Er cof am Joseph Meredith, Adelaide Villa, Llandudno

Oddi ar Wicidestun
Er cof am Joseph Meredith, Adelaide Villa, Llandudno

gan D. S. Thomas (Glan Pair)

ER COF AM

JOSEPH MEREDITH,

ADELAIDE VILLA, LLANDUDNO,

Yr hwn a hunodd yn yr lesu ar y 14eg o Ragfyr, 1897,

YN 46 MLWYDD OED.

CURA tonau mawr yr eigion
Greigiau'r Gogarth gref o hyd;
Cwyd y badau hwyliau gwynion,
Ant i'w difyr deithiau'i gyd;
Deil Llandudno dan ei chlodydd
Fel "brenhines glanau'r mor,"
Prysur ydyw pob masnachydd,
Llawn cynlluniau 'r archadeilydd,
Urddas bywyd wisga crefydd
Dan hyfrydaf wên yr Ior.

Ond er teced ein paradwys,
Dan ganghenau pwysfawr bri;
Er mor fyw yw byd ac eglwys-
Rhywbeth mawr sy' ar goll i mi!
Llanw llonder droes o'm calon,
Nid oes yn fy mynwes hedd;
Uwch fy mhen mae cymyl duon,
Dan fy nhraed mao llif trallodion,-
Beth esbonia'm Hadadrimmon?
Joseph Meredith yn ei fedd.

O! fy Nuw, maddeua bennod
Gruddiau gwlybion nos a dydd;
Mêl fy mywyd droes yn wermod,
Bron diffoddi mae fy ffydd;
Gweld nis gallaf drwy'r cymylau
Guddiant ddydd fy nen yn awr—
Pa'm gollyngwyd mellt yr angau
At ber fywyd dan ei flodau ?
Ha! yn nyfnder mor mae'th lwybrau,
Maddeu'n dagrau Iesu Mawr.

Mae fy mron gan ing fy nhynged
Mewn cyffroad berwol bair;
Fel yr ofnaf roi ymddiried
Yn fy ngenau i yngan gair,
Ofnaf gwrdd a'i weddw ysig,
A'i anwylferch drist bob awr;
Rhag i'm ddwedyd gair annhymig―
Neu droi'n fudan ymddrylliedig,
O na chawn ryw fangre unig
I gael taflu'm baich i lawr.

Tua'r fynwent trof fy wyneb,
Yno caf unigedd cun,
Fel ar ffiniau tragwyddoldeb,
Uwch ben bedd y marw'i hun;
****
O fy mrawd fy nghyfaill gwiwlon!
Dyma "fechan fan dy fedd,"
Tithau ddaethost at y meirwon,
Er mor fyw o bob cgnion-
Llety ola'r pererinion,
Boed dy hun yn llawn o hedd.

O mor wag yw llawnder daear
Heb dy gwmni mwy i mi;
Gwag yw'm cân, a gwag yw'm llafar,
Gwag yw'm calon hebo't ti,
O am nerth i ymfoddloni
I drefniadau'r Llywydd Mawr,
Dylwn, megis Aaron, dewi,
Gwelaf ddeufan wedi'u llenwi;
Na raid imi prin eu henwi,
Bedd a nef a lenwi'n awr.

Heddyw safaf uwch dy feddrod;
Tremiaf dros dy yrfa dlos,
O dy faboed, hyd y diwrnod
Y cyrhaeddaist lwch Llanrhos,
Delw'th fam oedd dy wynebryd,
Gwisget haul ei gwên heb goll;
Nerth dy dad ddelweddai'th ysbryd,
Mewn cywirdeb difrycheulyd,
Ond gweddiau'r ddau r'un ffynyd,
Fu'n ganllawiau i'r aelwyd oll.

Gwelaist yno'th dad a'r Beibl
Mawr agored ger ei fron,
A Geiriadur Jones yn ymyl,
Yn myfyrio'i bregeth gron;
Gwelaist ef yn mynd i'w deithiau,
Ac d'od yn уп ol drachefn;
Tithau'n dringo ar ei liniau,
Gyda myrdd o fàn gwestiynau—
Yntau'n gofyn am adnodau,
Bob yn ail yn ol y drefn.

Wedi dod yn llangc i'r ysgol,
Gwefr i bawb dy gwmni oedd,
Safet yn mhob camp yn wrol,
Adsain iachus fyddai'th floedd;
Ti ragoraist mewn Rhifyddiaeth,
Mewn Llawysgrif buost ben;
Ni wnai hyny greu "fyfiaeth,"
Nac aniddig gystadleuaeth--
Gwenau pawb fu dy gynysgaeth
Yn mhlith egin Cymru Wen.

Cyflym rhed cyfnodau bywyd!
Buan wed'yn caem dydi
Yn wr priod, hoffus, dewrfryd,
Yn ymgodi'n deg i fri;
Concraist abwyd temtasiynau,-
Lle y syrthiodd llawer un,
Daliaist yn dy ddysglaer foesau,
Tyfaist mewn ysbrydol ddoniau,
Cedwaist grefydd gref yr achau
Ar dy aelwyd fach dy hun.

