THOMAS, JOHN, oedd enedigol o Flaen Cyswch, ger y

Cilgwyn. Derbyniwyd ef yn aelod yn y Cilgwyn, a dechreuodd bregethu yn fuan. Cafodd addysg golegol, a bu yn weinidog yn Llundain. Bu farw yn 1776. Meddiannai lyfrgell ardderchog, yr hon a ddaeth i Flaen Cyswch ar ol ei farwolaeth, yr hon a gyfrifid fel math o gronfa lenyddol.

THOMAS, LEWIS, oedd frodor o blwyf Llangaranog, ac yr oedd yn wr o ddysg a chwaeth lenyddol. Bu ganddo law yn nygiad allan amryw lyfrau yn nechreu y canrif diweddaf yng Nghastell Newydd a'r Amwythig. Mewn hen lyfr o'r enw Dirgelwch i Rai Ddeall, a gyhoeddwyd yn 1714, mae y rhagymadrodd gan Lewis Thomas.

THOMAS, SIMON, oedd enedigol o ardal y Cilgwyn,(1) naill ai ym mhlwyf Llangybi, neu Landdewi. Cafodd ei dderbyn yn aelod yn y Cilgwyn gan y Parch. Philip Pugh, a chyn hir, o herwydd gweled ei gymhwysderau, cafodd ei annog i ddechreu pregethu. Cafodd ysgol dda yn ei ardal enedigol, ac wedi hyny, efe a fu mewn coleg, ond ni ddywedir ym mha le. Daeth yn wr dysgedig ac yn bregethwr enwog. Cafodd ei urddo yn y Cilgwyn a'r cylchoedd, lle y bu yn llafurio am ryw amser. Symmudodd i ddinas Henffordd, ac yno y treuliodd y gweddill o'i Oes. Yr oedd twrf y ddadl fawr yng nghylch Calfiniaeth ac Arminiaeth yn dyfod i sylw yn yr amser yr oedd Mr. Thomas yn ei flodau. Yr oedd capeli maes llafur Philip Pugh ac ereill yn dyoddef oddi wrth yr helynt boeth; ac felly ysgrifenodd Mr. Thomas i wrthwynebu Arminiaeth. Cyhoeddodd yn y flwyddyn 1735, Hanes y Byd a'r Amseroedd; yn 1741, Deonglydd yr Ysgrythyrau, yn cynnwys 144 o dudalenau; yn 1742, Arminian Heresy, yn 202 dudalenau; ac yn fuan ar ol hyny, Remarks on the Treatise entitled the Beauties of Holiness. Nid yw y dyddiad wrth yr olaf, ac ni ddywedir pa le yr argraffwyd ef Dywedir iddo gyhoeddi llyfr o'r enw The Pelagian Heresy, ond ni welsom mo hono, ac yr ydym yn tueddu i feddwl mai yr Arminian Heresy a feddylir. Gwelsom Hanes y Byd a'r Amseroedd; ac y mae o'n blaen yn awr y tri llyfr Deonglydd yr Ysgrythyrau, Arminian Heresy, a Remarks on a Treatise entitled the Beauties of Holiness, wedi eu rhywmo yn un gyfrol drwchus a destlus. Y mae ben nodyn mewn llaw-ysgrifen, a all fod o ran golwg yn gant oed, yn y dechreu fel hyn:-"Each of these books were written by Mr. Simon Thomas, a dissenting minister, who was born near Kilgwyn, in Cardiganshire, but he resided for many years in Hereford, and died there." Ysgrifenwyd The Beauties of Holiness in the Book of Common Prayer, Gan Dr. Biss, esgob Henffordd. Bu farw Dr. Biss yn 1721. Gwelsom mewn llawysgrif arall fod Mr. Thomas yn cadw argraffwasg yn ei dy ei hun, ac iddo argraffu amryw lyfrau, heb ei eiddo ei hun. Yr ydym wedi chwilio gryn lawer pwy oedd tylwyth Mr. Thomas, ac wedi llwyddo i gael y tebygolrwydd mwyaf, mai brawd tad y Parch. Joshua Thomas, Llanllieni, awdwr Hanes y Bedyddwyr, oedd; ac mai efe fu yn offerynol i awdwr Hanes y Bedyddwyr fyned i Henffordd pan yn ieuanc. Ni a welwn fod teulu y Thomasiaid yn enwog iawn am eu talent a'u gweithgarwch, fel gweinidogion, meddygon, ac awdwyr enwog, bellach er ys dwy neu dair oes, ac yn parhau i fod felly.

(1) Yn "Hanes Emlyn," dywedasom ein bod wedi clywed am y gwr enwog Simon Thomas, ei fod yn enedigol o'r Cilgwyn. Tybiai y cyfaill a'n hysbysodd mai y Cilgwyn ger Emlyn oedd; ond wedi chwilio a gweled ei waith, gwelwa tu hwnt i ddadl taw Cilgwyn Llangybi ydoedd.

THOMAS, THOMAS, diweddar reithor Aberporth, a aned yn y Drewen, plwyf Blaenporth. Pan yr oedd Mr. Thomas yn naw mlwydd oed, symmudodd ei rieni i'r Henbant, plwyf Llandygwydd. Yr oedd ei dad yn offeiriad ac ysgolfeistr dysgedig, a bu am dro hir yn cadw ysgol yn Llechryd. Ar ol i Mr. Thomas dderbyn addysg i raddau lled bell gan ei dad, cafodd ei anfon i Ysgol Rammadegol Caerfyrddin, dan ofal Mr. Barker; a phan tua dwy ar hugain oed, cafodd ei urddo, a bu yn gurad yng Nghaerloew dan y Parch. Mr. Morley; a phriododd foneddiges o'r dref hòno. Yr oedd y Parch. John Thomas, ei dad, yn gwasanaethu Eglwysi Blaenporth, Aberporth, Llandygwydd, a Llechryd, ac wedi heneiddio o hono, galwodd ei fab adref ato yn gurad. Ar ol i Mr. Thomas ddychwelyd i Geredigion, bu yn preswylio am dro yn Nhrefhedyn Emlyn, wedi hyny yn Aberteifi, ac yn olaf yn Rhiwfelen, Aberporth. Ar ol marwolaeth ei dad, cafodd gan Esgob Ty Ddewi fywoliaeth Aberporth, ac hefyd, meddyliwn, guradiaeth barhäus Llanddewi Aberarth. Yr oedd Mr. Thomas yn hynafiaethydd rhagorol, yn gyfarwydd ag hanesyddiaeth yn gyffredinol, yn neillduol hanes ei wlad enedigol. Ysgrifenodd Memoirs of Owen Glyndwr, yr hwn gyhoeddodd yn 1816. Mae y llyfr hwnw yn rhoddi hanes lled fanol o'r gwron Glyndyfrdwy a'i amseroedd. Cynnyrchodd hefyd amryw lythyrau lenyddol i'r wasg Seisonig mewn cyssylltiad & hynafiaethau ei wlad; ac efe a gynnorthwyodd y Meistri Carlisle a Lewis yn eu geiriaduron lleol ar y rhan isaf o Geredigion. Bu farw Chwef. 28, 1847, yn 81 mlwydd oed, gan adael ar ei ol air da gan bawb. Mae y Parch. Mr. Thomas, periglor Trelech ar Bettws, yn fab iddo; a nith iddo yw Mrs. Evans, o Aberteifi, gynt o'r Henbant, awdures llyfr o'r enw Bara Beunyddiol.

THOMAS, THOMAS, Llanfair, oedd ail fab Thomas Thomas, Ysw., Llanfair, a Jane ei briod, yr hon oedd ferch henaf y Parch. D. Lloyd, Llwyn Rhyd Owain, ac wyres y Parch. Jenkin Jones, sylfaenydd Llwyn Rhyd Owain. Yr amser hwnw, sef tua diwedd y canrif diweddaf a dechreu y presennol, yr oedd bagad o'r Arminiaid neu yr Ariaid yn Llwyn Rhyd Owain, o dan weinidogaeth Mr. Davis o Gastell Hywel, wedi myned i goleddu Undodiaeth; ac ar fyr, codwyd dau addoldy Undodaidd, un yng Nghapel y Groes, Llanwnen, lle yr oedd D. Jenkin Rees o Lwydjack â'r ysgwydd gryfaf, a'r llall ym Mhant y Defaid, lle y daeth Mr. Thomas Thomas yn un o'r cyonorthwywyr penaf. Yr oedd yn Mr. Thomas erioed duedd gref i'r weinidogaeth, a bu unwaith ar fin myned i'r atbrofa, eithr attaliwyd ef gan ddechreuad y clefyd gwenieithus a fu wrtho am ddeng mlynedd, ac o'r diwedd a fu yn angeu iddo. Meddai ar alluoedd meddwl cryfion a threiddiol, y rhai a wrteithiai trwy gyfran helaeth o ddysg ysgolheigiol, trwy ddarllen llawer, ac yn enwedig trwy gymdeithas bersonol â'r Parch. John James, diweddar o Gelli Onen, ond y pryd hwnw o Gapel y Groes a Phant y Defaid; a D. J. Rees. Yr oedd ei dymmer yn nodedig o addfwyn, hynaws, a chymmodlawn, a'i haelioni y fath fel ag yr anghofiai ei hun yn llwyr gan ei awydd i lesäu y cyhoedd, a gwneyd rhyw ychydig tuag at oleuo a dedwyddu ei oes a'i wlad. O'i febyd, yr oedd ei fuchedd o'r mwyaf dichlynaidd, a gellir dyweyd ei fod yn un o'r cymmeriadau hyny ag ydynt o'r dechreu yn lân yn anadlu awyr y nef. Dangosodd amynedd a melusder profiad nodedig yn ei gystudd hirfaith, a bu farw yn llawn o ffydd yng Nghrist, a dedwydd obaith am adgyfodiad i fyd a bywyd gwell. Bu farw yn ddyn ieuanc, yn Awst, 1818, a chladdwyd ef yn ol ei orchymmyn tu fewn i Gapel Pant y Defaid. Gadawodd gymmun-roddion i'r Parch. John Thomas, y gweinidog, a'r Parch. John James, yr hen weinidog, yng nghyd â 200p. ar gyfer y weinidogaeth ddyfodol, a 30p. at adeiladu mur o amgylch y fynwent. (1)

(1) Rhoddasom yr ysgrif hon i mewn fel y cawsom hi oddi wrth weinidog Undodaidd dysgedig.

THOMAS, THOMAS EMLYN (Taliesin Craig y Felin), a anwyd ym Mhen y Graig, plwyf Penbryn, yn Nhachwedd, 1822. Bu yn yr ysgol yn Nhroed yr Aur, ac wedi hyny yn Ffrwd y Fal, dan yr enwog Dr. Davies, ac yn olaf yng Ngholeg Henadurol Caerfyrddin. Bu am rai blynyddau yn weinidog gyda'r Undodiaid yn y Cribyn a Chiliau Aeron. Yr oedd yn fardd da iawn, fel y gwelir ei waith yn Seren Gomer am flynyddau. Ysgrifenodd hefyd lawer o draethodau i'r cyhoeddiad hwnw. Ennillodd un wobr yn Eisteddfod y Fenni yn 1846. Yr oedd efe a James Evans, Capel Gwnda, ac ereill yn yr ardal, wedi meithrin llawer iawn o chwaeth lenyddol, pan nad oedd yno neb felly cyn iddynt hwy godi i fyny. Bu farw Ebrill, 1847, yn 24 mlwydd oed.

TURNOR, DAVID, A.C., oedd fab David Turnor, ac wyr Lewis Turnor o'r Crug Mawr, plwyf Llangoedmor. Yr oedd ei daid yn ddiarebol am ei onestrwydd, fel yr arferid dywedyd "Mor onest a Lewis Turnor." Cafodd Mr. Turnor ei ddwyn i fyny yn Rhydychain, lle y cymmerodd ei raddau o B.C., ac wedi hyny ei A.C. Urddwyd ef yn 1773. Yn 1790, cafodd fywoliaeth Rhydyberth, swydd Benfro; a gwnaed ef yn ddeon gwladol y ddeoniaeth lle y preswyliai yn 1795. Yr oedd hefyd yn gapelydd i Iarll Cawdor. Yn 1796, cafodd ebrwyaeth Penbryn. Preswyliai yn Ffynnon Wertil. Bu farw yn 1799, yr fuan ar ol gweinyddu y Cymmun yn Eglwys Penbryn.

TURNOR, John, a aned ym mhlwyf Llangoedmor. Aeth pan yn ddwy ar byintheg oed i fwrdd y llong ryfel Fate; ac yn fuan, pan ar dueddau India Orllewinol, bu mewn brwydr boeth a'r Ffrancod, sef yn 1783. Yn 1785, ar gais Dug Clarence (gwedi hyny Gwilym IV.), cynimerodd swydd ar fwrdd y Pegasus. Pan yn yr ymdrech o feddiannu Toulon, dangosodd lawer iawn o wroldeb. Yr oedd pryd hyny yn gadraglaw, ac mewn canlyniad dyrchafwyd of yn gadben un o'r llongau a gymmerasid oddi ar y Ffrancod; a chafodd gyfran o 12,000p. fel ysbail. Symmudodd yn 1794 i'r Glory, ac yn fuan ar ol hyny i'r Monarch. Gwnaed ef yn gadben ar y Trident yn 1799. Bu farw yn 1803. Daeth y Turnoriaid i ardal Aberteifi yn amser Siarl II., ac ymwladasant yma yn llwyr.

TYFRIOG AB DINGAD, sefydlydd Eglwys Llandyfriog, yn niwedd y chwechfed canrif.

TYSSUL AB CORUN oedd hefyd wyr i Geredig. Efe oedd sylfaenydd Eglwys Llandyssul yng Ngheredigion, ac un arall o'r un enw ym Mhowys. Cedwid ei wyl ef Ionawr 31.

VAUGHAN, HARRI, o Gilcenin, oedd o deulu Fychanyniaid y Trawsgoed. Cymerodd H. V. Ran gyhoeddus yn helyntion ei wlad yn amser Olifer Cromwel. Mae cofnodiad am dano fel hyn:-

"Harry Vaughan, anything for money, a proselyte, and favourite to all the changes of times; a Sheriff for his late Majesty, afterwards for Cromwel, Justice of the Peace under each, tyrant in power, mischievous by deceit, his motto, Qui nescit dissimulare vivere."

Beth bynag oedd cymmeriad H. V., nid oedd o'r un blaid ar ysgrifenydd uchod, ac felly rhaid ystyried yr hanes.

