Neidio i'r cynnwys

Enwogion y Ffydd Cyf II/John Williams (y cyntaf)

Oddi ar Wicidestun
Dafydd Morgan Llanfyllin Enwogion y Ffydd Cyf II

gan John Peter (Siôn Pedr)


a John Pryse (Gweirydd ap Rhys)
Ebenezer Richard
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Enwogion y Ffydd Cyf II (testun cyfansawdd)



JOHN WILLIAMS (Y CYNTAF).

Ganwyd ef ger llaw Bodedern, Môn, ar yr 28fed o Ebrill, 1779; ond gan mai yn Llanrwst yr ymunodd a'r achos crefyddol, y dechreuodd bregethu, ac mai oddi yno yr aeth yn bregethwr teithiol yn y f. 1805, fel John Williams, Llanrwst, y mae'n fwyaf adnabyddus. Efe ydoedd awdur y llyfr canlynol:—

Egwyddorydd Ysgrythyrol; neu Gatecism ar brif Athrawiaethau a Dyledswyddau y Grefydd Gristionogol. 1828."[1]

Hwn ydyw y "llyfr holi" mwyaf hwylus yn yr enwad. Bu'r Parch. John Williams yn Gadeirydd y Dalaeth Gymreig yn y blynyddoedd 1819 ac 1820. Enciliodd o'r gwaith yn y fl. 1834. farw yng Nghaerfyrddin ar yr 16fed o Dachwedd, f 1865, yn 87 oed, gan adael tystiolaeth ar ei ol ei fod yn myned i wlad sydd well i fyw. Prif byngciau ei bregethau oedd mawredd dirywiaeth dŷn, a heleuthrwydd gras Duw. Yr oedd yn Drefnydd goleuedig a ffyddlon. Meddai lawer o dalent farddonol, a gadawodd rai darnau tlysion ar ei ol. Daeth i berchenogi cryn lawer o gyfoeth, a bu ei haelioni yn gyfartal i'w foddion.

Ysgrif y Parch. H. Jones, Caerleon.


Nodiadau

[golygu]
  1. Yr ail argraphiad, a gyhoeddwyd yn y fl. 1830, sydd wrth law genyn ni. Y mae'n llyfryn trwchus, 16plyg, yn cynnwys 889 o dudalenau, ac 8 tudalen o arweinolion. Dengys y gwaith lafur dirfawr, a chydnabyddiaeth nodedig yr awdur galluog a'r holl Ysgrythyrau. Nid yw yr attebion yn gyffredin ond byrion, a phrofir pob un, yn hynod briodol, i'n tyb ni, âg adnod neu adnodau, at y sawl y cyfeirir yn ofalus