Fy Mam (Ieuan Gwynedd)

Oddi ar Wicidestun

FY MAM

Ieuan Gwynedd

O'r Gymraes, Medi - Rhagfyr, 1850.

CALED ydyw calon, a rhewllyd ydyw mynwes y plentyn yr hwn a eill edrych ar fedd ei Fam yn ddigyffroad.

Anfynych iawn y mae un fam heb gyflawni miloedd o weithredoedd serchus, y rhai a deilyngant i'w henw gael Ei ddwfn gerfio ar lechau cnawdol y galon. Hanes y fam i raddau helaeth ydyw hanes y plentyn.

Yr oedd rhieni fy mam yn dlodion. Nid oedd ganddynt ddim i fyw arno ond llafur eu breichiau. Priodasant yn ieuanc, a bu iddynt lawer o blant. Y maent ill dau yn gorwedd yn agos i fedd Llywarch Hen, ym mynwent Llanfor, gerllaw y Bala, lle y ganwyd, y priodwyd hwynt, y buont fyw, ac y buont feirw. Hunant yn dawel gyda'u tadau.

Fy mam oedd eu cyntaf-anedig. Ganwyd hi Fawrth 18, 1773. Gwneid cymaint o groeso i'r dieithries fach ar y pryd ag a allai teulu y dyn tlawd caniatáu. Yr oedd Dafydd Zaccheus mor hoff o'i eneth fechan â phe buasai yn iarll neu ardalydd, ac nid llai oedd llawenydd ei wraig Gwen na phe y gwisgasai goron duges ar ei grudd. Ni roddodd Duw gyfoeth i'r holl hil ddynol, ond rhoddodd serch i bawb. Amser lled isel ar grefydd oedd dyddiau boreol fy mam. Yr oedd Dafydd Zaccheus yn Fethodist gwresog, ac yn ddyn da, arafaidd, a duwiol. Yr oedd ei wraig yn myned i'r Eglwys Wladol y pryd hwnnw, ac felly y parhaodd drwy ei bywyd. Felly yr oedd ei mam o'i blaen; ac nid oedd lle i ddisgwyl iddi ymadael heb 'deimlo nerthoedd y byd a ddaw,' gan eu bod yn byw dan nodded teulu y Rhiwlas, y rhai sydd wedi bod yn nodedig, er dyddiau Siarl II, am eu hymlyniad wrth Eglwys y Llywodraeth, a'u gwrthwynebiad i'r eglwys ysbrydol. Yn y fl. 1774, galwyd fy nhaid (tad cu, mewn iaith fwy mursennaidd) gyda y meiwyr lleol (local militia) i Ddolgellau. Beth a arweiniodd y gŵr da i wisgo y dillad cochion sydd anhysbys i mi. Tebyg mai ei dynnu a gafodd, a'i fod fel dyn tlawd yn rhwym o sefyll, gan nas gallai dalu i neb am sefyll yn ei le. Gwyddom, pa fodd bynnag, nad oedd ar delerau da ag arferion milwraidd. Er fod y meiwyr yn gorfod gwisgo dillad cochion, yr oeddynt dan yr angenrheidrwydd o wyn-lychu (to powder) eu gwallt, nes y byddai eu pennau yn berffaith wynion. Nid oedd y driniaeth hon yn cydweddu mewn un modd ag arferion a theimladau fy nhaid. Yr oedd y llwch yn disgyn i'w lygaid, a'i glustiau, a'i war, nes peri iddo deimlo yn dra anghysurus. Un diwrnod ym Mai, pan yn dra lluddedig ar farian Dolgellau, rhwbiai ychydig ar ei glust yn erbyn coler ei grys. Sylwodd un o'r swyddogion arno, a gwaharddodd ef; ond ymhen ychydig, achlysurodd llwch y gwallt iddo anghofio y gwaharddiad, yr hyn a enynnodd ddigofaint y swyddog; ac wrth ollwng y gatrawd o flaen y lle y saif neuadd bresennol y dref, trawodd ef ar ei gefn â'i ffon, nes cododd y cig oddi wrth yr esgyrn. Mewn helbulon fel hyn y treuliodd Dafydd Zaccheus, druan, ei fywyd milwraidd.

Un canol dydd, anturiodd gŵr dieithr o'r Deheudir gynnig pregethu ar y garreg feirch ar ganol yr heol. Cynhyrfodd hyn y werin yn ddychrynllyd, a bu gorfod i'r llefarwr gipio ei geffyl ar frys gwyllt, a gwneud y gorau o'i ffordd tua'r Bont-fawr; ond erbyn cyrraedd yno, yr oedd Eglwyswyr selog Dolgellau wedi cymryd meddiant o'r bont, gyda'r bwriad, mae yn debyg, o'i faeddu yn greulon, nes ei anfon drosti i ffrydiau Wnion. Yr oedd un o'r tylwyth a thryfer fawr yn ei law yn rhedeg ar ei ôl. Wrth weled y bont yn gaeëdig, nid oedd ganddo ond troi i'r cae lle y saif y neuadd, a nofio yr afon. Wrth weld fod llidiart caeëdig o'i flaen yr ochr arall, rhedai fy nhaid ei orau er ei agor ; ond cafwyd y blaen arno gan wraig eglwyswr y dryfer, yr hon, yn ei charedigrwydd a'i ffwdan, a gollodd ei modrwy aur, ac ni chafodd hi mwyach. Anfonodd fy nhaid y gŵr dieithr drwy Wtra y Llwyn, ac i fyny Rhiw Carreg Feurig, nes oedd o gyrraedd ei erlidwyr .

Nid oedd fy nhaid yn debyg o beidio adrodd pethau fel hyn i'w ferch fechan. A byddai yn eu hadrodd wrth fyned a dyfod ar foreau Saboth o Lanfor i'r Bala, a darfu iddi hithau eu cofio. Dechreuodd Ymneilltuaeth yn lled fore yn y Bala, a pherthynai i'r dref liaws o atgofion cynhyrfus y dyddiau gynt.

Nid oedd Wrecsam, lle y bu Walter Cradoc yn gweinidogaethu, yn bell iawn; a dichon iddo dalu ymweliad â'r lle. Beth bynnag am hynny, y mae traddodiad i Vavasor Powell bregethu yn ysgubor y Brynhynod, ym mhlwyf Llangower. Dywedir iddo ddechrau ei bregeth pan oedd yr haul yn tywynnu ar un ochr i'r ysgubor, ac na ddiweddodd nes oedd yn machludo ar yr ochr arall . .