VAUGHAN, SYR JOHN, y cyfeithiwr tra enwog, ydoedd fab Edward Vaughan, Ysw., o'r Trawsgoed, plwyf Llanafan, lle y ganwyd ef yn y flwyddyn 1608. Efe a addysgwyd yn Ysgol y Brenin yng Nghaerwragon, lle yr arosodd am bum mlynedd, ac wedi hyny a anfonwyd i Eglwys Crist, Rhydychain, yn bymtheg mlwydd oed. Pan yn ddeunaw oed, efe a aeth i'r Inner Temple, lle am ryw amser y dilynodd ei astudiaeth athrofaol - prydyddiaeth a mesuroniaeth - yn hytrach na chyfreithiau dinasfreiniol Lloegr. O'r diwedd, wedi cwympo mewn adnabyddiaeth â Selden ac ereill, efe a ddysgodd werth wybodaeth ddinesig; ac felly yn fuan, efe a ymroddodd yn ddyfal at yr astudiaeth hòno, yn neillduol y cyfreithiau dinasfreiniol, yr hon alwedigaeth a ymgymmerodd ati ar ol hyny. Ar ol cael ei ethol yn fwrdeisydd o dref Aberteifi yn y Senedd a gyfarfu Tachwedd 3, 1640, efe a ddaeth yn siaradwr hynod ac edmygol; ond gan fod y rhyfel cartrefol yn tori allan, gosododd derfyn ar ei symmudiadau, ac efe pryd hyny a adawodd Lundain, gan ymorphwys yn ei wlad enedigol. Y mae y cymmeriad canlynol wedi ei ysgrifenu yn y flwyddyn 1661, ac er nad yw yn gymmeradwyaeth, eto mae yn teilyngu ei goffa :-

"John Vaughan, yr hwn a siarada yn uchel dros freniniaeth, ond yn dra gochelgar i wlychu pen ei fys dros ei lledu. Efe a wasanaethodd fwrdeisdref Aberteifi yn y Senedd Hir, ond a'i gadawodd ar brawf Strafford: a enwyd gan ei Fawrhydi yn un o'r Dirprwywyr i fod yng nghyflafaredd Ynys Wyth, ond a nacaodd; a anogodd Cromwel yn bersonol i gymmeryd y goron; a brynodd Mofenydd, un o faerorau ei ddiweddar Fawrhydi, yn Sir Aberteifi ; a gynnorthwyodd yn bersonol i gymmeryd Castell Aberystwyth, pan yr oedd gwarchodlu yn ei gadw dan y brenin. Trwy y gwasanaeth hyn, cafodd ei arbed rhag gorfodedigaeth; a daliodd swyddi dan y ddau lywodraeth diweddar. Y mae o alluoedd cryfion; ond yn gosod gormod gwerth arnynt, yn drahäusfalch ac yn anghymharol o ddryglawn; trwy roddi benthyg wyth can punt i'r Milwriad Philip Jones, a chyfeillion ereill, yn ddiweddar a gafodd lywodraeth y sir y mae yn byw ynddi i barhau ar ei gyfeillion a'i ddilynwyr hyd heddyw."

Ar ol yr Adferiad, efe a gafodd ei ethol yn Farchog dros Sir Aberteifi, i wasanaethu yn y. Senedd, yr hon gyfarfu yn Westminster, Mai 1, 1661, ac yr oedd y brenin ar y pryd hwn ar gymmeryd sylw o'i ddefnyddio. Efe wedi hyny a'i anrhydeddodd a'r dyrchafiad o Farchog, ychydig ddyddiau cyn iddo yn ddifrifol gael ei dyngu yn Ringyll y Gyfraith yn y Canghell-lys yn Westminster. yr hyn gymmerodd le Mai 22, 1668, a'r dydd canlynol efe a dyngwyd yn Arglwydd Prifynad y Dreflys. Ysgrifenodd a chasglodd Reports and Arguments, being all of them special cases, and many, wherein he pronounced the Resulutions of the whole Court of Common Pleas, at the time he was Lord Chief Justice there. London, 1677. Cyhoeddwyd hwn gan ei fab Edward Vaughan, Ysw., gan adael amryw bethau ereill i'w cyhoeddi. Dywed Wood ei fod yn ddyn o werth mawr, yn gyfreithwr enwog, ac ym mhob modd yn foneddwr cyflawn. Bu farw yn 1674, ac a gladdwyd yn Temple Church, yn agos i fedd John Selden ac mae y beddargraff canlynol ar ei fedd:

"Hic situs est Johannes Vaughanus Esq., Aur. Capital. Justiciar. de Com. Banco, filius Edvardi Vaughan de Trawsgoed in agro Dimetarum Ar.&c. Leticiae uxoris ejus, filiae Johannes Stedman, de Strataflorida, in eodem Com. Ar. unis e quatuor perdocti Seldeni Executoribus, ci stabili amicitia studiorumque communione a tyrocinio intimus &c praecarus. Natus erat xiiij. die Sept. an. Dom. 1608, & denatus. X. die Decemb. an. Dom. 1674, qui juxta hoc marmor depositus adventum Christi propitium expectat multum deploratus."

Y mae darlun o'r boneddwr dysgedig hwn yn Leeswood, ger y Wyddgrug, o'r hwn mae cerfiad wedi ei dynu a'i osod yn Yorke's Royal Tribes of Wales. Cafodd ei wyr, John Vaughan, ei greu yn Is-iarll Lisburn, Arglwydd Vaughan, yn 1695, o'r hwn y mae y presennol Iarll Lisburn yn deillio. Y mae llyfrau yr achau yn amrywio gyda golwg ar haniad y Fychaniaid hyn. Dywed rhai fod y teulu yn hanu o Gollwyn ab Tango, Arglwydd Meirionydd; ond dywed Dr. Powell mai o Einon ab Collwyn, Arglwydd Senghenydd, y maent yn deillio. Cawn i bendefig o'r enw Adda Fychan. briodi etifeddes Siencyn Goch ab Gruffydd o'r Trawsgoed; ac wedi hyny, bu yn y Trawsgoed; Meredydd Fychan, Adda Fychan, Llywelyn Fychan, Jenkin Fychan, Morys Vaughan, Richard Vaughan, Ysw., Morris Vaughan, Jenkin Vaughan, Edward Vaughan, sef tad Syr John Vaughan.

VAUGHAN, JOHN, oedd fab Edward Vaughan o'r Trawsgoed, a grewyd yn farwn gan Gwilym III., trwy fraintlythyr, dyddiedlig Mehefin, 1695; ac yn fuan ar ol hyny yn İs-iarll, wrth yr enw Is iarll Lisburn, Arglwydd Vaughan, Baron Feathers, yn yr Iwerddon. Priododd Malet Wilmot â thrydedd merch John, Iarll Rochester. Bu farw yn 1721. Bu farw Henry ei fab heb briodi. Priododd John, yr ail Is-iarll, y tro cyntaf & Miss Bennet, merch Syr John Bennet, Bar., Rhingyll y Gyfraith, a'r ail waith â Dorothy, merch Richard Hill, Ysw., ac a fu farw heb fab yn 1741, pryd y disgynodd yr urddas i Wilmot, y trydydd Is-iarll. Priododd y trydydd Is-iarll ag Elizabeth, ferch Thos. Watsun, a bu farw Ionawr, 1766. Gadawodd ddau fab ac un ferch. Yr oedd John yn Gadfridog, ac anrhydeddwyd ef ag urdd filwrol y Bath. Bu farw Mehefin 30, 1795. Wilmot ei fab a'i dilynodd. Cafodd yr urddas o Iarll, Gor., 1770. Olynwyd ef gan ei fab Wilmot. Ganed yr iarll presennol Mai 6, 1799.

VAUGHAN, JOHN CROSBY, oedd fab ac etifedd y diweddar Gad. Vaughan o'r Breinog. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Milwrol Sandhurst. Yr oedd yn swyddog yn y 38fed gatrawd, pan dorodd rhyfel y Crimea. Cododd yn gyflym mewn dyrchafiadau, ac i fod yn gadben. Cafodd ei glwyfo yn farwol ar y 15fed o Fehefin, 1855, a bu farw yn 25 mlwydd oed. Cwympodd y gwron ieuanc hwn o Lan Aeron wrth ryfela dros ei wlad, fel y ddau wron Cynrig a Chynon o Aeron, ym mrwydr ofnadwy Cattraeth.

WALTERS, THOMAS, a aned yn Lletty Cybi, Llangybi. Cafodd addysg athrofaol, a chafodd ei urddo yn y Cilgwyn. Ymsefydlodd yn Rhaiadr Gwy, a bu yno yn weinidog am 29 o flynyddau. Dywedir mai efe oedd y gweinidog Henadurol cyntaf yn y dref hòno. Daeth y diweddar Henry Thomas, Ysw., Llwyn Madog, i feddiant o ystad Lletty Cybi, fel disgynydd ac etifedd Mr. Walters. Priododd merch Mr. Walters ag un o Thomasiaid Llwyn Madog, fel y gwelir yn Hanes Brycheiniog. Dywedir i Mr. Walters farw yn 1737, yn 69 oed; ond ceir ei enw yn danysgrifiwr am y Fuchedd Gristionogol yn 1750. Y mae yn debyg taw un o'r un teulu oedd y Parch. John Walters, awdwr y Geiriadur Cymreig a Seisonig, ond ei fod yn enedigol o sir arall.

WILLIAMS, David, ysgrifenydd dysgedig a chywrain, a aned, y mae yn debyg, yn Llechryd yn 1738. Ar ol derbyn addysg yn ei ardal enedigol, efe a symmudodd i Athrofa Caerfyrddin i gael ei gymhwyso i'r weinidogaeth, ym mhlith yr Ymneillduwyr, yr hon alwedigaeth a gymmerodd ar gais ei rieni, yn groes i'w duodd ei hun. Yr oedd ei alluoedd a'i gyrhaeddiadau pryd hyny yn dangos yn llawer uwch na'r cyffredin. Pan yn gadael yr athrofa, efe a gymmerodd ofal cynulleidfa fechan yn Frome, Gwlad yr Haf; ac ar ol ychydig arosiad yno, efe symmudodd i gylch helaethach ac uchelach at gynnulleidfa yng Nghaerwysg. Symmudodd wedi hyny i Highgate, fel gweinidog cynnulleidfa o Ymneillduwyr, ac wedi aros yno am tua dwy flynedd, gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf fel awdwr yn 1770, drwy lythyr at David Garrick, sef beirniadaeth gywrain a meistrolgar ar y chwareuydd; ond yn ymosodiad gwawdlym a phersonol ar y dyn, gyda'r bwriad o ryddhau Mossop oddi wrth anfoddlonrwydd tybiedig y Roscius diweddar; daeth yr effaith hòno ym mlaen; rhyddhawyd Mossop, a chymmerwyd y llythyr oddi wrth y llyfrwertbydd. Yu fuan ar ol hyny, ymddangosodd ei The Philosopher in the Conversation, yr hwn a gafodd ddarlleniad helaeth, ac ennillodd lawer o sylw. Yn fuan ar ol hyny, daeth allan ei Essays on Public Worship; Patriotism and Projects on Reformation, wedi ei ysgrifenu ar yr achlysur o brif ddadleuon yr oes. Cyhoeddodd wedi hyny ddwy gyfrol o Sermons, chiefly upon Religious Hypocrisy; a phryd hyny, gadawodd ei alwedigaeth yn y weinidogaeth, a'i gysylltiad ag Ymneillduaeth. Trodd yn awr at addysgu yr ieuenctyd; ac yn 1773, cyhoeddodd Treatise on Education, gan gymmeradwyo dull seiliedig ar gynlluniau Commonius a Rousseau, yr hwn a gynnygiodd ddwyn i bon. Cymmerodd dy yn Chelsea, gan briodi boneddiges heb fod yn hynod am ei chyfoeth na'i chyssylltiadau; ac yn fuan, efe a gafodd ei hun yn ben ar y sefydliaid llwyddiannus; ond marwolaeth ei wraig yn fuan a wywodd ragargoelion ei lwyddiant a'i fywoliaeth. Yn ystod ei Arosiad yn Chelsea, daeth yn aelod o gymdeithas neillduol o nodwedd wleidiadol a llenyddol. Rhoddodd nawdd i'r enwog Benjamin Franklin, yn ystod y poethder poblogaidd yn ei erbyn, yn nechreu y Rhyfel Americaidd. Yn y gymdeithas hon, yr oedd cynllun wedi ei wneyd at addoliad cyhoeddus gyda'r amcan o uno yr holl bleidiau ac enwadau crefyddol mewn un dull cynnwysfawr. Tynodd Mr. Williams gynllun, ac a'i cyhoeddodd, o'r enw A Liturgy on the Universal Principles of Religion and Morality; ac ar ol hyny ddwy gyfrol o Ddarlithiau a draddododd gyda ei Liturgy yng Nghapel Margaret-street, Cavendish-square, a agorwyd Ebrill 7, 1776. Parhaodd y gwasanaeth hwn am tua phedair blynedd, ond gyda chyn lleied o gyfnerth cyhoeddus, fel yr oedd traul y sefydliad mor bell a gyru y darlithiwr i golled o'i ryddid. Ei gynnyrch llenyddol nesaf oedd Lectures on Education mewn tair cyfrol; ac yn 1780, cyhoeddodd draethawd o'r enw, A Plan of Association on Constitutional Principles; ac 1782, Letters on Political Subjects, yr hwn a ledaenwyd yn helaeth yn Lloegr a Ffrainc, trwy gael ei gyfieithu i'r Ffrancaeg gan Brissot. Ei gynnyrch nesaf oedd Lessons to a Young Prince; ac yn 1796, ymddangosodd ei History of Monmouthshire mewn dwy gyfrol 4-plyg, gyda cherfleni gan ei gyfaill y Parch. John Gardnor. Cynnyrchodd wedi hyny The Claims of Literature, Regulations of Parochial Police; Egeria, or Elementary Studies for Political Reformers. Dywedir i'w lyfrau gael eu cyfieithu i'r Ellmynaeg, a bod ei enw yn dra chyfarwydd dros y rhan fwyaf o gyfandir Ewrop. Saif ei enw yn uchel iawn fel sylfaenydd y Liturgy Fund Society, sef cymdeithas i gynnorthwyo awdwyr teilwng mewn cyfyngder. Cafodd y boddlonrwydd o'i gweled wedi ei sefydlu yn 1789; ac y mae oddi ar yr amser hwnw yn parhau yn ei gweithrediadau haelionus. Bu farw Mehefin 29, 1816, ac a gladdwyd yn Eglwys St. Ann, Soho. Yr oedd 'Mr. Williams yn ddyn o dalentau dysglaer iawn, ac yr oedd ei weithgarwch yn gydradd. Ceir erthyglau arno yn y Cambrian Register, cyf. iii.; "General Views of the Life and Writings of the Rev. D. Williams, by Captain Morris," &c.

WILLIAMS, David, un o bregethwyr cyntaf y Trefnyddion Calfinaidd, oedd enedigol o ran uchaf plwyf Llaurhystud. Gelwid ef weithiau " Dafydd William y gof." Dechreuodd bregethu pan yn lled ieuanc. Yr oedd yn un o'r rhai a anfonodd y Parch. Dan. Rowland i ymweled â'r Gogledd i blanu achos y Methodistiaid. Bu hefyd ym Morganwg a manau ereill. Bu iddo amryw blant, y rhai a ddaethant yn dra enwog.

WILLIAMS, DAVID, oedd fab henaf y Parch. John Williams, athraw Ysgol Ystrad Meirig, a pheriglor Nantmel. Yr oedd yn gydymaith o Goleg Wadham, Rhydychain. Bu Mr. Williams am ryw amser yn athraw Ysgol Ramadegol Ystrad Meirig. Yr oedd yn ysgolor enwog ac yn llenor dysgedig. Yr oedd yn gurad parhäus Llanfihangel Helygen, Maesyfed, ac Ystrad Fflur. Bu farw Gor. 9, 1823, yn 38 oed. Claddwyd ef yn Ystrad Meirig, a cheir ar ei fedd yr Englyn a ganlyn :-

"Williams o addysg wiwlon, — bri ydoedd,
A brawd gwych i'r tlodion;
Goleu ei ddeall, diwall don,
A goleu oedd ei galon."

WILLIAMS, David (Iwan), o Benbontbren, ger, Llanbedr, oedd enedigol o'r ardal hòno. Cafodd ysgol dda; ac yr oedd yntau yn wr talentog iawn, ac yn ddysgwr godidog. Ymunodd â'r Bedyddwyr pan yn weddol ieuanc, a daeth yn bregethwr. Bu am gryn amser yn cadw ysgol gyda llwyddiant a chlod mawr. Yr oedd Mr. Williams yn ddyn o ddyfnder synwyr, ac o chwaeth neillduol at wir brydyddiaeth; ac yr oedd wedi astudio llawer o brydyddiaeth cenedloedd ereill. Mae rhai o'i ganiadau mor gysson â natur ag unrhyw gerddi yn ein hiaith ni; ond ni hoffai Iwan fesurau caethion farddoniaeth, er ei fod yn eu deall. Bu yn beirniada barddoniaeth gwahanol feirdd, yn neillduol Dewi Wyn o Eifion, yn Seren Gomer, gyda llawer iawn o fanylrwydd a gerwindeb, nes peri i'r bardd hwnw frochi yn erwin, gan gyfansoddi cywydd goganllyd ofnadwy iddo, o'r enw "Cywydd yr Iwan," yr hwn sydd i'w weled ym Mlodau Arfon. Mae yr ymddyddan rhwng "Iwan yn ei gystudd a Daniel Ddu" yn rhyfeddol o farddonol; ac y mae trymder meddwl y bardd, wrth weled dim yn y byd hwn i'w gysuro, yn effeithiol iawn. Bu farw yn 1823, yn 28 oed.

