Er mai cwbwl groes i natur

Oddi ar Wicidestun
gan Ann Griffiths
Er mai cwbwl groes i natur
Yw fy llwybyr yn y byd,
Ei deithio a wnaf, a hynny'n dawel,
Yng ngwerthfawr wedd dy wyneb-pryd;
Wrth godi'r groes ei chyfri'n goron,
Mewn gorthrymderau llawen fyw;
Ffordd yn uniawn, er mor ddyrys,
I ddinas gyfaneddol yw.


Ffordd a'i henw yn "Rhyfeddol",
Hen, a heb heneiddio, yw;
Ffordd heb ddechrau, eto'n newydd,
Ffordd yn gwneud y meirw'n fyw;
Ffordd i ennill ei thrafaelwyr,
Ffordd yn Briod, Ffordd yn Ben,
Ffordd gysegrwyd, af ar hyd-ddi
I orffwys ynddi draw i'r llen.


Ffordd na chenfydd llygad barcut
Er ei bod fel hanner dydd,
Ffordd ddisathar anweledig
I bawb ond perchenogion ffydd;
Ffordd i gyfiawnhau'r annuwiol,
Ffordd i godi'r meirw'n fyw,
Ffordd gyfreithlon i droseddwyr
I hedd a ffafor gyda Duw.


Ffordd a drefnwyd cyn bod amser
I'w hamlygu wrth angen-rhaid
Mewn addewid gynt yn Eden
Pan gyhoeddwyd Had y Wraig;
Dyma seiliau'r ail gyfamod,
Dyma gyngor Tri yn Un,
Dyma'r gwin sy'n abal llonni,
Llonni calon Duw a dyn.

Tarddiadau[golygu]