Yn y cyfwng o 1740, pan yr ymwelodd Lewis Rees â'r Bala, hyd enedigaeth fy mam, yr oedd dyfodiad Methodistiaeth wedi gwneud cyfnewidiad mawr yn y dref. Yr oedd eu hachos wedi dyfod yn gryf, a'u dylanwad wedi sobri yr ardaloedd i raddau helaeth. Cyrchai fy mam yn llaw ei thad i wrando arnynt am flynyddoedd, ac nis galliaf roddi cyfrif manwl am yr hyn a'i harweiniodd i wrando ar yr Annibynwyr. Byddai ar achlysuron yn dilyn ei nain i'r Eglwys; ond nid da y cytunai y ddwy am yr athrawiaeth. Arferai yr hen wraig ddywedyd, ar ôl dychwelyd o'r llan, 'Wel, moliant i Dduw, ni a gawsom bregeth dda; pe gwnaem yr hanner, byddai o'r gorau arnom.' 'Ie, fy nain,' meddai fy mam, 'pwy sydd i wneud yr hanner arall?' Byddai y gofyniad hwn bob amser yn difa amynedd a rhesymeg yr hen wraig; ac os rhoddid un ateb iddo, gweinyddid ef drwy fonclust lled hawdd ei deimlo, er nad mor hawdd ei oddef. Peth digon naturiol i blentyn craffus oedd holi pwy oedd i wneud yr hanner yr oedd fy hen nain yn ei osod o'r neilltu mor ddiddefod yn wastadol. A pheth digon dryslyd i gyneddfau plentynnaidd oedd derbyn cernod cil-dwrn i esbonio gofyniad mor naturiol â phwysig.

Nid oedd dim neilltuol yn yr addysg gartrefol a dderbyniodd fy mam oddi wrth fy nain. Nis gallai yr hen wraig ddarllen; ond yr oedd yn ofalus i argraffu ar feddyliau y plant y pwys o fod yn eirwir a gonest. Gwreiddiodd y ddwy egwyddor hon ym meddwl fy mam; a chyfansoddent ran bwysig o'i haddysg hithau i'w phlant. Dull fy nain o bregethu gonestrwydd oedd pwyso ar feddwl y rhai ieuainc eu dyletswydd o' adael pob peth fel y caent ef.'... Yr oedd fy nhaid yn rhagori ar ei briod; ei addysg ef a weithiodd ar feddwl fy mam. Llawenhâi yr hen ŵr wrth weled ei bod yn derbyn ei eiriau; ac hyd derfyn ei oes, teimlai yn serchus iawn at ei 'eneth fawr,' fel yr arferai ei galw.

Ni bu addysg ddyddiol fy mam ond byr iawn. Holl swm ei hysgolheigiaeth dyddiol fu deuddeg diwrnod i ddysgu Cymraeg. Ei hathro oedd yr hybarch bererin Dafydd Cadwaladr. Digon tebyg na buasai Dafydd Cadwaladr yn un o etholedigion athrawol yr 'oes olau hon.' Ond byddai Dafydd yn gweddïo yn daer fore a hwyr yn yr ysgol, a soniai 'mam am ei weddïau ymhen trigain mlynedd ar ôl eu hoffrymu. Yr oedd yr hen ŵr yn cadw gwialen fawr yn yr ysgol; nid at gefnau y plant, ond at gefnau y meinciau y byddid yn ei chymhwyso, wrth i Dafydd Cadwaladr redeg ar eu holau drwy yr addoldy er mwyn iddynt gael ymdwymo. Dyma ddull yr hen ŵr o ymarfer corfforol.

Wedi pymthegnos o ysgol, chwilio am le oedd gorchwyl nesaf geneth henaf y gŵr tlawd. Bu fy mam mewn amryw. Mewn rhai cafodd driniaeth ddigon caled; ond yn eraill, yr oedd pethau ychydig yn well. Bychan oedd yr ennill ym mhob man. Er prawf o hyn, gallwn nodi nas gallasai dalu am Feibl ar unwaith. Cafodd goel gan Mr. Charles am dri mis, a thalodd amdano ar yr amser penodedig. Beibl wythblyg ydoedd; ac argraffasid ef yn y fl. 1769. Dydd pwysig yn y Bala, oedd y dydd y derbyniodd Mr Charles y sypyn hwnnw o Feiblau. Yr oedd ei dŷ yn llawn o ymgeiswyr amdanynt. Gwnaeth gymwynas fawr â fy mam, ac eraill, drwy adael iddi dalu am y Beibl bob yn ychydig. Parchai y Beibl yn fawr. Gwisgodd ef mewn brethyn coch. Ac o'r pryd hwnnw hyd yr awr hon, y 'Beibl Coch' ydyw yr enw a ddygir ganddo. Byddai ysgrifennu hanes defnyddioldeb y 'Beibl Coch' yn orchwyl anodd. Darllenodd fy mam ef ugeiniau o weithiau drosodd. Trodd lawer ar y cyfeiriadau ar waelod y ddalen, y rhai oeddynt yr unig esboniad yn y tŷ. Darllenodd ef fore a hwyr. Darllenodd ef yng Nghymru a Lloegr; a chyn iddi ddysgu Saesneg efe oedd ei 'chysegr bychan' yn y wlad olaf. Darllenodd ef i feddyg ieuanc afradlon ar ei wely angau, nes tawelu i raddau ei gydwybod anesmwyth. Darllenodd ef gannoedd o weithiau yn y weddi deuluaidd. Darllenodd ef i'w phlant. Darllenodd ef wrth eu ceryddu, ac wrth eu cysuro, ac wrth eu cynghori. Darllenodd ef drwy ei bywyd, a darllenodd ef hyd angau. Yn y 'Beibl Coch' y dysgodd fy nhad ffordd yr Arglwydd yn fanylach. Ohono ef y dysgodd ei dau blentyn y Salm gyntaf, y deg gorchymyn, ac 'Yn y dechreuad yr oedd y Gair,' &c. Efe oedd brenin y llyfrau; ac o'i flaen ef yr ymgrymai y plant gyda gwylder a pharchedig ofn, canys gweinyddid cosb drom am yr amarch lleiaf i'r 'Beibl Coch.' Mae fy nhad, a'i ddau fab, yn parchu y 'Beibl Coch' yn fawr eto; a diau os byw fydd y plant ar ôl yr hen ŵr, na welant un peth a edy o'i ôl mor werthfawr â'r 'Beibl Coch.' Rhy anodd i'r un ohonom fynegi ein rhwymedigaethau i'r 'Beibl Coch.' Beth bynnag ydym i'n teuluoedd, i'r byd, ac i'r eglwys, yr ydym felly i raddau helaeth drwy 'Beibl Coch,' fy mam, a charedigrwydd tyner galon Thomas Charles o'r Bala. Nid annhebyg na bydd rhan helaeth o dragwyddoldeb y gŵr da hwn yn cael ei gymryd i fyny mewn gwrando am ddefnyddioldeb y Beiblau a ledaenodd. Y mae rhoddwr y Beibl yn fynych, fel offeryn, yn rhoddwr bywyd a thragwyddoldeb.