"Waeled a saled is ser — yw beroes!
Mae'n bwriad yn ofer;
I bridd-dy 'r aeth (och, brudd-der)
Iwan bach a'i awen ber.

"Unllais cydgedais ag ef,—yn ddiau,
Ar ddaiar; ac unllef
Y canwo mewn cu wiwnef,
I enw ein Ior yn y nef.

"Yn y ddaiar, gar, y gorwedd — yn dawel,
Nes delo'r awr ryfedd
Y cyfyd uwch y ceufedd
Duw Ior ei had i dir hedd."
DANIEL DDU.

WILLIAMS, EVAN, oedd fab David Williams, pregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, a grybwyllwyd yn barod. Cafodd Evan Williams ei ddwyn i fyny dan yr enwog Edward Richard yn Ystrad Meirig. Sefydlodd yn l lyfrwerthwr a chyhoeddwr llyfrau yn Llundain. Yr ydys yn ddyledus iddo ef a'i frawd am ddwyn allan lawer o lyfrau rhagorol a gwerthfawr perthynol i lenyddiaeth Cymru; megys Geiriadur y Dr. W. O. Pughe, a llyfrau ereill o'í waith, ac ereill o dan olygiaeth yr awdwr enwog hwnw. Efe a gyhoeddodd y llyfr gwerthfawr y Cambrian Register. Collodd lawer o arian wrth ddwyn allan rai o'r llyfrau hyn, yn neillduol y Geiriadur, i'r hwn o blegid yr orgraff y bu yn rhaid bathu llythyrenau newyddion o'r Cambrian Depicta, gan E. Pugh, gyda llawer o arluniau. Bu Mr. Williams farw yn Heol Penton, Llundain, Medi, 1835, yn 86 oed, wedi bod dros ddeugain mlynedd yn llyfrwerthwr & chyhoeddydd Cymreig yn y Strand, ac o'r rhai hyny bymtheg mlynedd ar hugain yn aelod gweithgar o'r Ysgol Gymreig sydd eto mewn bri. WILLIAMS, ISAAC, a aned yn Ty'n y Wern, Llanrhystud, le yr oedd ei deidiau wedi bod yn trigfanu am oesoedd. Cafodd ei ddwyn i fyny yn offeiriad, ac efe & gafodd fywoliaeth Llanbadarn Fawr. Symmudodd wedi hyny i Lanrhystud, a bu yn beriglor y plwyf am 47 mlynedd. Yr oedd yn wr o synwyr cryf, ac o fywyd boneddigaidd ym mhob ystyr o'r gair. Safai yn uchel iawn yng ngolwg esgobion Ty Ddewi, a bu yn un o gaplapiaid teuluol Dr. Murray. Yr oedd yn gynghorwr tadol. i holl offeiriaid y wlad, ac yr oedd yn dannorth Uwch Aeron. Cyfrifid ef y darllenwr goreu yn yr holl wlad. Bu i Mr. Williams dri o feibion. Dygodd William ei gynfab i fyny yn feddyg, a bu yn ymarfer yng Nghaerfyrddin: dygodd Isaac Lloyd i fyny yn Gynghorwr yn Lincoln's Inn: aeth David, y trydydd, i Ysgol Ystrad Meirig, ac wedi hyny i Goleg Oriel, a bu yn gweinidogaethu yn Lloegr. Mab iddo yw'r Esgob Williams o Quebec. Priododd Ann ei ferch â'r Parch. Lewis Evans, periglor Llanfihangel Geneu'r Glyn; a mab iddynt yw y Parch. Lewis Evans, B.A., Ystrad Meirig. Priododd merch arall â Mr. Gilbertson o'r Cefn Gwyn; a mab iddynt yw y Parch. Lewis Gilbertson, isbenrhaith Coleg Iesu, Rhydychain. Bu farw yn 1811, yn 77 oed.

WILLIAMS, ISSAC, B.D., oedd fab ieuengaf y diweddar Isaac Lloyd Williams, Ysw., Ty'n y Wern, un o ynadon Ceredigion, a bar-gyfreithiwr, ac Ann ei wraig, merch henaf a chydetifeddes Matthew Davies, Ysw., Cwm Cynfelyn, yr hwn gynt fu yn uchel-sirydd Ceredigion. Cafodd ei eni tua'r flwyddyn 1803. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Harrow, ac wedi hyny yng Ngholeg y Drindod, Rhydychain, lle yr ennillodd ysgoloriaeth, ac y cymerodd ei raddau. Ennillodd wobr y Cangellydd am brydyddiaeth Lladin, ar y testyn Ars Geologia, yn 1823. Etholwyd ef yn fuan ar ol hyny yn gydymaith o'r coleg, ac a weithredodd fel athraw am lawer o flynyddau, i lawr hyd tua'r flwyddyn 1842; ac ar ol hyny, trigfanodd yn Stinchcombe, ger Dursley, pentref tlws yn y wlad. Bu yn ymgeisydd am y Gadair Farddol (professorship of poetry), ym Mhrifysgol Rhydychain, o gylch y flwyddyn 1842. Bu yn aflwyddiannus, a gadawodd y Brifysgol, gan ymsefydlu yn y lle y bu farw. Yr oedd tra yn Rhydychain yn gyfaill mawr i Dr. Pusey ac ereill, y rhai oeddynt yn ymdrechu cael iddo y Gadair Farddol. Ennillwyd y gadair gan y Parch. James Garbot, archiagon presennol Chichester, yr hwn nis gellir cyfrif yn gymmaint dyn a Mr. Williams mewn un ystyr. Bu farw dydd Sul, Mai 7, 1865. Ystyrid Mr. Williams yn wr talentog; dysgedig, diwyd, a defosiynol iawn. Y mae y cyfrif canlynol o hono o'n blaen;-

"Isaac Williams, Stinchcombe, near Dursley, Gloucestershire, Trinity College, Oxford-Latin verse priza, 1823; B.A., 1826; M.A., 1831; B.D., 1839; deacon, 1829, by Bishop of Gloucester; priest, 1831, by Bishop of Oxford, formerly curate of Windrush, 1829; St. Mary the Virgin's, Oxford, 1832—42.

Fel awdwr y mae yn sefy! yn uchel iawn; ac y mae y rhes ganlynol yn gynnyrch ei awen fel bardd: "The Cathedral", 1838; "Thoughts in Past Year," 1838; "Hymns from the Breviary", 1839; "The Baptistery," 1842; "Ancient Hymns;" 1842; "Hymns on the Caterchism," " 1843; "Sacred Verses with Pictures," 1846; "The Attar," 1847; "The Christian Scholar," 1849; "The Creation," 1850; "The Christian Seasons," 1854. Fel cynnyrch rhyddieithol, ysgrifenodd y rhes a. Ganlyn:- "Lyra Apostolica" (signed Zeta), 1836; "Commentary on the Apocalypse," 1852; "On Genesis,""1858; "On the Psalms," Vol. 1., 1863; "Sermons on the Epistles and Gospels," 3 vols., 1853; "On Old Testament Characters," 1858; "On Female Characters of Scripture," 1859; "On the Catechism,"1861; "Sermon at Llangorwen" 1841; "The Way of Eternal Life," 1845; "Life of Sạcking" 1852; "Tracts for the Times," No. 80, 86, and 87; editor of "Plain Sermons," 10 vols., 1848; "Review of the Epistle to the Hebrews," in No. 26; "British Critic", 1839; and of "Oxford Psalter," in No. 27, 1840; "The Seven Days, or the New Creation;" and also "Meditations and Prayers." Y mae tynerwch teimlad i'w weled yn amlwg iawn yn ei holl ganiadau; ac y mae crefyddoldeb yn cydwau a'r cyfan a ysgrifenodd. Mae ei Harmonies of the Gospels yn sefyll yn uchel yng ngolwg efrydwyr duwinyddiaeth. Ym mysg ei gyfeillion yn Rhydychain yr oedd Keble, Froude, Pusey, Newman, ac ereill. Yr oedd ei iechyd yn wanaidd er ys dros ugain mlynedd, ac felly yn achosi llawer o bryder i'w gyfeillion. Ymddangosodd erthyglau yn y gwahanol newyddiaduron ar ei farwolaeth, ac un dra arbenig yn y Guardian, yn ei osod allan fel ysgrifenydd galluog a Christion diffuant. Er i'w enw fod mewn cyssylltiad ag ysgrifenwyr a dynasant lawer o sylw, eto yr oedd efe ei hunan yn byw mewn awyrgylch dawel a dystaw, ym mhell o ddwndwr plaid, gan ymhyfrydu mewn myfyrdod buddiol o wybodaeth a duwiolfrydedd. Treuliodd oes o ddiwydrwydd mawr. Nid oedd ei feddwl un amser yn segur, ond bob amser yn ymddedwyddu mewn ymrodio ar hyd meusydd cnydfawr duwinyddiaeth a duwioldeb. Er i erthygl ymddangos yn fuan yn y Guardian ar ol ei farwolaeth, ym mis Mai, ymddangosodd eilwaith goffâd parchus o hono ar ddiwedd y flwyddyn. Yr oedd Mr. Williams yn wyr i'r Parch. Isaac Williams, Llanrhystud, yn frawd i'r diweddar Williams, Ysw., Cwm Cynfelyn, a chefnder i'r Gwir Barchedig J. W. Williams, Esgob Quebec; y Parch. Lewis Gilbertson, Coleg Iesu, Rhydychain; a'r Parch. Lewis Evans, B.A., Ystrad Meirig: ac y mae yn un o brif enwogion Ceredigion.

WILLIAMS, JOHN, LL.C., a anwyd yn nhref Llanbedr Pont Stephan, Mawrth 25, 1727. Mae yn debyg mai Ymneilldüwr oedd ei dad, o blegid ni a gawn mai y Parch. Phylip Pugh a fedyddiodd y Doctor Williams. Yr oedd ei dad yn lledrydd cyfrifol yn y lle, ac felly efe a-roddodd i'w fab bob mantais o ysgol dda pau yn ieuanc, a daeth yn fore i gydnabyddiaeth â'r ieithoedd dysgedig. Efe wedi hyny a aeth i Athrofa Henadurol Caerfyrddin, pan yn bodair ar bymtheg oed, i gael ei gymhwyso i fod yn weinidog ymneillduol. Ar ddiwedd ei efrydiaeth, efe a aeth yn gynnorthwywr clasurol i Mr. Howell, yr hwn a gadwai yagol fawr yn Birmingham. Yn 1752, ar gais unfrydol cynnulleidfa o Ymneillduwyr, efe a symmudodd i Stanford, yn swydd Lincoln; ond mewn dymuniad am sefyllfa yn agos i Lundain, efe yn 1755 a ddaeth yn weinidog i gynnulleidfa yn Wockingham, Berks.' Yn ystod ei arosiad 2yma, efe a orphenodd waith at yr hwn yr oedd wedi rhoddi blynyddau o astudiaeth, yr hwn a gyhoeddwyd yn 1767, dan yr enw A Concordance to the Greek New Testament, with an English Version to each Word, and Critical Notes. Yn y flwyddyn hon, efo a ddaeth yn weinidog i gynnulleifa yn Sydenham, lle y gweinidogaethodd am dros wyth mlynedd ar hugain. Yn 1777, efe a ddewiswyd yn ofalwr llyfrgell Dr. Daniel Williams, yn Red Cross-street, yr hon sefyllfa a'i galluogodd i gyrhaedd y wybodaeth ofynol ar bwnc ag oedd wedi cael llawer o'i astudiaeth, canlyniad o'r hyn a gyhoeddodd dan yr enw A free Inquiry into the Authenticity of the First and Second Chapters of St. Matthew's Gospel; ail argraffiad, 1789. Oddi wrth yr anwadalwch ag sydd yn aml yn cymmeryd lle yn y pentrefydd ger llaw Llundain, yr oedd nifer yr Ymneillduwyr wedi lleihau yn fawr; a chan i rwymysgrif y capel fyned allan yn 1795, efe a roddodd y weinidogaeth i fyny, ac a dreuliodd y gweddill o'i oes yn Islington. Ar amser ei farwolaeth, yr oedd yn agos gorphen argraffu gwaith prin M. P. Cheilomeus, o'r enw Graeco-Barbara Novi Testamenti, &c. Heb law yr hyn a grybwyllwyd, yr oedd yn awdwr Critical Dissertations on Isaiah, 7th chapter, 13th and 16th verses; Thoughts on the Origin of Language; An address on the Protestant Dissenting Minister's Application to Parliament, yn 1773; Remarks on a Treatise by William Bell, D.D., on the Divine Mission of John the Baptist and Jesus Christ, &c.; An Inquiry into the Truth of the Tradition concerning the Discovery of America by Prince Madog, son of Owen Gwynedd, about 1170, in two parts; ac amryw bregethau. Amcan y Dr. Williams ydoedd cadarnhau y dybiaeth am fynediad Madog ab Owain i America. Yr oedd y Dr. Williams yn ddyn o alluoedd a dysg; ac efe a fu yn ffyddlawn yn eu defnyddio er lles y byd.

