Fe dorrodd y wawr: sancteiddier y dydd
Gwedd
← D oes eisiau'n bod, nac ofn, na chlais, na chlwy' | Fe dorrodd y wawr: sancteiddier y dydd gan William Nantlais Williams (Nantlais) |
Mae mwynder cnawd a byd yn myned heibio → |
235[1] Yr Atgyfodiad
10. 10. 11. 11.
1 FE dorrodd y wawr: sancteiddier y dydd,
Fe ddrylliwyd yr iau: daeth y Cadarn yn rhydd,
Fe gododd y Ceidwad, boed moliant i Dduw,
Fe goncrwyd marwolaeth, mae'r Iesu yn fyw.
2 Cyhoedder y gair, atseinier y sôn,
A thrawer y Salm soniarus ei thôn,
Dywedwch wrth Seion alarus a gwyw
Am sychu ei dagrau, mae'r Iesu yn fyw.
William Nantlais Williams (Nantlais)
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 235 Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930