Enwogion Sir Aberteifi/Curig Llwyd

Oddi ar Wicidestun
Sion Ceri Enwogion Sir Aberteifi
Bywgraffiadau
gan Griffith Jones (Glan Menai)

Bywgraffiadau
Cynfelyn

CURIG LLWYD, neu y Bendigedig, oedd sant yn byw yn y seithfed ganrif, ac yr oedd yn hynod am ei ddysgeidiaeth a'i fywyd santaidd. Daeth i Gymru i ymsefydlu, ac ar ol glanio o hono yn Aberystwyth, teithiodd yn mlaen i ganol y wlad, ac eisteddodd o'r diwedd ar gopa mynydd uchel, yr hwn a alwyd wedi hyny oddiwrtho ef yn Curig, neu Eisteddfa Curig. Wrth edrych i lawr o ben yr ucheldir hwn, canfyddai ddyffryn prydferth o'i flaen, yn yr hwn y penderfynodd adeiladu eglwys, yr hon a alwyd oddiwrtho ef, Llangurig. Ennillodd barch mawr o herwydd ei dduwioldeb; ac oddiwrth gân o eiddo Lewys Glyn Cothi, (gwel tudal. 280 o'i waith), ymddengys ei bod yn arferiad yn ei amser ef gan y mynachod i fyned oddiamgylch i werthu delwau o hono ef, fel cyfareddau i'r bobl gyffredin, gan dderbyn yn eu lle gaws, cig, gwlan, ŷd, &c.

"Un a arwain yn oriog
Gurig Llwyd dan gwr ei glog;
Gwas arall a ddwg Seiriol,
A naw o gaws yn ei gol."

Priodolid hefyd rinweddau iachaol i'w ffon, yr hon oedd, medd Giraldus, i'w gweled yn eglwys St. Harmon yn ei amser ef. Yr oedd hefyd yn esgob ar esgobaeth yn Nghymru, yr hon fel y tybir oedd Llanbadarn Fawr.