WILLIAMS, JOHN, rheithor Nantmel, swydd Faesyfed, Ac athraw dilynol yr enwog Edward Richard yn Ystrad Meirig, ydoedd fab David Williams, y pregethwr Calfinaidd, yr hwn a grybwyllasom yn barod. Ymddengys i John Williams gael ei eni yn agos i Mabwys. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Ysgol Ystrad Meirig, o dan addysg Edward Richard. Y mae-efe ei hun wedi ysgrifenu prif ddygwyddiadau ei fywyd yng nghoflyfr Ystrad Meirig, ac felly ni a'i rhoddwn i mewn yma: -"Hydref, 1765, gadawais yr ysgol hon, Ystrad Meirig, gan ail gymmeryd at fy ben alwedigaeth o ysgolfeistr yng Nghapel Wdstog, ym mhlwyf Ambleston, swydd Benfro. Wedi hir flino ar Drefnyddiaeth, ac wedi ymdrechu cyrhaedd sefyllfa arall, yn neillthuol un yn Nhy Ddewi, ac wedi methu; llettywn yn nhy Mr.: John Harries, pregethwr y Trefnyddion; dyn rhyddfrydig a theilwng, er ei ymbleidiaeth; ond ymryddhawn gymaint ag allwn oddi wrth y ty cwrddi a'r Trefnyddion ac oddi ar argyhoeddiad, elwa'i Eglwys Ambleston. bob dydd Bul. Yng ngwyliau Nadolig, yr.un flwyddyn; dywododd Mr. John Harries wrthyf; fod eisiau ysgolfeistr yn Aberteifi, gan fy annog i'w cheisio. Gwnaethym hyny, a llwyddais, yn benaf trwy ddylanwad James Lloyd, Mabwys; Ysw.; James-Bowen, Llwyngwair. Ysw, a Thomas. Collby Rhos y Gilwen, Ysw. Aethym i'm sefyllfa newydd yn Ionawr; 1766, ac ar y pryd yn llawn 20 oed. Mi. Lafuriais yma yn ddiwyd iawn a chyda llwyddiant da hyd Nadolig, 1770. Cefais fy urddo yn ddiacon, Nadolig, 1768, gan yr Esgob Moss, yn St. George's,: Hanover-square Llundain ar y pryd hob fod yn 23 oed hyd y Pasg canlynol. Ym Medi, 1770.cefais fy urddo yn offeiriad yn Abergwili, gan Dr. Moss: - Fy nheitl. Bob tro oedd. Y Ferwig ger Aberteifi, a phregethwn hefyd yn Aberteifi, yn Seisoneg a Chymraeg. Darllenais y. Gweddiau a phregethais hefyd amryw droion yn Llangoedmor Yn. Rhagfyr, 1770, darfu i'r. Parch. W. Lucas, rheithor. Peterston, yr hwn oedd newydd briodi Ann, merch henaf. Lloyd Morgan, Ysw., o Aberteif, gael i mi ail-guradaeth Ross, swydd Henffordd (gan fod dau gurad at waith yno), am y. tal o 40p. y flwyddyn, ac ysgol waddoledig o ddeg punt y flwyddyn, a pha beth bynnag a allesid wneyd o'r ysgolheigion heb law hyny. Y rheithor ar y pryd oedd Dr. Egerton, pryd hyny Esgob. Lichfield a Coventry. Cymerais at y guradiaeth a'r ysgol yn Ionawr, 1771.. Parheais yma hyd Hydref, 1776." Yng ngwanwyn 1771, cafodd Dr. Egerton ei symmud i Durham; a Mr. Theophilus Meredyth, pryd hyny rheithor Senton, yn y gymmydogaeth, a benodwyd gan Arglwydd North yn Rheithor Ross, yr hwn a'm parhaodd yn fy nghuradiaeth, ac yn raddol a roddodd lawer o ymddiried yn fy ngonestrwydd, fy ffyddlondeb, a'm cyflawniad doeth o'm dyledswydd. Parhaodd yn rheithor rywle dros bedair blynedd. Yn y flwyddyn olaf, tra yr oedd yn pregethu yn aml ei hun, myfi oedd ei unig gurad am 70p. y flwyddyn, & gwobrwyon y wisg, pryd y rhoddais i fyny yr ysgol i arall. Yn Hydref, 1775, bu. farw, er fy nygn golled (o blegid yr oedd wedi ymdrechu unwaith neu ddwy i gael i mi ryw ddyrchafiad bychan, ac yn debyg mewn amser y buasai yn llwyddo, gan fod ganddo gysylltiadau uchel); a Dr. Charles Morgan, capelydd i Dr. Beau, Esgob Henffordd, a'i dilynodd trwy lwyaroddiad yr esgob. Gwnaeth y Dr. Morgan fy mharhau fel ei unig gurad. Ond profodd y gwaith yn ormod i mi. Nid oedd genyf mwyach un rheithor i wneyd yn agos hanner fy. ngwaith ar y Suliau. Preswyliai Dr. Morgan yn Henffordd, ac ni phregethodd ond unwaith yn ystod y gweddill o'm harhosiad yn Rosan. Ym Mai, 1776, daeth ym mlaen. boen yn fy ochr a'm dwyfron, gyda pheswch cyffrous; a theimlwn weithiau gryn anhawsder i gyflawnu fy ngwaith. Cefais fy nghyngbori i gymmeryd gwibdaith. Marchogais at fy mrawd Dafydd i Marlborough, lle ac yn y gymmydogaeth y treuliais dair wythnos neu ragor. Dychwelais, gan ail-gymmeryd at fy nyledswyddau offeiriadol; ond pa fwyaf yr ymdrechwn, mwyaf anghymhwys yr elwn at fy ngorchwyl. Ymgynghorais o'r dechreuad â'r meddygon goreu yn fy nghyrhaedd (a charedig iawn y cefais hwynt i gurad tlawd); dilypais eu cyfarwyddiadau, ond yn ddiles. O'r diwedd, cynghorasant fi i wneyd prawf o'm hawyr enedigol Yn diwedd. Medi, neu ddechreu Hydref, 1776, gadawai Rosan; a chyrhaeddais dy fy mrawd William, yn Abergwaen, lle y treuliais chwe mis neu ragor. Efe a'm cymmerai yn aml at J. Symmons, Ysw., Llanstinan, ac i Drecŵn, palas y Llyngesydd J. Vaughan; ac ym mhob un: o'r tai, treuliais rai wythnosau, ar wahanol amserau, gan dderbyn llettygarwch a charedigrwydd mawr. Yng ngwanwyn 1777 (bum ar lan yn gweled fy nhad cyn hyn, ond am fyr ennyd), ymwelais &'m swydd enedigol, ac a dreuliais y rhan fwyaf o'r haf hwnw yn nhy fy nhad, ac yn y Mabwys, ond y rhan fwyaf yn y Mabwys. Cefais yn y Mabwys drigfa cyfeillgarcoh a llettygarwch, ac yr oedd meistres y ty (y diweddar Mrs. Lloyd) yn fam mewn sylw a charedigrwydd. Yr oedd y moddion a barhäwn gymmeryd-newid awyr, manol reolaeth, yn raddol yn fy adferu i ryw ran o'm hiechyd arferol, yn ystod y gauaf, ond yn fwy buan ac amlwg yn ystod yr haf. Ym Mawrth, 1777, bu farw fy hen athraw parchus Edward Richard, a daeth ysgol Ystrad Meirig yn wag. Tra yr oeddwn yn bwriadu dychwelyd i Loegr, ac hyd yn oed mewn gafael o guradiaeth yn swydd Hant, oynnygiodd fy hen gyfaill a'm cydysgolor, y Parch. R. Lloyd, ficer Llanbadarn Fawr, i mi ymgeisio am yr yagol wag: Ar ol ychydig, penderfynais dilyn ei gynghor, a dysgwyliais wrth yr ymddiriedwyr. Penodwyd dydd yr etholiad i fod ar Awst 19ydd, yn Nanteos, lle y cefais fy ethol yn athraw Ysgol Ystrad Meirig gan dri o'r ymddiriedwyr ag oedd yn bresennol, sef W. Powell, Nanteos, LL.D., James Lloyd, Mabwys, Ysw., & Thomas Hughes, Hendrefelen, Ysw; ac ar yr un pryd penodwyd fi gan James Lloyd, Mabwys, Ysw., yn athraw Ysgol Lledrod, ar yr hon yr oedd yn unig ymddiriedwr. Yn 1781, yn fuan ar ol y Pasc, cefais fy mhenodi yn gurad y plwyf hwnw, gan y Parch. Mr. Griffiths, periglor Llanfihangel y Creuddyn; ac wedi hyny gwasanaethais ei olynydd, y Parch. Isaac Williams, lle y parheais am naw neu ddeg mlynedd, ar gyflog, y blynyddau cyntaf 10p. y flwyddyn, ac wedi hyny am 12 gini. Gwasanaethais Llanafan am dair neu bedair blynedd am bymtheg gini y flwyddyn. Yn Ebrill, 1793, cefais gan y Dr. Horsley berigloriaeth Llanfair Orllwyn, oddi wrth yr hon y derbyniwn y blynyddau olaf tua 80p. yn flynyddol. Yn 1795, cefais guradiaeth barhäus Blaenporth. Yn 1799, cymmerais drwydded, a gwasanaethais guradiaeth Yspytty Ystwyth ac Ystrad Meirig, ond rhoddais y blaenaf i fyny yn fuan, a gwasanaethais yr olaf am bum neu chwe mlynedd am 15p. y flwyddyn. Ym Mai, 1804, penodwyd fi gan Dr. Burgess i ficeriaeth Nantmêl, Maesyfed, yng nghyd â Llanyre; ac hefyd yn Gorweinydd Trallwng, yn Eglwys Golegol Aberhonddu." Yr oedd Mr. Williams yn ysgolor rhagorol, ac yn wr parchus iawn. yn y wlad. Gelwir ef hyd heddyw gan ben bobl Ystrad Meirig "Yr hen Syr." Cyhoeddodd ei Dissertation on the Pelagian Heresy yn y flwyddyn 1808. Bu yn brif athraw Ystrad Meirig am 41 o flynyddau. Bu farw dydd Gwener y Croglith, 1818. Mae yr hunan-fywgraffiad uchod wedi ei ysgrifenu Gorphenaf 24, 1813. Yr ydym yn cael i'r ail gyfrol o'r Cambrian Register, a gyhoeddid gan Mr. Evan Williams, brawd y Parch. John Williams, gael ei chyflwyno i Mr. Symmonds o Lanstinan; ac mae yn amlwg mai ymweliadau y cyhoeddwr â'i frawd yn Abergwaen ger Llanstinan, a fu yr achos o'r arwydd hwnw o barch.

WILLIAMS, JOHN, A.C., o Rydychain, Archiagon Ceredigion, Cynon Ty Ddewi, a Chorweinydd Aberhonddu, oedd fab y Parch. John Williams, prif athraw Ystrad Meirig, & Jane ei wraig, ferch Lewis Rogers, Ysw., Gelli, uchel-sirydd Ceredigion yn y flwyddyn 1753. Yr oedd mam yr archiagon yn disgyn yn gywir o Weithfoed Fawr, Brenin Ceredigion, ac felly did rhyfedd fod calon y dyn mawr hwn mor Gymreig. Yr oedd yr archiagon yn ddyn o nerth corfforol cryf, ac yni meddwl tu hwnt i nemawr o'i gydoeswyr. Dangosodd pan yn ieuanc dalentau llawer mwy na'r cyffredin. Ystyrid ef yn blentyn rhagaddfed, a phan yn fachgenyn dangosai ddeall rhyfeddol o dreiddiol. Aeth ym mlaen mor gyflym mewn efrydiaeth dduwinyddol, fel pan yn un ar bymtheg oed, efe a aeth yn gynnorthwywr clasurol i'r Parch. Thomas Horn, prif athraw Ysgol Cheswick, lle yr arosodd am flwyddyn, gan dderbyn budd oddi wrth ysgoloriaeth galed a llym Westminster, lle y cafodd Mr. Horn ei hun ei addysgu. Am y ddwy flynedd ddilynol, efe a lafuriodd fel cynnorthwywr i'w frawd henaf, y Parch David Williams, cydymaith o Goleg Wadbam, Rhydychain, mewn dysgu torf fawr iawn o blant a dyrent i Ysgol Ystrad Meirig, pan gyrhaeddodd y rhif yn un o'r ddwy flynedd i gant a seithdeg tri. Efe a aeth ar ol hyny i Ysgol Llwydlo, lle yr endillodd ysgoloriaeth; ac yn Nhachwedd, 1810, aeth i Goleg Baliol, Rhydychain. Ymhyfrydai yn y llinell o efrydiaeth ag oedd yn myned ym mlaen yn y coleg hwnw, a chyda cymdeithion ei lafur. Gweithiai yn wrol; ac yn nherm y Pasc 1814, gyda phedwar ereill, a osodwyd yn y dosbarth blaenaf. Pasiodd ei arholiadau mor ddysglaer, ac yr oedd nifer y llyfrau a roddodd i mewn mor fawr, fel yr oedd hyny yn cael ei goffa yn y coleg am flynyddau. Ei brif bynciau oedd athroniaeth a hanesiaeth. Daeth wedi hyny yn enwog fel ysgolor mewn rhif a mesur. Yr oedd yn yr un dosbarth ag ef yr hyglod athraw Ysgol Rugby. Dywedodd ysgrifenydd yn y Times am danno, -"Fel y Dr. Arnold; dewisodd yr archiagon fywyd o athraw cyhoeddus fel ei gylch o ddefnyddioldeb - cylch at y fath: waith yr oedd ei nerth corfforol mawr, ei yni ei allu rhyfeddol ogyfranu gwybodaeth; a gwastadfrydedd sefydlog .ei dymmer; yn ei alluogi a'i gymhwyso ato."

Gam hynny, efe a gymmerodd y cynnyg a gafodd i fyned yn gynnorthwywr i Dr. Gabell, athraw enwog a medrus Coleg Winchester. Treuliodd yno bedair blynedd ym moddlonrwydd annherfynedig Dr. Gabelli a chynwydd mawr ei hun; ac yn ystod y cyfnod hwnw, efe a gafodd ei urddo yn Eglwys St. Martin, gan, Esgob Ripon, trwy lythyrau gollyngol oddi wrth Esgob. Winchester, i guradiaeth Durley, Hants ac wedi hyny you offeiriad yn Winchester gan esgob yr esgobaeth. Ar ol gadael Dr. Gabell daeth yn gymorthwywr i Mri: Richards, athrawon Hyde Abbey School, Winchester : Daeth cyfeillgarwch Brwd a thrwyadi rhyngddo ef a'r:ddau frawd;. Charles & George Richards, Etonaid perffeithiedig; a phryd hyny yn gydymaithwyr o Goleg Y Brenin Caergrawnt. Ar ol treulio dwy fynedd yn Hyde Park, cynnigiodd Dr. Burgess, Esgob.Ty Ddewi, heb unrhyw gais o'i du ef; iddo fywoliaeth Llanbedr Pont Stephan, gan ddadgan:ei obaith y bydda iddo barhau yr ysgol a sefydlwyd yno gan y diweddar beriglor. Yn gymmaint ag i'w hybarch dad ei ddwyn i fyny gyda theimladau gwladgarol cryf, gan feithrin y dymuniad o ymroddi ei holl ddysg a'i wybodaeth ag oedd wedi gasglu yn y gwahanol ysgolion--Eton, Winchester, & Westminster -at wasanaeth ei gydwladwyr ieuainc Cymreig, efe a dderbyniodd y cynnyg, gan roddi i fyny reithoriaeth St. Lawrence, Winchester, a phrif lywodraeth Ysgol Hyde Abbey, gan dderbyn perigloriaeth Llanbedr, gyda'r ysgol yng nglŷn â hi. Dych welodd i Gymru. Yn yr amser hwn, yr oedd Dr. Burgess, Esgob Ty Ddewi, wedi bod am flynyddau yn casglu yn flynyddol oddi wrth yr offeiriaid swm neillduol o arian tuag at sefydlu coleg, fel y gallai dynion ieuainc a fwriadent fyned i weinidogaeth yr Eglwys . gael addysg golegol Uwch law yr ysgolion gramadegol. Y: cynnyg cyntaf oedd ychwanegu at Ysgol Ystrad Meirig, a'r olaf oedd cael sefydliad hollol newydd yn agos i Landdewi Brefi, ar adfeilion yr ben fangor hwnw a fu gynt. mon enwog. Beth bynag trwy ddylanwad yr archiagon, penderfynodd. yr esgob da hwnw adeiladu coleg yn Llanbedr. Tua'r amser hwn (1824); yr oedd rhagfwriad o sefydlu Athrofa Caereiddin; a chan fod meibion dau o'r cyfarwyddwyr, blaenaf (sef: Mr. Charles Scott, mab ieuengaf Syr Walter Scott a Mr. W. Forbes Mackenzie; mab hennaf Colin: Mackenzie, Ysw, Portmore) o dan addysg yr archiagon, efe a gafodd ei gynghori gan Syr: Walter Socts i gynnyg ei hun fel ymgeisydd am reithoriaeth. Athrofa. Newydd Caereiddin, ac efe a gafodd yn rhwydd ei Ethol. Yr oedd hyn yn 1824 a phan yn myned i Gymdeithas Caereiddin lle yr oedd prif ddinas y Gogledd enwog am ei galluoedd meddyliol ac awen lachar, daeth yn fuan mor enwog a neb ohonynt. Dywedai un bapyrau Caereiddin am dano fel y canlyn:- "Am ddwy flynedd ar hugain; parhaodd. Mr. Williams i gyflawni ei ddyledswyddau, ac arfer y dylanwad perthynol i'w sefyllfa anrhydeddus, gyda'r cyfwng byr o flwyddyn. Yn ystod yr amser hwnw, efe a dderbyniodd ac a ymddiswyddodd y sefyllfa o Broffeswr Lladin ym Mhrifysgol Llundain, gan gymmeryd ei oriau hamddenol at gyfansoddi Life of Alexander the Great. Fel athraw, yr oedd ei feistrolaeth berffaith o'r pynciau ag oedd yn ddysgu yn ei alluogi yn gyffredinol i gyfranu gyda'r gwasanaeth o lyfr yn yr ysgol, cydymdeimlad calonog a mebyd, i gael ei ysgolheigion yn llwyr at ei law, ac i gynnal dysgyblaeth heb arfer gerwindeb; tra yr oedd gwers y dydd wedi ei thrychwilio gyda dosraniad gofalus a manwl, yr oedd sychder y gwaith yn cael ei welläu gan y wybodaeth helaeth a dyddorol ag oedd ei feddwl llawn of yn gallu gyfranu. Ond nid oedd yn llai fel rheithor nag oedd fel meistr: yr oedd yn gyflawn yn y cylch hwnw hefyd. Yn ol cynllun yr High School, yr oedd pedwar athraw clasurol ieuanc wedi eu penodi gydag ef, heb law mewn rhanau cyfochrol; a thrwyddynt i gyd yr oedd ei ddylanwad yn cael ei deimlo. Gyda'i ysgolheigiaeth helaeth, ei ddull bywiog, a'i gof nerthol, yn ymwybodol o'i nerth, ac yn gymdeithasgar yn ei dymmer eisteddai i lawr yn ddyddiol ym mhlith rhai ieuainc yn yr Academy Lodge i gyfranu addysg yn cyffwrdd ag helyntion yr Alban, gan chwalu pob pwnc, hen a diweddar, clasurol a chyffredinol, ym mhob ystyr yn dwyn ym mlaen ddybenion y sefydliad yn y moddau ardderchocaf."

