F'Ewythr Tomos: cân ddyri
← | F'Ewythr Tomos: cân ddyri gan Ebenezer Thomas (Eben Fardd) |
→ |
"F'EWYTHR TOMOS."
CAN DDYRI.
AR làn gorllewin Cymru fâd,
Ymrolia llain o for;
A gelwir ef yn mapiau'r wlad,
Yn Siannel rhyw Sant Sior.
Tu draw i hwn mae'r Ynys Werdd,
Neu'r Werddon hardd ei gwedd,
Lle trig y Gwyddel, a'r lle cerdd,
A dyna fan ei fedd.
Tuhwnt i lanau'r Werddon hardd,
Mae cefnfor mawr dros ben,
A'i dònau 'n treiglo 'n ddiwahardd,
Lle machlud haul y nen;
Ei enw yw'r "Atlantic" mawr,
A’r tir lle tyr ei dòn
Yw tir Americ,-eang lawr,
Sy 'n fyd ei hunan, bron.
Cyfandir dirfawr yw o faint,
A'i hyd o dde i ogledd;
Rhai parthau ydynt fawr eu braint,
A rhai 'n drigfanau trawsedd;
Y brif wladwriaeth fwya'i bri,
Yw y Taleithiau Unol,
Gweriniaeth gadarn ydyw hi
O ran cyfundeb gwladol
Ei hymffrost penaf yn y byd,
Yw rhyddid a'i ragorion
Er hyn rhaid dweyd, "Ei gwrth i gyd,
Yw byw ar chwys caethweision!"
Os darllen hyn o gân a wnewch,
Chwi synwch ar y 'stori;
Yn destyn-rhyw ddau gaethwas gewch,
Sef F'EWYTHR TOM a HARRI.
Yn Kentuck, mewn rhyw randir bras
O ddaear fawr Amerig,
Yr oedd un Shelby yn ei blâs,
Yn byw yn ŵr boneddig;
Ei foneddiges dirion oedd,"
O duedd wir rinweddol;
A'i henw da yn gu ar g'oedd,
Yn swnio'n elusenol.
Yr oedd eu stât yn helaeth iawn,
Yn diroedd eang ffrwythlon,
A choed, a llenyrch, a thŷ llawn,
A da, a chyfoeth ddigon;
Yn mysg y "da," 'r oedd lliaws mawr
O gaethion duon Affrig,
Heb deimlo 'u cadwyn prin yn awr,
Dan feistr a meistres ddiddig.
Ond damwain oedd eu bod un pryd,
Heb deimlo 'r gefyn llidiog;
Un pen i lawr, neu dro ar fyd,
Yn nhŷ y gwr cyfoethog,
A'u chwalsai gyda'r pedwar gwynt,
I Dophet o le diffaeth,
I gael eu llethu ar eu hynt,
Yn uswydd gan gaethwasaeth!
Ac felly 'n wir y bu 'r waith hon,
Ar ddau neu dri o'r caethion,
Oedd gyda Shelby oll mor lon,
Fe droes y rhod yn union;
Daeth Haley heibio gyda'i gais,
Masnachwr caeth drueiniaid;
Gorfododd Shelby drwy ei drais,
I werthu Tom ddiniwaid.
A Harri bach, ryw blentyn clŵs,
Oedd siriol wrth y pared,
Yn chwareu 'n wirion tua'r drws,
Heb adwaen gŵg caethiwed;
Fe'i gwerthwyd yntau gyda Thom
I'r caethfasnachydd Haley;
—Elisa, 'i fam, â chalon drom,
Ddychrynai am ei Harri.
Eslia gawsai ddygiad da,
A'r priod oedd hi'n ddewis;
Gwr ieuanc, yntau, o ddawn da,
A'i enw oedd George Harris.
Ond "da" oedd hwnw, er ei ddawn,
Nid "dyn," ond "da," i'w feddu,
Yn ol y siarad cas a gawn,
Gan rai sy'n caethfasnachu.
A ffrwyth y lân briodas hon,
Oedd Harri bach, deallwch;
A'i werthu gafodd oddiar fron
Ei anwyl fam, ystyriwch.
Ond gormod peth oedd peth fel hyn,
I 'Lisa ddal heb ochain;
Hi gipiodd Harri o'i gwsg syn,
I ddianc yn y plygain.
A phan ddaeth Haley yno 'n ol,
I gyrchu Tom a Harri;
'R oedd Harri bach ymhell yn nghol
Ei fam, yn ffoi o ddifri';
Hi aeth yn derfysg trwy holl dŷ
A thyddyn poblog Shelby,
A hwyliwyd rhyw ddau gaethwas du,
I'w hela gyda Haley.
