Enwogion Sir Aberteifi/Ceitho

Oddi ar Wicidestun
Caron Enwogion Sir Aberteifi
Bywgraffiadau
gan Griffith Jones (Glan Menai)

Bywgraffiadau
Ceneanc

CEITHO, oedd sant yn blodeuo yn y chweched ganrif. Efe oedd sylfaenydd Eglwys Llangeitho, a choffeid ef Awst 5ed. Mab ydoedd i Cynyr Farfdrwch ab Gwron ab Cunedda, yr hwn oedd yn byw yn Cynwil Gaio, sir Gaerfyrddin; a dywedir iddo ef a'i frodyr, Gwyn, Gwynno, Gwynoro, a Celynin, gael eu geni ar unwaith, ac iddynt oll fyw bywyd crefyddol.