Pan oedd fy mam o gylch un mlwydd ar bymtheg oed, torrodd Diwygiad grymus allan yn y Bala. Fel y crybwyllwyd yn flaenorol, yr oedd yn gwrando gyda'r Annibynwyr y pryd hwn. Gweinidog y Bala ar yr adeg hon oedd y Parch. William Thomas, gynt o Hanover. Yr oedd Mr. Thomas yn ŵr dysgedig, ac yn gyfieithydd amryw lyfrau i'r iaith Gymreig. Dichon ei fod bron yn rhy ryddfrydig i'w amser, ac ni bu ei weinidogaeth yn rhydd oddi wrth ofidiau chwerwon. Gallwn feddwl nad oedd arferion a theimladau Mr. Thomas yn ei gyfaddasu yn neilltuol at y fath ddiwygiadau ag a gymerent le yn yr amseroedd hynny.

Ymysg plant y Diwygiad, rhifid fy mam. Teimlodd nerthoedd y byd a ddaw. Ymaflodd 'rhywbeth' rhyfeddol ynddi. Llanwodd hi ag anobaith, nes y penderfynodd roddi terfyn ar ei hoedi. Aeth allan gyda'r bwriad o daflu ei hun i'r afon ryw noswaith. Nid oedd, yn ei thyb hi, ddim trugaredd iddi gyda Duw, a phenderfynai beidio dangos dim iddi ei hun. Yn yr artaith meddwl hwn, gorweddodd rhwng dwy garreg fawr ar ganol cae cyn cyrraedd ceulan yr afon. Bu yn y sefyllfa hon am hir amser, nes y clywodd, neu y tybiodd glywed rhyw lais yn dwedyd wrthi, 'Deffro di yr hwn wyt yn cysgu : a chyfod oddi wrth y meirw, a Christ a oleua i ti.' Ysgafnhaodd hyn ei baich yn uniongyrchol. Aeth tua'r tŷ dan wylo yn drwm, ac ymdrechai ymguddio dan y bwrdd nes i'r teulu fyned i orffwys. Cafodd foddlonrwydd i'w meddwl yn raddol; ac yn Nhachwedd, 1790, derbyniwyd hi yn aelod eglwysig gan Mr. Thomas.

Os gofynnir i mi roddi cyfrif am y teimladau, a ddisgrifir uchod, rhwydd gyfaddefaf nas gallaf wneud dim o'r fath. Dywedwyd wrthyf am ormod o bersonau a deimlodd yn gyffelyb i mi anturio gwadu eu bodolaeth; ond gan na theimlais ddim yn gyffelyb fy hunan, nis gallaf eu hesbonio. Nis gallaf farnu eu bod yn angenrheidiol er gwir dröedigaeth ; eto, gall y cyfryw dröedigaeth fod yn gydfynedol a hwy. Dichon mai amgylchiadau yr oes ydyw yr allwedd a'u hegyr yn orau ger ein bron. Yr oedd yr oes honno yn anwybodus ac yn ofergoelus. Mae pobl anwybodus ac ofergoelus bob amser yn hawdd eu dychrynu. Ofn ydyw un o'r cynyrfiadau grymusaf yn eu mynwes. Os deffroir ofn, deffroir lleng o deimladau dychrynllyd ar ei ôI. Yn y dyddiau hynny, nid 'cân cariad, hyfrydlais un yn canu yn dda,' oedd y weinidogaeth. Mwg, mellt, a tharanau ydoedd. Ni byddai un oedfa yn arddeledig heb 'sain utgorn, a llef geiriau.' Pregeth sychlyd oedd honno pryd na byddai 'y mynydd yn llosgi gan dân,' ac yn crynu yn ofnadwy iawn. Hawdd rhoddi cyfrif am hyn. Cafodd Howell Harris, a Rowlands, a'u cydoeswyr, y bobl yn ymdroi mewn anwybodaeth echrys, ac annuwioldeb dychrynllyd. Rhybuddiasant hwy i ffoi am eu heinioes tua Soar, cyn y byddai dinas distryw yn wenfflam. Atebodd hyn y diben. Yna drechodd olynwyr y gŵr da ddwyn y gwaith ymlaen drwy yr un moddion. Gwisgasant yr un arfogaeth. Dechreuasant daranu, pob un yn ôl y gallu a roddwyd iddo. Dygai gwir dieithr y Deheubarth eu taranau gyda hwy, ac os methent daranu, nid uchel y bernid amdanynt. Bron na wrthododd y Methodistiaid Mr. Charles am nad oedd ganddo daranau. Ond yr oedd ganddo bethau gwell. Yr oedd ganddo ddysg yn ei ben, gras yn ei galon, a Beiblau ar goel i blant tlodion. Mae oes y taranau, a chenhedlaeth y taranwyr wedi myned; eithr y mae enaid ac ysbryd Charles ymhob Ysgol Sabbathol trwy Gymru, ac o fewn braidd bob bwthyn trwy y byd lle y ceir Beibl ynddo. Gweinidogaeth cariad yw yr Efengyl, ac y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn. Ni effeithia y weinidogaeth daranllyd ond ar oes anwybodus ac ofergoelus, ofnau yr hon sydd yn hawdd eu cynhyrfu. Llawer gwell i fy mam fu y 'Beibl Coch,' na'r dyddiau a'r nosweithiau a dreuliodd ar derfynau anobaith. Dymunwn siarad yn barchus am ei theimladau, ond ni ddymunwn annog neb i ewyllysio na disgwyl eu cyffelyb. Achubwyd un lleidr ar y groes, ond nid oes croes i achub pob lleidr.

Wedi ymuno â'r eglwys, dygodd fawr sêl dros foddion gras. Ystyriai hwy yn rhy bwysig i'w hesgeuluso, ac yn rhy werthfawr i'w colli. Fel morwyn, yr oedd anawsterau ar ei ffordd, ond symudai lawer ohonynt ymaith drwy lafur ac ymdrech ychwanegol. Pan mewn gwasanaeth gydag amaethwr, bu am dymor yn rheoli wyth o fuchod, ac yn cerdded wyth milltir erbyn oedfa hanner awr wedi naw yn y bore. Ymhen blynyddoedd ar ôl hynny, teithiai tua saith milltir erbyn y cyfarfod deg o'r gloch, a byddai yno yn brydlon. Ni bydd llawer o lewyrch ar grefydd proffeswyr esgeulus o foddion gras.