Y ddau benodwyd i'r gwaith hir,
A elwid Sam ac Andy;
Hen walch oedd Sam, ac Andy 'n wir,
Oedd lawn o bob direidi.
Yn rhywfodd deallasai 'r ddau,
Mai 'wyllys pur eu meistres,
Oedd i Elisa gael mwynhau
Pob mantais at ei neges.
Ar adeg gymhwys ymlaen nawn,
Fe ffrwynwyd y ceffylau;
Ac ebol Haley wnaed yn iawn,
A phob rhyw gêr o'r gorau;
Ond beth wnaeth Sam yn ddystaw bach,
Ond rhoi tan gyfrwy Haley
Ryw gneuen ffawydd, yn bur iach,
'Pan nad oedd neb yn sylwi.
O barlwr glân Shelby daeth Haley 'n llawn dyn,
Gan ddwrdio'r ddau gaethwas yn wynias ei wŷn;
I fyny 'n ddiaros i'w gyfrwy âg ef,
Ond gyda'i fod yno mor groch oedd ei lef!
Y gneuen ysbigog dan bwysau ei goes,
A frathodd i ystlys yr ebol mewn loes,
Nes gwneyd iddo brancio, a neidio gan iâs,
A thaflu ei farchog ar glwt o dir glâs!
A rhedodd Sam ac Andy,
Ar frys i go'gio 'i godi,
Gan ado bawb ei farch ei hun,
I wylied y dyn Haley.
Ond pobpeth i ddyryswch aeth,
Fe wylltiodd y ceffylau;
Ni fu erioed ddim aflwydd gwaeth,
Carlament hyd y caeau,
A Sam ac Andy ar eu hol,
Gan waeddi "we!'" a llocio;
A chynta' delent i gwr dol,
Ffug-geisio 'u dal a'u rhusio.
Ar ol gwneyd felly rwystrau fyrdd,
I oedi helynt Haley;
A rhoddi i Elisa ffordd,
I ddianc gyda 'i Harri;
Cychwynai 'r tri ymlaen i'w taith,
I'w dala a'i diblantio,
Tra brysiai hithau 'r holl ffordd faith,
A'i hawydd am Ohio.
Yn min yr afon dacw 'r tri,
Yn dilyn ar ei sodlau;
A hithau'n gwawchio 'n nghŵr y lli,
A Harri yn ei breichiau!
Ond beth a wnaeth, o safn y llew,
Ond hedeg dros y gamlas,
Gan ddisgyn ar ryw blymen rew,
Cyn edrych dim o'i chwmpas.
Ar lam a naid, ymlaen â hi,
Hyd ddrylliog rew yr afon,
Gan groesi llydan wely 'r lli,
A Harri wrth ei dwyfron.
Ac wedi llithro a chwympo 'n chwith,
A briwio 'i thraed a gwaedu;
Hi aeth o'u cyrhaedd fel rhyw rith,
A Haley 'i hun yn synu.
Ac ar ol siomi yr hen was,
Am Harri bach a 'Lisa;
Beth wnaeth ond llogi rhyw weilch câs,
I'w dilyn ac i'w dala;
A throi yn ol ei hun fel blaidd,
At annedd dawel Shelby;
I'sglyfio Tom o fysg y praidd,
I'w ddryllio 'n ddidosturi.
Dyn mawr oedd Tom, a chadarn iawn,
A lluniaidd o liw gloewddu;
A Christion oedd, o dduwiol ddawn,
A gonest i'w ryfeddu ;
Preswyliai mewn rhyw gaban tlws,
Yn ymyl neuadd Shelby;
A gardd bur ddel o flaen ei ddrws,
A gwraig a phlant yn gwmni.
Ei wraig, Modryb Cloe,
Oedd pen coges Shelby,
Heb ail iddi 'n unlle
Am rostio a berwi;
Ac arlwy danteithion
Dewisol a melus,
A pharotoi digon
O bob rhyw fwyd blasus.
A Thom oedd yn flaenor
Yn mysg ei gyd-gaethion;
Yn medru rhoi cynghor,
Ac arwain y moddion;
A thrwy ei onestrwydd
A'i dymher ddiniwaid,
Ennillai serchogrwydd
Cyd-gaethion a meistriaid.
"Mas'r George" (chwedyl yntau)
Sef mab ieuanc Shelby,
Oedd hoff iawn o'i eiriau,
Ei fwth, a'i gwrdd gweddi;
Ond ni thycia hoffion
I ddim "Da symudol,"
P'run bynag ai eidion
Ai rhyw berson dynol.