Yn gyfeillion iddo yr oedd Syr W. Scott, Maculloch, John Gibson Lockhart, Syr Thomas Dick Lauder, Arglwydd Cockburn, Arglwydd Jeffrey, Proffeswr Wilson, a'r Milwriad Mure. Efe a ddarllenodd wasanaeth angladdol Syr W. Scott, yn Dryburgh Abbey. Yr oedd Syr William Hamilton, Dr. Chalmers, Carlyle, a Syr Daniel Santford, ac yntau, yn gyfeillion gwresog. Pan yn aros yng Nghaereiddin, ysgrifenodd a chyhoeddodd The Life of Alexander the Great; The Geography of Ancient Asia; a Homerus Darllenodd amryw bapyrau ar bynciau ieithyddol, cenedlegol, ac athronyddol o flaen Cymdeithas Freninol Caereiddin. Ysgrifenodd hefyd erthyglau meistrolgar i'r Quarterly Review, pryd hyny o dan olygiaeth ei gyfaill a'i gydolygydd Mr. Lockhart. Dygodd y diweddar Esgob Llundain y ganmoliaeth a ganlyn i'w hen athraw ac addysgydd:—"Yr oedd yr archiagon, heb law yn cael ei barchu yn fawr gan ei efrydwyr, yn gadael olion parhäus o'i lwyddiant fel ysgolor ac addysgydd, nid yn unig ar ei ysgolheigion, ond ar yr holl Alban."

Priodolai yr esgob iddo y symmudiad mawr o godiad safon dysg yn yr Alban. Ar ol treulio cymmaint amser yn yr Alban, hiraethai am wneyd lles i'w wlad enedigol. Pan sefydlwyd ysgol newydd Llanymddyfri, gan Thomas Philips, Ysw., cafodd yr archiagon gynnyg ar fod yn Warden iddi, ac efe a dderbyniodd y cynnyg. Am bum mlynedd, ni attaliodd un llafur corfforol na meddyliol er mwyn dyrchafu y sefydliad, ac i ddwyn allan holl fwriadau Mr. Philips. Ar ol llafur caled, efe a orfu roddi ei swydd i fyny o herwydd gwendid iechyd. Gadawodd Llanymddyfri, gan adael hiraeth ar bawb ar ei ol. Cydnabu ymddiriedwyr y sefydliad ei wasanaeth pan yr oedd yn ymadael. Pan fu farw, er fod hyny ym mhen blynyddau ar ol gadael Llanymddyfri, eto canwyd y maelfëydd ar ddydd ei angladd, yn arwydd o barch iddo. Gwnaed yr un peth yn Bushy Heath, er nad oedd wedi bod yno ond hanner blwyddyn; ac ar awr ei angladd, cafodd ysgolheigion Athrofa Caereiddin eu rhyddhau gan y rheithor, a'r ysgol ei chau. Bu farw yn Bushy Heath, Herts, Rhagfyr 27, 1858, yn 66 oed, a chladdwyd ef yn y lle hwn. Yr oedd yn ei angladd Arglwydd Esgob Llundain, Syr David Davis (ei frawd yng nghyfraith), Dr. Williams, penaeth Coleg Iesu, Rhydychain, a'r Hybarch Archddiacon Sinclair. Ar ei farwolaeth, collodd Cymru un o'i meibion enwocaf a fagodd yn unrhyw oes. Yr oedd yn ddyn o alluoedd goruchel, a diwydrwydd diorphwys; ac er ei fod wedi troi ym mysg dysgedigion uchelaf Lloegr a'r Alban, nid oedd yn anghofio gwlad ei enedigaeth. Yr oedd yn hoffi ei hiaith a'i llenyddiaeth; ïe, a phob peth anrhydeddus ac hynafol a feddai. Nid oedd arno ofn traethu y gwir wrth ei hamddiffyn. Pan ymsefydlodd yn Llanymddyfri, cyfansoddodd gerdd Ladin ysblenydd ar yr amgylchiad, yr hon a gyfieithwyd i'r Saesoneg a'r Gymraeg. Dangosai ynddi wybodaeth ddofn o hanes ei wlad, yn gystal a serch trwyadl ati. Yr oedd yn bresennol yn yr Eisteddfodau; ac yr oedd yn un o feirniaid Eisteddfod Rhuddlan. Yn 1854, efe a gyhoeddodd Gomer, yn ddwy ran, a'i Life of Julius Cæsar, yn yr hwn y dengys ymdrafodiaeth y rhyfelwr mawr hwnw â'r cenedloedd Celtaidd, mewn dull mwy cydunol â'r gwirionedd nag y gellir cael mewn hanesion poblogaidd ar yr un testyn. Yn y flwyddyn ddiweddaf o'i fywyd, efe a gyhoeddodd, trwy y Mri. Hughes a Butler, lythyrau tarawiadol, A Barbarian Episcopate; a thrwy Mri. Rivington gyfrol o Discourses and Sermons, the Unity and the Will of God; a chyfrol arall cyhoeddedig gan J. Russell Smith, Soho-square, yn cynnwys cyhoeddiadau ac adgyhoeddiadau o wahanol draethodau a phapyaru ar y "Gofyniadau perthynol i Wir Hanesiaeth, Cyfreithiau, Taith, Llenyddiaeth (barddogol, hanesyddol, ac athronyddol), a chyda Chynysgrifau Cynhanesol o'r Achau Celtaidd, yn neillduol y Gangen hòno a gymmerodd feddiant o Brydain Fawr." Mae hwn yn llawlyfr rhagorol i bawb fyddo am gael gwybodaeth Geltaidd. Dywed ei fod wedi gweithio yn galed am ddeugain mlynedd yng nghanol lludded dyddiol ysgolfeistr, heb gael cydnabyddiaeth oddi wrth ei uchafaid mewn gwlad ac Eglwys, na chymmeradwyaeth y cyfoethog a'r uchel-anedig; ei fod yn gweithio dan argyhoeddiad cadarn fod gwybodaeth gyffredinol o'r trysorau cynnwysedig yn hanes y Cymry—fod eu hiaith a'u llenyddiaeth yn tueddu yn gadarn i fywiocae rhyddid crefydd ac annibyniaeth, i gynnysgaeddu eu gwrolion ag offerynau effeithiol, a phrofi fod y rhan fwyaf o ddrygau ag sydd wedi blino y natur ddynol o dan y goruchwyliaethau patriarchaidd, cyfreithiol, ac Efengylaidd, wedi tarddu oddi ar y duedd ddigyfnewid mewn dynion llygredig i osod Gair Duw o'r un effaith a'u traddodiadau eu hunain, ac i fabwysiadu safon arall i'w credo, 'yn hytrach na dadguddiad pur ac anllygredig y mae Efe mewn gwahanol amserau a lleoedd wedi roddi i ddynolryw yn y ddau Destament. Cymmerai ddyddordeb mawr ym mhob peth i ddyrchafu dyn. Dadleuai yn alluog dros y Gymdelthas Genadol a Chymdeithas y. Beibl. Bu farw mewn llawn ffydd, fel athronydd Cristiouogol, gan gyflwyno ei ysbryd i Iachawdwr ei enaid. Bu farw ei wraig Awst 16, 1884: Yr oedd 'hi yn ferch i T. Evans, Ysw., Llanilar. Cadawodd Mr. Williams ar ei ol bump o ferchod. Mae un o honynt yn briod ag R. Cunliffe, Ysw., Chancery-lane.

WILLIAMS, JOHN, a adwaenid wrth yr enw "Williams Lledrod," & aned ym Mhengwern Hir, o fewn milltir a hanner i Rydfendigaid, yn 1747. Enw ei dad oedd William Rhys Mathias ab Dafydd ab Rhys ab Mathias, o'r Llwynboudy; ac' enw ei fam oedd Ann, ferch: Thomas a Mari Rhys, Dol Fawr, Ystrad Meirig. Bu iddynt saith o blant, tri mab & phedair merch. John oedd yr ieuengaf, ond un ferch. Bu farw ei dad pan yr oedd yn bedair blwydd oed. Ar ol hyny, cymmerodd eu mamgu John a Martha ati i'r Ddôl Fawr i'w magu. Cafodd John ei ddwyn i fyny yn Ystrad Meirig, a'i anfon i Gaerfyrddin i orphen ei addysg. Cafodd deitl gan y Parch. D. Jones, Sunny Hill, yr hwn oedd beriglor Tregaron, Ystrad Ffur, Lledrod, a Llanwnws. Cafodd urdd diacon yn Abergwili gan Dr. Moss, Awst 19, 1770, ac urdd offeiriad Medi 1, 1771, gan yr un esgob. Gwr llawen a thra anystyriol oedd y pryd hyny. Yr oedd yn chwareu un prydnawn dydd Sadwrn yn hwyr, yn nhalcen Eglwys Lledrod, pan y dywedir iddo anghofio myned adref i barotoi pregeth, pan y dywedodd cyfaill wrtho, "Paid gofalu, cei fenthyg un o bregethau Rowland genyf fi. "Ym mben tro, daeth Williams Bach, Llanfair Clydogau" i bregethu i'r Lledrod, a phregethai yn llym a hallt ofnadwy. Galwai y bobl yn "eifr," ac yntau, y gweinidog, yn "fwch gafr." Effeithiodd hyny yn ddwys ar Williams, a dywedodd wrth offeiriad Llanfair iddo adael un peth ar ol. " Beth yw hyny," meddai yntau, "Maddeuant," atebai John Williams. Ar ol hyny, arweiniodd fywyd hollol wahanol. Parhäi yn rhyfeddol o boenus ei feddwl am ei sefyllfa fel pechadur, a phwysigrwydd ei swydd fel gweinidog. Pregethai yn ddifrifol iawn. Ymunodd tri â'r Eglwys, ac er yn anwybodus, eto yn ddifrifol. Aeth rhagddo yn llwyddiannus, gan ennill pobl i'r Eglwys. Achosodd hyny i rai genfigenu wrtho, gan ei gyhuddo o fod yn afreolaidd yn ei weinidogaeth fel offeiriad. Ffurfiwyd cynllun i'w daflu allan. Ymgynghorodd yntau & Mr. Rowland, Llangeitho. Cynghorodd Rowland ef i beidio myned i'r Eglwys y Sul y bwriedid ei attal. Aeth i Langeitho y Sul hwnw; ac ni aeth mwyach i'r Eglwys. Bu yn gweinidogaethu ynddi am ddeunaw mlynedd. Yr oedd yn ddyn cryf chwe troedfedd o hyd-gwyneb hir ac ychydig o ol y frech wen -talcen uchel-gwallt gwineu-yn syth, bywiog, a brysiog, ac yn gryf, hardd, a boneddigaidd ei edrychiad Priododd yn lled ienanc ag Ann, ferch Rhys Rhosser, Llwyngronwen. Ganwyd ei ferch henaf yn 1772. Bu iddo wyth o blant-pedwar mab a phedair merch. Wyr iddo yw y Parch. Mr. Williams, offeiriad Aberdyfi Mae Mr. Eben. Jones, Pentref Padarn, yn wyr iddo, ac felly hefyd Mrs. Green, Cilcert, ger Llangeitho. Preswyliai y rhan olaf o'i oes ym Mhentref Padarn. Bu farw Awst 29, 1831, yn 84 oed.

WILLIAMS, JOHN PHILIP, gweinidog y Bedyddwyr ym Mlaen y Waen, oedd unig blentyn John a Gwenllian Williams. Ganwyd ef ar y 24ydd o Dachwedd, 1817, yn y Dref Isaf, plwyf Ystrad Meirig, lle y treuliodd y ddwy flynedd gyntaf o'i oes, pryd y symmudodd ei rieni i Rydfendigaid. Yr oedd ei rieni mewn amgylchiadau cysurus; ac felly, cafodd yr unig blentyn gryn chwareu teg. Cafodd ei anfon yn ieuanc i Ysgol Ystrad Meirig, yr hon a fwynhaodd am lawer o flynyddau. Yr oedd y pryd hyny yn hoff gan bawb. Arferai y pryd hwnw fyned i gapel y Trefnyddion, ac yr oedd yn hoff iawn o wrando pregethau. Aeth un Sul i Swyddffyndon, i weled bedyddio trwy drochi; ac ar ol clywed araith y gweinidog dros eu dull hwy o gyflawnu yr ordinhad, ymaflodd ysbryd y Bereaid ynddo i chwilio mewn i'r pwnc. Ymunodd â'r Bedyddwyr yng Ngharmel, Rhydfendigaid, y Sul olaf ym Mawrth, 1841. Bedyddiwyd ef gan y Parch. R. Roberts, y gweinidog. Aeth i Aberystwyth i ddysgu bod yn faelwerthwr, lle y cerid of yn fawr. Cyfansoddodd farwnad ar farwolaeth y Parch. W. Evans, y gweinidog. Annogwyd ef i fyned i'r athrofa, ac aeth at yr enwog Mr. Williams, Drefnewydd. Annogwyd ef i bregethu, a dechreuodd Medi 5, 1841, yn Rhydfelen. Bwriadai fyned i'r coleg, ond o herwydd gwendid iechyd, gorfu arno roddi hyny i fyny. Dychwelodd i Rydfendigaid, gan bregethu yno a Swyddffynnon ar droion. Aeth ar daith i Frycheiniog, a chafodd alwad ym Mhant y Celyn. Neillduwyd ef i'r weinidogaeth Rhagfyr 13, 1843. Adeiladwyd capel newydd ym maes ei lafur, o'r enw Salim. Safai erbyn hyn yn uchel fel pregethwr. Pregethodd yng Nghymmanfa Llanfair Caereinion yn 1845, a byth oddi ar hyny bu yn bregethwr cymmanfa. Symmudodd i Blaen y Waen, Llandudoch, Gerazim, a Phenuel, yn 1848. Bu yno yn dra llwyddiannus, ond nid heb ofid. Daeth Undodiaeth i mewn i Landudoch yr hyn a achosodd lawer o ofid iddo. Adeiladodd gapel newydd yn Llandudoch, a thra yn casglu ato, cafodd wely laith, yr hyn fu yn achos o'i angeu, meddir. Symmudodd i sir Gaernarfon, ond nid aeth â'i deulu ganddo. Dychwelodd i Landudoch, a chafodd gynnyg i ail sefydlu yno; ond bu farw yn fuan, sef Rhagfyr 13, 1861, yn 44 mlwydd oed. Claddwyd ef yn barchus ym Mlaen y Waen, lle mae cofgolofn hardd ar ei fedd, yn mynegu ei fod yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd yng Nghymru' Ysgrifenwyd cofiant iddo gan y Parch T. E. James, Glyn Nedd, lle y mae hefyd amryw o'i bregethau.