Ni wneir digon o ystyriaeth o sefyllfa gweision a morwynion yn gyffredin. Rhy fynych y gwneir caethion ymarferol ohonynt, ac y cedwir hwynt mewn anwybodaeth. o bump yn y bore hyd ddeg yn yr hwyr, llafur yw eu rhan. Ni chaniateir iddynt amser i ddarllen, nac i gyrraedd un gangen o wybodaeth. Anfynych y gofala y penteulu am ddysgu ffordd yr Arglwydd iddynt yn fanylach. Trinnir hwy fel creaduriaid israddol o ran cyrff a meddyliau. Bu fy mam yn ffodus iawn mewn dau le. Derbyniodd garedigrwydd, tynerwch, a hyfforddiad. Bu yn ddiolchgar am y caredigrwydd, a gwnaeth ddefnydd o'r addysg. Y lleoedd hyn oeddynt Coed-y-foel, gyda'r hynaws a'r duwiol Dorothy Jones ; ac yn y Bala, gyda Mr. Evan Evans, Llawfeddyg, tad y diweddar Barch. William Evans o Stockport. Yr oedd Dorothy Jones yn wir 'fam yn Israel.' Yr oedd yn hynaws, siriol, a llariaidd gyda'i gweinidogion, a thrinir ei holl amgylchiadau yn fedrus a phwyllgar. Dwywaith yn y dydd yr ymneilltuai i'w hystafell ddirgel, a bore a hwyr y gofalai na byddai allor Duw yn ei theulu heb arogldarth. Bu farw y wraig rinweddol hon yn y fl. 1816, ar ôl proffes anrhydeddus o bymtheng mlynedd ar hugain o barhad. Gŵr dysgedig, gwybodus, a synhwyrol oedd Mr. Evan Evans. Ei dŷ oedd noddfa cyfeilion ryddid gwladol yn y Bala, yn amser chwyldroad Ffrainc. Yr oedd yn lle manteisiol a dymunol i ddynes ieuanc drigo ynddo.

Wedi gadael ei bro enedigol, treuliodd fy mam rai blynyddoedd yn ardal Wrecsam a Chaerllion. Cafodd gyfle drwy hyn i weled ychydig mwy o'r byd nag sydd yn digwydd i ran llawer o ferched Cymru. Ymhen amser dychwelodd yn ôl i'w gwlad, ac at ei phobi ei hun. Yn fuan ar ôl hynny, symudodd i Ddolgellau, lle y treuliodd amryw flynyddoedd yng ngwasanaeth Francis Roberts, Ysw., a'i briod, yr hon oedd yn un o hiliogaeth yr hybarch Edmwnd Prys, Archddiacon Meirionydd...

Symudodd fy mam o Ddolgellau i'r Hengwrt uchaf, yn ymyl Rhyd-y-main, ac yno y priododd. Fy nhad oedd fab hynaf dau hen bererin a fuont yn aelodau yn Rhyd-y-main am flynyddoedd meithion, John a Margaret Evans o'r Esgeiriau. Gorffennodd ef ei yrfa yn 1827, a hithau yn 1845, ill dau mewn oedran teg. Buont ddiwyd gyda phethau y bywyd hwn, a buont yn ffyddlon yn eu hymwneud â moddion gras. Anfynych, tra y gallodd ymsymud, er fod ei golwg wedi pallu, y byddai fy nain yn absennol o Ryd-y-main; a phan oedd ei chnawd a'i chalon yn pallu, hoffus iawn oedd ganddi gael cyfarfod gweddi yn y tŷ. Tangnefedd i'w llwch yn ôl eu gwybodaeth buont ffyddlon. Nid oedd fy nhad yn grefyddwr pan y priododd. Oherwydd hyn, ymneilltuodd fy mam o gymundeb yr eglwys. Anhyall i mi ddywedyd i ba ddiben, oblegid dychwelodd yn ei hol yn ddi-oed. Y prawf cadarnaf ei bod wedi 'ieuo yn anghymharus' oedd fod yn agos i bymtheng mlynedd o wahaniaeth oedran rhyngddi hi a fy nhad. Yr oedd hyn yn wall mewn barn, yn enwedig gan fod yr henaint o'i thu hi. Pa mor ddedwydd bynnag y dichon amgylchiadau teuluaidd fod, teimlir hyn i ryw raddau. Y mae undeb teimlad a chydymdrech yn ddiffygiol. Gwywa un tra y mae y llall yng nghryfder ei nerth, a'i fronnau yn llawn llaeth. Ond yr wyf yn methu â deall gwerth adferiad eglwysig o drosedd ag y parheir ynddo, ac nas gellir edifarhau amdano. Pe y gellid edifarhau, byddai rheswm mewn adferiad o dan ddisgyblaeth. Ar yr un pryd, caniateir i mi grybwyll fy mod yn credu yn gadarn nad oes nemor rwystr mwy effeithiol i rym a llwyddiant crefydd na phriodasau rhwng y credadun a'r anghredadun. Nis gall crefydd deuluaidd flaguro, ac nis gall y penteulu rodio ynghyd i gynteddoedd Arglwydd y lluoedd. Bydolir meddwl y proffesedig y rhan fynychaf. Yn anffodus i ewyllys dyn, gwirionedd perffaith ydyw nas gellir 'gwasanaethu dau Arglwydd.' Arbedwyd i fy mam y trallodion hyn drwy i fy nhad ymuno â chrefydd yn fuan...

Ni bu amgylchiadau teuluaidd fy mam ond siomedig a thrallodus. Bu farw tri o bump o blant. Buont feirw yn eu hieuenctid. Ganwyd yr hynaf yn Nolserau, yn 1810, ac wedi ei fedyddio gan Mr. Williams o'r Wern, efe a ehedodd

Ar edyn borau adeg
I aros fry, o'r oes freg. Ieuan Awst

Mae yr ail eto yn fyw, yr hwn oedd gobaith a dymuniad llygaid fy mam. Y trydydd baban, fel y cyntaf, a hunodd ar ddydd ei enedigaeth, a

Rhoed y bach ym nghrud y bedd,
Yn Beuno, oer-wlyb annedd

Yn yr un modd, dihangodd y pedwerydd baban, merch fechan, o freichiau gobaith. Huna hi a'i brawd hynaf yn Nolgellau, tra y gorwedd yr ail yn Llanycil.

Dofydd o'i allu dwyfawl - o'r gweryd,
Oer gaerau daearawl,
A'u cyfyd i fyd o fawl,
Heb aeth, i fywyd bythawl.

Ganwyd y pumed plentyn yn 1820, ac er fod ei einioes o hynny hyd y pryd hwn yn esboniad ymarferol ar y geiriau, 'Wedi ein bwrw i lawr, ond heb ein llwyr ddifetha,' y mae yn aros hyd yr awron, gan rodio mewn petruster rhwng bywyd ac angau, a beunyddiol ddisgwyl am awr ei ymadawiad. Y mae yn teimlo ei hun fel carcharor, i'r hwn y rhoddir cennad i rodio yn y llannerch las o flaen drws y carchar. Nis gall fyned ymhellach, ac ni wŷr pa mor fuan y rhaid iddo roddi i fyny yr ychydig a fwynheir ganddo.

