Neidio i'r cynnwys

Enwogion Sir Aberteifi/Shon Dafydd

Oddi ar Wicidestun
Dafydd ab Llwyd Enwogion Sir Aberteifi
Bywgraffiadau
gan Griffith Jones (Glan Menai)

Bywgraffiadau
Benjamin Davies (1825-1859)

DAFYDD, SHON, Llandyssul, pregethwr gyda'r Bedyddwyr, Ganwyd ef yn y flwyddyn 1723. Ymunodd â'r eglwys yn y lle hwnw, a dechreuodd bregethu tra yn bur ieuanc. Teithiodd lawer trwy Dde a Gogledd Cymru i bregethu, ac yr oedd ei enw yn adnabyddus iawn trwy y Dywysogaeth. Bu farw yn y flwyddyn 1805, yn 82 mlwydd oed, wedi treulio oes hirfaith yn ngwasanaeth ei Arglwydd.