Pan oedd yr adeg yn nesau,
I F'Ewythr Tom fyn'd ymaith,
A Modryb Clöe bron llesgau
Wrth golli ei chydymaith;
A Meistres Shelby 'n canu 'n iach
I'w chaethwas yn y caban;
Pwy ddaeth i fewn i'r annedd fach,
Ond Haley gas ei hunan.
I fewn âg ef gan gicio'r ddôr,
A ffrystio Tom o'i letty;
Heb feddwl fawr pa faint o fôr
O alar, foddai 'r teulu ;
A Thom, â'i goffor ar ei gefn,
Gyfeiriodd tua 'r wagen,
Gan ufudd blygu gyda'r drefn,
Heb dd'wedyd gair yn amgen.
Dacw 'r wagen yn olwyno,
Gyda Thom i'r pellder draw;
Clöe'n colli golwg arno,
A'i dau blentyn yn ei llaw!
Tom yn colli 'i olwg, yntau,
Ar ei hen gynnefin gynt;
Gwraig, a phlant, a chysylltiadau,
Oll yn chwalfa gyda'r gwynt.
O! gaethwasaeth melldigedig!
Y fath anrhaith a wnei di,
Ar deimladau archolledig,
Ac ar bob rhyw ddynol fri;
Mae dy ddeddfau gŵyrdraws, aflan,
Oll yn warth i deulu dyn;
Oll yn groes i ddeddfau anian,
Oll yn peri gwae a gwŷn.
Ond awn rhagom eto i ddilyn
F'Ewythr Tomos, druan gŵr;
Sydd â'i ddwylo'n gaeth mewn gefyn,
Eto 'n dawel a distŵr.
Hyd i Washington cyrhaedda,
Lle caiff lety yn y jail;
Ffair caethweision gedwir yma,
Iddi Haley ä'n ddigel.
Dwg oddi yno gaethion, teulu
Rwygwyd oddiwrth fam neu dad;
A'u teimladau eto 'n gwaedu,
Mewn cadwynau yn y bad;
Ond tra 'n hwylio ar yr afon,
Gwerthai Haley un o'r "da;"
I ryw gyd-fordeithiwr creulon,
Ydoedd yn egniol gna'.
Baban oedd; a'i fam brynasid,
Heb yn wybod iddi 'i hun;
Celwydd wrthi ddywedasid,
Dichell wnaed mewn lliw a llun;
Yn y bad, gwnai'r caethfasnachydd
Gynnyg ar y baban teg;
Gwerthai Haley 'r" Eiddo" newydd—
Natur deimlai 'r briw a'r breg.
Er mwyn gochel cri 'r gwahanu,
Rhwng y fam a'i phlentyn bach;
Cipiwyd ef tra 'r oedd yn cysgu
Rhwng rhyw goffrau 'n gu ac iach;
Troisai 'r fam ei chefn am funud,
I ysbio am ei gŵr,
Oedd yn aros yn mysg caethglud
Louisville, ar fin y dŵr.
Brysiai 'n ol i wylio 'i phlentyn,
Nid oedd yno ond ei le!
Troes yn wallgof am funudyn,—
Soniodd Tom am nawdd y ne';
Ond ni chym'rodd hi ddim sylw,
Trwy ei henaid—cleddyf aeth ;
Ganol nos, chwennychodd farw,
Ac i'r llanw neidio wnaeth.
Wel dyma lwybrau trais,
Diferant o waed dynol;
Budr-elw a hunan-gais,
Ddinystriant deimlad moesol;
Ac os yw trais yn bod,
Ar ddull rhyw ddiawl-gyfundraeth
Mae'n debyg mai ei rod,
Yw tywyll gylch caethwasaeth.
Ond er mor falch a ffrom,
Yw tymher dost caethfeistri,
Yr oedd ffyddlondeb Tom
Yn ennill peth ar Haley;
Ca'dd rodio hyd y bwrdd,
A'i draed yn rhydd o'r cyffion;
A chyda'r sawl wnai gwrdd,
Ca'i siarad am gysuron.
Yn mysg y bad-gwmpeini,
Ar frig mawreddus don,
A llanw'r Mississippi,
Fe safai ger ei fron,
Un dynai fwy o'i sylw
Na neb o fewn y bad;
Sef Efa ieuanc, hoew,
Yn llaw St. Clare, ei thad.