Yr oedd gofal fy mam am ei phlant yn fawr, a'i serch tuag atynt yn wresog. Yr oedd ei hawydd am iddynt fod yn 'blant da' yn cael ei ddangos yn ddyddiol, drwy y gwaharddiadau llymaf rhag ymgymysgu a 'phlant drwg.' Mynych atelid hwy drwy hyn o chwareaethau diniwed ieuenctid. Ond nid oedd ei thriniaeth ohonynt bob amser yn ddoeth. Ceryddai yn llym, a hynny mewn nwyd, ac nid mewn cariad, y rhan fynychaf. Yr oedd hyn yn gadael argraff o greulonder ar y meddwl, yn enwedig pan y byddai priodoldeb y gosb braidd yn amheus, fel y digwyddai fod ambell dro. Ond yr oedd hi yn meddwl yn gryf fod euro ei phlentyn â gwialen yn foddion lled debyg o gadw ei enaid rhag uffern. Dichon fod y ddiwinyddiaeth gosbol hon yn gywir, ond nid llawer o gredinwyr ynddi sydd ymysg plant ieuainc. Beth bynnag am hynny, nis gellir beio yn ormodol yr arferiad o guro plant am ddamweiniau, ac am weithredoedd ag nas gallant fod yn hysbys o'u natur a'u tueddiadau.

Os llithra troed plentyn ar y llawr nes iddo drwy hynny dorri llestr gwerthfawr, creulondeb barbaraidd yw ei gernodio am hynny, neu ei ysgwyd nes y byddo ei asennau yn siglo. Gwyddai fy mam pa fodd i geryddu yn ysbryd yr ysgrythur, a gwnelai hynny yn achlysurol. Sancteiddiai y cerydd drwy air Duw a gweddi.

Yr oedd fy mam yn fawr am i'w phlant gael addysg. Dysgasant ddarllen yn ieuanc, a gwneid hwy yn fwy hylithr yn hyn drwy ei bod yn eu gosod i ddarllen iddi pan fyddai seibiant. Yr oedd gan ei mab henaf gof da, a thrysorodd lawer o'r Beibl yn ei gof. Yr oedd wedi ei fedyddio gan Dr. Lewis, a mawr oedd hyder fy mam y buasai yn troi allan yn bregethwr. Gall llawer ddiystyru teimlad fel hyn mewn dynes dlawd, ac edrych arno fel balchder. Ond beth sydd yn fwy ardderchog na gweled mam yn aberthu anwylyd ei henaid ar allor Duw? Mae yn olygfa filfil mwy gogoneddus na phe y dymunai iddo goron ymerodraeth ehangaf y ddaear. Ond yn hyn siomwyd fy mam. Ni throdd ei mab hynaf allan yn bregethwr; a phan yn y diwedd y bwriodd ei goelbren ymysg y Wesleaid, bu yr hen fam am gryn amser mewn cryn amheuaeth am ddiogelwch ei enaid. Credai, beth bynnag, rai blynyddoedd cyn ei marw, ei fod yn 'fachgen duwiol,' er mai prin y gallai faddau y Wesleyaeth. Mor bell y mae rhagfarn ac anwybodaeth yn arwain pobl dda o'u lle! Pe y gwrandawai Crist ar yr ysbryd hwn, byddai cawodydd tân ar y ddaear yn llawer amlach na chawodydd glaw. 'Nid ydynt yn dilyn gyda ni' ; nac ydynt, y mae yn wir, ond y maent yn dilyn yr Athro, ac y mae iddynt, o ganlyniad, Arweinydd gwell na 'NI.'

Nid lleoedd nodedig am addysg ac ysbryd darllen oedd Rhyd-y-main a'r Brithdir, bump a deg ar hugain o flynyddoedd yn ôl. Nid oedd ysgolion dyddiol ond afreolaidd a diwerth. Yr oedd y dyn a dderbyniai Seren Gomer neu y Dysgedydd, yn oracl; ac os meddai rhywun fwy o lyfrau na'r Beibl, yr Holwyddoreg, llyfr Hymnau heb ei rwymo, sypyn o hen Almanaciau wedi eu gwnïo ynghyd, a nifer o gerddi yn yr un gadwraeth, yr oedd ganddo 'lawer iawn o lyfrau.' Yr oedd presenoldeb 'Corph Duwinyddiaeth' Dr. Lewis agos yn rhoddi cwbl urddau i dŷ.

Yr oedd tŷ fy rhieni yn llawn o'r tlodi llenyddol hwn. Cynhwysai dri Beibl, Testament Newydd, un llyfr Hymnau, Taith y Pererin, Llyfr y Tri Aderyn, Ffynhonnau yr Iechydwriaeth, (gan Mr. Jones, Pwllheli), dau rifyn o Drysorfa Mr. Charles, amryw bregethau, diwedd neu ddechrau y rhai oedd ar goll yn gyffredin, ac ychydig o fân-draethodau eraill. Ychwanegwyd at y rhai hyn rywbryd gan fy mrawd yr Ysgerbwd Arminaidd, a'r Bardd Cwsc. Yn eu dyddiau plentynnaidd, yr oedd y mab hynaf yn bysgotwr campus, a'r ieuengaf bob amser yn hoffi llyfr. Fel y bu orau y ffawd, yr oedd teulu caredig yn byw yn yr Esgair-wen, lle y derbynnid Seren Gomer, a lle yr oedd amryw lyfrau gwerthfawr eraill, megis Esboniad Dr. Gill, a Hanes Prydain Fawr gan Titus Lewis. Drwy gaal benthyg y rhai hyn, a'r Dysgedydd o leoedd eraill, yr oedd, yn gyffredin, ddigon o waith i'r darllenydd ieuanc. Daeth hefyd ar draws y Flodeugerdd, Gorchestion Beirdd Môn, Drych y Prif Oesoedd, a Helyntion y Byd a'r Amseroedd. Darllenodd y rhan fwyaf o'r llyfrau hyn cyn bod yn naw mlwydd oed; ac oni buasai hwy, buasai yn amddifad o'r ychydig wybodaeth gyffredinol a gasglodd yn ei ddyddiau boreol. Rhoddai fy mam bob cefnogaeth i'r awydd hwn am ddarllen.