WILLIAMS, MOSES, A.C., oedd fab y Parch. Samuel Williams, periglor a Rheithor Llangynllo. Hanai ei fam o Lwydiaid Castell Hywel. Efe a addysgwyd yr Ysgol Ramadegol Caerfyrddin, o ba le y symmudodd i Brifysgol Rhydychain, lle y cafodd ei dderbyn Mai 31, 1705. Cymmerodd ei radd o B.A. yn nherm Mihangel, 1708, ac a ymgorfforwyd yn yr un radd yng Nghaergrawnt, lle y cafodd ei raddio yn A.C. yn 1718. Ar yr ail o Fawrth, yr hwn oedd ei ddydd genedigaeth, pan yn bedair ar hugain oed, efe a urddwyd yn ddiacon, yn St. James's, Westminster, gan y Dr. Trimmel, Esgob Norwich, ac yn offeiriad yn Fulham, gan Dr. Ottley, Esgob Ty Ddewi, Mai 31, 1713, gan yr hwn y cafodd ei gyflwyno i fywoliaeth Llanwenog, yn ei sir enedigol, yn 1715, trwy rodd yr Arglwydd Ganghellydd Cooper. Efe wedi hyny a sefydlwyd yn 1716 ym mherigloriaeth Dyfynog, Brycheiniog, trwy anrhegiad Tywysog Cymru, ac a lwysfuddiwyd Mawrth 30, 1717. Ymddengys yn ol y coflyfr iddo yn 1718 briodi Margaret Davies o'r plwyf hwnw; ond ni chafodd deulu. Yn 1724, efe a gyfnewidiodd Dyfynog am reithoriaeth Chilton Trinity, a pherigloriaeth St. Mair, Bridgewater. Efe a etholwyd yn gydymaith i'r Gymdeithas Freiniol yn 1732. Yr oedd fel ysgolor Cymreig ac hynafiaethydd yn meddu talentau tryloew, a gwybodaeth helaeth ym mhob modd, fel y gellir yn gyfiawn ei restru yn un o'r blaenaf a gynnyrchodd Cymru erioed, ac yr oedd yn llawn o wres gwladgarwch. Yn y flwyddyn 1726, efe a gyhoeddodd waith, yr hwn oedd ffrwyth hir lafur caled ac ymchwil mannol, sef dangoseg lythrenol o farddoniaeth Gymreig yng nghadw mewn llawysgrifau, gyda'r llinell gyntaf ym mhob darn, dan yr enw Repertorium Poeticum, vive. Poematum Wallicorum, quotquot hactenus videre contigit. Index Alphabeticus, primam singulorum lineam, et loca ubi inueniantur, exiberis. Accedit Poetarum Nomina, et quando plerique omnes floruerint, 8plyg, Llundain. Yn 1730, ymddangosodd Cyfreithiau Hywel Dda, mewn cyfrol fawr unplyg. Mae y gwaith hwn yn ei ragadalen yn cael ei osod allan wedi ei gyfieithu gap Dr. Wotton, gyda chynnorthwy Moses Williams; ond nid oes yr ammheuaeth leiaf oddi wrth natur y gwaith, nad Mr. Williams oedd â'r llaw flaenaf yn y cyfieithad, gan fod y gwaith wedi ei gyflawnu mor orchestol, fel nad yw yn ddichonadwy ganfod gwall ynddo yn un man; ac nid gwaith bawdd oedd dwyn hyn i ben. Yr oedd hefyd yn awdwr tua phymtheg o weithiau ereill, yn benaf mewn duwinyddiaeth, y rhai sydd y rhan fwyaf o honynt yn weithiau gwerthfawr, ac y mwa yr holl yn dangos athrylith dryloew. Yr oedd calon Mr. Williams yn dra gwladgarol, ac felly yr oedd yn awyddus i godi llenyddiaeth ei wlad a dyrchafa ei genedl; ond yn lle cael cefnogaeth gan fawrion ei wlad, efe a dderbyniodd lawer o wrthwynebiadad, ac y mae y cofnod pwysig a ganlyn wedi ei gadwar glawr:"Moses Williams, ei fab, oedd hynafieithydd a Chymreigydd tra chelfyddgar. Yr oedd-ar fwriad i argraffa gramadeg a geirlyfr Cymreig helaethach a pherffeithiach nag a welwyd eto yng Nghymru, ac yn bwriadu llawer peth arall yn argraffedig or dynnyddu gwybodaeth ym mhlith y Cymry yn eu hiaith ou hurain; a phao ddeallwyd hyny gan yr 'esgobion Cymreig, rhybuddiasant a phregethasant yn ei erbyn, yn eu bymweliadau penodol; ac ar eu hol hwy yr archddiacodiaid yn eu hymweliadau; gan haeru nas dylid achlesu yr iaith Gymreig, eithr ei danfon i dir anhgof mor ebrwydd ag y gallesid, a rhwystro pob gwybodaeth ynddi; ac o hyny allan attaliwyd rhag Moses Williams y parch a dderbyniasai efe hyd yn hyny gan rai o foneddigion. Cymru; ac achos hyny, meddir, bu farw o dor calon, canys hyny yn ddechreuol oedd achos ei ddolur angeuol ef." (1)

Golygodd argraffiad o'r Beibl Cyssegrlan yn 1718; galwai yr hen bobl yr argraffiad hwuw yn "Feibl Moses Williams." Gadawodd i'r Bodleian Library brawf parhäus o ddiwydrwydd, lle mae pedair cyfrol unplyg yn cynnwys rhestr o'r llyfrau sydd yn y gadwfa. hòno hyd yn awr yng nghadw. Efe a roddodd yn ei ewyllys gasgliad tra gwerthfawr, o lyfrau, a llawysgrifau, yn benaf yn perthyn i hanesyddiaeth, iaith, ac arferion ei wlad enedigol, i'w noddwr Arglwydd Macclesfield. Bu farw Mawrth, 1742, ac a gladdwyd yn St. Mary's, Bridgewater.

(1) O lyfr Ben. Simon.

WILLIAMS, REGINALD, un o berigloriaid.corawl Llanddewi Brefi, oedd wr o ddysg uchel. Derbyniodd flwydd-dal o 8p. 6s. 8d. yn y chwyldroad crefyddol yn 1553.

WILLIAMS, RHYS (Manod Wyllt), oedd fab Dafydd ac Elisabeth Williams, Hendref, Llanpenal. Ganed ef Ebrill 14, 1841. Ni chafodd ond ychydig o fanteision addysg; ond efe a ymroddodd yn fawr i ddysgu ei hun, ac yn neillduol mewn barddoniaeth. Cyfansoddodd lawer yn ei oes fer, ac ennillodd lawer o wobrau mewn gwahanol eisteddfodau. Ennillodd dạir, gwobr yn Eisteddfod Aberystwyth. Bu farw Ionawr 10, 1867. Cyhoeddwyd gyfrol ddestlus o'i waith yn fuan ar ol ei farwolaeth, lle yr ydym wedi ysgrifenu cofiant gweddol helaeth iddo.

WILLIAMS, SAMUEL, periglor Llandyfraog, a rheithor Llangynllo, oedd wr eglwysig o gymmeriad uchel. Efe oedd tad yr enwog Moses Williams.. Yn: 1707, cyfieithodd Amser a Diwedd Amser, o waith John Fox;. ac yn 1710, Undeb yn Orchymmynedig, o waith D. Phillips, D.D., rheithor Maenor Deifi. . Yr oedd hefyd yn fardd, canys ceir ganddo englynion da iawn o anerchiad i gyfieithad Iago ab Dewi o Meddyliau neillduol ar Grefydd, o waith yr Esgob Beveridge, lle y rhydd ei enw ar eu hol fel y canlyn:-"Samuel Williams, Person Llan Gynllo yng Wynionydd a'i cant."

WILLIAMS, THOMAS, oedd fab Dafydd Williams y pregethwr, a brawd i'r Parch. John Williams, Ystrad Meirig. Bu yn gyfranog a'i frawd fel cyhoeddwr llyfrau Cymreig yn Llundain; ac wedi hyny afe a ymsefydlodd fel arianydd yn Aberystwyth, lle y bu farw mewn hepaint teg, ac mewn parch mawr. Yr oedd iddo hefyd frawd o'r enw David, periglor Aylesbury, mab i'r hwn oedd un o feddygon enwocaf Lloegr.

WILLIAMS, WILLIAM, oedd enedigol o ardal Gogerddan. Cyhoeddodd lyfr o farddoniaeth Seisonig yn 1677. Cynnwys y gwaith 163 tudalen 8plyg foolscap, heb law 32 tudalen ar y dechreu yn cynnwys y "title dedication, contents, eucomiums to Sir Thomas Pryse," &c., llawer o'r hyn sy ar gân, a 22 tudalen ar ei ddiwedd o "Alphabetical Exposition, explaining the most difficult words." Mae yr oll yn 217 tudalen. Mae y rhan fwyaf o'r wynebddalen o'r cyfargraff yr adysgrifenir hyn wedi ei dori ymaith; ond y mae enw y llyfr i'w weled yn nechreu y caniadau, a hyny yw, Poetical Piety, or Poetry made Pious. Ar y talwyneb, yr hwn sydd oll ar gân, cawn mai blaenffrwyth ei awen yw, ac mai ar "Spare Hours" y cyfansoddodd ef. Yna y cawn, "on the License of this Book,"

"April the twelfth its License will appear,
The sixteen hundred seventy seventh year;
And on the thirtieth day, if that you look,
'Twas entered in the Stationers' Hall Book."

Ar ol hyny cawn "An Advertisement:"

"An author of my name hath lately writ
A sacred book in verse, and some thought it
To be my study; and the reason why,
Becnuse mine was a Piety;
But to content the world, I dare it well
This author's writings mine may much excel,
Moreover, then, I differ from that man,
He's Cornwall born, and I am Cardigan,
And likewise in our age we disagree,
I am near thirty, he near sixty-three."

Dyfyniadau o'r " Epistle Dedicatory." -
"To the Honourable, but my most honoured, most beloved friend, Sir Thomas Pryse, of Gogerthan, in the County of Cardigan. Honoured Sir,-Great many are the obligations, &c. . . . that moved me to request your patronage. . . . First in the nature so far befriended in my birth as to be a native both of your neighbourhood and county. Likewise . . . . that acquaintance I had with your Honour in the days of infancy the renovation of which especially, when I had intelligence of your late approach to London, and the honour of your courteous visit at my habitation. More I might still nominate as touching your candid deportment towards my parentage, and that my affections and amity my father continually enjoyed from the bounty of your noble progeny. I observed the caution of the wise man, Prov. 22, 10, Thine own friend and thy father's friend forsake not. . . . .The first fruits of my intellectual productions. . . . .Sir, your Honour's most humble, devoted, and submissive to command, William Williams." Mae yr Encomium ar gân. Wele enghraifft:—

"'Tis known your county echoes forth that fame
Emhellishing your true Britanick name,
The which I more respect, because that mine
Likewise is British, from Britanick line."

Mae ei ganiadau oll yn arogli duwioldeb. Wele enghraifft o "Gariad Duw:—"

"
We all things have Christ; and Christ is all,
And every thing to those on Him that call;
For instance, when our sins our soul make sick,
Physitian-like, does search us to the quick,
By lancing our corruptions, so that we
From sinful ulcers are by him set free;
He pours the oil and balm in every woand
Of sin-sick souls to cure and make them sound."

Enghraifft o'i "Spiritual Hymns:"

"
"I am defiled sin me beguiled,
So wretched is my case
Since Adam's fall — that I and all
God's image did deface."

We all things have Christ; and Christ is all, And every thing to those on Him that call; For instance, when our sins our soul make sick, Physitian-like, does search us to the quick, By lancing our corruptions, so that we From sinful ulcers are by him set free; He pours the oil and balm in every woand Of sin-sick souls to cure and make them sound." </poem> }} Enghraifft o'i "Spiritual Hymns:—"

"
"I am defiled sin me beguiled,
So wretched is my case
Since Adam's fall — that I and all
God's image did deface."

Mae ef weithiau yn lled arw, megys yn ei gân i Luciffer:

"
"Pluto's old serpent, Beelzebub imply,
No more than what by Lucifer is meant;
These poted names do only signify
The Prince of Devils, or their President;
Those that inferior are to this degree,
His devilish angels, imps and fiends must be."

Dengys yr hen brydydd yn ei waith taw Eglwyswr oedd. Nid oes genym un mymryn yn rhagor o hanes yr hen gydwladwr didwyll hwn; a hyn oedd ein rheswm dros ddyfynu cymmaint o'r llyfr. Hawdd gweled fod ol gwlad ei enedigaeth ar ei iaith fabwysiedig.


DIWEDD.

LIST OF SUBSCRIBERS.

———————

Benjamin, Mr. David, Gronllwynmawr, Llangeitho

Beyan, Mr. Thomas (Caradog), Abergavenny

Bonner, Mr. John, Penponthren, Devil's Bridge

Bowcott, Rev. R., R.D., Vicar of Llanllwni

Bowen, D. G., Esq., St. David's College, Lampeter

Bowen, D., Esq „ „ „

Bowen, Mr. D., Currier, Llandilo


Charles, Mr. John, New Inn, Carmarthen

Charles, Mr. Thomas Schoolmaster, Ystrad

Clement, Myler, Esq., St. David's College, Lampeter

Cannick, Rev. J., Neath


Dafydd ab Gwilym, Llangeitho

Daniel, Mr. D., Glanaeron, Llanpenal

Daniel, Mr. John, Hendref „

Davies, D. J., Esq., St. David's College, Lampeter

Davies, D. C, Esq. „ „ „

Davies, J., Esq. „ „ „

Davies, W., Esq „ „ „

Davies, S., Esq., Cilfallen, Newcastle Emlyn

Davies, Rev. J., Ffestiniog

Davies, Rev. W. C; B.A., St. David's College., Lampeter

Davies, Rev. Thomas, M.A., Dyhewyd

Davies, Rev. Y. H., Llangynllo

Davies, Rev. J., Vicar of Ciliau Aeron

Davies, Rev. J.; M.A., Vicar of Llanychaiarn

Davies, D., Esq., Queen's Collage, Cambridge

Davies, Rev. D., Llwyn, Pumsaint, Llandilo

Davies, Mr. D., Talsarn, Ceredigion

Davies, Mr. Thomas, Llanddewi Brefi

Davies, Mr. Thomas, Tyllwyd, Blaenporth

Davies, Mr. David, Cardigan

Davies, Mr. David, Penffynnon, Llangeler (12 copies)

Davies Mr. Thomas, Henllan

Davies Mr. James, Alltyrodyn

Davies B., Esq., M.D., Newport, Mon.

Davies Mr. Lewis, Gelli, Llancrwys

Davies Mr. David, Perthneuadd, Talsarn

Davies Mr. John Jones, 9, Pier-street, Aberystwyth

Davies Mr. David, Pantsych, Llangeitho

Davies Mr. H. (Eryr Glyn Cothi), Llanegwad

Davies Rev. W., Cardigan

Davies Mr. H. J., Marine Cliff, Ferry Side

Davies Mr. Morgan, Tynewydd, Llangwyryfon

Davies Miss, Penmaen Doyey, Machynlleth

Davies Mr. William, Myrtle Hill, Llanwenog

Davies Mr. John, Penybont, Llangybi

Davies Rev. E. W., Dyhewyd

Davies Mr. Eyan, Waenlwyd, Llanpenal

Davies Mr. D. J., Draper, Llanstephan

Davies Mr. Y. J. (Ceitho), Llandilo

Davies Mr. David, Carrier, Llandilo

Davies Mr. W., Grocer, Cilycwm

Davies Mr. D., Ddôl, Llanfair Orllwyn

Davies Mr. J. R., Printer, Newcastle Emlyn

Davies Rev. H. L. (Bardd Coch), Cenarth

Davies Mr. N. L, Newcastle Emlyn

Davies Mr. Samuel, Aberarthen Fawr

Davies Mr. J. LI., Emlyn Arms, Newcastle Emlyn

Davies Mr. David, Penponthren, Penbryn

Davies Mr. Simon, Pantybettws Ifan '.

