Er Mwyn Cymru/Ffarwel i'r Mynyddoedd

Oddi ar Wicidestun
Islwyn a'i Feirniaid Er Mwyn Cymru

gan Owen Morgan Edwards

Prifysgol y Gweithwyr

FFARWEL I'R MYNYDDOEDD

NIS gwn am ddim rydd fwy o nerth i ddyn i wneud ei waith nag aros mis yn y mynyddoedd. Os nad oes ganddo fis rhaid boddloni ar wythnos; os nad oes ganddo wythnos, y mae un diwrnod yn y mynyddoedd yn werth gwneud llawer o aberth i'w gael.

Y mae bywyd yn fwy pryderus, yn fwy cyffrous, ac yn fwy llafurus nag y bu erioed o'r blaen. Rhaid i bawb weithio yn awr, nid oes le i'r segurddyn; ac os yw oriau gwaith yn fyrrach, y maent oherwydd hynny yn galetach. Y mae'r bywyd llonydd a hamddenol a fagai athronwyr yn diflannu o'r byd; cywilydd, ac nid anrhydedd sydd i'r hwn fedr fod heb waith, ac a fedr fod yn foddlon heb waith. Nid bywyd hir, ond bywyd llawn yw bywyd y dydd hwn.

Ychydig yn awr fedr fyw mewn unigedd, ymhell o sŵn y boen sydd yn y byd. Y mae dibyniaeth cynhyddol dynion ar ei gilydd yn gwneud iddynt gyd-ddioddef. Nid ysgarmes bell, i feirdd ddweyd am dani flynyddoedd wedyn, ydyw rhyfel[1] erbyn hyn y mae'r ing i'w deimlo yng nghilfachau Eryri neu ar lannau Oregon fel y mae ym mhentrefydd difrodedig Ffrainc. Pan fo gweithydd glo y Deheudir yn segur oherwydd fod cyfalaf a llafur yn camddeall ei gilydd, nid gwŷr cyfalaf na gwŷr llafur deimla'r wasgfa gyntaf, ond cartrefi pell ar y bryniau, o'r lle y daeth teuluodd y gweithwyr ryw genhedlaeth yn ol. Bu'r cartref yn hunangynhaliol bron. Yn yr amaethdy mynyddig cysurus, yng nghysgod ei goed talfrig, gwenith neu geirch neu haidd wedi ei godi oddiar y gweirdiroedd o'i amgylch oedd grawn yr ymborth; cig wedi ei halltu gartref a physgod o'r afon a fwyteid; yr oedd llysiau bwyd a saig a meddyginiaeth yn tyfu yn yr ardd; yr oedd mawn a choed yn danwydd glân a digôst at y gaeaf. Ond, erbyn heddyw, nid oes amaethdy yn y wlad nad yw'n dibynnu am anhebgorion ei gysur, os nad ei fywyd, ar bron bob gwlad yn y byd. Lle bynnag y mae eisiau neu ddioddef, y mae dynolryw i gyd yn teimlo'r boen. Ac oherwydd fod dyn yn dod beunydd yn aelod cyflawnach o frawdoliaeth y byd, y mae cyfnewidiadau cymdeithasol mawrion gerllaw. Rhaid dod a rhyddid a deddf yn gysonach â'i gilydd, fel y try olwynion cyd-ddibynnol diwydiant yn esmwyth, heb lethu neb ac heb fynd yn ysgyrion eu hunain.

Yn y dyddiau hyn, dyddiau rhwng yr hen anibyniaeth tawel a'r gymdeithas gymhleth newydd, dyddiau rhwng yr hiraeth am yr hen wedi i'w ddiffygion fynd yn angof a'r newydd sydd eto heb ddadlennu ei fendithion, y mae'r meddwl yn agored i boen a phryder dau gyfnod llawn sy'n rhyfedd doddi i'w gilydd. Ni fu erioed gyfnod yn galw am gymaint o gryfder meddwl, o benderfyniad diysgog, o dawelwch yn wyneb siom a dioddef; ac nid rhyfedd fod llawer meddwl yn ymollwng dan y baich. "Na'ch sigler yn fuan oddiwrth eich meddwl, ac na'ch cynhyrfer,"— ond pa help fedrir roddi i wneud hynny?

Yn ddiameu y mae'r byd pryderus yn troi at Dduw yn y dyddiau hyn, nid dyn yma a dyn acw, ond dynion yn dyrfaoedd ac yn genhedloedd. Nid dychweliad yr afradloniaid unig yw nodwedd yr oes, ond cymdeithas yn dwyseiddio ac yn troi ei hwyneb at Haul Cyfiawnder. Y mae cynnydd ein ffydd yn Nuw a chynnydd cariad pob un o honom oll tuag at ein gilydd yn hanfodol at ddeall a setlo y cwestiynau cymdeithasol sydd o'n blaenau, os nad ydym i syrthio i anhrefn a chasineb a llofruddiaeth y Chwyldroad Ffrengig neu'r Chwyldroad Rwsiaidd wrth geisio ymwthio trwy'r nos tua'r dydd. Un o arwyddion mwyaf gobeithiol yr oes yw ei pharodrwydd i aberthu dros eraill, a'r crefyddolder cynhyddol sy'n gwneud ei gwelediad yn glirach a'i chamrau'n fwy sicr. Dyma angor.