Ond o hyn allan, yr oedd tymestl i gyfodi. Barnai fy nhad y dylasai y bachgen erbyn hyn ddechrau meddwl am ennill ei fara. Nid oedd ei syniadau ef am ddarllen mor uchel â'r eiddo fy mam. Gwyddai hi mal trwy ddarllen y cesglid gwybodaeth, ac mai trwy wybodaeth yr oedd dyrchafiad; a gwyddai fy nhad mai ' trwy chwys dy wyneb y bwytei fara.' Ymrwymaf nad oedd dyn yn y wlad yn deall nac yn cofio yr ysgrythur hon yn well. Yr oedd perthnasau, a phobl dda ddiwyd y Brithdir hefyd, yn hollol o'r un farn; a byddai fy mam, ambell dro, bron o'r un syniadau, wrth gofio, mae yn debyg, mai 'yn amlder cynghorwyr y mae diogelwch.' Ond, ar y cyfan, gwnâi ymdrechion canmoladwy i hyfforddi ac i geisio llyfrau i'r 'bachgen bach.' Parhau a wnaeth yntau i ddarllen; a phan y dechreuodd feddwl y gallasai brydyddu, barnodd fy nhad fod diwedd amdano, ac y dygai ei benwynni i'r bedd mewn tristwch. Credai nad oedd yn ei aros, os dilynai y fath fywyd segurllyd, ond y carchar a'r crocbren. Ond wedi hir dymhestloedd, wedi parhau ohonynt am bump neu chwe blynedd, canodd yr efrydydd ieuanc yn iach i dŷ ei dad; ac o radd i radd, argyhoeddwyd yr hen ŵr fod ei fab wedi gweithio iddo ei hun gymeriad gwerth ei gadw; ac o hynny allan, ei gyngor ymadawol bob amser fyddai, 'Edrych atat dy hun: mae dy gymeriad ar dy law dy hun, ac os na ofeli di amdano, ni wna neb arall.' Cyngor da, llawn o'r doethineb puraf; a mynych y rhoddwyd ef wrth sefyll ar y ffordd, neu ael y mynydd, neu eistedd ar y dorlan, yn adeg yr ymadawiad. Ond y fam, wedi y cyfan, oedd wedi ffurfio y meddwl. Oni buasai hi, ni allasai y meddwl ieuanc llai na suddo. Caeësid ef mewn cylch bychan tywyll, a buasai yn alltud bythol i bleserau melysion gwybodaeth, ac yn anwybodus am ehangder cyfoeth llenyddiaeth. Ysgrifennir hyn er addysg i famau Cymru. O flaen pob peth, bydded iddynt roddi addysg i'w plant. Gallant eu gadael heb arian, ac heb gyfoeth; ond hwy a agorant y nefoedd a'r ddaear o'u blaen drwy hyn. Bydded iddynt ychwanegu, fel y gwnaeth fy mam, esiampl dda, a gofal am eu moesoldeb, a'u mynych gyflwyno i ofal y nef, a'u 'plant a gyfodant ac a'u galwant yn ddedwydd.'

Ni wenodd y byd ar fy rhieni. Er dechrau yn dda, eto, drwy golledion anffodus ar anifeiliaid, a gorfod gwerthu eu heiddo ar symudiad annisgwyliadwy o dyddyn, pan yr oedd prisiau uchel y rhyfel Ewropeaidd wedi gostwng, ni flagurasant fel y lawryf gwyrdd. Er mai 'llaw y diwyd a gyfoethoga,' eto, 'nid yw y post aur yn tyfu wrth ddrws pawb.' Trefnodd Rhagluniaeth iddynt fywyd isel dros y chwe blynedd ar hugain diweddaf o einioes fy mam, mewn tyddyn bychan, lle y porthwyd hwy â digonedd o fara, er na chawsant nemor o ddanteithion bywyd. Cawsant ran y cyffredin o lafurwyr a mân-amaethwyr Cymru. Ni buont heb y fuwch yn y beudy, yr ychydig ddefaid yn y Cae Porfa, na'r pistyll gloyw grisialaidd o flaen y drws, drwy yr amser. Yn henaint a gwendid fy mam, dangoswyd iddi fawr garedigrwydd a chydymdeimlad gan amryw gyfeillion a chymdogion. Hedd, dedwyddwch, a llwyddiant iddynt hwy a'r eiddynt oll.

Fel y crybwyllwyd yn barod, ymunodd fy mam a chrefydd pan yn ieuanc, ac ymlynodd wrthi hyd ei hen ddyddiau. Bu yn addurn ei hieuenctid, ac yn goron ei phenllwydni. Yr oedd ei sêl dros yr achos bob amser yn wresog. Ei barnau athrawiaethol oeddynt uchel-Galfinaidd. Tebyg i'r syniadau hyn gael eu mabwysiadu ganddi yn amser ymraniad eglwysig a gymerodd le yn y Bala, yn fuan ar ôl iddi ymuno â'r eglwys yno. Nis gallaf llai nag ystyried rhwygiadau eglwysig yn felltithion crefyddwyr. Crebachant eneidiau dynion, fel na allant oddef dim, na theimlo dim, ond eu siboleth gredöol eu hunain. Llanwant y meddwl a rhagfarn, a thueddant braidd bob creadur bychan i gymryd arno fod agoriadau pyrth paradwys yn ei law. Darllenir llyfr arfaeth mor llithrig â'r llyfr corn. Y mae dirgelion etholedigaeth ar bennau y bysedd. Deallir cyfamod y brynedigaeth yn well na thaflen pen-Ilanw y môr yn yr Almanac. Nid oes dim dirgelwch mewn prynedigaeth neilltuol. Nid yw esbonio cyfiawnhad yn fwy anhawdd na phlethu gwden llidiart. Mae parhad mewn gras yn athrawiaeth mor hawdd ei deall ag yw teimlo oerfel ar wyliau Nadolig. Nid oes lle i ddadl amdanynt. Ynfyd yw y dyn a'u hamheuo. Nid yw yn iach yn y ffydd: mae y gwahanglwyf arno. A'r un modd mae gyda y blaid wahanol. Mae eu hathrawiaethau hwythau fel yr haul, a'r haul fel ei Greawdwr, ac am hynny yn berffaith; a dyna ben ar y mater.

Anodd i mi ofidio yn rhy ddwys, er mai ofer yw, i rwygiad eglwys Llanuwchllyn niweidio ysbryd crefyddol fy marn. Trwy hyn treuliais flynyddoedd boreaf fy mywyd yn sŵn brwydrau diwinyddol, ac yn cael ar ddeall fod bron holl weinidogion Gogledd Cymru wedi cyfeiliorni yn ddirfawr. Enciliodd fy rhieni o gymundeb yr eglwys yn y Brithdir, gan ystyried eu hunain yn aelodau gyda'r 'Hen Bobl,' er mai anfynych yr aent i Lanuwchllyn oherwydd pellter y ffordd. Cynhyrchodd hyn oerfelgarwch crefyddol. Esgeuluswyd moddion gras i raddau, ac aeth y gwrandawiad yn afreolaidd. Eto, cynhelid yr addoliad teuluaidd i fyny gyda mesur dymunol o reoleidd-dra. Wedi i holl helyntion cyfreithiol Llanuwchllyn fyned drosodd, ac i'r cyfeillion yno gad prawf fod cyfeiliornad mewn buchedd yn llawer mwy dinistriol yn ei effeithiau na chyfeiliornad tybiedig mewn barn, ymunodd fy rhieni drachefn â'r eglwys yn y Brithdir; ond treuliasant fel hyn flynyddoedd gwerthfawr i ennill dim - ond chwerwder ysbryd. Bendith i fyd ac eglwys fuasai bod heb glywed erioed am derfysg nodedig Llanuwchllyn.