A F'Ewythr Tom 'r un ffunud,
A dynai sylw Efa;
Edrychai arno 'n astud,
Oddi acw ac oddi yma ;
O le i le, yn anwyl,
Hi wibiai fel aderyn,
Pan na b'ai Tom yn dysgwyl,
Hi wenai'n gu gyferbyn.
A thyfodd cydnabyddiaeth,
Nodedig rhwng y ddau;
Yr oedd yn Tom blentyniaeth
A fedrai hi fwynhau;
Ac er mai merch foneddig
Oedd Efa, 'n gwisgo 'i gwyn;
Tosturiai yn garedig
Wrth gaethwas du fel hyn.
Gan nad oedd Efa 'n fanwl,
I gadw 'n llaw ei thad;
Ond chwyfio fel gwyn gwmwl,
O ben i ben i'r bad;
Hi gwympodd ar ryw adeg,
I'r llanw mawr a'r lli;
Ond pwy aeth yn ddiattreg,
Ond Tom i'w hachub hi.
Pan oeddynt yn dynesu,
At Orleans yn y bad;
'R oedd Efa bach yn crefu
O hyd yn nghlust ei thad ;-
A welai 'n dda dosturio,
I brynu F'Ewythr Tom;
Fel y ca'i hi gysuro,
Ei druan galon drom.
St. Clare, o'i serch at Efa,
A'i duedd at F'erth Tom;
Gyfarchai Haley 'n 'smala,
Mewn siarad pur ddi siom;
A phrynodd ganddo'r "Eiddo,
Sef, person Tom, a’i nerth,
I Efa 'n anrheg gryno,
Heb gwyno talu 'r gwerth.
Yn awr yn Orleans Newydd
Tiriasant gyda hyn;
A'r palas mawr ysplenydd
A wnelai Tom yn syn;
Ond hwn oedd cartref Efa,
A Thom oedd iddi 'n was,
I'w chanlyn draw ac yma,
O gylch y gorwych blâs.
Ca'dd amser dedwydd yma,
A'i grefydd oedd mor gron,
Na cha'i St. Clare nac Efa,
Un amser fwlch yn hon;
Darllenai Efa 'r Beibl,
A Thom a'i hyfai ef;
Siaradai 'r ddau yn symyl
Am bethau da y nef.
Un od oedd Efa, o angelaidd ryw,
O barch i Grist, hi barchai bob dyn byw;
Dyledus anrhydeddai dad a mam,
Gresynai wel'd y Negro yn cael cam:
Daeth Topsi fach, ddu, anfad, hurt, ddiles,
Fel cŵyr toddedig yn ei swynol wres,
Nes oedd yn rhwydd yn derbyn argraff dysg
Ophelia fanol, bellach yn eu mysg.
Ond Efa a glafychodd,
A Thom a ofnodd hyn,
Fe'i gwelai 'n curio rywfodd,
A'i gwedd fel rhosyn gwyn;
Siaradai 'r ddau yn rhyfedd,
A hyny braidd o hyd,
Am bethau o wir sylwedd
O fewn y nefol fyd.
Rhyw noswaith deuai 'r angel
I gyrchu Efa fry;
Ac wylai pawb yn uchel,
Daeth terfysg trwy y tŷ ;
Ond hi ehedodd ymaith,
O fraich, a thŷ ei thad,
I blith seraphiaid perffaith
Yr anweledig wlad.
Ryw yspaid wedi hyn,
St. Clare garuaidd, yntau,
Gyfarfu mewn modd syn,
A damwain droes yn angau;
Gorchuddiodd cwmwl du
Y plâs, a'r gaethglud druan;
A chaled iawn a fu
Eu tynged o hyn allan.
Holl gaethion tŷ St. Clare,
Anfonwyd i'r arwerthfa;
Mewn helynt pur aflêr,
Ac yn ei bedd 'r oedd Efa;
I'r brif farchnadle gaeth,
Fe 'u gyrwyd gydag eraill,
I aros cael lle gwaeth,
Ac ofer troi am gyfaill.
Yn fuan daeth yr awr
I'r gwerthwr ddechreu arni;
Tarawyd Tom i lawr
I'r anfad Simon Legree.
Yn un o saith neu wyth,
Fe 'i hyrddiwyd mewn cadwynau,
I'r cwch oedd dan ei lwyth,
Yn cychwyn o'r cyffiniau.
Hyd lif yr afon goch,
Y bad ddechreuai fyned,
A Legree 'n ffromi 'n ffroch
Wrth ddeiliaid ei gaethiwed.
Gorch'mynai i F'erth Tom
Ymddiosg o'i hardd ddiwyg,
A gwisgo llwydwisg lom,
I ddechreu ar ei ddirmyg.
