Enwogion Sir Aberteifi/Cynllo

Oddi ar Wicidestun
Cynhudyn Enwogion Sir Aberteifi
Bywgraffiadau
gan Griffith Jones (Glan Menai)

Bywgraffiadau
Dafydd ab Gerald

CYNLLO, oedd sant yn blodeuo yn y bummed ganrif, a mab i Mor ab Conen ab Coel Codebawg. Yn yr hen argraffiadau o'r Ffurfweddïau Cymreig, gwelir ei enw yn y blwyddiadur am Gorphenaf 17, lle y gelwir ef Cynllo Frenin, oddiwrth yr hyn y casglwn iddo fod unwaith yn Feddiannol ar ei hen diriogaethau, ac iddo wedi hyny gyflwyno ei hunan i achos crefydd. Yn nyhuddiant Elphin, cerdd a briodolir i Taliesin, dywedir am dano, "Ni bydd coeg gweddi Cynllo," yr hyn a brawf yr ystyrid ei eiriolaeth ef yn effeithiol. Efe oedd sylfaenydd eglwysi Nantmel, Llangynllo, a Llanbister yn sir Faesyfed, a Llangynllo a Llangoedmor yn sir Aberteifi. Gwelwn oddiwrth y nodau i ganiadau Lewys Glyn Cothi, fod y coffadwriaethau canlynol o hono yn cael eu cadw yn y lle diweddaf:- 1. Cerwynau Cynllo, sef, ceuleoedd wedi treulio yn ngwely creigiog yr afon, trwy dreuliad parhaus y dwfr. 2. Ol traed march Cynllo wedi eu gadael yn y graig. 3. Ol gliniau Cynllo pan yn gweddïo.