Yr oedd fy mam yn gallu darllen yn dda, a thrwy hynny dygai holl rannau yr addoliad teuluaidd ymlaen yn rhwydd. Yr oedd ei galluoedd i weddïo yn rhagori ar y cyffredinolrwydd o feibion a merched. Ei bai pennaf mewn gweddï oedd meithder. Clywais ambell weddi deuluaidd dri chwarter awn o hyd. Yr oedd hyn bedwar gwaith rhy hir, beth bynnag; ac o'm rhan fy hun, ni ofalwn ddywedyd, ei bod yn fwy na hynny. Y mae meithder mor anferthol yn lladd y sylw, ac yn creu mwy o ddymuniad am yr Amen nag am y fendith ofynedig. Arferai fy mam hefyd weddïo yn gyhoeddus. Pan oedd yn byw yn Tŷ'n-y-graig, yn agos i'r Arennig, nid oedd ond ychydig foddion gras mewn cyrraedd, heblaw y cyfarfodydd gweddi a gynhelid yn gylchynol yn nhai gwasgaredig y gymdogaeth. Nid oedd nifer y gweddïwyr ond ychydig, ac amryw o'r ychydig hynny yn lled anfedrus. Parodd hyn i'w gwasanaeth fod yn dra derbyniol a chymeradwy. I fy meddwl i, y mae crefydd yn y mynyddoedd fel yn gwisgo Cymru a gogoniant mwy ysblennydd na phe bai y mynyddoedd yn oreuredig ag aur coeth. Dacw hwy, ychydig lafurwyr ac amaethwyr tlodion, ar ôl hirddydd o waith blinderus, yn gadael eu cartrefi ym mrig yr hwyr, ac yn myned dros ffosydd, ac ar hyd y sarn drwy gorsydd, a thros bontbrennau cregynllyd, am ddwy neu dair milltir yn yr hwyr i addoli Duw yn rhai o'u tai bychain. Mae y bwthyn wedi ei ysgubo yn drefnus, y tan yn loywach nag arferol, a channwyll wêr yn barod yn rhyw ran neu gilydd o'r tŷ. Mae y Beibl a'r Llyfr Hymnau ar y bwrdd; a chyn hir, darllenir y bennod, rhoddir allan yr emyn, cenir y mawl, ac aberthir y weddi. Nid yw yr addolwyr yn gyfarwydd a llawer o donau, ac ni ddefnyddiant amrywiaethau mawr o fesurau. Mae 'Tal-y-bont' a'r 'Hen Ganfed' ymysg y rhai mwyaf arferol. A phan wrandewir arnynt yn canu:

Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau,
Nid oes neb a ddeil fy mhen, &c.

neu,

Mae 'nghyfeillion wedi myned,
Draw yn lluoedd o fy mlaen, &c.

Mynych y gellir meddwl eu bod wedi cael benthyg Sŵn telynau'r saint, neu eu bod am ennyd wedi eu cipio i fyny hyd ym Mharadwys. Ac wedi i'r ban olaf gael ei ddyblu a'i dreblu yn yr emyn, hwy a droant bawb i'w ffordd ei hun, weithiau yn nhywyllwch y ddunos, ac weithiau is pelydr y lloer. Ni ymdrafferthant hwy i esbonio deddfau anian pan ruo y daran uwchben, ond gwyddant y 'gwna efe daranu â'i lais yn rhyfedd.' Gall y fellten wau o'u hamgylch heb iddynt feddwl am ddim ond yr Hwn sydd yn ' gwneuthur ffordd i fellt y taranau.' Pan siglo y corwynt eu bythod, meddyliant am yr Hwn sydd yn 'marchog ar ei adenydd.' A phan ddisgynna y curlaw yn bistylloedd llifeiriol, eithaf nod eu hathroniaeth ydyw meddwl am law mawr ei nerth ef.' Gwened y neb a ewyllysio ar y bywyd hwn, y mae yn fywyd dedwydd. Bywyd ydyw sydd yn gloywi cyneddfau, ac yn llonni ysbryd ei feddianwyr. Hebddo buasai gwlad fynyddig fel Cymru yn druenus. Ni buasai pobi Blaen-y-cwm, na theulu Tŷ'n mynydd, nemor uwchlaw barbariaid. Ond y mae Cymru, gyda'i Beibl, ei Salmau, Hymnau, ac odlau ysbrydol, yn meddu ar elfennau gwir wareiddiad ac enwogrwydd, er ei holl anfanteision a'i diffygion. Hir, hir, mor hir ag einioes y ddaear, y blaguro crefydd ym mynyddoedd Cymru.

Saith milltir oedd taith Sabothol fy rhieni yn yr amser hwn. Ac eto, byddent yn yr Hen Gapel yn brydlon i glywed Dr. Lewis yn rhoddi allan ei hoff emyn,

Unwaith yn rhagor, f'enaid prudd,
Y gweli'r dydd yn olau
Unwaith eto cei foliant roi,
I'r hwn sy'n troi'r wybrennau.

Ac ar ôl gwrando y bregeth olau ysgrythurol a ddilynai, ymlwybrent drachefn eu saith milltir yn ôl. Ond yr oedd Dr. Lewis yn werth cerdded pedair milltir ar ddeg i'w wrando. Y mae ef, yn ei Esboniad, a'i 'Ddrych Ysgrythurol,' yn llefaru eto ; ac ni wn am un Esboniad na Chorff o Ddiwinyddiaeth yn y Gymraeg a ragora arnynt. Y maent mor gynhwysfawr ag ysgrythurol, nes y gellir yn briodol eu galw yn 'afalau aur mewn gemwaith arian.' Yr oedd golygiadau Dr. Lewis yn Galfinaidd : ac felly, yr oedd fy mam, fel yr awgrymwyd yn barod, yn hoff o'r un syniadau. Rhoddodd yr 'Athrawiaeth Newydd,' ' Sefyllfa Prawf,' a 'Gallu Dyn,' lawer o hoen iddi. Ond drwy y cyfan, ymarweddai ei henaid ar Iawn mawr y Gwaredwr. 'Gwaed yr Oen' oedd testun ei chân yn nhŷ ei phererindod. Goddefodd lawer o gystudd ym mlynyddoedd olaf ei hoes, ond ei hiaith arferol oedd,

A rhaid i gystudd garw'r gro's,
Ddilyn fy ysbryd ddydd a nos?
Os raid, gwna fi yn foddlon iawn.