A Thom yn ufudd iawn
A dynodd oddi am dano,
A'i wel'd yn awr a gawn
Yn fudr yr olwg arno;
Ond yn y newid gwisg
Fe gipiai i Feibl i'w ganlyn
Fel gan nad beth f'ai 'r plisg,
Y byddai hwnw 'n gnew'llyn.
Wedi iddynt deithio enyd
Ar lif ddwfr y cleidir coch;
Eu llwybr oedd trwy dir anhyfryd,
A'u garw fyd fel gyr o foch!
Cas anneddle Legree ffyrnig,
Gyrhaeddasant y prydnawn;
Rhyw hen balas adfeiliedig,
Eang oedd, a chandryll iawn.
Aed â Thom at ryw furddynod,
Lle lletyai 'r caethion trist;
Cytiau moelion a digysgod,"
Heb na mainc, na bwrdd, na chist;
Yno ceisiai yn bryderus
Silff i'w Feibl ar ryw fan ddellt;
Ond nid oedd trwy'r bwth truenus,
Ddim i'w gael ond cudyn gwellt.
Yn y fangre felldigedig.
Caled oedd y meistriaid gwaith;
Gan eu tasgu 'n ddirmygedig,
A gwneyd hyd eu dydd yn faith;
Tom, wrth wel'd rhai tan y gorthrwm,
Bron a syrthio'n llesg eu hun,
Daflai at eu dognau cotwm,
Weithiau, beth o'i ddogn ei hun.
Ac yn y llety llwyd,
Dyddanai'r gorthrymedig,
Wrth arlwy 'r tamaid bwyd,"
Neu orwedd yn lluddedig;
Gan son am gariad Crist,
At Negro tlawd, digysur;
A'i ddyoddefiadau trist
Er codi pen pechadur.
Bwriadai 'r brwnt Legree
Wneyd Tom yn ddyn tost,
I guro 'r diniwed o bared i bost;
A'i wisgo âg offer
Creulondeb a thrais,
I weini wrth reol elynol ei lais;
Ond ni fynai Tomos
Ymddangos yn ddyn,
Orthrymai yn ddiriaid,
Rai gweiniaid mewn gwŷn;
Gwell oedd ganddo farw
Na bwrw din bâr,
I wneyd cam â'r caethion,
Rai gwirion a gwâr;
A chan na wnai wrando
A gwyro i'w gais,
I rodio mewn camwedd,
A throsedd, a thrais,
Y cigydd gan Legree,
A'i eurodd fel cawr,
Fe 'i pwyodd mewn dirmyg
I lewyg ar lawr,
Lle bu am rai dyddiau,
A'i boenau 'n ddibaid,
Yn llawn o ddoluriau,
Ar loriau o laid.
Tra'r ydoedd Tom ar lawr,
A'i syniad wedi pylu,
Gwr ieuanc mewn brys mawr
Gyfeiriodd tua 'i lety;
Pwy oedd yr hoew lanc,
Ond Mas'r Shelby 'i hunan!
Ac er bod Tom ar dranc
Fe a'i hadnabu 'n fuan.
Y mwyn ŵr ieuanc hwn,
A ddaethai i'w adbrynu ;
A'i ddwyn yn ol yn grwn,
At Clöe, a'i fan deulu;
Ond rhy ddiweddar oedd ;
O! siomedigaeth chwerw!
Ni cha'dd ond rhoi ar g’oedd,—
Fod Tomos wedi marw.
Y llanc, o ieuanc oed,
Oedd dwymn o serch caredig;
Fe 'i claddodd dan frig coed,
Mewn mangre neillduedig;
A throes at dy ei fam,
I ddweyd wrth Clöe, druan,
Y modd y cawsai gam,
A'i buredd trwy y cyfan.
Trwy ei gladdu planodd hedyn,
Yn nwfn bridd Amerig fawr,
Dyfa 'n ebrwydd i ddwyn blodyn,
Berarogla dros ei llawr ;
A thrwy rin ei berarogledd,
Cenedl iach a ddaw ryw ddydd,
Dyr gaethwasaeth de a gogledd,
Ac i'r Negro 'i ryddid rhydd.
Pwy bynag sydd yn poeni
Ynghylch Elisa lwys;
Gwrandewch beth ddaeth o honi,
Mae hyny 'n bwnc o bwys:
Tir Canada gyrhaeddodd,
A'i Harri gyda hi,
A George, ei gwr, yr unmodd,
Yn rhyddion trodd y tri.
DINBYCH, ARGRAFFWYD GAN T. GEE.
Nodiadau
[golygu]Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.