Enwogion Sir Aberteifi/Afan

Oddi ar Wicidestun
Enwogion Sir Aberteifi/Rhagymadrodd Enwogion Sir Aberteifi
Bywgraffiadau
gan Griffith Jones (Glan Menai)

Bywgraffiadau
Arthen

ENWOGION SIR ABERTEIFI.

————————————

AFAN, sant a flodeuai tua dechreu y chweched ganrif. Mab ydoedd i Cedig ab Caredig ab Cunedda, o Tegwedd, ferch Tegid Foel o Benllyn. Efe oedd sylfaenydd Eglwys Llanafan Trawsgoed, yn y sir hon, yn gystal a Llanafan Fawr a Llanfechan, yn Muallt. Claddwyd ef yn Llanafan Fawr, lle mae ei feddfaen etto i'w gweled. Tybir mai efe oedd trydydd Esgob Llanbadarn Fawr. Ei ddydd gwyl yw Tachwedd 16eg.