Yn oedfaon y Sabbathau,
Cofio byth amanat wnaf;
Ynddynt hwy yr oedd dy wenau
Fel tywyniad heulwen haf;
Fel bwrlymiad rhydd y ffynon,
Y:no ceid dy ddagrau di,
Cariad Crist oedd lond dy galon,
Hoffet wrandaw ar ei weision,
Hwyl nefolaidd gaet yn union
Gyda'r son am Galfari.

Nid oedd modd i beidio'th ddewis,
Pan yn ieuanc i'r "Set fawr,"
Dy rasusau peraroglus,
A ddisgleiriant fel y wawr;
Llanw'r swydd a wnest yn siriol,
Gyda gweddi, gair a moes,
Gwas da, ffyddlon yn wastadol,
Hael dy rodd wrth gywir reol,
A chydweithiwr anwyl, unol,
A'r hen frodyr drwy dy oes.

Ysgrifenydd hen Eisteddfod
Dydd Gwyl Dewi, flwyddi maith,
Diwyd, cywir, trefnus, parod,
Oeddyt yn holl gylch y gwaith;
Cadw'r pwyllgor wnaet yn ddiddig,
A'th sirioldeb unplyg clir,
A phan ddeuai'r Wyl arbenig,
Troai'r peiriant yn ddeheuig,
Pawb a phobpeth oedd drefnedig,
Ar dy raglen, er mor hir.

Llenor oeddyt yn Hanesddysg,
A barddoniaeth ber dy wlad,
Caret Weithiau Gwalchmai loewddysg,
A chyfrifet ef fel tad;
O mor ddifyr fyddai'th gwmni,
Hwyrol ar dy aelwyd lån,
Pan adroddet englyn digri,
Neu ffraethebion, gloewon, gwisgi.
Gwefr atdyniad er daioni
Oedd dy gwmni i fawr a mân.

Myn'd dros hanes gweinidogion,
Adrodd eu pregethau mawr,
Fyddai waith wrth fodd dy galon,
I'n difyru lawer awr;
Adrodd Gwalchmai'th hen dad diddan,
Emrys, a "J. R," bêr ddawn,
Dr. Thomas ac Ap Vychan,
Y ddau Rees, a. Thanymarian,
Herber, Hwfa, a'r "Foch Arian"
Yn eu hamrywiaethau llawn.

Cyhoeddiadau llen a chrefydd,
Ar dy fwrdd a geid i gyd,
Awchus oeddyt am "lyfr nowydd"
Bwyta llyfrau wnaet o hyd;
Dysget felly hynt gweinidogion,
A'r eglwysi fawr a bach,
Y Colegau a'r Athrawon,
Y Traethodwyr, a'r Penbeirddion,
Gwyddoniadur byw oet weithian,
Llawn o fer llenyddiaeth iach.

Ond pan briddwyd di fe briddwyd
Swm o berlau llen ein tir,
Ond o'th ol un perl adawyd,
Erys i ddysgleirio'n hir;
Deil yn ieuanc, deil heb wywo,
Dy gymeriad ydyw hwn—
Dyma berl a bywyd ynddo,
Pery perlau i ddysgleirio,
A thra'r Gogarth ger Llandudno,
Perchir pob cymeriad crwn.

O! fy mrawd mae'n anhawdd tewi,
Uwch dystawrwydd bedd fel hyn,
Mae'r distawrwydd yn fy llenwi
Gyda rhyw hyawdledd syn,
Fe'm cynhyrfir i dy ddilyn
Eto fel y gwnaethum gynt,
Draws y Gogarth roti choryn,
Yn mhelydrau haul dysgleirwyn,
Pan y canem bill ac emyn,—
Ond rhaid atal hyn o hynt.

Rhaid i'm ymson mwy mewn adgof,
Am dy fywyd, mawr ci fri,
Egwyddorion nad a'n anghof,
Gynt gymhellaist arnaf fi;
Dyma'r rhai a'th ddaliodd dithau,
Ac a'th gadwodd yn ddigryn,
Ar dir brenhin dychryniadau,
Yn y dyfroedd mawr a'r tonau,"
Wrth wynebu'r bythol bethau
Haeddiant lawn Calfaria fryn.

Rhoist lawenydd i'th gyfeillion,
Ac i'th ddwy anwyliaid trist,
Wrth dy wel'd pan yn yr afon
Yn nghymdeithas Iesu Grist;
Gorfoleddus oedd dy brofiad,
Nodau conewest calon lân,
Tawel oedd dy ymadawiad—
Llawn o obaith, ffydd, a chariad,
Ac yn ngolwg bryn croesawiad,
Troes pob galar iti'n gân.

Ffarwel bellach frawd anwylaf,
Rhaid i'm droi oddiwrth dy fedd,
Cwsg nes cano'r udgorn olaf,
Ti enillaist haeddol hedd;
Mae dy ysbryd wedi esgyn
I fwynhau'r dragwyddol ran,
Diane wnaethost ar bob gelyn,
Chwareu bellach ar y delyn,
Ninnau wrth dy draed sy'n dilyn,
Deuwn atat yn y man.


Llanrwst. D. S. THOMAS (Glan Pair).

HUGHES & SON, WREXHAM

Nodiadau[golygu]

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.