Davies, Mr. Thomas, Felin Wnda, Penbryn

Davies, --- Esq., Surgeon, Penparc, Cardigan

Davies Rev. J., Glynarthen

Davies Mr.John, Draper, Pensarn, Llanllwni

Davies Mr. John Jones, Glynaeron

Davies Mr. William, Shoemaker, Aberaeron

Davies Mr. David, Clai, Henllan

Davies Mr. David, Miller, Ystrad

Davies Mr. James, G. W. Railway, Mountain Ash

Davies Mr. David, Wenallt, Llangeitho (2 copies)

Davies Mr. David, Tregaron

Davies Mr. David, Clothier, Penboyr

Davies Mr. D. E. Tailor, Llangeitho

Davies Mr. H. Hayard, Trefelin, Llangeler

Davies Mr. D. J., 20 & 22, Price-street, Liverpool

Davies, Mr. , Sexton of the Welsh Church, Liverpool

Davies, Mr. D., Penlan Fach, Llangeitho

Davies, Miss, Wenallt, Llangeitho

Davies, Mr. David, Schoolmaster, Gartheli

Davies, Mr. Owen (Eos Llechid), Bangor

Davies, Rev. J., B.D., Llanhywel


Edmunds, Rev. W., Master of the Grammar School, Lampeter (2 copies)

Edwardes, Rev. D., M.A., The College, Hurtspierpoint

Edwards, Mr. E., stationer, Aberystwyth

Edwards, Mr. (Ab Myrddin), Aberystwyth

Edwards, Mr. E., Peunwch, Llangeitho

Edwards, Miss, Ty Mawr, Llanrhystyd

Edwards, E. J., Esq., St. David's College, Lampeter

Edwards, Mr. D., Draper, Abercarn

Edwards, Rev. E., Llanfechell, Bangor (2 copies)

Edwards, Rev. D., Ffestiniog

Edwards, Rev. B., Goginan

Ellas, Mr. Y. Y., The Grammar School, Newcastle Emlyn

Elias, Mr. Timothy, Brongest, Troedyraur

EHas, Mr. D., P. M., Blaenporth

Ellis, Rev. Robert (Cynddelw), Carnanrvon (2 copies)

Evans, Rev. E., Rector of Llangeitho (12 copies)

Evans, Mr. Evan, Parc y Bwla, Bettws Ifan

Evans, Mr. Evan, Graig Wen, Llangeitho

Evans, Rev. R., Vicar of Llandebie

Evans, Miss, King's Arms, Llandyssnl

Evans, John, Esq., Cwmbychan, Pencader

Evans, Mr. Evan, Nantcoch, Llanfihangel-ar-Arth

Evans, Rev. G., Vicar of Llandyfiriog

Evans, Mr. John, Pant, Penbryn

Evans, Rev. D. S., B.D., Rector of Llan ym Mawddwy

Evans, Mrs., do.

Evans, Y. W., Esq., Surgeon, Guy's Hospital, London

Evans, John Henry, Esq., Jesus College, Oxford

Evans, Tegid Anenrin, Esq., Llan ym Mawddwy

Evans, Rev. Lewis, B.A;, Ystradmeirig (2 copies)

Evans, Rev. B., Vicar of Llanstephan

Evans, Mr. David, Schoolmaster, Llanllwch

Evans, Rev. D., Vicar of Cilgerran

Evans, Mr. J. M., Salutation Hotel, Newcastle Emlyn

Evans, Mr. D., Blaennant, Newcastle Emlyn

Evans, Mr. J., Penybanc, Bettws Ifan

Evans, B., Esq., Solicitor, Newcastle Emlyn

Evans, Mr. John, Melin, Cenarth „

Evans, Mr. James, Schoolmaster, Blaenporth

Evans, Mr. B., Grocer, Cardigan

Evans, Mr. John, Nantyferwig, Cardigan

Evans, Mr. Thomas, Goetref, Penboyr

Evans, Mr. D. (Silin Gwyllt), Gwernogle

Evans, Mr. T., 3, Regent street, Aberaeron

Evans, Mr. William, Mariner „

Evans, Capt. J., Madona „

Evans, Mr. D., Cwmbedw „

Evans, Mr. John, Nantygelli, Talsarn

Evans, Mr. J., Chemist, Llandyssul

Evans, Mr. J., Pengallt, Henllan

Evans, Rev. J., Abermeirig

Evans, Rev. Evan, Beaufort, Mon.

Evans, Rev. William, Vicar of Llangybi

Evans, Mr. Eyan, Cnwcybarcud (dec.)

Evans, Mr. James, Llwynywemen, Llanarth

Evans, Mr., Pontfaen, Cardigan

Evans, Mr. D., Glynbuarth, Llangeitho

Evans, Mr. Alcwyn C. (Cyfrangwr), Carmarthen

Evans, Mr. Morgan, Brynffynnon, Llanddewi Brefi

Evans, Rev. D., Vicar of Corris

Evans, J., Esq., Surgeon, Llanrhysmd

Evans, Rev. J., Vicar of Llanddewi Brefi

Evans, Mr. L. L., Dinas Cerdin, Llandyssul

Evans, Rev. W., Rhymney, Mon.

Evans, Mr. John (Ioan Glan Clywedog), Llanfair

Evans, Rev. J. Pughe, Rector of Efenechtyd, Ruthin

Evans, Rev. E., Vicar of Llangwnadl, Pwllheli

Evans, Mr. Eyan, Pontgeri, Newcastle Emlyn

Evans, Mr. John, Clwtypatrwn, Llanfair Clydogan

Evans, Mr. T., British School, Brithdir, Glamorgan

Evans, Mr. Samuel, Road Survevor, Llanrhystud

Evans, Mr. J. B., Draper, &c., Llanfihangel ar Arth

Evans, D. L., Esq., St. David's College, Lampeter

Evans, D. D., Esq. „ „ „


Francis, D. H., Esq., St. David's College, Lampeter


Gabe, Mr. Joseph, Llangathen

George, Rev. John, Vicar of Aberpergwm George, Mr. Charles, Tregaron

Green, P. W., Esq., St. David's College, Lampeter

Green, Mr. George, Cilcert, Llangeitho

Griffiths, Rev. John, Rector of Neath

Griffiths, Rev. T. Cunllo, Pontlottyn, Rhymney

Griffiths, Mrs., Pendre, Newport, Pem. (4 copies)

Griffiths, T. W., Esq., Gelli, Talsarn

Griffiths, Mrs. „ „

Griffiths, Mr. David, Alltwalis

Griffiths, Mr. Thomas, C. M. National School, Llanegwad

Harris, Rev. W., Penboyr (2 copies)

Harris, John, Esq., Llandilo (2 copies)

Harris, Mr. Thomas (Aeronydd), Glanmarch, Llangeitho

Harris, Mr. D. (Caeronwy), Llandilo

Harris, Mr. T., Llancrwys

Harris, Mr. Thomas, Glynarthen, Newcastle Emlyn

Havarard, J. D., Esq., St. David's College, Lampeter

HeRhert, Rev. W., Vicar of Llansantffraid

Hnghes, Rev. J., Penbryn (dec.) (2 copies)

Hughes, D. J., Esq., Royal Shrewsbury School

Hughes, Rev. J., B.D., Welsh Professor, St. David's College, Lampeter

Hughes, Rev. J., Vicar of Tregaron

Hughes, Rev. John, Gwernafield, Mold

Hughes, Mr. John, Pantyddafad, Llanilar

Hughes, D. H., Esq., St. David's College, Lampeter

Hughes, W. G., Esq. „ „ „

Hughes, Mr. R., Rhosgoch, Llanpenal

Hughes, Mr. W. (Gwilym Clydach), Gwernogle


Isaac, Rev. D. Lloyd, Llangathen (4 copies)


Jackson, J. A., Esq., St. David's College, Lampeter

James, Rev. Thomas (Llallawg), F.S.A., F.G.H.S., Netherthong, Huddersfield (4 copies)

James, Rev. J., B.D., Vîcar of St. David's, Liverpool

James, Mr. T. T., Capelgwnda, Penbryn (2 copies)

James, Rev. T., M.A., Llandyssul

James, Mr. Stephen, Penlanfach, Llandygwydd

James, Mr. James, Pentremawr, Llanrhystud

James, Rev. James, Vicar of Cilcenin

James, Mr. Thomas, Rhosfach, Devil's Bridge

James, Mr. Daniel, Monachdy, Ystrad Meirig James, Rev. T. E., Glyn Nedd

James, Mr. D., Draper, Ponttwelly, Llandyssul

James, Mr. D., Cawrence, Cardigan

James, Mr. Evan, Tregybi, Cardigan

James, Mr. Griffith " . . "

Jeffreys, Rev. Thomas, Ebbw Vale

Jenkins, R. D., Esq., Pantirion, Cardigan (2 copies)

Jenkins, Rev. R. Bowen, M.A., Tredefaid, Cardigan (2 copies)

Jenkns, B., Esq., Solicitor, Tregaron (2 copies)

Jenkins, Mr. John, Penbrynmawr, Ystrad

Jenkins, Mr. David, Llanstephan

Jenkins, Mr. W.(Gwilym Gwenog), Cwrtnewydd, Llanwenog

Jenkins, Mr. J. (Penarth), Melin y Coed, Talsarn (6 copies)

Jenkins, Rev. W. C., Kidwelly

Jenkins, Mr. John., Cwmsylltyn, Newcastle Emlyn

Jenkins, Mr. Daniel, Felindre, Talsarn

Jenkins, Mr. John, Rhyd y Gof, Sulian

Jenkins, Rev. W. G., Vicar of Llandyssul

Jenkins, Mr. Walter, Glanywern, Talsarn (6 copies)

Jenkins, Mr. Peter R., Rose Inn, Llangeitho

Jenkins, Rev. R., B.A., Rector of Bettws Bledrws (3 copies)

Jenkins, Mr. Jenkin, Blaenplwyf, Llanfihangel Ystrad (2 copies)

Jenkins, Mr. J., C. M. National School, Nantglyn, Denbigh

Jenkin, Mr. John, Cwrt Newydd, Llanwenog

Jenkins, Mr. Thomas, Bryncipyll, Tregaron

John, Mr. John, Agent, Brithdir Colliery

Johns, Mr. J., Carmarthen

Jones, John Inglis, Esq., Derry Ormond

Jones, John, Esq., Maesycrugian, Carmarthen

Jones, Rev. Evan, B.D., Vicar of Llanfihangel-ar-Arth

Jones, Rev. Thomas, B.D., Rector of Llanengan

Jones, Rev. D. L., M.A., Vicar of Gwyddelwern, Corwen

Jones, Rev. D., Rector of Brechfa

Jonen, Rev. Evan, Tyglyn Aeron

Jones, Rev. H., Vicar of Llanpenal

Jones, Rev. David, Llangollen

Jones, Rev. J. (Idrisyn), Vicar of Llandyssilio-gogo

Jones, Rev. John, R.D., Vicar of Llanfihangel Geneu'r Glyn

Jones, Rev. John, Aberystwyth

Jones, Rev. J.P., Vicar of Newcastle Emlyn (2 copies)

Jones, Rev. Samuel, Vicar of Llangunnor

Jones, Rev. John Emlyn, M.A., LL.D., Merthyr Tydfil

Jones, Rev. John, Blaenanerch Jones, Rev. E., Llwyncelyn, Aberaeron

Jones, Mr. Owen, Rhipyn Llwyd, Penbryn (6 copies)

Jones, Mr. D., Brynhir, Llangeitho

Jones, Mr. D., Cefnfaes

Jones, Mr. D., National School, Nantglyn, Denbigh

Jones, Mr. S. D., Tanybwlch, Llangeitho

Jones, Mr. D., Company Shop, Rhymney

Jones, Mr. E., Swyddffynnon

Jones, Mr. Eliezer, Rhymney

Jones, Mr. G., Prospect House, Tregaron

Jones, Mr. D., Dolaubach, Llangeitho

Jones, Mr. J. S., Llandyssul

Jones, Mr. Owen, Nanteiryn, Blaenporth

Jones, John, Esq., Solicitor, Llandyssyl

Jones, Thomas, Esq., Surgeon, New Quay (3 copies)

Jones, Samuel, Esq., Llanio

Jones, Mr. Thomas, Cilpyll, Llangeitho

Jones, Mr. D. E., C. M. National School, Llanstephan

Jones, Mr. John (Glan Clydach), Dolau, Gwernogle

Jones, Mr. W., Trafle, Llangeitho

Jones, William, Esq., Llwynygroes, Lampeter (2 copies)

Jones, D., Esq., Maesllan, Penboyr

Jones, Mr., Fronwen, Llanarth

Jones, Mr. Thomas (Eos Gwenffrwd), Cwmcau, Newcastle Emlyn

Jones, Mr. John, Clerk to the Board of Guardians, Aberaeron

Jones, Mr. John, Brynygro, Llanystumdwy

Jopos, T. J., Esq., St. David's College, Lampeter

Jones, T. D., Esq., B.A. " . "

Jones, D. P., Esq. . " . " . "

Jones, T. M., Esq. . " . " . "

Jones, Rev. D., Baptist Minister, Ty'nyclawdd, Lledrod Uchaf

Jones, Mr. William, Ochr, Tregaron

Jones, Mr. Timothy, Ty'nberth (2 copies)

Jones, Mr. D., Caeau Gwynion, Pencader

Jones, Mr. John, Blaenblodau, New Inn

Jones, Mr. E., Pentrepadarn, Llangeitho

Jones, Mr. D. (Padarn Odwyn), Harlington, Middlesex

Jones, Mr. William, Maeslyn, Tregaron

Jones, Mr. E., Goetref, Llanarth

Jones, Mr. E., Farm, Llangeler

Jones, Mr. E., Coedstref-uchaf, Llangeler

Jones, Mr. H., Coedstref-isaf "

Jones, Mr. G., Printer, Llandilo 27Q

Jones, Mr. J., Stationer, Aberdaron

Jones, Mr. Hector, Rhydfach, Llangeler

Jones, Mr. H., New Tredegar

Jones, John, Esq., Surgeon, Llandyssul

Jones, John, Esq., St. David's College, Lampeter

Jones, James, Esq.

Jones, Mr. J., Currier, Llandilo

Jones, Mr. J., Wstrws, Capel Cynon

Jones, Mr. J., Goetref, Penboyr

Jones, Mr. J., Smith, Vulcan-place, Aberaeron

Jones, Mr. J. Jordan, Rhydygof, Lampeter

Jones, J. Lewis, Esq., Troedyrhiwfer, Pencader

Jones, Jobs, Esq.