Ac fel hyn, o don i don, ac o nerth i nerth, hi deithiodd ddyffryn adfyd, hyd nos Lun, Ion. 29, 1849, pan y safodd peiriant natur, ac y gadawodd yr enaid yr hen gartref y trigasai ynddo am 76 o flynyddoedd ond ychydig o wythnosau. Bu farw yn dawel ac yn orfoleddus, meddant imi. Ond ni chefais yr hyfrydwch trymllyd o ganu yn iach iddi i. Yn y munudau yr oedd hi yn gadael pob gofid, yr oeddwn i a chyfaill iddi yn gwneud rhyw drefniadau bychain er ei chysur dyfodol; ond nid oedd eu heisiau. Yr oedd erbyn hyn yn etifedd pob peth. Ar y Mercher canlynol, ar ôl dychwelyd o'r swyddfa yn siriolach nag arferol, y peth cyntaf a dderbyniwn oedd llythyr caredig fy hen athro hybarch, Mr. Jones o Ddolgellau, yn fy hysbysu nad oedd i mi fam mwyach. Nid oedd gennyf bellach ond ymdrechu talu y gymwynas olaf iddi; a thrwy gymorth ager a cherbydau, dygwyd fi mewn ugain awn i ben taith o wythnos ychydig flynyddoedd yn ôl. Yr oedd fy nhad yn weddw, eto, yn hyfrydach ganddo fy ngweled, efallai, nag erioed o'r blaen. Am fy mam, yr oedd hi yn ddistaw iawn, -y waith gyntaf i mi ei gweled yn ddistaw ar fy ymweliad â chartref. Ond nid oedd yn awr na gair na deigryn fel y bu. Yr oedd y prydweddau yn lled debyg fel arferol, ond eu bod yn oerion lawn. Nid oedd llinell o'r wynepryd o'i le, ond y bennaf - bywyd. Ac y mae yn deimlad crynllyd, synllyd, a dychrynllyd i blentyn edrych ar yr hon a roddes fywyd iddo, heb fywyd ei hunan!

Ond y mae yn bryd dechrau yr wylnos. Mae y 'Beibl Coch' ar y bwrdd, a'r Llyfr Hymnau. Daw yr hen gymdogion i mewn o un i un nes oedd y ty yn llawn. Mae Mr. Jones o Ddolgellau wedi dyfod, a'r addoliad wedi dechrau. Bûm mewn llawer wylnos, gwelais blant yn wylo ar ôl rhieni, ond ni theimlais o'r blaen beth oedd wylnos mam. Ond yr oedd yr hen wynebau, yr hen acenion, yr hen donau yn cael effaith ryfedd arnaf. Teimlwn y gallaswn ganu gyda hwy, er fod fy llais ar bob adeg arall yn dra aflafar. Ond ymddangosai y cwbl imi yn sylwedd. Pan gyfeirid at yr Iorddonen, yr oedd fy mam wedi ei chroesi. Os sonnid am yr Archoffeiriad mawr, yr oedd wedi ei chyfarfod. Os dywedid am wynfyd yr oedd hi wedi ei gyrraedd. Yr oedd cystudd a galar wedi ffoi ymaith, a llawenydd tragwyddol wedi ei oddiweddyd. Hoff i mi oedd gwrando drachefn ar fy hen athro, yr hwn erys mwy na naw mlynedd ar hugain cyn hynny, a offrymasai drosof, ar ddydd fy ngenedigaeth, y weddi gyhoeddus gyntaf, pan y disgwyliai pawb o'm hamgylch i mi farw. Gyda diwedd y gwasanaeth, cyrhaeddodd fy mrawd o'i daith hirbell yntau. Blwyddyn a chwe mis, cyn y noswaith honno, ymadawem â'n gilydd ar lan Menai, heb dybied mai yn wylnos ein mam y cyfarfyddem nesaf. Ond dyna gyfnewidiadau amser! A daeth drannoeth, dydd angladd fy mam. Ymgasglai y cymdogion : elai hwn a'r llall i edrych y corff'; cymerid yr olygfa olaf; caeid yr arch ; darllenid a gweddïai William Richard (nu o weddiwyr gorau yr oes,) gyda'i holl ddwyster arferol, a chychwynnem i addoldy Rhyd-y-main, lle yr addolasai fy mam am lawer blwyddyn. Yno, pregethai cyfaill hoff i fy mam, Mr. Roberts o Lanuwchllyn; ac ar lan y bedd areithiai Mr. Jones. Araf ollyngem y gweddillion marwol i'r gwaelod, eneiniem hwynt â'n dagrau, a chodem ein llygaid tua chymylau y nef, o'r hwn le y disgwyliwn yr Arglwydd a'r Iachawdwr, Iesu Grist, i'w galw ato ei hun yn nydd yr ymweliad. Creulon ac anniwalladwy yw y bedd! o fewn dwy flynedd a thri mis, gorfododd fi hebrwng i'w fynwes blentyn, priod, a mam; ond rhyddheir ei holl garcharorion yn nydd datgload tiriogaeth angau. 'Os ydym yn credu farw Iesu a'i atgyfodi, felly hefyd y rhai a hunasant yn yr Iesu, a ddwg Duw hefyd gydag ef.' Yn yr hyder hwn y gadawem lan y breswylfa lonydd, ac y dychwelem i'r Tŷ-croes, yr hwnle nid oedd mwyach i adwaen fy mam. Yr oedd ei lle yn wag a'r llais yn ddistaw Gwawriasai bore anfarwoldeb ar ei henaid, a gorffwys ei chnawd mewn gobaith am atgyfodiad gwell. Y mae weithian wedi gorffwys blwyddyn ym mro llygredigaeth, a dichon yr erys yno eto fyrddiynau o flynyddoedd; ond gofala yr Hwn sydd yn gwylio ei llwch am i'r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth. ac i'r marwol hwn wisgo anfarwoldeb.'

Wedi hir fwynhad ei hoes - a gweled
Mai gwaeledd yw einioes
Hi, drwy ffydd, o'n daear ffoes.
Ar alwad Rhoddwr eiloes
Huna yn dy ddistaw wely,
Blinaist ar helbulon oed,
Uwch dy ben y can yr adar
Gerdd dy gwsg, o frigau'r coed;
Llithra ffrydiau Iddon heibio
Er dy suo yn dy hun;
Pery honno'n dawel ddedwydd,
Hyd foreuddydd Mab y Dyn.
Mwy ni swyna llais dy glustiau,
Nes cyhoedda utgorn nen
Alwad hyfryd i ail fywyd,
Gwynfyd na ddaw byth i ben;
Trwy fy nagrau gwelaf forau
Pan gyfodi heb un clwy';
Henffych forau yr ymweliad -
Ni bydd blin ysgariad mwy!