Yn y blynyddoedd pryderus diweddaf hyn, y mae'r hiraeth am y mynydd a'r môr wedi bod yn gryfach nag erioed, ac y mae'r ymgynnull iddynt yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd. Fel y mae anghenion y cartref a phroblemau cymdeithas yn dod yn fwy gwasgedig a dyrys, y mae eangderau tawel y mynydd a'r môr yn dod yn fwy croesawgar. Dyna le i ddianc o bryder; dyna le i wella wedi briw. Sudda'r tawelwch yn gryfder i'r enaid, y mae'r awel oddiar y grug melys neu'r môr heli fel anadl einioes. A phan ffarwelir â'r mynydd, a throi'n ol i'r dref boblog, i'r fasnach ansicr ac i'r byd cynhyrfus, erys golygfeydd y mynydd yn y meddwl, gellir dianc iddynt mewn atgof pan fo'r amgylchiadau'n gwasgu a'r pryder yn llethu. Teimlir drachefn yr awel oddiar y gwaendiroedd neu oddiar y môr, a meddyginiaeth ar ei hesgyll; gwelir drachefn y copâu, y nefoedd, a'r cefnfor a'u tragwyddol heolydd. A theimla dyn na fedr neb gyfyngu ei feddwl, sylweddola ei ryddid, a cha'r cryfder enaid a'i ceidw yn ddiysgog lle gynt yr ofnai gynhyrfiadau dydd ac awr. Y mae gwlad fynyddig yn Eryri y mae llai o gyrchu iddi, hwyrach, nag i'r Wyddfa ar un ochr ac nag i Garnedd Dafydd a Charnedd Llywelyn ar yr ochr arall. Rhyngddi a'r Wyddfa y mae dyffryn cul Llanberis a llynnoedd Peris a Phadarn; rhyngddi a'r ddwy Garnedd y mae'r dyffryn rhamantus arall dorrodd yr Ogwen yn ffordd iddi ei hun, a Bethesda ar ei glan; a rhyngddi a Moel Siabod i'r dwyrain y mae Nant y Gwrhyd a Llyn Mymbyr. O fewn y cymoedd hyn y mae tyrfa ardderchog o fynyddoedd yn sefyll yn gadarn ac urddasol. O'r Fronllwyd tua'r de ddwyrain ceir hwy, Carnedd y Filiast a'r ddwy Elidir, y Foel Goch a'r Garn a'r ddwy Glyder,—beth yn is na'u cymdogion o bobtu mewn troedfeddi, ond yn codi i'r cymylau mor frenhinol a hwythau, neu'n gorwedd mor fawreddog ar ddyddiau digwmwl y tes. I'r mynyddoedd hyn deuthum, bererin egwan dan ei bwn, ddechre Gorffennaf eleni. Disgynnodd tawelwch Llanberis garedig a chroesawgar ar fy ysbryd blin a lluddedig, suodd sŵn hyfryd ei rhaeadrau fi i gysgu, a gwahoddodd ei mynyddoedd fi i fyny fry i dawelwch tangnefeddus yr uchelderau. Dros bedwar ugain mlynedd yn ol daeth Clwydfardd drwy'r fro, clywodd y rhaeadrau, ac ebai ef,—

"Rheieidr ar reisidr, dyruant,—a'u sŵn
Adseinia trwy'r wylltnant ;
Cynnwrf sydd yn mhob ceunant;
Bron na ffy pob bryn a phant.


Trystiaw a ffriaw'n dra ffroch—a chwyrnu
Wna'i chornant uchelgroch;
Twrw o hagrgri tra egr—groch;
Twrw'n y graig fel taran groch."

Digiodd Gutyn Peris wrth Glwydfardd am ddynwared sŵn rhaeadrau ei fro mor gras a hyn a rhoddodd su yn lle rhoch iddynt,—

"Un rhaiadr mawr sydd yn rhuo—o fewn
Y faenol gled honno;
A naws awel yn sio
Mewn ffrydiau hyd fryniau'r íro.

"A sain a styb eu si,—ar elltydd
Y mynydd o'r meini;
Ail cydgor yn perori,
Sain creigiau a lleisiau tti."

Ar fy nghlyw diamynedd i, graddol drodd yr hagrgri egr—groch yn naws awel yn sio. A chlywaf fas dwndwr y dyfroedd a brefiadau'r defaid mewn atgof, yn hyfryd foddi lleisiau llafur a rhyfel, hyd yr awr hon.

