Enwogion Sir Aberteifi/Caredig

Oddi ar Wicidestun
Caranog Enwogion Sir Aberteifi
Bywgraffiadau
gan Griffith Jones (Glan Menai)

Bywgraffiadau
Caron

CAREDIG, oedd fab Cunedda Wledig, ac yr oedd yn byw yn niwedd y bedwaredd ganrif. Hynododd ei hun yn fawr fel rhyfelwr, trwy ymlid ymaith y Gwyddelod, y rhai oeddynt wedi meddiannu amryw ranau o Gymru. Fel gwobr am hyn, derbyniodd diriogaeth y Tyno Coch yn feddiant iddo ei hun, a'r hon a elwid wedi hyny oddiwrtho ef yn Ceredigion.