Eryr Pengwern
Gwedd
- Eryr Pengwern penngarn llwyt heno
- aruchel y atleis
- eidic am gic a gereis.
- Eryr Pengwern penngarn llwyt heno
- aruchel y euan
- eidic am gic a Kynndylan.
- Eryr Pengwern penngarn llwyt heno
- aruchel y adaf
- eidic am gic a garaf.
- Eryr Pengwern penngarn galwawt heno
- ar waet gwyr gwylawt
- ry gewlir Trenn tref difawt.
- Eryr Pengwern pell gelwit heno
- ar waet gwyr gwelit
- ry gewlir Trenn tref lethrit.