Er mynd i lawr dros dro i'r pridd

Oddi ar Wicidestun

Mae Er mynd i lawr dros dro i'r pridd yn emyn gan Dr George Lewis DD (1763 – 1822).


Er mynd i lawr dros dro i'r pridd
Daw'r corph i'r lan, o'r bedd ryw ddydd,
Daw llu fel gwlith o groth y wawr
Yn nydd y farn, o lwch y llawr


Daw cyrph y Saint, i'r lan o'r bedd
Yn nydd y farn, yn hardd eu gwedd
Mewn nerth yn bur, fel corph mab Duw
A cher ei fron dros byth cant fyw,


Yn nydd y farn hi fydd yn drist
Ar bawb a fydd heb ran yng Nghrist
Trwm fydd eu baich, mawr fydd eu poen
Heb le i ffoi rhag llid yr Oen.