Jones, Mr. J., Cestyll, Llanllwni

Jones, Miss M. J., 16, Terrace-road, Aberystwyth

Jones, Rev. R., B.D., Llangan, Narberth

Jones, Mr. R., Schoolmaster, Borth

Jones, Mr. R., Pengraig, Llangeler

Jones, Mr. Rhys, Glandulas, Bettws Ifan

Jones, Mr. S., Brongest, Troedyraur

Jones, Mr. S., Dôlwilym, Llandyssul

Jones, Mr. S., Angel Inn, Cardigan

Jones, Mr. S., Saddler, Newcastle Emlyn

Jones, Mr. E., Bwlch-helygen, Llanarth

Jonas, Mr. T., Draper, Newcastle Emlyn

Jones, Mr. D. L., Lluestfach, Llangeitho

Jones, Mr. D., Cwrt Mill, Llangeler

Jones, Mr. D., Pantglas, Newcastle Emlyn

Jones, Mr. D. Lloyd, Gilfach, Penbryn

Jones, D. P., Esq., Esgergraig, Troedyraur

Jones, D. P., Esq., junior

Jones, Mr. David, Tanner, Cardigan

Jones, Mr. D., Bookbinder, Aberystwyth

Jones, Mr. D. (Glan Melindwr), Penllwyn, Aberystwyth

Jones, Mr. Daniel, Ty'nylôn, Lledrod Uchaf

Jones, Mr. D., Wigddu, Aberaeron

Jones, Mr. D. Sinnett, Dauntless House, Llannon

Jones, Mr. D., Mason, Ciliau Aeron

Jones, Mr. D., Gwastadgwnda, Talsarn

Jones, Mrs., Lluestygors, Penuwch, Llangeitho

Jones, Mr. John (Talhaiarn), Hafodygân, Llanfair Talhaiara

Jones, Mr. William, Painter, Yspytty Ystwyth

Jones, T., Esq., Dinas, Newcastle Emlyn (dec.) Jones, Mr. W., Cenadwr Cymreig, 82, Central-street, London (12 copies)

Jones, Walter, Esq., Penyrallt-hebog, Newcastle Emlyn

Jones, Mr. Thomas, Dôlfridi, Talsarn

Jones, Mr. Evan, Swyddffynnon

Jones, Mr. Thomas, Rhydgoch, Gwnnws Isaf

Jones, Mr. Evan, Briery Hill, Ebbw Vale, Mon. (4 copies)

Jones, Mr. Thomas, Penlôn, Bettws Ifan

Jones, Mr. William, Penbanc, Troed yr Aur

Jones, Mr. Daniel, Llangeithio

Jones, Mr. Thomas, Penprysg, Sulian

Jones, Mr. Thomas, C. M. National School, Llangeler

Jones, Mr. John, Llangeitho

Joseph, Mr. Edward, Editor of the Carmarthen Weekly Reporter

Joseph, Mr. William, Cardigan


Lewes, Colonel W. Price, Llysnewydd (2 copies)

Lewis, S. H., Esq., Bronaeron, Llangeitho

Lewis, Miss ". " (2 copies)

Lewis, D., Esq., Surgeon, 169, Pile-road, Newport, Mon.

Lewis, Rev. J. T., B.A., Cilcain, Mold

Lewis, Rev. Titus, Towyn, Merioneth

Lewis, Thor Esq., St. David's College, Lampeter

Lewis, Mr. David, White Hart, Lampeter

Lewis, Mr. Stephen, Waungelod, Cardigan

Lewis, Titus, Esq., F.S.A., St. Quintins, Cowbridge

Lewis, Joha, Esq., St. David's College, Lampeter

Lewis, Rev. J., Troedyrhiw, Merthyr

Lewis, Mr. D., Merchant, Carmarthen

Lewis, Mr. John, Tyddyndu, Llanarth

Lewis, Mr. John (Ioan Mynyw), Tregaron (2 copies)

Lewis, Mr. J. (Eos Glan Wyre), Llanrhystud

Lewis, Mr. James, Pantygwas, Trefilan

Lewis, Mr. Thomas, Penffin, Glynarthen

Lewis, Mr. William, Rhymney

Lewis, Mr. William, Penrhiw Ceuon, Penboyr

Lloyd, David, Esq., Solicitor, Lampeter

Lloyd, Charles, Esq., Waun Ifor, Llandyssul

Lloyd, W. E., Esq., St. David's College, Lampeter

Lloyd, Rev. Rhys Jones, M.A., Rector of Troed yr Aur

Lloyd, Mr. J. P., Penalltybïe, Llandygwydd

Lloyd, Mr. John, Tynewydd, Bangor

Lloyd, Mr. J. D., Stonecutter, Aberaeron Lloyd, Rev. J., Garnfach, Llanrhystud

Lloyd, H. J., Esq., Aberystwyth

Lloyd, Rev. Thomas, Strata Florida

Lloyd, Mr. E., Schoolmaster, Troed yr Aur

Lloyd, Mr. John, Penlan, Lledrod Uchaf

Llyfrgell Llwynrhydowain, Llandyssul

Meredith, Rev. Thomas, Rector of Newborough, Anglesea

Meredith, Mr. John, Ffosybleiddiaid, Ystrad Meirig

Morgan, Rev. D., Rector of Llanfrothen

Morgan, Rev. M. R. (Melancthon), Vicar of Llansamlet

Morgan, Mr. D. (Ceitho), Llwynderw, Llangeitho (2 copies)

Morgan, Mr. Thomas, Pantygoirych

Morgan, Rev. Evan, Vicar of Llanfihangel Ystrad

Morgan, J., Esq., St. David's College, Lampeter

Morgan John, Esq., junior

Morgan, W. J., Esq.

Morgan, Mr. D., Brewer, Llannon

Morgan, Mr. D., Llettemddu, Tregaron

Morgan, Mr. D., Parcrhydderch, Llangeitho

Morgan, Miss, Cefn, Llangeitho

Morgan, Rev. E., Vicar of Llandyssal (dec.)

Morgan, Rev. H., Rector of Llanddewi Aberarth

Morgan, Mr. T., Coedmawr Arms, Newcastle Emlyn

Morgan, Mr. W., C. M. National School, Aberbanc, Newcastle Emlyn

Morgan, Mr. M., Bronfanal, Lledrod

Morgan, Mr. D., Gaerlwyd, Llangeitho

Morgan, Mr. Daniel, Felin Fawr, Llangeitho

Morgan, Mr. George, Bookbinder, King-street, Carmarthen

Morice, Mr. William, 205, Scotland-road, Liverpool

Morris, Thomas, Esq., Blaenwern, Newcastle Emlyn

Morris, Mr. H., Berry-street, Liverpool

Morris, Mr. M., Pencader, Carmarthen

Morris, Mr. Evan, Alltlwyd, Llannon

Owen, Mr. John (Iwan ab Owain), Taihirion, Tregaron (4 copies)

Owen, Mr. John, Rose Hill Arms, Llanarth

Owen, Mr. John, Plas, Abernant Bychan

Owen, Mr. John, Glynarthen

Owen, Mr. John, Ciliau, Llandyssilio-gogo

Owen, Mr. S., Catherine-row, Cardigan

Parry, Rev. David, Lampeter

Parry, D., Esq., Gilfach, Llangeler

Parry, Thomas, Esq.

Parry, Mr. John (Ioan Dderwen o Fon), Aberystwyth

Parry, Mr. Thomas, Waun Ifor, Llandyssul

Place, Mr. John, Manager of the Dyffryn Iron Furnaces

Phillips, Rev. E. O., M.A., Vicar of Aberystwyth

Phillips, J. R., Esq. (Ab Geraint), Lincoln's Inn, London (3 copies)

Phillips, Mr. D., P.C., Llanrhystad

Phillips, Mr. D., Pantglas, Pencader

Phillips, Rev. J., Curate, White Chapel, London

Phillips, Mr. B., Cwrt, Llangeler

Phillips, Mr. D., Nevern

l'hillips, John, Esq., Surgeon, Newcastle Emlyn

Phillips, Rev. Evan, Newcastle Emlyn

Powell, Rev. William, Rector of Trefilan

Powell, William, Esq., Blaenbaran, Newcastle Emlyn (6 copies)

Powell, J. T., Esq., St. David's College, Lampeter

Prosser, Mr. John, Pantycelyn, Brecon

Prytherch, John, Esq., Llandilo (2 copies)

Rees, Rev. William, Llangynllo

Rees, Rev. Thomas, D.D., Swansea

Rees, Mr. John, Tailor, Llandyssul

Rees, Mr. B., Porthyrhyd, Troedyraur

Rees, Mr. J., Smith, Llandyssul

Rees, Mr. David, Felindre, Penboyr

Rees, W., Esq., St. David's College, Lampeter

Rees, Mr. Jenkyn, Three Horse Shoe, Llangeitho

Rees, Mr. Thomas, Felin Brithdir, Penbryn

Rees, Mr. D., Swan, Newcastle Emlyn

Rees, Mr. James, Bronwydd

Rees, Mr. T., Engineer, Carmarthen

Rees, Mr. John, Llettem Sais, Llanddewi Brefi

Rees, Mr. Rees, C. M. National School, Penboyr

Rees, Mr. Henry, Blaenmachnog, Bangor ar Deifi

Reynolds, Mr. Jonathan (Nathan Dyfed), Merthyr (2 copies)

Rhydderch, Mr. W.(Gwilym Glan Hafren), Llanllawddog

Richards, Rev. John, Vicar of Amlwch (6 copies)

Richards, Rev. R., Glynisaf, Llangeitho

Richards, Rev. W., Vicar of Penrhyndeudraeth

Richards, D. C., Esq., St. David's College, Lampeter

Richards, Miss, Bryntanat, Welshpool

Richards, Mr. R., Llanegwad

Richards, Owen, Esq., Bala

Richards, Mr. R. (Eosydd), Llandilo

Roberts, Mr. Robert, Tynddraenen, Lledrod Uchaf

Roberts, Mr. J., Schoolmaster, Llanrhystud

Rogers, J. E., Esq., Abermeirig

Rogers, Rev. Thomas, Rector of Llanfihangel Penbedw

Rowland, R., Esq., F.R.C.S., L.S.A , Strata Florida

Rowland, John, Esq., M.D., Garth, Tregaron

Rowland, Rev. L. T., Vicar of Gartheli

Rowlands, Mr. Daniel, Ty'ncoed, Llangammarch

Rowlands, Mr. J. (Giraldus), Bedwas, Cardiff (6 copies)

Rowlands, Mr. D., Postmaster, Tregaron

Samuel, W., Esq., B.A., Caregcennen, Llandilo

Samuel, Mr. D., Newcastle Emlyn

Saunders, Rev. T. Rhys, Perthyberllan, New Inn

Sinnett, Rev. John, Rector of Bangor ar Deifi (4 copies)

Sinnett, W. H., Esq., do.

Sinnett, Mr. James, Ystrad Teilo, Llanrhystad

Spurrell, Mr. W., Carmarthen (50 copies)


Thomas, Rev. B., Baptist Minister, Newcastle Emlyn

Thomas, Mr. David, Nant Goch, Llanfihangel ar Arth

Thomas, Mr. John, Crympant, Troed yr Aur

Thomas, W. R., Esq., Jesus College, Oxford

Thomas, Alfred, Esq., St. David's College, Lampeter

Thomas, David, Esq., do.

Thomas, James, Esq., Surgeon, Newcastle Emlyn

Thomas, Rev. W., M.A. (Gwilym Marlais), Llandyssul (6 copies)

Thomas, Mr. David, Llwynrhyd Owain, Llandyssul

Thomas, Mr. John, Neuaddfach, Lampeter

Thomas, Mr. T., Commercial Traveller, Springfield Gardens, Cardiff

Thomas, Mr. T., Merchant, Lammas-street, Carmarthen

Thomas, Mr. John, Blaenanerch, Cardigan

Thomas, Mr. James, Penrhyn, Aberaeron

Thomas, Mr. Rees, Cribor, Llandyssul

Thomas, Rev. Thomas, Llanfair Clydogan

Thomas, Rev. Owen, Beulah, Newcastle Emlyn

Thomas, Mr. John, Bazaar, Neath

Thomas, Mr. Thomas, Llanfihangel-ar-Arth

Thomas, Mr. Evan, Pwlldwr . "

Thomas, Sergeant, Aberystwyth

Thomas, Mr. Thomas, P.C., Goginan

Thomas, Mr. Thomas, Felinfach, Cardigan

Thomas, Mr. William, Engineer, Fishguard

Thomas, Mr. Timothy, Foundry, Cardigan

Thomas, Mr. Edward, 160, New Bond-street, London

Thomas, Mr. L. E., Berkhampstead

Thomas. Mr. Nathaniel (Brithyll Marlais), Lampeter

Thomas, Mr. David, Wheelwright, Glyn Neath Powder Works

Thomas, Mr. E. W. (Ap Rhan), Troedyrhiw

Thomas, Mr. David (Dewi Hefin) Llanwnen

Timothy, Mr. David, Plas, Llangeitho

Tobias, Mr. Thomas, Ffrwd-ddrain Lodge, Llangathen

Vaughan, Right Honourable Lord, Crosswood (3 copies)

Vaughan, Edmund Malet, Esq., do.

Walters, Miss, Blaenmedeni (2 copies)

Walters, Rev. Thomas, Rector of Ystradgynlais

Waters, Mr. William, Haul Office, Carmarthen

Watkins, Mr. D., Towyn, Llangeler

Williams, Rev. Joseph, Vicar of Llangain (6 copies)

Williams, Mr. W., Ty Llwyd Lodge, Newcastle Emlyn

Williams, Mr. John, Ty Nant, Llan Sant Ffraid

Williams, Rev. Evan, Vicar of Nantcwnlle

Williams, Rev. James, Rector of Llanfair Orllwyn

Williams, Rev. Lewis, Rector of Prion, Denbigh

Williams, Rev. John, Dafen, Llanelly

Williams, Rev. William, Ynys Cynhaiarn (2 copies)

Williams, Rev. T., Yspytty Ystwyth

Williams, Rev. John, Llangollen

Williams, Rev. T. F., Baptist Minister, Cross Inn (2 copies)

Williams, Henry, Esq., B.A., St. John's College, Cambridge

Williams, Richard, Esq., Abercothi

Williams, David, Esq., St. David's College, Lampeter

Williams, Mr. Samuel, Alban-square, Aberaeron

Williams, Mr. D., Dolau Aeron, Llangeitho

Williams, Mr. D. P., 121, Brownlow Hill, Liverpool (2 copies)

Williams, Mr. I. P., 158, Queen-street, Whitehaven (2 copies)

Williams, Mr. H. M., Grammar School, Ystradmeirig

Williams, Mr. Llewelyn Morgan, Llangeithio

Williams, Mr. Tegid Aneurin

Williams, Mr. Benjamin, Crug, Ferwig

Williams, Mr. Josiah, Bryn, Ferwig

Williams, Mr. Josiah, Pendref, Cardigan

Williams, Mr. D., Sationer, Cardigan

Williams, Mr. Willlam, G. M. National School, Llangoedmor

Williams, Mr. Willlam, C. M. National School, Gorslas, Cross Inn

Williams, Mr. Denis, P.C, Blaenporth

Williams, Mr. Thomas, Nantbach, Mwnt

Williams, Mr. Thomas, Penralltddu, Cardigan

Williams, Mr. J. W., Stationmaster, Llandyssul

Williams, Mr. J. Dewi, Tregaron

Williams, Mr. William, Rhymney

Williams, Mr. Samuel, Penbanc, Troedyraur

Williams, Mr. David " "

Williams, Mr. John, Glandulas, Bettws Ifan

Williams, Mr. John, Top, Penbryn

Williams, Mr. Y., Penwern, Talsam

Williams, Mr. WiIIiam, Yspytty Ystwyth

Williams, Mr. Henry, Schoolmaster, Nevern

Williams, Mr. David, Hendref, Llanpenal

Williams, Mr. David, Llwyncolfa, Llangeitho

Williams, Mr. Owen, Tyhen, Cardigan

WiIIiams, Stephen, Esq., Llannon

WiIIiams, Mr. William, Llwynrhidyll, Brecon

Worthington, Mr. D., Presbyterian College, Carmarthen


SPURRELL, ARGRAFYDD, CAERFYRDDIN.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.

 
  1. Y mae yn amlwg fod ysgrifenydd yr ymadrodd yma yn barnu mai Iulianus, oedd y cyssefin o Sulgen, ac nis gwn pa fodd idd ei wrthladd, gan fod yr i yn y canoloesoedd, yn cael ei seinio yn j gan y Ffrancod ; ac mewn amryw enghreifftiau, yr oedd y Cymry yn efelychu hyn, mor agos ag y caniatäi anianawd eu hiaith, ac yn rhoddi i'r j sain yr s. A gwelir yn lled aml fod yr g yn dwyn sain yr i, neu y, megys Urbgen, Urien; Kentigern Cyndeyrn, &c.— Carnhuwawc)
  2. Dywedir hefyd mai gadawiad cyfeillion Mr. Davies â'r athrofa, o herwydd fod ei gydathraw yn Ariad, oedd yr achos o'i ymadawiad.