Cerddais i ddechre hyd odre'r mynyddoedd, i dalu'm gwarogaeth iddynt. Cerddais dros Fryn'r Efail at lan y Galedffrwd loyw, a dilynais hi heibio i Glwt y Bont ac Ebenezer hyd y gwaendir mynyddig maith sy'n mynd uwchlaw Llyn y Mynydd, ac yna i Fethesda. Ffrwd fwyn yw Caled ffrwd; ac er na welais hi erioed o'r blaen, yr oedd blodau ei glannau ac enwau ei chartrefi yn ei gwneud mor hoff i mi ag afonydd Dyfrdwy. Gwlad ryfedd yw y wlad, gwlad o greigiau a blodau, gwlad a'r mynyddoedd a'r môr yn gwahodd ac yn denu, gwlad o dai bychain a chapelydd mawrion, gwlad o ffermydd nad ydynt ond ychydig gaeau rhwng talpiau craig, a gwlad yn dibynnu ar un chwarel anferthol. Synnwn fod ardaloedd mor enwog mor agos i'w gilydd; ac ni chlywn enw ardal na ddeuai a rhyw fardd neu bregethwr i'm meddwl, llawer o honynt yn gyd-efrydwyr a mi flynyddau meithion yn ol, ac wedi llenwi gobeithion maboed i'r ymylon. Ac wrth edrych ar y wlad, nid rhyfedd ei bod yn fagwrfai athrylith. Wrth deithio i fyny at Ebenezer ymwasgai'r tai yn fwy at ei gilydd, nes bod yn bentrefydd. Yr oedd y tai yn lân fel yr aur. Ond ar ddiwrnod poeth, yr oedd y ffenestri i gyd yng nghau. Gofynnais i chwarelwr mwyn beth oedd y rheswm am hyn, ac atebodd gyda direidi yng nghil ei lygad," Y mae llawer iawn o bobol ddieithr yn dod ffordd hyn, welwch chwi, rhaid i ni fod yn bur ofalus beth a wnawn a'n ffenestri."

Wedi esgyn o'r caeau i'r mynydd yr oedd y gog yn canu dros y wlad, er ei bod wedi cilio o'r ardaloedd eraill. Hyfryd iawn oedd y gweunydd unig, eu byrwellt a'u gruglys. A mwyn oedd y golygfeydd ymagorai o'm blaen, hafnau mynyddig y Marchlynnoedd, porfeydd defaid maith Cwm Llafar ac Afon Caseg, a'r môr yn disgleirio ar Draeth y Lafan, yn ol fel y trown fy ngolwg. Yn lle disgyn yn ol yr un ffordd cerddais hyd lethr y bryniau, gan gadw ar ochrau Elidir. Odditanaf yr oedd gwlad lawn o bobl, a phawb wrthi yn y caeau gwair. Ar y ffordd, oedd fel rhodfa ffasiynol, yr oedd lluoedd o chwarelwyr a'u teuluoedd ym min hyfryd yr hwyr, yn gwylio ac yn beirniadu y cweirwyr gwair odditanynt. Cerddais trwy Waen Gynfi, hyd y ffordd uchel ac i Ddinorwig. Erbyn hyn yr oedd yn dechre nosi, ac arogl hyfryd y gwair yn llenwi'r awel hwyrol falmaidd. Troais yn ol i edrych ar lethrau Elidir, a thybiais na welswn erioed fynyddoedd mor dal, mor serth, mor ddieithriol, ac mor frawychus. Ac eto, yr oeddynt hwythau yn gwahodd,-"Tyrd i fyny yma, y mae awel eto sy'n fwy adfywiol na'r un deimlaist ti, a nef fwy gorffwysol." Ond i lawr yr oedd fy llwybr, drwy goedwig a chwarel; ac mewn myfyrdod a breuddwyd y dringais yr Elidir ac y chwiliais am Arthur.

Erbyn dechre Hydref y mae'r rhai fu'n ceisio gorffwys ar fynydd a môr wedi troi adref at eu gwaith. Cawsant fwy na gorffwys oddiwrth ludded; cawsant ysbrydoliaeth at y dyfodol. Byddant yn gryfach, yn fwy ffyddiog, ac yn well. Medrem wneud ar lai o chwareudai ac arlundai, a gwnawn ar lai o dafarnau a gwallgofdai, pe rhoddid modd i bawb ddod i gymundeb a'r mynydd. Teimlai'r gwan orfoledd iechyd, teimlai'r pryderus gryfder ffydd, teimlai'r trwmlwythog nerth cawr, teimlai'r diobaith mor lawn yw bywyd, wrth ffarwelio a'r mynyddoedd.

Nodiadau[golygu]

  1. Y Rhyfel Mawr 1914-1918.